Neidio i'r cynnwys

Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog/Cerdd XLII

Oddi ar Wicidestun
Cerdd XLI Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog

gan Richard Griffith (Carneddog)

Cerdd XLIII

XLII. Camp-Englynion, a wnaed yn fyr-fyfyr,wedi cinio ar ddydd Nadolig yn nhŷ John Thomas, Pentre'r Foelas, wrth ganfod y Wyddfa dan eira.

Oer yw'r eira ar Eryri,—o'i ryw
A'r awyr i rewi;
Oer yw'r îa ar riw'r ri,
A'r eira oer yw'r 'Ryri.
—JOHN THOMAS.

Oer, oer, yw'r rhew â'r eira—a yrrir,
Y 'Ryri a cera;
A'r awyr oer wir rewa,
Eira a rhew, —oer yw'r îa.
—THOMAS EDWARDS, Nant.[1]


Y 'Ryri yw'r awyr oera,—yr âr,
A'r oror wir arwa';
Arwr yr awr yw'r eira,
A'i ryw a ry'r rhew â'r ia.
—JONATHAN HUGHES, Pengwern.


Nodiadau

[golygu]
  1. Bu farw Ebrill 3ydd, 1810, oedran 72 mlwydd. Awdwr "Gardd Gerddi," &c.