Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Y Diluw

Oddi ar Wicidestun
Gwalia fy ngwlad Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Ystorm ar y Bryniau
gan William Thomas (Islwyn)

Ystorm ar y Bryniau
Y Diluw Tân

Y Diluw

YMAFLA'R ddaeargryn yn echel y byd
A detyd, a chawraidd ysgydwad,
Graig-gloion y dyfnder i gyd ;
Ac nid oes un seren faidd edrych i lawr
Ar ddifrod y diluw, y Diluw Mawr.

Agorwyd llif-ddorau y nefoedd bryd hyn,
A milfil o reieidr ysgydwent y byd ;
A threuliai'r llifeirieint lechweddau y bryn,
Nes ydoedd o agwedd yn greigiau i gyd.

Ust! Glywch chwi y waedd sydd yn rhwygo y ne,
Gwaedd tyrfa aneirif ar ael Himaleh?
Distawodd y daran am ennyd, a'r aig
Am ennyd orffwysodd, a sychodd y graig ;
Hi sychodd am ennyd. Ah! Cododd y weilgi,
A chuddiwyd y graig a'r dyrfa oedd arni.

O ben y bryniau clywaf ru y bleiddiaid
Ynghymysg â'r ystorm, a llewod diriaid
Yn curo'u hochrau a'u cynffonnau enbyd
Nes adsain trwy orielau'r holl awyrfyd.

Clyw, drwst y tân-fynyddoedd yn y dyfnder,
Mae'r môr yn berwi i aruthrol bellder,
O'u hamgylch. Mae colofnau'r byd yn plygu,
A'r Ddaeargryn ei hun
Dan faich y Diluw 'n crynnu.

Rhag twrf y rheieidr ymbellha y nef,
A thry y lloer yn ddistaw yn ei rhod,
Dan ddal ei hanadl. Haul ni welir mwy.
Ac nid oes seren yn anturio i wydd
Y difrod maith. Ar uchelfannau'r nef
Ni chyfyd un ei lamp uwchben y drych.


Diflannodd y mynyddoedd mwy
Yr Wyddfa fann, a'r Andes hwy;
A chwyd y moroedd maith eu hyd
Ymhell dros uchelfannau'r byd.
Ah! Dyma ddiwedd, diwedd dyn,
A bedd y ddaear fawr ei hun.

Na! Mae'r addewid werthfawr gu
Yn iach a chyfan oddiar y lli;
Ar fannau'r Diluw Mawr
Yn iach anadla hi.
Gwel fel brycheuyn yn codi o'r gorwel pell,
Mae Arch trugaredd uwch y lli, a'i addewidion
gwell.
Ar feiddgar uchelderau'r dymesti gref
Esgynna Eglwys Dduw yn uwch i ganol nef.

Chwyth, Ddiluw, chwyth, nes crynno 'r nef o draw,
Fel pe bai 'r olaf ddydd,
A storm y Diluw Tân gerllaw;
A thraflwnc erch yf holl gymylau'r nen,
A bodda'r eryr ar ei fainc uwchben,
A galw dy lifeiriant i fannau'r wybren der,
A lleda dy lif ddorau hyd y ser ;
Clyw gan yr Eglwys ar y dymesti bell,
Mae Arch' trugaredd uwch y llif, a'r addewidion
gwell.


Nodiadau[golygu]