Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Pwy a ddengys

Oddi ar Wicidestun
Mae llwybr y storm Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Ystorm ar y Bryniau
gan William Thomas (Islwyn)

Ystorm ar y Bryniau
Gwalia fy ngwlad

PWY A DDENGYS

OND pwy a ddengys im eich beddau chwi,
"Fy nhadau? Y mae anghof ar eich llwch
Yn eistedd mewn distawrwydd. Braidd y gŵyr
Y byd am danoch, er i lawer oes,
Cenhedlaeth ar genhedlaeth, ymbruddhau,
Wrth ddisgyn i ddistawrwydd, weled draw
Eich baniar ar y bryniau yn ei rhwysg
A'u hymgyrchiadau'n ofer oll, a'u llu
Fel tonnau dymchweledig yn eu hol
Yn croesi 'r terfyn ar siomedig drefn,
A'r beilchion fryniau, fel o'r blaen,
Yn sefyll yn eu mawredd. Dygech chwi
Y faniar anibynnol oddiar
Holl ruthr a therfysgoedd rhyfel certh
Yn gyfan, difrycheulyd, a dihangol;
Y modd y dwg y Nef ei baniar ser
Goruwch y nos a'r dymhestl, pan y bo
Y daran yn ei gor-wylltineb am
Golofnau'r nefoedd yn ymdorchi draw.
Cysgodion eich mynyddoedd engyrth oent
Fel byd-amfuriau 'n taflu oddi draw
Eu rhithiau pell-rybuddiol.

Pa le, pa le, y mae ein holaf lyw?
Mae baniar anibyniaeth wedi gwywo
Wrth ddisgwyl am ei law. Ah! Dyna yw
A'u cangau pruddaidd wedi eu ham-ruddliwio.
Awenau mwynion Cymru, onid hwy
Sy'n griddfan o fy amgylch, fel pe bai
Gwawl olaf rhyddid wedi machlud mwy,
A gormes ar eu broydd fel nos yn cau.

Nodiadau[golygu]