Hanes Methodistiaeth Arfon-Waenfawr/Betws Garmon (Salem)

Oddi ar Wicidestun
Waenfawr Hanes Methodistiaeth Arfon-Waenfawr

gan William Hobley

Ceunant

BETWS GARMON (SALEM)[1]

EIR heibio'r Betws ar y ffordd fawr o Gaernarvon i Feddgelert, drwy'r bwlch i bentref Salem, a elwir felly oddiwrth y capel. Yr ydys yma yn ymyl Llyn Cwellyn. Y mae'r pentref chwe milltir o Gaernarvon, ac y mae tair milltir ymlaen i Rhyd-ddu. "Yr oeddwn yn awr yn tynnu tuag ardal fynyddig yr Eryri," ebe George Borrow. "Yr oedd bryn ardderchog a elwid Moel Eilio o'm blaen tua'r gogledd, a mynydd enfawr a elwid Pen Drws Coed [Mynyddfawr] yn gorwedd gyferbyn ag ef i'r de, yn union fel eliffant ar ei orwedd, gyda'i ben yn is na thopyn ei gefn. Ymhen encyd aethum i ddyffryn heulog, tlws odiaeth, ac yn y man daethum i bont ar draws ffrwd hyfryd [y Wyrfai] yn rhedeg yng nghyfeiriad y de. Fel y safwn ar y bont honno prin na ffansiwn fy hun ym mharadwys, gan mor hardd neu mor fawreddus yr edrychai popeth -gwyrddion weunydd heulog orweddai ym mhobman o'm deutu, yn cael torri ar eu traws gan y ffrwd, ag yr oedd ei dyfroedd yn rhedeg gan dincian chwerthin dros wely o raian. Eilio ardderchog i'r gogledd, anferth Ben Drws Coed i'r de, mynydd tal ymhell tuhwnt iddynt i'r dwyrain. 'Ni bum erioed mewn ysmotyn mor hawddgar!' mi lefwn wrthyf fy hun mewn perlewyg hollol. 'O mor falch a fuaswn i wybod enw'r bont y cefais y nef wedi ei hagoryd i mi, megys y dywedai fy hen gyfeillion yr Ysbaenwyr, wrth sefyll arni [Pont y Betws]. . . Gan gerdded yn gyflym tua'r de daethum yn fuan at derfyn y dyffryn. Terfyna'r dyffryn mewn bwlch isel rhwng Moel Eilio-ag sydd gyda llaw yn rhan o esgair y Wyddfa-a Phen Drws Coed. Yr olaf, yr eliffant yn ei orwedd gyda'i ben wedi ei droi i'r gogledd-ddwyrain a ymddengys fel ped ewyllysiai fario'r bwlch gyda'i dduryn. Wrth y duryn y meddyliaf fath o gefnen riciog yn disgyn i lawr at y ffordd. Aethum drwy'r bwlch, gan fyned heibio i raiedryn bychan, a red gyda llawer o dwrf i lawr ochr serth y Foel Eilio. . . Rhed yr afon gan drochionni heibio blaen eithaf swch yr eliffant. Gan ddilyn cwrs yr afon daethum allan gyda hi o'r diwedd o'r bwlch i ddyffryn amgylchynedig â mynyddoedd anferth. Yn estynedig ar hyd-ddo o orllewin i ddwyrain, ac yn meddiannu ei ran ddeheuol yn llwyr, fe orwedd llyn o ddwfr hirgul, y tywallt cornant y bwlch ei hun iddo. Un o'r lliaws llynoedd hardd ydoedd hwn, ag yr oeddwn ychydig ddyddiau yn gynt wedi eu gweled o'r Wyddfa. Am y Wyddfa, gwelwn hi'n awr yn uchel uwch fy llaw yn y gogledd-ddwyrain yn edrych yn fawreddog iawn yn wir, yn disgleirio fel helm arian tra'n dal gogoniant machlud haul. Aethum rhagof yn arafaidd ar hyd y ffordd, y llyn is fy llaw ddeheu tra'r oedd ochr lethrog y Wyddfa uwch fy llaw aswy. Y prynhawnddydd oedd dawel-lonydd, ac nid oedd unrhyw drwst yn disgyn ar fy nghlust, oddigerth swn pistyll a ymdywalltai i'r llyn oddiwrth fynydd du a guchiai oddiarnodd ar y dde, ac a daflai gysgod prudd ymhell drosto. Y rhaiadr hwn oedd yng nghymdogaeth craig hynod yr olwg arni, a ymdaflai dros y llyn oddiwrth ochr y mynydd. Crwydrais gryn bellter ffordd heb gyfarfod na gweled neb byw bedyddiol. . . . Ar ochr ddwyreiniol y dyffryn y mae'r llyn yn llawer eangach nag y gwelswn ef o'r blaen, canys yr oedd y mynydd hirfaith ar y dde wedi cyrraedd ei derfyn, a'r llyn wedi ymestyn gryn lawer yn y rhanbarth honno, ac yn lle'r mynydd du yr oedd bryn prydferth tuhwnt iddo." Yn y modd hyn y deonglir cyfriniaeth naturiol yr olygfa gan George Borrow. Diau y teimlodd lliaws o frodorion y lle ei hunan gyfriniaeth uwch hyd yn oed na hon yn yr un olygfa ar adegau o ddyrchafiad ysbrydol; ond erys yr olygfa am ei dehongliad teilwng gan ryw athrylith sydd eto yn aneffro, hyd y gwyddis.

Er fod yr eglwys wladol yn y lle hwn ar gychwyniad Methodistiaeth, pryd nad ydoedd yn y Waenfawr a'r Rhyd-ddu, eto fe lynodd cysgodion nos yn hwy yma nac yn y lleoedd hynny o lawer o flynyddoedd, yn enwedig yn hwy nag yn y Waen, er agosed ydoedd. Wedi i halogwyr dydd yr Arglwydd ddechre gwladeiddio yngwydd crefyddwyr, hwy gilient yma o ddau ben yr ardal er cael llonyddwch gyda'u gorchest-gampau. A cheid ymrafaelion mynych rhwng hogiau y ddau ben i'r ardal. Fe fyddai'r campwyr hyn yn dilyn y gwasanaeth fwy neu lai yn yr eglwys, a gwelwyd yr offeiriaid yn llywyddu yn y mabol-gampau wedi i'r gwasanaeth fyned drosodd. Yr oedd yr eglwys a'r dafarn yma yn gyfleus yn ymyl ei gilydd. Dechreuid y dydd yng ngwasanaeth yr eglwys; diweddid yng nghyfeddach y dafarn. Elai'r elw oddiwrth y campau i gynorthwyo rhai mewn angen, neu ryw achos a gyfrifid yn deilwng. Rhoid gwobrau am saethu a champau eraill, a thelid rhywbeth i lawr am gynnyg. Yr arian a delid felly elai i gynorthwyo'r achosion dyngarol. Fe daflai'r amcan dyngarol oedd iddynt glôg o gyfiawnder ymarferol dros y campau, a chyda'r ateg hwnnw iddynt fe barhausont yn llawer hwy.

Yn yr awyrgylch neilltuol yma nid yw mor anhawdd deall pa fodd y coleddid ysbryd mor erledigaethus tuag at y penaugryniaid llym eu chwaeth a rhagfarnllyd eu syniadau. Ac felly ni ddarllennwn ym Methodistiaeth Cymru (II. 146) am y pedwar gwŷr hynny elai o Lanberis drwy Nant y Betws i Helyghirion, rhwng Llangybi a Phwllheli, y byddai raid gofalu er mwyn osgoi erledigaeth o'r fath fwyaf sarhaus, am fyned drwy'r Nant cyn codi o'r trigolion y bore, ac aros nes iddi nosi cyn dychwelyd drachefn.

Fe godir nodiadau John Davies yr Ystrad yma ar hanes dechreuad yr achos allan o'r llyfr eglwys. Ysgrifennwyd hwy yn ddiweddarach na'r amgylchiadau eu hunain. Eithr yr oedd efe yn sylwedydd craff ac yn gofiadur da.

"Yr oedd y gymdogaeth neu Nant y Betws cyn dechre cadw ysgol Sabothol a phregethu'r Efengyl ynddi yn debyg i'r geiriau hynny yn Esieciel y Proffwyd, 'Canys tywyllwch a orchuddia't ddaear a'r fagddu y bobloedd; ond arnat ti y cyfyd yr Arglwydd ei oleuni'—sef ar yr ysgol Sul a phregethu'r Efengyl—'a'i ogoniant a welir arnat.'

'Cyn i'r Methodistiaid ddechre cadw ysgol yng Ngherryg y rhyd a Bron y fedw, yr oedd y Wesleyaid wedi bod yn cadw ysgol yn ysgubor Plas isa am dymor cyn adeiladu capel Salem neu Dynyweirglodd. Y bregeth gyntaf wyf yn gofio ganddynt oedd yn hen ysgubor John Williams Betws dafarn, dan yr un to a thŷ Ann Thomas, wrth glawdd yr hen fynwent cyn adeiladu'r llan newydd. Y pregethwr oedd genhadwr perthynol i'r Wesleyaid wedi dod o Affrica. William Davies oedd ei enw. Buont yn pregethu wedi hyn yn Llecha rola. Ychydig o lwyddiant fu ar eu llafur yn y gymdogaeth. Enillwyd ychydig i broffesu, sef dau fab Caeau gwynion, Humphrey Hughes a Richard Hughes, William Roberts Llecha rola a'i wraig. Ond darfod a wnaeth yr achos yn bur fuan wedi gwneud y capel yn Nhynyweirglodd.

"Pan y dechreuodd John Pritchard gadw ysgol yng Ngherryg y rhyd, cyn bo hir iawn fe ddechreuwyd cadw cyfarfod gweddi yno. John Pritchard, John Owen Hafod y rhug, John Williams Dwr oer, William Owen Tŷn drwfwl, a Rowland Morris Cae ystil, John Elis teiliwr, Owen Owens Pant y waen, Richard Owen, Thomas Griffith Pant cae haidd, Thomas Williams Tŷ cwta, Morgan Owen Ty'n cae newydd, Elis Hughes Ty'n'ronen, David Hughes Pen y cae, ac amryw eraill nas gallaf eu cofio. Byddent yn dyfod bob yn bedwar at chwech o'r gloch nos Saboth pan na byddai pregeth yn y Waen. A byddai amom ninnau y plant gymaint o'u hofn a phe baent yn bedwar o angylion, a ffoi y byddem i ryw gysgod rhag iddynt ein gweled. Mae plant ein heglwysi ni'n awr yn bur wahanol—dim ofn crefyddwr mwy na rhyw ddyn arall.

"Ond fe lwyddwyd i gael pregethwr i Gerryg y rhyd, sef John Thomas Llanberis. Bu Rowland Abram Ysgoldy yno yn pregethu. Nid oes gennyf ddim cof am y bregeth. Yr oedd y tŷ yn orlawn o bobl yn gwrando. Wedi hyn cymerwyd y capel am rent gan y Wesleyaid. Ymhen rhyw ysbaid o amser dechreuodd y Methodistiaid bregethu ynddo. Nid oedd y pryd hyn o Lwyn onn i Lwyn bedw ond ychydig o bersonau yn proffesu. Rees Williams Cwm bychan a'i wraig, Elin Davies Cerryg y rhyd, Ann y ferch, Elin Davies Tŷ coch, Garreg fawr, Cathrin Elis Betws ffarm, Margared Morgans Minffordd, Ann Griffith Hafod y wern, Cathrin Williams Cae Howit. Nid ydym yn cofio am ychwaneg pan y dechreuwyd pregethu yn rheolaidd yn Salem.

"Mae'n debyg na bu mewn un gymdogaeth mor fechan gymaint o hen bobl yn digwydd bod yn fyw ar unwaith ag oedd y pryd hwn yn y gymdogaeth hon. Yr ydym yn cofio fod, rhwng gwŷr a gwragedd, o bump a thriugain i bedwar ugain, yn agos i ddeugain mewn nifer—eu pennau fel y gwlan, y pren almon wedi blodeuo. Byddai'r adnod honno yn Secaria, 8 ben. 4 adnod, yn dyfod i'm meddwl, wrth eu gweled yn myned a dyfod i'r pregethau y Saboth: 'Hen wŷr a hen wragedd a drigant eto yn heolydd Jerusalem, a phob gwr a'i ffon yn ei law gan amlder dyddiau.' Marged Roberts Tŷ'r capel â'i ffon yn ei llaw, Elisabeth Hughes Plas isa â'i ffon yn ei llaw, Elisabeth Hughes Ty'n y weirglodd â'i ffon yn ei llaw, Gwen Williams Cwm bychan a'i ffon yn ei llaw, Pyrs Owen yn ddyn wrth ei ddwyffon gan amlder dyddiau, William Jones Hafod y wern wrth ei ddwyffon, Owen Griffith Tyddyn Syr Huw wrth ei ffon, John Lewis Tŷ coch a Letis Hughes wrth eu ffyn, John Davies yr Ystrad (tad yr ysgrifennydd) wrth ei ffon, Owen Lewis Betws wrth ei ffon, ac amryw eraill nas gallwn eu cofio, wrth eu ffyn gan amlder dyddiau.

"Yr oedd pregethu'r Efengyl yn y dyddiau hyn yn effeithiol iawn. Gellir dyweyd na bu hi tuag atom ni mewn gair yn unig, ond mewn nerth ac yn yr Ysbryd Glan ac mewn sicrwydd mawr. Yr oedd llaw yr Arglwydd yn cydweithio, a nifer mawr yn credu. Yr oedd tywyllwch ac anwybodaeth a hen draddodiadau ofergoelus yr hen bobl yn gestyll o flaen gweinidogaeth yr Efengyl yn y dyddiau hynny, ond yr arfau nad ydynt gnawdol a fu yn nerthol drwy Dduw i'w bwrw i'r llawr. Argyhoeddwyd amryw o'r hen bobl y soniasom am danynt o'r blaen. Cafodd amryw ohonynt dro amlwg ac effeithiol a buont yn ffyddlon hyd angeu. Gallem enwi rhai ddaeth i'r Seiat yn bedwar ugain, megys Elisabeth Hughes Ty'n y weirglodd (nain Owen Hughes Graianfryn), Pyrs Owen yr Odyn, Margarad Roberts, Caergors gynt, yn awr yn byw yn nhy'r capel efo'i merch, Elisabeth Roberts, yr hon a briododd Griffith Davies Cwm yr ael hir, Nant Uchaf, Llanberis.

"Nid oedd seiat ganol yr wythnos y pryd hyn ond yn y Waenfawr. Byddai Ann Evans Bron y fedw a mam William Thomas Bron y fedw a mam William Jones Ty'n y ceunant, tad Thomas Jones Bron y fedw, y pryd hyn yn dod i'r Waen am flynyddoedd i'r seiat ganol wythnos.

"Pregeth ddau o'r gloch fyddai yn Salem. Byddent yn galw seiat bach ar ol, a byddai rhai yn aros o'r newydd yn wastad o ardal y Waen neu Ryd-ddu neu Salem. Byddent yn dod o Ddrws y coed uchaf, o Lwyn y forwyn, o waith Drws y coed, dros fwlch y noch, ar hyd ochr y planwydd, drwy gors Cwm bychan. Yr oedd ganddynt blanc dros yr afon i ddod i Ddôl y Bala.

Wedi sefydlu pregethu rheolaidd, Rhyd-ddu 10, Salem 2, Waen 6, symudwyd yr ysgol o Gerryg y rhyd, a rhanwyd hi, un ran i fyned i Salem a rhan arall i'r llan. I ganlyn y rhan aeth i'r llan yr aethum i. Yr oedd cyfamod wedi ei wneud rhyngom a'r person, Armstrong Williams, iddo ef ddyfod atom ni i'r ysgol at 9 o'r gloch, a'r ysgol aros gydag yntau yn y gwasanaeth. Byddai ef yn holi yr ysgol yn Hyfforddwr Mr. Charles bob yn ail â John Prichard. Bu yn gwrando pregethau yn yr hen Salem pan oedd yn byw ym Mhlas y nant. Rhyw lechu yng nghil y drws y byddai a diengyd i ffwrdd cyn y diwedd.

"Yr oedd canu Salm yn llewyrchus iawn yn llan y Betws y pryd hyn. Byddai Ffoulk Roberts y Clegyr yn dod atom i'n dysgu, deuai bob nos Sadwrn. Yr oeddem wedi ei gyflogi am ddwy flynedd. Cynyddodd y côr hyd o 40 i 50. Yr oedd lliaws o hen bobl ynddo. Perthynai iddo rai o'r Waenfawr. Ystyrrid ef y côr goreu yn yr holl ardaloedd. Cawsom ein galw i ganu i Lanberis a Llanrug a Llanwnda a Llanllyfni, ac i Landegfan yn sir Fon, pe buasem yn myned. Yr oedd y canu da wedi dylanwadu cymaint ar y bobl fel yr oeddynt yn dylifo o bob man i'w glywed, nes yr oedd yr hen lan yn rhy fechan i'w cynnal.

"Saboth Thomas Owen oedd yn Saboth byth gofiadwy. Saboth y tywalltwyd yr Ysbryd Glan yn helaeth. Yr oedd y Saboth hwnw yn fath o Bentecost i ardaloedd Rhyd-ddu a Salem a'r Waenfawr a'r amgylchoedd. Dau o'r gloch yn Salem wrth bregethu ar weddi Jabes i ychydig hen bobl, syrthiodd yr Ysbryd Glan arnynt nes torri yn orfoledd mawr. Yr oedd morwyn William Evans Cilfechydd a gwas William Davies Waen yn gorfoleddu hyd y ffordd wrth ddod o'r bregeth. Yr oedd fy mam wedi dod adref o'm blaen. Yr oeddwn i wedi aros yn y Betws gyda nifer o bobl ifanc i ddysgu rhywbeth. Pan ddaethum i'r tŷ, y peth cyntaf ddywedodd fy mam wrthyf oedd,—' Sioncyn, 'daseti yn y capel y pnawn yma, gael iti weled gorfoleddu!' Penderfynais fyned i'r Waen y nos i weled gorfoleddu. Wyddwn i yn y byd beth oedd gorfoleddu. Yr oedd si wedi myned ar led mewn ychydig amser fel taran fod gorfoleddu yn y capel am 2 o'r gloch. Aeth pawb o'r bobl ieuainc i'r Waen y nos. Erbyn cyrraedd yno yr oedd yr hen gapel wedi ei orlenwi. Dechreu'r odfa, rhoi pennill i ganu—dim gorfoleddu eto. Y pregethwr yn troi at ei destyn, dechre darllen, Habacuc iii. 16,—' Pan glywais, fy mol a ddychrynodd; fy ngwefusau a grynasant wrth y llef; daeth pydredd i'm hesgym, ac yn fy lle y crynais — Ar ganol darllen, dyma hen bobl sêt fawr y ar eu traed â'u dwylo i fyny. Ar hyn torrodd yn orfoledd drwy'r holl gapel, i lawr ac i fyny. Ni bu côr canu Salem byth yn y Betws ar ol y Saboth hwnnw, oblegid rhwng Saboth Thomas Owen a'r Saboth canlynol gyda Robert Owen Nefyn, aeth y rhan fwyaf o'r côr i'r seiat. Diwygiad bendigedig oedd diwygiad 1831. Dechreuodd yn nechre Mai a pharhaodd yn ei wres ar hyd yr haf. Ym- ledodd y diwygiad i'r gwahanol ardaloedd. Codwyd meibion a merched crefyddol a defnyddiol iawn ohono.

"Buom yn cerdded i'r Waenfawr i'r seiat am yn agos i ddwy flynedd. Caem seiat bach ar ol y bregeth adref weithiau i ymddiddan â'r hen frodyr a'r hen chwiorydd. Byddent weithiau yn bur ddigrif ac yn bur onest. Yr oedd Pyrs Owen unwaith yn adrodd i'r pregethwr ei fod yn ei wely ac yn meddwl am bregeth y Sul o'r blaen, a dyma Iesu Grist ato ac yn sefyll wrth ei ymyl. 'Beth ddwedodd o?' meddai'r pregethwr. 'Peri imi gredu yn yr Arglwydd Iesu,' meddai yntau. Beth wnaeth i chwi feddwl mai Iesu Grist oedd o?' meddai'r pregethwr. 'Diawc a'm cato i, ond 'doedd o yr un fath yn union ag Iesu Grist,' meddai Pyrs, a Iesu Grist oedd o hefyd, neu fe ddaru mi feddwl mai y fo oedd o beth bynnag. Yr oedd i lais o wrth fy modd i, a'i olwg o'n hardd. Mi gysgais yn gysurus dan y bore ar ol i'r gwr ymadael â mi.' Hen chwaer arall yn dweyd ei phrofiad yn seiat ganol yr wythnos. Yr adnod honno yn y Salm a'i digalonnai yn arw iawn,—' Tra yr oeddwn yn myfyrio, enynnodd tân a mi a leferais â'm tafod.' Meddyliai hithau fod rhyw wreichionnen fach yn ei mynwes, ond ei bod yn methu hel tanwydd myfyrdod arno er ei ennyn yn dân, fel y medrai hi lefaru â'i thafod. Mae eisieu llefaru,' meddai, 'yn ein teuluoedd. Pe bae gennyf fwy o dân, mi lefarwn ac a fynegwn yr hyn a wnaeth Duw i'm henaid.' Gofynnodd Rhys Williams iddi, beth oedd hi'n feddwl oedd y Salmydd wedi ei lefaru â'i dafod fel ffrwyth ei fyfyrdod? 'Wel, y Salm fawr, Rhysyn,' meddai hithau. Daswn innau wedi myfyrio yn iawn, mi fuasai gen i Salm o brofiad iti, Rhysyn bach !' [Lettuce Hughes Tŷ coch ydoedd y chwaer, ebe Mr. S. R. Williams, a dywed na fedrai ddarllen, ond bod ganddi stôr o adnodau yn ei chof. Priodola ef yr hanesyn nesaf iddi hi.] Chwaer arall yn adrodd iddi fod mewn brwydr ofnadwy â'r diafol wrth ddod i'r seiat. Bu'n meddwl am y seiat drwy'r dydd, a phan ddaeth amser cychwyn, cychwynnodd. 'Fel yr oeddwn yn mynd oddiwrth y tŷ ar y llwybr yn y Deg llathen, dyma Satan i'm cyfarfod. 'Be ddwedodd o wrthych?' meddai Rhys Williams. 'I ble yr ei di?' medda fo wrtha'i. 'Mi af i'r seiat,' meddwn innau wrtho fyntau. Be 'nei di yn y fan honno, rwyti'n ormod o bechadur,' medda fo wrtha'i wedyn. 'Ddaru chi ildio iddo?' gofynnai Rhys Williams. Na, choeliai fawr,' meddai hithau. 'Mi ddeudis wrtho fod Iesu Grist yn derbyn pechaduriaid.' Aeth hi yn ei blaen heibio y Drosgol, a'r diafol yn ei dilyn hyd ben bryn Cae Hywel. [Yma, yn ol Mr. Williams, meddai hi wrth y diafol, 'Ymaith, Satan,' ac ymaith ag ef!]

"Yr oedd y weinidogaeth deithiol yn effeithiol ryfeddol yn y blynyddoedd hynny. Byddai wyth o bregethwyr gyda ni aml i fis. Byddai Rhys Williams yn cael gan John Jones Talsarn roi ambell i bregeth ini ar noson waith.

Saboth cymundeb ar ol yr odfa 2 o'r gloch, byddai Rhys Williams yn myned i'r tŷ capel i nol bwrdd bach crwn, a'i osod ar y llawr, taenu lliain arno, gosod yr elfennau ar y bwrdd. Y bara ar blât bach, a chwpan bach, a photel o wydr du i ddal y gwin. Wedi hynny, mi ddoe yr eglwys o amgylch y bwrdd, yn blant yr un Tad o amgylch yr un bwrdd, ac ymborthi ar yr un bara, yn credu yn yr un Crist, yn ymladd â'r un gelynion, yn teithio tua'r un wlad,—yr oeddym yn un a chytun yn yr un lle.

"Byddai'n digwydd weithiau na fyddai neb ond Rowland Roberts a minnau i gadw cyfarfod gweddi nos Lun cynta'r mis. Mi ae Margared Morgans Minffordd i weddi y pryd hwnnw, a byddai 'n hwyliog iawn. A Mary Williams Cwm bychan yn barod i lanw y cylch pe byddai galwad. Byddai'n barod iawn i ddweyd ei phrofiad a'r profiad hwnnw yn bur gynes yn gyffredin. Pan fyddai Rhys Williams adref, byddwn yn teimlo fel pe buasai lond y capel ohonom, gan mor gryf a chalonog y byddem. Cawsom gymorth i ddal ati er gwaned oeddem. Dyna ryw ychydig o hanes yn bur fler i chwi, fy mrodyr, feallai y bydd o ryw wasanaeth i chwi pan y byddaf fi wedi huno gyda'm tadau. Amen."

Nid yw'r hanes hwn ond am gyfnod yr hen gapel, a hyd agoriad y newydd yn 1841. Nodir gan Mr. Williams mai Elin Dafydd oedd gwraig Cerryg y rhyd, ac y dygai hi sel dros yr ysgol, cystal a rhoi lloches iddi yn ei thŷ. Ac heblaw y gwasanaeth arbennig hwn pan ydoedd yr Arch yn ei thŷ, dywed y dylid coffa hefyd am ei phrofiadau melus mewn blynyddoedd diweddarach. Gwasanaethai ar y pregethwyr a ddeuai yno yn achlysurol. Ac yr oedd ei gwr, er heb broffesu, yr un mor gefnogol i'r gwaith a hithau.

Elai Rhys Williams i ysgol Bron y fedw, er bod ohono yn aelod yn Nhynyweirglodd, hyd nes yr agorwyd y capel yn Rhyd-ddu yn 1825. Efe ydoedd arolygwr yr ysgol ym Mron y fedw, a gwnaed ef yn arolygwr ar ei ddyfodiad i Dynyweirglodd. John Davies yr Ystrad oedd yr ysgrifennydd.

Yng nghyfarfod gweddi nos Lun cyntaf y mis yn y flwyddyn 1829, nid oedd ond un brawd i gymeryd rhan gyhoeddus. Disgwylid fod y cyfarfod ar ben gyda'r pennill a rowd i ganu wedi iddo orffen ei weddi. Fel yr oeddid yn meddwl am gychwyn allan, dyma swn gweddi yn dod o un o'r seti. Marged Morgan oedd yno yn ymbil â'r Arglwydd am eu cofio. Y Sul dilynol y digwyddodd y tro hynod gyda Thomas Owen Llangefni. Y pryd hwn y daeth Owen Jones Hafod y wern, Dafydd Hughes Hafoty a John Davies yr Ystrad i'r golwg gyda chrefydd.

Prynwyd y capel a'r tŷ yn 1831 am oddeutu £150, fel y bernir.

Yn 1833 y ffurfiwyd yr eglwys. Y pregethwr cyntaf y talwyd iddo oedd David Jones Beddgelert, ac yr oedd hynny yn Hydref 13. Hydref 15 y gwnawd y casgl mis cyntaf, sef naw swllt. Rhagfyr 8, y bu'r cymun cyntaf, John Jones Talsarn yn gweinyddu. Dwy— waith y bu'r cymun yn 1834, a gweinyddwyd gan Mr. Lloyd a William Jones Rhyd—ddu. Gweinyddwyd bedair gwaith yn 1835.

Dyma'r taliadau cyntaf at y weinidogaeth (un oedfa): Hydref 13, David Jones 1s.; 20, John Wynn Caernarvon 1s. 6ch.; 27, Griffith Hughes Edeyrn 2s.; Tachwedd 3, Robert Williams Bont fechan 1s. 6ch.; 17, Michael Jones Llanberis 1s. 6ch.; 24, Hugh Roberts Bangor, 1s. 6ch.

Y blaenoriaid cyntaf,—Rhys Williams a John Davies. Yn ol a glywodd Mr. Williams nid oedd yr eglwys ar ei sefydliad, er dylanwad diwygiad 1831—2, ond oddeutu 30.

Teimlwyd diwygiad diwestol 1836 yma yn ei rym. O'r blaen arferid yfed cwrw ynglŷn â geni'r byw a chladdu'r marw. O'r blaen ni weinyddid disgyblaeth am feddwi achlysurol, os nad mewn achosion go eithriadol. Newidiwyd hyn i gyd gyda'r diwygiad yma.

Fe ddechreuwyd teimlo'r capel yn anghyfleus o fychan. Nid oedd y tir y safai'r capel arno yn caniatau ei helaethu. Awydd am gapel newydd, ac ofn rhag colli'r gwres wrth newid y fan. Cael addewid am y llanerch y saif y capel presennol arni, llanerch yr arferid ymryson saethu yno gynt ar brynhawn Suliau. Agor y capel gyda chyfarfod pregethu, Rhagfyr 3, 1841. Gweinyddwyd gan John Owen y Gwyndy, Richard Humphreys y Dyffryn, William Roberts Clynnog a John Jones Talsarn. Ni wyddys mo draul y capel a'r tŷ cysylltiedig, am y rheswm fod yr ardalwyr wedi gwneud llawer eu hunain gyda chario a chodi cerryg a gro. Eithr fe dalwyd £400 mewn arian.

Dywedir gan Mr. Williams fod John Owen y Gwyndy yma Rhagfyr 3 ar yr agoriad. Y mae'r sylw yma yn llyfr y cyfrifon, prun bynnag: Tachwedd 29 [28 yn gywir, sef y Sul] 1841. John Owen Penygroes Bethesda, bregethodd gyntaf yn y capel newydd. Ei destyn,—" Wele yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo, etc." Dat. iii. 20. Yn dilyn ceir y nodiad yma: "Y pennill cyntaf a ganwyd yn y capel newydd:—

1. O Arglwydd, gwna dy drigfan
O fewn i'r muriau hyn;
Byth na chyhoedder yma
Ond Iawn Calfaria Fryn.
Er mwyn yr Aberth hwnnw
A'r taliad gwerthfawr drud,
Llewyrcha'th wyneb grasol
Tra pery oes y byd.

2. Dy hyfryd bresenoldeb
Fo yma'n llanw'r lle.
A'r pur awelon nefol
Fel ffrwd lifeiriol gre'.
Pelydrau o'th ogoniant
A gwedd dy wyneb llon
Aroso yn ddigwmwl
O fewn i'r Salem hon."

Diwygiad dirwestol tymor y Clwb Du. Cyfarfodydd brwd a gorymdeithio o'r naill ardal i'r llall. Oeri wedyn.

Rhif yr aelodau yn 1854, 41. Swm y ddyled, £254. Eisteddleoedd, 112; gosodid, 95. Cyfartaledd pris eisteddle am y chwarter, 7½c. Derbyniadau am y seti am y flwyddyn, £12. Yr hyn a ddengys fod pob perchen anadl o blith y rhai oedd gyfrifol am sêt yn talu am dani, ac un dros ben! Talu llogau âg arian y seti. Casgl y weinidogaeth, £7 3s. Bu cynnydd o 13 yn yr aelodau yn ystod y flwyddyn. Erbyn 1858, rhif yr eglwys, 44. Swm y ddyled yr un.

Codwyd yr eglwys yn amlwg drwy ddiwygiad 1859. Ysgydwyd hi o radd o ddifaterwch, ac amlhawyd plant iddi. Rhif yr eglwys yn 1859, 78; yn 1860, 80. Tynnwyd y ddyled i lawr yn ystod 1860 o £254 i £54. Casgl y weinidogaeth yr un flwyddyn, £18 12s. Rhif yr eglwys yn 1862, 76; yn 1866, 75 (mae'n debyg, er mai 175 sydd yn yr ystadegau). Yn 1859 y codwyd David Hughes Garreg fawr a John Humphreys Hafod y wern yn flaenoriaid.

Ac yn 1859 (Mai 7) y bu farw Rhys Williams Cwm bychan, yn 66 oed, ac wedi bod yn flaenor yma am 26 blynedd. Daeth at grefydd yn 21 oed yn "hen gapel main Waenfawr." Yn fuan wedyn y dechreuwyd cadw'r ysgol ym Mron y fedw uchaf, lle trigiannai Ann Evans. Gwnawd ef yn un o'r ddau flaenor cyntaf yma gyda John Davies, sef yn 1833, ac ni chodwyd neb arall tra bu Rhys Williams byw. O'r adeg y daeth at grefydd fe ymroes i lafurio am wybodaeth ysgrythyrol a phynciol. Yr oedd ganddo farn dda am bregeth. Chwiliai am reswm am y ffydd oedd yndde. Ac yr oedd ol yr Efengyl ar ei fuchedd. Gwnelai waith blaenor. Cerddai ar ei draed i Gyfarfodydd Misol y sir, pan y cynhelid hwy yn Lleyn ac Eifionnydd cystal ag yn Arfon. Ffyddlon gartref yr un modd. Llawenhae yn llawenydd eraill. Fel welbon o ystwyth. Yn ei elfen mewn ymddiddan crefyddol. Fel penteulu ynghanol ei deulu yn eglwys Salem. Fe gynhaliai yr ymddiddan yn y seiat mewn dull cartrefol a hamddenol. Efe oedd yr hynaf o'r ddau flaenor, ac efe yn hytrach a gymerai'r arweiniad. Efe, hefyd, oedd y dylanwad personol mwyaf yn yr eglwys o'r cychwyn, ac fe enillodd ymddiriedaeth yr ardal yn gyffredinol. Yr ydoedd yn gymydog cymwynasgar, gan estyn cymdogaeth dda ymhell ac agos. Ei ragoriaeth yn fwy mewn cymeriad na doniau, ac yn elfennau mwyaf deniadol cymeriad yn gymaint ag yn y rhai cryfaf. Oherwydd galwadau y gwaith copr yn Nrws y coed, nid oedd ef yn gallu bod yn bresennol yn y seiadau mor gyson a John Davies, eithr fe ddengys nodiadau John Davies y lle arbennig oedd i'w gyd-swyddog yn arweiniad yr eglwys. Nid oedd Rhys Williams yn gyfartal â John Davies mewn dawn gyhoeddus, ond yr oedd iddo gyneddfau priodol iddo'i hun, a dylanwad cyffredinol, a roddai urddas arno ynghanol pawb yn y lle. Gellir dyfalu ei nodwedd neilltuol oddiwrth ei ddisgynyddion. Y noson o flaen y cynhebrwng. fe bregethodd Thomas Williams Rhyd-ddu oddiar Philipiaid i. 21: "Canys byw i mi yw Crist a marw sydd elw." (Ysgrif John Davies yr Ystrad yn y Drysorfa, 1862, t. 318).

Robert Williams Tŷ capel a ddaeth yma o Ddolgelley yn 1857, ac a fu farw yma yn 1864. Nid oedd yn flaenor, ond gwnelai waith gwir flaenor. Fe gysegrodd ei hun i wasanaeth yr Arglwydd. Bu'n famaeth dirion i ddychweledigion 1859. Fe arweiniai yng nghyfarfodydd gweddi y bobl ieuainc, a chynghorai a chyfarwyddai yno. Meddai ddawn neilltuol i dynnu allan y bobl ieuainc, fel y gwnaent unrhyw beth a ofynnai iddynt. Siaradai â hwy yn gyfrinachol am bethau pwysig, a pherchid ef ganddynt hwythau fel eu tad yng Nghrist. Byddai'n barod â'i brofigd melys yn y seiat. Un o ragorolion y ddaear ydoedd.

Yn 1867 fe ail-adeiladwyd y capel yn ei faint a'i ffurf presennol. Traul, £570. Prynwyd y tir yn rhydd-ddaliadol yn 1868 am 20. Swm y ddyled yn niwedd y flwyddyn, £457.

Yr oedd Owen Jones Hafod y wern yma yn ystod 1867-8 yn gwasanaethu fel blaenor. Symudodd oddiyma i Engedi. Rhoes anrhydedd ar ei swydd. Yr ydoedd yn flaenor yn Gaerwen cyn dod yma. Disgrifir ef gan Mr. Griffith Williams fel o far sicrach na John Davies. Yn wr pwyllog, call, o synnwyr cyffredin cryf. Yn wastad ei dymer. Un o'r athrawon goreu, ac yn holwr da. Ei brif lyfrau, Geiriadur Charles, James Hughes ac Adam Clarke. (Edrycher Engedi).

Yn ystod 1862-7 fe ddeuai Thomas Williams Rhyd-ddu a Dafydd Morris Caeathro yma yn o reolaidd i gynnal seiat. Yn 1872 dewiswyd John Owen Tŷ newydd yn flaenor. Symudedd oddiyma i Nazareth. Yn Chwefror, 1874, dewiswyd yn flaenoriaid, Griffith Williams a S. R. Williams.

Yn 1882 y symudodd John Davies yr Ystrad oddiyma i'r Bontnewydd, wedi bod yn flaenor yma o'r cychwyn. Ganwyd ef tua 1810 yn yr Ystrad. Ei dad, Sion Dafydd, yn grefyddwr o rywiogaeth gyffredin. Ei fam, Sian Dafydd, oedd wraig fawr, esgyrniog, dal, ac o garictor nobl, ysbrydol ei dull, yn ymroddgar i grefydd, yn hoff o ganu, ebe Mr. Griffith Williams. Yr oedd John Davies o alluoedd cyflym, y cyfryw a fuasai yn ei alluogi i fanteisio yn amlwg ar gyfleusterau dysg. Eithr ni chafodd efe ddim o hynny. Olrheiniai ei droedigaeth i'r oedfa yn y Waen yn amser diwygiad 1831, y cyfeirir ati ganddo. Yn ol ei adroddiad sef ei hun wrth ei blant, fe ddychrynnodd gymaint y pryd hwnnw fel y neidiodd dros ddwy sêt, aeth o'r capel heb ei het, a rhedodd adref, gan weddio a chanu bob yn ail. Dywed Mr. Griffith Williams ddarfod i Owen Jones Hafod y wern gael tro yr un adeg, a'i fod ef a John Davies yn dod adref gyda'i gilydd, a darfod iddynt droi i feudy Bryn y gloch i weddio gyda'i gilydd, a phenderfynu ill dau y pryd hwnnw ymroi i grefydd. Ymroes John Davies i ddarllen, gan brynu ei ganwyllau ei hun, ac aros yn ei ystafell gyda'i lyfrau, weithiau am oriau. Daeth yn arweinydd y gân yn fuan, ac yr oedd yn arweinydd medrus, gyda llais clir, soniarus, er nad ystyrrid ef yn garolwr. Fe gyfansoddai ambell bennill, ac ymhyfrydai mewn rhigymu. Fe geid disgrifiadau barddonol ganddo weithiau yn anerchiadau, ac ar dro yn ei weddïau. Bu'n ysgrifennydd yr eglwys am yn agos i hanner canrif, a danghosai y llyfrau cyfrifon a gadwai drefn, glanweithdra a manylwch. Teithiodd lawer i'r Cyfarfodydd Misol cyn y rhaniad ar y sir, cystal ag wedi hynny, ac yr oedd yn dra theyrngarol i'r Cyfundeb. Yn fanwl ei gadwraeth o'r Saboth, yn gryf yn erbyn y ddiod feddwol a thybaco, ac yn tueddu yn hytrach at fod yn gyfyng ei olygwedd ar fywyd. Yn offeiriad yn ei dŷ ei hun, a rhai o'i weddïau, yn arbennig, yn gadael argraff arhosol ar ei deulu. Ar ol symud Rhys Williams, efe oedd bellach yr arweinydd yn yr eglwys. Gadawai gynhaeaf gwair i ddod i'r seiat, ac yr oedd yn brydlon ym mhob cyfarfod. Yn fedrus iawn yn ei ffordd ei hun wrth gadw seiat. Nid elai o'r sêt fawr wrth arwain. Y chwiorydd a holid ganddo yn gyffredin, ebe Mr. Griffith Williams; gyda hwy y cawsai ddeunydd seiat y fath a gymeradwyai ei chwaeth ef yn fwyaf. Gofynnai i Mari Williams Cwm bychan, a fedrai hi gyfeirio at adeg neillduol yn ei phrofiad ? "Wel," ebe hithau, "mi fydd y llwch ar y drecsiwn weithiau, weldi, fel ar bwysau y glorian acw, fel y bydd agos a mynd o'r golwg, ond yn cael ei chwalu ymaith drachefn, a'r drecsiwn yn dod yn amlwg." Ebe John Davies yn ol, "Cael eich hunan gyda chrefydd ddarfu chwi. 'Dydi'r plentyn ddim yn cofio ei stori gyntaf, ond cael ei hun yn siarad y mae. Felly chwithau." Nid yw hynny yn ymddangos yn gwbl gyson â hanes troedigaeth John Davies ei hun; and dyna ddull uniongred y Cyfundeb yng nghyfnod John Davies. Ystyria Mr. Griffith Williams fod ei allu i gyfleu ei fater yn fwy na gogyfartal i'w allu i feddwl, a bod hynny i'w ganfod ynddo fel holwr ysgol. Byddai'n dueddol o fod wedi crynhoi ygnhyd ei ymadferthoedd i'r Sul cyntaf fel holwr. Holai mor dda, fel y tebygasid y buasai'n anhawdd i neb wneud yn well. Ond nid allai gynnal yr hwyl uchel honno dros y Suliau dilynol. Byddai sylwadau o'i eiddo yn ei weddïau yn bachu yn y cof, ebe Mr. Griffith Williams. "Dyma ni ym Mhorth y Nef! Y mae hi'n dda yma. Beth pe baem ni i mewn!" "Gwared ni rhag ymddangos. Y mae yna Un yn ymddangos drosom ni." Ymhyfrydai ym Mathew Henry, James Hughes, Gurnal, Taith y Pererin, a rhai o weithiau Baxter, Howe a'r Dr. Owen. A gwnelai yn fawr o'r Hyfforddwr a'r Gyffes Ffydd, fel ag i beri eu bod yn o daclus yn ei gof. Dan bregeth yn cyffwrdd ag ef, byddai ei gorff i gyd, fel yr eisteddai dan y pulpud, yn ymnyddu mewn mwynhad, a chwareuai arwydd ei gymeradwyaeth fel gwenol gwehydd, ar draws ei wynebpryd o gwrr i gwrr. Byddai pregethwr â thinc yn ei lais yn ei ogleisio'n deg, ac yr oedd Thomas Hughes Machynlleth, yn ei rym, yn ddihafal wr yn ei olwg. Fe wreiddiodd mor ddwfn yn Salem, fel y bu ei symud yn wir gyfnewidiad ar bethau yn y lle.

Dodir yma sylw Mr. Griffith Williams ar Farged William, gwraig weddw, a gadwodd y tŷ capel am 50 mlynedd, ac oedd yn dra gofalus am y pregethwyr. Bu'n athrawes efo'r plant yn nosbarth yr A B dros 40 mlynedd. Yr oedd iddi dalent arbennig gyda dysgu'r plant: enillai eu serch, a gadawai ol ei haddysg arnynt.

Yn Nhachwedd, 1882, derbyniwyd i'r Cyfarfod Misol ym Mhenmaenmawr fel blaenoriaid, Henry Owen Cae sgubor a Robert Williams Cwmbychan. Yn 1887 dewiswyd R. T. Hughes Plas isaf i'r swydd. Yn 1889 symudodd John Jones yma o'r Baladeulyn, a galwyd ef yn flaenor yma.

Yn 1890 adeiladwyd y tŷ capel presennol ar draul o £195.

Ym Mehefin 1891 yr ymgymerodd Mr. Rhys Lewis â bugeiliaeth yr eglwys.

Rhowd nenfwd newydd yn y capel yn 1894 ar draul o £92 5s. 8g. Gwnaed atgyweiriadau oddifewn ac allan, a phwrcaswyd offeryn cerdd, yn 1896, ar draul o £99 10s. rhwng y naill a'r llall. Swm y ddyled yn 1900, £50.

Dewiswyd J. D. Jones yn flaenor yn 1899. A'r un flwyddyn, Awst 11, y bu farw John Jones Plas isaf, yn 62 oed. Brodor o Landwrog. Argyhoeddwyd ef dan weinidogaeth John Jones, Mochdre y pryd hynny. Galwyd ef yn flaenor yn y Baladeulyn yn 1887. Torrai i lawr yn aml wrth son am flynyddoedd ei oferedd. Tinc y wir fetel ynddo ar weddi. Dywedai wrth ei fab at y diwedd ei bod yn "all right " arno. (Goleuad, 1899, Awst 23, t. 7.).

Gwerthwyd capel Tynyweirglodd i Eglwys Loegr i gynnal ysgol ddyddiol. Edrydd Mr. Edward Owen yn ei ysgrif ar Ysgol Sul Rhyd-ddu am blant ysgolion cenhedlaethol y Waen, Cwmyglo, Llanrug, Bontnewydd a'r Betws yn cael eu haroli yn y Waen yn y bennod gyntaf o Efengyl Ioan, yn amser John Griffith yr athraw cyntaf. A dywed ef fod plant y Betws (cynrychiolid pob ysgol gan 14 o'r plant hynaf) yn ateb pob cwestiwn wedi methu gan y lleill. Cofier yr un pryd fod 5 o'r 14 hynny yn blant o Ryd-ddu, gan yr elai Rhyd-ddu gyda Salem fel un ysgol. Yn y flwyddyn 1866 adeiladwyd ystafell i gadw ysgol ddyddiol berthynol i'r capel ar draul o £50. Bu amryw o'r ysgolfeistriaid yn wasanaethgar i'r achos. John Williams, a ddaeth yma o Feddgelert, wedi hynny gweinidog Siloh, Caernarfon, a fu yma am ran o 1867-8, ac a wnaeth waith da. Yn nechre 1869 daeth W. T. Jones (Llanbedrog) yma, ac a lafuriodd gyda'r plant. J. R. Williams (Pwllheli) a fu yma yn 1870-2, ac yna Moses Jones (Bala) hyd 1873, y naill fel y llall â'i wasanaeth i'r eglwys yn werthfawr.

Ymweliad â'r ysgol Sul, Hydref 11, 1885. "Ysgol fechan weithgar yr olwg arni. Anghyfartaledd yn rhif rhai o'r dosbarthiadau ieuengaf. Rhai o ddosbarthiadau y merched yn dangos gallu anghyffredin i esbonio, ond y darlleniad braidd yn wallus. Mewn un dosbarth o ddynion, pob aelod o'r dosbarth yn gofyn ei gwestiwn i bob un yn y dosbarth, a'r athraw yntau yn gofyn ei gwestiwn yn ei dro. Yr athraw yn cael ei guddio o'r golwg. Y cwestiynau a'r atebion yn gyffredin, a'r darllen yn wallus ac aneffeithiol. Dosbarth o fechgyn o 20 i 25. Diffyg pwyslais wrth ddarllen, ac heb dalu sylw priodol i'r gwahan-nodau. Dosbarth o ddynion canol. oed heb athraw. Yr un diffyg yma eto. Diffyg llafur ar gyfer y dosbarth, ac ar gyfer arholiadau y Cyfarfod Misol a'r Cyfarfod Ysgolion. Yr arholi a'r atebion ar ddiwedd yr ysgol yn wir dda."

Er bod ar y cyntaf yn fangre erledigaeth, daeth Salem yn y man yn fangre heddwch; a phabell Duw a welwyd yma.

Rhif yr eglwys yn 1900, 120.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Betws Garmon
ar Wicipedia

Nodiadau[golygu]

  1. Ysgrif Mr. S. R. Williams. Llyfr cyfrifon yr eglwys o'r cychwyn, yn cynnwys atgofion John Davies yr Ystrad hyd 1841. Nodiad y Parch. J. Glyn Davies Rhyl ar ei dad, John Davies yr Ysirad. Ymddiddan â Mr. Griffith Williams.