Neidio i'r cynnwys

Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog/Cerdd XXXIII a XXXIV

Oddi ar Wicidestun
Cerdd XXXII Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog

gan Richard Griffith (Carneddog)

Cerdd XXXV a XXXVI

XXXIII. Cyngor i offeiriaid Cymru (yn 1767).

Gweithiwch, a dysgwch dasgau—o'r Beibl
I'r bobloedd, a salmau,
At Dduw, y rhowch weddiau
Am Ei bur râs i barhau.
—DAFYDD JONES, neu Dewi Fardd.[1]


XXXIV. Arall, i bob un o'r addolwyr.

Cais ffydd pur, ufudd parha,—eu synwyr,—
Cusana'r Meseia;
Câr y cariad cywira,
Pur Oen Duw, ein Prynwr da.
—DEWI FARDD, o Drefriw.


Nodiadau

[golygu]
  1. Tan yr Yw, Trefriw. Yn ei ogoniant o 1750 hyd 1780. Argraffydd a chyhoeddydd "Blodeugerdd Cymru," ynghyd a chasglydd ei gynhwysiad.