Neidio i'r cynnwys

Hanes Methodistiaeth Arfon-Waenfawr/Waenfawr

Oddi ar Wicidestun
Arweiniol: Ardal y Waenfawr Hanes Methodistiaeth Arfon-Waenfawr

gan William Hobley

Betws Garmon (Salem)

Y WAENFAWR.[1]

Sylwa Morgan Jones yn y Drysorfa am 1848, mai "tua chan mlynedd yn ol y byddai Mr. Howel Harris yn myned drwy'r wiad hon, a'r man y byddai'n pregethu ynddo oedd Hafod y rhug, a dyma'r lle y ceir hanes fod pregethu ynddo gyntaf yn y gymdogaeth hon." Yn 1741 y daeth Howel Harris i'r sir am y tro cyntaf. Y mae hanes yr ymweliad hwnnw, hyd y mae ar gael mewn argraff, yn myned i ddangos ddarfod iddo gyfyngu ei hunan y pryd hwnnw i'r pen arall i'r sir. Daeth i'r sir drachefn oddeutu'r flwyddyn a nodir gan Morgan Jones, a'r pryd hwnnw aeth drwy'r Waenfawr ar ei ffordd i Fon. Gwnawd cais at olygydd papurau Howel Harris, y Parch. D. E. Jenkins Dinbych, am oleu ar ymweliad Howel Harris a'r ardal, a dyma fel yr ysgrifenna: "Nis gallaf ddod o byd i ddim ynghylch y Waenfawr hyd 1749, pan, dan y dyddiad, Dydd Gwener, Mehefin 15, y croesodd Harris drosodd o Lanberis, by way [of] Glyndowr's Tower by Rocks Mountains &c amazing!! O wt. am I to be sent this way to publish ye Name of Jesus—many heard now as did not before. I went to ye Top of ye Tower & prayd wth. 2 Brethren wth. me on ye Top of it & came to Weinvawr where I discoursd att 9 on Look unto me all ye ends of ye Earth & I was led so as I was not att all This some time before to shew ye Life of faith and to search ye Legal spirit & had authority to cut & lash selfrighteousness &c.' Ac yna dan 'Wein vawr Caernarvonsh.: Saturday 16. Last night I sat up till broad day in ye Private Society shewg. home ye Life of faith they havg. become very dead by ye weakness of Their faith & Their Legality. I home in Publick & private aftr. we have believd to stand fast in gospel Liberty,' ac felly ymlaen. Y mae'n eithaf eglur oddiwrth hyn fod naill ai Harris ei hun wedi bod yn y lle o'r blaen, neu fod rhywun arall dano ef wedi sefydlu cymdeithas neilltuol yn y lle." Ymesgusoda Mr. Jenkins am fethu ganddo ddwyn y pwnc olaf yna i eglurder, oblegid anhawsterau y llawysgrif. Fe welir fod yma gymdeithas eglwysig cyn Mehefin 15, 1749. "Tua chan mlynedd yn ol," ebe Morgan Jones, gan ysgrifennu yn 1848, y byddai Howel Harris yn ymweled â'r lle. Os cymerir 1748 fel amseriad sefydlu'r eglwys yma, fe ymddengys hynny fel yn o debyg i gywir. Dichon y sefydlwyd cymdeithas eglwysig yr un pryd yn Llanberis, ac mai dyma'r ddwy gyntaf yn Arfon, os nad oedd yna un yng Nghlynnog.

Fe ymddengys oddiwrth Fethodistiaeth Cymru fod gwahaniaeth barn yn yr ardal ynghylch y man y bu pregethu gyntaf yno gyda'r Methodistiaid, gan y dywedai rhai hen bobl mai Bryngoleu ydoedd y fan, lle ag oedd, hwnnw hefyd, ar dir Hafod y rhug. Y mae'r gwahanol adroddiadau yn cytuno mewn dweyd mai yn Hafod y rhug y bu Howel Harris, ond yn unig y dywedid gan rai y bu pregethu yn y Bryngoleu cyn hynny, sef gan y Methodistiaid.

Evan Dafydd ydoedd gwr Hafod y rhug, ac yr ydoedd efe yn gynghorwr. Nid oes hysbysrwydd am y pryd y daeth efe ei hun at grefydd. Fe adroddir, pa fodd bynnag, ym Methodistiaeth Cymru, am dano yn gwrando ar bregeth yn y Bryngoleu, sef y gyntaf, debygir, a draddodwyd yno, os nad yr unig un. Wedi cyrraedd ohono adref, bu ymddiddan rhyngddo ef a'r wraig ynghylch yr oedfa, ymddiddan a'i dengys hi yn wraig eithaf ffraeth a thafodlym. Yr oedd efe wedi ei gwahodd hi gydag ef i'r oedfa, ond ymesgusodai hithau gan ddweyd fod arni eisieu rhoi bwyd i'r moch. Fe ddywedir ddarfod iddo ddychwelyd cyn diwedd y bregeth, pa beth bynnag a argoelai hynny, prun ai ofn y wraig ynte rhywbeth arall. "Pa beth oedd gan y pregethwr i'w ddweyd?" gofynnai hithau. "'Roedd y Beibl ganddo o'i flaen," ebe yntau. "Wel ïe," ebe hithau, "ond beth oedd o'n i ddeud?" "Yr oedd o'n edrych arna'i o hyd, ac yn dweyd mai disgyblion y diafol oeddym, a bod i nod o arnom ni." Ebe hithau yn ol, "Pam na fuasit ti yn aros yno hyd y diwedd, fel y gallsit ofyn iddo, ai bugail y diafol oedd o, gan i fod o mor gyfarwydd â'i nod o?" Dichon fod Evan Dafydd wedi ei argyhoeddi cyn ymweliad Howel Harris. Efe a fu farw Ebrill 24, 1750, yn 45 oed. Enwir ef gan Robert Jones Rhoslan fel un o'r pedwar cynghorwr a fu yn sir Gaernarvon na chlywodd efe mohonynt. Pregethwr syml, cyfeiriol, yn ol y syniad am dano. Yn ei gartref ef yn Hafod y rhug y bu'r pregethu o adeg ymweliad Howel Harris â'r lle, a'r traddodiad ydoedd, fel y deallai Morgan Jones ef, ddarfod i Harris bregethu yno fwy nag unwaith. Dywedid, hefyd, mai nid ychydig a ddioddefodd Evan Dafydd oddiwrth ei wraig oblegid cynnal pregethu yn y tŷ. Ond gan mai yno y cynhelid hynny o bregethu a geid yn yr ardal, tebyg wedi'r cwbl mai gwaeth ei chyfarthiad na'i brathiad.

Wedi marw Evan Dafydd, cynhelid pregethu yn Nhŷ ucha'r ffordd, lle mwy canolog, ac heb fod nepell oddiwrth y capel a adeiladwyd wedi hynny. Dywed Dafydd Thomas na chlywodd efe fod neb yn trigiannu yn Nhŷ ucha'r ffordd yr holl amser y bu'r Methodistiaid yn cynnal gwasanaeth yno, sef ystod 1750-84. Tua'r un amser, neu ychydig cynt, ebe Mr. Francis Jones, y symudodd Thomas Griffith yma, efallai mai ar ei briodas â merch Cae'r ysgubor, tyddyn gerllaw. Daeth yma o Bandŷ Glynllifon, gwehydd wrth ei alwedigaeth, ac yn adnabyddus fel gwr ieuanc crefyddol. Efe a ddaeth ar unwaith yn nawdd i'r achos bychan. Elai oddiamgylch hefyd fel cynghorwr ar brydiau, er na wyddys pa bryd y dechreuodd ar hynny o waith. Yr oedd gan Robert Jones feddwl uchel ohono. "Thomas Griffith (tad y godidog fardd, Dafydd Thomas) oedd wr o gyneddfau cryfion, craff ei olwg ar y wir athrawiaeth." Er mwyn dofi cynddaredd yr erlidwyr elai yn fwy neu lai cyson i wasanaeth y llan, fel y rhoir ar ddeall yn y Methodistiaeth. Eithr nid ydoedd hynny chwaith ond arfer y Methodistiaid cyntefig am yn hir o amser wedi hynny. Byddai rhai o'i ddyledwyr yn cynnyg tâl iddo wrth ddyfod allan o'r llan, gan wybod am ei ddull manwl, ac os gwrthodai ei dderbyn, gelwid am dystion o hynny, er mwyn peidio â thalu rhagllaw. Awgrymir, braidd, yn y dywediad ddarfod iddo lacio yn ei fanylrwydd yn wyneb y brofedigaeth honno. Fel y nesae Richard Tibbot at y Waenfawr, pan ar ei hynt drwy'r wlad gyda phregethu, fe ddechreuai ganu, ac wrth ei glywed, yn llawenydd ei galon, fe daflai Thomas Griffith o'r neilltu offerynau ei gelfyddyd, gyda'r geiriau, "Dyma Tibbot, yr wy'n tybied." Edrydd Mr. Francis Jones "fyfyrdod "Sion Lleyn ar ei gladdedigaeth:

Ni bu ddoeth neb yn ei ddydd
Graffach na Thomas Gruffydd;
Ei ofal oedd ddyfal ddwys,
Mawr wiwglwm, am yr eglwys.

Y mae gan Dafydd Thomas fymryn o stori am Richard Tibbot. Yr oedd taid Dafydd Thomas yn llencyn yn helpio'r seiri pan wneid pont y Cyrnant dros y Wyrfai. Rhyd a sarnau oedd yn y lle yn flaenorol. Yr oeddid wedi tynnu y sarnau a chymeryd y cerryg i wneud pont, a dodwyd planc am y pryd dros yr afon. Tibbot yn nesu, ac, fel arfer, dan ganu. Dywedwyd gan rai o'r gweithwyr am droi y planc hwnnw pan fyddai'r hen bregethwr yn myned drosto, a rhoi dowcfa iddo. Pan gyrhaeddodd yntau i'r lle, gan ameu rhywbeth yn ei galon, mae'n debyg, rhoes swllt i'r dynion i'w rhannu rhyngddynt, gan ychwanegu fod yn ddrwg ganddo na feddai chwaneg i'w roi iddynt. A dywedai wrthynt ei fod i bregethu yn Nhŷ ucha'r ffordd y noswaith honno, a gwahoddai hwy yno. Addawsant ddod, a rhowd awgrym i'r ddau lanc i beidio ymyrraeth â'r planc. Aeth pawb ohonynt yno, a dyna'r pryd yr argyhoeddwyd Robert Dafydd Luke, y soniwyd am dano yn yr Arweiniad ynglyn âg adeiladu tai ar y cytir. Ymhob ffair agos cyn hynny herid ef i ymladd gan ryw fwli neu gilydd, a hynny oblegid ei faint a'i nerth, heb fod ei hunan o duedd ymladdgar. Rhoes un gurfa ar ol ei argyhoeddiad i gewryn na fynnai adael llonydd iddo ar y ffordd, ac yna fe gafas lonydd weddill ei ddyddiau.

Fel y dywedwyd, yr oedd Thomas Griffith yn dad i Ddafydd Ddu Eryri. Gadawodd y mab y Corff am Eglwys Loegr. Mab arall ydoedd John Thomas, y pregethwr o Lanberis; a mab arall eto ydoedd Humphrey Griffith (neu Thomas), un o lenorion Greal Llundain. A dichon nad y leiaf yn y teulu ydoedd Mary Thomas y ferch, a fu'n cadw'r tŷ capel cyhyd. Teulu nid anhynod. Bu Thomas Griffith, y tad, farw Gorffennaf 5, 1781, yn 64 oed. Dywed Morgan Jones y bu peth llwyddiant ar grefydd yn amser Thomas Griffith. Heblaw cynghori yma ac acw ar achlysur, Thomas Griffith a'i fab John a gasglodd ynghyd yr ychydig ddisgyblion oedd ar wasgar yn ardal Llanberis, gan eu ffurfio yn eglwys yn Llwyncelyn. Ac os oedd peth llwyddiant, yr oedd peth erledigaeth hefyd. Ffoid rhag y gelynion rai prydiau i ochr y Cefn du, a chynhelid yr addoliad yng Nghrug y brain.

Nid llai hynod na theulu Thomas Griffith, os nad, yn wir, yn llawn hynotach, a hynotach yn eu perthynas uniongyrchol â chrefydd, ydoedd teulu Thomas Evans. Nid oedd Thomas Griffith ond Thomas Griffith y cynghorwr, tra'r oedd Thomas Evans yn Thomas Evans y pregethwr, sef a arwyddoceid wrth hynny, gwr o ddoniau nawsaidd a phoblogaidd. Daeth Thomas Evans yma o Dai'r ffynnon ym Mangor, ar ei briodas feallai, neu cynt, â merch Evan Dafydd. Bu'n trigiannu yng Ngwredog uchaf, ac wedi hynny yn Hafod oleu. Yr ydoedd yma yn gyd-lafurwr â Thomas Griffith. Pan ddywedir ym Methodistiaeth Cymru mai ar ol colli Thomas Griffith y daeth Thomas Evans yn swcwr i'r achos, rhaid deall hynny yn gytunol âg adroddiadau eraill diweddarach, fel yn golygu mai dyna'r pryd y cymerodd efe'r arweiniad yn lle Thomas Griffith. Y mae pob lle i gredu'r eglurhad yna. Bu ef farw Medi 4, 1788, yn 48 oed, ymhen saith mlynedd ar ol Thomas Griffith; ac er ei fod yn bregethwr poblogaidd, nid yw ei enw fyth yn cael ei gysylltu âg un lle arall heblaw y Waen. Gellir nodi mai 48 yw yr oedran a briodolir iddo gan Griffith Solomon (Drysorfa, 1837, t. 119), a chan Dafydd Ddu ynglyn â'i Farwnad iddo, a chan Fethodistiaeth Cymru ar eu hol hwy; ond 46 roir yn Y Gymdeithasfa, t. 471. Yr ydoedd ei fab Evan yn wyth oed pan fu farw Thomas Griffith, a thebyg fod John yn hŷn; ac eithaf tebyg ydyw, fel y sylwyd, fod Thomas Evans yma o leiaf er adeg ei briodas. Yr ydoedd tad Dafydd Thomas yn cofio Thomas Evans yn dda. Soniai am dano fel cynllun o ddyn i'w efelychu. Ar ol dychwelyd ohono o daith yn y Deheudir unwaith, bu ymddiddan rhyngddo â John Jones, Cefn y waen, cydchwarelwr âg ef. Yn ateb i ymholiad hwnnw, fe ddywedodd mai 29s. 6ch. a dderbyniodd fel tâl am ei bregethu yn ystod ei daith o chwech wythnos. Ynglŷn â thaith a fwriadai gymeryd i'r Deheudir, fe adroddir ym Methodistiaeth Cymru ymddiddan rhyngddo â hen chwaer yn yr eglwys. Dywed Dafydd Thomas mai Malan Thomas, yr hen ferch a gadwai'r tŷ capel wedi hynny, ydoedd honno, sef merch Thomas Griffith. Petrusai Thomas Evans fyned ar y daith, am nad oedd neb arall i gymeryd gofal yr achos. Ar ei waith yn mynegi ei betruster yn y seiat, ebe Malan Thomas, "Ewch, ewch, Thomas bach, a rhowch lyfr i mi, a mi osoda'i i lawr bob peth heb fod yn iawn; a chewch 'ithau ei weld wedi dychwelyd yn ol." Wedi dychwelyd ohono yn ol o'r Deheudir, fe roes Thomas Evans hanes ei daith yn y seiat, ac yna wedi gorffen fe ofynnodd am y llyfr. "Dyma fo," ebe'r hen chwaer, "fu yma ddim o'i le-mae o'n wyn i gyd !" "Wel, yn wir," ebe Thomas Evans, "ni welais i yr un eglwys ar y ddaear o'r blaen, ac ni chlywais i ddim am yr un chwaith, wedi bod am chwech wythnos o amser heb bechu! Yn hyn yr ydych wedi tra rhagori arnaf fi!" John Pierce, Robert Jones Rhoslan a Thomas Evans, yn ol Robert Evans (Trefriw) oedd y tri blaenaf yng Nghyfarfodydd Misol y sir gynt, a dywed ef fod rhai pethau yn Thomas Evans yn rhagori ar y lleill. Disgrifir ef ganddo fel "gwr o ddoniau a chymhwysterau tra helaeth, a phregethwr hynod o bwysig a chynwysfawr." Dywed hefyd ei fod mewn achosion dyrys yn fwy didderbyn wyneb na neb yn y sir, tra ar yr un pryd yr ydoedd yn wr hynaws ac addfwyn. "Ac er, yng nghyflawniad ei ddyledswydd, y byddai yn hynod o benderfynol a diblygu, byddai yn haws peidio â thramgwyddo wrtho ef na llawer." Clywodd Robert Evans ef yn dweyd nad oedd neb yn nhref Caernarvon ar un pryd a roddai gwpanaid o ddwfr oer iddo fel pregethwr. O dan ei weinidogaeth ef yr argyhoeddwyd Robert Evans ei hun. (Drysorfa, 1837, t. 154). Dyma dystiolaeth Robert Jones ei hunan am dano: "Thomas Evans o'r Waenfawr oedd o dymer addfwyn a chyfeillgar, gonest a diddichell. Yr oedd ei ddoniau i bregethu yn eglur a dealladwy, ac yn addas iawn i lawer o wrandawyr anwybodus y dyddiau hynny, a fyddai yn arferol o'i wrandaw. Yr oedd ei gynnydd mewn doniau a defnyddioldeb yn amlwg fel yr oedd yn addfedu i ogoniant. Gadawodd dystiolaeth eglur ar ei ol yn niwedd ei ddyddiau, ei bod yn dawel rhyngddo a Duw mewn Cyfryngwr."

Diweddai ei einioes mewn diddanwch,
Gan dywallt dagrau diolchgarwch;
Dyma air oedd hyfryd ganddo,
Sef, "Na ddarfu i Dduw'n apwyntio
I ddigofaint (chwerw alaeth),
Ond i gaffael iachawdwriaeth;
Ynghanol glyn, angeu syn,
Y gelyn ddarfu gilio,
Fe ddwedai, "Dyma'r gair sy'n gwawrio,
Megys seren i'm cysuro!"
Dyna un o'i anadliadau,
A'i lafurus olaf eiriau.—(Dafydd Ddu Eryri.)

Eithr yr oedd dau fab Thomas Evans yn hynotach gwŷr nag yntau. Y mae cymeriad yr arwr yn dod i'r golwg yn John Evans, yr hynaf o'r ddau, debygir. Yn Llundain yr ydoedd pan y clywodd am lwyth o Indiaid Cymreig, sef hiliogaeth Madoc ap Owen Gwynedd a'i ddilynwyr, darganfyddwyr cyntefig yr America. Stori ramantus ydyw, ond rhaid ei chwtogi yma. Taniwyd John Evans gan awydd am olrhain y llwyth yma, a'u trosi i ffydd Crist. Y mae awdwr hanes diweddar Charles o'r Bala wedi darganfod dolen newydd yng nghadwen y stori. Yr oedd Charles yn Llundain yn niwedd haf 1792, sef yr adeg y cychwynnodd John Evans i'r Gorllewin, ac a'i gwelodd cyn cychwyn, gan ymddiried neges iddo at wr yn Baltimore, sef y Parch. Lewis Richards. Mae llythyr Richards at Charles ar gael yn cyfeirio at ymweliad John Evans âg ef, ac at ei benderfyniad, er pob cais i'w atal, i fyned ar ei ymchwil arwrol. Ar ol rhai helyntion, a dilyn cwrs y Missouri am 1600 o filltiroedd, cymerwyd ef yn glaf o'r dwymyn boeth, a bu farw yn 1797. (Thomas Charles II. 128. Geninen Gwyl Dewi, 1907, t. 46).

Pregethwr anghyffredin, fel yr ymddengys, ydoedd y brawd arall, Evan Evans. Bu yntau farw Chwefror 27, 1797, sef yr un flwyddyn a'i frawd, yn 24 oed. Gallesid tybio oddiwrth ryw bethau yn ei hanes fod eofndra dychmygol yn nodwedd arno yntau, fel ei frawd. Sonir am dano yn pregethu yn yr awyr agored yn Aber-fach-awyr, pryd y disgynnodd gwlaw trwm ar y bobl ar ganol y bregeth. Torrodd yntau allan mewn gweddi, "O Arglwydd, creawdwr a llywodraethwr pob peth, dyro seibiant am ychydig amser i gynghori hyn o bobl sydd â'u hwynebau ar y byd tragwyddol." Yn y fan ataliwyd y gwlaw. Fel hyn y dywed Owen Thomas am dano: "Evan Evans o'r Waenfawr—yr hwn ni chafodd fyw ond rhyw dair blynedd wedi iddo ddechre pregethu, eithr a wnaeth, yn yr amser byrr hwnnw, y fath argraff ar Gymru, fel mai syniad y rhai callaf o'r hen bobl ydoedd, fod y fath gyflawnder o ragoriaethau gweinidogaethol ynddo, ag a fuasent yn ei godi, pe cawsai fyw a'i gynnal, i'r dosbarth uchaf o ran poblogrwydd a dylanwad ymhlith pregethwyr ein gwlad." (Cofiant J. Jones, t. 941). Ebe Robert Jones: "Evan Evans a addurnwyd â doniau ystwyth, goleu a serchiadol... Torwyd ef i lawr pan oedd y llewyrch yn fwyaf disglair." Ebe Griffith Solomon: "Evan Evans oedd fel rhyw rosyn yng ngardd yr Arglwydd. Yr oedd y dyn ieuanc hwn wedi derbyn doniau darn debyg i Elihu gynt, goeliaf fi" (Drysorfa, 1837, t. 119). Yn Llanidloes yr ydoedd y flwyddyn olaf o'i oes yn ceisio adferiad iechyd. Edrydd Mr. Francis Jones o gofiant John Mills am Edward Mills y tad yn nodi allan Evan Evans fel un o'r pregethwyr mwyaf grymus ac effeithiol a glywsai erioed. Pan bregethai ar noswaith yn y dref, rhedai Edward Mills y ddwy filltir o'r fferm i'r capel, er mwyn bod yn bresennol pan roid yr emyn cyntaf allan, oblegid yr oedd y fath swyn yn y llais fel y toddai y gynulleidfa dano. Deuai rhai o ddynion anuwiolaf y dref i'w wrando. Yr oedd anhwyldeb ar ei droed, ac yn niwedd y gwasanaeth byddai ei esgid yn llawn gwaed. gan y doluriau oedd arno, er y byddai ef yn ystod y bregeth mewn cwbl angof o unrhyw anesmwythyd.

Fe gyfeiriwyd at erlidiau. Erlidiwr go ffyrnig oedd William Williams Llwynbedw, tyddyn gerllaw Tŷ-ucha'r-ffordd. Erlidiai ef o fewn ei dŷ, gan fod yn rhwystr i'w wraig ddilyn y gwasanaeth, cystal ag oddiallan. Ar y ffordd ryw ddiwrnod i farchnad Caernarvon, wrth Penycefn, aeth i ymladd âg un o'i gymdogion. Ac fel yr oeddynt yn ymladd, ac yn ymosod yn ffyrnig ar ei gilydd, wele wr dieithr yn dod heibio, yn waed ac archollion. Troes atynt, a rhoes arnynt feddwl am dri gair,—angeu, barn a thragwyddoldeb, ac ymaith âg ef. Ebe'r naill ymladdwr wrth y llall, "Pwy oedd y gwalch yna oedd yn dweyd y fath eiriau? Y mae ol ymladd arno yntau ei hun." Pregethwr wedi ei faeddu yn y Bontnewydd ydoedd y gwr, ac ar ei ffordd i Lanberis. Yn ol adroddiad arall, John Thomas Llanberis ydoedd y pregethwr, ar ei ffordd adref o Rostryfan, yn dianc oddiar erlidwyr yno. Eithr fe ddilynir adroddiad Morgan Jones o'r stori yma. Gwalch neu pa beth a'u dywedodd, fe lynodd y tri gair yng nghydwybod William Williams. Fe ddaeth o'r dref heb ei neges, yn sobr, ac nid yn feddw fel arfer. Wedi dod i'r tŷ, gofynnodd i'r wraig yn y man, onid oedd hi yn myned i'r seiat y noswaith honno? Synnu a wnaeth arni wrth yr ymholiad anarferol. Ond wele'r ddau, o fewn ennyd fechan, yn cychwyn i'r seiat gyda'i gilydd. Ac felly y parhausant i wneuthur ddyddiau eu cyd-bererindod.

Dro arall yn Nhŷ-ucha'r-ffordd, ar ganol pregeth, wele wr i mewn, gan orchymyn y pregethwr yn hŷf i dewi. Elai yntau ymlaen gyda'i bregeth heb gymeryd arno ddim. Ymgynddeiriogai yr aflonyddwr wrth ddull hamddenol y pregethwr, ac elai yn hyfach hyfach. Gorfu i'r pregethwr, ni wyddys mo'i enw, ddod i lawr oddiar yr hen goffr y safai arni. Aeth at yr aflonyddwr, cydiodd afael arno, a dododd ef ar y llawr, ac a'i gwasgodd yn dynn, er yn eithaf hamddenol. Wyddochi gwas i bwy ydw i?" gofynnai y gwr ar lawr. "Gwn o'r goreu," ebe'r pregethwr, "gwas y cythraul wyti, ond nid oes arna i ddim o dy ofn di na'th feistr." Ac ni ollyngodd y pregethwr mo'i afael hyd oni addawodd y gwas hwnnw, gwas i wr eglwysig fe ymddengys, na ddelai efe yno byth ond hynny i aflonyddu ar y gwasanaeth. Wedi ei ollwng, diangodd y gwas fel llechgi, ac oddiar ben yr hen goffr drachefn, aeth y pregeth— wr ymlaen yn dawel gyda'i bregeth, ac o ran ei ddull fel pe na buasai dim neilltuol yn y byd wedi digwydd.

Y mae Morgan Jones, wrth roi hanes diwygiad 1859, yn adrodd hanesyn a glywodd efe gan hen wr am yr achos yn Nhŷ-ucha'r- ffordd. Daeth pregethwr dieithr i'r ardal, ac elai Wmphra Thomas, yr hen flaenor, i'r gwasanaeth yn ddigalon iawn, am na wyddai i ble y troid am lety i'r pregethwr, nac am y degwm arferol. Cyn cyrraedd y tŷ, pa fodd bynnag, wrth oleu'r lloer, wele rhywbeth disglair i'w ganfod ar y llawr. Gyda chyffro meddwl y gwelai Wmphra Thomas dri bisin swllt, â gwawr y lloer arnynt, ar gledr ei law. "Wel, wel," ebe fe wrtho'i hun, "dyma swllt am swper, swllt am frecwast a swllt yn llaw gwas yr Arglwydd." "Tybed fod hynyna'n wirionedd?" ebe Morgan Jones wrth wrando. "Ydi," ebe'r hen wr, "gyn wired a'r pader iti. Mi glywais Wmphra Thomas i hun yn dweyd, a ddwedodd o 'rioed anwiredd."

Yn 1784, drwy ymyriad person Aber, fe orfodwyd y ddiadell fechan godi o Dŷ-ucha'r-ffordd, a chwilio am gorlan mewn man arall. Yn y cyfwng hwnnw y daeth John Evans a Thomas Charles heibio, neu, yn ol adroddiad arall, John Evans ei hun, yr hwn a hysbysodd yr helynt i Charles wedi hynny. Gyda'r cynorthwy yma y penderfynwyd prynu darn o dir i adeiladu capel arno. Yn 1785 y dywedir ddarfod gwneuthur hyn, a William Evans y gwehydd a breswyliai yn y tŷ. Amseriad y weithred ydyw 1786. Yn honno fe ddywedir y prynid y tŷ, a elwid tŷ y cipar, ynghyda'r tŷ allan a'r ardd, a elwid gardd y cipar coch. Yr arian pwrcas, £40. Prynwyd gan Humphrey Lloyd Caernarvon a Lowri ei wraig. Fe ymddengys, pa fodd bynnag, oddiwrth gofnodion Cymdeithasfa'r Bala, 1787 a 1790, fod taliad blaenorol o £5 wedi ei wneud. Yr ymddiriedolwyr: Thomas Evans Gwredog, Llanwnda, Hugh Williams Drws deugoed, Robert Jones Tirbach, Llanystumdwy [Rhoslan], Thomas Charles Bala, John Evans canwyllwr. Fe ymddengys na chyflwynwyd mo'r eiddo ar yr ymddiriedaeth a osodir allan yn y Weithred Gyfansoddiadol, ac yn 1890, fe benodwyd ymddiriedolwyr, a thynnwyd allan weithred yn gosod allan yr ymddiriedaeth.

1785, mae'n debyg, ydoedd amseriad y capel cyntaf. Yr ydoedd John Owen yn cofio'r capel hwn. Tybiai ef mai chwanegu at y tŷ oedd yno a wnawd, a'i gyfaddasu yn gapel, a throi gweithdy William Evans yn stabl. Capel bach" y gelwir ef ganddo ef. Adeilad cul 4 llath neu 5 wrth 6 llath neu 7 o fesur, sef y tu fewn yn ddiau, canys y mesur hwnnw a roid yn gyffredin gynt. Y tŷ, a'r stabl tucefn, wrth y talcen gogleddol, a phalis coed rhwng y capel a'r tŷ. Yn llofft y tŷ capel yr oedd gwely y pregethwr, ac yno y cedwid y tân, ac y paratoid bwyd y pregethwr, gan nad oedd lle priodol i wneud tân yn y llawr. Drws o'r tŷ i'r capel, a drws i'r capel ar yr ochr ddwyreiniol, nid nepell oddiwrth y talcen deheuol. Y pulpud ar yr ochr ddwyreiniol, gyda ffenestr yn ei ymyl ar yr ochr ogleddol iddo. Dwy ffenestr ar yr ochr orllewinol i'r capel. Meinciau ar lawr y capel, a dau blanc yn y pen deheuol yn cael eu cynnal gan gerryg. Dywed John Owen fod traul yr adeiladau ynghyda'r tir yn £150.

Yn y flwyddyn 1791, ebe Morgan Jones, y sefydlwyd yr ysgol Sul gan John Pritchard ac Evan Evans y pregethwr. Nodid y flwyddyn hon yn y lleoedd eu hunain fel blwyddyn cychwyniad yr ysgol yn Llanllyfni a Brynrodyn. Fe eglurwyd yn hanes y Capel Uchaf fod John Owen yr Henbant, cychwynnydd yr ysgol yno, yn nodi 1794 fel yr adeg y cychwynnwyd, a'i fod ef yn haeru yn bendant mai dyna'r ysgol Sul gyntaf yn Arfon. Edryched y cywrain i'r hanes ynglyn â'r Capel Uchaf a Llanllyfni. Yn Nhy-ucha'r-ffordd y cedwid yr ysgol, gan fod ysbryd erlid wedi chwythu drosodd bellach. Cynhelid yr ysgol at ddechreunos yn y gaeaf. Eid i'r goedwig i dorri pren fforchog, ebe Morgan Jones, a dodid ef ar lawr y tŷ, ar ol torri twll yn ei ben uchaf i ddal y ganwyll, ac o amgylch y pren fforchog yr eid uwchben y wers. Y mae Morgan Jones yn rhyfeddu y modd yr aeth y pren fforchog yn bren mawr erbyn yr amser yr ysgrifennai ef, gan ymganghennu ym Mhenrallt [Moriah], Salem, Rhyd-ddu a Drws y coed. Ychwanegir gan Mr. Francis Jones mai David Jones Penycae, wedi hynny yn flaenor ymroddgar, ac a fu farw tuag 1817, oddeutu 30 oed, oedd y cyntaf i ddechreu'r ysgol drwy ddarllen ynghyd a gweddi. Gweddi yn unig a arferid cyn hynny. Cyn bo hir iawn, fe sefydlwyd canghennau yng Ngherryg y rhyd, Tŷ newydd (Treflan) a Gwredog isaf.

Yn 1807 fe chwalwyd wyneb y capel cyntaf, ac estynnwyd y mur ymlaen, nes ei wneud yn gymaint ddwywaith ag ydoedd o'r blaen. Rhowd llofft un ar bob talcen. Codwyd mur cerryg yn lle'r palis coed oedd rhwng y capel a'r tŷ. Wyneb y capel at y dehau, a ffenestr tucefn iddo, a drws ar y wyneb yn lled agos i'r pen dwyreiniol. Drws arall ar y talcen gorllewinol, gyda ffenestr ar ganol y talcen hwnnw. Ffenestr ar y cefn yn tynnu at y pen dwyreiniol. Y tŷ ar y cefn yn y pen gorllewinol, wedi ei adael fel yr ydoedd. Meinciau ar ganol y llawr, gyda sêt wrth y mur o amgylch. Yn y gongl, ar y llaw aswy i'r pulpud, yr oedd eisteddle y dechreuwr canu, sef Dafydd Hughes Pendas. Eisteddai amryw hen bobl yn yr un sêt ag yntau. Grisiau'r pulpud yr ochr agosaf i'r drws. Mesur y capel, chwe llath neu saith wrth tua deg, yr hyd blaenorol yn lled yn awr. Tra y buwyd yn adeiladu fe ddygid y moddion ymlaen yn y Tŷmawr gerllaw.

Yn adeg adeiladu'r capel fe brofwyd adfywiad lled rymus, yn bennaf ymhlith y plant a'r bobl ieuainc. Y pryd hwnnw y daeth David Jones, y pregethwr o Feddgelert wedi hynny, a David Jones Penycae, y blaenor wedi hynny, at grefydd.

Y blaenoriaid cyntaf a gofid gan John Owen oedd Thomas Jones Gwredog (Tanrallt), Harri Thomas ac Wmphra Thomas Hafod Oleu. Bu Thomas Jones farw 1809-10. Ar gefn ei geffyl yn wastad y deuai i'r capel oherwydd cloffni. Heb ddawn neilltuol. Crydd oedd Harri Thomas Bryngwylan. Brodor o Feddgelert, a'r blaenor cyntaf yno. Sais da, ac yn cael y gair o fwriadu myned yn offeiriad unwaith. Yn derbyn newyddiadur Seisnig. Heb ddawn rwydd, ar y blaen mewn gwybodaeth gyffredin. Disgyblwr llym. Disgyn ar fai fel barcut ar gyw. Yn egnïol gyda'r achos. Clywodd Dafydd Thomas ddarfod iddo ddod ag ysbryd y diwygiad gydag ef o Feddgelert, a thŷb mai dyna'r pryd y daeth yma. Gallasai fod wedi cludo y marworyn gydag ef o Feddgelert; ond yr oedd yma cyn hynny, gan y cofid ef yn flaenor gan John Owen cyn codi David Jones Penycae, a bu ef farw yn 1817, y flwyddyn y teimlwyd cyffro cyntaf y diwygiad. Bu farw rywbryd oddeutu 1820, ar ol symud ohono i'r tolldy yng Nghaeathro. (Ed- rycher Pentref, Beddgelert). Wmphra Thomas oedd wr lled. ddiddan. Dechreu'r canu cyn i David Hughes afael yn y gorchwyl. Gofyn ar goedd, "A oes rhywun yn medru'r dôn ar y pennill a'r pennill?" Cyrhaeddiadau bychain, ond ffyddlon a hynaws. Bu farw yn nechre 1814.

David Jones Penycae y cyfeiriwyd ato ynglyn â'r ysgol Sul ydoedd y cyntaf a alwyd yn flaenor ar ol y rhai a enwyd ddiweddaf. Ffyddlon, gweithgar, ac o ddawn gyflawn fel gweddiwr cyhoeddus. Gwr rhagorol, a aeth ymaith yn nhoriad ei ddyddiau.

Ni bu cymaint cyffro yn yr ardal hon yn adeg diwygiad mawr Beddgelert. Ni chyfrifai John Owen ddarfod profi mwy na godreu'r gafod yma. Eithr fe chwanegwyd Dafydd Rowland at yr eglwys y pryd hwnnw, a ddaeth mor hysbys ar ol hynny fel blaenor Moriah. Hefyd ei dad Rowland Morris ac eraill.

Yn ystod 1818-9 y galwyd Richard Owen Bryneithin a Morgan Owen Ty'n-cae-newydd yn flaenoriaid.

Cyfarfu Morgan Owen Ty'n-cae-newydd â'i ddiwedd drwy lithriad carreg yn chwarel Cefn du, Ebrill, 1820. Ymroddiad i'r achos ydoedd ei nodwedd ef. Ym mis Medi y 15 dilynol, mewn cyffelyb fodd a Morgan Owen, ac yn yr un chwarel, y cyfarfu John Hughes Ty'ntwll â'i ddiwedd, y ddau flaenor o fewn tua phum mis i'w gilydd. Tua mis o amser oedd er pan ddychwelasai John Hughes o daith o'r Deheudir, fel cyfaill i Daniel Jones Llanllechid, gan ddechreu'r odfeuon o'i flaen. Wrth hynny fe welir y cyfrifid John Hughes yn wr o ddoniau cyhoeddus.

Y llyfr cyfrifon eglwysig, Rhagfyr 1818-Medi, 1820, a gedwid gan John Hughes Ty'ntwll. Ychydig ddyfyniadau yma. Pregethwyr y Rhagfyr cyntaf, 1s. bob un, oddigerth David Williams, 6ch. Chwefror, 1819: Wm. Edwarts, 1s.; Humphrey Gwalchmai a'i gyfaill, 2s.; John Humphreys, 1s.; Richardson, 1s. 6ch.; Mr. Lloyd, 1s.; Morris Jones, 1s.; Daniel Jones, 1s. 6ch. Am y gweddill o'r amser ychydig ddetholiad. Lewis Moris, 1s. 6ch.; Moses Parry, 1s.; Robert David [Dafydd] 1s.; Peter Roberts, 1s.; Thomas Jones a'i gyfaill, 2s.; Michael Roberts, 1s. 6ch.; Griffith Salmon, 1s. 6ch.; John Wyne, 1s.; Evan Lewis, 2s.; Charles Mellish (?), 1s.; John Walters, 1s.; Benjamin a'i gyfaill, 2s. Taliadau cyffredinol eto: Cyfarfod Misol Llanrug, 8s. 4c.; cwrw, 2s.; i Owen Williams am rwymo'r Beibl, 6s.; i William Thomas am frâg, 10s. 6ch.; hops, 1s.; cwrw, 2s.; i William Roberts am frâg, 11s.; i William Thomas am frâg, 11s. 3c.; i Mary Thomas i brynu tumbler, 6ch. Rhyw 7s. neu 8s. yn y mis i Mary Thomas at gadw'r tŷ dros ben yr hyn a delid am lô, brâg, etc. Rhowd hynny o gwrw a brâg a nodir yn y llyfr i lawr yma.

Yn 1822, ymhen 15 mlynedd ar ol yr helaethiad ar y capel, fe'i helaethwyd drachefn, drwy dynnu ei wyneb i lawr i'r amcan o'i ledu oddeutu 3 llathen. Ei fesur bellach oddeutu 10 llath ysgwar. Dodwyd llofit yn y cefn gyferbyn a'r pulpud, yn ychwanegol at y llofftydd yn y talcennau. Gwnaed grisiau cerryg o'r tuallan ar yr ochr orllewinol i fyned i'r llofftydd, a thynnwyd ymaith y grisiau oddifewn. Cyn helaethu'r capel yr oeddid wedi adeiladu tŷ newydd ar yr ochr ddwyreiniol, o'r un lled ac uchder a'r capel cyn ei helaethu. Gadawyd yr hen dŷ i sefyll.

Dyma'r enwau oedd ar lyfr casgl Eglwys Waenfawr yn 1823: 1. Richard Owen. 2. William Evans. 3. David Rowland. 4. Owen Jones. 5. Owen Solomon. 5. Evan Davies. 6. John Pritchard. 7. Richard Griffith. 8. John Ellis. 9. John Price. 10. John Williams (1). 11. John Williams (2). 12. John Williams (3). 13. William Griffith. 14. Owen Owens. 15. Richard Jones. 16. John Owen. 17. Edward Pritchard. 18. Richard Davies. 19. William Jones. 20. John Thomas. 21. Thomas Williams. 22. John Jones. 23. Rowland Morris. 24. William Owen (1). 25. William Owen (2). 26. Griffith Pritchard. 27. Thomas Griffith. 28. Griffith Evans. 29. Ellis Price. 30. Hugh Owen. 31. William Jones (2). 32. William Dafydd. 33. Dafydd Rolant. 34. Thomas Morys. 35. Robert Jones. 36. Harri William. 37. William Jones (3). 38. Mary Thomas. 39. Anne Pritchard. 40. Anne Jones. 41. Catherine Jones. 42. Doly Jones. 43. Catherine Pritchard. 44. Margaret Pritchard. 45. Margaret Thomas. 46. Elizabeth Griffith. 47. Margaret Jones. 48. Ellen Williams. 49. Catherine Williams. 49. Elizabeth Pritchard. 50. Mary Griffith. 50. Margaret Ffowc. 51. Ellin Jones. 52. Jane Williams. 53. Ellinor Thomas. 54. Ellin Roberts. 55. Catherine Ellis. 56. Elizabeth Thomas. 57. Anne Hughes. 58. Mary Thomas. 59. Margaret Humphreys. 60. Ellinor Davies (c). 61. Ellinor Davies. 61. Anna Thomas. 62. Jane Evans. 63. Ellin Humphrey. 64. Jinie Owen. 65. Beci Jones.

Gwnawd Thomas Griffith, John Owen a William Evans Cilfechydd yn flaenoriaid yn 1828. Ymadawodd Dafydd Rowland i Gaernarvon yn 1830, wedi gwasanaethu fel blaenor ers 1823 o leiaf.

Dyddiau Malan Thomas a nesasant i farw, yr hyn a ddigwyddodd ar Ionawr 9, 1830, a hithau yn llawn 75 mlwydd oed, ac wedi bod yn geidwad y tŷ am 45 mlynedd. Nid llai effeithiol fel ceidwad y tŷ capel oedd Malan Thomas nag oedd Dafydd Ddu ei brawd fel athraw a llenor a bardd. A'r un peth yw dweyd hynny a dweyd ei bod yn ddihareb am ei rhagoriaeth yn ei swydd. Gwnelai pob pregethwr dieithr ei ffordd am dŷ capel y Waen yn ei hamser hi hyd fyth y gellid. A dyddiau y teithio gyda phregethu ydoedd y rheiny, fel y byddai Malan Thomas ar ei llawn hwde gyda'i gorchwyl. Yr oedd Dafydd Morris Twrgwyn yn lletya gyda hi ar dro, a chlywodd Malan ef yn adrodd pennill yn ei gwsg, yr hwn y tystiai efe, ar ol ei adrodd iddo yn y bore wedi codi, na chlywodd mono erioed o'r blaen. A dyma'r pennill nid anheilwng o fod wedi ei sibrwd wrtho yn ei gwsg allan o arall fyd:

Yngolwg dyn 'rwy'n aflan
O'r gwadan hyd y pen;
Yngolwg Duw 'rwy'n gyfiawn,—
Pur yw fy mantell wen:
Cyfiawnder y Messiah,
A haeddiant Adda'r Ail;
'Does ellyll yng ngwlad annwn
All gloddio dan fy sail.

Adroddwyd pennill arall wrth Dafydd Morris yn y tŷ capel hwn,—y pryd hwnnw pan ydoedd yn gwbl effro ac ar gychwyn i'w daith,—a'i ysbrydoliaeth heb fod o nodwedd uwchddaearol, sef gan Dafydd Ddu pan ydoedd yn llencyn. Nid yw'n hysbys ai ar yr un ymweliad y cafodd Dafydd Morris y naill bennill cystal a'r llall, neu, os mai felly y digwyddodd, gallasai fod wedi edrych ar yr ail bennill fel cennad i'w gernodio, fel na'i tra-dyrchefid ef ar ol y cyntaf. Ar gychwyn i'w daith, heriodd y pregethwr, yn ei ddull siriol ef, y bardd ieuanc i roi pennill iddo. Cafodd hwn, megys ar ysbrydoliaeth y foment:

Am Dafydd Morris 'rwyf fi'n syn;
Nid oes, mae hyn yn rhyfedd,—
Berffeithiach Cristion mewn un plwy
Yn cario mwy o lygredd.

Ar fyrr, ehed ei enaid ef
Yn iach i'r nef fendigaid,
A'i gorff a fydd ar waelod bedd
Ddanteithiol wledd i bryfaid.

Profwyd yn helaeth o ddylanwad diwygiad 1832, ac ymunodd lliaws â'r eglwys.

Bu Ellis Ffoulkes a Thomas Owen yma yn nechre haf 1836 yn sefydlu y Gymdeithas Gymedroldeb. Ym Medi o'r un flwyddyn cychwynnwyd y Gymdeithas Ddirwestol gyda mawr frwdaniaeth. Y Parch. Daniel Jones Moriah [? Caernarvon] yma yn ei sefydlu. Evan Dafydd y cyntaf i roi ei enw. Rhoes Evan Owen ei enw yn yr ysgol Sul i Owen Jones Brynpistyll, yn un o'r rhai cyntaf, ebe fe. Ond mis Ebrill yw'r amseriad a nodir ganddo. Os y mis Ebrill dilynol, yr oedd braidd yn ddiweddar; os y mis Ebrill blaenorol, yna i'r Gymdeithas Gymedroldeb yr ymrwymodd y pryd hwnnw. (Fy hanes fy hun, t. 55).

Dechreuwyd blino'r gwersyll ynghylch ail-adeiladu'r capel tuag 1830, ymhen wyth mlynedd ar ol ei helaethu. Y blaenoriaid yn anfoddlon i symud. Ar ol diwygiad 1832 y cwestiwn yn ailgodi. Owen Jones Brynpistyll o'r diwedd, wedi cryn ymdaeru, yn cymeryd arno'i hun ymdaro, gan fyned i'r capel a phwyso'i ffon i grac mewn congl ohono, gan ddryllio'r plastr a thynnu cerryg i lawr. Sion Prys erbyn hynny, mewn ffrwst a dychryn, yn llwyddo i ddarbwyllo y Cyfarfod Misol i roi caniatad i'r ail-adeiladu. Yn 1837 y chwalwyd y capel a'r adeiladau. Codwyd capel yn mesur 18 llath wrth 16. Y capel presennol ar sylfaen hwnnw, a'r ddau o'r un ffurf, oddigerth y wyneb. Adeiladwyd, hefyd, dŷ capel. Y capel y pryd hwnnw heb lofft arno. Meinciau ar ganol y llawr. Y seti o amgylch y muriau gyda drws ar bob un. William Prydderch a bregethodd gyntaf yn y capel, a hynny pan yr ydoedd yn anorffennol, heb seti. Yn yr agoriad ddechre Mawrth, 1838, pregethodd John Elias, John Jones Talsam, John Phillips Treffynnon, Robert Owen Nefyn. Bedyddiwyd Owen Griffith (Eryr eryri) a Richard Jones Cymnant gan Robert Owen noswaith yr agoriad. Yn yr ardd o flaen y capel y pregethid yn ystod haf 1837, a chynhelid yr ysgol Sul yn yr ysgoldy genhedlaethol. Cydaddolid gyda'r Anibynwyr wedi i'r gaeaf ddechre nesau. Yr oedd dyled yn aros oddiwrth helaethu'r capel ar droion blaenorol, a thalwyd hi i ffwrdd y pryd hwn.

Y mae Evan Owen yn rhoi ar ddeall mai isel ydoedd ar yr achos oddeutu 1839, a hynny ar ol y diwygiad grymus saith mlynedd cynt, a'r llewyrch ar ddirwest dair blynedd cynt. A dywed ef nad oedd ar y pryd ond un dyn dibriod yn eglwys y Waen, ac mai Griffith Jones Caeronwy (Ty'ntwll) oedd hwnnw (t. 58).

Y pryd hwn, yn ol Pierce Williams, yr oedd y blaid ddiwygiadol yn galw yn uchel am gyfrifon rheolaidd, er mawr gynnwrf yng ngwersyll y swyddogion. Yr oedd yr aflonyddwch hwn iddynt hwy yn argoel o ddymchweliad awdurdod. Ond y mae Pierce Williams ei hun yn deongli pob dirgelwch yngoleu cyferbyniaeth pleidiau. Yn hwyr neu hwyrach fe drefnwyd archwiliad blynyddol i'r cyfrifon.

William Evans Cilfechydd, tad Robert Evans Caernarvon, y blaenor clodfawr, a ymadawodd i Gaernarvon tuag 1840, yn flaenor yma ers tuag 1828. Byddai ef yn eistedd yn y set fawr yn Engedi, pa un a alwyd ef yno i'r swydd o flaenor ai peidio. Yn wr tal, yn gwisgo yn well na'r cyffredin, ac yn cadw cerbyd, ebe Pierce Williams. Wedi ei droi o'i dyddyn gerllaw y Felinheli oherwydd ei Fethodistiaeth. Un o arweinwyr cyfarfod dirwestol y plant. Troes Robert ei fachgen allan yn un o ddirwestwyr mwyaf aiddgar y cyfnod hwnnw. Elai William Evans a phlant y Waen gydag ef yn ei gerbyd i gynnal cyfarfodydd dirwestol yn yr ardaloedd oddiamgylch, a byddai'r cerbyd mor llawn ohonynt fel y rhyfeddid, wrth eu gweled yn dod allan, pa fodd erioed yr aethant i mewn. Rhoes y cerbyd hwn ddylanwad arbennig i William Evans ym myd y plant. Credai William Evans yn ymddanghosiad ysbrydion, ac nid elai dros bont y Cyrnant yr hwyr heb warcheidwaid, am fod y gwr drwg a'i loches yno. Cred lliaws y pryd hwnnw oedd hynny. Heb ddawn neilltuol ei hunan, ei duedd yn hytrach yn y cyhoedd oedd dirgelu ei feddwl ei hun. Arferai ddweyd, ar ol ambell gyfarfod, pryd y byddai rhai wedi siarad eu meddwl yn o agored, na byddai yn meddwl nemor ohono'i hun nes bod mewn cyfarfod o fath hwnnw, ac yna y dechreuai feddwl y rhaid fod rhywbeth ynddo yntau wrth gymharu ei hunan â'r fath wŷr.

Sion Prisiart, fe gofir, ynghydag Evan Evans y pregethwr, a sefydlodd yr ysgol Sul. Tachwedd 28, 1848, yn 84 oed, y bu efe farw, wedi bod yn aelod dros drigain mlynedd, ac yn ddirwestwr ers cychwyniad y Gymdeithas. Llafuriodd i sefydlu canghennau gyda'r ysgol Sul. Dywed Eos Beuno (Bontnewydd), mai efe a gychwynnodd yr ysgol yn y Wredog isaf, yn ymyl Glanrafon fawr, ac yn y Betws a Cherryg y rhyd wedi hynny. Elai i'r Wredog yn y bore, i'r Betws yn y pnawn am awr, a Cherryg y rhyd am awr. Dweyd ei feddwl yn ddidderbynwyneb. Yn flaenor ers pan ydoedd Dafydd Thomas yn ieuanc, a chyfrifid ef ganddo yn un o'r darllenwyr Cymraeg goreu a glywodd. Dywed Eos Beuno fod Rumsey Williams y cyfreithiwr a'r heliwr cadarn, yn cymell Sion Prisiart ar un tro i gymeryd ci bach iddo ar y Sul i fferm ger Cerryg y rhyd. Ond er yr elai Sion Prisiart y ffordd honno ar y Sul, ni fynnai gymeryd. y ci bach gydag ef. Arferai weithio fel teiliwr i Rumsey Williams, a rhoes Rumsey y dydd Llun iddo i fyned, gan na fynnai gymeryd y ci ar y Sul. Ar ei wely angeu, fe ddywedir y gwaeddai Rumsey am Sion Prisiart. Elai Mari Williams yr Allt yn eneth fach at Sion Prisiart i ddysgu adnodau. Yn ieuanc, fe'i treisgipiwyd ef fel milwr i Dover, a bu yno am rai blynyddoedd. Yno y dysgodd ddarllen Saesneg. Elai, yn ol trefniant y Cyfarfod Misol, gyda phregethwyr dieithr, o amgylch y Waen, ar eu taith drwy'r wlad. Ni arferodd erioed â gwydrau, a darllenai hebddynt wrth ddechre oedfa yng nghapel Bontnewydd yn 80 oed. Efe oedd taid y Parch. David Jones (Hyfrydle a Rhuddlan), Ioan Glan Menai, Eos Brad- wen, cystal ag Eos Beuno.

Dewis Morgan Jones ac Owen Morgan yn flaenoriaid ar yr un noswaith yn 1848.

Perthyn i blaid y diwygwyr, ebe Pierce Williams, yr oedd ei dad, William Owen Tan y marion, a fu farw Medi 12, 1851, yn 54 oed. Gweithiwr distaw. Gofalus rhag colli naws crefydd yn ei ymdrechion dros ddiwygiadau mewn pethau allanol.

Richard Owen Bryneithin oedd gynghorwr difyr a gafaelgar (Drysorfa, 1852, t. 205). Gwr dawnus. Bu am ddau fis yn y Deheudir gyda Moses Jones Dinas, yn dechreu'r moddion iddo. Un o'r blaenoriaid cyntaf a gofid gan Dafydd Thomas, a disgrifir ef ganddo fel dyn o dalent, yn ddoniol a gafaelgar mewn gweddi, yn gallu siarad yn dda ac i bwrpas ar unrhyw bwnc, ac yn holwr plant dihafal. Medrai wneud ei hunan yn blentyn gyda phlant. Holi o'r Hyfforddwr heb fod y llyfr yn ei law, ac os gwelai rhywun yn edrych i'r llyfr yn llechwraidd, gwnelai gilwg arno. Safai yn uchel ar un tymor yng Nghyfarfod Misol y sir, a bu yn un o drefnwyr cyhoeddiadau pregethwyr drwy'r sir. Sefyll yn y canol rhwng y ddwy blaid, yr hen a'r newydd, ebe Pierce Williams, ac yn wr call ac yn fab diddanwch. Mwy o allu naturiol na chyrhaeddiadau. Bu farw y dydd diweddaf o'r flwyddyn 1851, yn 61 oed.

Sel Sion Prys oedd fwy na'i wybodaeth, ebe Dafydd Thomas; ond cyfrifid ef ganddo yn wr bucheddol. Efe ydoedd y pen blaenor ar un cyfnod. Aeth dan ddrwg-dybiaeth yn rhyw achos, a diarddelwyd ef, heb sail yn y byd ebe Pierce Williams. Ymunodd â'r Anibynwyr am ysbaid go ferr, ac yna dychwelodd yn ol. Ni chodwyd ef i'r swydd drachefn. Er hynny, ni phallodd mewn cysondeb. Argyhoeddodd yr eglwys ei fod yn Israeliad yn wir. Dywedodd rai misoedd cyn marw y gwyddai efe hyd sicrwydd ers deugain mlynedd na ddemnid mono. Bu farw Ionawr 14, 1856, yn 73 oed.

Yr oedd rhif yr eglwys yn 1854 yn 155. Gosodid 383 o'r eisteddleoedd allan o 400. Cyfartaledd pris eisteddle, 9c. Swm. y derbyniadau am y seti, £50 16s. Y casgl at y weinidogaeth, £37 15s. Swm y ddyled yn 1853, £150; yn 1854, £220. Yr ychwanegiad hwn yn dod drwy i'r eglwys ymgymeryd â helpu adeiladu'r ysgoldy yn ymyl y capel. Rhif yr eglwys yn 1858, 179. Gosodid 336 allan o'r 400 eisteddle. Pris eisteddle, 7g. Swm y derbyniadau am seti, £39 3s. Casgl y weinidogaeth, £56. Y ddyled yn 1857, £90; yn 1858, £80.

Yna fe ddaeth y diwygiad, gan weddnewid popeth am gryn ysbaid. Fe'i teimlid yma yn ei rym. Tua dechreu'r flwyddyn fe fyddai Morgan Jones yn derbyn llythyrau o Lechryd, sir Aberteifi, yn rhoi hanes y diwygiad. Darllenid hwy yn y seiat a'r cyfarfod gweddi. Nos Sul, Mawrth 27, cyhoeddodd un o'r blaenoriaid gyfarfod gweddi ar y nos Lun dilynol i ofyn i'r Arglwydd am ddyfod i achub i'r Waen. Y capel bron yn llawn. Myned adref yn siomedig. Erbyn y seiat ddilynol, wele eneth ieuanc o deulu anghrefyddol yn y lle. Edrychid arni braidd yn sarrug. Hi a ddywedai mai ofn marw yn anuwiol oedd arni. Ers pa bryd?

Er cyfarfod gweddi nos Lun. "Ysgub y blaenffrwyth ydi hi," ebe un brawd. Y nos Sul dilynol, hen wrthgiliwr yn dychwelyd. Rywbryd oddeutu 'r adeg yma, yng nghof un, y torrodd y diwygiad allan gyda "dyn bach o bregethwr o sir Fon, yn mynd wrth ei ffon i'r pulpud." Dal at y cyfarfod gweddi, a rhoi un arall ar y nos Iau. Rhywun neu gilydd yn barhaus yn dod o'r newydd. Yr oedd yma gyfarfod pregethu Sul a Llun y Sulgwyn, pryd y pregethai Thomas Hughes Machynlleth, Griffith Evans Caergeiliog, Hugh Jones ieu. Llanerchymedd a Thomas Ellis Pennant. Arhosodd tri i'r seiat nos Sul, a nos Lun naw. Wrth weled rhai yn aros ar ol nos Sul, torrodd William Davies Cae ystil allan, "O diolch am dynnu'r cyrtain!" Owen Griffith (Eryr Eryri) ydoedd un ohonynt. Pan ddaeth y naw at ei gilydd i'r un man fe ddisgynnodd rhyw ddylanwad dieithr, anolrheinadwy ar yr holl eglwys. Mewn ymddiddan ar hanner canmlwyddiant y diwygiad yn seiat y Waen, fe adroddai Jane Williams Llwyn bedw am ddau fachgen ieuainc, y dywedai hi eu bod yng nghyfarfod nos Sadwrn y Sulgwyn yn y Waen, y cyfarfod pregethu, y mae'n debyg—sef John [Jones] Tyddyn ac Wmphra William. Dywedai fod y ddau yn Salem y bore Sul â'u gwynebau yn tywynnu fel wynebau angylion. "Y mae y ddau," ebe hi, "erbyn hyn yn y Nefoedd." Yng nghyfarfod gweddi nos Fawrth arhosodd 12, a nos Sadwrn, 14. Y nos Sul, 16; nos Lun, 10; nos Fercher, ar ol pregeth gan Thomas Phillips, 19. Sef 84 mewn deng niwrnod. Y Sul dilynol, drachefn, 11, hen wrandawyr gan mwyaf. Erbyn Gorffennaf 4, 123 o ddychweledigion. Cyfarfodydd gweddi bellach yn y tai, yn y chwarelau, ar lan y Wyrfai, yn y cymoedd ac wrth ochrau'r cloddiau. Yr ysgol wedi cynyddu, ac erbyn hyn yn 450 o rif. Erbyn Tachwedd 19, 137 wedi eu derbyn yn gyflawn aelodau. Y nifer yma gyda'i gilydd yn derbyn y Cymun ar nos Fercher, Tachwedd 16, John Jones Llanllechid yn gweinyddu. Dywed Morgan Jones fod y cynnydd mewn rhif erbyn Tachwedd 19 agos yn wyth ugain. Y mae Morgan Jones yn cymeryd ei ddameg drachefn yn y Drysorfa am Gorffennaf 1861, a dywed fod y dychweledigion oll yn dal eu ffordd oddigerth un neu ddau. Rywbryd yn ystod y diwygiad bu Dafydd Jones (Caernarvon) yma yn pregethu ar y geiriau, "Mor hawddgar yw dy bebyll di." Yr oedd lliaws fel mewn llesmair o fwynhad wrth ei ddisgrifiadau. Llefodd Robert Closs Garregwen allan, ac yntau heb arddel crefydd, "Dafydd anwyl, taw, cyn fy lladd i!" Mewn cyfarfod i'r dychweledigion ddechreu'r gaeaf, adroddai William Jones Dwr oer, y blaenor, beth o'i brofiad. Cafodd ef grefydd wedi bod yn y wlad bell. Drannoeth wedi ei harddel, penderfynodd gadw dyledswydd. Wedi agor y Beibl, wele ddau o'i hen gyfeillion i mewn, ar eu ffordd i Gaernarvon. Yr oedd William Jones rai dyddiau cyn hynny wedi cytuno â hwy i fyned y diwrnod hwnnw i'r dref am sbri. Yr oedd mewn profedigaeth i ddodi'r Beibl o'r neilltu; ond ar ail ystyried aeth ymlaen gyda'r darllen a'r weddi. Yna fe roddwyd pryd o fwyd o flaen y ddau gyfaill. Yr oeddynt hwythau yn bwyta fel rhai yn breuddwydio. Aethant eu ffordd heb yngan gair, gan droi tua chartref. Yr oedd y ddau wedi arddel crefydd ym Methesda cyn pen ychydig wythnosau, a daethant yn golofnau gyda'r achos yno. Fe ddaeth chwech o'r dychweledigion yn y Waen yn flaenoriaid. Edrydd Mr. Evan Evans am William Jones 'Rhen efail yn pregethu yn y Waen ymhen rhyw gymaint o amser ar ol y diwygiad. Ar ganol y bregeth, fe deimlwyd rhyw ddylanwad yn cerdded y lle, ac yn symud fel tonn ar draws y capel. Nid oedd neb yno heb deimlo'r peth. Ebe'r pregethwr: "Mi welaf nad yw Gwr y Tŷ ddim wedi ymadael." (Cofiant Dafydd Morgan, t. 400. Drysorfa, 1859, t. 276, 416; 1861, t. 245, sef ysgrifau Morgan Jones.) Rhif yr eglwys yn 1860, 334, cynnydd o 155 ers 1858; rhif yn 1862, 321; yn 1866, 290, cynnydd o 111 ers 1858. Y casgl at y weinidogaeth yn 1866, £90 10s., cynnydd o £34 10s. ers 1858.

Bu Pierce Owen y Gors, neu Williams, fel yr ysgrifennai ef ei hun ei enw, tad Mr. D. P. Williams, Y.H., farw Ebrill 14, 1859, yn 54 oed. Daeth at grefydd yn niwygiad 1832. Pwyllog, gochelgar nodedig, di-droi-yn-ol, craff, ac yn gynllunydd. Ar y blaen gyda phethau allanol crefydd a chydag achos addysg. Yn allu ym mhlaid y diwygwyr, ebe'r Pierce Williams arall.

Ar flaen y golofn ymosodol bob amser, ebe Pierce Williams, y byddai Griffith Jones Ty'ntwll. Cynorthwywr galluog Owen Jones y crydd, ebe Dafydd Thomas. Owen Jones hirben yn fwy o'r golwg; Griffith Jones gynhyrfus yn fwy yn y golwg. Yn selog mewn amser ac allan o amser. Bu farw Hydref 1, 1860.

Rhagfyr, 1860, dewiswyd yn flaenoriaid, Samuel Morgan, David Morgan a Pierce Williams. Ymadawodd Samuel Morgan i Ddwyran, Môn, yn 1880. Yr oedd ef yn ysgrythyrwr da ac yn ffyddlon gyda'r gwaith.

Thomas Griffith Caegwyn gadarngryf, a fu farw Tachwedd 24, 1861, yn 75 oed, wedi bod yn flaenor am 33 mlynedd. Efe ydoedd y pen blaenor ar ol marw Richard Owen. Deuai i'r seiat ar ei union o'r chwarel heb alw adref, gyda'i biser bach o dan ei gesail, a gwthiai ef o'r golwg dan y fainc. Enwog am brydlondeb: prydlon wrth ddechre, prydlon wrth ddiweddu. Pan fyddai'r amser ar ben, yn o ddiswta weithiau, dyma'r pennill allan, neu ddamn pennill, "Trig yn Seion, aros yno." Go chwyrn wrth blant direidus. Gofal ganddo am esgeuluswyr. Yn ei amser ef yr oedd boneti yn dechre cymeryd lle'r hetiau. Anfadrwydd oedd hynny yngolwg Thomas Griffith, a dyrnai yn drwm ar yr arfer, yn gwbl ofer er hynny. Pan oedd y ciwpi yn dod i'r ffasiwn, fe ymladdodd yn ddewr yn erbyn y drwg hwnnw, ond ni orfu. Os byddai gan eneth fonet gwychach na'i chyfoedion, neu fachgen giwpi mwy golygus na neb arall, byddai Thomas Griffith wedi eu llygadu, ac fe anelai am danynt â'i bicell lymdost, er mawr fraw i'r drwgweithredwyr. Byddai yn codi llawer o fwganod, ebe Pierce Williams, heb allu eu dodi i lawr. Ond oni wnaeth Don Quixote y cyffelyb? Cewri, dewiniaid a byddinoedd arfog i'r arwr hwnnw ydoedd y mynachod cycyllog, y diadelloedd defaid a'r melinau gwynt. Ac nid o ddiffyg dewrder yn Thomas Griffith, mwy nag yn arwr mawr crebwyll, y troes ei ymgyrch ef allan yn ffuantus. Teil pawb warogaeth i amcan cywir Thomas Griffith. A dywed Mr. Owen Jones (Eryri Works gynt), ei fod ef y gweddiwr gyda'r hynotaf yn y Waen yn ei amser ef. Wyr iddo ef ydyw Mr. Thomas Jones yr ysgolfeistr.

Daethpwyd i deimlo fod yn rhaid naill ai helaethu'r capel neu godi un arall ar gwrr y Waen. Ymrannwyd yn ddwy blaid ar y cwestiwn, a rhedodd teimladau yn uchel. Y tymor yma ar ryw olwg y mwyaf profedigaethus yn hanes yr eglwys, ebe Mr. Francis Jones. Wedi bod o'r mater yn y Cyfarfod Misol droion, y blaid oedd am helaethu'r capel a orfu. Nid oedd tawelwch wedyn. Dyma fel y rhed cofnod Cyfarfod Misol Tachwedd, 1863: Waenfawr. Anghydfod yn yr eglwys oherwydd ail-adeiladu'r capel. Amryw yn dymuno cael rhyddid i adeiladu capel newydd. Darllennwyd llythyr oddiwrth ran o'r eglwys yn gofyn am hyn. I fyned yno i chwilio i'r achos: Mr. Phillips, Mr. J. Owen, Mr. D. Jones, Mr. Rt. Ellis. I fyned yno Tach. 11eg. Fod awdurdod y Cyfarfod Misol i'w gyflwyno i'r brodyr hyn i ymdrin â'r achos fel y barnont oreu." Yr hyn a wnawd yn 1863 ydoedd tynnu to'r capel i lawr, codi'r muriau yn uwch ynghyda'r tô, tynnu y wyneb i lawr, gan estyn peth ar ei hyd, a newid peth ar ffurf y wyneb fel ag i ateb i'r cefn, a gwneud y cwbl yn newydd oddifewn. Y draul dros £1100. Y ddyled yn 1862, £80; yn 1865, £1335; yn 1866, £1288.

Adeiladwyd ysgoldy Penrallt yn 1864. Rhoddwyd y tir yn rhodd gan Evan Owen Penrallt. Cedwid yr ysgol cyn hynny yn nhŷ Hugh Jones Penrallt, a chyn hynny yng Ngwredog. Rhoid pregeth yno unwaith yn y mis. Bu cyfeillion o'r Waen yn cynorthwyo ym Mhenrallt o'r dechre, sef John Griffith Penffordd Fangor a William Humphreys, ac wedi hynny, Owen Evans a John Ellis. Bu farw Owen Jones y Siop yn 1864. Efe ydoedd ysgrifen- nydd a thrysorydd yr eglwys. Bu'n arolygwr yr ysgol am flynydd- oedd, a rhagorai yn ei swydd. Yr ydoedd yn ysgolor, fel y cyfrifid y pryd hwnnw, ac wedi bod yn cadw ysgol ar un adeg yn Nhŷ ucha'r ffordd. Yn wr o ymddiried.

Richard Humphreys (Bontnewydd wedi hynny) oedd y cyntaf a godwyd i bregethu o fewn yr eglwys yn ystod y ganrif, sef ar Ionawr 11, 1865.

Byddid yn mwynhau gwasanaeth Dafydd Jones yn y seiadau ar nos Sadyrnau amryw weithiau mewn blwyddyn am flynyddau pan oedd efe yn trigiannu yng Nghaernarvon. Yn ddiweddarach bu Dafydd Morris yn dod yma yn gyson o Gaeathro am flynyddau.

Medi 25, 1867, rhowd galwad i Ddaniel Evans Ffosyffin. Dechreuodd ar ei waith yma yn nechre 1868. Wedi bod yma am dros bedair blynedd fe ymadawodd i Ffosyffin yn Nhachwedd 1872. Dyma fel y dywed Mr. R. O. Jones am dano: "Yr oedd yn hynod o boblogaidd a chymeradwy tra y bu yma. Yr oedd yn ddyn hynod o garedig a diymhongar, yn gyfaill cywir, a'i holl ymddygiadau yn eithriadol foneddigaidd tuag at bawb yn ddiwahaniaeth. Llwyddai i gael popeth a ofynnai, nid yn unig gan yr aelodau, ond gan y gwrandawyr hefyd. Gwnaeth un peth ar fore Sul gyda'r gwrandawyr a adawodd argraff dda arnynt tra fu yma. Gofynnodd i bawb o'r gwrandawyr heb fod yn aelodau aros ar ol. Arhosodd pawb, a chafodd ymddiddan â hwy. A thystiai amryw ohonynt fod yno le rhyfedd o ddifrifol, ac ni ddarfu iddynt yn fuan anghofio'r ymddiddan. Nodweddid ei bregethau gan ddifrifwch. Er y byddai efe mewn cymdeithas yn llawn humour ac arabedd, eto ni chlywid byth ddim yn tueddu at hynny yn ei bregethau. Yr oedd ei sylwadau oddiwrth ei destyn yn naturiol a threiddgar, ac yn meddu rhyw newydd-deb parhaus. Yr oedd ei alluoedd meddyliol yn gryfion, a chan ei fod wedi disgyblu ei feddwl yn dda, yr oedd yn gallu cyfansoddi pregethau yn lled rwydd, a'r rhai hynny y fath ag oedd yn goleuo y deall ac yn cynhyrfu y gydwybod." Ystyrrid ef gan y gwrandawyr yn bregethwr awgrymiadol, a byddai adrodd ar ei sylwadau, megys y sylw hwnnw o'i eiddo, fod dwy adnod a ymddanghosai yn gwrthddweyd ei gilydd, wrth eu cymeryd ar wahan, eto wrth eu dwyn gyferbyn â'i gilydd, ac i wrthdarawiad â'i gilydd, yn taro tân y naill o'r llall, a roddai oleu newydd ar y ddwy. Fe gafodd Mr. J. W. Thomas lawer o'i gyfeillach pan yma. I'w fryd ef y pryd hwnnw, nid oedd odid gangen o wybodaeth gyffredinol namyn cerddoriaeth, nad oedd gan y gweinidog gryn swrn ohoni yn feddiant iddo'i hun. Danghosai gydnabyddiaeth â barddoniaeth Saesneg a Chymraeg. Adroddai allan o'i gof ddarnau go hirion o waith Shakspere, Burns, Byron, Wordsworth ac eraill. Yn grâff ei sylw ar bregethwyr. John Jones Talsarn ydoedd ei eilun. Esgyrnedd ei bregeth a grym ei bersonoliaeth yn y pulpud yn ei ddangos tuhwnt i eraill, hyd yn oed pan na chaffai yr awel gydag ef. Yn ddihafal am amrywio ei lais yn ol nodwedd ei bwnc. Owen Thomas oedd pregethwr yr oes ddilynol yn ei olwg. Edmygai ei gyfansoddiad glân. Yn gallu gosod ei bwnc mewn trefn i'w amcan ei hun yn well na neb. Mathews yn medru pwysleisio fel ag i dynnu sylw pawb. Y Dr. John Hughes yr unig un a glywodd a gaffai hwyl wrth ddweyd pennau ei bregeth, ac yn hynny yn rhagori ar bawb a glywodd efe. Heblaw meddu ar wybodaeth, yr oedd y gweinidog, ebe Mr. Thomas, yn dangos awydd i gyfrannu gwybodaeth i eraill. Ac yr oedd ganddo ddawn i dynnu eraill allan yn y seiat, ac i wneud defnydd o bob cyffyrddiad. Yr oedd William Parry y Parc wedi bod yn meddwl gryn dipyn am y nefoedd. "Ymhle y mae'r nefoedd, William Parry ?" "Yn rhyw le i fyny yna " ebe William Parry. "Ond fe ddywed y bobl sy'n wrthdroed i ni ei bod i fyny, fel chwithau." Wedi peth egluro, William Parry yn dod i ddeall. "Wel," ebe William Parry, "nid ydi hi ddim yn y ddaear, beth bynnag!" Yntau yn cipio'r syniad i fyny,—Y nefoedd ddim yn y ddaear, ac yn ei agor allan a'i egluro fel ag i roi boddlonrwydd i bawb.

Yr oedd Owen Morgan Pant y cerryg yn wr distaw, digynnwrf, pwyllog, ymresymiadol a rhesymol, anhawdd ganddo siarad yn gyhoeddus, ond pan wnae, yn dweyd geiriau â sylwedd ynddynt. Gwr o ymddiried; gwr cymeradwy. Llafuriodd i gasglu gwybodaeth, a rhoes hyn radd o awdurdod i'w farn ar bynciau diwinyddol. "Pan gynghorai," ebe Pierce Williams, derbynnid ei gyngor yn yr ysbryd goreu, a phan geryddai, ni feiddiai neb godi i fyny a gofyn, Pwy wyt ti, fel y gwrandawom ar dy lais?" Dywed Mr. R. O. Jones na chlywyd mono yn ceryddu neb am arfer geiriau anweddus, ac na chlywyd mo neb yn arfer y cyfryw eiriau yn ei wydd.

Feallai mai William Jones Dwr oer a dywynna allan yn fwyaf disglair, ar y cyfan, ymhlith blaenoriaid y Waen o'r cychwyn. Yr ydoedd efe yn ddyn y buasai arbenigrwydd yn perthyn iddo mewn unrhyw gymdeithas o ddynion. Yn ymyl bod, os nad yn llawn dwylath o daldra. Ymrestrodd gyda'r volunteers yn ieuanc, ac yr oedd ol disgyblaeth filwrol yn aros arno i'r diwedd. Yr oedd ei safiad yn syth, ei ddwyfron yn tafiu allan, ei edrychiad yn eon, ac yr ydoedd o gorff cryf a chymesur a llathraidd. Yn ei amser goreu yn ddyn sionc a gwisgi. Oherwydd methu o William Thomas Brynmelyn a'i glywed yn siarad rhag y gwynt yn chwarel Cae braich y cafn, rhoes yntau yn ddiatreg lam ato dros cutting Penrhydd, rhyw ddeg troedfedd neu ragor o led, ac o wyth i ddeg llath o ddyfnder. Os byddai tollborth Glangwna yn gaeedig wrth fyned ohono i Gaernarvon neu ddod yn ol, fe neidiai dros y llidiart heb gymaint a tharo ei law arno. Ei wisg oreu ydoedd gôt o wawr las, gwasgod o liw bwff gyda llin sidan wedi ei nyddu i mewn i'r deunydd, clôs pen glin llwyd gyda botymau melynion â ruban plethedig arno, hosanau o liw glas gyda rhesi gwynion, esgid fach â ruban yn ei chau am y troed del, coler yn lled godi i fyny, a ffunen sidan India am y gwddf, o liw coch neu las fel y digwyddai, a thros ben hynny het silc foneddig a ffon. Dyna ef ar y ffordd i'r dref, a'r bachgen John William Thomas yn syllu arno gydag edmygedd wrth iddo fyned. Eithr pa beth ydyw hyna y mae efe yn ei fwmial wrtho'i hun fel y cerdd yn ei flaen? Dyna'r geiriau,—"O Iesu mawr, cadw fi yn agos atat ti!" a'r cyffelyb erfyniau. Yr oedd urddas yn gorffwys ar ei wedd a llymder yn ei edrychiad. Gwr penderfynol, di-droi-yn-ol. A gwisgai ei wedd dawelwch, a rhywbeth o dywyniad wynepryd y sant. Heb fod yn siaradwr naturiol ddawnus, yr oedd awch ar ei ymadroddion. Ar brydiau fe siaradai dan ryw gyffroad arno'i hun, a'i deimlad yn dygyfor o'i fewn, ac yna fe luchiai ei ymadroddion allan gyda grym, a gwefreiddiai'r gynulleidfa. Ac, yn arbennig, yr ydoedd yn arweinydd dynion. A thros ben ei gyneddfau naturiol, yr oedd ei gymeriad fel crefyddwr yn ddifrycheulyd; yr oedd yn nodedig mewn gweddi; ac yr oedd yn llwyr-ymroddgar i'r achos. Fe wasanaethai ei holl nodweddion ynghyd i'w wneuthur yn wr cadarn, nerthol yn yr eglwys. Cyn dod at grefydd, efe oedd pen ymladdwr yr ardaloedd. Mynych y cyflawnai wrhydri fel ymladdwr mewn ffeiriau a gwylmabsantau. Mewn llofft yng Nghaernarvon unwaith fe ymosodwyd arno gan nifer o ddyhirod. A chan fethu ohono wthio ei ffordd drwyddynt, fe ddododd ei ddwylo ar y distiau isel, a dechreuodd gicio â'r fath egni fel y diangodd bawb ohonynt ymaith. Dro arall, ar y maes yn y dref, fe welai gyfaill iddo yn cael y gwaethaf yn ring y paffio. Gan fethu ohono, oherwydd y tyndra, a gwthio ei ffordd drwodd, fe giliodd beth yn ol, er cymeryd wîb, a rhoes lam dros bennau'r bobl i ganol y ring, a gwaredodd ei gyfaill. Yr oedd boneddiges unwaith, merch i deulu gyda'r uchaf yn y sir, yn cael ei chludo yn un o'r cerbydau bychain perthynol i'r inclên yn y chwarel, pan y torrodd y gadwen, ac y cychwynnodd y certwyn ar y goriwaered. Yr oedd William Jones yn digwydd bod yn ymyl, ac mewn amrantiad rhoes lam dros y certwyn, gan godi'r foneddiges allan fel yr elai drosodd, a'i chludo gydag ef i'r ochr arall. Y chwedl yn yr ardal ydyw ddarfod ei wobrwyo yn hael dros ben am ei ddewrder, a mynn rhai ddarfod i'r foneddiges fyned mor bell a chynnyg priodas iddo, gan faint ei theimlad o waredigaeth am ei gwaredu mewn modd a ymddanghosai braidd yn wyrthiol. Yr oedd ei galon ef, pa ddelw bynnag, yn rhwym wrth arall. Yr ydoedd o hiliogaeth yr Anacim. Diau fod yr enw oedd iddo, ac i'w deulu o'i flaen, yn ei wisgo â dylanwad arbennig ar ol ei droedigaeth. Sonia Mr. J. W. Thomas am ewythr iddo, Sion Sion, a gyflawnodd wrhydri yn ei ddydd ail i'r eiddo tri chedyrn Dafydd. Ni wiw son am danynt yma. Eithr un peth a wnae o fewn y cysegr, sef cadw gwyliadwriaeth ar nifer o las—lanciau a eisteddai ar fainc ar y llawr. Pan elai ambell un ohonynt ar dro yn rhy aflonydd, fe gawsai gelpan na byddai eisieu ail arno y rhawg, nac ar neb yn ei ymyl. Fe arferai William Jones ddweyd, ebe Pierce Williams, fod yn dda ganddo na ddarfu efe erioed yn ei amser gwaethaf dynnu eraill i ymrafael, ond mai cael ei wthio iddi y byddai er yn waethaf iddo. Nid hoff ganddo, ar ol ei ddychweliad, son am yr hen weithredoedd gynt. Ac nid amheuai neb gywirdeb y dychweliad hwnnw. Ni ddanghosai'r awydd lleiaf am sylw, ac eto fe'i perchid ym mhobman, a chreai ei ymddanghosiad arswyd ar yr afreolus. Ac yr oedd rhywbeth o'i amgylch yn rhwystro i neb fyned yn hyf arno. Pan elai ambell un, fel y digwyddai gynt, yn hyf dan ddisgyblaeth, gan herio'r eglwys i'w fwrw allan, ni fyddai eisieu ond i William Jones godi ar ei draed, nad ymdawelai, gan ymostwng i gymeryd ei arwain allan. Eithr nid ymyrrai fyth ynglyn â diarddeliad merch, pa mor ystrywgar bynnag y byddai neu pa mor fawr bynnag ei hystranciau. Gwelid rhai merched gynt y gorfu eu llusgo allan, ond ni cheid fyth mo help William Jones i'w gwastrodedd drwy na gair na gweithred. Tebyg nad oedd hynny yn lleihau dim ar ei ddylanwad gyda'r rhiannod. Ond heblaw awdurdod uniongyrchol a thynerwch, gallai ddefnyddio callineb neu gyfrwystra, er cyrraedd amcanion teilwng. Rhydd Pierce Williams enghraifft neu ddwy o hynny. Yr oedd amryw yn gwarafun rhoi'r capel i gynnal cyfarfodydd gwleidyddol. Rhowd ef i gynnal cyfarfod Jones-Parry. Gelwid William Jones i siarad, ond cyndyn iawn ydoedd i godi, nes y gwthiwyd ef ymlaen. Cyfeiriodd at wrthwynebiad dosbarth yn yr eglwys i areithio ar bolitics yn y capel. "Yr ydw i yn cael boddlonrwydd i mi fy hun," ebe yntau," wrth feddwl mai oddiar yr un mynydd y rhoes yr Arglwydd y ddeddf foesol a'r ddeddf wladwriaethol." Cyfeiriodd hefyd at waith yr ymgeisydd yn rhoi tir i adeiladu capelau, gan ddangos drwy hynny ei fod dros ryddid. Yn y dull yma y ceisiai fyned dan sail y gwrthwynebiad i arfer yr addoldy ar y cyfryw achlysuron. Enghraifft arall ohono. Yr oedd arweinwyr canu y Waen ar un adeg yn arfer mynychu tafarnau. Penodwyd William Jones ynghyda dau eraill i ymddiddan â hwy yn eu cyfarfod canu yn y capel. Clywodd y cantorion, a bwriadent sefyll at eu gynau. Ond fe ddechreuodd William Jones: "Wel, gyfeillion, nid ydym wedi dod yma i'ch diraddio. Na, ni byddai unrhyw anrhydedd yn rhy uchel gennyf i'ch gweled yn cael eich codi iddo, ond i chwi gael eich codi iddo gan Dduw ei hun yn ei ragluniaeth a'i ras. Ond mi ddymunwn eich rhybuddio o'ch perygl o fyw yng nghyfeddach y dafarn, a thrin llestri y cysegr yr un pryd. Am wn i, na chawsai y brenin balch Belsasar lonydd i gynnal y wledd fawr honno a wnaeth ym Mabilon i fil o dywysogion, yr un modd a chyda rhyw wleddoedd eraill a wnaeth, oni bae iddo alw am lestri teml Dduw iddi; ond gan iddo wneud hynny, fe enynnodd digofaint Duw tuag ato, a'r noson honno fe laddwyd Belsasar. Gwyliwch chwithau, gyfeillion, wrth gymysgu crechwen y dafarn â phethau cysegredig y Tŷ." Tarawyd y cantorion â mudandod, fel na allent yngenyd dim, a chafodd y ddau frawd eraill eu cyfle hwythau i draethu eu meddwl yn llawn a diwrthwynebiad. Yr oedd rhyw gyffyrddiad of wreiddioldeb yn fynych i'w deimlo yn ei ymadroddion cwta. Ac yr oedd ganddo'i ddull nodweddiadol ei hun o ddweyd ei bethau. Ebe fe wrth Catrin Ty'n drwfwl, yr hon fyddai weithiau i mewn yn y seiat ac weithiau allan: "Mae nhw'n deudud am y crocodeil ei fod yn gallu byw ar y tir neu yn y dwr, yr un a fynno. A chreadur i warchod rhagddo ydi'r crocodeil. Mae hi'n bryd i tithau, Catrin, benderfynu lle yr wyti yn meddwl aros." Dywed Mrs. Jane Williams Pant defaid y byddai ganddo nid yn anfynych ddywediadau cryno, ar ddull diarhebion, a chyfleus i'w dodi yn y cof. Dyna ddywediad o'r math hwnnw fyddai ganddo—"Ein traed ni yw Beibl y byd." Edrydd Mr. Owen Jones (yr Eryri) sylw neu ddau o'i eiddo ag sy'n ddigon arnynt eu hunain i ddangos y perthynai iddo graffter sylw ac awch meddwl. Wrth gynghori pobl ieuainc i ddilyn cwmni da, eglurai pan fyddai clafr ar yr hespwrn, os dilyn ynghynffon y praidd a wnelai, y byddai yn debyg o farw, ond os y gwelid ef ynghanol y defaid gwlanog, y deuai yr hespwrn yn ei flaen, ac y gwellhae o'r clafr. Cynghori pobl ieuainc i ddod i'r tresi dro arall. Ebol yn myned o flaen y mail—coach, yn cadw ar y ffordd am filltir neu ragor, gyda'r mail yn ei yrru ymlaen. Ond yn y man, pan ddeuid i groesffordd, yr ebol yn troi oddiar y ffordd. Heb ei strapio yn y tresi yr ydoedd—dyna'r achos. Wedi ei strapio yn y tresi, nid allai lai na chadw ar y ffordd. Edrydd Pierce Williams enghraifft ohono yn dyfynnu sylwadau bachog yr hen bregethwyr, yn yr hyn y dywed efe y rhagorai. Cymell prydlondeb yr ydoedd ar y pryd. "Yr oedd William Jones Nantglyn yn dweyd mai ar ol yn y nefoedd y bydd y rhai fydd ar ol yn dod i foddion gras. Dwedai y bydd y duwiolion fu farw ar eu holau, wrth fethu eu gweled yn y nefoedd, yn troi i ofyn i ryw angel, 'Ymhle y mae hwn a hwn?' 'Welais i mono fo yma,' meddai'r angel. Y mae wedi cychwyn ers dwy flynedd o'm blaen i.' 'Chyrhaeddodd o ddim yma eto," meddai'r angel. 'Wel, wel, 'dydio'n rhyfedd yn y byd, o ran hynny, oblegid ar ol y gwelais io erioed yn dod i foddion gras!" Fe fyddai mewn gwell hwyl weithiau na'i gilydd. A byddai ar brydiau yn o bruddglwyfus, ac anhawdd fyddai cael ganddo siarad pan ddigwyddai felly iddo. Tebyg ddarfod i'r pruddglwyfni hwnnw ei atal rhag bod mor flaenllaw yn gyhoeddus ag a fuasai fel arall. Fe ymwelai John Jones Talsarn âg ef ar brydiau, er mwyn ei galonogi. Tynnai John Jones ef allan mewn ymddiddanion ar bynciau athrawiaethol, nes yr adseiniai'r tŷ weithiau gan rym lleisiau y ddau. Elai yntau i ddanfon John Jones adref heibio chwarel Cors y bryniau, gan ddiweddu gyda chael ei hunan yn nhŷ John Jones, a chydgysgai âg ef y noswaith honno. Gallai ddweyd gair yn ei bryd wrth enaid diffygiol. Edrydd Pierce Williams ei air i Beti Prisiart Pen y gamfa. Hen wreigan o gymeriad nodedig oedd Beti Prisiart. Yr oedd Dafydd Morris yn ymddiddan â hi. Eithr yr oedd yr hen wraig y noswaith honno yn cwyno yn dost oherwydd ymosodiadau y diafol, ac yr oedd yn isel iawn o'r achos. Anogai'r gweinidog, yn y man, William Jones i ddweyd gair wrthi. Cododd yntau ar ei draed. "Ai cwyno 'rwyti, Beti bach?" "Ie'n wir, William Jones, isel iawn ydw'i, yn cael fy nghuro gan y diafol nes wyf bron wedi mynd i lawr." "Wel, bobl," ebe William Jones, "dyma un llestr â digon o eiddo ynddi i fod yn werth gan y diafol ei dilyn am daith hir, a gollwng ei ergydion ati. Pan oedd rhyfel rhwng Ffrainc a'r wlad hon yn amser Buonaparte, fe fyddai llongau rhyfel Ffrainc yn gwylio am longau marsiandwyr y wlad hon, ac yn eu cymeryd yn anrhaith rhyfel pan allent. Fe fyddai cychod cerryg calch yn cael llonydd ganddynt i fyned a dyfod fel y mynnent; nid oeddynt yn eu hystyried yn werth powdwr a bwlet: ond am longau mawr, llawn o farsandïaeth werthfawr, os na lwyddent i'w cymeryd yn anrhaith, byddent yn sicr o'u dilyn hyd nes y cyrhaeddent y porthladd dymunol, gan gymeryd pob cyfle i ymosod arnynt. Wyddochi beth, bobol, hen lestr yn llawn o farsiandiaeth y nef yw Beti Prisiart, ac nid yw'n rhyfedd yn y byd fod y diafol yn ymosod arni, oblegid y mae o mewn rhyfel â'r wlad honno. Gwyliwch, bobol, rhag bod yn rhyw gychod cerryg calch gyda chrefydd, na bydd yn wiw gan y diafol ymosod arnoch, a gwastraffu powdwr a bwlet arnoch.' Gallai gyflwyno sylw'r tlawd gerbron y gynulleidfa gyda thynerwch effeithiol. Edrydd Eos Beuno am dano yn cyflwyno achos gwraig weddw dlawd gerbron. Ac adgoffai'r gynulleidfa mai'r cwbl oedd eisieu oedd talu ei phass i lan yr afon, y cymerai'r Llywodraeth Fawr ofal ohoni o hynny ymlaen. Cafodd y sylw y fath ddylanwad, fel yr oedd y casgl y tro hwnnw yn anarferol o fawr. Er holl awdurdod dull William Jones, ni flaenorai efe yn gymaint a Richard Owen neu Morgan Jones. Nid ydoedd chwaith o gwbl yn hafal iddynt hwy o ran dawn siarad. Eithr mewn awdurdod tawel fe ragorai. A thra y llaesodd dwylaw eraill ar y ffordd, fe wisgwyd William Jones âg ysbryd yr Arglwydd megys â mantell. Bu ef farw yn y flwyddyn 1874, yn 87 oed.

Rhoes yr eglwys alwad i'r Parch. Francis Jones, Ebrill 28, Rhoir hanes y cyfarfod sefydlu yn y Goleuad am Ragfyr 5. Adeiladwyd tŷ i'r gweinidog yn 1875. Traul, dros £700. Y ddyled yn 1874, £820; yn 1875, £747. Rhif yr eglwys yn 1874, 314.

Yn 1875 fe ddewiswyd yn flaenoriaid, R. O. Jones, Evan Owen, a Morgan Jones. Ymadawodd yr olaf i Groesywaen pan sefydlwyd eglwys yno. Yn y flwyddyn hon y dechreuwyd cyhoeddi ystadegau yr eglwys.

Heb fod yn flaenor, yr oedd William Thomas Brynmelyn yn blaenori ar amryw ystyriaethau. Saif allan yn bennaf fel dirwestwr mwyaf aiddgar yr ardal ar ol dyddiau William Evans Cilfechydd. Eithr nid dirwest ydoedd ei unig bwnc. Yr ydoedd yn weithgar gyda'r achos yn gyffredinol, ac yn gyson yn y moddion ar hyd ei Yr ydoedd yn neilltuol ar weddi, a dywedir y byddai ym mhob wylnos. Yn rhy agored, medd Pierce Williams, i gwyno ar ei gymdogion yn ei weddiau cyhoeddus, a hynny mewn dull mor fanwl fel na ellid camgymeryd pwy a olygid. Fel siaradwr dawnus yn sefyll ar ei ben ei hun yn yr eglwys yn ei gyfnod. Cyfeirir gan Richard Jones at ei ddisgrifiad o ffarwel y meddwyn i'w wydraid olaf. Dermyn teilwng o Gough ei hun unrhyw ddiwrnod, ebe Richard Jones. Cymerer hynny gyda gronyn o halen. Eithr nid oedd amheuaeth am ei ddawn. Fe glywyd Pierce Williams yn dweyd ar achlysur na chlywodd efe mo neb a fedrai siarad cystal a William Thomas ar bob pwnc a godai i fyny. Cymhariaethau ysgrythyrol fyddai ganddo yn y cyffredin, ac ni byddai pall arnynt. Defnyddiai hefyd iaith dda. Nid oedd William Thomas, ebe Pierce Williams, yn perthyn i'r naill blaid na'r llall, y diwygwyr na'r ceidwadwyr, ond ymosodai ar y naill a'r llall yn eu tro. Yr oedd yn fwy eang na'r naill na'r llall, ond gwnelai ei unigrwydd ei rym yn llai. Areithiodd lawer ar ddirwest yn yr ardaloedd oddiamgylch. Gwr difyrrus yn ei gwmni. Yr un pennill a roe allan yn ddidor braidd yn y cyfarfod gweddi, ebe Mrs. Jane Williams Pant defaid, ydoedd,-Gadawn y byd ar ol, Y byd y cawsom wae. Mab iddo ydyw Mr. J. W. Thomas, ac ŵyr ydyw Mr. T. Llewelyn Thomas (Cemaes, Trefaldwyn). Bu farw Ionawr, 16, 1876.

Profwyd gradd o adfywiad crefyddol yn yr ardal yn 1876. Pregethwyd yn ystod Mawrth 13-17 gan James Donne, J. Roberts (Ieuan Gwyllt) ac Evan Roberts (Engedi). Cynhaliwyd cyfar- fodydd gweddiau yn ystod yr wythnos flaenorol. Arhosodd 22 ar ol. Yr ardal wedi ei chyffro drwyddi. Tymor diwygiad Moody ydoedd hwn. (Goleuad, 1876, Mawrth 25, t. 15).

Gomeddai John Owen Cae ystil (Tŷ capel gynt) weithredu fel blaenor, er wedi ei ddewis. Ni byddai yng nghyngor y blaenoriaid, ac ni weithredai fel y cyfryw yn gyhoeddus. Yr ydoedd yn gofiadur arbennig, fel y dengys y sylwadau a gymerwyd gan Mr. Francis Jones o'i enau. Nid yw'r sylwadau hynny ond lled fyrion, ond y maent yn neilltuol o fanwl a chryno yn y geiriad, a chydag amseriadau manwl-gywir. Ac wrth eu bod yn myned ymhellach yn ol nag atgofion neb arall yn hanes yr eglwys, y mae gwerth arbennig arnynt mor bell ag y maent yn cyrraedd. Ei wybodaeth yn fawr, er fod ei lyfrgell yn fechan. Y Beibl, Geiriadur Charles ac ychydig esboniadau oedd cynnwys ei lyfrgell agos i gyd. Byddai'r eglwys yn dyheu am ei glywed yn siarad. Ei fywyd yn llwyr-gytun a'i brofiadau. Bu farw Rhagfyr 2, 1878.

Gwr o ddawn ydoedd Morgan Jones Hafod oleu. Anfynych y clywodd Mr. Francis Jones ei ragorach, fel yr arfera ddweyd, mewn gallu ar ymadrodd ac o ran deheurwydd fel siaradwr. Daeth at grefydd yn niwygiad 1832. Dewiswyd ef yn flaenor yn 1848. Yn wr cymeradwy yn y Cyfarfod Misol a'r Cyfarfod Ysgolion. Yn fwy cyhoeddus fel blaenor ym mhob cylch na'r un arall o flaenoriaid yr eglwys yn ei gyfnod. Yr ydoedd felly yn y cyfarfod llenyddol, ac, ar un adeg, yn y cyfarfod dirwestol, cystal a chyfarfodydd mwy neilltuol yr eglwys. Efe yn bennaf a wasanaethai mewn cynhebryngau. Holwr ysgol campus. Edrydd Mrs. Jane Williams Pant defaid y codai o'i sêt, gan roi pennill allan, a chyn ei ganu, dechre holi arno, gan ennyn chwilfrydedd yr ysgol. Ar dro y digwyddodd hynny. Yn ddarllenwr o'i ieuenctid, ac yn ysgrythyrwr da. A dawn iraidd, rwydd, ystwyth, swynol ymhob cyflawniad cyhoeddus. Byddai lliaws yn wylo yn fynych wrth ei lais melodaidd mewn gweddi. Cyhoeddwr dawnus, clir. Y ddawn i arwain ynddo yn gynhenid. Fel stiwart yn chwarel Cefndu am 30 mlynedd, fe'i cyfrifid yn wr caredig, hywaeth. Cefnder i Griffith Jones Tregarth. Byddai weithiau yn rhyw gaffio am arabedd ei hun, ond yn wahanol i'w gefnder yn hynny, yn amlach yn cael cam gwag nag yn sangu ar dir caled. Yr ydoedd yn gefnder hefyd i Owen Morgan y blaenor. Eithr o gyneddfau yn hytrach yn gyferbyniol iddo yntau, gan fod y naill yn ymadroddus a'r llall yn dawedog. Mwy o falasarn, hefyd, yn Owen Morgan ar gyfer dydd tymhestlog. Yr ydoedd Morgan Jones yn gynllunydd yn yr eglwys, a medrai weithio ei gynlluniau allan. Medru goddef geiriau bryntion, a thywallt olew ar ddyfroedd cythryblus. Yn cyfarfod ymosodiadau disymwth yn dawel, a chyda thymer ddisgybledig. Yn ddyn caredig, agos at bawb. Yn dyner, er yn grâff. "Wna'i mo'ch canmol chwi rhag i chwi ymfalchio; wna'i mo'ch beirniadu chwi rhag i chwi dorri eich calon," ebe fe wrth ymgeisydd ieuanc am y weinidogaeth. Rhoes amser ac arian yn rhwydd i wasanaethu'r achos. Y mae Pierce Williams yn ei gyferbynu â Richard Owen, ac yn rhoi bywiogrwydd, gwres ac eangder gwybodaeth ymhlaid Morgan Jones yn fwy, tra yn rhoi hunanlywodraeth a golygiad cyffredinol dros anghenion yr eglwys ymhlaid Richard Owen yn fwy. Richard Owen yn fwy yn ei farn ef o ran cydgrynhoad yr holl nodweddion angenrheidiol. Y naill a'r llall, er hynny, yn enghreifftiau da o'r cydgrynhoad hwnnw. Llestri hardd ydoedd y naill a'r llall, er nad yw eu coffadwriaeth yn rhoi sain cwbl gynghaneddol pan darewir hwy yn swta â migymnau'r llaw. O'i gyferbynu â William Jones drachefn, fe arferai Morgan Jones fwy ar ei ddylanwad, yr oedd yn naturiol yn fwy o arweinydd cyhoeddus, ac yr oedd ganddo fwy o ddawn swynol. Oblegid y pethau hyn y dywed Mr. Evan Evans mai Morgan Jones oedd "haul y Waen" yn ei amser. Bu farw Chwefror 20, 1878, yn 67 oed. Pregethodd Mr. Francis Jones y nos Sul dilynol mewn coffadwriaeth ohono oddiar Mathew xxv. 13. (Goleuad, 1879, Mawrth 8, t. 13).

Yn Nhachwedd 1880, wedi i Eglwys Loegr werthu ei hawl yn yr ysgoldy genhedlaethol, cymerwyd y lle ar ardreth, a chynelid ysgol Sul yno, a phregeth bob mis.

Yn 1881 dewiswyd yn flaenoriaid: Owen Griffith, Owen Evans a Thomas Jones. Ymadawodd y blaenaf i Lanberis yn 1890, a'r olaf i Groesywaen ar sefydliad yr eglwys yno.

Medi 20, 1882, y dechreuodd J. J. Evans bregethu. Derbyniodd alwad i Lanfachreth yn 1889.

Cafwyd cyfres o gyfarfodydd gweddi a phregethau yn 1882, pryd yr ymunodd dros 80 â'r eglwys, ac y codwyd y rhif i 400. Bu Richard Owen yma yn 1884, ac, heb i lawer ddod o'r newydd, fe fu ei ymweliad â'r ardaloedd hyn yn adnewyddiad i'r eglwysi.

Hydref, 1883, yr ymadawodd Mr. Francis Jones i Abergele, wedi bod yma am naw mlynedd. Rhowd galwad i'r Parch. W. Ryle Davies, Mawrth 21, 1884. Dechre ar ei waith yma, Ebrill 1.

Bu farw Evan Owen, Medi 29, 1884, yn 71 oed, ac yn flaenor er 1875. Dyn mawr, cyhyrog. Ffyddlon iawn, heb ragoriaeth doniau. Bu ei wasanaeth yno gyda'r ysgol yn dra gwerthfawr. Ei ddidwylledd uwchlaw ei ameu.

Owen Jones y crydd oedd y cynllunydd goreu a gofid gan Dafydd Thomas. Nid yn ymadroddwr hyawdl. Ni fu'n flaenor; er hynny yn blaenori pawb gyda phob symudiad. Syn gan Richard Jones na etholwyd mono yn flaenor, gan ei fod yn hynod fel dyn a christion, ac yn llawn cymhwysterau er bod yn ddefnyddiol mewn byd ac eglwys. Ni chuddiodd mo'i dalentau chwaith, ond yr oedd fel lamp yn llosgi yn ddisglair. Disgrifir ef ymhellach gan Richard Jones fel yr ydoedd y pryd yr adnabu efe ef gyntaf. Tua chanol oed y pryd hwnnw, ac wedi colli ei wallt oddiar y coryn, a'r cernflew yn britho. Ychydig o dan y taldra cyffredin, gyda thalcen llydan a llawn, bochgernau lled uchel, llygaid canolig eu maint, trwyn byrr lluniaidd, gwefusau llawn. Tawel, boneddigaidd, hunanfeddiannol. Un goes ddiffrwyth, ac yn cerdded gyda ffynn bagl. Bob pnawn Mercher, darllennai Richard Jones yr Amserau iddo yn ei weithdy, yr unig un hyd y gŵyr ef, a dderbyniai newyddiadur yn yr ardal. Pan fyddai rhyw garreg afael mewn erthygl, fe gymerai Owen Jones seibiant i'w hystyried, a dodai saig ffres of dybaco ynghil ei foch, lledgamai ei ben, a gwnae lygaid main drwy'r ffenestr ar lechwedd y Cyrnant gyferbyn. Wedi cael boddlonrwydd meddwl, ail ymeflid yn yr edau grydd, a thynnid hi drwy'r tyllau gydag egni adnewyddol. Tlawd ei amgylchiadau, gyda theulu lliosog. Yn agored i lewygfeydd. Yn galonnog a phenderfynol drwy'r cwbl. Yn cyfrannu at yr achos gyda'r goreu. Sian Jones ei briod yn gynllunydd ddihafal yn ei thŷ, a chafodd yntau dipyn o hamdden oddiwrth drafferthion yn niwedd oes. Yn anibynnol ei feddwl ac yn eofn i'w ddweyd. Nid oedd teimlad mor amlwg ynddo a llawer. Yn wr pwyllog, yn adnabod y natur ddynol, yn cydymdeimlo âg ieuenctid. Yn gydbwys ei alluoedd a'i gymeriad. Pam na wnawd mono yn flaenor? Mab iddo ef ydyw Mr. E. O. Jones, ac ŵyr iddo ydyw Mr. O. H. Jones (Llan- ilar). Bu farw Mehefin 9, 1884, yn 82 oed.

Blaenor ymroddedig a duwiol ydoedd Samuel Morgan, ebe cofnod y Cyfarfod Misol. Brawd Owen Morgan, a gwr tawel fel yntau. Yn siaradwr eithaf rhwydd, a chysondeb yn ei feddyliau. Ofn mawr bod yn dramgwydd i eraill. Yn flaenor ers 1861. Y mae'r nodiad yma am dano gan Ryle Davies: "Dechreuodd ei grefydd gyda 'glyn cysgod angeu,' sef pregeth gan y diweddar Barch. D. Jones Treborth ar y testyn. Darlunid y glyn fel nant ddofn, gul, dywyll, yn llawn o fwystfilod rheibus ar bob llaw. Wrth wrando'r darluniad byw, teimlai Samuel Morgan ei enaid yn myned i lawr drwy'r glyn dychrynllyd ynghanol ofnau mawrion; ond pan ar ymollwng ynghanol yr ofnau, clywai lais ymlaen yn gweiddi yn uchel, 'Mi fyddaf fi yn Dduw iti.' Pan y clywodd y geiriau hyn collodd ei holl ofnau ar unwaith. Ymunodd â chrefydd, ac erbyn hyn dyma ef wedi dyfod i'r glyn yn llythrennol. Ond y mae yn gallu dweyd yn orfoleddus fod Iesu Grist wedi ymlid ymaith yr holl fwystfilod rheibus." (Cofiant, t. 100). Bu farw yn nechre 1885 yn 70 oed.

Sefydlwyd cangen-eglwys Croesywaen yn 1886. Aeth dros 120 o'r aelodau oddiyma yno. Eglwys y Waen yn 500 o aelodau yn niwedd 1885. Yn niwedd y flwyddyn yr ymadawodd W. Ryle Davies, gan dderbyn galwad o eglwys Holloway, Llundain. Danghosodd ynni a brwdfrydedd mewn hyfforddi dynion ieuainc yma, a gadawodd ei ol yn amlwg ar amryw ohonynt. Cafodd rai odfeuon nodedig yma.

Yn 1886 yr agorwyd ysgoldy y Groeslon, er mwyn cynnal yno y moddion a gynhelid yn yr ysgoldy genhedlaethol gynt, sef ysgol ar bnawn Sul a phregeth bob mis. Y tir yn rhodd gan Mr. William Williams Groeslon. Rhowd y bregeth agoriadol Rhagfyr 2, yn y pnawn, gan Mr. Ryle Davies.

Yn 1887 y dewiswyd Evan Evans a John W. Thomas yn flaenoriaid.

Ebrill 27, 1890, rhowd galwad i Mr. W. O. Jones, B.A. Ymadawodd cyn diwedd 1892, gan dderbyn galwad i Chatham Street, Lerpwl.

Cyfeiriwyd o'r blaen at Evan Owen a'i lyfr, Fy hanes fy hun. Bu ef yn trigiannu mewn amryw fannau yn Arfon, a chyfeirir ato rai troion ynglyn â hanes gwahanol eglwysi yn y gwaith hwn. Bu yn y Waen ar ddau dymor. Hen gymeriad agored, difyr, cywir. Yn ei Ragdraith i'r Hanes y mae Alafon yn ei ddisgrifio fel "cyfuniad i raddau o Tomos Bartley a Wil Bryan; o ran helbulon a gwaredigaethau, yr oedd yn tebygu i Robinson Crusoe ac i Bererin Bunyan." Robinson Crusoe wedi treulio ei oes ar dir sych, dealler. Y mae'r hunangofiant byrr hwn yn un gwir lwyddiannus. Engraifft deg ydyw o'r dull byw o ysgrifennu a welir weithiau heb un ymgais at hynny. Terry Evan Owen ar y pethau sydd eisieu eu dweyd, yn lle troi a throsi o'u hamgylch heb unwaith fyned atynt, yn null lliaws y tybir ganddynt eu hunain eu bod yn amgen ysgrifenwyr nag ef. Bu farw yn Abertawe, Medi 10, 1891, yn 84 oed; ond claddwyd ef ym mynwent Betws Garmon.

Tachwedd 20, 1891, y bu farw Pierce Williams, yn 61 oed, sef y gwr y dyfynnwyd mor fynych o'i ysgriflyfr ynghorff hanes yr eglwys yma. Yn flaenor ers 1861. Yr arweinydd yn yr ardal mewn helyntion plwyfol, gwleidyddol a chrefyddol. Cadeirydd y Bwrdd Ysgol. Fel goruchwyliwr chwarel enillodd ymddiried meistri a gweithwyr. Ar ol Morgan Jones, efe ydoedd pen blaenor yr eglwys. Athraw rhagorol gyda dosbarth pnawn Sul a noson waith. Disgrifir ef gan un o'i hen ddisgyblion fel athraw call, treiddgar, â ffordd ganddo o'i eiddo'i hun o holi ar yr atebion a gawsai, gan aros ar yr un adnod weithiau am Suliau bwygilydd. Medru deffro meddylgarwch yn eraill. Cerddor gwych. Bu yn arweinydd y cor ac yn arweinydd y canu cynulleidfaol am dymor maith. Meddai ar gryn wybodaeth gyffredinol. Efrydodd ddaeareg am flynyddoedd. Pwyll a challineb yn dod i'r golwg ynddo mewn amgylchiadau dyrus yn yr eglwys. O ysbryd nwyfus, ac yn fyw i'r digrifol. Mawr fwynhae gyfeillach a sgwrs Fy hanes fy hun. Fe gymerth lawer o drafferth i grynhoi ynghyd yr hanes a geir yn ei ysgriflyfr, ac y mae'r hanes hwnnw, fel y gwelwyd, yn ffrwyth sylwadaeth a chraffter. Y mae'r eglwys ei hun, yn neilltuol, yn ddyledus iddo am ei drafferth honno. Dengys yr ysgriflyfr ddawn i ysgrifennu yn rhwydd a threfnus a chywir. Cymerth drafferth i gael amseriadau cywir, pethau na thrafferthir i'w cael o gwbl gan liaws, heb sôn am eu cael yn gywir. A chymerth drafferth i gyfleu'r pethau. mewn modd llawn a chywir, hynny hefyd yn beth na cheir yn rhy aml. Y mae syniad uchel am dano yn aros o hyd yn yr ardal, fel gwr o allu a medr a defnyddioldeb. Bydd Mr. Francis Jones yn ei gymharu â Morgan Jones, gan roi 'r ragoriaeth i Pierce Williams o ran eangder a nerth meddwl, ac eangder cylch ei ddarllen; ar ragoriaeth fel siaradwr i Morgan Jones. Yn yr hwyr wedi'r cynhebrwng, traddodwyd pregeth goffadwriaethol gan Dr. Hughes, oddiar Datguddiad xiv. 13: "Ac mi a glywais lef o'r nef yn dywedyd wrthyf, Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd o hyn allan, medd yr Ysbryd, fel y gorffwysont oddiwrth eu llafur, a'u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt." (Goleuad, 1891, Rhagfyr 3, t. 9).

Yn 1892 dewiswyd yn flaenoriaid, William Griffith, T. E. Jones a R. Owen. Mai 11 y dechreuodd R. R. Jones bregethu. Yn 1899 ymadawodd i Lwyneinion ger y Bala.

Ebrill 2, 1893, rhowd galwad i Mr. Lewis Williams. Daeth yma o eglwys Siloh, Aberystwyth. Ebrill 12, dechreuodd W. Vaughan Jones bregethu; Mehefin 27, 1894, dechreuodd Thomas J. Jones; Mehefin 29, 1899, dechreuodd T. Llewelyn Thomas.

Profwyd gradd o adfywiad yn ystod 1894. Dechreuwyd teimlo rhyw ysbryd newydd yng nghyfarfod gweddi'r bobl ieuainc. Ymhen amser cafwyd wythnos o gyfarfodydd gweddi, ac yna wythnos o bregethau. Cafwyd cyfarfod eglwysig i groesawu 20 o ddychweledigion yn nechre Tachwedd. (Goleuad, 1894, Tach. 7, t. 6).

Yn 1897 talwyd y gweddill o'r ddyled ar yr adeiladau, sef £172. Yn 1898 chwalwyd i lawr yr hen ysgoldy a'r tŷ capel, a gwnawd rhai newydd. Traul, dros £1400.

Arferid cynnal yr ysgol Sul yn y capel hyd 1862, pryd y symudwyd y plant i'r hen ysgoldy, hyd ar ol helaethu'r capel yn 1863. Yna cadwyd ysgol y plant ar y llawr a'r rhai mewn oedran yn y llofft. Yn 1877 symudwyd y plant drachefn i'r hen ysgoldy, ac ar wahan y maent er hynny. Adeiladu ysgoldy Penrallt, 1864, a'r Groeslon, 1886. Cychwyn cangen-ysgol yn yr hen ysgoldy genhedlaethol, 1880 (Croesywaen wedi hynny); ym mhlas Glanrafon 1883, yr hon gynhaliwyd am rai blynyddoedd. Bu ysgol yn y Wredog isaf yn ymyl yma am ystod o amser yn lled gynnar yn y ganrif o'r blaen. Owen Jones y siop oedd arolygwr yr ysgol yn amser Richard Jones. Bywiog, gweithgar ac effro ydoedd ef. Symudwyd Richard Jones o ddosbarth y plant i ddosbarth Dafydd Thomas y Tai isaf, sef dosbarth o fechgyn o 12 i 18 oed. Y Dafydd Thomas yma ydoedd ysgrifennydd yr ysgriflyfr y dyfynnwyd gynifer o weithiau ohono. Cafodd Richard ieuanc hyfforddiant trwyadl ac effeithiol mewn hanesiaeth ysgrythyrol yn y dosbarth hwnnw. Cau y Beiblau y deng munud olaf, a holi drachefn ar yr hyn yr aethpwyd drosto o'r blaen, cynllun a gymhellir gan Richard Jones i sylw eraill. Dyma adroddiad ymwelwyr y Canmlwyddiant: "Tachwedd 8, 1885. Waenfawr. Nifer yn bresennol, 130. Cerir y gweithrediadau ymlaen mewn tawelwch, oblegid fod ysgol y plant dan bedair arddeg oed ar wahan. Y dosbarth rhagoraf mewn darllenyddiaeth yn yr holl gylch ydoedd dosbarth o ferched ieuainc a welsom yma. Cyffredin a difywyd oedd yr atebion yn rhai o'r dosbarthiadau canol. Mewn un dosbarth o fechgyn ni thelid nemor sylw i orffwysfan, pwyslais, oslef na theimlad. Ymunodd yr ysgol mewn siant, yn cael eu cynorthwyo gan offeryn, mewn modd swynol iawn. Cymerir gryn drafferth yn yr ysgol hon gyda chwestiynau gwobrwyol y Cyfarfod Misol a'r Cyfarfod Ysgolion, a saif yr ymgeiswyr yn gyffredin yn anrhydeddus ar y rhestr. Tachwedd 1. Ysgol y Plant. Nifer yn bresenol, 135. Un o'r ysgolion rhagoraf yn y dosbarth. Trefn dda a disgyblaeth gampus. Popeth yn gweithio fel peirianwaith, a'r athrawon fel yn cael pleser yn y gwaith. Canu rhagorol. Pe rhennid rhai o'r dosbarthiadau ieuengaf, fe fyddai'r ysgol hon yn gynllun perffaith o drefniant addysgol. Y plant lleiaf yn dysgu'r A B fel dysgu cân heb adnabod y llythrennau. Dylesid newid y dull hwnnw. Hydref 25. Penrallt. Ffyddlondeb mewn man anghysbell. Y dosbarthiadau ieuengaf yn darllen yn bur wallus. Ymgais i'w gwella. Cyfarfod darllen gyda'r plant yn ystod yr wythnos. Atebion cyffredin yn y dosbarthiadau hynaf, a'r gwersi yn ddieithr iddynt. Dosbarth o rai mewn oed yn dysgu darllen. Wedi esgeuluso hynny pan yn ieuanc, ond yn meistroli eu tasg. Cedwir cyfrif o bresenoldeb pob aelod ar wahan. Hydref 18. Croesywaen. Nifer yn bresennol, 117. Ysgol ragorol, yn cael ei chario ymlaen yn ddoeth ac yn drefnus. Dosbarthiadau o rai o 10 i 13 yn rhy fawr. Bychander yr adeilad yw'r achos. Nid oes dosbarth athrawon ynglŷn â'r ysgol. Ymgais dda i ddarllen; gwybodaeth ysgrythyrol ganmoladwy; ond byddai mwy o bara- toad yn fanteisiol. Y'llafur' yn yr holl ysgol allan o faes neilltuol wedi ef nodi yn flaenorol. D. Davies (Tremlyn). W. Gwenlyn Evans."

Wmphra Thomas oedd yr arweinydd canu cyntaf y mae dim cyfeiriad ato, a thebyg ei fod ef yn cyflawni ei swydd yn Nhŷucha'r-ffordd. Dafydd Hughes Pendas wedi hynny. Bu ef farw yn 1814. Thomas Williams Tŷ cwta ydoedd y dechreuydd canu cyntaf a gofid gan Dafydd Thomas, ac felly, mae'n eithaf tebyg, olynydd Dafydd Hughes. Y nesaf Wmphra William, brawd ei ragflaenydd. "Rhuo fel tarw," ebe Dafydd Thomas. Tebyg yn eu dull oedd y ddau frawd, ebe un cofiannydd. Disgrifir Wmphra William ganddo ef fel dyn dros ddwy lath o daldra. Gwr parod ei atebion. Ynghongl y sêt fawr y dechreuai'r canu. Cau ei lygaid wrth ganu, ac ysgwyd ei ben yn fawr. Siwr o'r dôn. Llais tenor uchel a chlir a da. Y mae yna ddisgrifiad arall eto o Wmphra William fel canwr, sef eiddo Richard Jones. Daw nid ychydig of bethau eraill i'r golwg o'r cyfnod hwnnw, heblaw y canu, yngoleu y disgrifiadau hyn. Henwr tal, trwm, corffol, ebe Richard Jones. Ar ol rhoi'r emyn allan, ebwch anaturiol. Ymsaethai y llais i fyny i'r entrych, ac yno yn cwafrio am ennyd mor ddireol ag ystranciau barcutan bapur. Ceisio dod o hyd i'r cyweirnod y byddid yn ystod y troadau rhyfedd hyn, ac yna wedi ei gael dechreuai'r gynulleidfa ymuno. Ystumiau anaturiol Wmphra William ar ei wyneb yn debycach i ddyn yn crio nag i ddyn yn canu. Os byddai dieithriaid yno, Richard ieuanc yn gobeithio'r anwyl na cheid ddim seiat y noson honno, er mwyn i'r côr gael cyfle i ddal anrhydedd cerddorol y Waen i fyny yn eu golwg. Addefa Richard Jones na wyddai neb yn y Waen y pryd hwnnw cystal ag Wmphra William pa fodd i ddod o hyd i'r cyweirnod. Yna William Davies, gyda rhyw lais main, fel llais merch, ebe Dafydd Thomas. Yn 1860 y bu Wmphra William farw. Y pryd hwnnw y dewiswyd Pierce Williams, Morgan Jones a Moses Roberts: yr olaf yn absen y lleill. Yr adeg yma y dechreuwyd ymroi o ddifrif i ganiadaeth. Rhoes lliaws o wŷr ieuainc eu bryd ar hynny, fel y daeth canu y Waen yn y man yn enwog drwy Gymru. Pierce Williams, heb feddu ar ragoriaeth anarferol mewn llais, oedd sicr o'i nôd bob amser. Yn rhagori ar bawb a glywodd Mr. J. W. Thomas am dôn ar gyfer pob rhywogaeth o bennill roid allan, a rhoid allan y pryd hwnnw, weithiau, benillion na chlywsid o'r blaen, a phenillion go ddireol. Ond boed y pennill y peth y bo, byddai Pierce Williams yn gywir ddifeth gyda'r dôn. Enwir Thomas Jones Llys Elen ac Owen Griffith (Eryr Eryri) yn arbennig fel rhai a lafuriasant gyda chaniadaeth. Yr oedd Owen Griffith yn gyfansoddwr tonau, a rhoddai fynegiant ardderchog fel arweinydd i ambell bennill. Bu côr y Waen yn wasanaethgar iawn yng nghymanfaoedd yr ysgol Sul a dirwest ar un adeg, o dan ei arweiniad ef. Tuag 1878 y dygwyd yr offeryn i'r addoliad. Yr arweinydd ers 1890 ydyw Mr. J. W. Thomas. Y canu, bellach, o nodwedd uwchraddol, yn arbennig ar y prydiau hynny pan fo hwyliau'r arweinydd yn cael eu bolio allan gan yr awelon. Anibynwr ydoedd Richard Owen Pritchard, a ymfudodd i'r America rai blynyddoedd, hwyrach, yn ddiweddarach nag 1861. Bu iddo ef ddylanwad arbennig ar ganiadaeth yr ardal.

Yr hen bobl with holi profiad, ebe Pierce Williams, yn ceisio olrhain meddyliau a bwriadau'r galon. Rhoid cwestiwn go blentynaidd ar dro. Rhydd Pierce Williams fel engraifft,—"A fuaset ti yn leicio cael crefydd ?" Cododd un brawd ar ei draed yn y man, cerddodd at y sêt fawr, a gwnaeth ei apel at y blaenoriaid, pa beth a feddylid ganddynt yn eu gwahodd yno,—hwy oedd wedi bod yn gweithio yn galed drwy'r dydd yn y chwarel,—ac heb ddarparu yn well na hynny ar eu cyfer. Beth oedd rhyw gwestiwn plentynaidd, neu waeth na phlentynaidd, fel, "A fuaset ti yn leicio cael crefydd ?" yn dda? "Beth fuasechi yn ddisgwyl fel ateb ond, 'Buaswn.' Pe buasechi yn gofyn y cwestiwn i'r cythraul ei hun, tebyg mai 'Buaswn' fuasai ei ateb yntau." Fel mai rhaid ydoedd wrth ofal yr adeg honno wrth ymlwybro ymlaen. Holid yn llym wrth dderbyn i aelodaeth. Eithr os byddai'r ym— geisydd yn gwisgo yn o blaen, ac heb ddilyn yr arfer newydd. gyda'r gwallt, elai hynny ymhell iawn o'i blaid. Ond gyda phob cyfyngdra yn y dull, ceid yn fynych wlith bendith ar y cyfarfodydd.

Disgyblaeth lem oedd yr arfer. Hen wr parchus,—ef a'i deulu ymhlith y rhai mwyaf eu dylanwad yn y lle—wedi cymeryd un gwydraid o gwrw ar dro. Diarddelwyd ef. Chwerwodd y teulu. Daeth yr hen wr i'r seiat yn ol cyn bo hir. Eithr fe ddarfu'r amgylchiad ddifetha ei ddylanwad fel crefyddwr am weddill ei oes. Geneth dlawd wedi cael gŵn sidan wedi ei droi heibio. Ei rhybuddio na thalai y cyfryw ffardial mo'r tro yno. Ei wisgo a wnaeth yr eneth, er hynny, am nad oedd ganddi yr un arall, a chafodd lonydd. Yr eneth yn cael un o'r hen foneti mawr ar dro arall, a hwnnw yn drwmlwythog o flodau a dail amryliw. Yr hen flaenor, —yr un un ydoedd—wedi ei gynhyrfu y tro hwnnw i'r gwaelod isaf, nes colli ei limpin yn lân. Ni ddywedir ddarfod diarddel yr eneth y troion hyn, namyn ei cheryddu yn dost anaele.

Blinid y saint, hefyd, ar brydiau gan ymrafaelion. Llusgwyd Cadi Beca allan o'r seiat aml waith, am na fynnai hi fyned heb ei llusgo. Er ei llusgo allan, byddai Cadi yn ol y seiat nesaf, neu'r nesaf at honno. Cadi Beca ydoedd ei henw y tuallan i'r seiat, ond Catrin William y gelwid hi oddifewn, o achos mai William Dafydd oedd ei thad. Wrth godi yn ei le un tro, ebe'r pen blaenor, "Mi welaf Catrin William yma heno. 'Dwyti ddim ffit i fod yma, ac am hynny, dos allan!" Eithr nid mor rhwydd a hynny y ceid gwared o Gatrin. A bu yno beth ymgecraeth. Richard Jones a sonia am dani fel Catrin Ty'n drwfwl. "Llarpen o fenyw drom, ferr a chethin yr olwg arni." Ymladd a chweryla oedd y pechod parod i amgylchu Cadi, a gallai arfer ei dyrnau gyda deheurwydd ac effeithioldeb. Un tro, yn y seiat, wedi i'r ddedfryd fyned i'w herbyn, hi a gododd ar ei thraed, a heriodd un o'r blaenoriaid wrth ei enw, os ydoedd ei hun yn ddibechod, am fyned ag agor y drws iddi. Byddid mewn penbleth weithiau i wybod pa beth a wneid â hi. Gadawodd Cadi yr ardal ymhen amser, a'r wlad a gafas lonydd. Er hynny, hi lynodd yn ddewr wrth grefydd i'r diwedd. A thebygir, wedi'r cwbl, nad ydoedd mor ddrwg ei chalon.

Y mae Dafydd Thomas yn sôn am weddïwyr hynod a glywodd yma. Fe ddywed y cyfrifid Owen Salmon, brawd Griffith Solomon, gan Owen Williams, awdur y Geirlyfr, yn un o'r rhai goreu a glywodd efe erioed fel gweddiwr. Cyfrifai Dafydd Thomas ei hun William Thomas Brynmelyn yn un o'r rhai mwyaf cynwysfawr, er fod eraill mwy gwlithog. "Dynion heb allu darllen ond yn bur garbwl, megys John Williams Dwr oer, William Owen Gwredog, William Jones y crydd, Roger Williams a Robert Rolant,—yn hollol anllythrennog, ac heb eu hystyried yn llawn mor llachar a'r cyffredin mewn pethau eraill, ond yn feistriaid y gynulleidfa pan ar eu gliniau, ac yn gallu hoelio clust pawb wrth eu lleferydd." Dywed Mr. Owen Jones (yr Eryri) mai Richard Griffith, a ymfudodd i'r America pan tua 30 oed, oedd un o'r rhai hynotaf mewn dawn gweddi a glywodd efe erioed.

Sonir am rai brodyr a chwiorydd go hynod heblaw y rhai a nodwyd. Enwyd Dafydd Hughes y Bendas fel dechreuwr canu. Daeth at grefydd yn fore a pharhaodd hyd yn hwyr. Dywed John Owen y byddai ganddo sylwadau hynod. Edrydd un: "Mae cychod y Borth yna yn cario pob rhyw beth, môch a phopeth. Ond ni wna cychod y plasau yna mo hynny, ac y mae rhyw arogl da yn dod ohonyn nhw. Ac felly y gwelwchi rai dynion yn foddlon i dderbyn a chario popeth, ond ni wna'r duwiol mo hynny." John Ellis Tŷ—ucha'r—ffordd oedd hen gristion da, diniwed. Ei hoff adnod ar weddi, "Os gallant ymbalfalu am dano a'i gael ef." A gwaeddai "Gogoniant" ar brydiau wrth ei choffhau. Evan Dafydd Llys y gwynt oedd hen wr parod, hoew, o dymherau bywiog, heb nemor allu. Pan glywai rai yn tueddu at brofiad uchel, ei air fyddai, "Cadw amat rhag anghofio'r Arglwydd dy Dduw"; a phan glywai rai yn tueddu at ddigalondid, "Cofia dy air wrth dy was, yn yr hwn y peraist iddo obeithio." Owen Salmon, brawd y Parch. Griffith Solomon, a thad Richard Owen Bryneithin, y blaenor, a fu fyw i oedran teg, gan wella yn ei grefydd o hyd. O feddwl cryf a barn addfed. Sonir am "William Morgan ieuanc, nefolaidd ei ysbryd, yr hwn a fachludodd ynghanol ei ddisgleirdeb." (Drysorfa, 1852, t. 205). Sonia Mr. Thomas Jones Tŷ capel am Owen Ellis ac Ellis Roberts, meibion Griffith Ellis Cil haul. Yr oedd William Ellis, yn enwedig, â rhywbeth nodedig iawn ynddo. Ysgubwyd hwy i mewn i'r eglwys gan donn diwygiad 1859. Daeth i'r golwg yn Owen yn union ddawn nefolaidd. Yr oedd swyn yn ei lais: yr ydoedd yn felodaidd ac yn fwyn. A chlywid yn ei weddiau syniadau anarferol. Ni oerodd ei gariad cyntaf, a bu farw yn fuan wedi i donn y diwygiad gilio yn ol. Ellis Roberts oedd ganwr carolau. Dyna un—"Er cofio'r dydd ganwyd ein Ceidwad mewn pryd." Ond ei hoff garol oedd "Carol y blwch." Diweddai pob pennill ohono gyda'r llinell—"Rhoi blwch aur Nadolig yn Glennig i'r da." Cenid carolau y pryd hwnnw ar nosweithiau'r Suliau o flaen ac ar ol y Nadolig. Drwy gelfyddyd Noah y trowyd cywion y gigfran yn golomennod hawddgar. John, brawd Pierce Williams, ebe Mr. Thomas Jones, oedd yn tebygu i Owen Ellis yn ei ddawn gweddi. Dechreuai Evan Jones Llys y gwynt, tad Mr. Thomas Jones, gyfrif ei oed o'r diwygiad yn 1859. Gofynnai am gael ei dderbyn fel bachgen 21 oed i'r cyfarfod gweddi bechgyn ieuainc fore Sul. Dilyn pob cyfarfod gweddi yn ddifeth ar ol hynny.

Rhai merched go neilltuol hefyd. Soniwyd am Malan Thomas o'r blaen. Martha Gruffydd, gwraig John Ellis, a feddai fwy o wybodaeth na'r cyffredin. Mam yn Israel. Gwraig synhwyrol a chrefyddol ydoedd Pegi Richard yr hen siop. Yr oedd Pegi Salmon, gwraig Evan Dafydd, a chwaer Griffith ac Owen Salmon; Pegi Jones, gwraig William Owen; ac Elin Williams Tŷ hen, i gyd yn wragedd a gair da iddynt gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun, ebe John Owen, yr hwn a gyfeiria atynt yn y dull byrr yma. Dyma sylwadau o eiddo Mr. R. O. Jones am ferched oedd yma o fewn ei gof ef ei hun: "Y fwyaf nodedig oedd Modlan, neu Magdalen Jones, priod Owen Jones y Siop, ac wedi hyny, Capten Pritchard. o Gaernarvon. Merch ydoedd hi i Robert Jones Rhoslan. Meddai brofiadau a theimladau crefyddol uchel, a byddai'n fynych mewn hwyl nefolaidd yn rhoi datganiad i'w chariad ar y Gwaredwr. Ymroddai i ddysgu a hyfforddi plant yr ardal yn y Beibl. Cynhaliai gyfarfodydd i holi'r plant yn hanes gwroniaid yr Hen Destament, weithiau yn ei thŷ neu dai cymdogion, neu yn yr awyr agored, weithiau yn y capel neu ysgoldy Penrallt. Byddai wrth ei bodd ynghanol twrr o blant, yn eu hyfforddi yn hanesion yr Hen Destament ac yn hanes y Gwaredwr. Hawdd iawn fyddai gan fechgyn ieuainc dyrru at ei gilydd ar y Sul i Bont y Cyrnant, a llawer gwaith y gwelwyd Modlan yn myned i'w canol i ddarllen rhannau o'r Beibl ac i'w cynghori. Hefyd, yr oedd yn llenores pur dda. Cyhoeddodd rai llyfrau bychain, addysgiadol, megys Rhodd Nain ac eraill. Bu farw yn 1895. [Lled hawdd ei thramgwyddo ydoedd, a chynhaliai gyfarfodydd o'i heiddo ei hun yn ei thŷ ei hunan, pan wedi digio wrth awdurdodau y capel. Yng nghyfarfodydd y merched, a gynhelid y pryd hwnnw, hi roddai fawr bwys ar addurniadau mewn gwisg fel arwyddion o falchter ysbrydol.] Un hynod iawn, hefyd, oedd Ruth Williams, mam Mr. D. P. Williams, Y.H., Ei hynodrwydd hi oedd tanbeidrwydd teimlad mewn canmol trefn cadwedigaeth. Nid oedd yn yr holl wlad ei gwell am orfoleddu. Nid yn unig moliannai â'i thafod, ond byddai'n neidio ac yn dawnsio yn ei sêt ac ar lawr y capel, a llawer gwaith y parhaodd i orfoleddu ar hyd y ffordd tuag adref o'r capel. [Yr ydoedd un tro, ebe Mr. Thomas Jones, wedi plygu y cwd blawd a'i ddodi dan ei het silc fawr, er mwyn ei gadw allan o'r golwg yn y gwasanaeth. Eithr hi anghofiodd am y cwd blawd pan ddechreuodd orfoleddu, ac aeth yr het i gantio y naill ochr, nes bod y blawd yn colli dros ei dillad. Byddai'n gorfoleddu law yn llaw â phobl wrth gerdded allan drwy'r capel. Ymadrodd a geid yn fynych ganddi, fel gyda mam Carlyle, oedd "gwreiddyn y mater." "A yw gwreiddyn y mater gen ti?" Gyda'r teimlad uchel hwn, nid oedd heb graffter i adnabod yr ysbrydion. Ceisiai gweinidog ieuanc unwaith ei thynnu allan, pan ar ymweliad â hi yn ei thŷ, er mwyn cael arddanghosiad o deimlad uchel, debygid. Yr ydoedd hi y pryd hwnnw dros 90 oed. Atebai hithau yn eithaf claiar, nad allai pobl ieuainc ddim myned i mewn i brofiad yr hen yn y cyfryw bethau.] Margaret Pritchard, (Pegi Richard John Owen yn ddiau), mam Richard Jones, awdwr yr erthygl yn y Traethodydd, a edrychid arni fel un o'r gwragedd mwyaf llednais a duwiol yn yr ardal. Barbara Pritchard oedd nodedig am ei gallu a'i dawn i weddio, a'i chwaer ieuangach, Sian Pritchard, oedd yn byw beunydd yn y Beibl. Merched yr hen flaenor, Richard Owen, oedd y ddwy olaf. Cynhelid cyfarfod gweddi y merched yn rheolaidd am lawer o flynyddoedd. Arferai'r gwragedd wisgo cap gwyn wedi ei gwilio o dan eu hetiau. Gwisgai rhai ddwy res neu dair o gwilyn; ond ni oddefid hynny yn y cynulliad hwn. Gwrthododd un wniadwraig gydymffurfio â phenderfyniad y lleill, a diarddelwyd hi o'r cyfarfod gweddi!"

Y mae gan Mr. R. O. Jones sylwadau pellach, yn dwyn perthynas â'r ysgol Sul, dirwest, y gymdeithas lenyddol a'r Cyfarfod Misol: "Rhwng 40 a 50 mlynedd yn ol, cymerodd amryw frodyr (na chrybwyllwyd am danynt yn y gweddill o'r hanes presennol), ran flaenllaw iawn ynglyn â'r ysgol Sul, addysg, llenyddiaeth a'r achos dirwestol. Cychwynnwyd ganddynt gyfarfodydd llenyddol, a ffurfiwyd undeb llenyddol rhwng y Waen, Ceunant a Llanrug. Cymerodd Ebenezer Morris, a fu yma yn ysgolfeistr am lawer o flynyddoedd, ac a ymadawodd oddiyma ddiwedd 1869 i Borthaethwy, ran flaenllaw gyda'r ysgol Sul, a gwnaeth wasanaeth rhagorol ynglyn â llenyddiaeth. Yr oedd bywiogrwydd a sel Moses Roberts, brodor o Dalsarnau, gyda'r ysgol a'r achos dirwestol, yn eithriadol. Dafydd Thomas oedd yn athraw llwyddiannus, ac yn fyw i bob diwygiad cymdeithasol. Owen Jones (yr Eryri), Thomas Jones Cyrnant lodge, Richard Jones Tŷ capel, Evan Evans, Richard Griffith Ty'r gorlan, Thomas Jones Brynmelyn, O. Griffith (Eryr Eryri) ac eraill, oedd i gyd yn amlwg iawn gyda'r ysgol a llenyddiaeth, a chymerent ran amlwg yn nygiad ymlaen waith allanol yr eglwys. A symbylid y swyddogion ganddynt hwy ac eraill yng nghyfeiriad bugeiliaeth eglwysig. Y cam cyntaf tuag at hynny oedd cael y Parch. D. Morris Caeathro yma i gynnal seiadau.

"Ymddengys fod y Cyfarfod Misol yn cael lle mawr yma yn adeg ein tadau. Rhywbryd tua'r flwyddyn 1848, bu yma Gyfarfod Misol eithriadol o luosog. Yr oedd y capel yn orlawn, a thyrfa allan yn llanw'r cowrt a'r ardd o flaen y capel. Pregethid yn y ffenestr wrth ochr y pulpud. Yr oedd Henry Rees yma yn cymeryd rhan. Yma, hefyd, mewn Cyfarfod Misol y bu John Williams Llecheiddior dan dipyn o gerydd y diwrnod cyntaf, ond yn seiat y bore dilynol dywedodd ychydig eiriau gyda'r fath hwyl nes y torrodd allan yn orfoledd. Rhowd croesaw calonnog i Gyfarfod Misol 1869, er fod yr eglwys dan faich lled drwm, wedi rhoi traul fawr ar ailadeiladu'r capel, yn talu llawer at dreuliau'r ysgol Frytanaidd, ac wedi dechre cynnal gweinidog. Ym Medi 1883 caed yma Gyfarfod Misol fel cymdeithasfa yn ei weithrediadau a'i boblogrwydd. Yn hwn yr ordeiniwyd John Thomas i fyned allan fel cenhadwr i Fryniau Cassia. Cymerwyd rhan yn y gweithrediadau gan Thomas Lewis, oedd wedi bod ar ymweliad â'r maes cenhadol, a'r Parchn. Edward Griffith Meifod, Rhys Jones, Dafydd Morris, W. Rowlands, Josiah Thomas, Thomas Levi, D. Charles Davies a'r Dr. Lewis Edwards."

Y mae Pierce Williams yn cyferbynu pethau fel yr oeddynt (dyweder, tuag 1850-65), ac fel y maent yn awr (1890). Mwy o arddanghosiadau corfforol o deimlad y pryd hwnnw. Gofyn am arwydd go amlwg o argyhoeddiad mewn ymgeisydd am aelodaeth. Nid oedd i un ddweyd ei fod yn gweddio yn ddigonol. Rhoi mwy o bwys ar yr hyn y tybid eu bod yn arwyddion allanol o falchter, megys gwisg. Heb roi cymaint pwys ag yn awr ar gyfrannu at gynnal crefydd. Heb eu deffro i ystyr y wedd wleidyddol ar grefydd. Mwy o ryw fath o waith gyda chrefydd yn awr, gyda llai o deimlad. Gellir cymeryd yr hen bobl yn ysgafn wrth edrych arnynt o rai cyfeiriadau; ond yr oeddynt wedi eu cyfaddasu i'w hoes eu hunain, ac yn effeithiol i'r gwaith y galwyd hwy iddo.

Rhif yr eglwys yn 1900, 446. Y ddyled, £924.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Waunfawr
ar Wicipedia

Nodiadau

[golygu]
  1. Erthyglau y Parch. Francis Jones (Abergele) yn y Drysorfa, 1883, s. 175, 220. Atgofion John Owen Cae ystil (Pant), a ysgrifennwyd i lawr gan Francis Jones. Y Waenfawr ddeugain mlynedd yn ol," gan Richard Jones, Traethodydd, 1895, t. 102. "Waenfawr, yn grefyddol, yr 50 mlynedd diweddaf" (llawysgrif, 1907), gan Mr. R. O. Jones. Atgofion M. Jones, Drysorfa, 1848, t. 221. Ysgriflyfrau Dafydd Thomas a Pierce Williams. Cyfrifon eglwysig, 1818 20. Ymddiddanion. Nodiadau y Mri. R. O. Jones a J. W. Thomas,