Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog/Cerdd LIII
Gwedd
← Cerdd Cerdd LII | Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog gan Richard Griffith (Carneddog) |
Cerdd LIV → |
LIII. Cwyn hen Faledwr ar auaf caled.
Byw ar driswllt, bron drysu—am wythnos,
A methu trafaelu,
Drudaniaeth yn dirdynu
I'm herbyn, er dychryn du.
—OWEN GRUFFYDD.[1]
Nodiadau
[golygu]- ↑ Neu Owain Meirion, Glanrhyd, Llanbrynmair. Bu farw Mehefin 22ain, 1868, oed 65 mlwydd. Huna yn Llanbrynmair, a cheir englyn o waith Mynyddog ar ei feddfaen.