Neidio i'r cynnwys

Gwaith yr Hen Ficer/Byrdra Oes

Oddi ar Wicidestun
Gweddi'r Eglwyswr Gwaith yr Hen Ficer

gan Rhys Prichard


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Cyngor i'r Claf

3.—"Byrr yw oes dyn."

FEL gwennol Job mae'n hoes yn llithro,
Fel rhosyn Dafydd mae hi'n gwywo,
Fel gyrfa Paul y mae'n diweddu,
Fel bwmbwl Iago mae'n diffoddi.

Fel canwyll gŵyr mae'n hoes yn treulio,
Fel llong dan hwyl mae'n myned heibio,
Fel post pan sawd mae'n pedwar-carnu,
Fel cysgod cwmwl mae'n diflannu.


Gwan yw'n tai, a chryf yw'n gelyn,
Byrr yw'n terem, siwr yw'n terfyn,
Ansertennol yw 'i ddyfodiad ;
Byddwn barod yn ei wyliad.


Nodiadau

[golygu]