Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog/Cerdd LII
Gwedd
← Cerdd Cerdd LI | Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog gan Richard Griffith (Carneddog) |
Cerdd LIII → |
LII. Hunan yn dangos ei hunan.
O'r bachgen hyd yr henwr—mae Hunan
Am ei hynod gyflwr;
O'r mawreddaf, uchaf wr
Ceir hyd at y cardotwr.
—OWEN WILLIAMS.[1]
Nodiadau
[golygu]- ↑ Neu Owain Gwyrfai, y Waen Fawr. Bu farw Hydref 3ydd, 1874, oed 85 mlwydd. Awdwr " Geirlyfr Cymraeg o wybodaeth gyffredinol;" "Hanes y deg Erledigaeth dan Rhufain Baganaidd;" "Y Drysorfa Hynafiaethol," &c.