Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd/Cychwyniad Methodistiaeth Yn Nghorris

Oddi ar Wicidestun
Trem ar Gorris Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd

gan Griffith Ellis, Bootle

Dafydd Humphrey a'i Gydlafurwyr

PENOD II


CYCHWYNIAD METHODISTIAETH YN NGHORRIS

Ryw adeg cyn y flwyddyn 1780, symudodd gwraig, o’r enw Jane Roberts, o’r Nannau, ger Dolgellau, i’r Rugog, — fferm sydd tua haner y ffordd o bentref Corris i hen Eglwys Tal-y-llyn. Aethai y wraig hon, un tro, o’r Nannau i odfa yn Maes-yr-afallen, o fewn tua thair milldir i’r Abermaw, gerllaw y ffordd oddiyno i Ddolgellau, lle yr arferai yr Annibynwyr bregethu yn achlysurol. Er mwyn cadw yn ddirgel amcan ei mynediad oddicartref, gosododd o dani ar y ceffyl sachaid o wair, fel y gallai y rhai a’i gwelent dybio mai sachaid o wlan i’w gymeryd i’r factory oedd ganddi. Y pregethwr y tro hwnw oedd yr hybarch John Evans, o’r Bala; ac nid anghofiodd Jane Roberts y bregeth byth. Rywbryd wedi ei dyfodiad i’r Rugog clywodd fod rhyw frawd yn dyfod i bregethu i Abergynolwyn; a chymhellodd ei merch Elisabeth, oedd ar y pryd newydd briodi, a'i mab-yn-nghyfraith, Dafydd Humphrey, Abercorris, i fyned gyda hi i'r odfa. Dyma un o’r pregethau cyntaf erioed gan y Methodistiaid yn y plwyf. Mor hynod dlodaidd oedd y plwyf, ac mor deneu ei boblogaeth, fel nad ymddengys i neb o’r diwygwyr Methodistaidd mewn adegau boreuach dalu ymweliad âg ef o gwbl.

Nid ydyw yn hollol sicr pwy oedd y pregethwr. Yn 'Nrych yr Amseroedd' rhoddir hanes pregeth, yr hon y dywedir gan awdwr parchedig 'Methodistiaeth Cymru' (i. 569, 570) oedd y gyntaf gan y Methodistiaid yn y plwyf. Dyma yr hanes yn ngeiriau y Parchedig Robert Jones, Rhoslan:—

"Tro nodedig iawn a fu mewn pentref bychan, a elwir Abergynolwyn. Anturiwyd yno i bregethu ar brydnhawn Sabbath. Erbyn dyfod yno, yr oedd golwg lidus, greulon, ar y dorf liosog a ddaethai ynghyd, fel yr oedd yn aeth ac yn ddychryn meddwl wynebu arnynt; canys nid oedd odid un o honynt a welsai bregethwr, nac ychwaith broffeswr yn un Ile. Cafwyd llonydd gweddol i gadw y cyfarfod mewn modd annisgwyliedig. Ond erbyn clywed pa fodd y cafwyd Ilonyddwch, canfyddwyd fod llaw ddirgelaidd Rhagluniaeth yn sicr yn y tro. Digwyddodd fod gŵr yn byw yn yr ardal a elwid John Lewis; buasai hwnw dro neu ddau yn gwrandaw pregethu, ac yr oedd wedi ei dueddu i feddwl ei fod yn waith da. 'Roedd gan y gŵr hwn fab- yn-nghyfraith (neu fab gwyn, fel y galwent ef) ag oedd yn aruthrol o gryf. Dywedodd yr hen ŵr wrtho fod y rhai'n a'r rhai'n yn bwriadu erlid ac anmharchu y gŵr dieithr yma heddyw: ' ac (ebe fe) ni byddai raid i ti ond eu bygwth, mae'n sicr y byddent yn ddigon llonydd.' Bu y dyn yn falch O'r swydd; bygythiodd hwynt yn erwin, a pharodd ei arswyd yn nhir y rhai byw. Ni bu y cyfarfod heb radd o arddeliad arno. Ac o hyny hyd heddyw, mae pregethu yn yr ardal, a gradd o lwyddiant ar y gwaith Drych yr Amseroedd, tudalen, 119.


Mae yn weddol eglur mai y pregethwr yn yr amgylchiad hwn ydoedd yr hanesydd ei hun ; ond nid yw mor eglur pa un ai y bregeth hon ai ynte un arall yr aeth y tri a enwyd o ardal Corris i'w gwrando. Wrth roddi hanes yr odfa yn 'Methodistiaeth Cymru (i. 569) dywed y Parchedig John Hughes mai Robert Jones oedd y pregethwr : ond pan yn rhoddi hanes mynediad Dafydd Humphrey, a'i briod, a'i fam-yn-nghyfraith' i'r un odfa (tudalen 579) awgryma fod amheuaeth pa un ai Robert Jones, Rhoslan, ai Thomas Evans, Waunfawr, oedd y pregethwr. Yn y Drysorfa,' 1840, dywedir mai y diweddaf ydoedd. Cawsai ysgrifenydd yr hanes hwnw, sef y diweddar Mr. Daniel Evans (wedi hyny o Gaergybi a Chaernarfon), yr hwn oedd ar y pryd yn ysgolfeistr yn Nghorris, fantais i ymddiddan â'r hen batriarch ; ac yr oedd yn ddiau yn ysgrifenu yr hyn oedd yr argraff gyffredin ymysg ei berthynasau a’i gyfeillion yn ebrwydd ar ol ei farwolaeth, os nad yr hyn a glywsai ganddo ef ei hun. Gan y dywedir yn ‘Methodistiaeth Cymru’ (i. 580) mai yn 1780 y traddodid y bregeth gan Robert Jones, er y datgenir cyn hyny (i. 569) fod ansicrwydd am yr amser, y tebyg ydyw mai Thomas Evans oedd y pregethwr y tro hwn. Ar y 26ain o Chwefror 1781, yn Eglwys Talyllyn y priodwyd Dafydd Humphrey a’i wraig. Nid yw yn anmhosibl nad oedd pregeth Robert Jones rai blynyddoedd yn foreuach. Y mae, pa fodd bynag, yn rhy ddiweddar bellach i gael sicrwydd ar y mater. Ac nid oes ychwaith sicrwydd am y llanerch lle y traddodwyd y bregeth. Yn ‘Methodistiaeth Cymru’ dywedir mai “ar heol mewn pentref a elwir Abergynolwyn” y cynhelid yr odfa a gofnodir yn ‘Nrych yr Amseroedd.’ Yr oedd gwrych uchel yn agos i’r fan, lle y gwrandawai Dafydd Humphrey, ac wrth y ‘gwrych’ hwnw y gwnaeth “gyfamod â’r Gŵr, i’w gymeryd Ef yn Dduw, a’i bobl yn bobl, a’i achos yn waith iddo tra byddai ar y ddaear.” Mae genym adgof yr arferai ein mam ddywedyd mai wrth ‘Goed y Fedw’ y gwnaethai D. H. y cyfamod y cyfeiriai mor aml ato. Dywed Rowland Evans iddo wneyd y cyfamod ar unwaith ar ddechreu yr odfa. O’r dechreuad bychan hwn y cyfododd Methodistiaeth yn ardaloedd Corris, Aberllefenni, Ystradgwyn, ac Esgairgeiliog.

Yn Maes-yr-afallen, gerllaw yr Abermaw, y gwrandawsai William Pugh a John Lewis, y rhai a ddaethant yn gychwynwyr Methodistiaeth yn y Cwrt, rai pregethau; ac nid yw yn anmhosibl fod a fynent hwy a chael y pregethau cyntaf i Abergynolwyn. Hwynt-hwy, o leiaf, oedd yr unig rai yn y lle a fuasent cyn hyny yn arfer gwrandaw o gwbl ar y Methodistiaid; Yn Maes-yr-afallen hefyd yr achubwyd Jane Roberts; ac felly y mae y cysylltiad yn ddeublyg rhwng y lle hwnw a dechreuad Methodistiaeth yn yr ardaloedd uchod. Mae y dyfyniad canlynol o 'Methodistiaeth Cymru' yn ddyddorol :—

"Yn mhen blwyddyn ar ol hyn y cafodd D. Humphrey gyfleusdra gyntaf i wrando pregeth drachefn. 'Yr oedd gair yr Arglwydd yn werthfawr yn y dyddiau hyny. Cynhelid yr oedfa hon ar Fawnog Ystradgwyn, a phrofwyd chwerwder erledigaeth yn hon hefyd. Ar ol hyn cafwyd un o hen bregethwyr cyntaf y Bala i ddyfod ar ryw Sabbath i ardal Corris (i bregethu) ar fin y ffordd fawr. Yr oedd rhyw rai, ar ol clywed fod pregeth i fod yn yr ardal y Sabbath hwnw, 'wedi danfon offer aflonyddwch, sef llestri tin a phres i'w curo, fel ag i lesteirio i'r bobl glywed beth a ddywedid gan y pregethwr. Ond yr oedd blys cael clywed ar ryw un yno, yr hwn a gipiodd y llestr pres o law y terfysgwr, ac a'i lluchiodd i'r afon. Aed i'w geisio eilwaith, ond bellach ni ellid, gan yr agen a wnaed ynddo, wneyd nemawr ddefnydd o hono."

Yn ffodus digwyddodd i ni, yn ddiweddar, trwy garedigrwydd Mrs. Evan Roberts, Caernarfon, gael gafael ar rai manylion gyda golwg ar y bregeth uchod,—y gyntaf erioed yn ardal Corris gan y Methodistiaid. Yr oedd nain Mrs. Roberts, Sarah Rhys, Ty'nyberth, yn bresenol yn yr odfa,—y pryd hwnw yn wraig ieuanc gyda dau o blant. Yr oedd yr ieuangaf o'r ddau,—Thomas Edward, wedi hyny o Benystaer, ar ei braich, a'r hynaf, Dafydd Tomos, Ty'nyberth, yn grwtyn bychan yn ei llaw. Soniodd Sarah Rhys lawer am yr odfa; a chofiodd ei mab Dafydd Tomos hefyd am dani tra y bu byw. Y pregethwr oedd Dafydd Cadwaladr, a'r lle y pregethai oedd gerllaw Ty'n yr-wdyn, neu Ty'r wdyn, tŷ bychan a safai y pryd hwnw ychydig yn uwch i fyny yn y Cwm na'r Hen Ffactri, ac yn agos i'r Ceunant, oddiwrth ba un y Cymerai Ty'n y ceunant ei enw. Ymddengys fod tomen chwarel Abercwmeiddew yn gorchuddio y llanerch yn awr, a bod yr Engine House wedi ei adeiladu yn lled agos uwch ei phen. Yr oedd hyn debygid tua 1781 neu 1782. Ganwyd Dafydd Tomos rywbryd yn 1778, a digon tebyg ei fod yn dair i bedair blwydd oed pan yn myned i'r odfa yn llaw ei fam. Y tebyg, gan hyny, ydyw i'r bregeth gyntaf gan y Methodistiaid yn Nghorris gael ei phregethu tua'r adeg uchod. Wedi hyn, bu pregethu mor aml ag y gellid ei gael, yn gyntaf yn Llain-y-groes,a thrachefn am yspaid dwyflynedd yn yr Ysgubor goch. Ond yr oedd dygasedd yr hen sarff yn llesteirio i'r efengyl gael arosiad hir yn unlle; eto yr oedd yn ennill calon ambell un. Yn y flwyddyn 1790, yr oedd yno bump wedi cael blâs ar fara y bywyd, sef Dafydd Huniphrey a'i wraig, Jane Roberts, Jane Jones, a Betty Lewis. Wedi i ddrysau eraill gau, buwyd yn pregethu ar ben careg, wrth ddrws tŷ annedd, ar dir Dafydd Humphrey. Gelwid y tŷ hwn yr Hen Gastell; ac wedi ymadawiad y gŵr a'i preswyliai y pryd hyny, gosododd ef i ŵr arall am ychydig o ardreth, ar yr ammod fod pregethu i fod ynddo." (Methodistiaeth CYMRU, i. 580.)

Y "gŵr arall" hwn ydoedd Vaughan Jones, yr hwn oedd gefnder i Dafydd Humphrey, ac hefyd yn dipyn o fardd. Yma, yn yr Hen Gastell, y mae yn ymddangos y dechreuwyd cynal cyfarfod eglwysig yn 1790, pan nad oedd ond pump yn aelodau. Bydded i enwau y rhai hyn gael eu cadw byth mewn parchus goffadwriaeth.

Nid annyddorol fydd ychydig grybwyllion am danynt. Preswyliai Betty Lewis mewn tŷ bychan, ychydig yn nes i Dal-y-llyn na'r Hen Gastell, a elwid yr Hen Shop. Merch iddi ydoedd Cadi Ifan, gwraig John Richard, yr hwn y daw ei enw gerbron yn y benod nesaf, fel un o gydlafurwyr ffyddlonaf Dafydd Humphrey. Wyrion i Betty Lewis gan hyny ydoedd Howell Jones, Cell Iago, yr hwn a grybwyllir mewn cysylltiad â chychwyniad yr achos Methodistaidd yn Aberllefenni; Evan Jones, yr Hen Shop; a Betty Shôn, Tŷ'r Capel.

Mae dyddordeb neillduol yn perthyn i enw Jane Jones, Aberllefenni, fel y gyntaf a ymunodd â'r Methodistiaid o deulu sydd erbyn hyn yn lliosog a dylanwadol yn eu plith. Merch yr hen balasdy ydoedd; ac yr oedd iddi un brawd a phedair o chwiorydd. Y brawd ydoedd y gŵr a fu yn hir wedi hyny yn adnabyddus fel y Parchedig Owen Jones, o'r Glyn, gerllaw Talsarnau. Yn ei ofal ef yr oedd plwyfi Llandecwyn a Llanfihangel-y-traethau; ac efe hefyd ydoedd goruchwyliwr etifeddiaeth Mr. Gore yn Talsarnau. Enw y chwaer hynaf ydoedd Anne, yr hon a ddaeth yn wraig i Mr. Griffith Evans, Tymawr, Towyn. Yr oedd yn nain i'r diweddar Mr. Evans, Maesypandy,—gŵr a fu yn dra adnabyddus a dylanwadol flynyddoedd yn ol, a'r diweddar Mr. Evan Evans, Tymawr; a hen nain i'r Parchedig Griffith Evans, Cynfal. Yr ail ydoedd Catharine, yr hon a ymbriododd â Mr. Poole, Egryn, Dyffryn, ac a gynrychiolir yn awr gan deulu lliosog a pharchus. Merch iddi hi ydoedd Fanny, priod y diweddar Barchedig Richard Jones, o'r Wern; a mam Mr. Griffith Jones, Tymawr, Towyn. Merch arall iddi ydoedd Jane, priod Mr. Rees Davies (a elwid Rhys Dafydd), Taltreuddyn Bach, Dyffryn, a naill y Parchedig William Davies, Llanegryn, a Mrs. William Pryse Jones, Liverpool, a llawer eraill. Y drydedd ydoedd Ellen, priod Mr. Owen Jones, Crynllwyn, Towyn. Hi oedd mam y diweddar Barchedig Owen Jones, Gelli, Sir Drefaldwyn, a nain y gŵr o'r un enw, ac o'r un lle yn bresenol. Pa un o'r ddwy chwaer eraill, Jane a Jannett, oedd yr hynaf, nid yw yn gwbl sicr. Dywedai y ddiweddar Mrs. Grifflth Thomas, Aberystwyth, mai ei mam, Jannett, oedd yr ieuangaf. Ymbriododd Jannett â Mr. David Davies, Skinner, Machynlleth; ac yn mynwent Machynlleth y claddwyd hi a'i phriod, a phedwar o'i phlant. Bu farw Mrs Davies, Tach. 1af, 1822, yn y 75ain flwydd o'i hoedran. Meibion idd hi oeddynt Meistri David Davies, Garnachen Wen, Swydd Benfro, a Robert Davies, Aberystwyth, a merched iddi oeddynt Mrs. Griffith Thomas, a Mrs. Edward Jones, Aberystwyth. Bu farw un ferch iddi, Jane, yn ddibriod. Mr Robert Davies ydoedd tad y Parchedig David Charles Davies, M.A, Bangor; Mr. R. J. Davies, U.H, Cwrtmawr; Mrs. Richard Roberts, a Mrs. D. Jenkin Davies, Aberystwyth. Mab i Mrs. Roberts ydyw Dr. R. D. Roberts, o Caergrawnt. Jane, mae yn ymddangos, arosodd yn Aberllefenni; a gŵr o'r enw Mr. Evans oedd ei phriod. Cyn belled ag y llwyddasom i gael yr hanes, dau o blant fu iddi—un mab ac un ferch. Jane ydoedd enw y ferch; ac ymbriododd â David Jones, o'r Tygwyn, Bryn Eglwys; ac y mae ei disgynyddion yn awr yn lliosog. Mab iddi ydoedd y diweddar Mr,John Jones, Ty'nycelyn; ac y mae yn awr yn fyw o leiaf un ferch iddi, Mrs. Evan Roberts, Fferm, Bodelwyddan. Bu farw Mrs. David Jones, Tygwyn, Mai 20fed, 1847, yn 74 mlwydd oed. Rhaid fod Jane Jones, Aberllefenni, gan hyny yn briod â Mr. Evans ymhell cyn 1790; canys yr oedd ei merch, Jane, y pryd hwnw yn 17 mlwydd oed. Ond yr oedd yn beth cwbl gyffredin i wraig gael ei hadnabod wrth ei henw morwynol. Nid ydym yn gwybod i fab Jane Jones adael ar ei ol ond un mab, sef y diweddar Mr. Dayid Evans, Rhiwbryfdir, Blaenau Ffestiniog. Ei unig fab yntau ydyw Mr. Samuel Evans, Bank, Nefyn.

Hawdd fuasai gwneuthur cofnodion meithion am amryw o'r rhai a enwir uchod. O'r pum' chwaer, dwy yn unig a ymunasant â'r Methodistiaid, sef Jane a Jannett; ond arferai Catharine ac Ellen wrando arnynt, a dangos parch mawr tuag atynt. Un tro yn y Dyffryn, safodd Mrs. Poole wrth ochr y pregethwr, tra yn pregethu, a'i ffon yn ei llaw, i gadw yn dawel ryw ddynion a ddaethent yno i derfysgu; ac mor fawr oedd ei dylanwad fel na feiddiai neb o honynt gyfodi yn ei herbyn. Gwraig o awdurdod ydoedd yn ei theulu, a hynod barchus ymysg ei chymydogion ar gyfrif ei doethineb a'i medrusrwydd. "Gwyr pawb," meddai gŵr y Sylfaen, gerllaw yr Abermaw, unwaith, "fod Catharine Poole yn arfer gwneyd pob peth yn y ffordd oreu." Yn nechreu 1883 y bu farw Mrs. Griffith Thomas, Aberystwyth, yr hon a haedda goffâd parchus fel gwraig nodedig o haelionus. Adroddai unwaith yr hyn a fu yn achlysur iddi profi y rhinwedd hwn. Pregethai gŵr o Sir Feirionydd ryw dro yn ei chlywedigaeth, ac adroddodd am weithred haelionus o eiddo yr hen foneddiges barchus, Mrs. Vaughan, Cefncarnberth, yn y Bwlch, ger Llanegryn. Yr oedd casgliad pwysig at ddyled y capelau i gael ei wneyd yno un Sabbath: methai Mrs. Vaughan fyned i'r capel oherwydd ei llesgedd, ond rhoddodd bwrs i'r pregethwr i'w gymeryd yno. "Rhoddwch ei gynwys," meddai, "yn y casgliad; a dychwelwch y pwrs i mi." Wedi arllwys y cynwys ar y bwrdd, cafwyd fod ynddo haner cant o bunau "Mi welais," meddai Mrs. Thomas, "y pryd hwnw y fath brydferthwch mewn haelioni crefyddol, fel y penderfynais ddilyn y cyngor a saethodd i'm meddwl ar y pryd, 'Dos, a gwna dithau yr un modd." (Adroddwyd yr hanesyn uchod wrthym gan y Parchedig William Dayies, Llanegryn.) Dywedir fod Jane Jones, yr hon a arosodd yn Aberllefenni, yn wraig nodedig am ei chrefyddolder.

I Jane Roberts, Rugog, yr oedd teulu lliosog,—un ar ddeg o blant, yn ol yr hanes yn 'Methodistiaeth Cymru' (i. 580). Gwelsom eisoes mai merch iddi oedd Elisabeth, priod Dafydd Humphrey. Bu iddynt hwy un mab, Humphrey Davies, yr hwn a leinw le mawr yn y tudalenau dyfodol, a thair, os nad ychwaneg o ferched. Yr henaf oedd Eleanor, yr hon a ymbriododd â John Williams, o'r Pandy Hen, Llanllyfni, yr hwn a fu yn flaenor ffyddlawn a defnyddiol gyda'r Methodistiaid am lawer o flynyddoedd (gwel 'Y Drysorfa' Ebrill 1885). Dychwelodd, wedi marw ei phriod, i dreulio diwedd ei hoes gyda'i brawd yn Nghorris. Yr ail ydoedd Jane, priod y diweddar William Jones, Tanyrallt. Bu farw yn 1834, yr un flwyddyn a'i mam, yn 46 mlwydd oed, gan adael ar ei hol saith o blant. Mae pump o'r rhai hyn yn awr yn fyw, sef y Mri. David a William Jones, Machynlleth; Mrs. Robert Owen, Pandy; Mrs. Elisabeth Davies, Tanyrallt, Corris; a Mrs. David Edwards, Bryn Dulas, Esgairgeiliog. Yr ieuangaf ydoedd Mary,. priod Mr. Evan Edwards, Ffynon Badarn Aberllefenni. Yr oedd y chwaer hon yn hynod mewn duwioldeb; a bu farw yn gymharol ieuanc, yn y flwyddyn 1828. Merch i un o ferched Jane Roberts, Rugog, ydoedd y ddiweddar Jane Roberts, Cae'r-beudy, Llanelltyd. Merch iddi hithau ydyw priod Mr. David Evans, Cae Einion, gerllaw Dolgellau; a mab iddynt hwythau ydyw Mr. E. W. Evans, o Swyddfa 'Y Goleuad,' yn Nolgellau.

Ymddengys i'r chwaer a grybwyllwyd eisoes, Sarah Rhys, y pryd hwnw o Rognant, wedi hyny o'r Hen Ffactri, ac yn ddiweddaf oll o Ty'nyberth, ymuno yn lled fuan â'r gymdeithas fechan yn yr Hen Gastell. Ac ymunodd hefyd ei phriod Edward Tomos; ond ni bu ef yn rhyw ddedwydd iawn yn eu plith; a phan ddaeth y Wesleyaid i'r gymydogaeth, ymadawodd â'r Methodistiaid ac yniunodd â hwynt. Ac nid oedd heddwch i Sarah Rhys heb ei ddilyn. Bu un ferch iddynt, Ellin Roberts, priod Richard Roberts, Penygroes, yn aelod ffyddlon gyda'r Methodistiaid hyd ddiwedd ei hoes. Ac y mae yr unig ferch iddi hithau sydd yn awr yn fyw, sef Elisabeth, priod Mr. Ellis Jones, Bengrych, Aberllefenni, yn parhau yn aelod gyd'r un enwad.

Bu raid i aelodau y gymdeithas fechan yn yr Hen Gastell ddioddef cryn law'er oherwydd eu crefydd. Dodwn i lawr yma ddyfyniad byr o 'Fethodistiaeth Cyinru,' (i. 580);—

"Yr oedd Jane Roberts a'i gŵr yn dal tyddyn o eiddo gŵr boneddig tra erlidgar, yr hwn oedd yn byw rai millchroedd oddiwrthynt . Yr oedd ei theulu yn lliosog nid llai nag un ar ddeg o blant. Anfonwyd rhybudd, pa fodd bynag. i ymadael â'r tyddyn. Aeth y gŵr at ei feistr tir i ymofyn am gael aros eilwaith yn y tvddyn, a chafodd addewid o hono ar yr amod i'r wraig ymadael â'i chrefydd. Dychwelodd John Roberts adref, a gofynodd y wraig iddo,—

"Wel, John bach, sut a fu gyda'r gŵr boneddig
'Canolig,' ebe John, 'gallasai fod yn waeth.'
A gewch chwi y tir eto ?' gofynai y wraig.
Caf ' ebe John, ' ond i ti ymadael â'r bobl yna.'
Wel, John bach,' ebe Jane, 'os ydych chwi yn tybed mai gwell i chi ac i'r plant fyddai i im ymadael, ymadail wnaf â chwi, ond nid â nghrefydd byth"

Ymddengys mai i brofi y wraig y dywedwyd hyn, oblegid ni bu raid iddi ymadael â'i thyddyn, a'i theulu, nac â'i chrefydd."

Nid ydym yn deall fod pregethwyr na gwrandawyr erioed wedi cael eu baeddu gan erlidwyr yn yr ardal, fel y cawsant mewn llawer o ardaloedd eraill; ond amlwg yw y dygid cwynion yn eu herbyn gan rywrai at y boneddwr uchod, yr hwn oedd ar y pryd fel pe wedi ymgynddeiriogi yn ei lid tuag at y Methodistiaid. Gwneir y dyfyniad canlynol eto o'r un llyfr:—

"Nid oedd. yr Hen Gastell mwy na thai eraill y pryd hwn wedi ei gofrestru yn ol y gyfraith i bregethu ynddo; a phenderfynai y gŵr boneddig dreio beth a wnai dull arall o erlid tuag at lethu yr heresi newydd ag oedd yn ymdaenu mor arswydus ymhob man—Yr oedd yn cadw rhyw nifer o filwyr, gan ei, fod yn amser rhyfel poeth â Ffrainc; ac wedi clywed fod pregethu yn cael ei gynal mewn tŷ heb ei gofrestru. meddyliodd y mynai efe ddal gŵr y tŷ, a chynifer a geid yn ymgynull yno, a'u dirwyo oll, yn ol y gyfraith dan y Conventical Act. Yr oedd deg neu ddeuddeg o'r milwyr hyn a'r y ffordd tua'r Hen Gastell, dan arfau, i ddal y crefyddwyr; ond daeth hyn i glustiau rhywun a ewyllysiai yn dda iddynt, rhedai hwnw tra y gallai; un arall a gymerai y newydd ac a redai yr un modd, ac felly o un i arall cerddai y newydd am ddyfodiad y milwyr yn gynt na'r milwyr eu hunain. Pan glybu Dafydd Hnmphrey y newydd, brysiodd a chymerodd y pulpud o'r Hen Gastell gan ei gario ar ei gefn, a'i guddio dan wellt yn y beudy [Beudy y Gwyngyll oedd hwn].

Yntau a ymguddiodd ei hunan mewn rhedyn yn ngolwg y ffordd; [yn y ffridd, heb fod yn bell o Graig—y—fachddu]. A gwelwn' meddai, 'y fyddin arfog yn dyfod dan saethu, nes oedd y mwg yn llenwi Cwm Corris o ben bwy gilydd. Anfonwyd un o'r gweision i ymofyn am danaf fi. a phan ddywedodd fy ngwraig nad oeddwn yn y tŷ, gorchymynodd i mi fyned at ei feistr dranoeth.' Ar hyn aethant ymaith, heb wneyd dim llawer o niwed. mwy nag afradu cryn lawer o bylor. Tranoeth aeth Dafydd Humphrey at y gŵr mawr, ac wedi arwain y troseddwr i ŵydd. ei arglwydd, gofynwyd. iddo :—'A wyt ti yn gosod y tŷ i bregethu ynddo?'

'Ydwyf. Syr.' oedd yr ateb.
'I bwy?' gofynai y boneddwr.
I Vaughan Jones, Syr,' ebe yntau.
Rhaid i Vaughan Jones ateb i'r gyfraith' ebe y boneddwr. Aeth a'r achos i Chwarter Sessiwn y Bala ond nid oedd Vaughan Jones ar gael. ac nid oedd cyfreithiwr chwaith erbyn hyn a gymerai yr achos mewn llaw; felly disgynodd yr erlyniad yn ddirym i'r llawr."

Mae profion ar gael nad oedd y milwyr yn awyddus o gwbl i'r gorchwyl y gorfodid hwynt i'w gyflawni yn wir, y mae yr hanes uchod yn awgrymu hyny; ond nid oes un amheuaeth am greulondeb dialgar y boneddwr. Daliwyd William Pugh, Llanfihangel, yn ei dŷ gan y milwyr, a gorfodwyd ef i dalu dirwy o ugain punt am bregethu heb drwydded. Yr oedd hyny yn 1795. Gwr da oedd hwn; a gwnaeth waith da yn y Cwrt a'r ardaloedd cylchynol. Gwnaethom grybwylliad am dano eisoes mewn cysylltiad â'r bregeth yn Abergynolwyn. Bu yn un o gydlafurwyr ffyddlawn Mr. Charles, o'r Bala; yr hwn a fu yn cysgu yn fynych yn ei dŷ, sef y Llechwedd, Llanflhangel, pan ar ei deithiau. Efe am ryw dymor a arferai arwain y canu yn Sasiwn y Bala; a bu mab iddo yn cyflawni yr un swydd am flynyddoedd yn hen gapel Pall Mall, Liverpool. Yr oedd yn amlwg yn ddyn deallus, ac wedi cael hefyd ryw gymaint o addysg. Synwyd ni yn fawr dro yn ol pan y dangoswyd i ni gan gyfaill yn Liverpool, gyfrol o'i bregethau, yn ei lawysgrif ef ei hun, wrth weled rhagoroldeb eu cynwysiad, a threfnusrwydd eu cyfansoddiad. Mae yn amlwg iawn mai nid dyn cyffredin ydoedd; a dylai ei goffadwriaeth fod yn barchus yn yr ardaloedd sydd hyd heddyw yn mwynhau ffrwyth ei lafur.

Buasai wedi ei ddal a'i ddirwyo yr ail waith,—a'r tro hwnw i ddeugain punt,—oni buasai iddo lwyddo i ymguddio hyd ar ol y Chwarter Sessiwn yn y Bala.

Trwy yr erledigaeth oddiwrth y boneddwr uchod gorfodwyd y Methodistiaid i geisio amddiffyn y gyfraith drostynt fel Ymneillduwyr. Ac y mae y pwysigrwydd hwn yn perthyn i Fethodistiaeth yr ardaloedd hyn, mai eu dioddefiadau hwy fu yr achlysur i'r Methodistiaid orfod galw eu hunain yn Ymneillduwyr. Nid amrhriodol fyddai dyfynu yr hyn a ganlyn o Adgofion y diweddar Barchedig Robert Griffith, Dolgellau, am yr helynt, yn y 'Drysorfa' 1847 :—"Tua'r amser hwn, yn y flwyddyn 1794 neu 1795, darfu i Mr.Corbett, o Ynys—y~maengwyn, ymroi i erlid y Methodistiaid; gorfododd i'r brawd William Hugh, Llanfihangel, dalu ugain punt o ddirwy am bregethu heb license ; dirwyodd eraill am roddi eu tai i bregethu ynddynt heb eu recordio, ac eraill i bum' swllt yr un am wrando yn y cyfryw leoedd. Nid oedd y Methodistiaid hyd yn hyn yn eu harddelwi eu hunain fel Ymneillduwyr feallai am fod amryw o Offeiriaid yn perthyn i'r Corph, ac mai Offeiriaid yn benaf oedd ei sylfaenwyr; ac fel hyn nid oedd gan neb o'r pregethwyr license i bregethu; canys nid oedd cyfraith i'w hamddiffyn ond fel rhai dan y cymeriad o Ymneillduwyr. Ond yr amser hwn gorfu ar yr holl bregethwyr yn y Gogledd gymeryd license; a chofrestrwyd y capelau yn nghyd a thai annedd i bregethu ynddynt. Daeth llythyr o'r Bala i Ddolgellau yn hysbysu fod modd gochelyd talu y ddirwy am bregethu mewn tai oedd eto heb eu cofrestru, trwy gymeryd y llwon gofynedig cyn pen pum niwrnod wedi cael y rhybudd cyfreithiol, os da yr wyf yn cofio, a pheidio pregethu yn y manau hyny hyd y Chwarter Sessiwn. Aeth y brawd Hugh Lloyd, un o flaenoriaid Dolgellau, a minau, yn ddioed i Gorris, at Vaughan Jones, ac i Lannerch coediog, at Griffith Owen, dau ŵr a rybuddiasid i dalu y ddirwy o £20 bob un; a phrydnawn yr un diwrnod aethom dros Afon Mawddach i Llanenddwyn at Mr. Owen, ac i Hendre'forion at Mr. Parry, dau ustus heddwch, i gymeryd y llwon angenrheidiol; ac felly yr aeth yr ystorm heibio."

Os dychwelodd y ddau ŵr hyn i Ddolgellau yr un noson rhaid fod eu taith y diwrnod hwnw yn rhywle oddeutu haner cant o filldiroedd. Wedi dirwyo William Pugh, gwnaed ymgais 'ddal Lewis Morris; ond diangodd ef i Lwyn-y-gwair, yn Sir Benfro, hyd Chwarter Sessiwn y Bala. Dodwn i lawr hanes yr hyn a ddigwyddodd yno yn ngeiriau y Parchedig John Hughes :—"Yn y cyfamser, yr oedd chwarter sessiwn y Bala gerllaw, a darpariaeth wedi ei gwneuthur i geisio yno amddiffyn y gyfraith, trwy alw am gyfreithiwr enwog, o Gaer y pryd hwnw, ac ar ol hyny o'r Cymau, gerllaw Caergwrle, yr hwn oedd ymneillduwr ei hun. Dangosai ynadon Sir Feirionydd bob anmharodrwydd i drwyddedu pregethwyr ; ond er hyny ni allent omedd i'r sawl a geisient, heb droseddu y gyfraith eu hunain ; a phan y rhoddwyd ar ddeall iddynt gan David Francis Jones, Ysw, y Cyfreithiwr, fod yn rhaid iddynt naill a'i rhoddi amddiffyniad y gyfraith i'r pregethwyr, neu fyned dan ei chosb eu hunain, nid oedd dim i'w .wneyd ond plygu. Un o'r ustusiaid, yr hwn oedd berson Llandderfel, a ddywedai, 'Os rhaid i'm llaw arwyddo y papyrau hyn, y mae fy ngalon yn erbyn hyny.' 'Y cwbl sydd arnom ni eisiau,' ebe Mr. Jones, 'yw eich llaw; am eich calon, nid ydym ni yn gofalu dim am hono.' Felly eu trwyddedu a gawsant; ac o hyny allan, annogwyd y pregethwyr i geisio trwyddedau, mor wresog ag y gwaharddwyd hyny iddynt o'r blaen. Cofrestrwyd y tai pregethu hefyd. Yn y modd yma y cafwyd diogelwch rhag y ffurf yma hefyd o erlid. Ni ddefnyddiwyd y dull hwn, tra y gellid cael y werin ffol i derfysgu a baeddu ; ond wedi i'r Methodistiaid enill teimladau y werin o'u plaid, nid oedd ond ceisio eu llethu trwy rym cyfraith; ond nid oedd hyn bellach i'w gael, gan fod yr awdurdod a'u llethai hwy gynt, yn awr yn eu hamddiffyn—y cleddyf a'u harchollai gynt, a archollai eu gorthrymwyr bellach. Y wlad hon, weithian, a gafodd lonydd."

Ychwanegwn eto y dyfyniad dyddorol a ganlyn:

"Deallodd Mr. Charles mewn ymddyddan a'r Cyfreithiwr anrhydeddus hwn [sef yr Anrhydeddus Thomas Erskine, yr hwn yn y blwyddyn 1806 a wnaed yn Arglwydd Erskine, ac yn Ganghellydd y deyrnas], pryd yr adroddodd wrtho yr erledigaeth yr oedd y Methodistiaid dano oddiwrth foneddwr ac ustus heddwch yn y sir, fod C—t wedi troseddu y gyfraith ei hunan, wrth ddirwyo y pregethwyr, ar rhai a'u derbynient i'w tai, gan na rannodd ef y dirwyon rhwng yr hysbyswyr a thrigolion y plwyf, yn ngwydd y dirwyedig. Cynnygiodd y cyfreithiwr gymeryd y boneddwr mewn llaw, a'i gospi i'r eithaf. Hyn nis boddlonai Mr. Charles iddo wneyd, nes o leiaf iddo ymgynghori â'i frodyr; ac wedi iddo ddychwelyd, a gosod yr achos 'gerbron, barnwyd yn fwy Cristionogol, ac yn debycach o effeithio yn dda ar y boneddwr ei hun, yn gystal ag ar eraill, iddynt beidio ei fwrw i grafangau y gyfraith.

Pan oedd y boneddwr y soniasom gymaint am dano yn chwythu bygythion allan yn erbyn y Methodistiaid, a chyn iddo ddirwyo neb, yr oddd Cymdeithasfa yn y Bala, a chymerwyd yr achos i ystyriaeth, ai nid dyledswydd y Cyfundeb oedd gosod eu pregethwyr, a'r tai pregethu, yn ddioed o dan nawdd y gyfraith, trwy Ddeddf y Goddefiad (Toleration Act)? Yr oedd Mr. Charles, a John Evans, yn nghyd ag eraill, o'r farn mai hyny oedd eu dyledswydd ; ond gwrthwynebwyd hyn yn gryf gan eraill, ac yn benaf gan y brodyr o Sir Gaernarfon, gan na fynnent er dim gael eu cyfrif yn Ymneillduwyr. Y canlyniad a fu i ddirwy o £20 gael ei osod ar William Pugh; £20 ar dy yn Nhywyn; £20 ar dŷ yn Mryncrug; ac £20 ar dy yn Llannerch goediog. Parodd hyn, fel y gellid meddwl, fraw a syn. edigaeth trwy y wlad. Deallwyd fod boneddwyr eraill yn bwriadu, gwneyd yr un peth a C—t. Bu capel Dolgellau yn nghauad un Sabbath, mae'n debyg oblegid yr arswyd a ddaliasai y pregethwyr i fyned allan heb eu trwyddedu. Dygodd yr amgylchiadau hyn y mater mewn dadl i lwyr benderfyniad, a hyny yn bur fuan. Nid oedd eisieu rheswm mwyach o blaid Ymneillduaeth; yr oedd llais yr erledigaeth yn uwch na llais rheswm, ac o hyny allan ni fu un petrusder mewn un fynwes i gymeryd trwydded, ar gyfrif fod yn rhaid ei chymeryd ar dir Ymneillduaeth. Ac yn y cyfwng hwn yr anfonwyd, fel y dywedasom eisoes, am David Francis Jones, Ysw., i'r Bala; a thrwyddo y caed nodded y gyfraith rhag y gorthrwm blin hwn." —Methodistiaeth Cymru, 1. 599. Yr unig adgof dymunol mewn cysylltiad a'r erledigaeth hon o eiddo y boneddwr o Ynys Maengwyn ydyw fod lle i dybio iddo cyn ei farwolaeth weled ei gamgymeriad, a theimlo rhyw radd o ddygasedd at y rhai a garient chwedlau iddo am y Methodistiaid, ac a'i cymhellent i'w herlid. Ond beth am y chwedleuwyr?

Er cael llonyddwch oddiwrth yr erledigaeth, bu ei heffeithiau yn aros am dymor.

“Wedi yr erledigaeth uchod (yr ydym yn dyfynu o'r ysgrif yn y 'Drysorfa' 1840), aeth yr olwg arnom yn isel iawn gan ein digalondid a'n hofn; ond ni lwyr ddiffoddodd y tân sanctaidd yn eneidiau y ffyddloniaid. Pan geid ambell bregethwr i'n plithi, dygai yr hen wragedd damaid iddynt mewn napcyn, ac a'i gosodent mewn twll yn y mur tra parhai yr oedfa; byddai hwnw yn lled flasus. Trwy y weinidogaeth yr amseroedd hyny deffrowyd amryw am eu cyflwr, nes cynyddu o'r eglwys i o 15 i 20 o rifedi."

A phruddaidd yw sylwadau y Parchedig Robert Griffith, ar ol y dyfyniad a wnaed uchod:—

wythnosau, er mai cyffredin iawn oedd doniau y pregethwyr a ddeuent i'w gwasanaethu. Ryw Sabbath nid oeddid yn disgwyl neb i bregethu; a chan ei bod yn ystorm anarferol, arosodd pawb gartref yn eu tai. Yn Abercorris aeth y teulu, gynifer ohonynt ag a fedrent, i gyd—ddarllen y Beibl; a chawsant y fath flas ar y gwaith fel y penderfynwyd cael cyfarfod cyffelyb yn yr Hen c y Sabbath canlynol. Ac o'r dechreuad bychan hwn y cyfododd yr Ysgol Sabbothol yn Nghorris a'r amgylchoedd.

/>


Nodiadau[golygu]