Neidio i'r cynnwys

Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog/Cerdd XL

Oddi ar Wicidestun
Cerdd XXXIX Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog

gan Richard Griffith (Carneddog)

Cerdd XLI

XL. Cyngor i'r bardd ieuanc John Jones, Glan y Gors, rhag 'sbeitio y merched.

Ergydion i ryw Gadi[1] —a roddaist
O wreiddyn dy goegni;
Os cest awen, cais dewi
A lliwied merched i mi.

Holed dyn ei hun heno,—a gwylied
I'w galon ei dwyllo;
Mae natur, mi wn eto,
A dull ei chwant yn dwyll o'i cho'.
—JOHN THOMAS, Pentre'r Foelas.[2]


Nodiadau

[golygu]
  1. Methaf yn lân a tharo ar y gerdd hon i Cadi." Pwy a'i henfydd imi? Hefyd, ei gerdd i Wr Hafod Ifan?"
  2. Bu farw y 18fed o Fedi, 1818, ced 66 mlwydd (71 mlwydd medd rhai). Awdwr cynnwys "Eos Gwynedd."