Neidio i'r cynnwys

Gwaith yr Hen Ficer/Gweddi'r Eglwyswr

Oddi ar Wicidestun
Rhybudd i Gymru Gwaith yr Hen Ficer

gan Rhys Prichard


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Byrdra Oes

2.-Gweddi eglwyswr, wrth fyned i ymweled â'r
cleifion yn amser y chwarren.

Duw gwynn, gwel mor beryglus
Yw swydd dy was trafaelus,
Sydd yn twtan aea a haf,
At bob dyn claf gwrthnebus.

Nid oes na gwr na bachgen,
Bid claf o'r frech neu'r chwarren,
Neu ryw glefyd y fo gwaeth,
Nad wyf fi gaeth i'w olrhen.


Os gwres, os gwaew poethlyd,
Os chwys, os twymyn awchlyd,
F'orfydd myned uwch ei ben,
Bid claf o'r chwarren waedlyd.

A hyn sydd dra echrydus,
I galon egwan glwyfus,
Sydd heb bwer gantho ei hun
I wechlyd twymyn awchus.

Gan hynny, ar funig helpwr,
A'm Ceidwad a'm diffynnwr,
Sy'n rheoli'r rhain i gyd,
'Rwy'n crio'm mhryd am swcwr.

O Arglwydd mawr, ti elli
Fy nghadw'n iach, os mynni
Rhag yr heintiau hyn i gyd,
Er maint o'u bryd i'm llyncu.

Ac oni byddi helpwr,
I'm cadw rhag cyfyngdwr,
Nid oes le im ddianc mwy,
Ond ildio i nhwy fel gwannwr.

Gan hynny, Duw'r holl allu,
Os d'wyllys sy'n cenhadu,
Cadw fi dy waelaf was,
Rhag heintiau cas i'm cyrchu.

Tydi fy Nuw sy'n clwyfo,
Tydi sydd yn elio;
Tydi sy'n lladd ac yn bywhau,
Tydi y gai'n correcto.

Gan hynny, tynna droswyf
Dy aden, fel dihangwyf;
N'ad i glwyf neu glefyd cas,
Ymlynu a'th was daearol.

Duw, 'r hwn a gedwaist Aron,
Yn iach yng nghanol cleifion,
Cadw finne'n rasol rhag
Yr haint a'r plag echryslon.

Ti gedwaist Abednego,
Yng nghanol fflam, heb dwymno;
Cadw finne ynghanol plag,
Er Iesu, nad f'andwyo.

Ti gedwaist Ddaniel hefyd
O safn y llew newynllyd ;
Cadw finne, Arglwydd Dduw,
Rhag haint, i fyw mewn iechyd.

Ac felly mi'th folianna,
Mewn llann, a llys, a thyrfa;
Ac a roddaf, tra ynnwy chwyth,
It' ddiolch byth o'r mwya.

Fel Aron yn y gangell,
Fel Daniel yn y 'stafell;
Ac fel Dafydd, tra f'wyf byw,
Bendithiaf Dduw, fy nghastell.

Nodiadau

[golygu]