Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon/Engedi

Oddi ar Wicidestun
Caeathro Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon

gan William Hobley

Siloh
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Caernarfon
ar Wicipedia

ENGEDI.[1]

YR ysbryd cenhadol achosodd adeiladu Engedi, ebe Dafydd Williams. Gallasai hynny fod yn wir mewn rhan. Olrheinir cychwyniad yr ysgogiad am dano i'r flwyddyn 1837. Yr oedd yr achos ym Moriah y pryd hwnnw wedi cyrraedd awr anterth. Dywedai'r Capten Evan Roberts, oddiar ei atgof ei hun, y byddai'r capel yn llawn dan sang ar nos Sul pryd bynnag y pregethai Mr. Lloyd yno. A dywed Dafydd Williams, oddiar ei atgof yntau, y byddai llawr y capel yn rhwydd lawn yn y gyfeillach eglwysig. Yn wyneb hyn, fe ddichon mai nid anghywir dweyd mai'r achos i'r haid godi ydoedd i'r hen gwch orlenwi. A chydnabyddir nad oedd pawb o'r swyddogion yn addfed iawn i eangu'r terfynau, oddiar ofn niweidio'r achos ym Moriah yn ormodol. A mynnai rhai selog yn Engedi mai cam â'r achos yno oedd peidio âg adeiladu ddwy neu dair blynedd yn gynt.

Y prif offeryn yn yr ysgogiad am gapel newydd oedd Robert Evans, un o flaenoriaid Moriah. "Trwy graffineb a sel a dyfalwch Robert Evans, yn bennaf, y prynnwyd y tir ac y dechreuwyd adeiladu," ebe Dafydd Williams. Cefnogid Robert Evans gan Joseph Elias, blaenor arall. Yr oedd y gweinidogion, Dafydd Jones a Thomas Hughes yn anogol i'r symudiad, ac yn ei gefnogi ym mhob modd. Ystyrrid fod y tir a ddewiswyd gyda'r mwyaf manteisiol allesid fod wedi gael, ac mewn rhan o'r dref ag yr oeddid yn adeiladu tai yno ar y pryd. Mynnai rhai brodyr, gan gymaint eu sel, gael capel o'r un maint a Moriah. Dadleuai'r Parch. Dafydd Jones dros gapel canolig, a Robert Evans am gapel cystadl a Moriah. Ebe Robert Roberts stryd y capel, gan gefnogi Robert Evans, a dyfynnu Esai y proffwyd, "Yr Arglwydd a grea ar bob trigfa o Fynydd Seion." "O," ebe'r gweinidog, " os yw'r Arglwydd yn mynd i greu, mi ildiaf i ar unwaith." Yn y cyfamser, ni ildiodd Dafydd Jones, ac efe a orfu.

Dechre adeiladu, Gorffennaf 12, 1841. Arolygid yr adeiladwaith gan Hugh Hughes Segontium Terrace. Mesur y capel, 18 llath wrth 17, ebe Dafydd Williams; 16 llath ysgwar, ebe Mr. David Jones. Tebyg fod y mesur olaf am y tufewn. Adeilad cadarn, gyda dwy ystafell helaeth odditano. Yr oedd y pulpud yn y ffrynt rhwng y ddau ddrws, a'r oriel ar y ddwy ochr a chyferbyn â'r set fawr. Yr oedd wyneb y capel 11 llath o'r heol, ac esgynnid amryw risiau i fyned iddo. Yr holl draul, £2,360 4s. 8½g.

Agorwyd, Mehefin 19, 20, 1842. Pregethwyd yn y ddau gapel y Sul, ac yn Engedi yn unig y Llun. Bore Sul yn Engedi, Dafydd Jones, Salm ix. 20; William Roberts Amlwch, I Cor. i. 30. Am 2, Richard Humphreys Dyffryn, Rhuf. xii. 1. Am 6, John Jones Tremadoc, Esai. liii. 11; R. Humphreys, Ioan i. 14. Am 6, fore Llun, cyfarfod gweddi; am 8, cyfarfod eglwysig; am 10, Owen Thomas, 2 Bren. v. 13; W. Roberts, Heb. xii. 24. Am 2, John Owen Gwyndy, Eph. ii. 16; R. Humphreys, Salm xxvii. 4. Am 6, John Jones Talsarn, Ecsodus xx. 24.

Dywed Dafydd Williams (Drysorfa, 1842, t. 285) y cyfan- soddwyd y penillion yma gan Eben Fardd ar gyfer yr agoriad, ac yr oedd y bardd ei hun yn bresennol yn clywed eu canu:

Preswylia, O Arglwydd y lluoedd!
Ynghanol dy bobl'n y byd;
Mae'n wir nad all nefoedd y nefoedd
Na'i chylchoedd dy gynnwys i gyd;
Ond eto o fewn y Tŷ yma,
Pelydra, pelydra i lawr;
Ym mawredd dy nerth ymddisgleiria,
A'r dyrfa a'th fola yn fawr.

Na fydd fel pererin yn brysio,
I droi ac ymado o'n mysg;
Dy wyneb mae'r eglwys yn geisio,
O! aros a dyro bob dysg;
Tro afon dy ras yma'n union,
Ond iti wneud hynny, O Iôr!
Bydd pechod deng mil o blant dynion.
Mewn angof yn eigion y môr.


Pan gwyno dy bobl yn dy wyddfod,
Fan yma gan drallod yn drist;
O gwrando o fangre'th breswylfod
Eu hochain dan gryndod am Grist;
Dilea y gorchudd ar unwaith,
Datguddia holl frasder dy Dŷ;
Dod iddynt gip olwg ar ymdaith,
O fraint y gogoniant sydd fry.

Os Satan a feiddia droi heibio
Ei gryfach a'i dalio'n ei dwyll,
Gan wared trueiniaid fu'n reibio,
A'u dwyn yn rhai bywiol i bwyll;
Rhy gyfyng fo'r lle i'w breswylwyr,
Boed Seion mewn gwewyr i gyd,
Nes esgor ar fechgyn wnant filwyr,
I gario ei baner drwy'r byd.

Daeth 120 o aelodau Moriah i gychwyn yr achos yn Engedi, sef yr un nifer, ebe Dafydd Williams, a gychwynnodd yr eglwys Gristnogol. Yr ydoedd ef ei hun a'i deulu yn eu plith. Hefyd, heblaw'r ddau flaenor, William Evans Cilfechydd, a oedd yn flaenor yn y Waenfawr cyn hynny, ac yn dra thebyg wedi ei alw yn flaenor ym Moriah, ac yma. Ac ymhlith eraill y rhai yma: William Owen y llwythwr, Heol y capel, Owen Thomas Henwalia, Richard Humphreys clerc, Rice Jones asiedydd, John Edwards,—tad Henry Edwards, y blaenor yn Siloh— William Williams Maesincla, Capten Evan Williams, Capten William Evans, Owen Jones Stryd llyn, William Williams pobydd, Robert Roberts paentiwr, Capten Owen Owens yr Unicorn, Hugh Jones cariwr,—ceidwad y Guild Hall ar ol hynny, David Roberts Penmorfa, Hugh Jones teiliwr, John Thomas cigydd, Hugh Williams asiedydd, John Ethall y rhaffwr, Owen Lewis y ffeltiwr, John Brereton. Ac ymhlith y chwiorydd, Ellen Prichard Penygraig (neu Penybryn), Ann Prichard y Feisdon, Dros yr Aber, Hannah Llwyd a'i merch, Mary Edwards, Mary,—gwraig Daniel Jones (Llanllechid), Ann Roberts, a ddaeth yma o Manchester, Margaret, gwraig William Thomas y blaenor, Jane, gwraig Dafydd Williams, Ann Pritchard Gallt y sil, Susannah, gwraig y Capten Evan Roberts, Mary, gwraig y Capten Henry Williams, Jane Jones, mam Richard Jones y blockmaker, Elizabeth Roberts, Elizabeth Davies, Gwen Griffith, Ann Jones Tyddyn llwydyn, Mary Thomas, Catherine Price, Mary, gwraig y Capten John Jones, Elizabeth, gwraig Owen Griffith y cyfrwywr, Dorothy Williams, Ellen Jones Cefn mwysoglan, Mary, gwraig Evan Jones y blaenor, Ann Price, Jane, gwraig y Capten John Thomas, Catherine Jones Heol y capel, Ellen Jones Lôn fudr, Laura Robinson, Mary Brereton, Margaret Gibson, Jane Edwards.

Dywedir na ddarfu i eglwys Moriah, fel y cyfryw, gynorthwyo gyda dyled Engedi, er na chwynir na bu aelodau Moriah yn gynorthwyol yn hynny. Cwynid, hefyd, pan ddeuai gwr dieithr o'r deheudir heibio gyda'i gyfaill, y cedwid y gwr dierth gan Moriah, gan adael y cyfaill yn unig i Engedi. Ymhen amser, pa ddelw bynnag, medrodd Engedi honni ei hawl i'r gwr dierth ei hun yn ei thro; ond dim diolch i Foriah am hynny.

Derbyniwyd fel blaenoriaid o leoedd eraill, Capten Henry Williams y Chieftain a'r Capten Richard Hughes yr Hindoo, y blaenaf o Bwllheli. Dywed Mr. John Jones fod y ddau hyn yn ddynion da iawn, yn garedig a siriol, ac y cyfrifid hwy yn dduwiol ddiamheuol. Y blaenoriaid cyntaf i gael eu dewis gan yr eglwys ei hun oedd Owen Griffith a William Thomas. Symudodd yr olaf oddiyma i'r Ceunant. Gwr tawel, duwiol, y cyfrifid ef. Yn 1849 dewiswyd y Capten Evan Roberts ac Evan Jones.

Yn 1844, symudodd Daniel Jones yma o Garneddi; ac yn 1846 symudodd Dafydd Morris yma o Garneddi, ac oddiyma i Drefriw yn 1852, wedi bod o gynorthwy gwirioneddol i'r achos yma.

Bu farw William Evans (Cilfechydd) ym Mai 9, 1846, yn 86 oed, yn flaenor yn y Waenfawr er 1828, ac ym Moriah er 1840, ac, mae'n debyg, wedi ei alw i'r swydd yno, fel y galwyd ef yma ar gychwyn yr achos. Dyma sylw Dafydd Williams arno: "Cymeriad hynod oedd i William Evans. Gweddiai yn wahanol i bawb, a siaradai yn wahanol i bawb. Yr oedd yn dra derbyniol gan yr eglwys." Mab iddo ef oedd Robert Evans. (Edrycher Brynmenai a Waenfawr.)

Yn 1849 daeth David Davies yr exciseman yma, gan symud oddiyma yn 1854. Yr oedd y tri gweinidog, yn eu gwahanol ffordd, yn ddynion o ddawn go arbennig, a bu eu presenoldeb yn gyfnerthiad i'r achos. Deuai Dafydd Jones a Thomas Hughes, hefyd, yma i'r seiadau yn dra mynych, a rhoid mawr werth ar bresenoldeb y blaenaf o'r ddau yn enwedig. Yma y daeth Evan Williams yr arlunydd yn gyntaf, pan ymsefydlodd yn y dref yn 1851, ond yn y man fe symudodd ei babell i Foriah.

Sylw Dafydd Williams ar Joseph Elias ydyw: "Yr oedd yn frawd i'r enwog John Elias, ond yn bur anhebyg iddo oddieithr yn ei gorff; ac odid y cawsai ei ddewis i'r swydd onibae am ei berthynas clodfawr. Eithr yr oedd efe yn wr duwiol, a bu farw mewn heddwch â'i Dduw." Yr oedd yr ymdeimlad ei fod yn frawd i John Elias, yr areithiwr mawr, yn peri iddo yntau fod mewn cryn lafur wrth gyfarch, fel y dywedir, ac yn naturiol yn peri iddo dybied fod rhyw ddisgwyliad wrtho yntau hefyd. Pan oedd William Roberts Clynnog mewn seiat ymweliad ym Moriah unwaith, gofynnodd i'r blaenoriaid fyned o'r neilltu, a Joseph Elias y pryd hwnnw yn eu plith, er mwyn cymell y brodyr i draethu eu meddyliau yn fwy rhydd. Yna fe gymhellodd yr ymwelwr y brodyr i draethu eu barn am y blaenoriaid. Cododd un ar ei draed ar unwaith, a dywedodd y dewisai ef i Robert Evans a William Swaine ddweyd mwy yn y seiat, ac i Joseph Elias ddweyd llai. "Ho!" ebe William Roberts, a galwodd y blaenoriaid i fewn, a thraethodd y genadwri yn wyneb-agored iddynt.

Bu Thomas Griffith o'r Waenfawr yma am ysbaid, pryd y dychwelodd yn ol i'r Waenfawr. Galwyd ef yn flaenor yma. Mawrth 16, 1852, y bu farw Daniel Jones (Llanllechid), ar ol trigiannu yn y dref am wyth mlynedd. Daeth yma ar ei briodas à Mary Gibson ei ail wraig. Croesawyd ei ddyfodiad yn fawr, a gwerthfawrogid ei bresenoldeb a'i lafur yn y lle. Fel gwr cyhoedus, yr oedd tymor ei fawr nerth i fesur drosodd, a Daniel Jones Llandegai a Llanllechid y parhaodd efe i fod, er ei drigias o wyth mlynedd yng Nghaernarvon. Ac yn ei gyfarchiad yn y cyhoedd yr oedd ei briodoldeb arbennig yntau. Dilewyd yr argraff oddiwrtho yn ei drigias yma, hyd yn oed i breswylwyr y dref, yn yr argraff oddiwrtho fel Daniel Jones Llanllechid; ond fel y cyfryw fe erys ei argraff a'i ddelw yn hir eto. Er hynny, yn eglwys ieuanc Engedi, fe fu ei arosiad yn werthfawr, oblegid ei ddifrifwch a'i symledd (Edrycher Carneddi.)

Yn 1852 y dewiswyd yn flaenoriaid, Dafydd Williams, y pregethwr wedi hynny, a Hugh Hughes.

Hydref 12, 1856, y bu farw Robert Evans, yn 66 oed, yn flaenor yma o'r cychwyn, a chyn hynny ym Moriah er 1828. Brodor o Dan y maes, Felinheli, a daeth yn aelod eglwysig yno pan nad oedd ond tuag wyth oed. Symudodd yn ieuanc gyda'i dad i'r Cilfechydd, ac ymagorodd yn llanc yn y Waenfawr. Bu yn yr ysgol gyda Dafydd Ddu Eryri. Mewn masnachdy yng Nghaerlleon, fe gafodd gyfleustra i ddysgu'r iaith Saesneg yn dda. Yn 21 oed fe ddaeth i gadw masnachdy yng Nghaernarvon. Ystyrrid ef yn wr ieuanc o nodwedd wylaidd, mwy tueddol i gadw o'r golwg na'r cyffredin. Er hynny, yn 27 oed fe'i gwnawd ef yn arolygwr ysgol Moriah. Dewiswyd ef yn flaenor dair blynedd yn gynt nag y derbyniwyd y swydd ganddo. Ail-ddewiswyd ef, ac hyd yn oed y pryd hwnnw drwy arfer taerni y cafwyd ganddo gydsynio. Bu am ysbaid wedi ei ddewis yn flaenor, ac yntau erbyn hynny yn wr 38 oed, nad ellid ond gydag anhawster ei gael i gyfarch y seiat, a thawedog ydoedd ym mhwyllgorau y blaenoriaid. Er hynny, pan geid ef i draethu barn, byddai'r farn honno yn fynych yn dirwyn y dyryswch i ben. Bu gwaith William Roberts Clynnog yn rhoi cyfleustra i'r frawdoliaeth draethu ei barn am y blaenoriaid, fel y crybwyllwyd ynglyn â Joseph Elias, yn foddion i ysgwyd peth ar Robert Evans, ac ymaflodd yng ngwaith ei swydd yn fwy egnïol. Er hynny, nid ymagorodd ei ddawn yn gyflawn tra fu ym Moriah, er ei fod yn 52 oed yn dod oddiyno. Dywedir yr eisteddai yng nghwrr pellaf y sêt fawr, wrth golofn. bellaf y pulpud a safai ar bedair colofn, ac allan o olwg y rhan. fwyaf. Disgrifir ef gan Mr. John Jones fel o "gorff cryf a lluniaidd, pen mawr, pâr o lygaid fel barcut, yn edrych drwy ddyn; ond er fod golwg llym arno, yr oedd ganddo ryw gilllygad cynes." Eithr ni bu yn ei flynyddoedd olaf ym Moriah mor dawedog ag y dywedid weithiau ar ol hynny. Fe ddywed Owen Jones (Manchester y pryd hwnnw), yn ei gofiant bychan iddo, mai ym Moriah, wedi derbyn cymhelliad William Roberts Clynnog ar yr achlysur a nodwyd, y cyfnewidiwyd ef yn drwyadl. Eithr nid yw hynny yn gytun yn hollol â thystiolaethau eraill, er y rhaid fod, debygir, lawer o wir yn y dywediad. Fe wyddys fod Robert Evans o gychwyn y mudiad dir- westol yn ymdywallt allan fel ufel berwedig o rombil llosgfynydd, ac yr oedd y mudiad hwnnw wedi cychwyn chwe blynedd cyn iddo ymadael â Moriah. Ond dichon, er bod ohono mor gyhoeddus gyda dirwest, ei fod yn gymharol dawel o hyd fel blaenor. A dyna'r dystiolaeth gyffredin. Ac y mae lle i gredu, er holl ddull gwylaidd Robert Evans, a'i duedd i gadw o'r golwg, nad oedd mewn un modd yn amddifad o uchelgais, nac o'r ddawn i lywodraethu ac awdurdodi pan unwaith y caffai'r awenau yn deg i'w law. Y mae ambell natur a amgaea ynddi ei hun, os na chaiff hi gyflawn rwysg i ymagor yn y modd y mynn hi ei hunan, ac yn gwbl wrth ei chymelliad ei hun. Fe gafodd Robert Evans ei gyfleustra gyda'r mudiad dirwestol, canys fe ddaeth ar unwaith yn arweinydd iddo yn y dref; a chafodd ei gyfleustra drachefn yn yr eglwys ieuanc yn Engedi. Gyda dirwest, fe ddaeth yn arweinydd haid o ddynion. gorselog, liaws ohonynt wedi bod yn ymdrybaeddu yn y ffos ac i ymdrybaeddu ynddi drachefn, ond yng nghynnwrf eu tymerau ac yn nieithrwch eu profiad newydd, yn cyhoeddi eu hanathema mewn tân a mwg ar ddynion da heb eu hennill i gofleidio'r egwyddor ddirwestol. Ymdaflodd Robert Evans i'r ymdrech gyda dirwest â'i holl ynni. A'r un elfen ordeimladol, a barai iddo gynt gilio i mewn iddo'i hun yn wyneb pwys y gwaith, a barai iddo, hefyd, wedi unwaith ei gyffroi drwyddo, daflu heibio bob rhwystr, a chan godi'r fflodiart ar ddyfroedd fu'n croni cyhyd, eu gollwng allan bellach gyda rhuthr rhyferthwy. Fe lefarai y pryd hwnnw, ac am flynyddoedd gweddill ei oes, yn yr awyr agored ar y maes neu ar y pendist dan gyffroadau angerddol. Fe fyddai ei gorff yn ymnyddu, ei wyneb yn ymliwio yn gochddu, yr ewyn yn sefyll ar ei wefus, a'i lais yn darstain yr heolydd. A byddai ei ymadroddion yn cyfateb. Defnyddiai'r iaith gryfaf, halltaf, grasaf. Fe fyddai, fel y dywedir am rai creaduriaid, yn codi'r croen i ffwrdd â'i dafod. Fe adroddir y byddai'r Parch. Dafydd Jones yn cael ei flino gan segurwyr yn sefyll yn un rhes yn y pendist: byddai'n clywed eu swn o'i stafell. Gyda'i gyfrwystra arferol fe achwynodd wrth Robert Evans. Y tro nesaf y daeth yntau i'r pendist i gyfarch, fe gymerodd ei ddameg oddiwrth gyffeithio crwyn, a chymharai'r yfwyr yn y tafarnau i'r crwyn. yn socian yn y cyffaith. Enwai'r tafarnau yn y gymdogaeth lle byddai'r cythraul yn rhoi ei grwyn i socian, " ac yna," ebe fe, "y mae yn dod â hwy i'r pendist i sychu. Chwi a'u gwelwch yn un rhes wedi eu dodi yma i sychu. Crwyn y cythraul ydyn nhw wedi eu dodi i fyny i sychu yn y pendist." Daliodd ar grwyn y cythraul wedi eu dodi i fyny i sychu yn y pendist" yn ddigon hir i'r peth fyned adref, ac fe aeth y dywediad am gryn ysbaid yn fath ar ddihareb yn y dref. Peidiodd yr arfer i gryn fesur, a chafodd Dafydd Jones lonydd i efrydu. Ond os gwelid ambell rai hyfach na'i gilydd o'r yfwyr yn rhyw lercian yn y pendist, fe ddywedid gan y rhai elai heibio, "Dacw nhw, crwyn y cythraul yn sychu!" Disgrifiai yn ddifloesgni yn eu clyw yn yr awyr agored ddrwg arferion llymeitwyr a meddwon, nes codi gradd o gywilydd ac arswyd ar liaws. I'r sawl a glywodd y disgrifiadau hyn ohono yn ieuanc, yr oedd clywed yn ddiweddarach mai blaenor gwylaidd, tawedog ydoedd unwaith ym Moriah yn swnio yn beth anhygoel. Fe ddywedir y bu darllen Finney ar ddiwygiadau yn foddion i gyffroi ei feddwl, ac i'w ddeffro i'r teimlad o gyfrifoldeb dros ei gyd-ddynion, a chafodd gyfleustra gyda dirwest ym mlynyddoedd cyntaf y mudiad i weithio'i argyhoeddiadau allan i ymarferiad. Yn Engedi, fe gymerodd ei le ar unwaith fel arweinydd, ac yr oedd ei ofal, mewn gwirionedd, dros bob rhan o'r gwaith. Yr ydoedd yn wr hoew, llawn ynni, ac ymdaflai yn hollol i'w waith fel blaenor yr eglwys. A chymerodd yr awenau yn o lwyr i'w ddwylo'i hunan. Erbyn hyn fe deimlid awdurdod ym mhob ystum o'i eiddo ac ym mhob ymddygiad. Medrai'r gwr oedd braidd yn rhy wylaidd i draethu ei feddwl ym mhwyllgor y blaenoriaid ym Moriah ddangos ei hun yn arweinydd cryf wedi i'r awenau ddod yn deg i'w ddwylo. Ac os oedd rhai yn gwrthddywedyd, yr oedd iddo ymlynwyr hefyd. Anfynych y bu gan neb bleidwyr mor selog. Edmygid ef oblegid. ei sel ddiflino gan liaws, ond tyngid iddo yn gwbl gan liaws eraill. Yr oedd gair Robert Evans yn ddeddf i ambell un, ac ni ymholid ymhellach na chael sicrwydd mai fel a'r fel y dywedodd efe. Un peth a roddai'r awdurdod hon iddo ydoedd ei gymeriad dilychwin a'i gyfiawnder ymarferol. Fe aeth yn ddihareb am onestrwydd yn ei fasnach, ac yr oedd ei fasnach yn un go helaeth. Ac yr ydoedd dros ben hynny yn wr caredig, cymwynasgar, haelionus gyda phob gwaith da, elusengar i'r tlawd. Fe aeth yn ddihareb am hynny hefyd. Gorfod oedd ar bawb, pleidiol iddo neu amhleidiol, edrych arno fel gwr of ysbryd hunanymwadol. Rhoddai hyn iddo ddylanwad dibendraw ar rai pobl, a llareiddiai yn fawr unrhyw wrthwynebiad a allasai eraill deimlo iddo. A rhaid cofio am ei sel or-danbaid gyda dirwest, mai sel gwr goleuedig ei feddwl ydoedd. Y dull unbenaethol ydoedd y dull cyffredin yn ei amser ef, ond bod ganddo ef fwy o rym cymeriad na chyffredin yn peri i'r peth fod yn fwy amlwg ynddo. Er ei sel deyrngarol i'w eglwys a'i gyfundeb, yr oedd yr un pryd yn eang ei gydymdeimlad ag enwadau eraill. Ac er ei ymroddiad i ddirwest a chrefydd, yr oedd ganddo ofal am fuddiannau y dref. Etholwyd ef yn 1850 yn henadur y fwrdeisdref. Bu'n llywydd amryw gymdeithasau yn y dref, ac yr oedd yn drysorydd y Cyfarfod Misol. O'i gymharu âg eraill, fe allesid dweyd y bu rhai o flaenoriaid Engedi tuhwnt iddo mewn meddylgarwch, a bu rhai o flaenoriaid eraill y dref yn rhoi argraff o ysbrydolrwydd meddwl amlycach, ond ni bu un ohonynt a gyrhaeddodd ddylanwad mor eang. Fe gyflwynwyd ei lun iddo, wedi ei dynnu gan J. C. Rowlands, yn y Gymanfa Ddirwestol a gynhaliwyd yn y castell ym Mehefin, 1856. Dyma nodiadau ei gyfaill, Dafydd Williams, arno: "Gweithiwr heb ei ragorach yn yr holl wlad ydoedd. Darllenai lawer: yr oedd yn deall cyfreithiau'r tir yn rhagorol, a rhoddai gynghorion doeth i rai mewn penbleth. Areithiodd ar ddirwest gyda brwdfrydedd digymar, a gwnaeth argraff dda ar fyd ac eglwys drwy hynny. Gwelsom pan nad oedd ond rhyw ddau neu dri yn Engedi heb fod yn ddirwestwyr. Ceidwadwr selog fu am ran fawr o'i oes; ond yr oedd yn rhyddfrydwr da ers rhai blynyddoedd, a chondemniai y degwm a defodaeth yn ddiarbed. Gweddiwr anghyffredin yn ei flynyddoedd olaf. Holwr plant gwresog. Yn wir, pa beth bynnag yr ymaflai ei law ynddo i'w wneuthur fe'i gwnae â'i holl egni. Rhoddai lawer o'i arian at achos y Gwaredwr. Astudiodd lawer ar Lyfr Daniel a'r Datguddiad. Yr ydoedd fel Obadiah yn ofni Duw o'i febyd. Bu am tua 14 blynedd yn golofn gadarn i'r achos yn Engedi. Cafodd lawer o helbul a thrafferth gyda rhai y rhoes ormod o le iddynt. Cafodd gystudd blin. 'Dyna air anwyl,' meddai wrthym un tro y pryd hwnnw,—Ac efe yn caru yr eiddo y rhai oedd yn y byd a'u carodd hwynt hyd y diwedd. Bu farw mewn tangnefedd. Cafodd gladdedigaeth tywysogaidd. O'r cyfaill cywir a diblygion! Ni chawsom yr un ar ei ol tebyg iddo. Cawn gydgwrdd eto, ni a hyderwn, yn y wlad well." (Cofiant Alderman Evans, Owen Jones, 1857. Drysorfa, 1856, t. 390.)

Dirwestwr oedd i gyd drosto;—dirwest
Auraidd oedd ei fotto;
Dirwest! nid ofnai daro;
Beiddiai fyd, lle byddai fo.


Corniai wirfoedd Caernarfon . . .

Henadur cymwys eglwysig—ydoedd,
Henadur dinesig;
Gwr oedd o fraint gwyrdd ei frig,
Beunyddiol wr boneddig.

. . . Dyna'i enw, Dyn uniawn. (Eben Fardd).

Y flwyddyn y bu farw Robert Evans y daeth John Jones yma o Fethesda. Yr oedd yn flaenor yn Jerusalem, a galwyd ef i'r swydd yma. Yn Awst, 1857, gwnawd Engedi a Thanrallt yn daith Sabothol. Yn 1859 y symudodd Robert Lewis y pregethwr yma o Manchester. Yn 1859 y daeth Richard Jones y Treuan yma o Gaeathro; yn 1860 Hugh Owen o Birkenhead; ac yn 1861 y Parch. William Griffith o Bwllheli.

Fe ddywed Mr. David Jones fod dychweledigion diwygiad 1859 wedi glynu yn dda wrth yr achos, rai ohonynt yn ffyddlon gyda gwaith allan o olwg dynion. Dywed fod dylanwad neilltuol gyda Dafydd Morgan ar ei ymweliad yma, ac y pregethai weithiau yn y pulpud weithiau yn y sêt fawr. Byddai Marged Williams Heol y llyn a Catrin Edwards yn gyffredin yn arwain y gorfoledd. Byddai gorfoledd a chân yng nghyfarfodydd y bobl ieuainc weithiau am oriau. Nos Fawrth, Tachwedd 8, y daeth Dafydd Morgan yma. Gweddiai am ddracht o'r afon yr oedd ei ffrydiau yn llawenhau dinas Duw, a thorodd yn orfoledd. Dyma'r adeg y daeth Griffith y Clogwyn gwyn at grefydd, hen feddwyn o'r blaen, a glynodd i'r diwedd. Esgeuluswr oedd Sion Ffowc, ond dyn o ddawn a gwybodaeth. "Y diafol," meddai, "yw'r gwiriona a welis i erioed. 'Does gen ti ddim crefydd,' meddai wrthyf, 'does gen ti ddim.' Gyrr hynny fi bob amser ar fy ngliniau. A dyna lle y bydda'i yn i weld o'n wirion, y dywed o'r un peth wrtha'i drachefn a thrachefn, ac yntau yn gorfod gweld mai unig effaith hynny arna'i fydd fy ngyrru i at orsedd gras." Daeth Moses y Potiwr at grefydd y pryd hwn, er dod ohono i'r oedfa yn feddw. Dyma'r gwr fu'n cadw'r half-way-house ar y Wyddfa. Bu gan grefydd ryw afael arno yntau o hynny ymlaen. Dengys dyddlyfr Dafydd Morgan fod 47 o ddychweledigion yn Engedi yr oedfa honno. Ni wyddys ai ym Moriah ai yn Engedi yr oedd Dafydd Morgan yn gweddïo dros y morwyr. Ym mhen ysbaid mordwyodd llong o Quebec i'r Fenai gyda llwyth o goed. Elsby oedd y capten, gwr o Gymro, a arferai gynnal gwasanaeth crefyddol beunydd ar fwrdd y llong. Un diwrnod galwyd y dwylo i gyd ond dau i'r caban i gyfarfod gweddi. Disgynnodd rhyw ddylanwad dieithr arnynt, a thorrodd yn orfoledd yn eu mysg. Galwodd y capten seiat, ac arosodd pawb ar ol, rhai am y tro cyntaf. Erbyn cyrraedd adref, deallasant fod y dylanwad dieithr wedi disgyn arnynt yn lled agos i'r amser yr oedd Dafydd Morgan yn gweddio dros y morwyr. (Cofiant Dafydd Morgan, t. 470).

Rhif yr eglwys yn 1853, 323; yn 1858, 345; yn 1860, 450; yn 1862, 450; yn 1866, 507. Swm y ddyled yn nechre 1853, £1,805; yn nechre 1854, £1,720 5s. 3c. Cyfartaledd pris eisteddle y chwarter, 1s. Swm y derbyniadau am y seti y flwyddyn, £121 13s. Casgl y weinidogaeth, £65 12s. Talwyd £50 am baentio'r capel yn 1853.

Mawrth, 1862, dechreuodd Robert Evans, mab y blaenor, bregethu. Awst, 1864, dechreuodd John Maurice Jones bregethu. Ebrill, 1865, dechreuodd Dafydd Williams bregethu. Yn 1865 daeth William Williams yma o Gapel Coch, Llanberis, newydd ddechre pregethu. Yn 1865 penderfynwyd, gyda chydsyniad y Cyfarfod Misol, helaethu'r capel. Yn 1866 bu farw Hugh Owen, yn 50 oed, yn flaenor yma er 1860 neu'n fuan wedi, ac yn Birkenhead er 1859. Galwyd ef yn flaenor yma yn fuan wedi ymsefydlu ohono yn y dref. Ystyrrid ef yn ddyn o synnwyr cryf ac o gryn allu meddwl. Darllenai'r cyfieithiadau o'r esboniadau Ellmynnig a ddeuai allan yn ei amser ef, ynghyd a llyfrau o nodwedd athronyddol. Yr oedd yn wleidyddwr aiddgar a goleuedig. Rhoddai amser i baratoi ar gyfer ei ddosbarth. Llafuriodd gydag ail-adeiladu'r capel, ac efe oedd y trysorydd ar y pryd. Annhueddol ydoedd, yn hytrach, i siarad yn gyhoeddus, ond pan wnae hynny, yr oedd yr hyn ddywedai yn ffrwyth paratoad meddwl. Yn wr pwyllog, arafaidd, gochelgar, nid oedd wedi ymagor yng ngwaith ei swydd fel ag i gyfateb i'w adnoddau, a disgwylid llawer oddiwrtho yn y dyfodol. Yr oedd ei dŷ yn llety pregethwyr. (Drysorfa, 1869, t. 236). Nodir gan Dafydd Williams yr anhawsterau ar ffordd helaethu'r capel. Yr oedd perchennog tri o dai—dau meddai Mr. John Jones—o flaen y capel yn dal yn gyndyn yn erbyn eu gwerthu. Yr oedd rhai o'r blaenoriaid, yn enwedig Owen Griffith, yn erbyn. Yr oedd yr hen adeilad, hefyd, yn waith cadarn. A dadl fawr y Cyfarfod Misol yn erbyn oedd y ddyled o £1,400. Gorfuwyd ar yr anhawsterau; ac nid oedd dyled yn aros yn niwedd 1865. Tynnwyd y cynllun gan Richard Owen. Nerpwl, a rhowd yr adeilwaith i Mr. Evan Jones y Dolydd. Yr oedd traul yr adeiladu, gan gynnwys gwerth y tai o flaen. y capel, tua £4,579. Yr oedd y capel wedi ei helaethu yn mesur o'r tufewn 70 troedfedd 1 fodfedd wrth 54 troedfedd 6 modfedd. Cynhelid y moddion yn ystod yr adeiladu yn yr ysgol Frytanaidd.

Cynhaliwyd cyfarfod yr agoriad, Ionawr 22-3, 1867. Pregethwyd gan Dafydd Jones, John Owen Ty'n llwyn, David Saunders, Richard Lumley. Rhif yr eglwys ar yr agoriad, 510. Erbyn fod yr agoriad drosodd yr oedd £810 mewn llaw tuag at y ddyled. Erbyn diwedd 1868 yr oedd y ddyled wedi ei thynnu i lawr i £3,450. (Drysorja, 1867, t. 145.)

Yn 1867 fe ddewiswyd yn flaenoriaid Robert Roberts, Thomas Hobley, Owen Evans, Thomas Owen, Owen Roberts, Yr oedd Owen Roberts yn ysgrifennydd yr eglwys er y flwyddyn flaenorol. Bu yn y swydd honno am dros 30 mlynedd, ac yna fe'i gwnawd yn drysorydd. Aeth ef yn hynafgwr yng ngwasanaeth yr eglwys, gan gynyddu mewn parchedigaeth i'r diwedd; ond gan iddo oroesi cyfnod yr hanes hwn rhaid tewi a son.

Rhagfyr 9, 1868, bu farw Owen Griffith, yn 70 oed, ac yn un o'r ddau flaenor cyntaf a ddewiswyd gan yr eglwys ei hun. Siaredir am dano bob amser gyda gradd o barchedigaeth. "Teidi, pert, gwisgo'n hynod o nêt," ebe Mr. David Jones. Y gwallt yn disgyn i lawr ar y talcen, ac wedi ei dorri ar y talcen, mewn llinell union berffaith, ebe Mr. William Ethall. Dyn bychan o gorffolaeth," ebe Mr. John Jones, wyneb glandeg a siriol. Botwm gwr ifanc' fyddai ei deitl gennym ni y plant. Ystyrrid ef yn bisin o beth bach del, wrth ben ei draed." Yr oedd ef a Griffith Jones Cefn faesoglen yn gydathrawon plant yn y sêt ganu. Owen Griffith yn holi'r plant yn gyhoeddus yn ei goler a chêt a chôt coler felfed. Y pwnc, arwyddion balchter. "Beth ydyw un o arwyddion balchter, fy mhlant i?" Griffith Jones yn sisial,—"Coler felfet." Y plant yn torri allan,—"Coler felfet." "Gweddiwn, gweddiwn,' ebe Owen Griffith. Brodor o Bwllheli ydoedd, mab y "dafarn loew," a gafodd grefydd yn ieuanc yn Rhuddlan. Yr ydoedd yng Nghaernarvon er 1822, a daeth i Engedi ar gychwyn yr achos. Yr oedd ef a Robert Evans yn gyfeillion mawr: Robert Evans yn arwain, Owen Griffith yn dilyn. Nid dilyn yn wasaidd, gan y meddai ar ewyllys anhyblyg. Manwl ei ffordd, ac yn rhoi ei fryd ar yr achos. Cyfiawn mewn masnach, boneddig mewn moes. Ystyrrid ef yn athro plant medrus. Edrychid ato ef yn fwy nag at Robert Evans am arwain profiad ysbrydol. Gofal ganddo, yr un pryd, am drefn a disgyblaeth. Dyma fel y dywedir am dano yng Ngofnodion y Gymdeithas Lenyddol: "Am Owen Griffith, rhaid dweyd mai nid yn aml y ceir tebyg iddo. Yr oedd yn ddyn bob modfedd, ac yn sefydlog fel y graig. Waeth pwy a newidiai, ni wnae ef. Hynod o ddidderbyn wyneb, ac y mae ei goffadwriaeth yn annwyl." Efe oedd y cyhoeddwr ers rhai blynyddoedd, a gwnelai hynny fel ef ei hun, yn dwt a threfnus. Arferai ddarllen rheolau yr ysgol yn gyhoeddus yn yr ysgol bob chwarter blwyddyn, a'r rheolau disgyblaethol yn y seiat yr un mor aml. Yr oedd yn ddirwestwr selog. Un tro, fe safai'r (Parch.) Ezra Jones, Edward Hughes, tad Menaifardd, ac yntau gyda'i gilydd, pryd y daeth Owen Williams y Waunfawr heibio. Owen Griffith yn holi am iechyd Owen Williams, ac Owen Williams yn cwyno; ac yna Owen Griffith yn rhoi awgrym nad oedd gormod o gwrw ddim yn dda i'r iechyd. "'Dwn i ddim," ebe Owen Williams, "fe fyddai'r hen bregethwyr yn cymeryd eu gwydraid o gwrw cyn mynd i'w gwelyau, a'u gwydraid drachefn cyn mynd i'r pulpud, ac yr oedden nhw'n ddynion cadarn nerthol, y fath y byddai cesyg goreu'r wlad yn sigo danyn nhw; ond am bregethwyr y dyddiau yma, y gwaherddir cwrw iddyn nhw, y mae nhw'n greaduriaid mor eiddil, pe dodasid hanner dwsin o honyn nhw ar gefn bwch gafr, ni sigai i gefn o ddim danyn nhw. Dydd da!"—ac ymaith ag ef, gan adael Owen Griffith i ryfeddu ar ei ol.

Yn 1868 daeth John Edmunds yma o Dwrgwyn, Bangor, ac Owen Jones o'r Betws Garmon. Mai 25, 1868, bu farw'r Capten Owen Evans yn 57 oed, wedi bod yn flaenor prin flwyddyn. Dywedir mai gair Mr. Lloyd am dano ydoedd.—" Owen was a nice boy when at school." Gwr hoffus, serchog, tawel, haelionus. Yr oedd yn gryn ddarllenwr, a chanddo gasgl da o lyfrau. Fel capten fe arferai gadw'r ysgol ar y Sul yn y llong pan ganiatae y tywydd. (Drysorfa, 1870, t. 74.)

Yn 1869 bu farw John Maurice Jones, yn 24 oed, ac wedi bod yn pregethu am 5 mlynedd. Mab ydoedd ef i'r Parch. John Jones, ac yn meddu mesur o'r un ddawn a'i dad, ond heb ei rym corfforol. Difrif ei ddull fel dyn a phregethwr. Yr ydoedd yn yr un dosbarth yn y Bala a Daniel Owen, a dywedai ef ond i John Maurice fod yn yr arholiad y teimlai ef ei hun yn gwbl dawel am y result,—y cedwid ef rhag y sun-stroke! Ar garreg ei fedd ceir y llinellau yma :

Ti fwriadaist efrydu—hirfaith ddydd.
Arfaeth Ior a'i thraethu;
Ond ti alwyd i deulu—y nefoedd,
I fyw'n oesoesoedd ar fynwes Iesu.

Medi 6, 1870, bu farw y Parch. William Griffith, yn 60 oed, ac wedi trigiannu yn y dref 9 mlynedd. Daeth yma o Dalsarn. Bu yn pregethu gyda'r Bedyddwyr, ond newidiodd ei olygiad. ar fedydd. Bu'n gwbl ffyddlon gyda'r achos yma. Meddai ar ddawn fuddiol yn y seiat. Yr oedd yn ddyn gostyngedig o ysbryd, ac yn byw mewn cymdeithas â gwrthrychau ysbrydol. Y mae yn fwy adnabyddus yn y wlad fel William Griffith Pwllheli, am y rheswm, fe ddichon, mai yno yr ydoedd yn ei nerth mwyaf. Fe ddywedir y byddai ar brydiau yn cael odfeuon nerthol ac effeithiol. Yr oedd yn rhwydd ei ddawn, ac yn arfer disgyn ar faterion buddiol. Byddai ganddo ambell gymhariaeth a gyffroai sylw ac a lynai yn y cof, megys honno am dragwyddoldeb yn gyffelyb i'r dwfr ar olwyn melin, yn cael ei daflu oddiar y naill astell i'r llall yn ei rod, gan beri i'r olwyn droi yn ei hunfan a gwneuthur ei gwaith, tra'r oedd amser fel y ffrwd is ei law yn symud ymlaen heb ddal arni, ond yn unig fel y gallai wasanaethu i amcanion bywyd tragwyddol. Ei air olaf,—"Y Baradwys Nefol!"

Credadyn llawn cariad ydoedd,—o reddf
Gwr addfed i'r nefoedd;
Athraw od ei weithredoedd
A Gwr Duw, iach ei gred oedd.

Yn 1871 dechreuodd Ezra Jones bregethu. Symudodd i'r Lodge, Chirk, yn 1876. Daeth John Griffith yma gyda'i dad, Parch. W. Griffith. Yr oedd wedi dechre pregethu yn Nhalsarn. Aeth oddiyma i Mancott, lle'r ydoedd yn weinidog Bu wedi hynny yn Southport.

Yn 1872 bu farw Hugh Jones, yn 88 oed. Yr oedd yn flaenor yn y Bontnewydd cyn dod yma wedi heneiddio ohono, a galwyd ef i'r swydd yma. Dyma ddisgrifiad Mr. John Jones ohono: "Hen lanc oedd Hugh Jones. Golwg braidd yn sarug arno; ateb swta; gair garwa ymlaen; ond y ffeindia'n fyw wrth blant, a phawb o ran hynny. Meddwl cryf, darllenwr mawr, cadarn yn yr ysgrythyrau. Llais cras oedd ganddo, a pheswch. trwm, poenus; ond er hynny, efe oedd y gweddiwr melysaf o bawb yr oedd rhyw felodi nefol yn chware ar dant calon dyn wrth ei wrando. Gwesgid allan o'i enaid mawr ryw brofiadau bendithiol." Brodor o Fôn. Bu dan argyhoeddiad dwys am ei gyflwr, ac ymloewodd fwyfwy o ran ei grefydd. Yn ei flwyddyn olaf i gyd fe ddysgai adnod newydd bob dydd, ac ad— roddai y saith gyda'i gilydd yn yr ysgol. Yn ddifwlch yn y gwasanaeth teuluaidd cystal ag yn weddiwr mawr yn gyhoeddus. Bu'n gweddio bob dydd am saith mlynedd am i'r Hispaen gael ei hagor i'r cenhadon Protestanaidd, a gwelodd gyflawni ei ddeisyfiad. (D. Jones.) Dyma sylw Dafydd Williams arno: "Pa swm a rowch?' meddai Mr. Morgan wrth gasglu at goleg y Bala [yn y Bontnewydd, debygir]. Dwy bunt,' meddai yntau. 'Ie, dwy bob blwyddyn,' meddai Mr. Morgan. 'Ië, waeth gen i,' meddai yntau. Dysgodd adnod bob dydd ers blynyddoedd. Mor iraidd y dywedai ei brofiad! Daliai unwaith yn y dull hwnnw ar y geiriau,—Af i fynydd y myrr, ac i fryn y thus. Cadwodd dicet ei aelodaeth eglwysig a gafodd yn hen gapel Lon y popty am dros 60 mlynedd. [Gerllaw Bangor, pan yn was fferm, y cafodd argyhoeddiad.] Heddwch i'w lwch." (Edrycher Bontnewydd.)

Gorffennaf 21, 1873, y bu farw Evan Jones, yn 67 oed, ac wedi gwasanaethu fel blaenor ers 24 blynedd. Yr oedd ei wraig yn ferch i Joseph Elias. Mwy peth ydoedd iddo fod yn dra ffyddlon fel athro plant am yn agos i hanner can mlynedd. Cyn belled ag y gallesid barnu wrth edrych, fe ymddanghosai yn athro tyner iawn, ac eto gofalus ac ymroddgar. Fe ymddanghosai, hefyd, yn wrandawr astud, yn y cyffredin yn sefydlu ei olwg ar y pregethwr. O dan bregeth iraidd iawn gwr o'r Deheudir yn oedfa 6 y bore yn Sasiwn 1872, ar y geiriau, Pan glafychodd Seion, hi a esgorodd hefyd ar ei meibion, fe ymddanghosai yn teimlo'n ddwys: siglai ei gorff a thorrai allan gyda'i "Ho! ho!" "Diniwed perffaith," ebe Mrs. Jane Owen am dano. Cyffredin ym mhob ystyr y bernid ef ond am ei gywirdeb a'i ddiffuantrwydd a'i ffyddlondeb gyda phob rhan o'r gwaith. Ac oherwydd hynny, nid aeth ymaith heb deimlad o chwithdod ar ei ol. Bu farw mewn tangnefedd. (Goleuad, 1873, Awst 2, marwrestr.)

Symudodd Dafydd Williams oddiyma i Fangor yn 1874, wedi bod yma er cychwyniad yr eglwys, wedi ei wneud yn flaenor yn 1852, ac wedi dechre pregethu yn 1865. Yr oedd chwant pregethu ynddo ers talm. Wele gofnod Cyfarfod Misol Mehefin 7, 1858: Derbyniwyd cais Mr. David Williams Caernarvon am ganiatad i bregethu eto. Pasiwyd penderfyniad i dderbyn pleidlais yr eglwysi o'r neilltu, pryd y cafwyd II o blaid a 26 yn erbyn, ac yn dymuno iddo aros fel y mae. Penderfynwyd, hefyd, i'r ysgrifennydd ddanfon y penderfyniad hwn i'r brawd David Williams." Eithr ni bu neb erioed mwy taer am bregethu, ac o'r diwedd ymhen 7 mlynedd ar ol y penderfyniad diweddaf yma, ei daerni ef a orfu. Y farn gyffredinol, hyd y gwyddys, ydoedd fod y syniad a ffynnai yn yr eglwys ac yn yr eglwysi na ddylai fyned yn bregethwr yn gywir, canys dyna oedd y syniad er i'r naill a'r llall ildio. Canys pa beth na ildia o flaen penderfyniad meddwl? Nid oes lle i dybio yr amheuid y gwnelai gystal pregethwr ag ambell un a godid o bryd i bryd; ond y gred ydoedd ei fod eisoes yn gwneud gwaith da fel blaenor, ac nad oedd dim lle i ddisgwyl y gwnelai bellach, ac yntau yng nghanol oed gwr, gystal gwaith fel pregethwr. Eithr fe ellir dweyd ddarfod iddo barhau i wneuthur gwaith blaenor, oddieithr fel y cymerid ef oddicartref ar y Sul. Dilynai y moddion canol wythnos yn gyson, gan gynorthwyo'r blaenoriaid gyda phethau amgylchiadol, ac ymwelai lawer â'r claf, ac ae i gynhebryngau. Meddai ar ddawn i gadw seiat. Siaradwr arafaidd a thrymaidd oedd. Yr oedd ganddo bresenoldeb da, yn ddyn yn tynnu at chwe troedfedd o uchter, gyda wynepryd hir, a gwallt goleu, plethog. Wynepryd da ond yn unig ei fod yn dra thrymaidd; llais clywadwy, trymaidd. Pethau cyfaddas, ond fel olwynion cerbydau Pharaoh gynt yn gyrru yn drwm. Ond ni waeth prun, yr oedd yn meddu ar ddawn seiat. Yr oedd iddo hunan-feddiant perffaith: ni theflid ef fyth oddiar ei echel, fel y digwyddws gyda cherbydau Pharaoh. Fe wyddai pa fodd i gyfarch pawb: nid elai fyth yn hyf ar hen nac ieuanc. Yr oedd mor ystyriol o'r tlawd ag ydoedd o'r cyfoethog, o'r diwybod ag o'r gwybodus. Elai'n araf a thyner o amgylch pobl ofnus, a phobl mewn profedigaeth. Ni adawai i anwybodaeth neb na diffyg synnwyr neb ymddangos o'i ran ef. Ni fethid ganddo fyth. Meddai ar gallineb mawr a chyfrwystra mawr. Ac yr oedd ganddo ddigon o gyfrwystra i guddio'i gyfrwystra. Rhoe anerchiad ar y gwaith cenhadol yng nghyfarfod gweddi ddydd Llun cyntaf y mis, a byddai'n wastad wedi paratoi, fel y ceid ganddo bob amser rywbeth a gymhellai sylw oherwydd ei ddyddordeb fel hanes. Yn y pulpud yr oedd yn arafach nag oedd raid. Yn naturiol araf, fel pregethwr fe arafai fwy na natur. Fe ddengys y nodiadau o'i eiddo a ddyfynnwyd y medrai gyfleu pethau heb ryw gwmpas mawr. Dengys ei nodiadau ar bregethwyr ar waelodion y dalennau yn y Gofadail Fethodistaidd yr un peth. Nid y mater oedd yn gwmpasog, ond y llefaru oedd yn hwyrdrwm. Gwnaeth waith buddiol â'i Lampau y Deml, ac i fesur â'i Gofadail, ac fel blaenor a bugail, er heb ei gydnabod o ran tâl ariannol fel bugail. Nid yw ei ysgrif ar gychwyniad yr achos yn y dref, a'i barhad yn Engedi, a gafwyd drwy law ei weddw, namyn nodiadau lled fyrion, wedi eu cyfleu eisoes yn o lwyr, heb amseriadau braidd, ac am bethau yma ac acw, ond gwerthfawr er hynny; er fod lliaws o honynt wedi ymddangos o bryd i bryd yn y Drysorfa, wedi eu danfon yno ganddo ef ei hun. Ionawr, 1875, cynhaliwyd cyfarfod sefydlu'r Parch. Evan Roberts, a ddaeth yma o Birmingham. Hwn oedd y cyfarfod sefydlu cyntaf gan y Methodistiaid yn y dref.

Yn 1875 cyflwynwyd tysteb a hanner can gini i'r Parch. John Jones. Ym Mai fe ymadawodd, gan dderbyn galwad o Rosllanerchrugog. Yr ydoedd wedi bod yn y Rhos yn cynnal cyfarfodydd diwygiadol am fis o amser yn gynnar yn y flwyddyn, a gwelwyd yno 198 yn ymgyflwyno i'r eglwysi. Yr ydoedd ef yn wr poblogaidd fel pregethwr drwy gydol ei oes. Eithr fe ddichon fod y llewyrch mwyaf arno rhwng diwygiad 1859 a'i fynediad i'r Rhos. Cyffrowyd ef yn fawr yn nhymor y diwygiad hwnnw, a delw'r diwygiad oedd ar ei bregethu o hynny ymlaen. Yr ydoedd yn wr tal, yn chwe troedfedd feallai o uchter, ac yn gymesur. Wedi ei weu ynghyd gan natur ar ddull rhydd, rhwydd, ar gynllun eang, llawn, o ran corff a meddwl a chymeriad. Yn fachgen ieuanc fe roddai argraff braidd o ddiniweidrwydd; ond gyda phrofiad o'r byd fe dynnodd ei hun i fewn yn fwy iddo'i hun, er y bu ar hyd ei oes yn agored yn achlysurol i adael i ambell sylw go anwyliadwrus lithro dros ymyl y wefus. Heb daflu allan ymhell, fe nofiai'r llygaid yn rhydd ar dorr y croen, gan ymsefydlu beth pan gyffroid ef ryw gymaint gan ddywediad neu gymhariaeth. Yr oedd y genau yn pontio yn o uchel ar y canol, ac yn ymestyn yn o bell oddiyno, ail i enau Daniel Rowland Llangeitho. Dawn a thymer y siaradwr oedd yr eiddo ef. Yn wir, fe ddywedir i David Charles Davies sylwi ar ol rhyw oedfa o'r eiddo ef, na chlywodd efe mo neb yn gallu dweyd cystal, gan bwysleisio'r dweyd. Heblaw rhwyddineb esmwyth a hunan—feddiant tawel, yr oedd ganddo lais clochaidd, soniarus. Yn ei hwyliau goreu, a chyda rhyw faterion, fe fyddai ei lais yn mwyneiddio, ac fel y byddai ei ysbryd yn ymdoddi fe doddai'r lais, a delid y gynulleidfa gan rym swyn, a llifai'r dagrau oddiar lawer o ruddiau. Fel y gallesid disgwyl oddiwrth un a gyffrowyd yn amser diwygiad, fe ddisgynnai yn ei bregethau ar y materion mwyaf cyfaddas i aredig y teimladau. Yr Efengyl fel trefn rasol i achub pechaduriaid, a phechaduriaid mawr, oedd ei bwnc ef, a chymhwyso'r pwnc hwnnw drwy gymhelliadau a rhybuddion oedd ei amcan gwastadol. Fe gadwai ei hunan yn o lwyr i'r amcan yma heb egluro athrawiaeth nac ysgrythyr yn gymaint, heb olrhain llawer ar brofiadau amrywiol y saint,—er y ceid ef yn cyfleu rhai o'r profiadau mwyaf cynefin yn dra effeithiol weithiau,—ac heb gymhwyso rhyw lawer ar yr Efengyl fel trefn i buro moes, ac i ddyrchafu neu addurno cymeriad. Yr oedd ei apêl at y teimlad yn fwy na'r gydwybod. Yn y dull hwnnw fe fu'n cael ar brydiau odfeuon grymus ac effeithiol, odfeuon fyddai'n aros yn nheimlad lliaws fel rhai o bethau mwyaf cofiadwy eu hoes. Fe gafodd laweroedd o weithiau odfeuon a dylanwad mawr gyda hwy ar Manaseh, ar y Lleidr ar y Groes, ar y Ffigysbren Ddiffrwyth. Fe fu ei ddolef,—"Mi achubwyd Manaseh! Mi achubwyd Manaseh!" yn aros yng nghlustiau rhai am dymorau meithion. Yr oedd swyn yn enw John Jones Caernarvon i lawer, yn enwedig mewn rhai cyrrau o'r wlad. Bu ef ei hun yn adrodd am wr yn y Deheudir yn ei ddilyn o oedfa i oedfa, deirgwaith y dydd, dair arddeg o weithiau. Ei ddawn yn y seiat oedd ar yr un llinellau ag yn ei bregethau. Yr oedd yno, hefyd, yn gwbl rydd, a'i ddull yn gymhelliadol i rai draethu eu meddwl. Rhoe gyfle teg i bawb ddweyd yr hyn oedd ganddo, ac ni olrheiniai y pwnc yn rhy bell, ni arweiniai yng nghyfeiriad dyrus-bynciau, ni sugnai i drobwll, ni chludai yn erbyn creigiau. Anfynych iawn y gwelid deufor-gyfarfod, ond os digwyddai hynny ar dro yn achlysurol, nid eiddo ef mo'r dymer a dawelai'r mymryn cythrwfl, ac a welai'r fantais yn y gwrthwynebiad, gan hwylio ymlaen i'r môr tawel, heb gymeryd arno fod dim ond yr hyn oedd gynefin i ddyn wedi digwydd. Er hynny ni welid mono yn amhwyllo, a thra anfynych y digwyddai dim ond hwylio llyfn ar dywydd teg. Fe'i ceid ef yn ddedwydd ar ol sasiwn. Wrth i hwn a'r llall adrodd yr hyn a lynodd yn ei feddwl, ceid gweled ei fod yntau bob amser wedi dal ar y sylw, ac ail-adroddai ef y rhan amlaf, er mwyn i bawb glywed, yn llawn fel y dywedwyd ef. A byddai ganddo'i ffordd ei hun o alw sylw at gyfaddaster neu brydferthwch yr hyn a adroddwyd. Yr oedd ganddo gof da, ac yr oedd greddf y siaradwr ynddo yn ei alluogi i werthfawrogi ystyr pob cyffyrddiad tebyg o apelio at y galon. "Pwy fuasai'n meddwl am wneud defnydd o gymhariaeth fel yna ond hwn a hwn?" "Pa bryd y clywsoch chwi yr apel yna yn cael ei chyfleu mewn dull mor ddeheuig?" "Pwy glywsoch chwi erioed yn diweddu pregeth yn y dull yna?" sef Robert Ellis Ysgoldy mewn Cyfarfod Misol yn gofyn cwestiwn ar ddiwedd pregeth, ac yna yn sefyll yn fud yn wyneb y gynulleidfa am rai eiliadau, ac ar hynny yn eistedd i lawr yn ddisymwth. Mewn ambell i seiat fe godai ei lais yn araf deg, yn uwch uwch, gan fwyneiddio wrth ymgodi, a byddai rhyw deimlad yn y lle megys oddiwrth awel esmwyth yn chwythu. Rhaid fod y pryd hwnnw yn Engedi ddeunydd seiat fwy effeithiol na chyffredin. Yr oedd Robert Ellis Ysgoldy adref yn gwrando ar John Jones, Llanllechid y pryd hwnnw, y Sul, Tachwedd 19, 1854. A dyma ei sylw arno: "Ychydig fwy o lafur a gwell manteision wnaethai y gwr hwn yn ben y gamp." Fe greffir fod y Sul hwnnw cyn diwygiad 1859, pan y cyffrowyd, mae'n ddiau, ddyfnder newydd o deimlad yn y pregethwr. Er hynny, fe arosai'r sylw yn wir am hyd oes. John Jones. Yr oedd ef y pregethwr mwyaf poblogaidd yn sir Gaernarvon ar ol symud Dafydd Jones. Ae lawer i siroedd eraill ac i'r Deheudir, ac nid yn anfynych am deithiau o fis neu chwech wythnos. Ac yr oedd wedi symud i sir Fflint yr 11 mlynedd olaf o'i oes. Nid teg, gan hynny, fuasai ceisio cymharu ei ddylanwad ef ar Arfon â phregethwr mor gartrefol a Dafydd Morris, dyweder, ac un a gafodd oes mor faith. Sicr ydyw fod yr argraff oddiwrth Dafydd Morris. ar Arfon, heb ddoniau swynol a phoblogaidd yn hollol, yn gryn lawer dwysach nag oddiwrth John Jones; ond o'r ochr arall, tra nad oedd cylch Dafydd Morris nemor fwy na hanner sir, oddieithr yn achlysurol, yr oedd cylch John Jones yn cynnwys tair sir arddeg Cymru a lliaws o drefi Lloegr. Eithr i bob hedyn ei gorff ei hun.

Am faddeuant y pregethai;
Am faddeuant llawn a hael,—
Fod maddeuant i'r pechadur
Gwaethaf, duaf, heddyw i'w gael.
"O, mae'n maddeu hyd yr eithar,"
Llefai,"O, mae'n maddeu'n awr." (Glaslyn).

Fe drefnwyd ymweliadau yn y dref yn ystod Awst a Medi, 1867. Y mae'r Parch. John Jones wedi cadw dyddlyfr o'i ymweliad ef. Ni roir amseriadau yn gyson. Rhoir yma rai enghreifftiau: "1867, Awst 1. Bum yn Nhanrallt [Siloh] yn cadw seiat. Penderfynwyd yn y seiat gael cyfarfod gyda'r plant bob wythnos. . . . Pregethais yn Glanymôr. Penderfynwyd yng Nglanymor, hefyd, gael cyfarfod gyda'r plant bob wythnos. . . . Bum drwy'r workhouse, a'r nos bum yn cadw cyfarfod gyda'r plant yng Nglanymôr. Ymwelais âg amryw deuluoedd ym Mountpleasant a arferai wrando yn Siloh, rai ohonynt yn ymyl gwrthgilio. Addawsant ddychwelyd. . . . Ymwelais â'r carchar. Yr oedd un carcharor wedi bod yn proffesu gyda'r Methodistiaid. Cefais ymddiddan âg ef am oddeutu hanner awr. Dangosai lawer o edifeirwch. . . . Teimlaf pe cawn fod yn foddion i adfer ond un at Dduw y byddai o werth annhraethol. Awst 16. Cyfarfod darllen gyda rhai mewn oed hyd 10 o'r gloch y nos. Awst 29. Yn yr Ysgol Frytanaidd. Yr athraw a'r athrawes yn foddlon i gymeryd plant gwir dlodion am geiniog yr wythnos. Awst 30. Ar hyd Mountpleasant yn eu hannog i ddan— fon eu plant i Siloh at gyfarfod y nos. Daeth 60 ohonynt ynghyd. Stryd Waterloo. Un yn darllen y Beibl ond yn hynod lesg o gorff. Dymunai gael gwneud coffa o farwolaeth. yr Arglwydd, oblegid tybiai nas gallai fyned i Engedi byth mwy. Yr ydoedd yn profi yn amlwg ei bod mewn cymdeithas aml â'i Harglwydd. . . . Ymddiddan ag un arall a addawai ddychwelyd ar yr amod i ni beidio â dweyd dim wrthi y noson gyntaf; ac felly y daeth. . . . Ymddiddan âg un arall hynod wael ers llawer blwyddyn. Perthynai i'r Anibynwyr. Adroddai'r geiriau,— Anghofiwyd fi fel un marw allan o olwg.' Teimlai nes wylo. Teimlai nes wylo.... Ymweled âg aelod o Foriah. Y mwyaf annuwiol a'r mwyaf meddw yn y dref yma oeddwn i, ond o drugaredd gwelais fy ffolineb. . . . Mae dyn yn greadur gwael, ond os caiff o Iesu Grist yn second wrth ei gefn fe'i gwneiff hi'n bur dda.' Tybiwn wrtho mai hen ymladdwr ydoedd. Bum yn ymddiddan â thri wedi eu diarddel o Siloh am feddwdod. Dywedai un,—' Yr wyf wedi bod yn crwydro o le i le fel colomen Noah, ond heb gartref: nis gallaf fod yn dawel nes dychwelyd yn ol.' Dywedai'r llall, Yr oeddwn yn teimlo fy ngliniau yn fy ngollwng wrth fynd allan nos Sul, ac os gwel Duw yn dda mi ddof yn ol.' Ac felly fu. Trwy'r workhouse. Cefais ymddiddan â'r hen chwaer, Catherine Williams. Dywedai ei bod yn cael popeth angenrheidiol er ei mantais i gael yr un peth angenrheidiol. . . . Ymweled â lodes wael yn y Bank, oedd mewn pryder am ei mater tragwyddol. Nid oedd erioed wedi bod yn proffesu crefydd. . . Ymweled â lliaws o gleifion yn perthyn i Benrallt, Tanrallt ac Engedi."

Cyflwyno tysteb i William Williams, sef anerchiad ac £16. (Drysorfa, 1875, t. 432.) Yn 1876 dechreuodd W. Hobley bregethu. Y flwyddyn hon fe gasglwyd at y ddyled £1,070, gan adael gweddill o £1,688.

Tachwedd 22, 1877, bu farw Richard Jones, yn 86 oed, yn flaenor yma er 1859, a chyn hynny yng Nghaeathro a Moriah. Gorchwyl bychan ganddo, ebe Dafydd Williams, oedd myned i Aberdaron, 40 milltir o ffordd, ar gefn ei farch, erbyn dechreu'r Cyfarfod Misol. Yr oedd ganddo atgofion am bregethwyr y rhan gyntaf o'r ganrif, ac arweiniai'r canu pan oedd Ebenezer Morris yn sasiwn Caernarvon. Soniai am yr oedfa honno ar hyd ei oes, megys pe bae yn fyw o flaen ei lygaid. Yn ysgrythyrwr campus. Byddai ganddo sylwadau pwysig yn ei gyfarchiadau, a byddai ei weddiau a'i gynghorion yn cael eu gwerthfawrogi yn y Cyfarfod Misol yr adeg yr arferai efe eu dilyn. Bu'n arwain y gân mewn lliaws o sasiynau yng Nghaernarvon. Deallai'r hen nodiant yn dda, ac yn ei amser goreu yr oedd yn lleisiwr rhagorol. Yn un o'r dirwestwyr cyntaf yn y wlad, a dioddefodd yn ei fasnach oherwydd ei bybyrwch gyda hi. Parhaodd yn athro ysgol hyd nes myned dros ei 83 oed, a dilynai bob moddion yn gyson, er mai ar ei ddwy ffon bagl yr ymlwybrai iddynt, gan gymeryd awr gron weithiau yn ei flynyddoedd olaf i wneud hynny. Paratoai yn ofalus ar gyfer ei ddosbarth hyd y diwedd. Byddai ef a John Jones y blaenor yn troi at ei gilydd, megys wrth reddf, gydag ambell sylw a'u gogleisiai mewn pregeth. Yr un pryd, fe fwynhae bob pregethwr o'r braidd, a chlywid pethau goreu y pregethau ganddo yn ei ymddiddan, neu ei weddi, neu ei gyngor yn y seiat. Byddai pethau go anarferol yn fflachio allan ohono weithiau ar weddi. Unwaith fe goffhae yr adnod, "Ac yntau a gymerth arno ei fod yn myned ymhellach," a thorrai allan, "Ië, Iesu mawr, cymeryd arnat yr wyt, er mwyn ein clywed ni'n gwaeddi, 'Aros gyda ni." " A phan ddigwyddai sylw felly, byddai eneiniad oddiuchod arno. (Goleuad, 1877, Rhagfyr 15, t. 5. Edrycher Caeathro.)

Yn 1877 dewiswyd yn flaenoriaid, John Davies (Gwyneddon) a Griffith Williams. Yn 1878 daeth Abraham Bywater yma o Jewin, Llundain, lle'r ydoedd yn flaenor, a galwyd ef i'r swydd yma.

Awst 11, 1879, bu farw Owen Jones yn 77 oed, yn flaenor yma er 1868. Bu'n flaenor yn Eifionnydd, Fflint a Môn. Gwr siriol, synhwyrol, o dymer dda, ac o argyhoeddiad crefyddol. Byddai'n llym wrth ddrwg, yn dyner wrth y person. Yn credu mewn cynnal disgyblaeth: wrth godi ei law wrth ddiarddel fe'i codai gyn uched ag y gallai, a dodai ei law chwith wrth fôn ei fraich dde i'w dal i fyny, ac yr ydoedd gyda'r olaf i'w gollwng i lawr. Os na wnae efe hynny bob tro, fe'i gwnelai weithiau. Diysgogrwydd ei syniad am angenrheidrwydd disgyblaeth a barai hynny. Dywedai yn gryf yn erbyn y regatta flynyddol yng Nghaernarvon. Yr ydoedd wedi byw ei hun gan mwyaf ynghanol gwlad, ac yn edrych ar y cyfryw bethau megys o bell; neu, yn naturiol, yr oedd yn rhydd oddiwrth surni a meddwl crebach. Wedi treulio ei oes fel amaethwr, fe gymerai ei ddameg yn awr ac eilwaith oddiwrth bethau gwlad. Siarad yn fyrr y byddai ac yn synhwyrol, ond pan ddisgynnai ar dro ar gymhariaeth wledig fe geid ganddo fyw- iogrwydd arabus, megys wrth ddisgrifio'r cywion bach yn nyth y robyn goch, yn agor eu pigau gyn lleted fyth ag y gallent, nes ymddangos megys fel na baent yn ddim ond pigau agored i gyd, lonaid nyth ohonynt, ar ddynesiad y tad neu'r fam aderyn gyda'r bwyd. Ni thraethai brofiad uchel: "y mae y gelynion yn fyw o hyd." Eithr fe gredid ynddo fel dyn da; ac ni byddai ei rybuddion yn pellhau nemor neb, canys fe wyddid fod ei amcan yn gywir, a'i fod yn ddyn diragrith. Sylwa Mr. William Roberts iddo ef ei gael bob amser â'i fryd ar lesau dyn ieuanc wrth gyfarfod âg ef. (Goleuad, 1879, Awst 23, t. 12. Edrycher Salem, Betws Garmon.)

Awst 1, 1880, yn 55 oed, bu farw Robert Roberts y Cross, blaenor er 1867. Brodor o'r dref. Pan yn gwneud sylw coffadwriaethol ar John Jones y blaenor yn y Cyfarfod Misol, fe ddarfu Mr. Evan Roberts ei gyferbynu â'r blaenor fu farw ddiweddaf o'i flaen, sef Robert Roberts, gan alw Robert Roberts y blaenor galluog a John Jones y blaenor da. Yr oedd Robert Roberts yn ddiau yn berchen meddwl naturiol grâff, cystal a'i fod wedi ei ddiwyllio yn ol ei fanteision. Yr oedd ganddo wyneb â chyffyrddiad o debygrwydd rhyngddo a Pascal, heb fod y bochgernau mor amlwg, ac heb fod y llygaid mor fawrion a goleu. Tuedd i ymesgusodi rhag siarad yn y seiat oedd ynddo, ac am hynny ni ofynnid iddo'n aml; ond pan wnae, fe deimlid ar unwaith ei fod yn olrhain ei bwnc fel bytheuad yn olrhain carw. Fe deimlid hynny yr un fath pan fyddai amgylchiadau wedi codi rhyw fater i sylw yn annisgwyliadwy. Sylwa Mr. William Roberts ar ei ddull cyson o godi pob pwnc i'r clawr ysbrydol, a nodir ganddo mai ei ddau air mawr fyddai "yr ysbrydol" a'r "tragwyddol." Metha gan Mr. Roberts ddeall pa fodd yr oedd mor dawedog yn y seiat. Olrhain mater y byddai fel athro ysgol. Ni ddangosodd ymroddiad neilltuol gydag unrhyw beth perthynol i'r achos hyd y gwyddys, er ei fod yn dangos gradd o ffyddlondeb gyda phob rhan o'r gwaith, yn neilltuol yr ysgol. Nid oedd yn ddyn cryf, nac yn feddiannol ar hoewder ac ynni, a thebyg fod hynny wedi llesteirio ei ddefnyddioldeb i fesur. Byddai'n wastad o bum munud i chwarter awr yn hwyr yn yr oedfa fore Sul; ond elai i'w le yn eithaf hamddenol ar bob pryd. Gwr tawel ydoedd, a hunanfeddiannol, ac anibynnol ei dymer, ac heb adael i'w deimlad redeg i ffwrdd gydag ef; ond er hynny yn llochesu gradd o dymer a nwyd allan o'r golwg, a ddeuai ar dro i'r golwg gyda phrofedigaeth go annisgwyliadwy. Edrydd Mr. Hugh Hughes (Beulah) fymryn o hanesyn am dano, a ddengys ei ddull cyffredin o gymeryd pethau. Digwyddodd iddo ar un tro gael ei ddewis i ddwy swydd ar unwaith, sef yn gynrychiolydd i'r cyfarfod ysgolion ac yn arolygwr yr ysgol. Nid oedd modd cyflawni'r ddwy, a gwrthododd yntau y swydd o gynrychiolydd. Yn y cyfarfod athrawon, dyna frawd â dawn bigog yn gwneud ymholiad,-Yr hoffai efe wybod pam yr oedd Robert Roberts yn derbyn y swydd o arolygwr yn hytrach na'r swydd o gynrychiolydd? Cododd yntau yn ei ddull mwyaf hamddenol, a thraethai yn ei ddull mwyaf tawel, mai am fod y naill swydd yn fwy anrhydeddus na'r llall. Yr oedd y dull yma oedd yn eiddo iddo, yn ei ffordd ef o fyned drwy'r peth, yn un tra effeithiol. Nid oedd teimlad yn eraill, neu hwyl mewn pregethwr, yn ymddangos yn cael nemor graff arno; ond yr oedd yn edmygydd trwyadl ar dreiddgarwch a disgleirni meddwl. Cerddodd i Frynrodyn i glywed darlith David Charles Davies ar y Beibl a Natur, a dywedai ei brofiad wrth ei gwrando ar ol hynny, sef ei fod ar y pryd braidd yn meddwl mai gwrando ar y duwiau yn rhith dynion yr ydoedd. Edrydd Mrs. Jane Owen (Stryd Garnons) am dano yn dweyd ei brofiad yn ddyn go ieuanc, sef y caffai efe ei hun weithiau wrth ddarllen yr Efengylau yn teithio gwlad Canaan gyda'r Iesu a'r disgyblion yn gynefin megys pe yn ei wlad ei hun. Gallai ddweyd sylw o'r fath gan roi arbenigrwydd ar y peth.

Mehefin 12, 1880, y bu farw Robert Lewis, heb fod yn llawn 61 oed, wedi bod yn aelod yma er 1859, ac yn pregethu hyd o fewn rhyw flwyddyn neu ddwy i'r diwedd. Bu yn lletya am rai blynyddoedd gyda Robert Thomas (Llidiardau), pan y preswyliai efe yn Ffestiniog, a chafodd cofiannydd Robert Thomas gryn lawer o'r defnyddiau ganddo ef. Yr oedd yn wr dymunol, tyner dros ben, gyda gwên garedig, lac, heb ddigon o'r gwenithfaen yn ei natur. Fel y tynnai at ei derfyn yr oedd yn achos o ofid iddo na wnaeth nemor mewn cymhariaeth gyda chrefydd y blynyddoedd diweddaf o'i oes. Ni feddai ar ddawn pregethu, er yr ystyrrid fod ganddo eithaf mater. Cerddor ydoedd o ran tymer a dawn a diwylliant, ac y mae iddo le pwysfawr ynglyn â chaniadaeth ei oes, ac yn enwedig yn Engedi, fel y ceir crybwyll eto.

Yn 1881 gwnawd yr ystafell dan y capel yn fwy cyfleus ac atgyweiriwyd y capel ar draul o £340 10s. Yn y cyfamser fe gynhelid y moddion yn y Guild Hall. Mehefin 14, 1882, penderfynu codi achos yn Henwalia.

Medi 16, 1883, bu John Jones y blaenor farw, yn 66 oed, ac yn y swydd yma er 1856, a chyn hynny yn Jerusalem (Bethesda). Brodor o Daliesin, sir Aberteifi. Arhosodd cydymdeimlad dirgelaidd rhyngddo â'r Deheudir a phobl y Deheudir am weddill ei oes. Daeth i Gaernarvon ynglyn â'i alwedigaeth o ffeltiwr yn 17 oed, a theimlodd bethau dwys dan weinidogaeth Dafydd Jones. Fe fywiogai dan bob cyfeiriad at enw Dafydd Jones byth wedi hynny, a byddai ar adegau yn adrodd ei ddywediadau. Symudodd i Engedi ar ei agoriad yn 1842, ond bu ym Methesda yn ystod 1845-56. Bu i Morris Jones "yr hen broffwyd," a'i frawd, John Jones y blaenor, le mawr a chynes yn ei feddwl fyth ar ol hynny. Ystyriai efe John Jones yn fwy a choethach dyn na Morris Jones, ac yr oedd ganddo edmygedd diderfyn braidd tuag ato. Fe lanwodd le mawr yn Engedi am dros chwarter canrif. Daeth yma y flwyddyn y bu farw Robert Evans, ac i fesur mawr fe gymerodd ei le ef yn yr eglwys. Nid oedd ei gylch o'r tuallan i'r eglwys mor eang â'r eiddo Robert Evans, na dim yn debyg; ond o fewn yr eglwys fe allesid ei gymharu âg ef ar rai ystyriaethau. Yr oedd dylanwad Robert Evans yn fwy llethol, a chanddo lawer o bleidwyr wedi ymddiofrydu i'w ddilyn, yr hyn nad oedd gan John Jones yr un fath yn hollol. Arweinydd oedd Robert Evans yn fwy, ond yr oedd John Jones yn ddylanwad mewn ffordd briodol iddo'i hun yn ddim llai nag yntau. Heblaw y daeth yn ben blaenor am rai blynyddoedd, efe oedd y cyhoeddwr ac arweinydd y gân am flynyddoedd eraill. Ond nid yw dywedyd hynny yn egluro natur ei ddylanwad ef ychwaith. Dylanwad oedd hwnnw yn treiddio drwy bob cylch ac i'w deimlo ar bob pryd a chan bawb, er yn ddiau gan rai yn fwy na'i gilydd. Nid damwain ydoedd iddo fod yn Ddeheuwr. Fe newidiodd acen y Deheudir yn o lwyr am eiddo'r Gogledd, ond cadwodd nodwedd y Deheudir yn o lwyr. Dyn agored, brwd, siriol ydoedd, yn agored weithiau i ddywedyd rhywbeth yn rhy fyrbwyll, ond yn wastad braidd yn gwasgar dylanwad iachusol, mwynhaol. Ar dro weithiau, gyda rhyw bwnc yn dwyn perthynas ag amgylchiadau allanol, neu drefniadau, fe godai i siarad gymaint a theirgwaith mewn seiat fawr, fel ag yr ydoedd Engedi y pryd hwnnw. Eithr y brwdaniaeth hwn, wedi'r cwbl, oedd sail ei ragoriaeth arbennig ef. Mewn erthygl goffadwriaethol iddo yn y Goleuad, fe ddywedir iddo gael ei eni yn y gwanwyn, ac mai tymor gwanwyn fu ei fywyd. Fel arweinydd y gân medrai ddeffro ysbryd canu, ond yr oedd yn fwy fel cyhoeddwr na chanwr, a medrai dynnu sylw pawb at y pethau y mynnai ef roi pwys arnynt, heb ymdroi gyda hwy, ond drwy edrychiad agored, siriol, ac awch ar y llais gyda'r pethau hynny. Deuai hynny i'r amlwg ynddo yn bennaf dim wrth gyhoeddi y ddau wr dieithr o'r Deheudir," a ddeuai drwy'r wlad y pryd hwnnw bob yn awr ac eilwaith. Fe deimlid eu bod hwy'n ddau, ac hefyd, yn arbennig, mai dau o'r Deheudir oeddynt. Wrth wneud yr hysbysiad hwnnw fe edrychai i lawr ac i fyny, fel un a wyddai y mwynheid clywed y peth gan y gynulleidfa yn gymaint ag y mwynheid ei ddweyd ganddo yntau. A safai rai eiliadau ar ol dweyd, i fwynhau sirioldeb yr holl gynulleidfa. Eithaf tebyg fod yno feirniaid oerion yn gwrando, ond ni wyddai mo'r ieuainc a'r sawl oedd hoff o'r newydd a'r dieithr ddim byd am danynt hwy. A'r hyn ydoedd efe wrth gyhoeddi'r "ddau wr dieithr o'r Deheudir," dyna ydoedd efe i fesur helaeth gyda phob gorchwyl, ac yn enwedig gyda holl waith yr eglwys. Dywed yr ysgrifennydd y cyfeiriwyd ato, pe wedi rhoi ei fryd ar hynny y gallasai, fe ddichon, fod wedi casglu cyfoeth, ond mai ei fryd ef yn hytrach oedd bod yn ddefnyddiol. Ac, mewn gwirionedd, yr eglwys oedd ei weithdy. Ni esgeulusodd ofalu am ei dylwyth, ond fe deimlai yn pwyso arno ymddiriedaeth uwch ac eangach. Yr eglwys oedd ei deulu, a'i deulu yn rhan o'r eglwys. Bu'n ffyddlon yn yr holl dŷ, llanwodd bob cylch, a hynny gydag ymroddiad llwyr a chysondeb difwlch. Ei briodoledd ydoedd y tynnai ei bresenoldeb sylw. Gwyddid ei fod ef yno. Gwylid ef yn gwrando, a gwrandawr awchus ydoedd agos bob tro. Yn ei flynyddoedd olaf, fe fyddai rhywbeth yn ymddangos fel yn pwyso ar ei feddwl weithiau, ac yn atal y gwrando awchus, disgwylgar. Ac yr oedd iddo ef fod felly yn rhwystr i eraill wrando fel y mynasent. Rhyngddo ef a'r pregethwr y rhennid. y sylw. Rhoe ebwch gyda sylw pwysig, codai ei ben yn uwch, neu troai gyda gwên foddhaus at yr hen Richard Jones, neu at Richard, Owen ac Evan Jones gyda'i gilydd ar ei ochr dde; ac yna fe fyddai'r sylw wedi cael ei lawn effaith rhwng y pregethwr ac yntau. Diau fod yno rai na sylwent hyd yn oed ar John Jones y blaenor, ond pwy gymerai sylw ohonynt hwy? Yn y seiat, os byddai yn y cynhulliad o gant a hanner neu ragor fachgen ieuanc adref am dro, ym mha gongl bynnag o lawr y capel y digwyddai fod, byddai John Jones wedi ei lygadu, a rhoe gyfle iddo i ddiweddu'r seiat. Y mae Mr. Hugh Hughes yn coffa sylw Mr. William Jones y blaenor, wrth adael Engedi am ysbaid yn ddiweddar, sef nad anghofiai efe byth mo'r noson y daeth gyntaf i Engedi, pryd y rhoes John Jones ei law iddo. Gwyddai John Jones sut i ysgwyd llaw, mewn amgylchiad o'r fath, yn well nag un o gant. A pha bryd bynnag y cyfarfu â gwrandawr heb fod yn aelod, os ceid peth ymddiddan go rydd, fe fyddai yno gymell cyn y diwedd i wneud proffes, a delid at hynny hyd nes llwyddid, neu i angeu oddiweddyd y cymhellydd neu'r hwn a gymhellid. Dywed yr ysgrifennydd crybwylledig am dano nad yw'n honni ei fod ef yn fawr, ac mai ei nodwedd oedd nid y mawr, ond y da. Feallai hynny, ac feallai, hefyd, nad oedd efe ym mhob ystyr yn nheimlad pawb yr hyn ydoedd yn nheimlad rhai, a'r rhan fwyaf, a'r rhan fwyaf o lawer. Pan anwyd plentyn John Foster, ei ddywediad ef ydoedd nad eiddunai iddo fod yn fawr, ond yn unig yn dda, ac mai o ddiffyg y da yr oedd y byd yn dioddef a than felltith. Ac yn amser John Jones nid oedd Engedi heb ddyn da yn yr ystyr a fuasai'n boddloni eidduniad John Foster i'w gyntaf-anedig. Nid rhyw gyffyrddiad o ysbrydolrwydd aruchel oedd ei nodwedd, a hwnnw, fel y gwelir ef weithiau, yn dod i'r golwg yn awr a phryd arall mewn modd a syfrdanai bob teimlad; ond daioni cyson, cartrefol, agos atom, hawdd nesu ato, bob amser i ddibynnu arno, a hwnnw'n ymwthio'n ddiymdrech, ond hyd eithaf ei allu, i bob cilfach ar lannau bywyd. (Goleuad, 1883, Medi 29, t. 9.)

Yn 1884 dewiswyd yn flaenoriaid, John Jones y fferyllydd a David Jones. Ym Mai, 1886, fe ymgymerodd John Thomas â gofal eglwys yr Aberffraw, wedi bod yma ychydig fisoedd, ar ol dychwelyd o Khassia.

Chwefror 10, 1886, bu farw'r Capten Evan Roberts, yn 77 oed, yn flaenor yma er 1849. Yr ydoedd wedi ei fagu yn hen gapel Penrallt. Y Capten ydoedd efe ym mhob man, yn yr eglwys yma fel ymhob man arall. Pan fyddid wedi penderfynu ymgymeryd â rhyw waith, ac y rhoid cymhelliad i'w gyflawni, fe geid ei anogiad cartrefol,—"'Rwan, boys bach, cydiwch ynddi." Byddai ganddo ar dro gymhariaeth forwrol, neu eiriau morwrol i gyfleu ei feddwl. Sonia Mr. Hugh Hughes (Beulah) am dano ynglyn â chasgl dydd diolchgarwch, yn cymharu Engedi dan ei ddyled i long ar lawr, yn aros am y spring teid, pryd y gwneid ymdrech arbennig i'w chael i ffloatio. "Yr ydan ninnau ar lawr—gadewch i ni wneud un effort gyda'n gilydd." Byddai yn ennill ei bwnc gyda'i symledd, ei gywirdeb, ei naturioldeb. Eithr talent i weithio gyda'r achos oedd ganddo ef, ac nid talent i siarad. Ac er iddo gyrraedd safle uchel fel capten, ac ennill ymddiried mawr, eto yn eglwys Engedi yr oedd ei galon. Llong marsiandwr y nef oedd Engedi iddo ef, a bu'n loyal i commands y Pen Capten.

Mawrth 10, 1886, bu farw John Edmunds yn 71 oed, ac yn flaenor yma er 1868, flwyddyn ar ol dod ohono i'r dref, ac yn Nhwrgwyn, Bangor, er 1855. Gwrthod ymgymeryd â'r swydd a ddarfu yn Engedi heb ei ddewis drwy bleidlais yr eglwys. Brodor o Dyddewi, Penfro, ydoedd, a dawn nodweddiadol Penfro oedd yr eiddo. Efe a John Jones yn eu tymor oedd y ddau flaenor amlwg yma, a rhoddai hynny rywbeth o naws y Deheudir ar Engedi yn y cyfnod hwnnw. Ceid rhai o bregethwyr y Deheudir, neu rai a fagwyd yn y Deheudir, yn amlach o'r herwydd, megys oeddynt hwy, Richard Lumley, Phillips Abertawe, (Dr.) Thomas Rees, David Charles Davies, Dr. Lewis Edwards, a lliaws eraill. Haws oedd cael y Dr. a enwyd ddiweddaf i Engedi nag i Foriah. Bu'r Parch. Morris Morgan a Homo Ddu (Wyndham Lewis) yn dod yma ac i Foriah am ddau Sul gyda'i gilydd am rai blynyddoedd, a mawr y gwerthfawrogid eu doniau amrywiol gan y ddau flaenor yn Engedi, cystal ag eraill. Ysgolfeistr oedd John Edmunds, ond daeth i Gaernarvon fel melinydd. Yr oedd naws yr ysgolfeistr ynddo o hyd, eithr nid mewn natur grebach y digwyddodd hynny gydag ef, ond mewn natur eang, lawn, ac mewn meddwl craff, llawn synnwyr, er rywfaint yn gyfrwys. Cafodd well manteision addysg na'r cyffredin o ysgolfeistriaid ei gyfnod ef, a dringodd yn uwch yn ei swydd. Meddai ar bob cymhwyster i'w wneud yn llwyddiant fel ysgolfeistr, a gwelid yr un cymhwysterau ynddo fel blaenor, gyda'r un llwyddiant. Meddai ar gynneddf fawr. Yr oedd yn awdwr amryw erthyglau yn y Gwyddoniadur, ac efe oedd awdwr yr Athrawes o Ddifrif, sef cofiant ei wraig gyntaf. Efe oedd cyhoeddwr y Cenhadon Hedd, sef y lluniau o brif bregethwyr y Corff yn 1857, y cyntaf o'r fath a'r goreu. Dengys y llen-lluniau hynny yn eithaf deg ei feddwl trefnus, ei chwaeth, ei graffter, ei gyfrwystra. Efe oedd yr arweinydd naturiol ym mhwyllgor y blaenoriaid. Ni fu yr un yn Engedi na'r dref i'w gystadlu âg ef ar bob golwg fel gwr pwyllgor. Meddai ar bob cymhwyster fel arweinydd yn y cylch yma, craffter mewn pethau amgylchiadol, craffter i adnabod dynion, dawn i draethu ei feddwl, pwyll, gochelgarwch, callineb, cyfrwystra. Y mae'r farn hon am dano fel gwr pwyllgor yn ffrwyth ym- ddiddan yn ei gylch yn y cysylltiad hwnnw à John Jones y fferyllydd. Yr oedd ei ddawn fel siaradwr yn ei amser goreu yn ogyfartal â'i ddawn fel arweinydd pwyllgor y blaenoriaid. Yn ystod ei flynyddoedd cyntaf yma yr oedd ei gyfarchiadau yn seiat nos Sul yn enwedig â swyn odiaeth ynddynt. Meddai ar bresenoldeb da, yn ddyn lled dal, llawn, gyda wyneb llawn â gwrid iach arno y pryd hwnnw, prydwedd cymesur, mynegiant deallus, synhwyrol, dymunol. Safai y pryd hwnnw yn syth yn ei le, gyda hunan-feddiant perffaith, a rhwyddineb dawn, ac ystwythter a pherseinedd yn ei lais clochaidd. Dawn y Deheudir: dawn Penfro oedd yma. Yr oedd yn hyfryd gwrando ar y llais ei hun, un funud yn toncio fel cloch arian, a'r funud nesaf, wrth orffen gyda'r pwnc hwnnw, a chyn dechre codi at y pwnc arall, yn meddalu ac yn ymlithro fel swyn hyd droadau dirgelaidd y glust. Yr oedd, dros ben hynny, ryw oslef yn y llais yn amlygiad o nodweddiad uwchraddol. Ac yn ben ar y cwbl yr oedd yno ireidd-dra ysbryd. Bu am ryw ysbaid yn arfer dyfynnu o ryw gylchgrawn Saesneg ag yr oedd yn amlwg ei fod yn cael maeth ysbrydol ynddo. Aeth ar ol hyn yn llai bywiog ei ysbryd, er yn meddu ar yr un profiad, ond eto mewn modd llai amlwg. Ac yn ei flynyddoedd olaf i gyd yr oedd anhwylder yn llesteirio bywiogrwydd ei ysbryd, er parhau ohono yn ffyddlon a defnyddiol a dylanwadol. Fe grybwyllir eto am ei waith pwysig ynglyn â'r ysgol i'r tlodion yn yr ysgoldy dan y capel. Nid oedd efe yn gyfartal â Robert Roberts mewn treiddgarwch meddwl, nac â John Jones mewn brwdaniaeth serchog, nac â Robert Evans mewn sel ymroddgar. Eto meddai ar radd dda o'r pethau oedd ym mhob un ohonynt hwy, ac ar radd helaethach o rai pethau na feddiannid gan neb un ohonynt hwy. Ar y cyfan, fel allesid meddwl am ei ddylanwad wedi bod yn fwy nag ydoedd, ac yn fwy nag eiddo neb arall yn yr eglwys. Er ei fod yn flaenor ffyddlon a gweithgar, yn meddu ar amrywiaeth o ddoniau a chyrhaeddiadau, yn wr o urddas a dylanwad, ac o gymeriad dilychwin, eto rhywbeth oedd yn Robert Evans yr oedd ganddo ef leiaf o hono, sef ryw ynni tanbaid neu sel ysol, llwyr ymroddedig, a hynny a barodd na chymerodd efe mo'r lle blaenaf i gyd ymhlith holl flaenoriaid y dref. (Goleuad, 1886 Mawrth 20, t. 12, gan David Jones. Edrycher Twrgwyn.)

Hydref 5, 1886, penodi Evan Jones, Nath Roberts, Owen Jones, John Williams i ofalu am yr achos yn Beulah. Gorffennaf, 1887, penderfynu sefydlu eglwys yn Beulah, ac i Engedi gymeryd £373 6s. 3c. o'r ddyled. Yng nghofnodion Cyfarfod Misol Rhagfyr 14, fe ddywedir fod Engedi yn ymgymeryd â bod yn gyfrifol am £400. Dyna'r penderfyniad diweddarach. Yr un flwyddyn, penderfynu cynnal seiat blant ar wahan.

Mehefin 6, 1888, y Parch. Evan Roberts yn rhoi gofal yr eglwys i fyny, wedi bod y bugail cydnabyddedig cyntaf arni am 13 o flynyddoedd, gan dderbyn galwad oddiyma i Ddyffryn. Ardudwy. Cyn iddo ef ddod yma amheuid gan liaws a allasai gweinidog sefydlog ddal ei dir fel pregethwr. Cyflawnodd efe'r disgwyliadau uchaf. Yn ei amser ef, yn 1878, fe ail-gychwynnwyd y gymdeithas lenyddol. Arweiniodd gyda chlirio'r ddyled, gan fod ei hun yr haelaf o bawb. Rhoes ynni newydd yn rhai o ddosbarthiadau canol yr wythnos. Ar ei ymadawiad, cyflwynwyd iddo amryw anrhegion mewn cyfarfod lluosog iawn, Mehefin 11.

Medi 16, 1888, rhoi galwad i'r Dr. John Hughes. Ionawr 14, 1889, cynhaliwyd y cyfarfod croesawu, pryd yr oedd ymhlith eraill Owen Thomas a Herber Evans yn bresennol. (Goleuad, 1889, Ionawr 24, t. 4.)

Chwefror 14, 1889, bu farw Abraham Bywater, yn flaenor yma er 1878. Yr ydoedd mewn oedran yn dod yma. Gwr tawel ymhob ystyr. Y gair am dano yng nghofnodion y Cyfarfod Misol ydyw: "Ffyddlon am nifer maith o flynyddoedd, a nodedig am ei dduwioldeb."

Yn 1890 atgyweiriwyd y capel a rhowd organ ynddo. Gwnawd addurnwaith anarferol ar y nenfwd, fel y cydnabyddid, ebe Mr. David Jones, ei fod y capel harddaf o'r tu fewn a feddai'r Corff. Awyrwyd y capel ar gynllun newydd. Rhowd rails haearn newydd o'i flaen oddiallan. Gwnawd gwelliantau yn yr ystafelloedd dan y capel. Tachwedd 20 cafwyd yr agoriad ynglyn â'r organ. Penodwyd Miss Thomas (Bryngwyn) yn chwareuydd. Traul yr organ, £620. Yr holl dreuliau, £2,315.

Yn 1892 dewiswyd yn flaenoriaid Robert Williams a William Jones. Y flwyddyn hon cynhaliwyd cyfarfod y Jiwbili, Gorffennaf 24-5. Sul a Llun pregethwyd gan y Prifathro Prys a'r Dr. Hugh Jones Nerpwl. Nos Lun rhowd hanes dechreuad yr achos yng Nghaernarvon gan W. P. Williams a'r hanes yn Engedi gan Owen Roberts. Rhowd, hefyd, bregeth gan y Prifathro. (Goleuad, 1892, Awst 11, t. 12.).

Yn 1893 bu farw Griffith Williams, yn flaenor er 1877. Yn wr o barch ac ymddiried. Yn siaradwr rhydd, synhwyrol. Gwasanaethodd yr achos yn ffyddlon ac effeithiol. Gwnawd coffa am dano yng Nghyfarfod Misol Awst 14. Yn 1893 y dechreuodd John Garnons Owen bregethu. Yn 1899 symudodd i Lanarmon yn Iâl.

Hydref 23, 1893, bu farw'r Dr. John Hughes yn 66 oed, ac wedi bod yn fugail yr eglwys prin bum mlynedd. Ceir y sylw yma yng nghofnodion y Cyfarfod Misol: "Cyfarfod o brudd-der mawr oedd y cyfarfod hwn, am fod Dr. Hughes wedi ymadaw â ni er y Cyfarfod Misol diweddaf. . . . . Cymerai ei le fel tywysog yn ein plith. Edrychem i fyny ato fel gwr o gyngor, fel arweinydd medrus, doeth a diogel, fel perchen meddwl cryf, gwybodaeth eang, a dawn neilltuol i gyfleu ei feddwl mewn ysgrifeniadau, ac fel un a fyddai drwy ei weinidogaeth gref a disglair yn rhoddi urddas nid yn unig ar bulpud y cyfundeb yn Arfon, ond ar bulpud Cymru oll." Fe roes argraff nodedig ar Gymru yn ei amser. Yr oedd yn pregethu yng Nghymdeithasfa Llangeitho yn 1859, pryd y gwrandewid arno gan Vicar Hughes Tregaron, un o brif ddynion yr Eglwys yng Nghymru yn y ganrif. Nodwyd ef allan y pryd hwnnw gan y Vicar fel prif bregethwr Cymru, barn y dywedir iddo ei choledd hyd y diwedd. (Lladmerydd, 1893, t. 360.) Adroddai ef ei hun wrth Alafon fod y Dr. Lewis Edwards yn rhyw ymddiddan yn ei nodi ef allan fel pregethwr mwyaf barddonol Cymru y pryd hwnnw. "Mi synnwch glywed," ebe fe wrth adrodd y peth. Diau y swnia y farn honno yn ddierth i ddarllenwyr yn unig o'i bregethau, ond ni swniai mor ddierth i rai o'i wrandawyr. Mewn sylw coffadwriaethol arno galwai Thomas Charles Edwards ef y gwr blaenaf yn y cyfundeb mewn amseroedd diweddar. Mewn rhai mannau yn unig y mae ei ysgrifeniadau yn cynnal i fyny y syniad uchel cyffredinol am ei alluoedd, canys fe edrychid arno nid yn unig yn berchen meddwl cryf, a diwylliant, ond yn feistr, hefyd, ar iaith lawn, ddisgrifiadol, ardderchog. Yn ei ddisgrifiad o Gyfarfod Misol Môn yng nghofiant William Roberts Amlwch, fe'i gwelir ar ei oreu fel ysgrifennydd. Pe buasai ei bregethau wedi eu cymeryd o'i enau ef ei hun ar ol iddynt lawn addfedu yn ei feddwl hwy darllenasent yn well o gryn lawer yn ddiau. Eithr, wrth ystyried, fe ganfyddir fod ei ragoriaeth arbennig yntau yn gorwedd yn gymaint a dim mewn presenoldeb, pwyslais, ireidd-dra ysbryd, urddas mewn ysgogiad ac yn nhôn y llais ac yn netholiad y materion a'r geiriau. Fe gyfrifid ei ddyfodiad yma gan yr eglwys ei hun yn anrhydedd arni, a llanwodd yntau y disgwyliadau uchel. Fe gafodd gyfleustra go deg i roi ei gallineb mawr mewn llawn arferiad, a rhwng ei gallineb a'i urddas personol, fe hwyliodd ymlaen rhwng trobwll a chreigiau yn ddiogel, dan lawn hwyliau, a chyda llawenydd ar fwrdd y llong. Eithr Dr. Hughes Nerpwl y pery efe i fod yn bennaf, er cyrraedd o'i rawd i'r pen rhwng hen gastell Caernarvon a hen eglwys Llanbeblig.

Mai 13, 1894, rhoi galwad i W. R. Jones (Goleufryn). Dechreuodd yntau ar ei waith yma heb gyfarfod croesawu, y Sul, Tachwedd 1. Hydref 22, 1895, dewis yn flaenoriaid W. J. Williams, J. J. Williams. Galwyd yn flaenor, H. J. Hughes, a ddaeth yma o'r Ceunant. Yn 1894 derbyniwyd Evan Evans i'r Cyfarfod Misol fel pregethwr. Symudodd oddiyma yn 1896 i Weston, Trefaldwyn. Yn 1899 symudodd y Parch. D. R. Griffith yma o Ryl.

Bu William Williams farw Tachwedd 12, 1896, yn 59 oed, wedi bod yn pregethu er Mai, 1865. Mae ei enw i lawr yn llyfr cofnodion y Cyfarfod Misol, ymhlith y gwyr ieuainc oedd yn y Bala (yng ngholeg Bangor y bu ef), a gelwir ef yn William Williams Caernarvon. Tebyg, gan hynny, mai yn 1865 y daeth yma o Lanberis, a rhaid mai yno y dechreuodd bregethu. Ysgolfeistr ydoedd yno, ac yn 1866 yr oedd yn ail-feistr yn ysgol ramadegol John Evans, M.A., wedi hynny o Groesoswallt. Fel ysgolfeistr yr oedd yn dyner a gofalus, gyda gwên dyner ar ei wyneb pan wneid camgymeriadau go ddigrifol gan y bechgynnos dan ei ofal. Ar ol hynny gweithredai fel clarc. Ni pherthynai iddo mo ddull nodweddiadol yr ysgolfeistr, ond yn hytrach i'r gwrthwyneb, a cheid ef bob amser yn wr tyner, yn hytrach yn encilgar, heb wneud yr ymddanghosiad lleiaf o hynny chwaith, ac heb amcanu at y gradd lleiaf o awdurdod dull. Ond er yn wr tawel, diymhongar, nid elai neb fyth yn hyf arno. Nid ymyrrai à mater neb, a thebyg na chymerodd neb arno ymyrryd â'i fater yntau. Yr oedd gradd o ddirgelwch ynddo yn hynny: yn gwbl ddiymhongar a thawel a thyner a pharod i ymwrando â phawb, yr oedd o'i ddeutu yr un pryd ryw awyrgylch a'i diogelai rhag tramgwydd oddiwrth yr hyf a'r gor-siaradus. Feallai, wedi'r cwbl, mai naws yr ysgolfeistr ydoedd hynny ynddo. Gwr dan yr uchter cyffredin ond yn fwy o gwmpas na chyffredin, gyda wyneb llawn, cymesur, tawel-feddylgar. Ni lywodraethid mono gan dymerau ac anwydau, ac ni welid ynddo fympwyon na nwythigrwydd. Gwr gwastad ydoedd: cerddai yn wastad, mewn llinell union, nid fyth yn gyflym, nid fyth yn araf, oddigerth fel yr arafodd yn ei flynyddoedd olaf. Ni thramgwyddai fyth ar air na gweithred. Yn y seiat nid elai ef i'r llawr i ymgomio â'r cyfeillion yno; tebyg na feddyliwyd erioed am ofyn hynny iddo, neu o leiaf am bwyso hynny arno. Eithr fe siaradai pa bryd bynnag y gofynnid iddo, a gofynnid iddo yn amlach amlach fel y cerddai'r blynyddoedd; ac yn ddieithriad fe roddai ffrwyth meddwl wrth lefaru. Fe gymerai ei amser i draethu, ond ni fyddai yn rhy faith mwy nag y byddai'n rhy fyrr. Byddai'r ysglyfaeth dan ei ewin bob amser. Heb arabedd na ffansi na chrynoder diarhebion, fe olrheiniai'r pwnc yn ddeheuig, yn fanwl, yn ymresymiadol, gyda chwaeth ddifeth, ac i amcan ymarferol buddiol, er yn fwy athrawiaethol ei duedd nac ymarferol. Yn y seiat yr oedd yn siaradwr eithaf rhwydd, heb ddim yn tynnu oddiwrtho, ond yn y pulpud nid ymddanghosail mor ddilyffethair. Yno yr oedd pwys y bregeth ei hun, a phwys y gwaith, yn hytrach yn llesteirio'r rhyddid angenrheidiol i feistr y gynulleidfa. Eithr fe fyddai'r bregeth yn wastad yn gyfansoddiad gofalus, ac fel y dywedai Henry Rees am Charles o Gaerfyrddin a John Thomas Aberteifi, y gallesid dywedyd am dano yntau, sef fod ei bregethau yn ebran pur wedi eu nithio â gwyntyll ac â gogr. Bu ganddo ddosbarth meibion ganol wythnos am flynyddoedd, a dosbarth merched wedi dyfod y Parch. Evan Roberts yma, y mwyaf llwyddiannus, debygir, ar y cyfan, a fu yma unrhyw adeg. Tystia Mr. William Roberts i ragoriaeth y dosbarth meibion hefyd. Fe geid yr ymdriniaeth bob amser yn drwyadl, erbyn y byddai'r athro wedi dwyn y drafodaeth i ben; a sicrheid llwyddiant y dosbarth gan bwyll, arafwch, deheurwydd a thrylwyredd yr athro ei hun. Bu'n efrydydd diwyd ar hyd ei oes. Athroniaeth oedd ei brif faes, ac yr oedd ganddo gasgl anarferol dda o lyfrau yn y gangen honno. Darllenai lyfrau o nodwedd De Quincey mewn llenyddiaeth gyffredin.

Bu farw W. R. Jones (Goleufryn), Gorffennaf 11, 1898, yn 58 oed, wedi bod yn weinidog yma ychydig dros dair blynedd ac wyth mis. Daeth yma gydag enw fel pregethwr, ac enw mwy fel llenor. Yr oedd ei brif waith fel llenor eisoes wedi ei gyflawni. Rhoe fynegiad mynych, tra bu yma, i'w ddyhead am fod yn rhydd oddiwrth ofal eglwys, mewn rhan er mwyn ei iechyd, ac mewn rhan, debygid, er mwyn ymroi yn fwy i waith llenyddol. Yr oedd ol ei ymroddiad i lenyddiaeth yn amlwg ar ei bregethau, mewn iaith lawn, ddisgrifiadol, ac yn neheurwydd ei gyflead o'i fater. Traddodai yn rhwydd a chyflym, heb nemor bwyslais; ond fe weuai ei fater ynghyd cyn esmwythed a we pryf gop, ac â llawer o'r un cywreinrwydd. trefnus, gyda'r llygad oll-chwiliol yn syllu allan o'r ddirgelddôr. Yr un oedd ei ddawn fel llenor, ond dichon fod glud y wê yn amlach yn dal y pryfed asgellog yn yr ysgrif nag yn y bregeth. Rhoes ei fryd ar ragori fel llenor cystal ag fel pregethwr, a llwyddodd yn y ddau gyfeiriad, gan wneud y llenor yn wasanaethgar i'r pregethwr, a'r pregethwr i'r llenor. O'r ddau yr oedd yn ddiau yn fwy amlwg fel llenor. Nid oedd ei deimlad mewn pwyllgor yn gymaint dan ei reolaeth ag eiddo'i ragflaenydd, ond llwyddai i wneud ei waith fel bugail yn effeithiol; ac yn y cymeriad yma yr oedd megys dau, gan fod ei briod. yn ddyfal a medrus tuhwnt i'r cyffredin mewn ymweliadau â'r gwahanol ddosbarthiadau yn y gynulleidfa, ac mewn rhai cylchoedd cyhoeddus, megys gyda dirwest. Ond megys y dywedwyd am eraill yn yr eglwys hon, felly am dano yntau, fe erys ei goffadwriaeth yn fwy arbennig ynglyn âg eglwysi eraill, a Chyfarfodydd Misol eraill. (Goleuad, 1898, Gorffennaf 20, t. 9, 10. Drysorfa, 1898, t. 363, 529; 1899, t. 92. Cymru, xv. 184.)

Mor hyfryd esgyn Pisgah oes—
A'r Bryn yn wyn dan wawl y Groes! (J. T. Job).

Yn 1899 rhowd galwad i'r Parch. Ellis James Jones, M.A., a chadarnhawyd yr alwad yng Nghyfarfod Misol Hydref. Daeth yma o Manchester.

Yn y bore y cynhelid yr ysgol ar y cyntaf. Dywed Dafydd Williams fod yr ysgol, ar ol ei chael yn y prynhawn, wedi cyn— yddu yn ddirfawr, a bod pob rhan o'r gwaith o hynny ymlaen wedi myned i wisgo gwedd gynyddol a hapus. Parhaodd dosbarth John Roberts y paentiwr o ddechreu'r achos hyd ddiwedd ei oes ef yn 1890, a bu am gyfnod o rai blynyddoedd, o leiaf, yn ddosbarth lluosog a phwysig o ddynion. Bu gwedd lewyrchus ar yr ysgol am gyfnod maith. Yr oedd y rhif y Sul olaf o 1873, gan gynnwys ysgol y seler, yn 622. Agorwyd ysgol Sul yn y seler i dlodion y gymdogaeth yn fuan ar ol agoriad y capel. Bu cangen fechan ohoni mewn ty yn Wesley Street am beth amser. Ar ddyfodiad John Edmunds i'r dref yn 1867 fe ddechreuodd weithio gyda'r ysgol hon, a gwnawd ef yn fuan yn arolygwr, a pharhaodd yn y swydd honno hyd. derfyn oes yn 1886, ac i'w arweiniad a'i ymdrechion ef yn bennaf y priodolir llwyddiant yr ysgol o'r pryd hwnnw ymlaen. Ionawr 1, 1886, cyflwynwyd iddo anerchiad yn cydnabod ei lafur diball gyda'r ysgol. (Goleuad, 1886, Ionawr 9, t. 10.) Dywed Mr. Hugh Hughes fod ol gwaith John Edmunds ar liaws yn y dref heddyw. Clywodd ef fechgyn yn y milisia, llongwyr, ac eraill yn cydnabod eu rhwymedigaeth iddo. Cyfnerthid ymdrechion John Edmunds yn fawr gan un fu'n ysgrifennydd yr ysgol am gryn ysbaid, sef J. D. Bryan, un o'r Brodyr Bryan yr Aifft. Yr ydoedd ef yn wr gweithgar a defnyddiol, a dangosodd yr ysbryd hwnnw'n arbennig ynglyn â'r ysgol hon.

Rhagfyr 13, 1893, penderfynwyd symud ysgol y seler i Marc Lane. Yr oeddid wedi dechre gwaith cenhadol ym Marc Lane cyn hynny. Dyma ddywed Mr. John Jones ar hynny: "Thos. Williams y saer, Hugh Jones a Robert Barma (Moriah) a gychwynnodd ym Marc Lane, mi gredaf mai yn 1857. Cynhelid ysgol yn yr awyr agored yn y cowrt o flaen. y tai. Yn y man cymerwyd ty i gynnal yr ysgol ynddo. Pan dorrodd diwygiad 1859 allan, fe gymerwyd y rhes tai, a thynwyd y gwahan-furiau i lawr, fel yr oedd yn ystafell hirfain. Credaf mai Hugh Pugh y Bank a Robert Williams Brunswick. Buildings, aelodau yn Castle Square, a drefnodd adeiladu ysgoldy yn 1877. Credaf yn sicr iddynt golli'r arian. Engedi oedd yn danfon "cyfeillion y bore" yno. Gweithiodd Mr. Pugh yn egniol iawn am lawer o flynyddoedd gyda'r achos ym Marc Lane. Deuai Robert Barma, Owen Williams Ty'n-llan a Mrs. Williams Penllyn o Foriah." Codwyd ysgoldy Siloh bach gan Moriah yn 1856, ond aelodau o Engedi wnelai fwyaf yno, a hwy yn bennaf fu'n sefydlu'r eglwys yn 1859. Bu Robert Evans, Capten Evan Roberts, Griffith Williams yr asiedydd, Thomas Williams Heol y Capel, yn ymroddgar gyda chychwyniad yr ysgol yn Siloh bach a Marc Lane. Brodyr o Engedi, ebe Mr. John Jones, a sefydlodd yr ysgol Sul yn y tloty.

Dyma adroddiad ymwelwyr 1885 â'r ysgol: "Tachwedd 1. Ysgol drefnus a gweithgar, yn meddu swyddogion diwyd ac effro. Heb ond un arolygwr, gafaelai yr holl ysgol fawr hon yn ei gwaith mewn byrr amser. Yr athrawon i gyd. yn bresennol namyn un. Dosbarthiadau y plant yn rhy luosog, oddieithr i gynllun yr ysgol ddyddiol gael ei fabwysiadu. Darllen deallus ac atebion parod gan yr ieuenctid. Y rhai mewn oed yn gwneud ymdrech i gloddio i gyfoeth y gair. Y dosbarthiadau o rai mewn oed yn addurn i'r ysgol. Cyfrifon trefnus. Canu effeithiol. Seler Engedi. Hydref 25. Rhif, 109, tua 90 o'r nifer yn blant tlodion, amddifad o bob manteision crefyddol eraill. Addysg o'r fwyaf effeithiol. Yr ysgol i gyd yn ei lle cyn amser dechre. Yr ymddygiad yn ystod y gwasanaeth dechreuol yn ganmoladwy. Gafaelid ar unwaith yn y gwaith heb golli munud i'r diwedd. Arolygiad medrus, ac athrawon â'u holl enaid yn y gwaith. Y plant lleiaf mewn ystafell ar wahân, a dysgir hwy ar gynllun yr ysgol ddyddiol. Dosbarthiadau darllen da. Canu swynol. Mantais ar yr ysgolion eraill mewn offeryn. S. R. Williams, John Hughes." "Marc Lane. Ysgol genhadol, gyda brodyr a chwiorydd o Foriah ac Engedi yn cynorthwyo, ac yn gweithio'n ddifefl. Aelodau'r ysgol o bob plaid grefyddol, a rhai heb fod o unrhyw blaid. Dros gant yn bresennol. Rhai yn darllen yn lled dda. Y dosbarthiadau eisieu eu graddoli'n well. Mwy nag arfer o'r athrawon yn absennol y Sul yr oeddem ni yma. Nid yw'r ysgol wedi mabwysiadu'r cynllun safonol, ac nid hawdd gwneud gan gyfyngdra lle. Gweithrediadau trefnus. Llafur gyda dysgu allan. Mae yma lais at Engedi a Moriah, Deuwch drosodd a chynorthwywch ni. John Owen (Nazareth), William Davies (Llanrug)."

Fel arweinwyr y gân fe enwir Richard Humphreys, Owen Griffith y cyfrwywr, Rhys Jones yr asiedydd, Cadwaladr Williams, John Jones, John Jones (Druid), Evan Jones (Beulah wedi hynny), W. J. Williams. Bu canu campus, a chôr rhagorol, yma am flynyddoedd dan arweiniad Richard Humphreys. Dywedir yng Nghofnodion y Gymdeithas Lenyddol fod y canu wedi myned yn isel ac anhrefnus yma cyn dyfodiad Robert Lewis i'r dref yn 1857 [1859], a'i fod ef wedi achosi diwygiad trwyadl ynddo, ac y magodd liaws o gerddorion medrus yn y gynulleidfa, fel yr enillodd y canu sylw cyffredinol. Sylwir, hefyd, gan Mr. David Jones y bu iddo sefydlu dosbarthiadau canu ar ganol wythnos yn 1861. El Mr. Jones ymlaen: Cychwynnodd gyda dysgu'r Hen Nodiant, ond yn y misoedd hynny daeth cyfundrefn y Sol-fa i sylw yn Lloegr, a gwelodd yntau ei symlrwydd, ac ymroddodd i'w hastudio; a buan iawn y darfu iddo ei meistroli yn y wedd oedd arni y pryd hwnnw; ac iddo ef y perthyn yr anrhydedd o ddwyn y nodiant yma i sylw gyntaf yng Ngogledd Cymru; ac yng nghapel Engedi y cymerodd hynny le yn y blynyddoedd 1861-2. Ymunodd lliaws o'r bobl ieuainc â'r dosbarthiadau. Y ddau a lwyddodd gyntaf i ennill y dystysgrif elfennol oedd John Jones, mab Owen Jones Tyddyn llwydyn, a John P. Jones, mab J. P. Jones paentiwr, a phenodwyd y ddau hyn yn is-athrawon, i ofalu am y dosbarth ieuengaf. Y rhai cyntaf mewn trefn i ennill y dystysgrif ganolradd oedd, Stephen Jones, Evan Jones, John Jones (Druid), David Jones (Llys Arfon). Gadawodd y llafur hwn gyda'r canu ei ol ar y canu cynulleidfaol, a pharhaodd yr unrhyw lafur am flynyddoedd." Dewiswyd W. J. Williams yn arweinydd am bum mlynedd yn 1881, ail-ddewiswyd yn 1886, a pharhaodd yn y swydd dros ystod tymor yr hanes hwn. Sylw Mr. David Jones arno ydyw mai efe oedd y galluocaf fel cerddor a fu yn y dref.

Bu seiadau nodedig yn cael eu cynnal yn Engedi. Mynn Mr. John Jones (Druid) fod pobl dduwiolaf Moriah yn o lwyr wedi dod yma yn 1842, a dywed y byddai John Owen y marsiandwr coed, ac yntau'n aelod ym Moriah, heblaw cymeryd sêt yma, yn dod yn aml i'r seiat er mwyn y wledd a gaffai yma. Dywed Mr. John Jones y byddai Dafydd Jones yn od- iaethol gyda'r hen saint hyn. Am rai blynyddoedd, fel y crybwyllwyd, rhowd gwasanaeth gwerthfawr yn y ffordd hon gan Daniel Jones, Dafydd Davies yr exciseman a Dafydd Morris. A gwŷr yn meddu ar ddawn neilltuol yn y seiat oedd John Jones y pregethwr a Dafydd Williams. Feallai nad yw'n ormod dweyd fod arbenigrwydd neilltuol yn perthyn i seiadau. Engedi yn ystod, dyweder, y chwarter canrif cyntaf o'i hanes. Fe ysgrifennwyd cofnodion helaeth o'r seiadau hyn dros ysbaid, feallai, 30 mlynedd, gan Ellis Jones yr argraffydd, mab i'r geiriadurwr o'r un enw; ond fe'u llosgwyd gan berthynas, neu fe fuasent nid hwyrach yn gofnodiad cwbl arbennig o'r seiat yng Nghymru. Y mae gan Mr. David Jones rai briwsion o atgof. Yn yr hen gapel tuag 1865 yr oedd John Roberts Tai-hen yn pregethu ar y lleidr ar y groes, a chafodd oedfa effeithiol. Yn y seiat ddilynol yr oedd Dafydd Williams yn holi prof- iad. Aeth at y Capten John Evans St. Helen. "Wel, John Evans, be' sy ganddoch 'i?" "Wel," ebe'r Capten, "mi fuaswn yn leicio cael mwy o amser i wneud fy mhac na gafodd y lleidr ar y groes." Yr oedd yr ateb yn disgyn yn annisgwyliadwy, ac yn fwy effeithiol oddiwrth gapten llong, a chan y dywedwyd ef gyda theimlad, fe gynyrchodd argraff gofiadwy. Ymesgusodai Mr. David Jones am adrodd yn ei gylch ei hun. Eithr fe ddywed fod y Dr. Hughes yn pregethu yn oedfa'r bore yn y Sasiwn yng Nghae'r Friars ar yr awydd yn Nuw am achub pechadur gyda dylanwad neilltuol iawn. Danghosai fel nad oedd yr awydd ingol mewn proffwydi ac apostolion a gweision Duw drwy'r oesau am achubiaeth eu cyd-ddynion yn ddim ond dafn yn ymyl y môr oedd yn Nuw. Ac yna fe dorrai y pregethwr allan ei hun yn yr olwg ar fawredd awydd y Duw mawr a chyndynrwydd mawr pechaduriaid, "O na redai'r Iorddonen i fy mhen-mi wylwn hi bob dafn!" Ac ebe fe ymhellach, "Gwell ganddo wneud pob peth gyda thi na'th ddamnio." Dyna oedfa fawr bywyd Mr. David Jones. Adroddai am dani yn y seiat, a'i brofiad ei hun wrth wrando, a dywed y torrodd John Jones y pregethwr allan i wylo. Bu son am y seiat honno. Dywed Mr. Jones yr aeth efe o'r pryd hwnnw allan i brofiad o ddealltwriaeth gwell nag o'r blaen ai' Dad Nefol.

Y mae gan Mr. John Jones engreifftiau o seiat brofiad. Dafydd Morris yn gofyn profiad Catrin Jones Chapel Street. "Be' sy gynoch chi heno, Catrin Jones." "Meddwl yr ydw'i ers dyddiau bellach am y wraig honno yn dweyd ynddi ei hun, Os caf yn unig gyffwrdd â'i wisg ef, iach fyddaf." "O, felly'n wir, rhyfeddu yr ydachi yn ddiameu, fel finnau o'ch blaen chi ddegau o weithiau, at fawredd ei ffydd hi yntê?" "Nage wir, dotio ato fo yn tynnu ydw'i." "Be' 'dachi'n ddeud, Catrin Jones?" "Dotio ato fo yn tynnu. 'Doedd fawr o gamp i'w ffydd hi-cael honno yn y tynnu roedd hi." Dafydd Morris wedi cael y touch, ac yn dechre gwaeddi, "Glywchi, mhobol anwyl i? Y mae Catrin Jones wedi cael gafael ar rywbeth gwerth cnoi cil arno heno,-ydi reit siwr ichi. 'Does rhywbeth nobl yn yr hen grefydd yma,- Dotio ato fo yn tynnu!' Tynnwr heb ei fath ydyw hwn-'a dynnaf bawb ataf fy hun.' Y mae'r Pabyddion, druain, yn cadw rhyw lain o frethyn mewn glass case yn Rhufain yna, ac yn taeru mai darn o fantell sanctaidd y Gwaredwr ydyw. Nonsans i gyd! Cadwch 'i'ch hen regsyn bregus i chwi'ch hunain, y ffyliaid gwirion! Dyma odreu'r fantell yn llenwi'r lle yma heno yn ddi-ddowt i chi'dotio ato fo'n tynnu!' Closiwn ato, mhobol anwyl i!—mi wranta i y daw rhinwedd allan ohono ond inni gyffwrdd yn unig â'i hem hi. Mentrwch ato, mi fendiwn i gyd fel yr ydan ni yma!" Yr oedd Dafydd Jones ers meityn wedi codi ar ei draed, ac yn sefyll wrth y ddesc fach yn y sêt fawr, ac yn chwerthin ac yn wylo yr un pryd. Dro arall, Dafydd Jones yn holi Jinny Thomas. "Wel, Jinny Thomas, be' sy gynochi heno ar eich meddwl?" "Synnu a rhyfeddu rydw'i at yr Hen Lyfr yma, yn deud fy hanes mor dda wrtha'i." "Fydd o'n deud wrthachi y'ch bod chi'n waeth na phobl eraill?" "Fydd o byth yn sôn wrtha'i am bobol eraill; neb ond y fo a finnau." "Fyddwchi'n digio wrtho fo am hynny, Jinny Thomas?" Digio! na fyddai'n wir, ond yr ydw'i rywsut yn myned yn ffondiach ohono fo bob dydd, welwchi." "Beth wedyn?" "O! yr ydwi'n methu'n lân a dygymod â'r marw yma." "Ofn sy arnochi?" "O! nagi'n wir, 'does arna'i ddim ofn; ddemnir mona'i'n siwr. Y mae o wedi cymeryd gormod o drafferth hefo mi—y mae o yn siwr o fy nghadw i. Ond methu dygymod â'r marw yna drwy'r cwbwl 'rydw'i." "Cymerwch gysur, Jinny Thomas:

Nid marw yw marw'r mâd,
Ond huno'n mhen dihoeniad,
Newid yw ar ben y daith,
I orffwys mewn gwlad berffaith.
Pa mor flin fydd brenin braw,
Addolaf dan ei ddwylaw
Y boen ferr ar ben a fydd
Yn awel y byd newydd.
O ryfedd, ar yr afon!
Wrth y Groes nid oes un donn.

O diolch! Dafydd Jones anwyl! y mae wedi troi yn oleu clir o dan y cwmwl. Ydi'n wir! diolch am hynny." Dro arall, Dafydd Jones yn holi Sian Huws, hen nain y Parch. J. E. Hughes. "'Does gen i ddim neilltuol ar fy meddwl heno; lled dywyll ydi hi arna'i heno." "Faint sydd er pan yr ydych gyda'r grefydd yma?" "Y mae dros drigain mlynedd." "Y mae'n debyg ei fod wedi deud wrthochi erbyn hyn be' mae of am wneud efo chi?" "Nag ydi, ddim wedi deud, ond yr ydw'i'n trustio ynddo y bydd o cystal a'i addewidion, reit siwr." "Wel, wedi bod yn i wasanaeth o am drigian mlynedd, ac heb ddweyd dim eto wrthochi—un gwael iawn ydi o!" Yr hen wreigan ar hynny yn neidio ar ei thraed, ac yn sefyll yn syth o flaen Dafydd Jones, gan edrych ym myw ei lygaid—Rhedeg ar fy Iesu anwyl i,—fedra'i mo'ch diodde chi! Dafydd Jones bach, wyddochi beth, fydda'i wiw iddo ddangos i wyneb i'w Dad hebddo'n ni!—a fedrai o ddim o ran hynny: Wele fi a'r plant ydi hi, onite?" "O! mi wela i y'ch bod chi'n meddwl cael mynd ato fo." "Na, nid meddwl yr ydw'i, yn reit siwr i chi." "Sut felly, Sian Huws?" "Wel, lle arall yr a i, Dafydd Jones anwyl. 'Dydw'i ddim ffit i fynd i unlle arall. 'Tasw nhw'n nhaflud i i waelod uffern, mi camolwn o ynghanol cythreuliaid! Deudwch air am dano, da chi. Mi fyddwchi'n deud yn dda am dano,—dowch, y mae o'n werth i chi i gamol o, ydi'n wir!" Dafydd Jones, wedi ei gyffwrdd i'r byw, yn cilio yn ol yn y sêt fawr, gyda gwên nefol ar ei wyneb, ac yn sychu'r gwlith oddiar ei lygaid â'i fys:—

Dyn dedwydd, dyn Duw ydyw;
A doed a ddel dedwydd yw,
Dedwydd ar gynnydd yw'r gwr
A gredo i'r Gwaredwr.

Dyma sylwadau Mr. John Jones ar y Gymdeithas Lenyddol: "Sefydlwyd hi yn fuan ar ol agor y capel. Yr oedd yma gymdeithas lewyrchus yn 1850—7, i mi fod yn gwybod. 'Y Famog' y gelwid y gymdeithas a'r bookies' y gelwid yr aelodau Byddai'r hen flaenoriaid yn rhoi pob cefnogaeth iddynt. Rhai o'r enwau yr wyf fi yn ei gofio: Evan Lloyd, Richard Davies, Henry Edwards, William Williams, Ellis Jones, John Roberts, John Thomas, William Owen, Lewis Jones, Richard Humphreys ieu., Robert Evans ieu. George Williams, y blaenor yn Siloh wedi hynny, oedd 'bardd y gymdeithas. Yr oedd y Parch. Evan Jones yn aelod ohoni yn 1856, y pryd hwnnw yn gysodydd yn swyddfa'r Herald. Yr oedd y gymdeithas yn llewyrchus iawn yn 1861, ar ol y diwygiad. Bu am flynyddoedd dan ofal Mr. Robert Lewis. Yr oedd yn dair adran, yn ddiwinyddol, yn llenyddol, yn gerddorol, fel y cynhelid hi ar dair noswaith yr wythnos. Cymerai Mr. William Williams y pregethwr ofal yr adran ddiwinyddol a'r lenyddol ar ol ei ddyfodiad yma yn 1865." Ar ol ail-gychwyn y gymdeithas yn 1878, bu presenoldeb Gwyneddon yn dra gwerthfawr yno, a deuai iddi yn rheolaidd.

Enwir fel ceidwaid y capel: Rhys Jones, Richard Jones, Richard Hughes, Thomas Edwards, John Parry.

Fe grynhoi'r yma sylwadau Mr. David Jones ar rai o'r brodyr a gofir ganddo. Gwnaeth Thomas Edwards y barbwr lawer o wasanaeth. Fe fu am rai blynyddoedd yn un o wylwyr y drysau yn yr hen gapel. Bu'n athro o'r fath ffyddlonaf, ac yn gynrychiolydd i'r Cyfarfod Ysgolion am flynyddoedd. Ni adawai i gyfle fyned heibio heb argymell dirwest. Yr oedd yn gymeriad crefyddol iawn. [Yr oedd rhywbeth anarferol yn ei ymddanghosiad. Ei brydwedd, ei lygaid, ei wallt, ei gôb fawr o liw gwineu. Wyneb go lawn a chrwn, a golwg sefydlog, heb wên fyth arno. Rhoddai'r adroddiad o'r Cyfarfod Ysgol yn llawn iawn, gyda'r rhwyddineb mwyaf. Wrth siarad neu weddïo ni byddai arwydd o unrhyw gyffroad teimlad arno. Siaradai a gweddiai mewn iaith dda ac mewn modd trefnus. Elai o amgylch y maes ar y Sadyrnau i werthu'r papur newydd, ond ni chollai funud o amser mewn ymddiddan, ac ni chlywid oddiwrtho ddim cellwair. Elai ymlaen gyda'i orchwyl fel gwr difrif. Amhosibl atgofio am dano heb ryw argraff ar y meddwl o rywbeth heb fod yn rhyw gyffredin iawn.] Dau a gerddodd lawer gyda'i gilydd i'r moddion oedd William ac Owen Jones Tyddyn llwydyn. Er meithed eu ffordd, buont ymhlith y ffyddlonaf. Dau weddiwr cyhoeddus o'r hen stamp, a'r ddau yn rhoi lle mawr yn eu gweddiau i'r achos yn Engedi. Elai'r ddau i'r ysgol yn y tloty, a gwnaeth y ddau waith mawr yno. [Gwr tal, cymesur, oedd Owen Jones, a gwr byrr, cymesur oedd William Jones, ac fel y cerddai'r ddau ochr yn ochr tua'r morfa ar eu ffordd adref o'r capel, Sul a gwyl a gwaith, fe roddent ddelwedd ohonynt eu hunain ar y meddwl cynefin a'u gwylio nad el fyth yn angof. Ac y mae awyrgylch deneuedig o gysegredigaeth o amgylch y ddelwedd. William Jones fach oedd y doniolaf; Owen Jones fawr oedd y boneddigeiddiaf. Rhyw dôn ddoniol oedd gan William Jones yn ei sgwrs, yn ei brofiad, yn ei weddi. "Y mae o'n werth ei bwysau o aur, "ebe fe am y llyfr swllt mewn amlen ar y bwrdd o'i flaen, wrth y gwr dierth oedd newydd ddod i mewn i'r tŷ. Tôn y llais oedd yn gwneud y sylw yn darawiadol ac yn gofiadwy i fachgen deuddeg oed. Yn y seiat gyntaf ar ol gwaeledd maith, dacw Owen Jones, gyda'i benelin yn pwyso ar ddôr y sêt yn dweyd ei brofiad yn dawel, yn hyglyw i bawb oddiar ei eistedd, a chyda phawb yn astud, ddau gant o bobl feallai. Sonia am Vincent y person, a'r ymgom a gafas gydag ef yn y "Yr ydwi'n credu, yn wir, fod Mr. Vincent yn ddyn duwiol." John Jones y blaenor yn ymysgwyd ac yn gwenu, a'r gwirion ieuanc yn synnu wrth glywed y fath ganmol ar berson eglwys. Ah! beth sy'n gwneud profiad Owen Jones, er nad yw ond niwlen lwyd mewn atgof, yn beth cysegredig?] Thomas Williams, porthor y tloty, oedd gymeriad arbennig. Rhoe argraff ar rai prydiau nad oedd yn yr ysbryd goreu, er y credai pawb yn ei gywirdeb. Dywedai bethau mor blaen weithiau, nes y disgynnent fel tân ar groen ambell un. Cartrefol wrth orsedd gras. [John Jones y gweinidog yn ei holi, a Thomas Williams yn rhoi ar ddeall nad oedd adrodd profiad ddim i ymddiried ynddo, bod gormod twyll ar bob llaw i gredu beth ddywedid: "Y galon sydd fwy ei thwyll na dim, a drwg ddiobaith ydyw; pwy a'i hedwyn?" John Jones yn ceisio llareiddio'r ystyr. Ni fynnai Thomas Williams ddim: "Y galon sydd fwy ei thwyll na dim—pwy a'i hedwyn." John Jones yn teimlo'n aflonydd: "A ydach'i, Thomas Williams, yn dweyd wrthon'i, ych bod chwi wedi mynd i'r oed yma, ac heb adwaen y'ch calon?" Thomas Williams yn myned dros yr adnod eto: "Y galon sydd fwy ei thwyll na dim." Bu raid. ei adael. Rhywbeth yn nhôn ei lais yn arwyddo amcan yn y cwbl. John Jones y blaenor drwy funudiau a gwenau, a lliaws eraill, yn ymddangos yn deall y dirgelwch. Rhoes y Parch. Ezra Jones ei bregeth gyntaf yn y tloty, a mynnodd Thomas Williams ganddo gymeryd hanner coron yn ddegwm, a ddodasid heibio ganddo ar gyfer ryw amcan crefyddol a ddeuai i'w sylw.] Capten Owen Owens yr Unicorn a ddangosodd y gall morwyr fyw yn grefyddol. Cyson yn y ddyledswydd deuluaidd nos a bore pa le bynnag y byddai'r llong, a phwy bynnag y dwylo. Nid cysurus fyddai'r annuwiol yn ei gwmni. [Ae i Dublin yn fynych, a byddai'n adrodd yn fynych y pethau neilltuol a glywodd mewn pregethau yn Dublin, ac yn y seiat yn Dublin. Cynesach oedd aelwyd Dublin nid hwyrach am fod cymaint o forwyr yno'r pryd hwnnw. Ni fethai goffa ar weddi helynt y morwyr yn y tywydd mawr, pan fyddai eu holl ddoethineb yn pallu, gan bwysleisio'n drwm ar yr holl.] Capten John Evans St. Helen elai ymhellach oddicartref nag Owen Owens, ond a adawai'r argraff oreu ym mhob man. Pan adref ni chymerai lawer am golli un moddion. Ei hoff bennill, —'Rwyn edrych dros y bryniau pell Am danat Iesu mawr. Capten David Roberts yr Eagle oedd yn gyson ym mhob moddion ac yn hael ei roddion. Nid yn fuan yr anghofir ei weddïau taer a'i ysbryd drylliedig. Ceid ganddo brofiadau melys. Hen gymeriad anwyl oedd William Owen y llwythwr. Un o'r rhai ddaeth o Foriah i gychwyn yr achos yma, ac un o heddychol ffyddloniaid Israel. Hynodid ei weddiau cyhoeddus â rhyw daerineb neilltuol. Ei hoff erfyniad, "Achub Arglwydd, achub," a'i hoff bennill, "Rhad ras, y newydd gan bereiddia'i blas." [Byddai ei hunan weithiau yn llunio'r cerryg ar y cei dan Dwr yr Eryr. Yn rhyw fodd neu gilydd erys y fangre honno'n gysegredig: yn rhyw fodd neu gilydd erys ei ddelwedd yno o hyd—ei wyneb bochgoch, ei wên gariadusol. Ac yn y sêt fawr ar weddi fe erys gyda'i lais llon, gonest, a'i wedd ddiragrith.] Owen Thomas Henwalia yr un modd ddaeth o Foriah i Engedi ar y cychwyn, ac a barhaodd hyd y diwedd yn un o addurniadau pennaf yr eglwys. Talai'r gweithwyr eraill yn y ffowndri barch neilltuol iddo i gyd, oblegid ei grefyddolder. Gweddiwr mawr yn y dirgel ac ar gyhoedd, a mynych y tynnodd y nefoedd i lawr yn y cyfarfod gweddi. [Gwên fewnol yn tywynnu allan o'i wynepryd. Dawn mewn gweddi, er fod ganddo ryw ddull gwneud o leisio perthynol i liaws ar un cyfnod.] Ellis Jones Heol y capel oedd un o'r cymeriadau goreu fagwyd yng Nghaernarvon. Ei fam, Catherine Jones, yn un o'r rhai ddaeth gyntaf o Foriah yma. Yn ieuanc fe'i penodwyd yn is—olygydd dan Ieuan Gwyllt i'r Amseroedd. Bu farw yn Rhydychen, Rhagfyr 12, 1891, yn 55 oed. [Llais merch. Yn adeg rhyw helynt fe ddanfonwyd Robert Ellis Ysgoldy yma. Cododd Ellis Jones ar ei draed o rywle yn y cefn, dan ddechre bwrw allan ei hyawdledd main. Neidiodd Robert Ellis ar ei draed, a chan daflu ei law yng nghyfeiriad y llefarwr, torrodd allan, "Tawed y gwragedd yn yr eglwysi." Er fod llais Ellis Jones yn fain, yr oedd ei ddull yn hyawdl. Gwr o argyhoeddiadau pendant a dirwestwr pybyr.] Chwanega Mr. David Jones, ar ymddiddan, am Thomas Williams y saer a ddanfonid i Gorris gyda'i waith, ac a gymerai (y Parch.) Griffith Ellis gydag ef i areithio ar Ddirwest, pan yr ydoedd yn anhysbys i'r byd. Ac am Llewelyn Edmunds, mab John Edmunds, a droes allan yn ddyn da, yn ddechreuwr canu yn Wilton Square, Llundain, ac yn arweinydd a cherddor medrus. Dyma sylwadau Mr. John Jones ar ddau hen gymeriad. "Thomas Williams, taid y Capten Richard Jones, [porthor y tloty] oedd y goreu o ddigon am ergyd lân. Pan fyddai rhywun, tlawd neu gyfoethog yr un wedd, yn lledu ei adenydd. ar y mwyaf, ac yn hofran yn uwch nag a fyddai'n ddiogel iddo, rhoddai yr hen frawd small bore neisia welsochi erioed o dan ei aden, a bull's eye bob tro, nes ei gael i lawr yn ddiogel. Damhegol oedd ei shots, a byddai ei law ar y trigger yn handi bob amser. Fel expert specialist yr oedd yn medru clwyfo er cael y drwg allan, ac ni byddai un amser yn camgymeryd yr aderyn. Richard Morgan y teiliwr oedd yn em nefol, yn loew lân yn llwch y llawr; ar hyd ei oes mewn tlodi, ond yn annwyl gan bawb. Byddai ei areithiau dirwestol yn ddawnus a thanbaid, ac yr oedd yn wir ogoneddus rai gweithiau ar ei liniau." Dyna syniad Mr. John Jones am dano. Bychan ac eiddil o gorff oedd Richard Morgan, gyda golwg ddiniwed arno, ond eto golwg gwr o deimlad coeth, gyda'i lygaid llwydion, lled fawrion, goleu, heb fod yn dreiddgar. Cerddai yn ysgafn gyda mymryn o ysbonc, ac yr oedd yr un peth yn ei lafar "Yr ydan—ni fel plantos yn bwhamon—," canys fe wnelai ambell gamgymeriad go ddigrifol gyda gair. Cof gan Mr. W. O. Williams am dano yn areithio ar ddirwest. "Dyn," ebe fe,—"dyn," yr ail dro yn bwysleisiol iawn, " ydi mantel piece y greadigaeth." Tebyg i Richard Morgan glywed y gair masterpiece o'r pulpud yn y cysylltiad hwn, a'i drawsnewid yn anfwriadol i mantelpiece. Joseph Thomas oedd ei bregethwr mawr; ni ddarfu i Owen Thomas ei "lyncu" ef erioed, fe ddwedai.

Gwr tawel, difrif yr olwg arno, oedd Edward Hughes, tad Menaifardd. Ei weddi yn ddwys-feddylgar. Adroddid yn y seiat y dywedai ei gydweithwyr ar y fainc ddydd ei gynhebrwng y cleddid dyn duwiol yng Nghaernarvon y diwrnod hwnnw. Cyfunid yng ngweddi John Parry y calchiwr deimlad dwys a dagrau gyda meddylgarwch. Bu Robert Williams Siop y maes farw yn ddyn lled ieuanc. Yr oedd yn wr parod, rhwydd a chyflym ei ymadrodd, craff o feddwl, ac yn un y disgwylid pethau go wych oddiwrtho. Efe oedd tad yr Athro Hudson. Williams (Bangor). Yn brentis gydag ef yr oedd ei frawd (y Parch.) O. E. Williams, Ffestiniog wedi hynny. Yr oedd wyneb Isalun yn arwyddo dyn o feddwl tyner, coeth, llednais; ac yr oedd ei ddarnau barddonol yn dangos yr un nodweddion, ynghyd â chyffyrddiadau llawn meddwl wedi eu cyfleu yn gryno. Yr oedd hefyd yn athro rhagorol a llwyddiannus yn yr ysgol. Fe gyfeiriwyd at John Roberts y paentiwr ynglyn â dirwest a'i ddosbarth yn yr ysgol. Gwr cyflawn, selog. Fe fuasai wedi gwneud ei nôd fel blaenor. Beirniad go bigog yd— oedd ar weithrediadau y blaenoriaid. Er hynny, yn wr cyson: cyson yn ei le, cyson yn ei fuchedd. Aelod o'r eglwys hon. oedd Andronicus. Gwr gweithgar. Y gwr gŵyl ydoedd mewn gweddi gyhoeddus. Rhoes esampl dlos o oddef cystudd maith yn amyneddgar. Gweler cyfeiriad ato yn yr Arweiniol gan Anthropos.

Y mae gan Mr. David Jones nodiadau ar rai o'r chwiorydd. hefyd. Ellen Jones Lôn fudr, y bu ei chartref yn Lleyn yn llety i bregethwyr, ac y cafodd hithau drwy hynny fanteision arbennig. Profodd bethau mawrion yn yr hen ddiwygiadau. Yn ei blynyddoedd olaf fe ddarllenai lawer ar y Beibl, a gweddïai lawer gwaith yn y dydd. Yr oedd hi a'i theulu o'i blaen wedi rhoi llawer i weision yr Arglwydd, a chredai yn ei blynyddoedd olaf mai cyflawni ei Air tuag ati yr oedd yr Arglwydd wrth gyflawni ei hanghenion. Ei chyngor yn wastad fyddai, Yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio. Catrin Edwards, priod Thomas Edwards y barbwr, oedd ffyddlon ym mhob moddion, ac yn amser y diwygiad yn un o'r rhai parotaf i roi amlygiad i'w theimlad mewn gorfoledd. Yn danllyd ei theimlad dros y Gwaredwr. Yn athrawes ffyddlon a diwyd bron i'r diwedd. [Arferai hi yn amlach na'i gwr werthu'r papur newydd ar yr heol. Teimlo braidd, os dywedid gair yn erbyn y papur newydd yn y seiat. Y Parch. Evan Roberts oedd y cyntaf i bleidio'r papur newydd yn y seiat: dalen o lyfr Rhagluniaeth" y galwai ef. Hyn yn plesio Catrin Edwards. Selog, fel ei gwr, dros ddirwest. Adroddai ddywediad William Roberts Amlwch, fod "dirwest yn un â'r Efengyl." "Mi dwedodd o," ebe hi.] Priod y Capten Evan Roberts oedd un o'r chwiorydd haelaf tuag at yr achos ym mhob cylch. Bu ei gofal yn fawr am Gymdeithas Dorcas, ac yr oedd yn elusengar i'r tlawd. Cyfranodd fwy na neb i roi tretiau i'r plant. Wrth ei bodd yn lletya pregethwyr. Yr achos yn Engedi yn achos iddi hi ei hun. Jinny Thomas a fu'n aelod o hen gapel Penrallt cyn adeiladu Moriah. Yn ffyddlon ddidor yn y moddion. Yn llawer uwch na chyffredin o ran deall a gwybodaeth. Tynnai sylw pob pregethwr wrth ei dull yn gwrando. Torrodd allan mewn gorfoledd. lawer gwaith. Bu'n athrawes fedrus am fiynyddoedd ar ddosbarth o chwiorydd, ac erys ei hol o hyd [1896] ar liaws o ddisgyblion. [Adroddai ddarnau helaeth iawn o bregeth i John Jones Talsarn oddeutu deng mlynedd ar ol ei farw, gyda phawb yn gwrando yn awchus iawn. Cyn gorffen ohoni rhoes John. Jones y gweinidog ben ar yr adroddiad, gan ei bod bellach yn ymyl amser terfynu, a dywedai, "'Dydwi'n ameu dim nad allai Jinny Thomas fynd ymlaen am ugain munud arall." A dealler nad gor-helaethu oedd yma, ond adroddiad oedd yn amlwg yn ardderchog wrth y dull y derbynid ef gan bawb, gyda phrofiad yn gymysg mae'n ddiau. Yr oedd golwg dynes feddylgar arni, a thynnai sylw nid wrth ei dull o wrando yn unig ond wrth ei hymddangosiad hefyd. Y hi oedd yr hynotaf am adrodd profiad yn Engedi, ebe Mrs. Jane Owen—"profiad byw yn bachu ynochi."] (Mrs.) Jones y Friendship oedd un o gymeriadau hawddgaraf Engedi. Yn ferch i un o wragedd duwiol Ynys Fon. Priod y Capten William Jones. Symudodd o Foriah yng nghychwyniad yr achos yma. Ni bu neb ffyddlonach gyda phob rhan o waith yr Arglwydd; yr ydoedd ei bywyd yn llawn o weithgarwch crefyddol. Ar ei therfyn fe ddywedai,—"Wedi trigain mlynedd gallaf godi fy Ebenezer i fyny a dywedyd, Hyd yma y cynorthwyodd yr Arglwydd fi." Bu farw yn 1887 yn 77 oed. Mewn ymddiddan, edrydd Mr. David Jones am Marged Williams, mam Mr. John Jones (Druid), a goffhawyd ynglyn â diwygiad 1859. Parhaodd hi a Chatrin Edwards i orfoleddu yn achlysurol am flynyddoedd ar ol y diwygiad, un yn y naill ben i'r capel a'r llall yn y pen arall, a rhwng y ddwy byddai yno weithiau le twym. Mewn seiat ar nos Sadwrn, fel yr elai Morris Jones yr Hen Broffwyd o amgylch, gwelai briod Hughes y plumber gyda fêl dros ei hwyneb. Cydiodd yr Hen Broffwyd yng nghwrr y fêl, gan ei chodi dros y bonet, ac ebe fe, "Be' sy gen til i ddweyd heno?" Aeth hithau ymlaen i adrodd ei phrofiad heb gymeryd arni ddim. Grace Jones Heol y llyn fedrai adrodd pregethau yn ardderchog. Cynhaliai ddosbarth paratoi merched ieuainc ar gyfer eu derbyn,—dosbarth rhagorol. Medrai gadw meistrolaeth lwyr ar ei dosbarth. Hi ddarllenai yn helaeth. [Mewn cyfarfod llenyddol ym Moriah ddwy flynedd a deugain yn ol, mawr ganmolai y Dr. Hughes un o'r traethodau, gyda merched ieuainc dan 25 feallai yn gystadleuwyr. A phen ar y cwbl a ddywedai ydoedd,—"A gwyn ei fyd y gwr ieuanc a'i caffo hi!" Ac yn y man, wele Grace Jones yn dod ymlaen am y wobr, yn ddynes dal dros ben, gydag ysgogiad penderfynol, meistrolgar. Nid bychan oedd mwynhad John Jones y blaenor, cystal ag eraill, wrth ei gweled yn dod ymlaen.]

Rhoi'r crynodeb yma o ysgrif yn y Drysorfa (1853, t. 347), ar Elizabeth Davies, merch David Davies yr exciseman, a chwaer Eifioneilydd, a fu farw Medi 22, 1852, yn 20 oed, a phan drigiannai ei thad yn y dref. Yr oedd hi yn lân o bryd a theg yr olwg, a hynod siriol ei thymer, a ffraeth ei hymadrodd er yn blentyn, ac o synnwyr cryf. Medrus â'r edef a'r nodwydd, ac mewn gweu pob math ar rwydwaith. Swynodd y Beibl ei hysbryd yn fore. Trysorodd yn ei chof ac adroddodd allan yn y teulu neu ar gyhoedd y rhan helaethaf ohono. Gallai droi at unrhyw adnod a fynnai o fewn y Beibl. Dysgodd allan yr Hyfforddwr, y Gyffes Ffydd, Oriau Olaf Iesu Grist, Grawnsypiau Canaan. Yr oedd yn gyfarwydd yn y Drysorfa, y Traethodydd, y Geiniogwerth, y Cronicl, y Gymraes, o gychwyn pob un. Dioddefodd flynyddoedd o gystudd caled yn amyneddgar. Rhoes dystiolaeth liaws o weithiau am ddiogelwch ei chyflwr. Tua'r terfyn fe ddywedai y teimlai hi undeb agos â'r bedd y diwrnod hwnnw am fod yr Iesu anwyl wedi bod yno o'i blaen.

Yr oedd Marged Williams, mam Mr. W. O. Williams, yn ddynes o gynneddf gref. Darllenai Athrawiaeth yr Iawn Lewis Edwards, Gurnal, Pregethau Charles Caerfyrddin, Lampau'r Deml. Meddai ar ddisgyblaeth lem yn y tŷ gyda chadwraeth y Saboth, a dysgu allan o'r ysgrythyr. Safai yn eofn ar dro yn yr eglwys dros ddisgyblaeth. Pan oedd rhywrai go gyhoeddus wedi troseddu mewn pwnc a gyfrifid yn bwysig y pryd hwnnw, fe lefarodd dros burdeb buchedd am chwarter awr o amser gyda threfn a rhwyddineb a grym. Dynes o gynneddf gref oedd (Mrs.) Rees, mam Griffith R. Rees, yr Hen Fanc, a Mr. John Rees. Blasusfwyd iddi hi oedd llyfr o nodwedd William Roberts Clynnog ar Fedydd. Gwrandawai ar bregeth feddylgar gyda chraffter sylw. Traethai ei phrofiad gyda hyder tawel, heb deimlad amlwg, ond yn drefnus a meddylgar ac addysgiadol i eraill. Edrydd Mr. Hugh Hughes am Jinny Thomas yn coffa sylw John Owen Ty'n llwyn. "Chwychwi yw y rhai a arosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau "-beth wnaethon nhw? Dim ond aros! Adroddodd hyn droiau o bryd i bryd. Sonia Mr. Hughes am G. Tecwyn Parry yn holi'r ysgol, ac yn gofyn, A ddarfu i'r Iesu roi poen i'w rieni ryw dro? Swniai y cwestiwn yn ddieithr i'r plant, ac nid oedd neb yn ateb. Ar hynny, torrodd. Catherine Jones allan, priod John Jones y blaenor,—" Do, ond poen duwiol oedd o." Dywedodd hynny gyda theimlad a gyffroes feddwl Tecwyn Parry, a chafodd gryn hwyl gyda'r syniad.

Un nodwedd ar Engedi oedd lluosowgrwydd o ferched profiadol am gyfnod go faith. Nodwedd arall oedd sel ddirwestol gyffredinol am dymor helaeth, ac i fesur hyd derfyn cyfnod yr hanes hwn. Nodwedd arall oedd lluosowgrwydd y pregethwyr a fu mewn cysylltiad â'r eglwys, a chryn nifer ohonynt yn ddynion o ddoniau anarferol. Peth hynod yn ei hanes oedd ei chynnydd, wrth ystyried ddarfod i'r eglwys y tarddodd ohoni barhau yn ei lluosowgrwydd.

Rhif yr eglwys yn 1900, 534; y gynulleidfa, 733; yr ysgol, 626; cyfartaledd presenoldeb yr ysgol, 363; eisteddleoedd a osodir, 596; ardreth yr eisteddleoedd, £98 10s. 2g.; casgl y weinidogaeth, £240 16s. 11g.; casgl at y ddyled yn yr ysgol a'r cyfarfod diolchgarwch, £131 0s. 10c.; y ddyled, £614 0s. 8g.

"Er mwyn fy mrodyr a'm cyfeillion y dywedaf yn awr, Heddwch fyddo i ti."

Nodiadau[golygu]

  1. Ysgrif Mr. David Jones (Llys Arfon). Ysgrif Dafydd Williams (Conwy). Copi Mr. R. O. Roberts o Gofnodion Cymdeithas Lenyddol Engedi, 1879, yn cynnwys atgofion am y symudiad o Foriah, a chynnydd. yr achos yn Engedi. Atgofion Mr. John Jones (y Druid) ynghyda nodiadau o'i eiddo ar yr ysgrif hon. Ymddiddanion. Nodiadau Mr. William Roberts Bod Gwilym.