Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog/Cerdd XXXV a XXXVI
Gwedd
← Cerdd XXXIII a XXXIV | Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog gan Richard Griffith (Carneddog) |
Cerdd XXXVII a XXXVIII → |
XXXV. A wnaed pan oedd y mŵg bron a'm mygu yn fy ngwely,—oedd wrth y tân.
Dirfawr led hyllfawr dywyllfŵg,—a dudew
Gyfodadwy hwrwg;
Trwyth tawddwres yw'r tarth tewddrwg,—
Uwch tân mawn, tawch tonnau mŵg.
—SION POWELL.[1]
XXXVI. Wedi i'r mŵg gilio, gwelwn y sêr trwy y to tyllog o'm gwely,—pryd y cenaisiddynt,—
Gerddi crogedig harddwych,—fel adar,
Neu flodau'n yr entrych;[2]
Tariannau aur tirionwych,
Meillion nef,——mae eu lle'n wych.
—SION POWELL.