Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog/Cerdd XLI
Gwedd
← Cerdd XL | Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog gan Richard Griffith (Carneddog) |
Cerdd XLII → |
XLI. A gerfiwyd ar gawg arian,—rhodd boneddigion sir Ddinbych i Syr Watkin Williams Wynn, ar ol brwydr Waterloo. Cyflwynwyd ef iddo yn Rhuthyn Mai 21ain, 1816. Pwysa y cawg 1,500 owns, gwerth 19s. yr owns—3 troedfedd a 2 fodfedd o uchder, wrth 2 droed—fedd a modfedd o drawsfesur. Deil 14 o alwyni.
Y Fail arian am filwrio—a roddwyd
I raddol fwyn Gymro,—
Syr Watkin, brigyn ein bro,
I'w gyfarch a'i hir gofio.
—JOHN JONES, Glan y Gors.[1]
Nodiadau
[golygu]- ↑ Bu farw Medi 21ain, 1821, oedran 52 mlwydd. "Prif faledwr Cymru," medd Elfed. Yr wyf yn casglu ei holl weithiau. Os y gwyr rhywun am gerdd, englyn, llythyr, &c., o'i eiddo byddwn ddiolchgar am gael copi. Dywed "Y Gwladgarwr" mai Bardd Nantglyn a'i gwnaeth, ond sicrha y gyfrol The Wynnstay and the Wynns" mai Glan Gors a'i piau.