Neidio i'r cynnwys

Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog/Cerdd XXXII

Oddi ar Wicidestun
Cerdd XXXI Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog

gan Richard Griffith (Carneddog)

XXXIII a XXXIV

XXXII. Cysegredigrwydd yr Eglwys.[1]

Anneddfawr sanctaidd noddfa,—gôr breiniol
Ger bron Duw a'i dyrfa;
Er dim na thyred yma
Y dyn, ond ar feddwl da.
—MATHEW OWEN, Llangar, Meirion.[2]


Nodiadau

[golygu]
  1. Y mae'r englyn hwn yn gerfiedig uwchben pyrth a drysau llu mawr o hen eglwysi ein gwlad, yn enwedig rhai Meirion,—sef Llan Frothen, eglwysi Cwmwd Ardudwy; Talyllyn; Machynlleth, &c. Mathew Owen luniodd yr englyn, ac nid Huw Morus na Goronwy Owen, fel yr honnir mewn rhai cylchgronau.
  2. Ceir ei waith yn "Carolau a Dyriau Duwiol," 1696, a "Blodeugerdd Cymru," 1759. Lluniodd gywydd marwnad dan gamp i'w eilun-ryfelwr, Syr John Owen o'r Clenennau.