Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog/Ebenezer

Oddi ar Wicidestun
Seion Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog

gan William Hobley

Llanllyfni, Llandwrog a Llanwnda: Arweiniol

EBENEZER, CLYNNOG.[1]

MAE pentref Clynnog yn hynod, ymhlith ystyriaethau eraill, ar gyfrif mai yma y cynhaliwyd cymdeithasfa gyntaf y sir. Tebyg mai pregethu oedd y prif amcan. Yr oedd hynny cyn 1769, gan y cynhaliwyd cyfarfod o'r un nodwedd yn Llanllyfni o fewn y flwyddyn honno. Eithr er cael y Sasiwn gyntaf yma, yn araf iawn y gwreiddiodd Methodistiaeth yn y pentref. Un rheswm am hynny ydoedd fod eglwys Clynnog Fawr yn y pentref, a bod y person, Richard Nanney, oddeutu'r amser hwn yn tynnu sylw y wlad. Hefyd yr oedd capel eisoes wedi ei godi filltir o ffordd oddiyma, ac yn peri fod ymdrechion pellach yn y cyfeiriad hwnnw yn ddialw am danynt am hir o amser; a thebyg fod adeilad cyfleus yn gryn help i'r achos wreiddio mewn ardal.

Mae gwreiddiau cyntaf yr achos eisoes wedi eu holrhain, hyd y gellid, ynglyn â hanes y Capel Uchaf. Yn ol Canmlwyddiant yr Ysgol Sabothol yng Nghlynnog, etc., yn 1808 y sefydlwyd yr ysgol yn y pentref. Yn ol Richard Jones, fe'i sefydlwyd nid yn ystabl y Tŷ Cerryg, ond yn yr Allt, tŷ Evan Jones. Symudwyd hi, yn ddilynol i hynny, i'r ystabl. Dichon, er hynny, iddi fod yn yr ystabl cyn hynny, neu yn rhywle arall. Mewn cofnodiad gan Eben Fardd yn llyfr taliadau yr aelodau, bu'r ysgol yn cael ei chynnal o dŷ i dŷ, weithiau yn un o dai yr Allt, weithiau yn y Tŷ Newydd, bryd arall yn y Tŷ Cerryg. Y rhai fu'n blaenori gyda chynnal yr ysgol oedd, William Dafydd Hafod-y-wern, Griffith Humphreys Garnedd, Owen Evans Ty'n-y-coed, Robert Roberts Niwbro' Arms, Ellis Thomas Tŷ Cerryg. Bu Griffith Humphreys ynglyn â'r ysgol yn gynnar yn ei hanes yn y Capel Uchaf a Brynaerau. Am Ellis Thomas, fe'i cyfrifid ef yn wr dysgedig, ac yr oedd ganddo ddosbarth Seisnig o dan ei ofal. Fe roddwyd James Williams Penrhiwiau, pan yn llencyn un arddeg oed, i ofalu am ddosbarth o hen bobl dros ddeg a thriugain oed. Yr oedd hynny yn y flwyddyn 1810. Cwynai yr hen bobl yn nosbarth James Williams am stŵr y plant; ac elai'r athraw ieuanc gyda hwy ar ol y gwasanaeth dechreuol i'r tŷ newydd (lle a dynnwyd i lawr ar ol hynny), a dychwelid yn ol at y gwasanaeth gorffennol. Gyda'r llyfr corn yn ei law yr arweiniai'r athraw ei hen ddisgyblion ymlaen ar hyd risiau gwybodaeth. Bachgen cyflym oedd James, ac ni fu'n hir cyn rhagori ar bawb yn yr ysgol mewn deall a gwybodaeth. Griffith Humphreys oedd y prif holydd ar ddiwedd yr ysgol, a William Dafydd oedd yr arolygwr cyntaf.

Ymhen amser, gan deimlo'r ystabl yn lle anghyfleus, fe benderfynnwyd gwneud cais at y person am gael cadw'r ysgol yn Eglwys y Bedd, sef y gyfran hynafol o'r Eglwys. Disgrifir y person hwnnw fel hen lanc rhadlon a braf a rhyddfrydig ei ysbryd, ac ni omeddodd y cais. Yr oeddys nid yn unig yn fwy cysurus yn Eglwys y Bedd, ond hefyd yn fwy llwyddiannus. Oddeutu'r flwyddyn 1825 yr aethpwyd yno.

Bu dau enwad arall yn gwneud cais i ymsefydlu yn y pentref. Y Wesleyaid yn gyntaf, yn ol Richard Jones. Yn ol Eben Fardd yr oedd yma bregethu achlysurol gan y naill blaid grefyddol a'r llall ers "o ddeugain i hanner can' mlynedd " cyn 1844. Tebyg ei fod ef yn cynnwys y Methodistiaid yn y pleidiau hyn. Cynelid y cyfarfodydd yn yr hen ystabl yn achlysurol, ac yn yr awyr agored, mae'n ddiau. Yr oedd y pregethu yn wresog. Cof gan Richard Jones am un gwr yn pregethu yn yr ystabl, gan sefyll ar ystôl, a rhag cwympo ohono safai hen wr penwyn o'r enw Thomas Ellis. ar ei draed o'i flaen, a dodai'r pregethwr bwysau ei law ar ei ben. Dywed Richard Jones ddarfod i'r Arglwydd fendithio tŷ Thomas Ellis, fel y bendithiodd dŷ Obededom gynt, a bod ei hiliogaeth ef yn flaenllaw gyda'r enwad hyd y dydd hwn. Gwnawd ymdrech teg i ymsefydlu yma, a bu gradd o lwyddiant am dymor ar y gwaith, ond troes allan yn fethiant rhagllaw. Yr Anibynwyr a ddaethant yn nesaf, ebe Richard Jones. Cynelid y gwasanaeth ganddynt hwythau yn yr ystabl, gyda gradd o lwyddiant ar y cychwyn, ond methu ganddynt barhau.

Drwy ddyfalwch gyda'r ysgol y dodwyd sylfaen llwyddiant i lawr. A bu'r ysgol Sul yn foddion i awchlymu'r awydd am wybodaeth gyffredin. Cynelid ysgol ddyddiol dan nawdd yr eglwys, ond un bell o fod yn effeithiol. Bu rhyddfrydigrwydd y person, pa ddelw bynnag, yn foddion i ddwyn Hugh Owen o Sir Fon yma fel ysgolfeistr, ac yntau yn ymneilltuwr. Gwr ymroddgar a chrefyddol y profodd ef ei hunan. Ymunodd â'r ysgol Sul ac ymroes i weithgarwch gyda hi. Eithr symud yn ol i Môn a ddarfu ef cyn bo hir.

Ar ei ol ef y daeth Ebenezer Thomas (Eben Fardd) yn ysgolfeistr i'r lle, sef yn y flwyddyn 1827, yn wr ieuanc pump ar-hugain oed. Cafodd yr ysgol Sul noddwr ynddo yntau drachefn, a daeth yn arolygwr iddi. Llenwid y swydd honno o'i flaen ef gan Robert Roberts Niwbro Arms. Teimlid yn galonog dan arweiniad yr ysgolfeistr newydd, ac elai'r gwaith ymlaen yn siriol. Ond dyma berson newydd i'r llan a gwr mwy cyfrwys na'i ragflaenor. Gorfodai pawb hyd a allai i ddod i wasanaeth y llan. Aeth ef a'r ysgol- feistr hefyd yn gryn gyfeillion. Elai'r ysgolfeistr bellach i wasanaeth yr eglwys am ran o'r diwrnod, a chredid mai'r diwedd fyddai iddo fyned yn offeiriad ei hunan. Methu gan y person, pa ddelw bynnag, ei ennill yn eglwyswr; a pheidiodd eu cyfeillach. Arferid cynnal yr ysgol Sul, tra yn Eglwys y Bedd, am hanner awr wedi naw. Newidiodd y person amser y gwasanaeth er mwyn cyfyngu ar amser yr ysgol. Teimlid yn ddwys oherwydd hynny, yn neilltuol gan Gruffydd Wmphra a James Williams. Daethpwyd i'r penderfyniad i gael ysgoldy. Yn y cyfwng hwn danfonwyd y Parch. William Roberts a Chapten Owen Lleuar Bach i ymgynghori â'r brodyr. "Capel fydd yma cyn bo hir," ebe'r Capten, "ac ni waeth iddyn nhw gael capel ar unwaith." Ac felly fu.

Cynelid yr ysgol ddyddiol yn Eglwys y Bedd hyd 1842; ond gan na cheid ond gwg y person, fe ddechreuodd Eben Fardd a'i chynnal bellach y rhan amlaf yn ei dŷ ei hun. Yn 1845 fe agorwyd yr ysgol yn y capel.

Fel y gwelwyd yn hanes Capel Seion, rywbryd yn ystod 1840—1 y daeth Eben Fardd yn aelod eglwysig, ac yna, ar unwaith braidd, yn flaenor. Mewn llyfr a gedwid ganddo fel llyfr cyfrifon yr ysgol, a llyfr seti'r capel, y mae efe wedi cofnodi yn llawn iawn holl helynt agoriad y capel. Cyfleir y cofnodion hynny i lawr yma am eu bod, yn un peth, yn taflu rhyw oleu ar nodweddiad un o'r gwyr mwyaf ei athrylith a phuraf ei gymeriad a lanwodd swydd yng nghyfundeb y Methodistiaid; a pheth arall, mae'r cyfryw gofnodion yn y cyfnod hwn yn dra phrin, ac nid i'w cael mor llawn a hyn, mae'n debyg, ynglyn â hanes unrhyw eglwys yn Arfon yn flaenorol i hyn, nac ychwaith am hir amser ar ol hyn; a cheir hwy hefyd yn taflu goleu ar rai anhawsterau ynglyn âg agor capeli yn y cyfnod hwnnw. Dyma fel y rhed y cofnodion:

"Capel Newydd Pentref Clynnog.

Hydref 9, 1843. Mewn cyfeillach damweiniol a gynhaliwyd ym mhentref Clynnog, lle'r oedd y personau a ganlyn yn wyddfodol, James Williams Penrhiwiau, Robert Hughes Uwchlaw'r-ffynnon, John Jones Llanberis, Ebenezer Thomas Clynnog, penderfynnwyd fod eisieu tŷ addas a chlyd i gadw'r ysgol Sabothol yn y Pentref, oherwydd fod y lle y cedwir hi yn bresennol ynddo yn adfeilio yn fawr, ac yn beryglus, o achos ei oerni a'i damp, i ymgynnull ynddo yn ystod y rhan oer o'r flwyddyn. Penderfynnwyd hefyd fod eisieu capel yn y Pentref, yn gymaint a bod yma bregethu gan amrywiol enwau ers llawer o flynyddoedd, a chyfarfodydd crefyddol eraill yn cael eu cynnal yn wythnosol, ac er yr anfantais oddiwrth anghyfleustra y lle cyfarfod, sef tai annedd bychain, eto fod y cyfarfodydd uchod yn wastad yn dwyn ynghyd gynulleidfaoedd lliosog nodedig, ac ystyried poblogaeth y lle. Penderfynnwyd gan hynny wneud cais yn ddioed am dir i adeiladu arno Gapel, ac ar fod i ewyllys da yr ardalwyr ac eraill gael ei ofyn tuag at ddwyn y gwaith ymlaen, a thanysgrifiwyd y symiau isod at drysorfa adeiladu capel newydd y Methodistiaid Calfinaidd ym mhentref Clynnog, yr hwn a fwriedir hefyd i fod yn lle cysurus i gadw ysgol Sabothol a dyddiol. Tanysgrifiadau: Yn flaenorol i'r gyfeillach. uchod y cafwyd y rhodd hon: [Yma y dilyn llythrennau cyntaf enw neilltuol, a swm y rhodd; a llythrennau cyntaf enwau eraill a'r rhodd]. Wedi y gyfeillach uchod, cafwyd yr addewid gyferbyniol: [Enw a rhodd, yn cael ei ddilyn gan amryw o'r cyfryw]. Penderfynnwyd galw cyfarfod o athrawon ysgol Sabothol Pentref Clynnog, ynghyd ag ewyllyswyr da i'r gwaith, i ystyried y priodoldeb o barhau yn yr amcan hwn, a'r ffordd oreu i fyned ymlaen i gyrraedd y diben yn brysur, yn effeithiol, a didramgwydd. Dros y cyfeillion, James Williams [yn llawysgrifen Ebenezer Thomas].

Hydref 16, 1843. Mewn cyfarfod o athrawon ysgol Sabothol Pentref Clynnog, a gynhaliwyd yn nhŷ Griffith Owen yn y pentref dywededig, cymeradwywyd yn unllais y Penderfyniadau uchod a gytunwyd arnynt Hydref 9, ac enwyd y personau canlynol yn Gommittee i fod ganddynt allu i chwanegu at eu nifer, i'r diben o ddwyn ymlaen bob goruchwylion angenrheidiol mewn cysylltiad âg adeiladu y capel newydd,—unrhyw bump ohonynt a gallu i weithredu. [Yma y dilyn ddeuddeg o enwau]. Penderfynnwyd i James Williams wneud ymholiad dioed dros y Committee am le i adeiladu ac am fod iddo ymgynghori gyda'r Parch. William Roberts ac eraill mewn perthynas i hyn. William Jones, Cadeirydd y Cyfarfod. [Yr enw yn llawysgrifen y person ei hunan bellach].

Hydref 18. Cyfarfu nifer o aelodau y Committee yn nhŷ Ebenezer Thomas a gwahoddasant y Parch. William Roberts Hendre bach a'r Capten Lewis Owen Lleuar bach i'w hystafell, pryd y penderfynnwyd tynnu erfyniad at Lord Newborough i gael ei seinio gan nifer helaeth o drigolion y Pentref a'r gymdogaeth, yn cynnwys cais taer am dir mewn lease i adeiladu capel, a rhesymau priodol a gwir dros y cyfryw gais. Addawodd Messrs. Roberts ac Owen ei gyflwyno i Lord Newborough a chefnogi yr erfyniadau a gwneud pob cynorthwy arall yn eu gallu fel swyddwyr ac ewyllyswyr da. Anfonwyd Mr. John Jones Ty'n-y-coed gyda hwynt yn gennad dros y Committee. Ebenezer Thomas. Copi o'r Petition. To the Right Honourable Lord Newborough. The humble Petition of the Inhabitants of Clynnog and the Vicinity, respectfully sheweth, That your Lordship's humble Petitioners feel a great disadvantage from the distance of their Religious Meeting Houses from the village, especially as the road up hill to the nearest chapel renders it impracticable for the old and infirm as well as children of tender age to attempt it.—That your lordship's petitioners being welldisposed towards the Church and wishing to attend the successive services in both church and chapel are precluded from this again by the distance complained of.—That a Sunday School consisting of about 80 persons is now kept in St. Beuno's Chapel, but that ancient building being out of repairs and greatly dilapidated, renders it dangerous to meet there during the winter months owing to the severe cold and damp of the place.—That the population of this village and the vicinity for half a mile around is about three hundred, as appears by the Schedule annexed to this Petition.— That your Lordship's Petitioners therefore most humbly venture to solicit your Lordship's favour to grant them in or very near to the Village, a small quantity of land in lease, to build thereon a meeting—house or chapel, and your Lordship's Petitioners would solemnly engage never to hold their meetings therein during the times of Church Service, it being a particular object with them to avail themselves of both. And your Lordship's Petitioners as in duty bound shall ever pray. Seiniwyd gan ———— [Yn dilyn enwau 35 o wyr yr ardal].

Hyrdef 30. Mewn Committee a gyfarfu yn nhŷ Ebenezer Thomas ym mhentref Clynnog, hysbyswyd gan Mr. John Jones Ty'nycoed fod Lord Newborough wedi addaw tir i adeiladu capel fel y deisyfid yn yr erfyniad blaenorol. Mewn canlyniad i hyn, Penderfynnwyd ar i Messrs. John Jones a James Williams fod yn oruchwylwyr y Committee, a gadawyd at eu deall a'u synwyr hwy i farnu pa faint o dir a fyddai angenrheidiol, a bod iddynt alw cyfarfod o'r Committee bob tro y gwelant angen am eu cynorthwy. Penderfynnwyd am faint y capel, iddo fod yn 12 llath o hyd wrth 9 llath o led oddifewn. Apwyntiwyd Ebenezer Thomas yn ysgrifennydd. Apwyntiwyd Mr. Robert Griffith Draper yn drysorydd. Enwyd amryw o'r Committee ac eraill i fyned o amgylch y Gymdogaeth i ofyn cydroddion at y draul adeiladu. Chwanegwyd William Jones Tŷ Coch at y Committee. Humphrey Roberts Cadeirydd.

Tachwedd 27. Amryw o aelodau y Committee wedi bod gyda Mr. R. Roberts, Goruchwyliwr Lord Newborough, yn cael dangos iddynt y darn o dir y caniatae ei Arglwyddiaeth i ni godi capel arno,—a gyfarfuant yn nhŷ Ebenezer Thomas, lle y penderfynnwyd gwneud ymchwiliad am gerryg at adeiladu yn ddioed, ac ymrwymodd William Jones Cefn-y-gwreichion, James Williams, Humphrey Roberts a Richard Jones fyned o amgylch bore yfory, sef 28ain, i'r diben hwnnw. Rhoddwyd ar John Thomas Camfa'r buarth wneud ymofyniad gyda Mr. Davies Plas ynghylch car i gario cerryg, a gadawyd at ei synwyr ef i'w brynu neu ei gael ar lôg. Dymunwyd hefyd ar John Thomas fyned gyda Mr. Davies ac eraill i nodi allan yr hyn fyddo angenrheidiol o gongl y cae at ben yr hen ffordd. Penderfynnwyd fod yn angenrheidiol gofyn ewyllys da y cymdogion i weithio heb oedi, ac i drefnu amser a gwaith pawb yn y fath fodd ag y byddai i'r gwaith fyned ymlaen yn fwyaf hwylus ac effeithiol. Ymrwymodd James Williams ofyn i bawb o'r Pentref i afon y Terfyn, ac i bawb a welai o gwrr arall y gymdogaeth. Evan Thomas Cadeirydd.

Rhagfyr 5, 1843. Rhoddwyd plan o'r capel gerbron y Committee, o ddyfais James Williams, a chymeradwywyd ef yn un fryd, yn unig fod hyd y capel i fod yn 11 llath yn lle 12 a'i led yn 10 llath yn lle 9, ac i'r plan gael ei ail dynnu a'i gymhwyso at y maintioli hwn. Cyflwynwyd ac ymddiriedwyd i James Williams holl ofal y plan i'w ffurfio ym mhob rhan fel y gwelai efe yn oreu. Pen- derfynnwyd gwneud ymdrech yn ddioed i godi cerryg. E. Thomas Sec.

Rhagfyr 18. Mewn cyfarfod o'r Committee rhoddwyd Humphrey Roberts a'i fab ar waith i osod polion o amgylch lle y capel, a bod i Evan Jones y Court a John Roberts Garnedd, neu ryw ddau eraill lenwi pridd yr hen glawdd pan fyddai Mr. Davies yn barod i'w gario ymaith. Penderfynnwyd prynu coed gan Mr. William Jones Pwllheli, yr hwn a addawai wrth Thomas Roberts Bryneryr eu cario i Glynnog, os rhoddid y pris o 14c. y droedfedd am danynt. Penderfynnwyd cymeryd rhyw gymaint o galch gan Mr. Thomas Edwards, yr hwn a addawai gario amryw droleidiau i Glynnog yn ddidraul. Ymrwymai Richard Jones Clynnog fyned o amgylch i gymeryd i lawr enwau rhydd-ewyllyswyr yn y gymdogaeth i weithio a'u trefnu i ddyfod i'r gwaith ar gylch. Gorchmynnwyd derbyn ugain punt o gynygiad Mr. Robert Hughes Uwchlaw'r- ffynnon ar y capel dros glwb y Rechabiaid, a rhoddi note of hand am danynt o dan ddwylo Thomas Roberts Bryneryr, John Jones Ty'nycoed ac Ebenezer Thomas Clynnog, y rhai a ymrwyment i fod yn atebol dros y capel. A chyfarwyddwyd rhoddi yn ol £4 y cant o log, ond iddynt hwy, sef Robert Hughes a'r Clwb ymfoddloni i gymeryd £3 10s., os byddid yn cael rhyw arian felly. Ymddiriedwyd i John Jones Ty'nycoed osod y gwaith cerryg ar y muriau i Robert Williams yr Allt am 9c. y llath, a bod iddo gymeryd dau ddyn medrus gydag ef i weithio. Os na chymerai y gwaith am hynny, iddo gael ei osod i rywun arall. Soniwyd am i Richard Jones Bodgefail gael y gwaith toi a phlastro os byddai yn dewis, ac yn cytuno âg amodau y gosodwr a'r Committee. Ymddiriedwyd hefyd i John Jones Ty'nycoed osod y gwaith o dyllu a saethu cerryg i John Williams Mur Sant. Gorchmynnwyd prynu hoelion i osod y polion yn y siop newydd,—tair modfedd o hyd. Penderfynnwyd gofyn i Capten Owen Lleuar bach ddyfod i gyfarfod nesaf y Committee. E. Thomas Ysgrifennydd.

Mewn Committee a gynhaliwyd nos Wener y 5ed o Ionawr, 1844, enwyd y personau canlynol i fod yn trustees y capel newydd: Parchn. W. Roberts Hendre bach, John Jones Talsarn, Capten Lewis Owen Lleuar bach, Mri. James Williams Penrhiwiau, Thomas Roberts Bryneryr, Richard Jones Pentref, Ebenezer Thomas eto. Cymeradwywyd y plan gwreiddiol o eiddo James Williams, yn unig na byddai i'r stabl fod yn ffrynt y capel fel y bwriedid unwaith.

Yn y Capel Uchaf ychydig ddyddiau ar ol y cyfarfod uchod, Parch, John Phillips a ddadleuai dros sefydlu ysgolion Brytanaidd yn y plwyf hwn fel yn holl Ogledd Cymru; ac mewn cyfrinach gyda rhai o'r ymddiriedolwyr uchod, darluniai ddull yr ysgoldai priodol ac mewn ateb i gais y trustees oedd yn bresennol dywedai y gwnae y capel newydd y tro i gadw yr ysgol hon ond i'w blan gael ei gyfnewid. Cydsyniwyd er mwyn yr ysgol i ganiatau y cyfnewidiad. Ac yn ol y cynllun cyfnewidiol hwn, er i raddau yn wahanol i'r hyn a ofynnai Mr. Phillips, penderfynnwyd adeiladu y capel. E. Thomas.

Mesur gwaith y saer maen ar y capel newydd: Corff yr adeilad, 136 troed. 7 mod. x 18 troed. 8 mod. = 2549 troed. 6 mod.; dau dal maen, 31 troed. 9 mod. x 10 troed. 6 mod. = 333 troed. 4 mod. ; 2 adenydd, 18 troed. 6 mod. x 4 troed. = 74 troed. Cyfanswm, 328 llath 4 troed. 10 mod. Talcen y ffrynt yn mesur ar ei ben ei hun, 759 troedfedd, 4 modfedd. E. Thomas. J. Williams.

Awst 29, 1844. Cyfarfu y Parch. William Roberts Hendre bach, James Williams Penrhiwiau, John Jones Ty'nycoed, Thomas Roberts Bryn-yr-eryr, Evan Thomas, Benjamin Hughes, Ebenezer Thomas yn y capel newydd am 6 o'r gloch, pryd y gwelwyd fod y setiau wedi eu gorffen yn bur agos, a'r capel mewn cyflwr o orffeniad hwylus a boddhaol iawn. Ymddiddannwyd am ardreth y setiau. amser y pregethau a chyfarfodydd eraill, ynghylch amryw swyddau o wasanaeth i'r eglwys a'r gynulleidfa, a phwy a'u gweinyddai, ynghylch ceffyl y pregethwr, a darpariaeth ar ei gyfer, etc., etc.

Medi 18ed, nos Fercher, cynhaliwyd y Gymdeithas Eglwysig gyntaf yn y capel newydd, pryd yr oedd lliaws o frodyr a chwiorydd y Pentref a'r gymdogaeth yn bresennol, a theimlwyd yn y cyfarfod hwn rywbeth nodedig fel arwydd a thystiolaeth o foddlonrwydd yr Arglwydd."

Fe ganfyddir, yn ol y cofnodion hyn, fod Eben Fardd ynghydag aelodau Methodistaidd eraill yn parhau i ryw fesur i fyned i was- anaeth yr eglwys yn y bore, wedi gorffen gwasanaeth yr ysgol. Mae'n ddiau fod cyfrifon manwl ynglyn â'r adeiladu wedi eu cadw, ond nid ydynt gerbron. Rhif yr eglwys ar ei chychwyniad oedd 43. Yr oedd 32 yn aelodau yn y Capel Uchaf, 10 yn Seion, a daeth un o le arall.

Ionawr, 1845, trefnwyd capel y pentref yn daith gyda Seion a'r Capel Uchaf.

Soniwyd am Eben Fardd fel arolygwr yr ysgol yn Eglwys y Bedd. Ac efe a barhaodd yn y swydd honno yn y capel yr un fath. Yn niwedd yr ysgol, fe fyddai yn rhaid i bob athraw yn ei gylch, cymhwyster neu beidio, holi'r plant. Bu rhyw ofyniadau ar gân mewn arfer yn yr ysgol er yn fore, yr athraw yn gofyn a'r plant yn ateb: Dyma hwy, mor bell ag y gallai Mr. William Jones, mab Mr. Richard Jones, eu dwyn i'w gof:

Beth yw dyn?
Rhyw bryf meddylgar a wnaeth Duw i draethu ei glod.
Beth yw enaid?
Gem ysbrydol goleu, pwyll ac urdd y dyn.
Beth yw Duw?
Y mawr a'r hawddgar, lluniwr pawb, anfeidrol Fod.
Beth yw nefoedd ?
Haf hyfrydaf na ddaw gauaf ar ei ol.
Beth yw angeu?
Nos anifyr ddaw ar draws gauaf-ddydd byrr.
Beth yw uffern ?
Pwll erchyllaf, diwedd taith pechadur ffôl.

Ar ol rhyw adroddiad o hyn, dyma James Williams yn torri allan, gan gyfarch yr arolygwr, "Mae hi wedi stopio yn rhyw le rhyfedd iawn, Ebenezer! 'Does dim modd gochel mynd yno?" "Mi edrychaf i i'r peth," ebe'r arolygwr, "i weld beth fedra'i wneud." Erbyn y tro nesaf yr oedd yna fymryn o ychwanegiad at yr holi a'r ateb:

A oes ffordd i ochel uffern?
Oes, drwy gredu yn Iesu Grist.
F'enaid cred, cadwedig fyddi,
Ti gei ochel uffern drist.


Rhoddid deng munyd yn y diwedd i un o'r athrawon ddweyd rhywbeth am ryw ddrwg yn codi ei ben yn yr ardal ag y dylid ei warafun. Dywedai James Williams yn o fynych yn erbyn balchder, wrth yr hyn y deallid rhyw goeg-wisgiad neu agweddiad. Ar ryw Sul neilltuol pwy ddaeth i mewn i'r ysgol gyda blodyn bob un yn ei het ond dwy ferch James Williams. Yntau yn codi i fyny, yn yr amser arferol at y gorchwyl crybwylledig, ac yn torri i grio, fod balchder wedi dod i'w dŷ ef, ac nad allai o ddim wrtho. Diau ddarfod i falchder ennill rhwysg ychwanegol yn yr ardal o hynny allan!

Casgl mis Rhagfyr, 1844, 14s. 0½c.; Ionawr, 1845, 14s. 8½c.; Chwefror eto, 13s. 1½c. Y taliad cyntaf yw, Medi 22, 1844, J. Williams Frongoch, oedfa, 1s. 6c.; a'r ail, Hydref 5 eto, Morris Jones Jersualem, 2s. Tachwedd 9, Thomas Pritchard, seiat, 1s. Tachwedd 27, John Jones Talsarn, oedfa, 2s. 6c. Mehefin 26, 1845, William Roberts Amlwch, 5s.; Henry Rees, 5s.; Am gario Mr. Rees, 2s. Mai 24 o'r un flwyddyn ceir David Jones, seiat, 1s. ; Mai 25, David Jones, oedfa, 2s. Mae Thomas Hughes Machynlleth i lawr yr un flwyddyn am 2s., ac Owen Thomas Pwllheli am 3s. Ar daith, mae'n ddiau, yr oedd y cyntaf; a'r ail yn dod ar gyfer y Sul.

Ond dyma nodiad ar y materion hyn gan Eben Fardd ei hun, yn ei ddull manwl ef: "Hydref 1, 1852. Cynaliwyd Cyfarfod Diaconiaid y Daith Sabothol yn y Capel Uchaf, i'r diben o edrych i mewn i dâl Sabothol y pregethwyr yn y tri chapel, a phenderfynnu ar unrhyw welliant os bernid fod achos am hynny. Cafwyd fod y taliadau yn amrywio yn bur unffurf yn y tri chapel, sef yn debyg ar y cyfan i'r hyn a ganlyn yn Sabothol: Y gradd-daliad isaf, C.U., 2s. 6c., C.P., 2s., C.S., 1s. 6c., 6s. y Sul, neu £15 12s. yn y flwyddyn. Y gradd-dâl canol, C.U., 3s., C.P., 2s. 6c., C.S., 2s. = 7s. 6c. y Sul, neu £19 10s. y flwyddyn. Y taliad hwn yw y mwyaf cyffredin. Y gradd-daliad mwyaf, C.U., 4s., C.P., 4s., C.S., 3s. 6c., =11s. 6c. y Sul, neu £29 18s. y flwyddyn. Traul tŷ y Capel Uchaf tuag 11s. y mis, neu 12s. at eu gilydd. Traul tŷ C.S. tua 6s. y mis at eu gilydd. Dim traul tŷ yn C.P. [am fod rhyw rai yno yn cadw'r pregethwr eu hunain]. Tâl pregethwyr teithiol yn amrywio yn debyg yn y tri lle, sef 1s. 6c., 2s. C.P. sydd yn talu uchaf yn y dosbarth yma, weithiau 2s. 6c., yn aml 2s. Anogwyd diaconiaid y C.U. yn fawr i ddangos eu cyfrifon i'r holl frodyr yn y gymdeithas er boddlonrwydd i bawb, a rhwyddhau amgylchiadau yr achos yn y capel dywededig. Casgl mis C.U., rhwng ardrethion y tai, &c., £1 6s. at eu gilydd; eto C.P., drwy gyfroddion yr aelodau yn unig, tua 17s.; eto C.S. eto, a pheth arian seti, 18s."

Ebenezer Thomas a James Williams oedd y ddau flaenor a ddaeth o Seion ar gychwyniad yr achos. Ychwanegwyd Richard Jones atynt drwy ddewisiad yr eglwys ym mis Gorffennaf, 1847.

Dyma ddau nodiad gan Eben Fardd am ymweliadau eglwysig, pa beth bynnag yn neilltuol yw ystyr yr olaf o'r ddau: "1850, Mehefin 19, ymwelwyd â'r eglwys gan y Parch. J. Jones Talsarn, Capten L. Owen, Mr. William Owen Penygroes, i chwilio cyfrifon, ac i gyfarwyddo'r eglwys yn ei hachosion ysbrydol ac amgylchiadol. 1853, Ebrill 6, ymwelwyd â'r eglwys gan y Parch. J. Jones Talsarn, a chafwyd ei llais dros geisio gweinidog, unwaith yn y mis o leiaf, i'r cyfarfod eglwysig. Danghoswyd y cyfrifon iddo. Ceryddai yn llym am fod yn hannerog gyda'r sect, a chwennych egwyddorion dieithr a thwyllodrus." A yw y frawddeg olaf hon yn cyfeirio mewn rhan at arfer Eben Fardd, ac eraill efallai, y pryd hwnnw, of fyned i wasanaeth yr eglwys ar fore Sul?

Dyma nodiad gan ysgrifennydd yr eglwys, sef Eben Fardd, ar gyfer 1853: "Yr wyth aelodau newyddion a dderbyniwyd ydynt fechgyn a genethod a ddaethant i'r eglwys ohonynt eu hunain onid dau, ac onid un wraig yr hon yn fuan a ddiarddelwyd."

Nodiad yr ysgrifennydd am 1854: "Un o nodweddion mwyaf canmoladwy yr eglwys yw ei ffyddlondeb gyda'r casgl at y weinidogaeth. Mae ei chyfraniadau ariannol at bob achos crefyddol ac elusennol arall yn weddus a chymwys o ran swm yn gyffredin. Ei phrif lafur at oleuo y gymdogaeth, a chynyddu moesau da a gwybodaeth, sydd wedi bod yn y blynyddoedd diweddaraf mewn cynnal i fyny Gyfarfodydd Addysg mewn cysylltiad â'r ysgol Sabothol, drwy ba rai y cefnogir cerddoriaeth grefyddol, darllenyddiaeth cywir, ysgrifeniaeth a chyfansoddiad, ynghyda rhinwedd a gwybodaeth yn gyffredinol. Yn gyfochrol â hyn, ac at ddibenion diwylliaeth meddwl, a dyrchafiad character, amcanwyd gan nifer perthynnol i'r eglwys, yr ysgol, a'r cyfarfod addysg, sefydlu ystafell newyddiadurol (newsroom) yn y Pentref, yr hyn a ymddengys eto yn llwyddiannus a buddiol." Ac yna ceir sylw diweddarach: Diffoddodd yr anturiaeth olaf hon yn yr haf, 1855, wedi parhau am flwyddyn a hanner." Sefydlwyd y newyddfa yn niwedd 1853. Darfu i'r aelodau anrhegu y capel â chloc gwerth £3 12s. 6c. Mae rhestr y tanysgrifwyr gan yr ysgrifennydd, yn cynnwys pob enw, gyda rhoddion yn amrywio o 5s. i 2c. Ar ddiwedd y ddalen, ceir ganddo'r geiriau, "God bless the contributors."

Dyma gofnod yn dwyn perthynas â'r ddyled: "Cafwyd gan y Parch. William Rees Liverpool ddyfod yma i ddarlithio, Mawrth 28, 1855, i lenwi i fyny y rhes o ddarlithiau misol a gytunwyd arnynt y flwyddyn hon. Rhoddwyd tocynnau allan, 500 am 6c, yr un, a 100 am 3c. yr un, a thalwyd o gynnyrch y tocynnau £12 yn glir at ddileu dyled y capel. Gorffennwyd y swm o £30 gydag arian y seti, a chasgl ar y dydd diolchgarwch am y cynhaeaf yn Hydref diweddaf, nes toddi y ddyled i £30, yr hyn yw'r swm sy'n aros ar y Capel yn bresennol (Mai, 1856)." Eto, cofnod arall : "1860, Mawrth 10, Gorffennwyd talu dyled y capel yn gyflawn, 16 mlynedd o'r amser y dechreuwyd ei adeiladu. Mawrth 11. Casglwyd yn yr ysgol Sabothol £1 4s. 1c. at gael Beibl mawr pedwarplyg a llyfr hymnau ar y pulpud."

Dyma gofnod yr ysgrifennydd o gyfarfod pregethu : "Awst 17, 1859: Cynaliwyd cyfarfod pregethu cryf a lliosog yng nghapel Pentref Clynnog. Ni chynaliwyd cyfarfod pregethu gan y Methodistiaid Calfinaidd ym mhentref Clynnog o'r blaen. . . .Y gweinidogion oedd yn myned drwy waith cyfarfod y flwyddyn hon oeddynt y Parchn. Edward Morgan Dyffryn, David Charles Môn a Robert Hughes Llanaelhaiarn. Pregethu rhagorol; gwrandawiad bywiog a dyfal; caredigrwydd a ffyddlondeb mawr. Cynorthwyid y Pentref gyda chyfraniadau gan eglwysi Brynaerau, Capel Uchaf a Seion. Cadwyd seiat gyffredinol i'r holl eglwysi am 8 o'r gloch."

Nid oedd y diwygiad wedi ei deimlo eto yn yr ardal yn amser y cyfarfod pregethu. Nos Iau, Tachwedd 10, y cyrhaeddodd Dafydd Morgan y Pentref. "Wedi pregeth finiog galwyd seiat. Yr oedd ymhlith y dychweledigion wr ieuanc o ymddanghosiad hardd, ac ar ei ben gnwd o wallt euraidd modrwyog. A yw'ch tad a'ch mam yn fyw?' gofynnai Dafydd Morgan. 'Nac ydynt.' 'A fuont hwy farw yn grefyddol ?' 'Do.' 'A oes i chwi frodyr a chwiorydd?' 'Oes, chwech.' 'A ydynt hwy yn grefyddol?' Ydynt i gyd.' Dyrchafodd y diwygiwr ei lais mewn bloedd wefreiddiol, Dyma'r olaf i'r arch, 'doed y diluw pan y delo.' Gan dynnu ei fysedd drwy fodrwyau'r gwallt, ychwanegodd, 'Fe fyddai'n biti i'r diafol gael hwn. Mae e am yr ieuanc a'r prydferth bob amser. 'Rwyt 'ithau yn dlws—'rwyti yn rhy hardd i uffern. dy gael di. Mynn fod yn dlws i Dduw, machgen i, o hyn i'r diwedd.' Llamodd y llanc ar ei draed, a thaflodd ei freichiau am wddf y diwygiwr, a chusanodd ef. Gyrrodd yr olygfa hon lewyg o orfoledd dros y seiat." (Cofiant Dafydd Morgan, t. 479.)

Gwelwyd mai rhif yr eglwys ar ei chorfforiad cyntaf yn 1844. oedd 43. Y rhif yn 1858, y flwyddyn o flaen y diwygiad, 68. Y rhif yn 1860, ar ddiwedd y diwygiad, 105. Y rhif yn 1862, tymor y gwyntyllio, 79. Y nifer a ddaeth i'r eglwys o'r newydd yn ystod 1859 oedd 24, chwech o honynt o ddosbarth y plant, neu heb fod wedi cyrraedd oed arferol y rhai a dderbynnid i gyflawn aelodaeth. Anrhydedd ar eglwys Ebenezer ydyw ddarfod i Thomas Jerman Jones ddechre pregethu yma, pan yn yr ysgol, yn y flwyddyn 1859.

Yn 1861 yr adeiladwyd y tŷ capel.

Ar lyfr yr aelodau, y mae'r ysgrifennydd wedi dodi yma ac acw ambell sylw byrr, a chan mai Eben Fardd oedd yr ysgrifennydd hwnnw, rhaid gweled pa beth a ddywed. Anfynych y ceir dim neilltuol; ond erbyn dodi'r cyfryw bethau wrth eu gilydd, fe ä heibio drwy ddychymyg dyn ryw ledrith o ffurfiau anelwig, cyfnewidiol, rhy ansicr i'w cornelu ar ddalennau hanes, ond yn awgrymu nid ychydig pan arosir yn dawel uwch eu pen. Nid yw'r sylw cyntaf yn dod dan 1848, a dechreuir gyda hwnnw: "Diarddelwyd ar awdurdod 2. Cor. vi. 14, a Rhuf. vii. 3.—Mary Thomas, marw Mawrth 1, 1850, yn 52 oed. Ei geiriau olaf, "A dyna oedd ei amcan ef, fy nwyn o'r byd i deyrnas nef."—Hugh Owen Ty'nycoed, i'r ysgol; symudodd i Awstralia.—Margaret Roberts Twnti'r- afon a fu farw Ionawr 4, 1853, ymhen ychydig funydau ar ol galw ei henw yn y llyfr hwn, noson y cyfarfod eglwysig cyntaf yn y flwyddyn.—Diarddelwyd am buteindra: bu farw—John Roberts: cafodd ei ladd yn y chwarel yn Nant Nantlle (1854).—Elizabeth Thomas: ymadawodd i'r workhouse ym Mai (1854).—Gwaharddwyd iddi fod mewn cymundeb.—Catherine Thomas: bu farw yn yr Arglwydd fel y cryf hyderaf, Mai 28, 1855.—Gwaharddwyd iddi fod mewn cymundeb.—Adferwyd wedi ei diarddel.—I'r eglwys sefydledig.—John Jones Ty'nycoed: i Holt i'r ysgol (1858).— Diarddelwyd am briodi un "digred," yn ol Cyffes Ffydd y Trefnyddion.—Diarddelwyd am fuchedd aflan.—Elin Williams Mur Sant, Margaret Hughes Caerpwsan, Hugh Jones Teiliwr, Evan Jones Penarth, Robert Pritchard Ty'nlon, Hugh Owen Penarth: derbyniwyd oll, Tach. 21 (1859), y Parch. Robert Hughes yn bresennol.—Mary Thomas: bu farw yn yr Arglwydd, Mawrth 1, 1860. Dychwelodd fel ci at ei chwydfa.—Troes i eglwys Loegr ar achlysur ei siom gyda golwg am fyned yn bregethwr gyda'r Methodistiaid. — Ymadawodd dan arwyddion o aflendid aniwair. Diarddelwyd am fyned allan gyda dyn meddw, allan o amser ar y nos, yn wirfoddol.—James Ebenezer Thomas: bu farw yn yr Arglwydd, Ionawr 27, 1861, bore Sul, 8.30, i ddechre Saboth heb ddydd Llun byth ar ei ol; [ac mewn man arall] (bu farw) yn ddeunaw mlwydd oed; ei eiriau cysur olaf oeddynt, "Iesu Grist ddoe a heddyw yr un ac yn dragywydd," "Cyfamod fy hedd ni syfl," "Cyfamod rhad, cyfamod cadarn Duw, &c."—Mynd a dŵad yn ansefydlog.—Diarddelwyd o achos aniweirdeb." Dyna ddaeth i'r golwg yn y drych. Ni feddyliwyd am y meflau a'r brychau wrth gychwyn, ond rhaid oedd iddynt ymddangos. Dyna fywyd yr eglwys fel sefydliad allanol!—dyna ydyw mewn rhan: dyna ydyw mor bell ag y daeth i feddwl Eben Fardd ei gofnodi mewn sylwadau byrion wrth fyned heibio. Rhaid oedd cofnodi y meflau a'r brychau gyda rhyw air neu gilydd. Nid oedd rhaid cofnodi y da oedd i'w ddwedyd; ac anfynych y gwnawd hynny oddigerth gyda theulu yr ysgrifennydd ei hun. Ni fwriedir, ar hyn o bryd o leiaf, fyned drwy unrhyw lyfr eglwys arall yn y dull hwn. Fe gredir yr un pryd fod yma wers i'r sawl a'i cymero. Dyma nefoedd ac uffern yn ymyl eu gilydd: dyma fywyd dyn yn ei amrywiol agweddau, yn ei dwyll a'i siom a'i gyfnewidiadau, a'i wynfyd a'i wae. Nid oedd yma ddim ond a geir yn hanes pob eglwys. Eithaf peth, ar dro, er hynny, yw edrych i mewn i'r delw-gelloedd, a gofyn am i'r olwg ein hysgythru drwy ddychryn.

Chwefror 17, 1863, y bu farw Eben Fardd, yn un a thrigain oed, wedi bod yng Nghlynnog am un arbymtheg ar hugain o flynyddoedd, yn arolygwr yr ysgol Sul yr holl amser hwnnw, ac yn flaenor am oddeutu ugain mlynedd, efallai flwyddyn neu ragor yn llai. Yn raddol, fel y gwelwyd, y daeth yn deg o dan deimlad o rwymedigaeth i wasanaeth crefydd. Gwnawd ef yn flaenor yng nghapel Seion yn lled fuan, os nad yn fuan iawn, ar ol ei dderbyn fel aelod. Rhoddwyd ynglyn â hanes Seion, hanes ei gymhelliad yntau i ddod yn aelod, yn ol adroddiad Robert Hughes Uwchlaw'r ffynnon. Y mae hanes arall, cwbl gyson â hwnnw. Yn ol Mr. Howell Roberts, yn y Geninen am 1902 (t. 61-62), yr ydoedd mewn cryn bryder ynghylch ei rwymedigaeth i grefydd yn y flwyddyn 1839. Fe deimlai ryw gymhelliad at Eglwys Loegr, a rhyw ymlyniad wrth y Methodistiaid, ag y magwyd ef gyda hwy. Meddyliodd unwaith am lunio ffurf o grefydd iddo'i hun. Yn y cyfwng hwn, ar ei waith yn cerdded allan o Eglwys y Bedd, disgynnodd y geiriau hynny ar ei ysbryd, "Ni watworir Duw; pa beth bynnag a hauo dyn hynny hefyd a fed efe." Yr ystyriaethau a godasant yn ei feddwl a'i harweiniasent ef yn raddol i ymgyflwyno i'r eglwys yn Seion. Gwnawd cais teg yn y flwyddyn 1849 gan y Canon Robert Williams i'w ennill ef drosodd i'r eglwys, drwy gynnyg y lle fel meistr yn yr ysgol eglwysig newydd iddo, ar yr amod ei fod yn cymuno yn yr eglwys bob tri mis. Soniodd y Canon am y peth wrth wraig yn dwyn gradd o gydymdeimlad â'r eglwys, er yn aelod yn Ebenezer, cyn sôn ohono wrth Eben Fardd ei hun. Oddiwrth y wraig hon y clywodd efe am y peth gyntaf, a'i ateb cwrtais ydoedd, "A oes ganddo syniad mor wael a hyna am danaf, a meddwl yr awn i gofio angeu fy Ngwaredwr er mwyn bywioliaeth?" Ar ol bod mewn ymohebiaeth âg Eben Fardd, yr oedd y Canon yn adrodd am ei fethiant yn ei amcan gyda'r ysgol wrth y bwrdd yn nhŷ Lord Niwbro ac yn rhedeg ar Eben, a Lady Niwbro yn porthi. Yn y man, ebe'r Lord, gan gyfarch y Lady yn ymddanghosiadol, "Peidiwch rhedeg i lawr ddynion gwell na chwi'ch hun." Yr hen fwtler oedd yn gwrando, ac a adroddodd y peth wrth y diweddar Jones Penbwth, Llandwrog, yn lle ei gadw iddo'i hun, fel y dylasai. Diau ei fod yn dra eangfrydig yn ei gydymdeimlad; ac ni enwogodd mono'i hun mewn dim gradd mewn gwasanaeth dros y cyfundeb fel y cyfryw, oddigerth fel meistr ar yr ysgol y penodwyd ef arni. Mae'n ddiameu, yr un pryd, fod ei ymlyniad wrth yr eglwys yr oedd yn flaenor iddi yn fawr, ac yn myned yn fwy o hyd. Nid oedd unrhyw drafferth yn ormod ganddo gymeryd er ei mwyn, megys y dengys mewn rhan ei lafur-waith manwl fel ysgrifennydd. Yn araf yr ymgymerai efe â phobl, neu â sefydliadau, neu âg egwyddorion; ond wrth ymgymeryd â hwy yn araf ymlynai wrthynt yn dynn. Tueddfryd ddwys oedd yr eiddo ef. Edrycher ar y llygaid yn y llun ohono o flaen ei weithiau: adlewyrch ser y ffurfafen sydd yn eu dyfnderoedd llonydd. Enghraifft go lwyr o'r ardymheredd felancolaidd, yn ol dosbarthiad yr hen arfferyllwyr; ac yn eu hieithwedd neilltuol hwy, gwr o naws oeraidd, sur, fel yr afal anaddfed, ac yn cynnwys ynddo'i hun elfennau i'w troi dan ddylanwadau cydnaws yn feluster odiaethol, ac ofnusrwydd i'w droi yn ymdeimlad âg eangder anherfynnol. Disgynnodd ef ei hun, o ran hynny, yn ei ddisgrifiad ohono'i hun, ar eiriau yr arfferyllydd:

Dyn sur, heb ddim dawn siarad,—wyf fi'n siwr,—
Ofnus iawn fy nheimlad;
Mewn cyfeillach swbach sad,
A'i duedd at wrandawiad.

Dyma yn union y gwr, ond rhoi iddo ddigon o amser a llonyddwch, i ymglymu o ran holl wreiddiau ei natur wrth bobl pentref bychan, gwledig, fel Clynnog fawr yn Arfon, ond i'r bobl hynny roi eu serch a'u hedmygedd arno yntau, fel y gofynnai natur eang fel yr eiddo ef. A hynny a wnaeth y bobl, er mawr elw iddynt eu hunain, canys fe erys ei lun ef arnynt fel llun y ddeilen yn y gloyn. Perchid ef gan ei ysgolheigion ac anwylid ef ganddynt hefyd. Gwyddid o'r goreu pan fyddai gwewyr cyfansoddi arno. Elai yn anymwybodol o bresenoldeb yr ysgolheigion, gan gerdded ol a blaen ar lawr yr ystafell fel mewn poen dirdynnol. Wrth ei weled yn yr agwedd honno, elai'r ysgolheigion, ofnus bryd arall, yn hyf a thyrfus, a chyda rhyw drwst mwy na'i gilydd wele yntau yn dadebru, a churo yn enbyd ar brydiau felly. Deuai i mewn i'w dŷ o'r ysgol, ac heibio'r tair geneth a giniawent yno oherwydd pellter eu cartrefi, a heibio pawb arall, ac ymaith i'w ystafell heb yngan gair, ac yno y byddai bellach heb ei fwyd, ac heb neb yn beiddio aflonyddu. Y gwr a ymgollai fel hyn yn y meddyliau eang a lanwent ei fryd oedd fanylaidd i'r eithaf gyda manylion. Yng ngwewyr esgoreddfa creadigaethau mawrion ei Adgyfodiad, fe ddeuai i'r ysgol mewn clocs wedi eu glanhau yn lân, ac heb eu baeddu ar y ffordd yno, gyda'r hosanau byrion, llwydion, cyfeuon, a'i wisgiad gwledig bob amser yn eithaf trefnus. Yn y gauaf yn unig y gwisgai efe'r clocs, er cynhesrwydd iddo, wr o naws oeraidd. Ac os oedd efe yn o wyllt weithiau, pan darfid ef yng nghynddaredd cyffroad ei grebwyll, pa beth a'i llywodraethai pan na fynnai gyffwrdd fyth yn yr hogyn cringoch acw?—y mwyaf direidus yn yr holl ysgol, unig blentyn Dafydd Owen ac Ann Roberts, perchenogion gwledig athrylith a saint. Ië, dehongler hynny! A medrai fod yn eithaf diddan. Yr oedd rhai o'r ysgolorion wedi tyfu i'w maint, ac arosai ryw nifer yn yr ysgoldy dros yr awr ginio, Elis Wyn o Wyrfai yn eu plith. Yntau yr ysgolfeistr yn dod at yr ysgoldy, ac yn cael fod clo ar y drws, ac na chymerai neb arno ei weled. Torrodd allan,

Agor Elis heb gweryla,
Mae agor y ddor yn dda.

Elis oddifewn,

Agoryd i rai gwirion,
Mi glywais i mai gwael yw sôn.

Bu cryn ymdrafod ol a blaen, a'r bachgen cringoch na fynnid mo'i guro, yno yn gwrando. Yr unig linell arall a gofid oedd yr olaf gan Eben,

Tyr'd Elis côd dy aeliau.

Yr oeddid yn cyflwyno tysteb i Morris Pentyrch yng nghyfarfod llenyddol Clynnog, a'r bachgen cringoch yno yn sylwi. Hen athraw i Eben oedd Morris, a phin ysgrifennu a gyflwynid iddo. Ebe'r bardd:

Plisg a gwisg yw'r gân,
Rwyd-dyllog o'r tuallan.
Yn y pin mae pen y gamp
Ac ergyd y ragorgamp.

Parchai'r gwr hwn bawb, a chawsai yntau ei barchu gan bawb. Nid oherwydd tlodi neb yr elai efe heibio iddo heb sylw; os na wnawd brâd, danghosai barch i bob dyn. Yn y gymdeithas eglwysig nid elai efe i'r llawr i ymddiddan â'r cyfeillion: gadawai hynny o waith i James Williams, wr ffraeth ei ymadrodd, tyner ei deimlad, craff ei olygon, dwys ei brofiad. Gwr gwledig oedd yr hen Siams, ond gwr y gwyddai Eben ei werth er hynny. A gwyliai'r bardd yr hyn elai ymlaen rhwng Siams a'r bobl, a phan godai i siarad, gair pwrpasol i gyfeiriad yr ymddiddan hwnnw fyddai ganddo. Pan weddiai yn gyhoeddus, a gweddiai weithiau yn yr oedfa o flaen y pregethwr, anaml y gweddiai yn faith, a phob amser yn syml, yn uniongyrchol. Ei eiriau fyddai anaml, ac wedi eu cymysgu â dwys ochneidiau. Anfynych y gweddiai nac yn y capel nac yn y tŷ heb ddwyn i mewn i'w erfyniau weddi'r publican, "O Dduw, bydd drugarog wrthyf bechadur." Gwelodd gladdu ei wraig, ei unig fab, a dwy ferch o'r tair oedd ganddo, ac ymddanghosai yn gollwng ei afael yn fwy o bopeth daearol wrth eu colli hwy, ac yn enwedig ar ol colli ei fab galluog ac addfwyn, yn fachgen deunaw oed. O hynny ymlaen, ac am y ddwy flynedd olaf o'i oes difrifolodd yn amlwg yn ei holl ddull. Ni chollai seiat ond o raid yn ystod yr amser hwnnw. Daeth i mewn i'w brofiad y pryd hyn ryw allu rhyfedd i sylweddoli y byd tragwyddol. "Elai'r lle yn hollol ddistaw pan fyddai yn siarad," ebe Mr. John Jones Llanfaglan am y tymor hwnnw arno, "a thynnai chwi i mewn gydag o i'r byd tragwyddol." Cyffelybai ei hun unwaith yn y seiat i'r ysglodyn yn cael ei daflu gan y don ar lan y traeth, ond er cael ei daflu ymlaen gan y don yn cael ei sugno yn ol drachefn, nes dod y seithfed don, ac yna y teflid yr ysglodyn yn deg ar y traeth. Felly yr oedd yntau wedi profi. Ton ar ol ton yn ei daflu ynghyfeiriad y byd ysbrydol, ond pethau'r byd yn dod drachefn i'w sugno yn ol. Ond o'r diwedd, gan gyfeirio at farw ei fab, fe deimlai fod y seithfed don wedi dod, ac na feddai'r byd ddim ymhellach. iddo i'w sugno i mewn yn ol iddo'i hun. Gyda'i fab hwn yr oedd yr oll a deimlai yn werthfawr yn y byd wedi ei gipio oddiarno. Fe'i clywyd yn hynod mewn gweddi yn fuan ar ol yr amgylchiad hwnnw. "Pwy sydd gennyf yn y nefoedd ond tydi? Mae gennym rai yno, ac y mae yn dda gennym am danynt, ond ni a edrychwn heibio iddynt oll atat ti! Pwy sydd gennyf yn y nefoedd ond tydi?" Trwy ffydd fe welodd weledigaeth y proffwyd:

Yn nrych y gair mi welaf
Olwynion trefn y byd
Yn dirgel droi eu gilydd
A Duw'n eu gweithio'i gyd.

Cymododd â gerwindeb yr oruchwyliaeth:

Braidd ag ofni byddaf weithiau
Mai gwr caled ydwyt til
Ond fy nghalon a'm condemnia;
Nid gwr caled
Roisai'i fywyd dros fy math.

Heb fod nepell oddiwrth y diwedd y diferodd oddiwrtho ei eiriau olaf ar ffurf barddonol:

Y nefoedd fydd
Yn oleu ddydd
O bob goleuni i'w ddisgwyl sydd.

Tremiai â'i lygaid wrth dynnu ei anadliad olaf, ac ymdaenodd gwên dros ei wyneb. Aeth lawer gwaith gynt i Lwyn y Nef gan ddisgwyl clywed yr aderyn hwnnw a swynai seiri Eglwys y Bedd nes methu ganddynt fyned ymlaen gyda'u gorchwyl hyd oni chafas Beuno sant gan yr Arglwydd ei symud, ac yna hwy aethant ymlaen. Gyda'r drem olaf honno, pan safodd pob gorchwyl daearol, clywodd Eben Fardd lais aderyn Llwyn y Nef. Eithr peidio'r daearol er mwyn dechreu'r nefol. "Yn y nefoedd y canaf i'n iawn," ebe fe wrth ei ferch nid nepell oddiwrth y diwedd.

Dodir yma gyfieithiad rhydd o rai pethau perthynasol yn nyddlyfr Saesneg Eben Fardd, a gyhoeddwyd yn Wales, 1894-6. "1827. Dechre ysgol Medi 10, 1837. 1837, Mehefin 30. Fy ngwraig yn y seiat yn y Gyrn Goch. Wedi bod am dair wythnos mewn mawr drafferth a blinder am ei chyflwr. Hyderaf mai llaw Duw ydyw hyn; ac, os felly, fe gynydda er iachawdwriaeth. Hydref, 12. Gorymdaith ddirwestol drwy Glynnog. Dwy faner fawr â'r gair Sobrwydd yn weuedig i mewn ynddynt, a dwy faner fach gyda'r gair Dirwest. Lliwiau gwyn, a bwyell ryfel ar ben baniar Capel Uchaf. Canwyd fy emyn ddirwestol i yn effeithiol wrth fyned drwy'r pentref. Trowyd i Eglwys y Bedd, lle traddodwyd anerchiadau pwrpasol. Tachwedd 8. Cyfarfod dirwestol yn Eglwys y Bedd, lle traddododd Mr. Griffith Hughes Edeyrn ddarlith ragorol a gwir alluog ar ddirwest yn ei berthynas â masnach. 1838, Mawrth 17. Y Parch. John Phillips Treffynnon yn y Capel Uchaf. Malachi iii., 16. . . . . Yr wyf yn ystyried y gwr hwn yn bregethwr da iawn . . . . Llais gwych, ystum weddaidd, eglurder a threfn yn ei araeth, a mawrygiad gostyngedig ac angerddol o'i Feistr dwyfol, a wnelai ei bregeth yn llawn tân sanctaidd a gwres nefol. 1845, Mehefin 26. Parch. Henry Rees a William Roberts Amlwch yn pregethu am 11 y bore yn y Pentref. Talwyd 5s. i bob un. Rhagfyr 27. Parch. W. Prydderch yn pregethu. Talwyd 2s.; ei gyfaill, 1s. 1847, Hydref 5. Cyfarfod Misol y Capel Uchaf. Mri. Edwards Bala a Rees Nerpwl yn pregethu, yr olaf yn dra disglair. Rhagfyr 12, y Sul. Dr. Pughe yn y cyfarfod gweddi. Rhagfyr 13. Eilfed arbymtheg ben blwydd Ellen. I Dduw y byddo'r glod a'r gogoniant am ei ryfedd drugareddau dros ystod y ddwy flwydd arbymtheg hyn. Mabwysiader hi ganddo ef, a bydded eiddo iddo dros byth. 1852, Mawrth 6. Seiat. Peth adfywiad i'm henaid. Ebrill 18. John Owen Penygroes wedi'n siomi am y bregeth. Anogwyd fi i roi gair o gyfarchiad. Eglurais ychydig hwyr a bore ar y trefniant aberthol a'r sylwedd cyfatebol dan yr Efengyl. 1854, Ionawr 1. Achos Crist ymhlith y Methodistiaid yn y Pentref yn isel iawn ar hyn o bryd. Dim ond o 50 i 60 yn yr ysgol Sul, &c. Mehefin 22, John Owen Henbant yn talu £1 i mi am ysgol plant tlodion o'r Capel Uchaf. 1856, Awst 6, nis gallaf edrych ar fy neilltuedd presennol oddiwrth lafur cyhoeddus a llenyddol ond fel nesad at yr hedd a'r mwynhad a'r gorffwystra yn Nuw yr hyderaf gyrraedd iddo ar ben fy nhaith. Y bywyd bychan a fu'n ymagor i'w flodau a'i ffrwyth llenyddol o 1824 ymlaen, sy'n ymddangos yn awr yn ymgau ac yn disgyn i lawr yn addfed a llawn i'r ddaear o'r neilltuaeth diniwed a'r syml fwynhad y tarddodd ohono, i flaguro yn nesaf oll mewn anfarwol fwynhad a llawenydd a digrifwch, ac mewn nefol gymdeithas a nefol gwmnïaeth. Medi 30. Diolchgarwch am y cynhaeaf. Wrth gymhelliad mewnol cryf rhoddais air o gyfarchiad i'r bobl ar yr achlysur, yr hyn a dderbyniwyd yn dda ganddynt, er clod a gogoniant i Dduw. 1857, Ionawr 18. Rhyw ddylanwad dwyfol neilltuol i'w deimlo yng nghyfarfod gweddi yr hwyr. Gogoniant i Dduw. 1859, Hydref 18. Y brodyr yn hiraethu am y diwygiad. Troi y seiat yn gyfarfod gweddi am ddiwygiad. Diffyg amynedd ac ysbryd priodol. Rhagfyr 26. Pregethu yn y Capel Uchaf. Yn y bregeth am ddau. Y gynulleidfa yn dra thrystiog a chyffrous. Nis gallaswn wrando er adeiladaeth."

Yr oedd Dewi Arfon (Y Parch. David Jones) yn ysgolor gydag Eben Fardd yn niwedd ei oes, a chymerodd ei le fel athraw pan waelodd efe. Daeth hefyd yn olynydd iddo yn yr ysgol, ac yn fugail i'r eglwys. Methu gan Eben Fardd yn deg a deall paham y deuai ysgolor o gyrhaeddiadau Dewi Arfon ato ef i'r ysgol, ac yr oedd braidd, yn ei ordeimladrwydd, yn amheus ohono ef. Ystyrrid yr athraw newydd yn rhagori ar yr hen o ran ei ddull effro yn yr ysgol ar bob pryd. Codwyd ysgoldy a thŷ ar ei gyfer, ond bu efe farw yn 1869, yn 36 mlwydd oed, cyn myned ohono i'r naill na'r llall. Cyfrifid ef yn feirniad cerddorol da, yn fardd da, yn arbennig fel englynwr, ac yn bregethwr coeth a sylweddol. Yr oedd yn wr ffraeth a siriol a ffyddlon i'w gyfeillion. Megys y bu efe farw cyn myned i'r ysgoldy a'r tŷ a ddarparwyd iddo, felly y bu efe farw yr un modd cyn derbyn y dysteb a fwriadwyd iddo, er fod y symudiad ynglyn â hi yn un llwyddiannus, ac felly y bu efe farw yn nheimlad y wlad cyn gwneud ohono ei farc priodol ei hun. Er hynny, fe gafwyd rhyw awgrym ddarfod iddo farw yn union yn yr adeg briodol. Rhwng pump a chwech ar y gloch fore y Nadolig, fe ofynnodd i'w chwaer estyn iddo awrlais bychan gydag alarwm ynddo. Yna gosododd fys yr alarwm i daro am naw, ac ar naw ar y gloch i'r mymryn, yn swn yr alarwm, yr ehedodd ei ysbryd ymaith.

Medi 30, 1867, y dechreuodd J. J. Roberts (Iolo Caernarvon) bregethu yma.

Yr oedd olynwyr Dewi Arfon fel athrawon yr ysgol, fel yntau, mewn cysylltiad bugeiliol â'r eglwys hefyd. Yn ystod gwaeledd Dewi, a rhyw gymaint ar ol hynny, sef oddeutu chwe mis o gwbl, bu'r Parch. R. Thomas (Llanerchymedd) yn athraw. Bu'r Parch. John Williams (Caergybi) yma hyd 1876; y Parch. John Evans, B.A. (Llanerch) hyd 1890; y Parch. W. M. Griffith, M.A. (Dyffryn) hyd 1896; ac yna y Parch. J. H. Lloyd Williams, B.A.

John Jones Ty'nycoed oedd flaenor yr eglwys a fu farw yn 1869. Gofalus a gwyliadwrus, ac o gysondeb a chywirdeb amlwg. Golwg sarrug, ond i ddibynnu arno i'r pen. Bu efe a'i briod yn gyfnerthiad i'r achos am flynyddoedd, ac yn groesawgar o weinidogion yr efengyl.

Yn 1873 daeth Mr. Howell Roberts o eglwys Llanllyfni, lle'r oedd yn flaenor. Dechreuodd bregethu yn 1875.

Rhagfyr 21, 1882, cynaliwyd gwyl yn gof am ddi-ddyledu'r adeiladau, sef yr ysgol a'r tŷ, a threuliau eraill. Dygwyd traul yr adeiladau hyn gan eglwys Clynnog ei hunan. Bernid fod yr holl adeiladau o'r dechre yn werth agos i fil o bunnau. Ar gais James Williams, oddiar ei wely angeu, y gwnawd yr ymdrech olaf i gyd er dileu'r ddyled.

Rhagfyr 24, 1882, y bu farw James Williams, yn 83 mlwydd oed, ar ryw olwg prif flaenor y lle o'r dechre. Byrr, cydnerth, gwridog, gwledig oedd James Williams, a ffraeth hefyd a phert a chraff a duwiol. Byw ei feddwl a byw ei deimlad. Daeth yn deg o dan ddylanwad Eben Fardd, ac yr oedd ganddo barch diderfyn iddo. Dan ei ddylanwad ef daeth yn bleidiwr aiddgar i'r ysgol, a thebyg mai dylanwad James Williams oedd yr achos. na symudasid mo'r ysgol o Glynnog. Bu'r cyffyrddiad â'r bardd yn symbyliad i'w feddwl, a pharhaodd yn fyw i symudiadau yr oes. Darllenai sylwadau Peter Williams ynglyn â'r bennod ar ddyledswydd deuluaidd. Yr oedd yn siaradwr rhwydd, a'i Gymraeg yn rhagorol. Yr oedd yn gampus yng nghyferbyniad ei ddawn a'i nodwedd i'r bardd. Nid oedd y cyferbyniad yn ormod gan ei fod yn meddwl yn isel ohono'i hun. Pan bwysai rhywbeth oedd ganddo i'w ddweyd yn o fawr ar ei feddwl, elai i grio, ac ar brydiau felly ysgubai bopeth o'i flaen. A'r un meddwl bywus a barai y byddai yn brofedigaeth iddo ddweyd pethau rhy ddigrifol wrth bobl weithiau. Ar ryw achlysur pan oedd sôn am gyfranu yn y cwestiwn, dyma Hugh Jones Bron-yr-Erw yn dechre tuchan, yn ol arfer pobl y Capel Uchaf y pryd hwnnw, gan gwyno'n enbyd am amgylchiadau cyfyng, nid am ei fod mor anfoddlon i roi, ond am mai dyna ffordd yr hen Fethodistiaid o'r iawn ryw. "Beth ydi'r tuchan yna sydd gen ti, byth a hefyd," ebe Siams, "'rwyti'n gruddfan fel pe tae ti'n dod â llo!" Yr oedd ganddo ddawn ddigymar i holi profiad, ond fe'i clywyd yn dweyd ei fod yn credu fod gan y diafol fwy i wneud â gwaith pobl yn dweyd profiad na dim. "Os bydd rhywbeth ar eu meddwl," ebai, "fe'i dywedan o; os na fydd, fe demtia'r diafol nhw i ddweyd celwydd." Gweddi oedd pwnc seiat y Cyfarfod Misol yn Ebenezer un tro, a Robert Ellis yn llywydd. "Rhaid i ni gael gair bach gennychi, James Williams." "'Does gen i ddim." Cododd yn y man. "'Roeddwn i'n meddwl am Beti acw. Mae acw lyn wrth y tŷ acw a chwiaid ynddo. Rhyw ddiwrnod pan oeddwn wedi dod i mewn i'r tŷ, a'r plant yn chware yn ymyl y llyn, mi glywn ysgrech. 'Dyna blentyn wedi syrthio i'r llyn l' ebwn i. 'Nag ydi,' meddai Beti. Dyna sgrech wedyn. Mae'r plentyn yn y llyn,' meddwn i. 'Nag ydi," meddai Beti yn hamddenol. Ond dyna sgrech arall. A'r tro yma dyna Beti yn rhedeg allan o'r tŷ: mi adnabyddodd y llef. A dyna ydi gweddi: llef y plentyn. Mi adnabyddodd y fam lef y plentyn. Mae llawer heb wahaniaethu rhwng gwir weddi a gau weddi; ond y mae Duw yn adnabod llef y plentyn." A'r gweddill yn y cyfeiriad yna. Wedi iddo orffen, ebe'r cadeirydd, "'Doedd lwc, bobl, nad aethom ni ddim allan â James yn 'cau dweyd!" Yr ydoedd yn llawn o'r pertrwydd yma.

Swyddog a th'wysog a thad—ini oedd.—Hywel Tudur.

Richard Hughes oedd flaenor a fu farw yn ieuanc. Arweinydd y gân, ac yn gerddor da. Hyddysg yn yr ysgrythyr, a diwinydd rhagorol.

Yn 1887 dechreuodd Edwyn W. Roberts bregethu. Derbyniodd alwad i Bodfari yn 1898.

Ebrill 17, 1888, y bu farw William Roberts, mab Thomas Roberts Bryn eryr, yr hen flaenor ffyddlon a charedig yn Seion, ac yntau yn 62 mlwydd oed. Dygai'r mab yr un nodau a'r tad. Nid oedd ball ar ei garedigrwydd yntau, nac ar ei gariad at yr achos. Danghosai ddeheurwydd mewn tynnu dynion eraill allan i weithio ac i siarad, a chuddio'i hun o'r golwg. Cyfaill Eben Fardd, a'r un a welodd ei drem sefydlog olaf ar y pethau ni ddileir.

Yn y flwyddyn hon y symudodd Mr. William Jones (Bodaden), wedi bod yn flaenor yma am oddeutu ugain mlynedd. Yr un flwyddyn y dewiswyd H.W. Hughes a G. W. Roberts yn flaenoriaid. Symudodd y blaenaf i Lanrug yn 1892.

Yn 1889 y bu farw R. H. Owen, yn wr ieuanc crefyddol a deallgar. Yn 1891 y penodwyd John Owen Cilcoed yn flaenor, yn lled ddiweddar ar ei oes. Bu farw yn 1898. Gwr myfyrgar. Pwnc neilltuol yn ei weddi bob tro. Dawn yng ngwaith yr ysgol Sul. Gwên dawel sefydlog gwr mewn heddwch â'i gydwybod ar ei wyneb. Yn 1892 y penodwyd Hugh Owen Penarth i'r swydd. Yn 1893 y daeth Hugh Jones Penrallt o Bwlchderwydd. Yn 1895 y bu farw Thomas Evans, wedi bod yn y swydd am saith mlynedd, ac yn graddol gynyddu ynddi. Yn 1900 galwyd O. Jones a ddaeth yma o Holt Road, Lerpwl.

Bu yma o bryd i bryd rai pobl go neilltuol heb fod mewn swydd. Rhai go hynod oedd Dafydd Owen Aberdesach ac Ann Roberts ei wraig. Ym marn Mr. John Jones Llanfaglan, y ddau hynotaf, yn wr a gwraig, a welodd efe. Bu Dafydd Owen farw yn 85 mlwydd oed. Achyddwr penigamp o fewn terfynnau ei blwyf ei hun. Gallai dynnu amlinelliad o'r plwyf a'r plwyfi cylchynnol â rhaw ar wyneb y maes gyda chywirdeb. Darllenwr mawr ar Eiriadur Charles. Gwr tawel, hamddenol. Ni ddaeth at grefydd nes bod yn hanner cant oed. Yn y Capel Uchaf yr oedd hynny. Pan ofynnwyd iddo a oedd rhywbeth neilltuol wedi dal ar ei feddwl, dywedai nad oedd dim felly; ond ei fod wedi ei wneud yn bwnc o fyfyrdod, a bod rhesymoldeb y peth wedi cymell ei hunan arno, ac iddo ufuddhau i'r cymhelliad a orweddai yn yr ystyriaeth o resymoldeb y broffes o grefydd. Yr oedd yn athraw Sul diguro, y goreu yn ysgol Ebenezer. Hen bobl yn ei ddosbarth, rhai go lew, rhai go sal. Hugh Jones Teiliwr yn darllen un tro, gan ddod ar draws y geiriau, "A fedri di Roeg?" "A fedri di—?" Ceisio wedyn, dro neu ddau. "A fedri di-?" Yr athraw yn gadael iddo. O'r diwedd dyma Hugh Jones a hi allan, "A fedri di rogri?" Chwerthin mawr. Ebe'r athraw yn hamddenol, "Well done, Hugh Jones, cais reit dda!" Byddai pregethwyr Clynnog yn rhyfeddu at ei weddiau sylweddol. Nid yn hwyliog, nid yn gwneud unrhyw arddanghosiad, ond yn dawel, synwyrol, sylweddol. Cymeriad cryf: yn gall iawn; ni ddatguddiai gyfrinach byth; yn wr pybyr. Llawn gyn hynoted a'i gwr oedd Ann Roberts, a hynotach mewn crefydd. Ei mam yn gyfnither i Robert Roberts, a'i hewythr o frawd ei mam yn daid i David Roberts Rhiw Ffestiniog. Bu hi farw Mawrth 1879 yn 82 mlwydd oed. Dywed Mr. John Williams Caergybi y byddai arno gryn arswyd myned ati am ei phrofiad, a dywed Mr. John Jones Llanfaglan y gwelodd efe hi yn cornelu Dewi Arfon liaws o weithiau, ac y byddai yntau yn ysgwyd gan chwerthin wrth gael ei gornelu felly. Yn gryf ei synwyr ac yn gryf ei meddwl, yr hynotaf o ferched yr ardal. Yr oedd wedi darllen gryn lawer ar lyfrau, yn gynefin â'r ysgrythyr, ac yn deall pynciau yn glir. Unwaith yr oedd yn o isel ei phrofiad yn y seiat. "Mi wn ym mhle mae'r drwg," ebe hi. Byw yr wyf ormod ynof fy hun yn lle myned allan at y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu. Arno ef y dylwn bwyso, ac nid ar fy ffydd neu fy nheimladau." Gwr o ddirnadaeth yw ei mab, Robert Owen Aberdesach. peth dywaetha ddwedodd hi wrtha'i," ebe fe, "oedd gofyn a oedd y cyfamod yn dal? Fod y diafol yn dweyd wrthi fod y cyfamod wedi torri. Meddwn innau, 'Mae'r cyfamod yn dal.' 'Yr ydw'i yn sâff, ynte, felly, achos yr ydw'i yn rhwymyn y cyfamod ers pum mlynedd a thrigain.' Ac yna, meddai hi, 'Nid ofnaf pe symudai y ddaear.'" Cerddodd ddwywaith i'r Bala i'r Sasiwn.

Byddai hi a'i gwr yn hamddenol a difyr iawn efo'u gilydd. Evan Thomas y crydd, hawdd ei dramgwyddo, hawdd ei gymodi. Cyson a phrydlon yn y moddion. Yn ei flynyddoedd olaf, heb fod yn flaenor, efe a alwai ar rai i gymeryd rhan gyhoeddus. O ysbryd gwir grefyddol. Gwr o Eifionydd, a geid yn ymgomio âg Eben Fardd yn amlach na neb ond Robert Parry Maesglas, gwr arall o Eifionydd. Dawn ganddo i adrodd straeon am yr hen gymeriadau. Yr oedd efe yn ramadegwr yn ol ei radd, ac yn athraw ar y dosbarth athrawon. Ni ddaeth yn aelod o'r eglwys hyd ei gystudd olaf, ac edifeiriol iawn ydoedd oherwydd hir oedi. Holwyddorydd y plant go neilltuol oedd Owen Jones, a go neilltuol mewn gweddi. Robert Jones y gof oedd ddyn o synwyr cryf. Yn atyniadol iawn i blant. Ceid gweled yr ysmotiau gwynion ar ei wyneb wedi i'r plant fod yn ei gusanu. Pan fyddai eisieu gwared o'r plant, curai ei einion â'i ffedog ledr, a diangent yn y fan. Gwelid hwy drachefn ymhen rhyw awr o amser yn ysbio oddeutu'r drws, a oedd croesaw iddynt ddod i mewn ai peidio? Cafodd dro amlwg yn '59. Meddwi cyn hynny. Y chwant yn dod yn gryf drosto ar brydiau. "'Rwyf wedi penderfynnu na ddaw diferyn fyth dros fy ngwefusau," ebe fe. Bu farw ymhen saith mlynedd ar ol y diwygiad â'i goron ar ei ben.

Bu yma rai gwragedd, hefyd, go neilltuol heblaw Ann Roberts. Hen wragedd oedd rhai ohonynt wedi meistroli Gurnall, ebe Mr. John Williams. Mam Owen Evans Mur Mawr—dyna un. Eben Fardd a hoffai ei chymdeithas. "Yr hen tybed yma sy'n fy mhoeni i," ebe hi: sef ydoedd hynny, nid gwadu pendant, ond tuedd anghrediniol y meddwl. Unwaith yr oedd hi yn aros yn nhŷ capel Gosen ar adeg Cyfarfod Misol. Yr oedd William Hughes Edeyrn yn pregethu o flaen James Donne. Gwr meddylgar fel y gwyddys oedd William Hughes; a'r tro hwn fe gafodd oedfa a llewyrch arni. Wedi myned i'r tŷ, ebe'r hen wraig wrtho, "Wel, mi godaist ar flaenau dy draed rhag i'r donn yna fyned dros dy ben." Sian Jones, gwraig Hugh Jones, a fedrai nyddu straeon gyda'r rhwyddineb mwyaf. Pan geid nad oeddynt ddim yn llythrennol wir, dim ond yn ffigyrol wir, tynnai hynny beth oddiwrth ei dylanwad gyda gwŷr y llythyren. Yr oedd hi'n llawn afiaeth. Gorfoleddodd lawer gwaith law-yn-llaw â merched eraill. Pan yn ddeg a phedwar ugain oed hi ddanghosai ar dro y medrai ddawnsio cystal ag yn y dyddiau gynt. Heb sôn am eraill, megys Catrin William, gweddw Griffith Williams Bwlan, a Mary Jones, un hynod iawn yn ei ffordd oedd Siani Ellis, mam Robert Griffith, blaenor ym Moriah. Un o'r Capel Uchaf oedd hi, a llawn mwy o ddelw'r Capel Uchaf arni. Sian yn myned at Evan Thomas ar ddydd diolchgarwch i ofyn iddo pa faint a ddylai hi roi yn y casgl. "Faint sy gynochi?" gofynnai yntau. "Hanner coron." "Oes peidio bod arnochi am lo?" "Dim ond am gant, ac mi gaf dalu pan leiciai." " "Taechi yn rhoi swllt, mi roech fwy na neb." Siani Ellis yn rhoi'r hanner coron i gyd. Pan gyfarfyddodd Evan Thomas â hi drachefn, mi ofynnodd iddi sut yr oedd hi wedi gwneud. "Mi rhois o i gyd," ebe hithau. "Ac arnoch i am gant o lo ?" "Ie," ebe hithau, mi ddaw o rywle." Cyn nos yr oedd hi wedi derbyn saith swllt. Ar y dydd diolchgarwch hwnnw, fe alwodd nai iddi gyda hi na welodd mono erioed o'r blaen. A thranoeth hi dderbyniodd ychwaneg drachefn. Yr oedd yn gref o gorff. Hi elai, wedi troi ei phedwar ugain oed, gyda rhaff a chryman, a chyrchai adref ar ei chefn faich o eithin digon trwm i ddyn. Danghosid gofal mawr am dani, ac nid elai diwrnod heibio heb iddi gael digonnedd; ond elai aml fore heibio heb foreubryd; ac ar y boreuau hynny fe'i clywid hi yn moli a gorfoleddu. Ni feddai gryfder meddwl neilltuol: ei neilltuolrwydd oedd ei chrefyddolder. Ei myfyrdod a lwyr-lyncwyd ym mhethau Tŷ Dduw. Ni feddai ddeunydd ymddiddan am ddim arall, pwy bynnag a alwai gyda hi, hen neu ieuainc. Ebe Mr. John Williams am dani: "Hen wraig neilltuol oedd Sian Ellis: mawr ei ffydd a'i chariad a'i llawenydd. Mynych y byddai hon pan yn nyddu gyda'r droell, a'r Beibl agored ar y ford, yn taro ei llygad ar adnod, ac yn myfyrio arni nes yr enynnai tân ac y llamai mewn gorfoledd, heb fod neb yn y tŷ ond hi ei hunan." Ebe Mr. John Jones Llanfaglan: "'Roedd Siani Ellis yn byrlymu fel ffynnon 'roedd hi'n byw yn y pethau. Yn ei thŷ yn nyddu efo'i throell, canu a gweddïo y byddai hi; yn y capel yr oedd fel un ar dorri. Ar ryw adeg o orfoledd neilltuol, hi a apeliai at y bardd, Dowch Eben, camolwch o! 'Rydw'i yn methu a gwneud digon.' Ateb Eben oedd crio." Ar hyd y blynyddoedd meithion ni feddylid am dani ond fel un ag yr oedd ei hymddiffynfa yng nghestyll y creigiau, a bod ei bara a'i dwfr yn sicr. "Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a'i hofnant ef ac a'u gwared hwynt."

Adroddiad yr ymwelwyr â'r ysgol Sul yn 1885: "Dysgir y plant mewn rhan o'r llyfr bach a'r cerdyn. Egwyddorir y plant yn y Rhodd Mam a'r Rhodd Tad yn effeithiol. Ni arferir y wersdaflen eto. Bechgyn rhy ieuainc yn gofyn cwestiynau ar eu hadnod, a hynny yn amhriodol. Hanesiaeth a daearyddiaeth ysgrythyrol yn ddiffygiol. Eisieu rhyw gynllun i greu mwy o fywiogrwydd ac ynni drwy'r holl ysgol. William Griffith Penygroes, E. Williams Llanllyfni, John Roberts Llanllyfni."

Rhif yr aelodau yn 1900, 108.

Nodiadau[golygu]

  1. Ysgrif y Parch. J. H. Lloyd Williams, B.A.; Adgofion Mr. Richard Jones, hen flaenor y lle, a anwyd ar ddydd buddugoliaeth Waterloo ; Adgofion y Parch. John Williams, Caergybi; llawysgrifau Eben Fardd; ymddiddanion âg amryw.