Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd (testun cyfansawdd)
← | Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd gan Griffith Ellis, Bootle |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd |
Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader
HANES
METHODISTIAETH CORRIS
A'R AMGYLCHOEDD;
GAN
GRIFFITH ELLIS, M. A.,
BOOTLE.
———————♦———————
DOLGELLAU:
E. W. EVANS, SWYDDFA'R "GOLEUAD" A'R "LLADMERYDD."
1885.
RHAGYMADRODD.
Ein bwriad ar y cyntaf oedd dwyn allan Gofiant byr i'r ddau hen flaenor parchus, Humphrey Davies, Abercorris, a Rowland Evans, Aberllefenni. Ond wrth gasglu ein defnyddiau ynghyd, gwelsom yn fuan fod Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd yn ymgylymu yn gwbl naturiol wrth eu hanes hwy. Dafydd Humphrey, tad Humphrey Davies, ydoedd cychwynydd yr achos yn Nghorris; ac nid yw yr eglwysi yn yr Ystradgwyn, Aberllefenni, Esgairgeiliog, a Bethania, ond canghenau o'r pren a blanwyd yn yr Hen Gastell, a draws-blanwyd wedi hyny i Rehoboth, ac y gofalwyd am dano mor ffyddlawn am gynifer o flynyddoedd gan yr hen batriarch hwnw. Ac nid oes neb wedi bod mewn unrhyw gysylltiad â'r achos yn yr ardaloedd hyn hyd o fewn y deng mlynedd diweddaf nad oeddynt yn gydlafurwyr â Dafydd Humphrey, Humphrey Davies, neu Rowland Evans. Penderfynasom gan hyny ysgrifenu mor llawn ag y gallem Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd o'r cychwyniad hyd yn bresenol.
Dygwyd i mewn grybwyllion am lawer o gymeriadau nad
oeddynt yn adnabyddus o gwbl y tuallan i'w cymydogaeth eu
hunain; ond nid ydym heb obeithio y ceir yn y gyfrol er hyny
ryw bethau a'i gwna yn ddyddorol i gylch eangach o ddarllenwyr.
Er pob gofal dichonadwy, y mae rhai gwallau wedi dianc heb
eu cywiro. Maent i ni ein hunain yn ddolur llygaid, ac yn
rhwym o fod felly i eraill. Cywirir nifer o'r rhai mwyaf pwysig ar tudalen viii, tra y gadewir eraill llai eu pwys i'w
cywiro gan y darllenydd.
Derbyniasom gymorth gwerthfawr yn ein gwaith oddiwrth lawer o gyfeillion, y rhai nas gallwn gymaint a dodi i lawr eu henwau. Ond y mae yn eu plith ryw nifer na byddai yn anrhydeddus ynom beidio cydnabod yn gyhoeddus eu caredigrwydd. Mae un o'r cyfryw, a estynodd i ni gymorth parod, wedi myned yn rhy bell i'n cydnabyddiaeth ei gyraedd, sef y diweddar Barchedig John Jones, Brynteg, Bethesda. Mae ein dyled yn fawr i'r Parchedigion William Davies, Llanegryn; Robert Owen, M.A., Pennal; William Williams, Corris; ac Evan Davies, Trefriw; ynghyd â'r Meistri David Ivor Jones ac Owen Roberts, Corris. Ond y mae dau frawd ag yr ydym dan rwymedigaeth fwy neillduol iddynt, sef y Parchedig John Owen, Aberllefenni, a Mr. John Jones, Galltyrhiw. Cymerodd y cyntaf drafferth ddiderfyn i'n cynorthwyo, a bu y diweddaf yn fath o "oracl" i ni i ymgynghori âg ef ymhob anhawsder. Tra ffortunus i ni hefyd ydoedd ymweliad y Parchedig John Roberts, Khassia, â Chymru, pan oeddym yn ysgrifenu; a bu o fantais fawr i ni gael ei gymorth gyda gwahanol ranau yr hanes. A gweddus yw cydnabod ddarfod i ni dderbyn pob cymorth dichonadwy yn y modd mwyaf siriol oddiwrth berthynasau a chyfeillion y gwahanol gymeriadau y gwneir crybwylliad am danynt. Gwnaethom ddefnydd helaeth hefyd o'r crybwyllion yn "Methodistiaeth Cymru," ac amrywiol ysgrifau yn "Y Drysorfa."
Yr ydym wedi derbyn amryw ychwanegiadau dyddorol ar ôl i'r gwahanol sheets fyned trwy ddwylaw yr argraffwyr, ychydig o ba rai a ddodwn i mewn yn y lle hwn. Hysbyswyd ni mai merch David ac Elisabeth Roberts, Gwynfynydd, Ganllwyd, ger Dolgellau, oedd Jane Roberts, y Rugog, y gyntaf o'r Methodistiaid yn Nghorris. Cafodd ddygiad i fyny da ac addysg well o lawer na'r cyffredin yn yr oes hono. Mae traddodiad ddarfod iddi gael ei gwysio i weled y boneddwr o Ynys Maengwyn, ac iddo yntau gael ei synu a'i foddhau gan ei hymddygiad boneddigaidd. Bu iddi, mae'n ymddangos, ddau wr. Y cyntaf ydoedd Owen Pugh, mab Hugh Owen, Faner, Llanelltyd; ac wedi priodi symudodd at ei gwr i fyw yn y lle hwnw. Bu iddynt o leiaf dri o blant, sef Dafydd, Jane, ac Elisabeth. Dywedwyd wrthym y bu iddynt ychwaneg; ond dyma yr unig rai y cawsom eu henwau. Bu Dafydd yn byw yn y Faner am lawer blwyddyn; a bu iddo ef a'i wraig, Lowri Griffith, bedwar o blant. Mae un o'r rhai hyn, Owen Owen, yn byw yn awr yn Nolgellau. Un arall oedd Griffith Owen, diweddar o'r Faner, gweddw a phlant yr hwn sydd yn awr yn byw yn Derwas, ger Dolgellau. Margaret a John oedd y ddau eraill. Daeth Margaret yn wraig i William Bebb, Rhiwgriafol, Darowen, a bu hi a'i phriod yn bobl hynod grefyddol a chyfrifol. Ymfudodd y teulu i'r America. Bu John yn byw am dymor yn Maesygarnedd, ac ymfudodd yntau i'r America. Mae y brawd a'r chwaer wedi meirw bellach er's blynyddoedd.
Yr ail o blant Owen Pugh a Jane Roberts oedd Jane, yr hon a ddaeth yn wraig i wr o'r enw Robert Cadwaladr; a bu iddynt dri o blant. Un o honynt oedd y ddiweddar Jane Roberts, o Gae'rbeudy, Llanelltyd; yr ail oedd John, yr hwn a fu farw yn ieuanc; a'r trydydd oedd Owen, yr hwn a ymfudodd i'r America. Efe yn unig sydd yn awr yn fyw. Elisabeth, ail ferch Owen Pugh a Jane Roberts, a ddaeth yn wraig i Dafydd Humphrey, Abercorris. Ac Elisabeth Owen y parhawyd i'w galw ar hyd ei hoes.
Wedi marw Owen Pugh ymbriododd yr ail waith ag un John Griffith (nid John Roberts, fel y dywedir yn "Methodistiaeth Cymru,") yr hwn y dywedir oedd yn hwsmon ar y pryd yn mhalas y Nannau. Ymddengys fod ei thad a'i mam wedi ymadael erbyn hyn o'r Gwynfynydd, a dyfod i fyw i'r Nannau. Ac yma hefyd y bu John Griffith a Jane Roberts am beth amser. Clywsom mai i Gwmeiddew y daethant gyntaf i ardal Corris, ac iddynt fod yno am ddwy flynedd cyn symud i'r Rugog. Clywsom hefyd mai yno yr oeddynt pan y priododd Elisabeth fab y ffarm agosaf, sef Dafydd Humphrey, Ty'ny- ceunant.
Cawsom enwau chwech o blant John Griffith a Jane Roberts, sef, Griffith, John, Lowri, Dorothy, Ellin, ac Ann. Bu Griffith farw yn ddibriod yn y Llwyn, yn ardal yr Ystradgwyn. Os hysbyswyd ni yn gywir, yr ail fab, John, oedd yr un y bu Humphrey Davies, Abercorris, yn dysgu galwedigaeth lledrwr gydag ef yn Mhenygarreg, Corris, ac wedi hyny yn Nhremadog. John Jones y gelwid ef, a bu yn dilyn ei alwedigaeth yn y lle diweddaf am lawer o flynyddoedd. Bu Ellin yn wraig Cwmllowi, gerllaw Abergwidol, yn Mhenegoes, am amser maith. Thomas Jones, Tynyberth, oedd gwr Ann; ac y mae un mab iddynt, o'r enw Evan Jones, yn byw yn awr yn Cwmllowi. Bu un arall o'r enw Griffith Jones farw yn ddiweddar. Gallwn ein hunain gofio Dorothy,—Doli Jones, o’r Werglodd Ddu, yn ardal yr Ystradgwyn, a mam Mrs. Anne Morgans, yr hon sydd yn awr yn byw yn Nghorris.
Ar tudalen 61 cyfeirir at y Parchedig Rowland Hill ar daith trwy ranau o Feirion gyda'r Parchedig Thomas Charles, o'r Bala. Digwyddodd i ni yn ddiweddar alw gyda Mrs. Jones, Machynlleth; a dangoswyd i ni yno lythyr wedi ei ysgrifenu gan Mr. Charles, o Hoxton, cartref Arglwydd Hill, o'r hwn le yr oedd Mr. Hill ac yntau i gychwyn ar eu taith. Yn y llythyr hwn ceir dyddiad y daith uchod, sef Medi, 1806. Bwriadent fod yn Nghorris un boreu, a myned ymlaen i Fachynlleth at yr hwyr. Yn Llanidloes y bwriadent dreulio y Sabbath canlynol; a digon tebyg i'r bwriad gael ei gario allan.
Cawsom sicrwydd i'r Parchedig Ebenezer Morris hefyd dalu ymweliad unwaith a Chorris. Yr oedd y diweddar Mr. Thomas Jones, Parliament Terrace, Liverpool, yno yn gwrando arno, a derbyniasom y dystiolaeth ganddo ef ei hun. Yr oedd ar y pryd yn egwyddorwas gyda Mrs. Foulkes, yn Machynlleth. Yr oedd mab i Mr. Morris yno yr un adeg, ac aeth y ddau ynghyd i Gorris i wrando ar y gwr parchedig yn pregethu.
Nid ydym yn sicr fod yr hyn a ddywedir ar tudalen 42 yn gywir :-"Adeiladodd (Humphrey Davies) factory i drin gwlan." Dywedwyd wrthym fod yr hen factory wedi ei hadeiladu cyn ei ddyddiau ef; ond gan bwy ni dderbyniasom hysbysrwydd. Ac nid ydyw erbyn hyn o nemawr bwys.
Derbyniasom rai newyddion ychwanegol gyda golwg ar symudiadau Samuel Williams, Rugog. Yn 1825, y daeth gyntaf i Gorris. Bu am chwe' mis wedi hyny yn yr Ysgol yn Kerry, Swydd Drefaldwyn. Dan bregeth o eiddo Edward Rees, oddiwrth Luc xiv. 24, y cafodd dröedigaeth, yr hwn a bregethai y tro hwnw yn Ystabl y Fronfelen. Preswyliai S. W., ar y pryd yn Caecenaw; ac ymddengys mai i'r Felin yr aeth gyntaf i'r society. Yn eglwys Corris y dewiswyd ef yn flaenor, yr un adeg a William Jones, Tan’rallt ; ond yn Aberllefenni, ni a gredwn, y llafuriodd yn benaf o'r cychwyn. Wrth gyfeirio at Mr. Evan D. Humphreys, ar tudalen 166, dylasem ychwanegu ei fod yn aelod o Ddeddfwrfa Talaeth Vermont,—sefyllfa wir anrhydeddus. Edrychir i fyny ato fel gwr o ddylanwad yn y dalaeth.
Wrth gyflwyno ffrwyth ein llafur i'r cyhoedd, nid oes genym ond gobeithio y bydd, er pob anmherffeithrwydd, yn meddu rhyw gymaint o werth i bawb a deimlant unrhyw ddyddordeb yn yr ardaloedd hyn, yn gystal ag i lawer eraill a gymerant ddyddordeb yn hanes Methodistiaeth. Pe buasai y gorchwyl wedi ei gyflawni ddeugain mlynedd yn ol, buasid wedi diogelu llawer o bethau dyddorol sydd wedi myned erbyn hyn ar goll; ond y mae yn aros eto yn ddiau mewn gwahanol fanau lawer o ffeithiau nad ydynt yn ein meddiant. Teimlwn yn dra diolchgar i bwy bynag a anfono i ni ryw hanesion a daflant unrhyw oleuni ar unrhyw gyfran o hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd. Hoffem gasglu ynghyd "y briwfwyd gweddill ” sydd yn wasgaredig ymhlith y brodorion yn ngwahanol ardaloedd Cymru, yn America ac Awstralia, yn gystal ag ymysg y preswylwyr presenol, "fel na choller dim."
- GRIFFITH ELLIS.
Bootle, Medi 21, 1885.
——————♦——————
GWELLIANT GWALLAU
——————♦——————
tud 3, llin, 17, yn lle 'poblogaidd,' darllener poblog.
tud 28, llin, 5, gadawer allan 'Blaenau.'
tud 21, llin, yn lle wasanaeth,' darllener wasanaethgar,
tud 48, llin, ar derfyn y llinell olaf gadawer allan 'ac,'
tud 57, llin, 4, gadawer allan iddo.
tud 12, yn lle 'lletya,' darllener letya.
tud 66, llin, 18, ar ol y gair 'bellach,' darllener oddieithr y diweddaf-
tud 67, llin, 5, yn lle (Elizabeth,' darllener Elinor.
tud 88, llin, 20, yn lle'dani,' darllener yr Eglwys.
tud 92, llin, 6, yn lie 1854,' darllener 1860.
tud 98, llin, 24, darllener pregethu yn Nghapel Seion, Llanwrin.'
tud 99, llin, 21, yn lle na plum 'mlynedd,' darllener na phedair blynedd.
tud 114, llin, 23, yn lle 'ar yr Hebreaid,' darllener ar Lyfr Job.
SYLWADAU RHAGARWEINIOL.
——————♦——————
TREF-DDEGWM yn mhlwyf Talyllyn, Swydd Feirionydd, ydyw Corris; ond defnyddir y gair yn fwy cyffredin fel enw ar ardal gyfansoddedig o'r dref-ddegwm uchod, a rhan o dref- ddegwm Ceiswyn, yn yr un plwyf. Yn y lle ei hun cyfyngir yr enw i'r pentref gwasgarog sydd wedi ei adeiladu ar derfyn y ddwy dref-ddegwm. Mae y pentref hwn ryw bum' milldir a haner o Fachynlleth, a thua deng milldir o Ddolgellau. Cyn dyddiau y rheilffyrdd yr oedd y ffordd sydd yn cysylltu y ddwy dref uchod, ac yn myned drwy Gorris, y brif dramwyfa rhwng Dê a Gogledd Cymru. Cafodd yr ardal felly lawer o freintiau pan oedd y pregethu teithiol yn ei ogoniant, ond fod y breintiau yn dyfod yn gyffredin ar ganol dydd,—adeg hynod anghyfleus i lawer o'r ardalwyr.
Llechweddog ac anwastad yw y tir ar ba un y saif y pentref, yn nghyfarfyddiad tri o gymoedd culion; ac y mae y bryniau uchel sydd o'i amgylch yn ymgau arno o bob tu. Pe safai dyn ar ei ganol,—yn ymyl y Ty-newydd, preswylfod Mr. Humphrey Davies, dyweder,—ni allai, gan dröadau ac anwastadrwydd y cymoedd, ac agosrwydd y bryniau, weled mwy na milldir i unrhyw gyfeiriad. Cauir y trigolion gan hyny i fesur mawr i gymundeb â'r ddaear dan eu traed, ac â'r nefoedd uwch eu penau, a gorfodir hwy i ddibynu ar ymweliadau achlysurol am wybodaeth ynghylch, hyd yn nod, y rhanau agosaf atynt o'r byd. Nid llawer o brydferthwch a berthyn i'r golygfeydd, er fod y coedwigoedd ar y naill law, a'r grûg a'r clogwyni ar y llaw arall, yn swynol, yn enwedig i ymwelwyr. Mae y llech-chwarelau wedi anffurfio cryn lawer ar wyneb y ddaear yno, a pheri i'w hesgyrn dremio yn hyllig trwy ei chroen; ond anhawdd, er hyny, yw cael unrhyw gymydogaeth yn meddu gafael dynach yn serch ei thrigolion. Cofiant am dani yn eithafoedd y ddaear, a llawenychant pan gaffont eilwaith olwg ar ei chymoedd a'i hafonydd, ei chlogwyni a'i mynyddoedd, ac yn enwedig ar weddill arbedol ei phreswylwyr.
Yn mlaen un o'r tri chwm a nodwyd, ychydig yn llai na dwy filldir o bentref Corris, y mae ardal Aberllefenni. Cymer yr ardal ei henw oddiwrth yr hen balasdy, sydd yn awr yn feddiant i R. D. Pryce, Yswain, Cyfronydd, Arglwydd Raglaw Sir Feirionydd. Wrth yr hen balasdy, y mae y cwm yn ymranu yn ddau: y naill o'r rhai hyn yw Cwm yr Hengae; ac y mae y llall, cyn cael unrhyw enw, yn ymranu yn ddau eraill, sef Cwm y Ddolgoed (neu Ceiswyn, ac yn ddiweddar yr Alltgoed), a Chwm Llwydiarth. Cofus genym glywed mai saith milldir yw y pellder o'r bont, gerllaw y palasdy, i Fachynlleth, Dolgellau, a Dinas Mawddwy; ond amheuasom gywirdeb y mesuriad lawer gwaith wrth gerdded y llwybrau meithion dros y mynyddoedd i'r ddau le olaf. Nid yw y mynyddoedd lawn mor agos yma ag ydynt yn Nghorris; ac y mae Dol y Felin a Gweirglodd Arthur yn rhoddi yn ddiau i'r Cwm fwy o hawl i urddas Dyffryn na dim y gellid yn rhesymol ei seilio ar Gae Dolybont a Gweirglodd Braichgoch yn Nghorris.
Yn yr ail Gwm, ar hyd ochr pa un y gorwedd y ffordd newydd rhwng Machynlleth a Dolgellau, y ceir yn awr y rhan fwyaf o'r boblogaeth. Yma y mae ardaloedd y Geuwern a Thy'n y berth. Wedi gadael y ddiweddaf o'r tu ôl, a myned ychydig ymlaen i gyfeiriad Dolgellau, deuir i ardal Ystradgwyn, yn gorwedd mewn dyffryn bychan, prydferth, a dymunol. Yn ngwaelod y dyffryn y mae Llyn Talyllyn,—y pysgodlyn goreu yn ddiau yn Nghymru; ac uwch ei ben y saif urddasol Gadair Idris. Mae y golygfeydd ar bob llaw, wrth fyned o Minffordd, amaethdy a arferai fod hefyd yn westy hyd yn ddiweddar, tua Dolgellau, gan adael y dyffryn a’r llyn o’r tu ol, mor ramantus ag unrhyw olygfeydd braidd yn Ngogledd Cymru. Wrth gongl isaf y llyn y mae hen Eglwys y plwyf, lawn saith milldir oddiwrth yr amaethdai yn mlaen Cwm Ceiswyn. Ond er y pellder, yr oedd amryw flynyddoedd o’r ganrif bresenol wedi myned heibio cyn bod un addoldy arall yn y plwyf; ac nid oedd ynddo yr un gladdfa oddieithr yr un gerllaw yr Eglwys hyd 1846.
Ar ganol y dyffryn y mae yn awr gapel bychan, perthynol i’r Methodistiaid. Gerllaw iddo y mae y llanerch a adwaenid gynt fel “Mawnog Ystradgwyn,” ond sydd yn awr yn feusydd trefnus a chynyrchiol. Bu y lle hwn am lawer o flynyddoedd yn fan cyfarfod “bechgyn Corris” a “bechgyn Ystradgwyn” i gicio pêl droed. Tua dwy filldir yn nes i Dowyn na’r hen Eglwys y mae pentref poblog Abergynolwyn. Mae y Cwrt wedi ei golli yn awr yn yr Aber. Saif y pentref hwn ar derfynau plwyfi Talyllyn, Towyn, a Llanfihangel-y-pennant. Yn ystod y pum’ mlynedd ar hugain diweddaf, y mae agoriad chwarel Bryneglwys wedi peri i’r ardal hon wisgo gwedd hollol newydd.
I gyfeiriad Machynlleth y rhêd y trydydd o’r cymoedd. Ychydig gyda milldir o Gorris y mae pentref Esgairgeiliog. Trwy y crybwyllion uchod, bydd gan y darllenydd ryw syniad am safle a pherthynas y gwahanol leoedd a ddaw dan sylw yn y tudalenau dyfodol.PENOD I
—————♦—————
TREM AR AGWEDD CORRIS A’R AMGYLCHOEDD
TUA DIWEDD Y GANRIF O’R BLAEN.
YN 1801 nid oedd poblogaeth plwyf Talyllyn ond 633; ac yn 1811 yr oedd wedi gostwng i 596. Mewn ‘Adgofion’ a ysgrifenwyd ganddo, dywed Rowland Evans, o’r Felin, Aberllefenni, nad oedd yn nhref-ddegwm Corris, a thref-ddegwm Ceiswyn, yn 1810, ond 69 o dai, sef 39 o amaethdai, a 30 o fwthynod cyffredin, y rhai a breswylid gan weithwyr tlodion. Yr adeg hono, gan hyny, nis gallai poblogaeth Corris ac Aberllefenni fod uwchlaw 350.
Caled a thlodaidd oedd bywyd yr amaethwyr, a hynod syml oedd eu hymborth a’u gwisgoedd. Nid oedd y tir yn fras o gwbl; a thra chyntefig oedd nodwedd eu hamaethyddiaeth. Syml iawn oedd yr offer amaethyddol. I’r Hengae y daeth y bedrolfen (waggon) gyntaf erioed yn y plwyf, a mawr fu yr helynt i wneyd unrhyw ddefnydd o honi. Am lwyth o galch i Gulyn Pimwern yr anfonwyd hi y siwrnai gyntaf, a chyda hi dri o ddynion cryfion i gymeryd ei gofal. Wedi cyraedd pen y daith, nid oedd ganddynt un ffordd i’w throi yn ôl ond trwy roddi eu hysgwyddau o dan y naill ben, a’i gario o gwmpas, nes bod y pen arall a’i gyfeiriad tua chartref. Wedi ei llwytho, deuwyd yn weddol lwyddianus nes cyraedd y drofa gerllaw Abercorris, pryd yr aeth un o’r olwynion yn erbyn ei hochr, ac y methwyd myned ymlaen gam yn mhellach. Penderfynwyd ei gollwng gan hyny ychydig yn ôl, ond y canlyniad fu i ysbryd cyfeiliorni gael y llaw uchaf arni, ac iddi yn anffodus droi ei gwyneb eilwaith tua Chulyn Pimwern. Erbyn hyn yr oedd y mater wedi myned mor ddifrifol fel nad oedd dim i'w 'wneyd ond myned i erfyn ar Mr. Owen, Braichgoch, — oracl y gymydogaeth, ddyfod i estyn cyfarwyddyd. A thrwy nerth y gweision oedd wrth ei alwad, yn hytrach na thrwy unrhyw ddoethineb neillduol o’i eiddo yntau, y llwyddwyd, wedi llawer o chwysu a baeddu, i droi gwyneb y bedrolfen gyfeiliornus unwaith yn ychwaneg tua’r Hengae. Yr oedd cert eisoes mewn ychydig o’r ffermydd mwyaf, ond y ffordd gyffredin gan y man ffermwyr i gludo nwyddau oedd, ar ysgwydd dyn, neu gefn ceffyl. Codid rhyw gymaint o geirch ymhob fferm. Yr oedd "codi clwydaid o geirch" yn ymadrodd cyffredin ymysg y trigolion. Dyrnid ef bob amser cyn yr adeg i droi yr anifeiliaid i mewn dros y gauaf; a chan y prif amaethwyr cymerid ef i'r Felin yn y gert, ond gan y man amaethwyr benthycid ceffylau y cymydogion, ac wedi gosod pwn ar gefn pob un, hebryngid hwy yn rhes faith tua’r Felin. Byddai yn gyffredin hogyn neu ddau gyda phob ceffyl, er mwyn y pleser o gael eu cario adref; ac arolygid yr orymdaith bob amser gan yr amaethwr ei hun. Diwrnod pwysig oedd y dydd y byddai "clwydaid o geirch" ar ei ffordd i’r Felin; ac nid oedd cyffelyb iddo ar hyd y flwyddyn ond y dydd y cyrchid y "glwydaid" yn ol.
Un adeg ar oes Hugh Humphrey, o Lwydiarth, nid oedd ceir llusg i gludo gwair amser cynhauaf yn bethau cyffredin; a lled anhwylus a thrafferthus fyddai gyda hwynt yn fynych yn y manau lle byddent. Yn y Fronfraith, ryw dro, yr oedd helynt anghyffredin. Pallodd amynedd Hugh Humphrey, a gorchymynodd iddynt ddadfachu y ceffylau, a chodi y car a’r llwyth ar ei ysgwyddau ef. Yr oedd yn ei ddyddiau goreu yn gawr mewn nerth; a buan iawn y rhoddodd y baich hwn i lawr ar ben y bryn. Oddiwrth y ffeithiau hyn, gwelir mai tra chyntefig oedd amaethyddiaeth y dyddiau hyny o angenrheidrwydd yn ei holl ranau.
Yr oedd dillad yr amaethwyr bob amser o wneuthuriad cartrefol. Ni byddent byth yn gwerthu y gwlan, ond yn ei gribo, ei nyddu, a’i wau gartref, er gwneuthur o hono wahanol ddilladau at angenion y teuluoedd. Yn y gauaf dyma fyddent y gorchwylion cyffredin; a rhaid oedd i bob gorchwyl arall a phob ymddiddan fyned ymlaen yn sŵn chwyrlïad y troellau.
Trwy lafur caled a chyson y llwyddai yr holl amaethwyr i ddiwallu eu hangenion eu hunain a’u teuluoedd; ac ychydig a brynid ganddynt o ddefnyddiau ymborth na dillad. Ar gynyrchion eu tiroedd yr oeddynt yn ymborthi ac yn ymwisgo ond yr oedd yr ymborth yn iachus, a’r dillad hefyd yn gynes a gweddus. Ac yr oedd eu bywyd, er bod yn galed, yn un gweddol foddlawn.
Ar y llafurwyr yr oedd yn fwyaf prin. Anfynych y gallai yr amaethwyr roddi gwaith iddynt, oddieithr pan fyddai angen codi clawdd cerig o gwmpas darn o ffridd neu fynydd; a gorfodid hwy gan hyny i fyned i ardaloedd eraill yn fynych i ymofyn am dano. Cyflogent weithiau wrth y flwyddyn neu yr wythnos, a phrydiau eraill gweithient wrth y darn; ond bob amser bychan fyddai y cyflog. O drugaredd yr oedd llaeth a phytatws yn weddol helaeth a rhad; a mawn o’r mynyddoedd fyddai y tanwydd cyffredin, y rhai a geid mewn cyflawnder am ddim, ond y drafferth o’u tori a’u cynhauafa. Yr oedd gan eu gwragedd a’u plant gynlluniau, a ymddangosant erbyn hyn yn lled ddieithr, i enill ychydig geiniogau. Un cynllun ydoedd crafu y cèn .[1] (lichen) oddiar y cerig llwydion yn y cymoedd a'r carlegoedd. Defnyddid hwn at liwio; a chesglid ef y pryd hwnw gan y tlodion mewn rhanau o Loegr ac Ucheldiroedd Scotland yn gystal ag yn Nghymru. A byddai gan yr amaethwyr gynllun arall. Yn yr hâf casglent a llosgent lawer o redyn gleision er mwyn gwerthu eu lludw, yr hwn a ddefnyddid weithiau i wneuthur sebon, a phryd arall i wneuthur math o wydr.[2] Yn ei lyfr dyddorol ar NANWS Ach RHOBERT, dywed Elis o'r Nant ddarfod i Nanws y flwyddyn yr adeiladwyd y capel cyntaf yn Dolyddelen (1782) wneuthur naw punt oddiwrth ludw rhedyn, cyfran o ba rai a gysegrodd at y draul. Dywed iddi adeg arall wneuthur saith swllt oddiwrth y cèn a gasglasai, a rhoddi pedwar o honynt at adeiladu y capel cyntaf yn Ffestiniog. Gwerthai y lludw am chwe'swllt yr hôb, a'r cèn am geiniog a dimai y pwys. Ond nid ymddengys fod trigolion Corris wedi enill unrhyw hynodrwydd gyda'r fasnach, na sicrhau iddynt eu hunain oddiwrthi y manteision a enillwyd mewn rhanau eraill o’r deyrnas.
Ymhell wedi dechreu y ganrif bresenol nid oedd yn Nghorris un math o fasnachdy. Nis gellid cael cymaint ag wns o dê yn nes na Machynlleth; ac nid oedd tafarn ychwaith yn nes na Minffordd hyd agoriad y chwarelau, ryw driugain mlynedd yn ol. Nid oedd, yn wir, yn nechreu y ganrif ond dau dŷ rhwng yr hen dŷ a elwid y Pentref (nid oes dim o’i olion i’w cael er’s blynyddoedd bellach) gerllaw y bont yn ngwaelod y pentref presenol, ac Abercorris (sydd yntau wedi myned tan gyfnewidiad), sef y ddau dŷ y bu y brodyr John a Harri Rowland yn byw ynddynt am gynifer o flynyddoedd. Y pryd hwnw gelwid y naill yn "dŷ Edward Rowland” (tad y brodyr uchod), a’r llal yn "dŷ Marged Miles." Yn achlysurol byddai gŵr o’r enw Edward Jones, Erw lepa, yn gwerthu ychydig geirch; ond ar adegau o brinder (y rhai nad oeddynt anaml) gorfodid y tlodion i gyrchu defnydd eu lluniaeth o bellder mawr. Adroddir am John Richard, un o’r hen bererinion y crybwyllir am dano mewn penod ddilynol, yn gorfod myned i le yn agos i’r Abermaw ar adeg felly i geisio ychydig o rûg,—pellder o bymtheg neu ddeunaw milldir.
Tua’r adeg uchod isel iawn hefyd oedd agwedd foesol a chrefyddol yr ardalwyr. Nid oedd meddwdod yn bechod cyffredin yn eu mysg: yr oeddynt yn rhy dlodion i fod yn feddwon. Ond yr oedd eu hanwybodaeth yn gaddugawl, eu hiaith yn isel, llwon a rhegfeydd yn gyffredin yn eu phth, a’u caledwch a’u hanystyriaeth yn eithafol. hawdd fyddai i ni yn yr oes hon osod allan bechodau y dyddiau gynt yn dduach o lawer nag oeddynt; ac wrth siarad am danynt priodol fyddai i ni gofio anfanteision yr amseroedd. Llawer iawn o chwareu oedd ymysg yr hen drigolion, a’r chwareuon weithiau yn ddiniwed, ond ar brydiau eraill yn farbaraidd. Dydd i segura a chwareu oedd dydd yr Arglwydd yn eu mysg i fesur mawr. Yr oedd cryn bellder i Eglwys y plwyf; a byddai y chwareu yno yn cymeryd llawn cymaint o’r amser a’r "gwasanaeth." Chwareu y byddai pawb, — y plant, y bobl ieuainc, a’r bobl mewn oed; yn unig y byddai chwareuon y gwahanol ddosbarthiadau yn amrywio. Taflu maen, codi pwysau trymion, ymaflyd codwm, cicio y bêl .droed, ac ymladd ceiliogod oeddynt y rhai mwyaf cyffredin; ac mewn cysylltiad â’r rhai hyn byddai llawer o hapchwareu am symiau bychain; a therfynent weithiau mewn meddwdod ac ymladdau.
Cyn dyfodiad y Methodistiaid i’r fro, yr unig wasanaeth crefyddol, fel y crybwyllwyd, oedd yr hwn a gynhelid yn Eglwys y plwyf. A chan fod Eglwys Llanfihangel dan ofal yr un clerigwr, ni chynhelid ond un gwasanaetb yn y dydd yn y naill a’r llall; ac nid llawer a wyddai y clerigwr ei hun am grefydd. Nid oedd yn beth anghyffredin iddo orfod ymneillduo am ychydig ar ganol y gwasanaeth, er mwyn bod yn alluog i’w orphen gyda mwy o rwyddineb a gweddeidd-dra. Ymhell ar ol yr adeg uchod, nid ystyriai y clerigwr yr oedd gofal ysbrydol y ddau blwyf arno, ei fod o gwbl yn "weinidog yr efengyl," er yr edrychai ar ei safle fel "gwas y frenhines" yn un anrhydeddus. Ychydig oedd nifer y gweinidogion yn yr Eglwys Sefydledig yn haner olaf y ganrif ddiweddaf a ofalent ddim am grefydd ysbrydol; ac yr oedd llawer o honynt yn byw mewn anfoesoldeb cyhoeddus.
Tua’r adeg uchod yr oedd ychydig o breswylwyr Corris ac Aberllefenni yn arfer mynychu gwasanaeth yr Eglwys. Merch .Mr. a Mrs. Owen, y Ddolgoed, oedd gwraig y clerigwr oedd yno ar un adeg; a byddai ei rhieni yn lled gyson yn y llan. Dau eraill a elent yno yn fynychach na’r cyffredin oeddynt Meredydd Evan, a Richard Evan,—y cyntaf yn enwedig,—er nad oedd y naill na'r llall yn gwybod rhyw lawer am grefydd. A haedda yr hen foneddiges, Mrs. Anwyl, o’r Hengae, grybwylliad parchus. Gwraig dra defosiynol oedd hi bob amser; a pharhaodd i fynychu y gwasanaeth gyda chysondeb, trwy wendid a llesgedd mawr, hyd ddiwedd ei hoes. Ar gefn hen gaseg ddu o’r enw Gipsy yr arferai fyned: ond yn ei blynyddoedd olaf, gan nas gallai ymgynal ar y cyfrwy, yr oedd ganddi fath o gadair, wedi ei gorchuddio â brethyn gwyrdd, i eistedd arni, gyda hogyn o was y tu ol, i estyn iddi unrhyw gymorth angenrheidiol. Yr oedd yr hogyn hwn yn hynafgwr yn nyddiau ein mebyd ni; ac y mae wedi marw bellach er’s mwy nag ugain mlynedd. Yn araf iawn y symudai Gipsy; ac anmhosibl ydyw peidio teimlo parch i’r hen foneddiges a elai fel hyn bellder o chwech neu saith milldir i wasanaeth yr Eglwys ar y Sabbathau. Ar y Sadwrn o flaen Sul y cymun, arferai anfon ymborth i’r Tymawr, er mwyn i’r gweision a elent i’r llan gael eu ciniaw yno.
Gyda’r lliaws, pa fodd bynag, nid oedd rhoddi eu presenoldeb yn yr addoliad yn beth cyffredin; a thra bydol oedd amcanion ambell un a wnai hyny. Wrth Efail y Gôf, yn Nghorris, un tro, gofynai bugail Aberllefenni i gyfaill, "A ydych chwi yn myned i’r llan y Sul nesa’" "Na," meddai yntau, "dydw’ i ddim yn gwybod am ddim neillduol yn galw y Sul nesa’." "Byddai yn dda iawn gen’ i," meddai y bugail, "wybod am rywun yn myn’d, oblegid y mae yn y Tyrau Hirion lwdn yn perthyn i Rywogo’; ac y mae arna’ i ofn garw iddo fyn’d oddi-yno cyn iddyn’ nhw glywed am dano fo." "O, wel," meddai ei gyfaill defosiynol a charedig, "os oes rhyw achos fel yna yn galw, mi a’ i yno, a chroesaw." Ac nid ymddengys y teimlai neb fod neges o’r fath mewn un modd yn anghyson âg amcan y gwasanaeth, nac â sanctciddrwydd y dydd; canys yr oedd yn arferiad cyson yno i gyhoeddi arwerthiadau ac i wneuthur hysbysiadau amaethyddol ar y fynwent ar ol y gwasanaeth, cyn i’r gynulleidfa ymwasgaru. Dywedir mai Richard Anthony, yr hwn y daw ei enw gerbron fel un o Fethodistiaid boreuaf Corris, ac a wasanaethai ar y pryd fel clochydd yr Eglwys, a roddodd derfyn bythol ar yr arferiad.
Brysiog iawn yw y drem uchod ar sefyllfa yr ardaloedd hyn cyn cyfodiad Methodistiaeth; a thra anhawdd i ni yn awr ydyw ei sylweddoli yn briodol. Gan’ mlynedd yn ol nid oedd na newyddiadur na chyfnodolyn wedi bod erioed o fewn y plwyf. Ychydig iawn o’r preswylwyr a fedrent lythyren ar lyfr: canys nid oes hanes am ysgol o un math yno am flynyddoedd wedi hyny. Ac ychydig iawn o lyfrau o fath yn y byd ocdd yn meddiant neb o’r plwyfolion. Nid oes neb heb wybod am "Mary Jones, y Gymraes fechan heb yr un Beibl," o Lanfihangel,—y plwyf agosaf i Dalyllyn, yr hon y bu ei hymweliad â Mr. Charles o’r Bala yn achlysur sefydliad y Feibl Gymdeithas. Yn 1785. yr ymunodd Mr. Charles â’r Methodistiaid; a thrwy ei lafur ef y dygwyd yr Ysgol Sabbothol i fodolaeth yn Nghymru. Ni ddymunem ddibrisio unrhyw wasanaeth i grefydd a wnaed gan yr Eglwys Sefydledig yn ein plwyf genedigol; ond credwn y byddai yn anhawdd dangos fod ei sefyllfa bresenol yn ddyledus i ddim a wnaed ganddi yno cyn cyfodiad Methodistiaeth. Nid ymdrechion ei hoffeiriaid hi a newidiodd arferion ac a ddyrchafodd foesau y preswylwyr; na, gwnaed hyn, a dweyd y lleiaf, heb eu cymorth os nad er eu gwaethaf hwy.
Cafodd y Methodistiaid, meddir, ganiatad unwaith, ar eu dyfodiad i'r plwyf, neu ynte ymhen ysbaid ar ol hyny, i gynal Ysgol Sabbothol yn yr Eglwys; ond anfonwyd cwyn at yr Esgob fod gŵr di-urddau yn gweddio yn yr adeilad cysegredig, a rhoddwyd terfyn buan ar yr afreoleiddra. Ac nid hawdd ydy’w anghofio y ffeithiau hyn pan wahoddir ni gan glerigwyr y dyddiau presenol i ddychwelyd eilwaith i fynwes yr Eglwys. Mangre eithaf tywyll a fu Eglwys Talyllyn am lawer o flynyddoedd wedi i oleuni yr efengyl ddyfod i dywynu gyda nerth mewn lleoedd eraill. Gellir dyddio pob gwelliant yn agwedd foesol a chrefyddol y boblogaeth o gyfodiad Methodistiaeth yn y plwyf.PENOD II
CYCHWYNIAD METHODISTIAETH YN NGHORRIS
Ryw adeg cyn y flwyddyn 1780, symudodd gwraig, o’r enw Jane Roberts, o’r Nannau, ger Dolgellau, i’r Rugog, — fferm sydd tua haner y ffordd o bentref Corris i hen Eglwys Tal-y-llyn. Aethai y wraig hon, un tro, o’r Nannau i odfa yn Maes-yr-afallen, o fewn tua thair milldir i’r Abermaw, gerllaw y ffordd oddiyno i Ddolgellau, lle yr arferai yr Annibynwyr bregethu yn achlysurol. Er mwyn cadw yn ddirgel amcan ei mynediad oddicartref, gosododd o dani ar y ceffyl sachaid o wair, fel y gallai y rhai a’i gwelent dybio mai sachaid o wlan i’w gymeryd i’r factory oedd ganddi. Y pregethwr y tro hwnw oedd yr hybarch John Evans, o’r Bala; ac nid anghofiodd Jane Roberts y bregeth byth. Rywbryd wedi ei dyfodiad i’r Rugog clywodd fod rhyw frawd yn dyfod i bregethu i Abergynolwyn; a chymhellodd ei merch Elisabeth, oedd ar y pryd newydd briodi, a'i mab-yn-nghyfraith, Dafydd Humphrey, Abercorris, i fyned gyda hi i'r odfa. Dyma un o’r pregethau cyntaf erioed gan y Methodistiaid yn y plwyf. Mor hynod dlodaidd oedd y plwyf, ac mor deneu ei boblogaeth, fel nad ymddengys i neb o’r diwygwyr Methodistaidd mewn adegau boreuach dalu ymweliad âg ef o gwbl.
Nid ydyw yn hollol sicr pwy oedd y pregethwr. Yn 'Nrych yr Amseroedd' rhoddir hanes pregeth, yr hon y dywedir gan awdwr parchedig 'Methodistiaeth Cymru' (i. 569, 570) oedd y gyntaf gan y Methodistiaid yn y plwyf. Dyma yr hanes yn ngeiriau y Parchedig Robert Jones, Rhoslan:—
"Tro nodedig iawn a fu mewn pentref bychan, a elwir Abergynolwyn. Anturiwyd yno i bregethu ar brydnhawn Sabbath. Erbyn dyfod yno, yr oedd golwg lidus, greulon, ar y dorf liosog a ddaethai ynghyd, fel yr oedd yn aeth ac yn ddychryn meddwl wynebu arnynt; canys nid oedd odid un o honynt a welsai bregethwr, nac ychwaith broffeswr yn un Ile. Cafwyd llonydd gweddol i gadw y cyfarfod mewn modd annisgwyliedig. Ond erbyn clywed pa fodd y cafwyd Ilonyddwch, canfyddwyd fod llaw ddirgelaidd Rhagluniaeth yn sicr yn y tro. Digwyddodd fod gŵr yn byw yn yr ardal a elwid John Lewis; buasai hwnw dro neu ddau yn gwrandaw pregethu, ac yr oedd wedi ei dueddu i feddwl ei fod yn waith da. 'Roedd gan y gŵr hwn fab- yn-nghyfraith (neu fab gwyn, fel y galwent ef) ag oedd yn aruthrol o gryf. Dywedodd yr hen ŵr wrtho fod y rhai'n a'r rhai'n yn bwriadu erlid ac anmharchu y gŵr dieithr yma heddyw: ' ac (ebe fe) ni byddai raid i ti ond eu bygwth, mae'n sicr y byddent yn ddigon llonydd.' Bu y dyn yn falch O'r swydd; bygythiodd hwynt yn erwin, a pharodd ei arswyd yn nhir y rhai byw. Ni bu y cyfarfod heb radd o arddeliad arno. Ac o hyny hyd heddyw, mae pregethu yn yr ardal, a gradd o lwyddiant ar y gwaith Drych yr Amseroedd, tudalen, 119.
Mae yn weddol eglur mai y pregethwr yn yr amgylchiad hwn
ydoedd yr hanesydd ei hun ; ond nid yw mor eglur pa un ai y
bregeth hon ai ynte un arall yr aeth y tri a enwyd o ardal
Corris i'w gwrando. Wrth roddi hanes yr odfa yn 'Methodistiaeth
Cymru (i. 569) dywed y Parchedig John Hughes mai Robert
Jones oedd y pregethwr : ond pan yn rhoddi hanes mynediad
Dafydd Humphrey, a'i briod, a'i fam-yn-nghyfraith' i'r un odfa
(tudalen 579) awgryma fod amheuaeth pa un ai Robert Jones,
Rhoslan, ai Thomas Evans, Waunfawr, oedd y pregethwr. Yn
y Drysorfa,' 1840, dywedir mai y diweddaf ydoedd. Cawsai
ysgrifenydd yr hanes hwnw, sef y diweddar Mr. Daniel Evans
(wedi hyny o Gaergybi a Chaernarfon), yr hwn oedd ar
y pryd yn ysgolfeistr yn Nghorris, fantais i ymddiddan â'r
hen batriarch ; ac yr oedd yn ddiau yn ysgrifenu yr hyn oedd
yr argraff gyffredin ymysg ei berthynasau a’i gyfeillion yn ebrwydd ar ol ei farwolaeth, os nad yr hyn a glywsai ganddo ef ei hun. Gan y dywedir yn ‘Methodistiaeth Cymru’ (i. 580) mai yn 1780 y traddodid y bregeth gan Robert Jones, er y datgenir cyn hyny (i. 569) fod ansicrwydd am yr amser, y tebyg ydyw mai Thomas Evans oedd y pregethwr y tro hwn. Ar y 26ain o Chwefror 1781, yn Eglwys Talyllyn y priodwyd Dafydd Humphrey a’i wraig. Nid yw yn anmhosibl nad oedd pregeth Robert Jones rai blynyddoedd yn foreuach. Y mae, pa fodd bynag, yn rhy ddiweddar bellach i gael sicrwydd ar y mater. Ac nid oes ychwaith sicrwydd am y llanerch lle y traddodwyd y bregeth. Yn ‘Methodistiaeth Cymru’ dywedir mai “ar heol mewn pentref a elwir Abergynolwyn” y cynhelid yr odfa a gofnodir yn ‘Nrych yr Amseroedd.’ Yr oedd gwrych uchel yn agos i’r fan, lle y gwrandawai Dafydd Humphrey, ac wrth y ‘gwrych’ hwnw y gwnaeth “gyfamod â’r Gŵr, i’w gymeryd Ef yn Dduw, a’i bobl yn bobl, a’i achos yn waith iddo tra byddai ar y ddaear.” Mae genym adgof yr arferai ein mam ddywedyd mai wrth ‘Goed y Fedw’ y gwnaethai D. H. y cyfamod y cyfeiriai mor aml ato. Dywed Rowland Evans iddo wneyd y cyfamod ar unwaith ar ddechreu yr odfa. O’r dechreuad bychan hwn y cyfododd Methodistiaeth yn ardaloedd Corris, Aberllefenni, Ystradgwyn, ac Esgairgeiliog.
Yn Maes-yr-afallen, gerllaw yr Abermaw, y gwrandawsai William Pugh a John Lewis, y rhai a ddaethant yn gychwynwyr Methodistiaeth yn y Cwrt, rai pregethau; ac nid yw yn anmhosibl fod a fynent hwy a chael y pregethau cyntaf i Abergynolwyn. Hwynt-hwy, o leiaf, oedd yr unig rai yn y lle a fuasent cyn hyny yn arfer gwrandaw o gwbl ar y Methodistiaid; Yn Maes-yr-afallen hefyd yr achubwyd Jane Roberts; ac felly y mae y cysylltiad yn ddeublyg rhwng y lle hwnw a dechreuad Methodistiaeth yn yr ardaloedd uchod. Mae y dyfyniad canlynol o 'Methodistiaeth Cymru' yn ddyddorol :—
"Yn mhen blwyddyn ar ol hyn y cafodd D. Humphrey gyfleusdra gyntaf i wrando pregeth drachefn. 'Yr oedd gair yr Arglwydd yn werthfawr yn y dyddiau hyny. Cynhelid yr oedfa hon ar Fawnog Ystradgwyn, a phrofwyd chwerwder erledigaeth yn hon hefyd. Ar ol hyn cafwyd un o hen bregethwyr cyntaf y Bala i ddyfod ar ryw Sabbath i ardal Corris (i bregethu) ar fin y ffordd fawr. Yr oedd rhyw rai, ar ol clywed fod pregeth i fod yn yr ardal y Sabbath hwnw, 'wedi danfon offer aflonyddwch, sef llestri tin a phres i'w curo, fel ag i lesteirio i'r bobl glywed beth a ddywedid gan y pregethwr. Ond yr oedd blys cael clywed ar ryw un yno, yr hwn a gipiodd y llestr pres o law y terfysgwr, ac a'i lluchiodd i'r afon. Aed i'w geisio eilwaith, ond bellach ni ellid, gan yr agen a wnaed ynddo, wneyd nemawr ddefnydd o hono."
Yn ffodus digwyddodd i ni, yn ddiweddar, trwy garedigrwydd Mrs. Evan Roberts, Caernarfon, gael gafael ar rai manylion gyda golwg ar y bregeth uchod,—y gyntaf erioed yn ardal Corris gan y Methodistiaid. Yr oedd nain Mrs. Roberts, Sarah Rhys, Ty'nyberth, yn bresenol yn yr odfa,—y pryd hwnw yn wraig ieuanc gyda dau o blant. Yr oedd yr ieuangaf o'r ddau,—Thomas Edward, wedi hyny o Benystaer, ar ei braich, a'r hynaf, Dafydd Tomos, Ty'nyberth, yn grwtyn bychan yn ei llaw. Soniodd Sarah Rhys lawer am yr odfa; a chofiodd ei mab Dafydd Tomos hefyd am dani tra y bu byw. Y pregethwr oedd Dafydd Cadwaladr, a'r lle y pregethai oedd gerllaw Ty'n yr-wdyn, neu Ty'r wdyn, tŷ bychan a safai y pryd hwnw ychydig yn uwch i fyny yn y Cwm na'r Hen Ffactri, ac yn agos i'r Ceunant, oddiwrth ba un y Cymerai Ty'n y ceunant ei enw. Ymddengys fod tomen chwarel Abercwmeiddew yn gorchuddio y llanerch yn awr, a bod yr Engine House wedi ei adeiladu yn lled agos uwch ei phen. Yr oedd hyn debygid tua 1781 neu 1782. Ganwyd Dafydd Tomos rywbryd yn 1778, a digon tebyg ei fod yn dair i bedair blwydd oed pan yn myned i'r odfa yn llaw ei fam. Y tebyg, gan hyny, ydyw i'r bregeth gyntaf gan y Methodistiaid yn Nghorris gael ei phregethu tua'r adeg uchod. Wedi hyn, bu pregethu mor aml ag y gellid ei gael, yn gyntaf yn Llain-y-groes,a thrachefn am yspaid dwyflynedd yn yr Ysgubor goch. Ond yr oedd dygasedd yr hen sarff yn llesteirio i'r efengyl gael arosiad hir yn unlle; eto yr oedd yn ennill calon ambell un. Yn y flwyddyn 1790, yr oedd yno bump wedi cael blâs ar fara y bywyd, sef Dafydd Huniphrey a'i wraig, Jane Roberts, Jane Jones, a Betty Lewis. Wedi i ddrysau eraill gau, buwyd yn pregethu ar ben careg, wrth ddrws tŷ annedd, ar dir Dafydd Humphrey. Gelwid y tŷ hwn yr Hen Gastell; ac wedi ymadawiad y gŵr a'i preswyliai y pryd hyny, gosododd ef i ŵr arall am ychydig o ardreth, ar yr ammod fod pregethu i fod ynddo." (Methodistiaeth CYMRU, i. 580.)
Y "gŵr arall" hwn ydoedd Vaughan Jones, yr hwn oedd gefnder i Dafydd Humphrey, ac hefyd yn dipyn o fardd. Yma, yn yr Hen Gastell, y mae yn ymddangos y dechreuwyd cynal cyfarfod eglwysig yn 1790, pan nad oedd ond pump yn aelodau. Bydded i enwau y rhai hyn gael eu cadw byth mewn parchus goffadwriaeth.
Nid annyddorol fydd ychydig grybwyllion am danynt. Preswyliai Betty Lewis mewn tŷ bychan, ychydig yn nes i Dal-y-llyn na'r Hen Gastell, a elwid yr Hen Shop. Merch iddi ydoedd Cadi Ifan, gwraig John Richard, yr hwn y daw ei enw gerbron yn y benod nesaf, fel un o gydlafurwyr ffyddlonaf Dafydd Humphrey. Wyrion i Betty Lewis gan hyny ydoedd Howell Jones, Cell Iago, yr hwn a grybwyllir mewn cysylltiad â chychwyniad yr achos Methodistaidd yn Aberllefenni; Evan Jones, yr Hen Shop; a Betty Shôn, Tŷ'r Capel.
Mae dyddordeb neillduol yn perthyn i enw Jane Jones, Aberllefenni, fel y gyntaf a ymunodd â'r Methodistiaid o deulu sydd erbyn hyn yn lliosog a dylanwadol yn eu plith. Merch yr hen balasdy ydoedd; ac yr oedd iddi un brawd a phedair o chwiorydd. Y brawd ydoedd y gŵr a fu yn hir wedi hyny yn adnabyddus fel y Parchedig Owen Jones, o'r Glyn, gerllaw Talsarnau. Yn ei ofal ef yr oedd plwyfi Llandecwyn a Llanfihangel-y-traethau; ac efe hefyd ydoedd goruchwyliwr etifeddiaeth Mr. Gore yn Talsarnau. Enw y chwaer hynaf ydoedd Anne, yr hon a ddaeth yn wraig i Mr. Griffith Evans, Tymawr, Towyn. Yr oedd yn nain i'r diweddar Mr. Evans, Maesypandy,—gŵr a fu yn dra adnabyddus a dylanwadol flynyddoedd yn ol, a'r diweddar Mr. Evan Evans, Tymawr; a hen nain i'r Parchedig Griffith Evans, Cynfal. Yr ail ydoedd Catharine, yr hon a ymbriododd â Mr. Poole, Egryn, Dyffryn, ac a gynrychiolir yn awr gan deulu lliosog a pharchus. Merch iddi hi ydoedd Fanny, priod y diweddar Barchedig Richard Jones, o'r Wern; a mam Mr. Griffith Jones, Tymawr, Towyn. Merch arall iddi ydoedd Jane, priod Mr. Rees Davies (a elwid Rhys Dafydd), Taltreuddyn Bach, Dyffryn, a naill y Parchedig William Davies, Llanegryn, a Mrs. William Pryse Jones, Liverpool, a llawer eraill. Y drydedd ydoedd Ellen, priod Mr. Owen Jones, Crynllwyn, Towyn. Hi oedd mam y diweddar Barchedig Owen Jones, Gelli, Sir Drefaldwyn, a nain y gŵr o'r un enw, ac o'r un lle yn bresenol. Pa un o'r ddwy chwaer eraill, Jane a Jannett, oedd yr hynaf, nid yw yn gwbl sicr. Dywedai y ddiweddar Mrs. Grifflth Thomas, Aberystwyth, mai ei mam, Jannett, oedd yr ieuangaf. Ymbriododd Jannett â Mr. David Davies, Skinner, Machynlleth; ac yn mynwent Machynlleth y claddwyd hi a'i phriod, a phedwar o'i phlant. Bu farw Mrs Davies, Tach. 1af, 1822, yn y 75ain flwydd o'i hoedran. Meibion idd hi oeddynt Meistri David Davies, Garnachen Wen, Swydd Benfro, a Robert Davies, Aberystwyth, a merched iddi oeddynt Mrs. Griffith Thomas, a Mrs. Edward Jones, Aberystwyth. Bu farw un ferch iddi, Jane, yn ddibriod. Mr Robert Davies ydoedd tad y Parchedig David Charles Davies, M.A, Bangor; Mr. R. J. Davies, U.H, Cwrtmawr; Mrs. Richard Roberts, a Mrs. D. Jenkin Davies, Aberystwyth. Mab i Mrs. Roberts ydyw Dr. R. D. Roberts, o Caergrawnt. Jane, mae yn ymddangos, arosodd yn Aberllefenni; a gŵr o'r enw Mr. Evans oedd ei phriod. Cyn belled ag y llwyddasom i gael yr hanes, dau o blant fu iddi—un mab ac un ferch. Jane ydoedd enw y ferch; ac ymbriododd â David Jones, o'r Tygwyn, Bryn Eglwys; ac y mae ei disgynyddion yn awr yn lliosog. Mab iddi ydoedd y diweddar Mr,John Jones, Ty'nycelyn; ac y mae yn awr yn fyw o leiaf un ferch iddi, Mrs. Evan Roberts, Fferm, Bodelwyddan. Bu farw Mrs. David Jones, Tygwyn, Mai 20fed, 1847, yn 74 mlwydd oed. Rhaid fod Jane Jones, Aberllefenni, gan hyny yn briod â Mr. Evans ymhell cyn 1790; canys yr oedd ei merch, Jane, y pryd hwnw yn 17 mlwydd oed. Ond yr oedd yn beth cwbl gyffredin i wraig gael ei hadnabod wrth ei henw morwynol. Nid ydym yn gwybod i fab Jane Jones adael ar ei ol ond un mab, sef y diweddar Mr. Dayid Evans, Rhiwbryfdir, Blaenau Ffestiniog. Ei unig fab yntau ydyw Mr. Samuel Evans, Bank, Nefyn.
Hawdd fuasai gwneuthur cofnodion meithion am amryw o'r rhai a enwir uchod. O'r pum' chwaer, dwy yn unig a ymunasant â'r Methodistiaid, sef Jane a Jannett; ond arferai Catharine ac Ellen wrando arnynt, a dangos parch mawr tuag atynt. Un tro yn y Dyffryn, safodd Mrs. Poole wrth ochr y pregethwr, tra yn pregethu, a'i ffon yn ei llaw, i gadw yn dawel ryw ddynion a ddaethent yno i derfysgu; ac mor fawr oedd ei dylanwad fel na feiddiai neb o honynt gyfodi yn ei herbyn. Gwraig o awdurdod ydoedd yn ei theulu, a hynod barchus ymysg ei chymydogion ar gyfrif ei doethineb a'i medrusrwydd. "Gwyr pawb," meddai gŵr y Sylfaen, gerllaw yr Abermaw, unwaith, "fod Catharine Poole yn arfer gwneyd pob peth yn y ffordd oreu." Yn nechreu 1883 y bu farw Mrs. Griffith Thomas, Aberystwyth, yr hon a haedda goffâd parchus fel gwraig nodedig o haelionus. Adroddai unwaith yr hyn a fu yn achlysur iddi profi y rhinwedd hwn. Pregethai gŵr o Sir Feirionydd ryw dro yn ei chlywedigaeth, ac adroddodd am weithred haelionus o eiddo yr hen foneddiges barchus, Mrs. Vaughan, Cefncarnberth, yn y Bwlch, ger Llanegryn. Yr oedd casgliad pwysig at ddyled y capelau i gael ei wneyd yno un Sabbath: methai Mrs. Vaughan fyned i'r capel oherwydd ei llesgedd, ond rhoddodd bwrs i'r pregethwr i'w gymeryd yno. "Rhoddwch ei gynwys," meddai, "yn y casgliad; a dychwelwch y pwrs i mi." Wedi arllwys y cynwys ar y bwrdd, cafwyd fod ynddo haner cant o bunau "Mi welais," meddai Mrs. Thomas, "y pryd hwnw y fath brydferthwch mewn haelioni crefyddol, fel y penderfynais ddilyn y cyngor a saethodd i'm meddwl ar y pryd, 'Dos, a gwna dithau yr un modd." (Adroddwyd yr hanesyn uchod wrthym gan y Parchedig William Dayies, Llanegryn.) Dywedir fod Jane Jones, yr hon a arosodd yn Aberllefenni, yn wraig nodedig am ei chrefyddolder.
I Jane Roberts, Rugog, yr oedd teulu lliosog,—un ar ddeg o blant, yn ol yr hanes yn 'Methodistiaeth Cymru' (i. 580). Gwelsom eisoes mai merch iddi oedd Elisabeth, priod Dafydd Humphrey. Bu iddynt hwy un mab, Humphrey Davies, yr hwn a leinw le mawr yn y tudalenau dyfodol, a thair, os nad ychwaneg o ferched. Yr henaf oedd Eleanor, yr hon a ymbriododd â John Williams, o'r Pandy Hen, Llanllyfni, yr hwn a fu yn flaenor ffyddlawn a defnyddiol gyda'r Methodistiaid am lawer o flynyddoedd (gwel 'Y Drysorfa' Ebrill 1885). Dychwelodd, wedi marw ei phriod, i dreulio diwedd ei hoes gyda'i brawd yn Nghorris. Yr ail ydoedd Jane, priod y diweddar William Jones, Tanyrallt. Bu farw yn 1834, yr un flwyddyn a'i mam, yn 46 mlwydd oed, gan adael ar ei hol saith o blant. Mae pump o'r rhai hyn yn awr yn fyw, sef y Mri. David a William Jones, Machynlleth; Mrs. Robert Owen, Pandy; Mrs. Elisabeth Davies, Tanyrallt, Corris; a Mrs. David Edwards, Bryn Dulas, Esgairgeiliog. Yr ieuangaf ydoedd Mary,. priod Mr. Evan Edwards, Ffynon Badarn Aberllefenni. Yr oedd y chwaer hon yn hynod mewn duwioldeb; a bu farw yn gymharol ieuanc, yn y flwyddyn 1828. Merch i un o ferched Jane Roberts, Rugog, ydoedd y ddiweddar Jane Roberts, Cae'r-beudy, Llanelltyd. Merch iddi hithau ydyw priod Mr. David Evans, Cae Einion, gerllaw Dolgellau; a mab iddynt hwythau ydyw Mr. E. W. Evans, o Swyddfa 'Y Goleuad,' yn Nolgellau.
Ymddengys i'r chwaer a grybwyllwyd eisoes, Sarah Rhys, y pryd hwnw o Rognant, wedi hyny o'r Hen Ffactri, ac yn ddiweddaf oll o Ty'nyberth, ymuno yn lled fuan â'r gymdeithas fechan yn yr Hen Gastell. Ac ymunodd hefyd ei phriod Edward Tomos; ond ni bu ef yn rhyw ddedwydd iawn yn eu plith; a phan ddaeth y Wesleyaid i'r gymydogaeth, ymadawodd â'r Methodistiaid ac yniunodd â hwynt. Ac nid oedd heddwch i Sarah Rhys heb ei ddilyn. Bu un ferch iddynt, Ellin Roberts, priod Richard Roberts, Penygroes, yn aelod ffyddlon gyda'r Methodistiaid hyd ddiwedd ei hoes. Ac y mae yr unig ferch iddi hithau sydd yn awr yn fyw, sef Elisabeth, priod Mr. Ellis Jones, Bengrych, Aberllefenni, yn parhau yn aelod gyd'r un enwad.
Bu raid i aelodau y gymdeithas fechan yn yr Hen Gastell ddioddef cryn law'er oherwydd eu crefydd. Dodwn i lawr yma ddyfyniad byr o 'Fethodistiaeth Cyinru,' (i. 580);—
"Yr oedd Jane Roberts a'i gŵr yn dal tyddyn o eiddo gŵr boneddig tra erlidgar, yr hwn oedd yn byw rai millchroedd oddiwrthynt . Yr oedd ei theulu yn lliosog nid llai nag un ar ddeg o blant. Anfonwyd rhybudd, pa fodd bynag. i ymadael â'r tyddyn. Aeth y gŵr at ei feistr tir i ymofyn am gael aros eilwaith yn y tvddyn, a chafodd addewid o hono ar yr amod i'r wraig ymadael â'i chrefydd. Dychwelodd John Roberts adref, a gofynodd y wraig iddo,—
- "Wel, John bach, sut a fu gyda'r gŵr boneddig
- 'Canolig,' ebe John, 'gallasai fod yn waeth.'
- A gewch chwi y tir eto ?' gofynai y wraig.
- Caf ' ebe John, ' ond i ti ymadael â'r bobl yna.'
- Wel, John bach,' ebe Jane, 'os ydych chwi yn tybed mai gwell i chi ac i'r plant fyddai i im ymadael, ymadail wnaf â chwi, ond nid â nghrefydd byth"
Ymddengys mai i brofi y wraig y dywedwyd hyn, oblegid ni bu raid iddi ymadael â'i thyddyn, a'i theulu, nac â'i chrefydd."
Nid ydym yn deall fod pregethwyr na gwrandawyr erioed wedi cael eu baeddu gan erlidwyr yn yr ardal, fel y cawsant mewn llawer o ardaloedd eraill; ond amlwg yw y dygid cwynion yn eu herbyn gan rywrai at y boneddwr uchod, yr hwn oedd ar y pryd fel pe wedi ymgynddeiriogi yn ei lid tuag at y Methodistiaid. Gwneir y dyfyniad canlynol eto o'r un llyfr:—
"Nid oedd. yr Hen Gastell mwy na thai eraill y pryd hwn wedi ei gofrestru yn ol y gyfraith i bregethu ynddo; a phenderfynai y gŵr boneddig dreio beth a wnai dull arall o erlid tuag at lethu yr heresi newydd ag oedd yn ymdaenu mor arswydus ymhob man—Yr oedd yn cadw rhyw nifer o filwyr, gan ei, fod yn amser rhyfel poeth â Ffrainc; ac wedi clywed fod pregethu yn cael ei gynal mewn tŷ heb ei gofrestru. meddyliodd y mynai efe ddal gŵr y tŷ, a chynifer a geid yn ymgynull yno, a'u dirwyo oll, yn ol y gyfraith dan y Conventical Act. Yr oedd deg neu ddeuddeg o'r milwyr hyn a'r y ffordd tua'r Hen Gastell, dan arfau, i ddal y crefyddwyr; ond daeth hyn i glustiau rhywun a ewyllysiai yn dda iddynt, rhedai hwnw tra y gallai; un arall a gymerai y newydd ac a redai yr un modd, ac felly o un i arall cerddai y newydd am ddyfodiad y milwyr yn gynt na'r milwyr eu hunain. Pan glybu Dafydd Hnmphrey y newydd, brysiodd a chymerodd y pulpud o'r Hen Gastell gan ei gario ar ei gefn, a'i guddio dan wellt yn y beudy [Beudy y Gwyngyll oedd hwn].
Yntau a ymguddiodd ei hunan mewn rhedyn yn ngolwg y ffordd; [yn y ffridd, heb fod yn bell o Graig—y—fachddu]. A gwelwn' meddai, 'y fyddin arfog yn dyfod dan saethu, nes oedd y mwg yn llenwi Cwm Corris o ben bwy gilydd. Anfonwyd un o'r gweision i ymofyn am danaf fi. a phan ddywedodd fy ngwraig nad oeddwn yn y tŷ, gorchymynodd i mi fyned at ei feistr dranoeth.' Ar hyn aethant ymaith, heb wneyd dim llawer o niwed. mwy nag afradu cryn lawer o bylor. Tranoeth aeth Dafydd Humphrey at y gŵr mawr, ac wedi arwain y troseddwr i ŵydd. ei arglwydd, gofynwyd. iddo :—'A wyt ti yn gosod y tŷ i bregethu ynddo?'
- 'Ydwyf. Syr.' oedd yr ateb.
- 'I bwy?' gofynai y boneddwr.
- I Vaughan Jones, Syr,' ebe yntau.
- Rhaid i Vaughan Jones ateb i'r gyfraith' ebe y boneddwr. Aeth a'r achos i Chwarter Sessiwn y Bala ond nid oedd Vaughan Jones ar gael. ac nid oedd cyfreithiwr chwaith erbyn hyn a gymerai yr achos mewn llaw; felly disgynodd yr erlyniad yn ddirym i'r llawr."
Mae profion ar gael nad oedd y milwyr yn awyddus o gwbl i'r gorchwyl y gorfodid hwynt i'w gyflawni yn wir, y mae yr hanes uchod yn awgrymu hyny; ond nid oes un amheuaeth am greulondeb dialgar y boneddwr. Daliwyd William Pugh, Llanfihangel, yn ei dŷ gan y milwyr, a gorfodwyd ef i dalu dirwy o ugain punt am bregethu heb drwydded. Yr oedd hyny yn 1795. Gwr da oedd hwn; a gwnaeth waith da yn y Cwrt a'r ardaloedd cylchynol. Gwnaethom grybwylliad am dano eisoes mewn cysylltiad â'r bregeth yn Abergynolwyn. Bu yn un o gydlafurwyr ffyddlawn Mr. Charles, o'r Bala; yr hwn a fu yn cysgu yn fynych yn ei dŷ, sef y Llechwedd, Llanflhangel, pan ar ei deithiau. Efe am ryw dymor a arferai arwain y canu yn Sasiwn y Bala; a bu mab iddo yn cyflawni yr un swydd am flynyddoedd yn hen gapel Pall Mall, Liverpool. Yr oedd yn amlwg yn ddyn deallus, ac wedi cael hefyd ryw gymaint o addysg. Synwyd ni yn fawr dro yn ol pan y dangoswyd i ni gan gyfaill yn Liverpool, gyfrol o'i bregethau, yn ei lawysgrif ef ei hun, wrth weled rhagoroldeb eu cynwysiad, a threfnusrwydd eu cyfansoddiad. Mae yn amlwg iawn mai nid dyn cyffredin ydoedd; a dylai ei goffadwriaeth fod yn barchus yn yr ardaloedd sydd hyd heddyw yn mwynhau ffrwyth ei lafur.
Buasai wedi ei ddal a'i ddirwyo yr ail waith,—a'r tro hwnw i ddeugain punt,—oni buasai iddo lwyddo i ymguddio hyd ar ol y Chwarter Sessiwn yn y Bala.
Trwy yr erledigaeth oddiwrth y boneddwr uchod gorfodwyd y Methodistiaid i geisio amddiffyn y gyfraith drostynt fel Ymneillduwyr. Ac y mae y pwysigrwydd hwn yn perthyn i Fethodistiaeth yr ardaloedd hyn, mai eu dioddefiadau hwy fu yr achlysur i'r Methodistiaid orfod galw eu hunain yn Ymneillduwyr. Nid amrhriodol fyddai dyfynu yr hyn a ganlyn o Adgofion y diweddar Barchedig Robert Griffith, Dolgellau, am yr helynt, yn y 'Drysorfa' 1847 :—"Tua'r amser hwn, yn y flwyddyn 1794 neu 1795, darfu i Mr.Corbett, o Ynys—y~maengwyn, ymroi i erlid y Methodistiaid; gorfododd i'r brawd William Hugh, Llanfihangel, dalu ugain punt o ddirwy am bregethu heb license ; dirwyodd eraill am roddi eu tai i bregethu ynddynt heb eu recordio, ac eraill i bum' swllt yr un am wrando yn y cyfryw leoedd. Nid oedd y Methodistiaid hyd yn hyn yn eu harddelwi eu hunain fel Ymneillduwyr feallai am fod amryw o Offeiriaid yn perthyn i'r Corph, ac mai Offeiriaid yn benaf oedd ei sylfaenwyr; ac fel hyn nid oedd gan neb o'r pregethwyr license i bregethu; canys nid oedd cyfraith i'w hamddiffyn ond fel rhai dan y cymeriad o Ymneillduwyr. Ond yr amser hwn gorfu ar yr holl bregethwyr yn y Gogledd gymeryd license; a chofrestrwyd y capelau yn nghyd a thai annedd i bregethu ynddynt. Daeth llythyr o'r Bala i Ddolgellau yn hysbysu fod modd gochelyd talu y ddirwy am bregethu mewn tai oedd eto heb eu cofrestru, trwy gymeryd y llwon gofynedig cyn pen pum niwrnod wedi cael y rhybudd cyfreithiol, os da yr wyf yn cofio, a pheidio pregethu yn y manau hyny hyd y Chwarter Sessiwn. Aeth y brawd Hugh Lloyd, un o flaenoriaid Dolgellau, a minau, yn ddioed i Gorris, at Vaughan Jones, ac i Lannerch coediog, at Griffith Owen, dau ŵr a rybuddiasid i dalu y ddirwy o £20 bob un; a phrydnawn yr un diwrnod aethom dros Afon Mawddach i Llanenddwyn at Mr. Owen, ac i Hendre'forion at Mr. Parry, dau ustus heddwch, i gymeryd y llwon angenrheidiol; ac felly yr aeth yr ystorm heibio."
Os dychwelodd y ddau ŵr hyn i Ddolgellau yr un noson rhaid fod eu taith y diwrnod hwnw yn rhywle oddeutu haner cant o filldiroedd. Wedi dirwyo William Pugh, gwnaed ymgais 'ddal Lewis Morris; ond diangodd ef i Lwyn-y-gwair, yn Sir Benfro, hyd Chwarter Sessiwn y Bala. Dodwn i lawr hanes yr hyn a ddigwyddodd yno yn ngeiriau y Parchedig John Hughes :—"Yn y cyfamser, yr oedd chwarter sessiwn y Bala gerllaw, a darpariaeth wedi ei gwneuthur i geisio yno amddiffyn y gyfraith, trwy alw am gyfreithiwr enwog, o Gaer y pryd hwnw, ac ar ol hyny o'r Cymau, gerllaw Caergwrle, yr hwn oedd ymneillduwr ei hun. Dangosai ynadon Sir Feirionydd bob anmharodrwydd i drwyddedu pregethwyr ; ond er hyny ni allent omedd i'r sawl a geisient, heb droseddu y gyfraith eu hunain ; a phan y rhoddwyd ar ddeall iddynt gan David Francis Jones, Ysw, y Cyfreithiwr, fod yn rhaid iddynt naill a'i rhoddi amddiffyniad y gyfraith i'r pregethwyr, neu fyned dan ei chosb eu hunain, nid oedd dim i'w .wneyd ond plygu. Un o'r ustusiaid, yr hwn oedd berson Llandderfel, a ddywedai, 'Os rhaid i'm llaw arwyddo y papyrau hyn, y mae fy ngalon yn erbyn hyny.' 'Y cwbl sydd arnom ni eisiau,' ebe Mr. Jones, 'yw eich llaw; am eich calon, nid ydym ni yn gofalu dim am hono.' Felly eu trwyddedu a gawsant; ac o hyny allan, annogwyd y pregethwyr i geisio trwyddedau, mor wresog ag y gwaharddwyd hyny iddynt o'r blaen. Cofrestrwyd y tai pregethu hefyd. Yn y modd yma y cafwyd diogelwch rhag y ffurf yma hefyd o erlid. Ni ddefnyddiwyd y dull hwn, tra y gellid cael y werin ffol i derfysgu a baeddu ; ond wedi i'r Methodistiaid enill teimladau y werin o'u plaid, nid oedd ond ceisio eu llethu trwy rym cyfraith; ond nid oedd hyn bellach i'w gael, gan fod yr awdurdod a'u llethai hwy gynt, yn awr yn eu hamddiffyn—y cleddyf a'u harchollai gynt, a archollai eu gorthrymwyr bellach. Y wlad hon, weithian, a gafodd lonydd."
Ychwanegwn eto y dyfyniad dyddorol a ganlyn:
"Deallodd Mr. Charles mewn ymddyddan a'r Cyfreithiwr anrhydeddus hwn [sef yr Anrhydeddus Thomas Erskine, yr hwn yn y blwyddyn 1806 a wnaed yn Arglwydd Erskine, ac yn Ganghellydd y deyrnas], pryd yr adroddodd wrtho yr erledigaeth yr oedd y Methodistiaid dano oddiwrth foneddwr ac ustus heddwch yn y sir, fod C—t wedi troseddu y gyfraith ei hunan, wrth ddirwyo y pregethwyr, ar rhai a'u derbynient i'w tai, gan na rannodd ef y dirwyon rhwng yr hysbyswyr a thrigolion y plwyf, yn ngwydd y dirwyedig. Cynnygiodd y cyfreithiwr gymeryd y boneddwr mewn llaw, a'i gospi i'r eithaf. Hyn nis boddlonai Mr. Charles iddo wneyd, nes o leiaf iddo ymgynghori â'i frodyr; ac wedi iddo ddychwelyd, a gosod yr achos 'gerbron, barnwyd yn fwy Cristionogol, ac yn debycach o effeithio yn dda ar y boneddwr ei hun, yn gystal ag ar eraill, iddynt beidio ei fwrw i grafangau y gyfraith.
Pan oedd y boneddwr y soniasom gymaint am dano yn chwythu bygythion allan yn erbyn y Methodistiaid, a chyn iddo ddirwyo neb, yr oddd Cymdeithasfa yn y Bala, a chymerwyd yr achos i ystyriaeth, ai nid dyledswydd y Cyfundeb oedd gosod eu pregethwyr, a'r tai pregethu, yn ddioed o dan nawdd y gyfraith, trwy Ddeddf y Goddefiad (Toleration Act)? Yr oedd Mr. Charles, a John Evans, yn nghyd ag eraill, o'r farn mai hyny oedd eu dyledswydd ; ond gwrthwynebwyd hyn yn gryf gan eraill, ac yn benaf gan y brodyr o Sir Gaernarfon, gan na fynnent er dim gael eu cyfrif yn Ymneillduwyr. Y canlyniad a fu i ddirwy o £20 gael ei osod ar William Pugh; £20 ar dy yn Nhywyn; £20 ar dŷ yn Mryncrug; ac £20 ar dy yn Llannerch goediog. Parodd hyn, fel y gellid meddwl, fraw a syn. edigaeth trwy y wlad. Deallwyd fod boneddwyr eraill yn bwriadu, gwneyd yr un peth a C—t. Bu capel Dolgellau yn nghauad un Sabbath, mae'n debyg oblegid yr arswyd a ddaliasai y pregethwyr i fyned allan heb eu trwyddedu. Dygodd yr amgylchiadau hyn y mater mewn dadl i lwyr benderfyniad, a hyny yn bur fuan. Nid oedd eisieu rheswm mwyach o blaid Ymneillduaeth; yr oedd llais yr erledigaeth yn uwch na llais rheswm, ac o hyny allan ni fu un petrusder mewn un fynwes i gymeryd trwydded, ar gyfrif fod yn rhaid ei chymeryd ar dir Ymneillduaeth. Ac yn y cyfwng hwn yr anfonwyd, fel y dywedasom eisoes, am David Francis Jones, Ysw., i'r Bala; a thrwyddo y caed nodded y gyfraith rhag y gorthrwm blin hwn." —Methodistiaeth Cymru, 1. 599. Yr unig adgof dymunol mewn cysylltiad a'r erledigaeth hon o eiddo y boneddwr o Ynys Maengwyn ydyw fod lle i dybio iddo cyn ei farwolaeth weled ei gamgymeriad, a theimlo rhyw radd o ddygasedd at y rhai a garient chwedlau iddo am y Methodistiaid, ac a'i cymhellent i'w herlid. Ond beth am y chwedleuwyr?
Er cael llonyddwch oddiwrth yr erledigaeth, bu ei heffeithiau yn aros am dymor.
“Wedi yr erledigaeth uchod (yr ydym yn dyfynu o'r ysgrif yn y 'Drysorfa' 1840), aeth yr olwg arnom yn isel iawn gan ein digalondid a'n hofn; ond ni lwyr ddiffoddodd y tân sanctaidd yn eneidiau y ffyddloniaid. Pan geid ambell bregethwr i'n plithi, dygai yr hen wragedd damaid iddynt mewn napcyn, ac a'i gosodent mewn twll yn y mur tra parhai yr oedfa; byddai hwnw yn lled flasus. Trwy y weinidogaeth yr amseroedd hyny deffrowyd amryw am eu cyflwr, nes cynyddu o'r eglwys i o 15 i 20 o rifedi."
A phruddaidd yw sylwadau y Parchedig Robert Griffith, ar ol y dyfyniad a wnaed uchod:—
wythnosau, er mai cyffredin iawn oedd doniau y pregethwyr a ddeuent i'w gwasanaethu. Ryw Sabbath nid oeddid yn disgwyl neb i bregethu; a chan ei bod yn ystorm anarferol, arosodd pawb gartref yn eu tai. Yn Abercorris aeth y teulu, gynifer ohonynt ag a fedrent, i gyd—ddarllen y Beibl; a chawsant y fath flas ar y gwaith fel y penderfynwyd cael cyfarfod cyffelyb yn yr Hen c y Sabbath canlynol. Ac o'r dechreuad bychan hwn y cyfododd yr Ysgol Sabbothol yn Nghorris a'r amgylchoedd.
PENOD III
DAFYDD HUMPHREY A'I GYDLAFURWYR
ADRODDWYD eisoes hanes troedigaeth Dafydd Humphrey, a'r "cyfamod" a wnaeth â Duw, "i'w gymeryd ef yn Dduw, a'i bobl yn bobl, a'i achos yn waith iddo, tra y byddai byw ar y ddaear." Yr oedd hyn yn 1781; ac nid oedd y pryd hwnw un 'achos' yn Nghorris, nac yn y plwyf ond oedd yn yr hen Eglwys. Ymhen naw mlynedd ar ol hyn, (yn 1790), fel y gwelsom, nid oedd yn ymuno â'u gilydd i gychwyn achos Methodistaidd ond pedwar heblaw efe ei hun. Credodd D.H. mai nid felly yr oedd i barhau; ac "ymdrechodd ymdrech deg" am oes faith i godi Teyrnas yr Arglwydd Iesu yn ei ardal. Ac nid hawdd i ni bellach ydyw rhoddi y gwerth priodol ar ei lafur, gan y gofyn i ni ymdrech neillduol i sylweddoli ei anfanteision.
Yn 1785 nid oedd ond pedwar o gapelau yn Sir Feirionydd, sef yn y Bala, Penrhyn, Dolgellau, a Ffestiniog. Ac yn yr un flwyddyn, nid oedd un pregethwr i'w gael o Roslan yn Sir Gaernarfon, hyd Machynlleth yn Sir Drefaldwyn. ('Methodistiaeth Cymru i. 572, 574.) Yr oedd eisoes, (yn 1780), yn y Bala rai cynghorwyr heblaw yr Hybarch John Evans. Y flwyddyn hono y dechreuodd Dafydd Cadwaladr bregethu; yn 1791 y dechreuodd Lewis Morris; ac yn 1793 y dechreuodd Robert Griffith, Dolgellau. Yn 1785 yr ymunodd Mr. Charles a'r Methodistiaid. Pan glywid fod pregeth yn cael ei disgwyl yn un o'r ardaloedd cylchynol,—Llanwrin, Towyn, Machynlleth, Dolgellau—cytunid ar fod cwpl o'r meibion yn myned yno, ac yn dwyn yn ol gyda hwynt yr hyn y gallent ei gofio i'r chwiorydd gartref.
Fel y dywedwyd eisoes, nid oedd ond tri o frodyr yn perthyn i'r gymdeithas fechan am lawer o amser; a'r rhai hyn oeddynt Dafydd Humphrey, Richard Anthony, a Lewis Pugh. Symudodd y diweddaf i ardal y Cwrt, ac oddiyno drachefn i gymydogaeth Llwyngwril neu y Bwlch. Os nad ydym yn camgymeryd, yn Bodgadfan y preswyliai; a merch iddo oedd gwraig gyntaf y diweddar Mr. William Owen, Bodgadfan. Bu y gwr hwn yn hynod ffyddlawn am lawer o flynyddoedd. Cymerwyd ei le yn yr Hen Gastell gan John Richard, yr hwn a elwid bob amser Shôn Rhisiard. Yn y cyfnod boreu hwn ystyrid fod un athraw yn ddigon yn yr Ysgol Sabbothol fel yn yr Ysgol Ddyddiol; ac arosai y tri brawd gartref yn eu tro. Tro Shôn Rhisiard oedd ar un adeg pan yr elai Dafydd Humphrey a Richard Anthony i Fryncrug, i wrando ar y seraph, Robert Roberts, o Glynnog, yn pregethu; ond yr oedd y caethiwed yn ormod i'r hen frawd ; a chyn i'r ddau eraill gyraedd pen eu taith, yr oedd y trydydd gyda hwynt yn myned am ran o'r un wledd. Ni byddai y chwiorydd yn digaloni er eu gadael eu hunain. Bu yn arfer am flynyddoedd, oherwydd arswyd y Ffrancod, gadw cyfarfod gweddi ddeuddeg o'r gloch bob dydd Mercher; a mynych y lluddid y brodyr gan gyfyngder eu hamgylchiadau i—fod yn bresenol. Ar yr adegau hyn byddai y chwiorydd yn gweddio eu hunain. Un tro torodd un chwaer i lawr, a chyfarchodd chwaer arall, "Gweddia di, Catrin bach, mae rhywbeth arna' i, y'r ydw' i yn misio." Dywedai un oedd yn bresenol na welodd gyfarfod mwy effeithiol erioed.
"Cadw tŷ yn y nos" y bu y brodyr a'r chwiorydd,—yn hytrach y tadau a'r mamau hyn; ond buont yn hynod ffyddlawn. Agorodd Dafydd Humphrey ei dŷ i dderbyn gweision yr Arglwydd ar eu hymweliadau ar gymydogaeth. Bu Mr. Charles yn y lle rai troion ; a chofiwn rai hen wragedd a adroddent gyda pheth ymffrost iddynt hwy, pan yn enethod, gael eu holwyddori ganddo. Un o'r rhai hyn oedd y ddiweddar Sarah Jones, Abercorris. I Dafydd Humphrey y gofynai Mr. Charles un tro pan yn myned heibio, "A oes yr un ceiliog yn canu yn ardal yr Ystradgwyn yma, Dafydd ?" "Nac oes, yr un," ebe yntau. "Ow, Ow," meddai Mr. Charles. "Codwch Ysgol Sabbothol yma." Ac felly y gwnaed. Bu D. H. ac eraill yn myned yno am amser i gadw ysgol, a chyfarfod gweddi: ac yn llwyddo yn achlysurol i gael ambell bregeth i'r gymydogaeth. Lled anhywaith oedd pobl yr Ystradgwyn y pryd hwnw ; ac adroddir i'r Parchedig John Roberts, Llangwm, orfod troi o'r maes unwaith heb bregethu, gan ei adael yn meddiant gwŷr y bel droed. Cafodd hamdden i bregethu mewn lle arall i'r ychydig a'i dilynasant. Dafydd Humphrey a fu yn chwilio am le i Lewis William gadw ysgol yn yr ardal ac yn Dolydd Cae y cafwyd drws agored. Tad y diweddar Mr. John Owen—Owen Dafydd—a wnaeth y caredigrwydd hwn, a hyny yn benaf er mwyn pump o fechgyn oedd ganddo mewn angen am addysg. Yn y gegin y cynhelid yr ysgol; a byddai y wraig yn gwneyd gwaith y tŷ yn y nos, er mwyn rhoddi tawelwch i'r athraw gyda'i ddisgyblion yn ystod y dydd. Nid ydym yn gwybod i sicrwydd a oedd yr Ysgol Sabbothol wedi ei dechreu cyn hyn; Dywed Mr. John Owen, Ty'nymaes, yr hwn sydd ŵyr i'r Owen Dafydd uchod, mai o ysgol Lewis William y bu ei chychwyniad. Bu Dafydd Humphrey, Richard Anthony, Shôn Rhisiard, a Richard Owen, Ceiswyn, (yr hwn a grybwyllir eto), oll yn ymdrechgar gyda'r gwaith yn ei wendid. Yn Ty'n y Wins, gerllaw y capel presenol, y buwyd yn pregethu gyntaf gyda gradd o gysondeb. Tua'r flwyddyn 1828 yr adeiladwyd y capel yno; ac ar ffurfiad yr eglwys ymunodd â hi o 25 i 30 o aelodau Corris. Ond ymddengys mai i Gorris y buont yn myned i gyfranogi o'r ordinhad o Swper yr Arglwydd am flynyddoedd. Y Parchedig John Peters, Trawsfynydd, a weinyddodd yr ordinhad hon gyntaf yn yr Ystradgwyn.
Mae ychydig ansicrwydd am yr amser yr adeiladwyd y capel cyntaf yn Nghorris. Ar y gareg yn mur y capel y mae yr ysgrifen ganlynol:
Rehoboth
A adeiladwyd y tro cyntaf—1813;
" " " " Yr ail dro—1834;
" " " " Y trydydd tro—1869;
Ond yn y 'Drysorfa,' 1840, dywedir mai yn 1816 yr aed ati o ddifrif i addladu capel. Pa un bynag o'r ddau ddyddiad sydd yn gywir, gwelir i fwy na 30 mlynedd wedi dychweliad Dafydd Humphrey, a mwy nag 20 mlynedd wedi cychwyniad ffurfiol yr achos,—os bu y fath gychwyniad o gwbl—fyned heibio cyn i hyny gymeryd lle.
Dywed y Parchedig Robert Owen, M.A Pennal, wrthym fod cofnodau y Cyfarfod Misoi yn dangos mai yn 1832 yr adeiladwyd capel yr Ystradgwyn. Nid ydym yn gwybod pa fodd i gysoni hyn a'r hanes uchod a gawsom oddiyno. Nid yw :yn debyg i•r Parchedig John Peters fod yno ar ol 1832, y blwyddyn y cyfarfu A damwain a'i hanalluogodd i fyned nemawr oddicartref hyd ddiwedd ei oes yn 1835 heibio cyn i hyny gymeryd lle. Ychydig cyn adeiladu y capel, bu y cyfeillion crefyddol mewn sefyllfa o ddigalondid mawr. Yr oedd yr amseroedd yn gyfyng, a thlodi y preswylwyr yn ddygn; ac am ryw ysbaid gollyngwyd i lawr y cyfarfodydd eglwysig; ond cymerwyd ail feddwl, a gweithiwyd yn egniol nes cael y capel i fyny. Rhoddodd D. H. dir i'w adeiladu arno, a gweithiodd ef, a'i weision, a'i anifeiliaid, yn galed er dwyn y gwaith i ben. Yn 1819, cafwyd diwygiad grymus trwy yr hwn yr ychwanegwyd o 65 i 70 o aelodau; a chyfododd y cyfanrif i 80, ond syrthiodd drachefn i 60 trwy farwolaethau, symudiadau, a gwrthgiliadau. Yr adeg uchod y dechreuodd yr achos yn Nghorris enill goruchafiaeth; ac o hyny allan bu ganddo ddigon o nerth i dori dros bob anhaws- derau yn ei ffordd.
Nid hawdd erbyn hyn ydyw cyflwyno darlun bywiog a chywir o'r hen bererinion fuont yn gychwynwyr Methodistiaeth yn Nghorris. Cyfyng oedd gwybodaeth yr hynaf a'r blaenaf o honynt, Dafydd Humphrey, neu fel y gelwid ef gan bawb yn ei flynyddoedd olaf, "fy ewyrtlı Dafydd Wmphra;" a bychain oeddynt ei ddoniau. Ei ragoriaethau amlwg gyda chrefydd oeddynt ffyddlondeb a gwres. Ac yr oedd bob amser yn hynod gysurus. Rhoddodd ei "achos drwy" yn y dechreu i'r Arglwydd Iesu, ac ni fynai ei faeddu mwyach gan ddyn na diafol. Bu y "cyfamod" yn ffaith ddiamheuol byth yn ei brofiad. Yr oedd y cyfarfod eglwysig un tro yn bur ddihwyl; a dechreuodd Shon Rhisiard,—y mwyaf ei allu a'i ddoniau o'r tri—adrodd ei deimlad mewn tôn hynod bruddglwyfus. "Mae arna' i ofn y dyddiau yma," meddai, "nad ydw'i ddim wedi dechreu yn iawn gyda chrefydd erioed; ond y mae yn gysur gen' i feddwl y cảf ei hail ddechreu o'r newydd heno eto." Athrawiaeth nad oedd yr hen batriarch yn ei deall oedd hon; ac nid oedd ganddo amynedd gyda hi o gwbl. "Twt, twt, twt," meddai, "y peth gwiriona' glywas i erioed; ail ddechra, ail ddechra, o hyd o hyd—Mi wnes i gyfamod â'r Gwr unwaith yn y dechra, a gloewi'r cyfamod, gloewi'r cyfamod y bydda' i byth wedyn. Pa eisio all ddechra o hyd o hyd! Twt, twt, twt." I feddwl Dafydd Humphrey yr oedd y cyfamod a 'wnaethai unwaith yn gyfamod tragwyddol.
Anfynych y bu neb yn mwynhau gweinidogaeth yr efengyl yn fwy; ac yn yr oes hono nid oedd ein tadau wedi meddwl yn angenrheidiol gelu eu mwynhad oddiwrth eu gilydd. Clywsom y Parchedig Roger Edwards yn adrodd ei hanes yn pregethu yn Nghorris, yn nechreu 1831. Llencyn ieuanc oedd efe y pryd hwnw, wedi dechreu pregethu yn niwedd 1830; ond nid oedd ei ieuenctid yn creu dim rhagfarn yn ei erbyn yn meddyliau yr hen frodyr yno. Pregethai yn Aberllefenni nos Sadwrn; yr oedd yn Rehoboth foreu Sabbath, yn y Cwrt am ddau, ac yn yr Ystradgwyn y nos. Yr oedd D. H. mewn hwyl orfoleddus, yn chwerthin yn uchel, gan ddywedyd drachefn a thrachefn, "Ha, Ha, Ha! 0! diolch, 0! diolch." Curai ei ddwylaw yn barhaus, a chyfarchai y pregethwr mewn modd hynod o gartrefol ac anwyl. Byddai yn mwynhau y gwirionedd yn rhyfeddol ei hun; ond yn llawn mor ofalus yn gwylio ei effeithiau ar eraill. Gwrandawai yn fynych a'i wyneb at y gynulleidfa; ac os gwelai arwyddion fod y gwrandawyr yn teimlo nis gallai beidlo dangos ei lawenydd ar y pryd; a bydd.ai yn siwr o alw gyda hwy ar unwaith i geisio dwyn y mater mawr adref at eu meddyliau. Fel hyn y dywedir yn ei gofiant yn y 'Drysorfa '—
"Bob amser sylwai yn moddion gras pwy fyddai yn cael ei nodi dan y Gair; yna ai yn ddioed i ymofyn y cyfryw i'r ty gan ddweyd wrtho "Tyred, y mae efe yn dy alw di" Ai ei hun un fynych hyd flaenau cymoedd Coirris [ac Aberllefenni hefyd] i wahodd pawb i'r Ysgol Sabbothol; a'r rhai y byddai dim ar eu meddwl am eu cyflwr, dangosai iddynt y croesaw sydd iddynt yn yr egwys, ac yn nhrugaredd Duw." Yn mhrofiad Dafydd Humphrey—neu yr oedd diogelwch yr—efengyl yn ffaith fyw; a'i amcan mawr. ar hyd ei oes fu cael ei gymydogion i feddiant o'r un peth ag oedd wedi ei brofi yn ei ysbryd ei hun. Yr oedd arno, ofn rhagrith yn yr eglwys. Ei genadwri olaf o wely angau gyda William Richard ac Owen Jones,—dau o'r blaenoriaid—ydoedd, "Dywedwch wrthynt oll am ymofyn am grefydd dda; Mae crefydd llawer yn darfod yn angau." Ond yr oedd yn hollol ymwybodol fod y gwirionedd ganddo ef ei hun. Teimlai bryder gyda golwg ar ei wyrion, a'i gyngor olaf iddynt oedd, "Byddwch fyw yn dduwiol; rhodiwch ar hyd canol llwybrau barn. Gweddiwch a gwyliwch rhag i chwi byth adael eglwys Dduw." A theimlai bryder hefyd gyda golwg ar ddyfodol yr eglwys. Ddeuddydd cyn ei farwolaeth,—felly yr adroddir yn y 'Drysorfa'—" galwodd ar y brawd Rees Jones, Bermo, at ei wely a dywedodd wrtho :—' Mewn perthynas i'r cyfeiliornadau sy'n codi y dyddiau hyn yn nghylch gwaith yr ysbryd Glan, dymunaf i chwi adael chwareu teg i'r TRI ddyfod i'r maes yn iachawdwriaeth pechadur. Cedwch ddigon o glychau o'u deutu; a gweddiwch lawer na chaffoch byth eich gollwng i'r fath dir a gwadu yr angen am Ei waith.'" cyhuddwyd aml un o'r 'cyfeiliornad' hwn yn y cyfnod uchod yn bur ddiachos; ond y Mae yn amlwg fod yr hen batriarch o Abercorris ei hunan yn weddol iach yn y ffydd, ac yn dra awyddus pan yn ymyl tragwyddoldeb am i'r praidd, ar ol ei ymadawiad ef, gael derbyn "y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu." Wedi llefaru y geiriau uchod, dywedodd "ddarfod i'r Arglwydd ddaw y byddai Efe yn Dduw iddo yn nechreu ei grefydd; a bod y 'cyfamod' yn dal yn y dymestl." A chanodd y llinellau:—"
'Does bwlch yn hwn, fel modrwy 'n grwn y mae A'i glwm mor glòs, heb os nac oni bae."
Bu farw Rhagfyr 19, 1839, yn 83 mlwydd oed. Claddwyd ef yn mynwent Talyllyn a dyma yr argraff ar gareg ei fedd:—
Yma y claddwyd Humphrey Davies Ty'nyceunant a Mary Howells ei wraig. | |
Efe a fu farw Ionawr 24 1785 Yn 70 mlwydd oed |
Hi a fu farw Awst 24 1804 Yn 86 mlwydd oed |
Hefyd Eu Mab David Humphreys, ABERCORRIS. ac Elisabeth Owens ei wraig | |
Efe a fu farw Rhagfyr 19 1839 Yn 83 mlwydd oed. |
Hi a fu farw Gorphenaf 22 1834 Yn 74 mlwydd oed. |
Paham y gelwid ei wraig Elisabeth Owens nid ydym yn sicr. Merch ydoedd, fel y gwelwyd, i Jane Roberts, y Rugog. Digon tebyg mai Owens oedd cyfenw priod Jane Roberts. Gwelir mai mab Ty'nyceunant oedd Dafydd Humphrey. Dywedasom eisoes mai yn Eglwys y plwyf y priodwyd hwy Chwefror 27, 1781 Buont ill dau yn byw gyda'u gilydd am fwy na 53 mlynedd.
Mae hanes yr hen batriarch hwn yn llawn addysg ymhen chwe' blynedd a deugain wedi ei farwolaeth, Fel y sylw'a Mr. Daniel Evans, yn yr hanes o ba un y gwnaethom ddyfyniadau mor fynych yn y 'Drysorfa,' "golwg isel iawn fu ar achos yr Arglwydd am y deugain mlynedd cyntaf yn Nghorris." Cyn y diwygiad yn 1819 nid oedd ond o 15 i 20 yn aelodau, er y buasent ar un adeg cyn hyny yn rhifo ychwaneg; ond erbyn marwolaeth yr hen batriarch, yn 1839, yr oeddynt yn rhifo o 180 i 190 Ac yn y diwygiad uchod cafodd D. H. y fraint o weled braidd yr holl blant y buasai yn eu dwyn i'r Ysgol yn y blynyddoedd gynt wedi eu dwyn i mewn i'r eglwys. Gweithiodd yn ffyddlon dan anfanteision mawrion, ac y mae y gymydogaeth hyd heddyw yn dra dyledus am y wedd sydd arni i'w lafur ef. Gwnaed yn y benod flaenorol gyfeiriad at Richard Anthony, fel clochydd Talyllyn, yn gwrthod cyhoeddi arwerthiadau amaethyddol ar y fynwent ar ol y gwasanaeth crefyddol ar ddydd yr Arglwydd. Yr oedd efe yn un o'r blaenoriaid cyntaf yn eglwys Corris. Bychain oeddynt ei ddoniau yntau; ond yr oedd yn hynod ffyddlon a chydwybodol. Yr ydym yn cofio yn dda hen rigwm, fu yn bur adnabyddus yn yr ardal am fychander ei ddoniau; ond nid ydym yn tybio y gwnaem unrhyw wasanaeth i grefydd wrth ei ddodi i lawr yma. Daw enw R. A. gerbron eto mewn cysylltiad â Rowland Evans.
Gwr a lanwodd le pwysig yn y cyfnod boreuol hwn yn eglwys Corris, er na bu erioed yn swyddog ynddi, ydoedd Shôn Rhisiard, yr Hen Shop. Yr oedd yn ehangach ei wybodaeth, ac yn helaethach ei ddoniau na'r brodyr oeddynt yn flaenoriaid yno, ac yn hynod mewn gwirionedd fel gweddiwr. "Mi hoffwn, Dic bach," meddai unwaith wrth Richard Anthony, "allu gweddio nes gwneyd plwyf Talyllyn yma yn nefoedd i bawb o'i fewn."
Tlawd a helbulus iawn oedd yn wastad o ran ei amgylchiadau. Cyfeiriwyd mewn penod flaenorol at ei siwrnai i le gerllaw yr Abermaw, i geisio ychydig o rûg yn ddefnydd ymborth iddo ef a'i deulu. Bu raid iddo gychwyn yn y boreu heb damaid o fwyd, a cherdded o 15 i 18 milldir i geisio y rhûg. Cafodd ar lawr, ar y glaswellt, yn rhywle ar ei daith, ddernyn chwe' cheiniog, yr hwn oedd yn ychwanegiad gwerthfawr at yr ychydig oedd ganddo i brynu. Cymerodd y rhûg ar ei gefn i'w falu yn Melin Aberllefenni; a rhaid oedd iddo aros i hyny gael ei wneyd, a myned a'r blawd adref drachefn i'r Hen Shop, a'i bobi yno cyn cael dim ymborth. Rhwng y lle y saif yn awr Tan yr allt ac Abercorris, teimlai yn hynod luddedig a digalon; a dywedai ynddo ei hun :—"Fy Nhad nefol 'rydw' i'n meddwl fy mod i yn un o dŷ blant di; ond yr wyt ti yn gwneyd yn bur galed â mi heddyw." Yr oedd erbyn hyn yn hwyr, ac yn lled dywyll; ond yn ebrwydd daeth ar draws pecyn bychan ar y ffordd. Erbyn ei godi, beth ydoedd ond torth, gyda swm o ymenyn mewn twll yn ei gwyneb, wedi ei cholli o un o'r gwageni a dramwyent y ffordd hono. Siriolodd hyn galon yr hen frawd; a mynych yr adroddai wedi hyny chwedl y darn torth, gan ychwanegu, "Yr oedd hi fel pe buasai wedi ei thori â chyllell angel."
Dyma y brodyr; dyma y tadau fuont yn gychwynwyr Methodistiaeth yn Nghorris. Nid oeddynt o lawer mor alluog a medrus ag amryw o'u dilynwyr; ond gwnaethant er hyny waith mwy anhawdd na neb a ddaeth ar eu holau. Myned i mewn i'w llafur hwy a wnaeth eraill; yn wir, eu llafur hwy a wnaeth y llwyddiant dilynol yn bosibl. Parchus byth fyddo eu coffadwriaeth!
Nid ydym yn proffesu ysgrifenu hanes yr enwadau crefyddol eraill yn y gymydogaeth; ond dichon nad ystyrir ni yn ymyryd â'r hyn na pherthyn i ni wrth wneuthur ychydig grybwyllion am danynt. A dodwn hwynt lawr yma, er fod amryw ohonynt yn ein cymeryd i adegau llawer diweddarach na dyddiau 'Dafydd Humphrey a'i gydlafurwyr.' Tua dechreu y ganrif bresenol y dechreuodd nifer o Wesleyaid o Ddolgellau ddyfod i gynal cyfarfodydd o dŷ i dŷ yn Nghorris. Thomas Owen, Ty'n y ceunant, tad y diweddar Hugh Owen, yr hwn a gafodd y fraint yn yr ardaloedd hyn o hebrwng allan hen oruchwyliaeth yr Ysgolion Dyddiol, a fu yn brif offeryn i adeiladu y capel cyntaf iddynt yn y gymydogaeth. Adeiladodd ef ar ei dir ei hun, ac i fesur mawr ar ei draul ei hun. Nid oedd yr adeilad ond bychan,—Capel Bach y gelwid ef; a safai yn nhroad yr hen ffordd yn ymyl Ty'n y ceunant. Yr oedd y Wesleyaid wedi ei adael cyn y côf cyntaf sydd genym ni am dano, a'r Methodistiaid yn cadw Ysgol Sabbothol ynddo. Y prif ŵr yn yr ysgol hono yn adeg ein mebyd ni oedd Richard Williams, yr Hen Ffactri, yr hwn hefyd oedd y dechreuwr canu yn Rehoboth. James Evans, Ty'n llechwedd, oedd un o brif golofnau yr achos Wesleyaidd yn ei gychwyniad. Taid Oedd efe i'r diweddar Barchedig James Evans, gweinidog gobeithiol a galluog gyda'r un Cyfundeb, a gymerwyd ymaith yn mlodau ei ddyddiau. Byddai pethau tra digrifol yn digwydd weithiau yn yr Hen Gastell. Wrth holwyddori yno un Sabbath gofynwyd y cwestiwn, "A ydyw yn ddyledswydd arnom gyflawni gweithredoedd da?" "Ydyw," oedd yr ateb. Gofynwyd eilwaith, "A gawn ni fyned i'r nefoedd am ein gweithredoedd da?" Ar ol distawrwydd am beth amser, atebodd un hen ŵr "Na chawn." "Wel, am ba beth y cawn ni fyned yno, ynte" meddai un arall, "ai am ein gweithredoedd drwg ?" "Ië, yn wir," meddai y trydydd, "am ba beth hefyd? Y mae yn ddigon i beri i'r plant feddwl fod yn well gwneyd drwg na da." Ond digwyddodd llawer mwy o bethau o natur ddigrifol yn y Capel Bach. Clywsom nifer o honynt, ond nid ydym yn teimlo unrhyw duedd i'w dodi i lawr yma. Gellir crybwyll un, sydd dra adnabyddus yn y gymydogaeth, a'r hwn sydd wedi ymddangos trwy y wasg o'r blaen. Pan Oedd hen frawd, yr hwn oedd un o'r cymeriadau mwyaf digrifol, yn gweddio unwaith, clywyd swn cerbyd yn dyfod, a rhuthrodd y plant oll tua'r drws neu y ffenestr i'w weled yn myned heibio. Yr oedd y brofedigaeth yn rhy gref i'r gweddiwr, a chododd yntau oddiar ei liniau i edrych gyda hwynt. Wedi i'r cerbyd ddyfod i'r golwg, dywedodd yr hen frawd, "Hŷ! Hen Sês Plas Isa'! ni awn ni ati hi i weddio tipyn eto, 'mhlant i."
Ymwasgodd y Llanwyr mwyaf zelog at y Wesleyaid yn lled fuan ar ol eu dyfodiad cyntaf i'r gymydogaeth; yr hyn a fu yn fantais neillduol i'w cynydd. Ac ymunodd rhai a hwynt a fuasent yn Fethodistiaid cyn hyny. Dau o'r cyfryw oeddynt Edward Thomas, a'i wraig Sarah Rhys. Glynodd un ferch iddynt, Elen Roberts, wedi hyny o Benygroes, wrth y Methodistiaid hyd ddiwedd ei hoes. Bu y dadleuon rhwng y ddau enwad yn frwd iawn am flynyddoedd, a'r teimladau a gynyrchid trwyddynt yn dra chwerwon. Dywedai Rowland Evans am y dadleuon hyn, fod y naill blaid a'r llall yn ymddwyn megis pe na buasai yn yr holl Feibl ond rhyw ddwsin o adnodau, a'r rhai hyny oll ar y materion mewn dadl rhwng y ddau enwad. Erbyn hyn y maent ymhlith y pethau a fu, a'r teimladau chwerwon wedi hen ddiflanu. Ein perygl bellach ydyw difrawder hollol am bob athrawiaeth; ac os disgynwn i'r tir hwn bydd yr amryfusedd diweddaf yn waeth na'r cyntaf.
Dywedwyd wrthym mai yn 1838 yr adeiladwyd capel Carmel, yn ymyl y ffordd newydd, yr ochr arall i'r afon ar gyfer Rehoboth. ac mai yn 1853 yr helaethwyd ef. Yn 1866 yr adeiladwyd Siloh, y trydydd o gapeli y Wesleyaid yn yr ardal. Yr un achos oedd yn y tri. Ymhen rhai blynyddoedd ar ol adeiladu Siloh yr adeiladwyd capel yn agos i Dy'n y ceunant, gerllaw y fan y cychwynwyd yr achos y tro cyntaf.
Yn 1824 yr adeiladwyd Acchor, capel yr Annibynwyr, gerllaw Rhywgwreiddyn. Prif golofn yr achos yno oedd Hugh Pugh. Yn 1850, ar y 27ain a'r 28ain o Fedi, y symudwyd yi achos i Ben—y—graig, Corris; ac yn 1869 yr adeiladwyd Salem, y capel presenol, mewn lle mwy canolog a chyfleus. Yn 1855, ac yn benaf trwy lafur y diweddar John Stephen, yr adeiladwyd capel cyntaf yr Annibynwyr yn Aberllefenni; ac yn 1871 yr adeiladwyd, ar yr un llanerch, y capel presenol. Acchor oedd enw y cyntaf, a Bethesda yw y newydd.
Wnaed cais flynyddoedd lawer yn ol gan frawd a breswyliai yn Twrnpike Cefnyclawdd, i sefydlu yn y Capel Bach achos i'r Bedyddwyr; ond hyd yma y tri enwad uchod yn unig sydd yn meddu achosion yn y gymydogaeth. Y mae oddeutu 25 mlynedd er pan adeiladwyd yr eglwys newydd yn Nghorris gan y diweddar Ardalydd Londonderry.
PENOD IV
HUMPHREY DAVIES, ABERCORRIS
Crybwyllwyd eisoes mai mab i Dafydd Humphrey, Abercorris, ac Elisabeth ei wraig, ac ŵyr i Jane Roberts, Rugog, ydoedd gwrthddrych y benod hon. A chrybwyllwyd yn mhellach mai efe ydoedd eu hunig fab, er fod iddynt dair o ferched. Yn 1790 y ganwyd ef. O'i febyd yr oedd o duedd fywiog a chwareus; ac ymdaflai i chwareuon plant y gymydogaeth yn y modd mwyaf egniol. Rhagorai ddigon ar y cyffredin o honynt i fod yn fath o frenin ac arweinydd iddynt. Cyflawnodd wedi tyfu i fyny rai gorchestion gyda'r bêl droed ar Fawnog Ystradgwyn; ac yr oedd 'hela y llwynog' yn demtasiwn iddo wedi cyraedd addfedrwydd oedran. Yn Nghadair Idris un tro yr oedd y cwn yn rhy luddedig i neidio dros gagendor fechan er cyraedd at y gagendor; a gwnaeth H. D. bont iddynt drosti ei gorff ei hun.
Ond er mor chwareus, yr oedd bob amser yn ŵr ieuanc bucheddol; a dechreuodd fod dan argraffiadau crefyddol yn lled foreu. Pan oedd tua phum' mlwydd oed, torodd diwygiad crefyddol allan ymysg y plant; ac yn yr oedran tyner hwnw bu rhyw bethau hynod ar ei feddwl. Adgofion am y diwygiad hwn oeddynt y rhai boreuaf a arosasant gydag ef ar hyd ei oes am gyfnod ei febyd. Ymhen blynyddoedd ar ol hyn y bu yn gwrando pregeth gan John Elias yn Machynlleth, oddiar y geiriau, "Dan yr afallen y'th gyfodais," &c. (Caniad Solomon viii. 5). Mor fawr fu effaith y bregeth hono ar ei natur fywiog, fel y gwaeddodd allan; a dyfnhawyd yn fawr yr argraffiadau boreuol ar ei feddwl. Edrychai yn wastad ar yr odfa hon fel amgylchiad pwysig yn hanes ei fywyd. Mynych y dywedai wrth gyfeirio ati :—" Bum yn ddigon drwg lawer gwaith wedi hyny, ond nid anghofiais byth yr odfa hono, a'r hyn a deimlais ynddi."
Heblaw yr addysg a gafodd yn yr ysgol gyda Lewis William, ymddengys iddo fod am ryw dymor mewn ysgol yn Kerry, Swydd Drefaldwyn; a thrwy wneuthur defnydd da o'i fanteision, daeth yn ysgolhaig lled wych yn ol safon addysg yn yr oes hono. Bu am beth amser yn dysgu galwedigaeth lledrwr gydag ewythr iddo, yr hwn, meddir, oedd yn byw ar y pryd yn Penygareg Fach, gerllaw y Rugog, ond anfonwyd ef, pan oedd tua 17 mlwydd oed, i Dremadog, i ymberffeithio yn yr alwedigaeth Arosodd yn y lle hwnw am oddeutu dwy flynedd a haner Nid ymddengys iddo ef, mwy na phlant eraill yn yr oes hono, er yr argraffiadau crefyddol dwysion ar ei feddwl, gael ei ddwyn i fyny yn yr eglwys; ac un o'r camgymeriadau mwyaf difrifol y syrthiodd yr hen Fethodistiaid iddo ydoedd cau y plant allan o'r cyfarfodydd eglwysig. Pwy a ddichon draethu y colledion a gafodd Methodistiaeth a chrefydd ein gwlad trwy hyn! Trwy ei amddifadu o'r fraint hono yn blentyn cawn H. D. yn llanc ieuanc, 17 mlwydd oed, yn troi oddicartref i ardal ddieithr, heb fod mewn cysylltiad â eglwys Dduw; ond ymddengys iddo barhau yno yn gwbl ffyddlon i foddion gras, a derbyn llawer o garedigrwydd oddiar law y brodyr crefyddol yn y lle, ac yn enwedig oddiwrth y Parchedig John Jones. Siaradai yn barchus hyd ddiwedd ei oes am sirioldeb y gŵr da hwn.
Wedi dychwelyd i Gorris bu yn dilyn yr alwedigaeth uchod am nifer o flynyddoedd mewn adeilad yn Penybont. Pan oedd tua 25 mlwydd oed, cymerodd yn wraig iddo Mary, merch Richard Edwards, Aberllefenni. Dydd ei briodas ydoedd Hydref 8fed, 1815 Yr oedd teulu Jane Jones erbyn hyn wedi ymadael o'r hen balasdy, ac R. E. a'i deulu wedi cymeryd eu lle. Yr oedd iddo naw o blant,—pedwar o feibion, a phump o ferched. Y meibion oeddynt, Edward, yr hwn a dreuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn Aberllefenni, ond a symudodd oddiyno i Ddyffryn—glyn—cul, gerllaw Aberdyfi, ac a fu farw yn yr Ogof Fawr, gerllaw Machynlleth; Evan, yr hwn y crybwyllwyd am dano mewn penod flaenorol yn byw yn Ffynonbadarn, ond a symudodd wedi hyny i ardal Llanwnog, yn Swydd Drefaldwyn;. William, a fu yn byw am oes faith yn Minffordd, yn yr hwn le hefyd y bu farw; a Richard, a fu farw gwpl o flynyddoedd yn ol yn Nolgellau. Y merched oeddynt Mary, priod H. Davies Elisabeth, priod Lewis Roberts, Tanycoed, gerllaw Abergynolwyn; Anne, priod John Williams, goruchwyliwr Chwarel Aberllefenni; Jane, priod Samuel Williams, Rugog; ac Ellen, priod Richard Edwards, Ceinws. O'r naw nid oes yn awr yn fyw ond Jane yn unig.
Ar adeg eu priodas nid oedd H. D. na'i wraig yn aelodau eglwysig, er eu bod ill dau yn grefyddol. Y noson gyntaf wedi dyfodiad y wraig ieuanc i Abercorris. Diolchai Dafydd Humphrey yn gynes yn y weddi deuluaidd am i'r Arglwydd roddi iddynt fel teulu drysor mor werthfawr. Ymhen tua thair blynedd ar ol eu priodas, sef yn 1818, yr ymunasant ill dau a'r eglwys. Dywedir mai 13 oedd nifer yr aelodau eglwysig y pryd hwnw; ond yn 1819, trwy y diwygiad grymus a gafwyd, ychwanegwyd at yr eglwys o 60 i 70 o aelodau. Yr oedd yn fyw hyd yn ddiweddar un chwaer a ddaeth i mewn yr adeg hono, sef Jane Roberts, Shop Newydd, yr hon a fu farw yn nhy ei merch yn Liverpool y flwyddyn ddiweddaf. Ymdaflodd H. D. ar unwaith yn egniol i waith crefydd; ac ymhen tua 18 mis wedi ei ymuniad â'r eglwys, dewiswyd ef yn flaenor ynddi. Ac yr ydym yn credu mai dyma y rhodd fwyaf a estynwyd gan Dduw i Fethodistiaeth Corris o hyny hyd yn awr. Bychain iawn oedd galluoedd a doniau y ddau swyddog oeddynt yno o'i flaen, sef ei dad, Dafydd Humphrey, a Richard Anthony, ac i'w law ef o ganlyniad y disgynodd ar unwaith y gorchwyl o borthi y praidd. Ac nid ydym yn credu y bu o'r dechreuad hyd yn awr adeg mor bwysig ar yr eglwys Fethodistaidd yn Nghorris a'r adeg hono, pan yr oedd ynddi uwchlaw triugain o ddychweledigion newyddion, oll yn edrych i fyny at H. D. am ymgeledd ac arweiniad. Ond yr oedd ei gymhwysderau mor amlwg i'r gwaith, a'i ymroddiad iddo mor fawr, fel y dyrchafwyd yr eglwys yn fuan i dir cwbl wahanol i ddim a gyrhaeddasid ganddi erioed o'r blaen. Ac nid ydym yn credu i neb lanw mewn unrhyw eglwys le pwysicach nag a lanwyd ganddo ef yn eglwys Corris o 1820 i 1850.
Bu ei sefyllfa fydol yn llawer o fantais i'w ddylanwad. Yr oedd yn ŵr llygadog, llawn o yni a medrusrwydd; a gellir edrych yn briodol arno ef fel tad masnach yn yr ardaloedd hyn. Adeiladodd factory i drin gwlan, a chymerodd Felin Aberllefenni hefyd; ac nid oedd neb braidd o'r preswylwyr heb fod yn masnachu âg ef, ac yn gyffredin yn ei ddyled. Ond y mae yn rhaid i ni yn y fan hon frysio i wneyd y crybwylliad mai tystiolaeth unfrydol yr ardalwyr ydoedd na chafwyd ef erioed yn ceisio cymeryd unrhyw fantais ar neb yn yr eglwys oherwydd ei gysylltiadau bydol â hwynt. Yr oedd ei uniondeb perffaith yn ei fasnach yn adnabyddus i bawb, a'r ymddiried ynddo braidd yn ddiderfyn. Ac ar adegau o brinder yn enwedig dangosai lawer o dynerwch a goddefgarwch tuag at ei gymydogion. Wrth ystyried gan hyny y manteision hyn, y galluoedd cryfion yr oedd yn feddianol arnynt, ynghyd â'r swydd a lanwai yn yr eglwys, hawdd ydyw gweled y gallasai fod yn frenin yn yr eglwys a'r gymydogaeth. Ac felly mewn rhyw ystyr yr ydoedd; ond ni welwyd ynddo ar yr un pryd un duedd erioed i dra—awdurdodi. Dylanwad yn hytrach nag awdurdod oedd ganddo. Wedi i Rowland Evans ddyfod i Felin Aberllefenni (fel y cawn sylwi eto), gwas i H. D. ydoedd; ond derbynnwyd ef ar unwaith yn flaenor yn eglwys Corris. Ac nid oedd neb yn gwerthfawrogi ei alluoedd yn fwy na H. D, nac yn fwy awyddus i roddi y lle blaenaf iddo yn y gwaith o ymgeleddu yr eglwys. Arferai R. E. ei gyfarch yn y Felin fel 'Meistr;' ac yr oedd iaith y Felin yn bur naturiol iddo yn yr eglwys; ond buan y gelwid ef i gyfrif gan H. D. "Tewch, Rowland, 'does yma neb yn feistr na gwas; pawb yn frodyr ydyw hi yma."
Trwy ei yni a'i ymroddiad ymledodd ei fasnach yn gyflym, a daeth yn fuan yn adnabyddus ac yn barchus ymhell y tu allan i derfynau ei ardal enedigol; ond ni effeithiodd ehangiad ei fasnach na pharchusrwydd ei sefyllfa i leihau dim ar ei ffyddlondeb i achos crefydd. Byddai bob amser yn gwneuthur pa beth bynag yr ymaflai ei law ynddo â'i holl egni. Yn yr ystyr oreu i'r gair, yr oedd wedi deall pa fodd i "wneyd y goreu o'r ddau fyd." Ar un olwg nid oedd neb yn fwy bydol; ac eto nid oedd neb yn fwy crefyddol. Medrai daflu ei holl natur i'w orchwyl, a chyda rhyw sydynrwydd rhyfedd ac anealladwy i lawer, medrai wneuthur yr un peth drachefn yn ebrwydd gyda gorchwyl arall.
Yn yr addoliad ni byddai neb yn fwy bywiog nag efe, yn enwedig yn ei flynyddoedd goreu; ond y foment y byddai allan o'r addoliad (os dydd gwaith fyddai) byddai wrthi â'i holl egni gyda rhyw orchwyl yn y maes, neu tua'r adeiladau, cyn i bobl eraill gael hamdden braidd i gyfarch gwell i'w gilydd ar derfyn y gwasanaeth. Un tro, pan yn dyfod trwy ddrws y capel, gwelai y gwartheg yn yr ŷd, a rhoddodd floedd gyffroes yn y fan, nes peri brawychdod i'r gynulleidfa oedd eto haner wneuthur ei ffordd allan o'r capel. Adroddwyd wrthym gan y diweddar Barchedig John Jones, Brynteg, ei fod yn myned ryw dro i'r Cyfarfod Misol i Fryncrug. Goddiweddwyd ef ar y ffordd gan H. D. ar ei geffyl. Disgynodd yn y fan er mwyn i'w gyfaill gael marchogaeth am ychydig. Yr oeddynt ar y pryd gerllaw Nantmynach. "Aroswch chwi yna," meddai H. D. wrth J. J, "mae arna' i eisio picio i'r fan yma am fynyd." Yn fuan daeth i'w gyfarfod ar hyd llwybr a arweiniai o'r ffarm hono i'r ffordd. "Mi brynais y gwlan yn Nantmynach yrwan," meddai; "mae arna' i eisio picio eto i'r ffarm yma;" ac yn fuan dychwelodd wedi prynu y gwenith yn y lle hwnw; Wedi cyraedd i Fryncrug, efe a alwyd i lywyddu y Cyfarfod Misol; ac ymdaflai i waith y swydd hono drachefn mor egniol a phe na buasai wedi gwneuthur dim arall erioed. Fel y dywedai Mr. Jones, "Nid oedd blewyn o'r gwlan wedi glynu wrtho."
Gan mai yn ardal ei enedigaeth y treuliodd H. D. ei holl oes, mae yn amlwg nad oes rhyw lawer o symudiadau na digwyddiadau allan o'r ffordd gyffredin i'w cofnodi yn ei hanes. Bu ei fywyd, fel yr awgrymwyd, yn llwyddianus; ond cafodd er hyny brofedigaethau mawrion yn ei ddydd. Un o honynt, a'r chwerwaf yn ddiau ydoedd marwolaeth ei anwyl briod, Medi 8, 1849 Mewn Cofiant byr a chynwysfawr yn y 'Drysorfa,' Mai, 1850, wedi ei ysgrifenu gan Rowland Evans, gosodir allan mewn modd hapus iawn brif linellau ei chymeriad, a hyny mewn rhan trwy ddyfyniadau o anerchiad y Parchedig Humphrey Evans, y pryd hwnw o'r Ystradgwyn, yn ei chladdedigaeth. Yn ei theulu yr oedd yn wraig serchog a charedig, yn ddiwyd a chynil, yn ddirodres a diwastraff. Wrth weini ar weinidogion yr efengyl, yr oedd yn nodedig am ei charedigrwydd a'i doethineb. Cyfunai yn dra dedwydd yn ei chymeriad rinweddau Martha a Mair. Buasai ei mam—yn—nghyfraith yn hynod yn ei gofal am weision yr Arglwydd am lawer o flynyddoedd, ond gosodwyd y ferch—yn—nghyfraith mewn amgylchiadau mwy cysurus, fel y bu y Tynewydd, yn ystod ei dydd hi, ac wedi hyny, yn un o'r lleoedd mwyaf dedwydd i bregethwyr alw ynddo. Yr oedd Mrs. Davies yn nodedig hefyd am ei charedigrwydd tuag at dlodion a chleifion. Yn wir, nid yn fynych y gwelwyd mewn gwraig gyfuniad prydferthach o rinweddau Cristionogol. Ychydig, erbyn hyn, yw y rhai sydd yn ei chofio; ond yn nghalonau y rhai hyny y mae ei choffadwriaeth byth yn fendigedig.
Bu hefyd yn fam wir ofalus. Yn ei chladdedigaeth, sylwai y Parchedig H. Evans iddi adael wyth o blant ar ei hol, heb weled yr un o honynt wedi gadael gwinllan Crist, a golwg obeithiol y byddant yn golofnau yn nhŷ Dduw tra y byddant ar y ddaear. Erbyn hyn y mae pump o honynt wedi dilyn eu mam, heb fod erioed allan o eglwys Dduw, a rhai o honynt wedi arwain bywyd nodedig o grefyddol. Y pump hyn oeddynt Mr. David Davies, Abercorris; Mrs. Elisabeth Evans, Penllwyn; Mrs. Mary Jones, Pimlico, Llundain; Mrs. Eleanor Edwards, Llundain; a Miss Hannah Davies, Abercorris. Y tri sydd eto yn aros ydynt Mr. Richard Davies, Llundain; Mr. Humphrey Davies, Abercorris; a Mrs. Jane Jones, Bryngoronwy, Llanwrin.
Yn ei chystudd diweddaf, bu am beth amser yn lled dywyll ar ei meddwl, ond gwawriodd arni er hyny cyn hir. Pan ymwelodd un brawd â hi, cyn iddo ef agor ei enau, dywedodd, Wel, John bach, mae cadarn sail Duw yn sefyll o hyd yn ddi—gryn. Gwyddoch na bum i erioed yn meddu ar brofiadau uchel; llin yn mygu, na wyddech chwi na minau beth oeddwn ar y goreu; ond heddyw y mae yn ddigon goleu. Mae'r afael sicraf fry. Diolch iddo byth am gofio llwch y llawr, o'm bath i.
Yn nesaf at y brofedigaeth uchod, o golli ei anwyl briod, rhaid crybwyll marwolaeth Hannah, merch ieuangaf H. D, yr hon wedi marwolaeth ei mam a phriodas ei chwaer Eleanor, a ofalai am ei dŷ. Adeg hynod o ystormus ar y teulu a fu dechre'r haf 186O. Mai 7, bu farw Elisabeth Davies, merch henaf David Davies, Abercorris, yn 22 mlwydd oed; a Mehefin 6, bu farw ei modryb, Hannah Davies, yn 26 mlwydd oed. Cymerwyd y ddwy ymaith gan dwymyn boeth, a bu Humphrey Davies, ieu, mewn enbydrwydd mawr am ei einioes yntau. Yr oedd y ddwy chwaer ieuanc uchod yn nodedig o grefyddol. Parai cysondeb eu hymarweddiad, gweddeidd—dra eu holl ymddygiadau, ynghyd â sirioldeb a gwastadrwydd eu tymherau, iddynt fod yn anwyl yn ngolwg yr holl gymydogaeth; ac yn y diwygiad yn 1859—60 cawsent ill dwy adnewyddiad amlwg iawn yn eu crefydd. Erioed ni chollwyd o'r ardaloedd hyn ddwy chwaer ieuainc fwy crefyddol a dymunol; a chwerw iawn i H. D. oedd eu hymadawiad, gan eu bod yn ei olwg yn wastad ymron fel canwyll ei lygad. Ceir coffio am danynt yn y Drysorfa, Hydref 1861.
Am y deng mlynedd ar hugain cyntaf o'i fywyd fel blaenor, yr oedd H. D. yn weithiwr digyffelyb; ond am yr ugain mlynedd diweddaf, ei brif orchwyl ydoedd cael eraill i weithio. Gadawodd yr Ysgol Sabbothol i fesur mawr yn ystod y cyfnod hwn yn nwylaw brodyr ieuangach, gan fyned ei hun ar adeg yr ysgol gyda'r pregethwr i Aberllefenni, Esgairgeiliog, neu Bethania. Ni leihaodd ei yni na'i ffyddlondeb gyda'r achos mawr; parhaodd i lanw cylch nas gallai neb ei lanw ond efe, ac eto ei awydd mawr oedd dwyn eraill i weithio yn hytrach na gweithio ei hun. Yn yr eglwys parhaodd i arwain hyd y diwedd. Efe fyddai yn cyfodi ar nos Sabbath bob amser i ofyn y cwestiwn, A oes yma neb wedi aros o'r newydd gyda ni heno! Ychwanegai yn wastad ryw sylw byr, yr hwn ni byddai yn gyffredin ond cyfeiriad cynes at brif wirionedd y bregeth a draddodasid. Rhagarweiniad yn unig fyddai y sylw ganddo ef i adolygiad helaethach ar weinidogaeth y dydd gan Owen Jones, cyn galw ar y pregethwr i wneyd ychydig sylwadau wrth yr eglwys. Llawenydd calon H. D. oedd gweled o'i amgylch ddynion o alluoedd a chymwysderau amlwg i ddwyn ymlaen waith yr eglwys; ac yr oedd bob amser yn gwbl rydd oddiwrth bob teimlad eiddigeddus tuag atynt.
Wrth roddi yr amlinelliad uchod o brif ddigwyddiadau bywyd H. D. yr ydym o angenrheidrwydd wedi gwneuthur amryw grybwyllion am ei gymeriad fel dyn a Christion, ac am y lle mawr a lenwid ganddo yn y gymydogaeth, ac yn enwedig ymysg y Methodistiaid. Ond dymunem, be gallem, gyflwyno i'n darllenwyr ddisgrifiad mwy cyfiawn a manwl o hono yn y gwahanol gylchoedd. Am ei gysylltiadau masnachol nid oes angen ychwanegu dim. Yr oedd yn y rhai hyn yn llawn llygaid, yn llawn yni, ond yn gwbl uniawn ac anrhydeddus. Er fod ei natur yn wresog a thanbaid, yr oedd er hyny yn dyner a charedig. Gŵr doeth ydoedd hefyd, heb fod mewn un modd yn dueddol at fyrbwylldra. Byddai yn dra gofalus am deimladau y rhai yr ymwnelai â hwynt. Wrth gwrs, yr oedd yn awyddus am i eraill fod yn onest ac anrhydeddus yn gystal a bod felly ei hun; ond yr oedd yn dra gwyliadwrus rhag iddo trwy unrhyw air brysiog roddi archoll i deimladau. Trwy yr holl nodweddau hyn bu yn hynod lwyddianus gyda gwahanol ganghenau ei fasnach; a dyrchafwyd ef i safle mewn canlyniad yn y gymydogaeth na chyrhaeddwyd gan neb o'i flaen. Ond gofalodd am fod crefydd yn manteisio o flaen pob peth ar ei lwyddiant; ac yr oedd yn amlwg i bawb ai hadwaenai ei fod yn wastad yn awyddus am wneuthur ei sefyllfa yn y byd yn wasanaethgar i ddyrchafiad achos Mab Duw.
Cymerwyd olwg arno yn gyntaf—
Fel Swyddog Eglwysig. Dewiswyd ef yn flaenor, fel y dywedwyd eisoes, ymhen y deunaw mis wedi iddo ymuno â'r eglwys, sef tua'r flwyddyn 1819. Nid oedd ar y pryd ond ei dad a Richard Anthony yn swyddogion yn yr eglwys; a chan ei fod ef, er nad oedd eto yn llawn 30 mlwydd oed, wedi derbyn manteision addysg llawer helaethach na hwy, yn ehangach ei wybodaeth, yn gryfach ei alluoedd, ac yn arbenig yn meddu ar yni digyffelyb, llithrodd yr arweiniad yn fuan ac yn gwbl naturiol iw ddwylaw. Anhawdd ydyw gwybod pa beth a ddaethai o'r eglwys yn 1819 oni buasai fod Duw wedi ei godi ef yn brydlawn i gymeryd yr arweinyddiaeth ynddi. Nid ydym yn deall iddo erioed fod yn euog o chwenych y blaen, na dangos unrhyw ddiystyrwch o'r hen swyddogion; ac nid oes hanes iddynt hwythau ar y llaw arall wneuthur dim ond diolch i Dduw am estyn iddynt y fath gydweithiwr rhagorol, a gwneuthur eu goreu i roddi pob cefnogaeth iddo yn ei waith. Pa fodd bynag, aeth pob peth ymlaen yn heddychol a llwyddianus; ac ymhen ychydig flynyddau, trwy agoriad y chwarelau, ychwanegwyd llawer at boblogaeth yr ardaloedd, a da oedd fod H. D. wedi cael bellach amryw flynyddoedd o brofiad yn ei swydd, ac wedi enill safle o ddylanwad yn y gymydogaeth er bod yn arweinydd doeth yn y blynyddoedd pwysig a ddilynasant.
Y blaenoriaid, y pryd hwnw, oeddynt yn gwneuthur pob gwaith a berthyn i swydd gweinidog yr efengyl ond pregethu a gweinyddu yr Ordinhadau o Fedydd a Swper yr Arglwydd. Ac nid oedd nifer y gweinidogion ar pregethwyr yn Ngorllewin Meirionydd yn 1820 ond bychan iawn. Anhawdd ydoedd cael pregethu cyson ar y Sabbothau; a thuag at ei sicrhau yr oedd, yn ol trefniadau y dyddiau hyny o roddi cyhoeddiadau yn unig am fis ymlaen, aberth mawr yn angenrheidiol ar du blaenoriaid eglwysig mewn lle neillduedig fel Corris i fyned i'r Cyfarfodydd Misol gyda chysondeb. Ymddengys y cynhelid weithiau y Cyfarfod Eglwysig ar nos Sadwrn, er mwyn cael presenoldeb ynddo y pregethwr a ddisgwylid at y Sabbath. Ond beth cwbl achlysurol ydoedd hyn; ac felly ar y blaenoriaid, ac ar H. D. yn arbenig, y disgynai gofalu am y cyfarfodydd hyn yn wythnosol. Wrth wneyd hyny dangosai fedrusrwydd neillduol. Nid oedd un amser yn siaradwr mawr ei hun, ond yr oedd ganddo ddawn arbenig i gael gafael ar brofiad y brodyr ar chwiorydd crefyddol. Yr oedd yn wastad mor fywiog ei ysbryd, mor siriol ei dymer, ac mor hoew yn ei holl ysgogiadau, fel y byddai ei bresenoldeb yn taflu bywyd i pob cyfarfod; ac yr oedd yn hynod barod gyda'i gwestiynau, a chyflym hefyd ac yn ei sylwadau, fel nad oedd un amser gyfarfod marwaidd yn bosibl yn y man lle y byddai.
Gyda golwg ar ddisgyblaeth eglwysig yr oedd yn wastad yn wir ofalus. Nid oedd yn llym nac yn erwin; ond yr oedd goddef y rhai drwg er hyny yn beth na ddymunai. Byddai yn dra chydwybodol i athrawiaethu a chynghori yn yr eglwys, i gyfarwyddo yr ieuenctyd yn arbenig pa fodd i ymddwyn, ac yn hynod sylwgar ar eu hymddygiadau ymhob lle, fel y rhoddai iddynt bob cymorth yn ei allu er eu cadw o afael disgyblaeth eglwysig; ond os gwelid angen am y wialen gwyddai yn dda pa fodd iw defnyddio. Cyn y ffeiriau yn Machynlleth a Dolgellau, neu ryw achlysuron eraill y byddai ieuenctyd mewn temtasiynau arbenig arnynt, ni esgeulusai un amser roddi gair prydlawn o rybudd iddynt; gan eu cymell yn wastad i ystyried yr Enw mawr oedd arnynt, ar bwys o fod yn wyliadwrus rhag iddynt mewn un man na thrwy unrhyw ymddygiad dynu dianrhydedd arno. Gwyliwr effro ydoedd ar y mur; gwyliwr na chafwyd un amser yn hepian; a dydd y farn yn unig a ddengys y daioni a wnaethpwyd trwy ei gynghorion ai rybuddion caredig ac amserol.
Cafodd y dosbarth ieuanc ei sylw manylaf ar hyd ei oes. Bu yn hynod ymdrechgar i gael y blant i ymddwyn yn briodol yn nhŷ yr Arglwydd. Nid ydym yn gwybod a oedd plant yr ardal hon yn fwy direidus na phlant ardaloedd eraill; ond gwyddom iddo ef orfod llafurio yn galed iw cael i ymddwyn yn weddus yn yr addoliad. Adwaenai hwynt bob un, a chymerai sylw o honynt ymhob man. Gwyliai hwynt yn yr addoliad, ac os gwelai ddau o honynt yn siarad â'u gilydd yn ystod y gwasanaeth, cymerai fenthyg ffon Hugh Humphrey, y Pentre, ac un atynt yn ddistaw a diarwybod iddynt i weinyddu iddynt gerydd byr ac effeithiol gyda'r ffon; neu ynte os na byddai y ffon wrth law tarawai ben y ddau hogyn gyda pheth cydynrwydd y naill wrth y llall, a dychwelai yn ol i'r sedd fawr yr un mor ddistaw. Yn raddol daeth y plant i wylio H. D, ac os gweled ef yn edrych trwy ei fysedd i ryw gyfeiriad deallid fod ystorm yn ymgasglu, a allai esgor ar ganlyniadau annymunol i droseddwyr. Weithiau, galwai ar y plant i gilio oddiwrth ryw un drwg yn eu mysg, gan ei adael wrtho ei hun yn ei ddrygioni. Bryd arall galwai ar un o honynt ato ar ei ffordd allan o'r gwasanaeth fel pe buasai ganddo rywbeth o bwys iw ddywedyd wrtho; ond y cyfan a ddywedai wrtho fyddai Drwg wyt ti, gydag ysgydwad awgrymiadol ar ei ddwrn. Bu yn bygwth troi y rhai drygionus allan, ac nid ydym yn sicr na chariwyd y bygythiad i weithrediad rai adegau. Un tro, pan yr oedd hogyn dan yr oruchwyliaeth hon, erfyniai am gael aros, gan ddywedyd, "Mi ddysga allan faint fynoch chi, os cai aros". Siaradai wrth y plant, a rhybuddiai hwynt pa le bynag y cyfarfyddai hwynt. Wel, meddai wrth hogyn direidus un—waith, pa un ai wedi bod yn gwneyd drwg ai ynte yn mynd iw wneyd yr wyt yrwan? Ac ychwanegai y gellid yn hawdd ei geryddu pa bryd bynag y cyfarfyddid âg ef am y naill reswm neu y llall. Ond o'r diwedd, llwyddocld H. D. i gael cynulleidfa Rehoboth yn un o'r rhai mwyaf astud, a gobeithiwn na bydd iddi byth golli y goron brydferth hon.
Bu yn ymdrechgar hefyd i roddi i lawr arferion llygredig ymhlith y bobl ieuainc. Buasai ei hunan yn enwog yn ei ddydd gyda'r bêl droed; ond wrth weled y gwastraff ar amser, ar drygau eraill oeddynt yn cyfodi o'r arferiad, gwnaeth y cwbl a allai iw rhoddi i lawr. Ymlithrai i blith y chwareuwyr, y rhai a chwareuent yn gyffredin wrth oleu y lloer, a rhedai gyda hwynt nes cael gafael ar y bêl; ac yna byddai y chwareu drosodd am y noson hono. Yr oedd ei arswyd ar ieuenctyd yr ardaloedd, ac er hyny yr oedd iddo barch gwirioneddol yn mynwes pawb o honynt. Rhoddai ei wyneb yn erbyn pob arfer lygredig; ac ni orphwysai nes gwneuthur pob peth yn ei allu ef at ei rhoddi i lawr. Blinid ei ysbryd gan segurwyr, y rhai a ymgasglent ar y groesffordd gerllaw ei dŷ i chwedleua a chellwair, a mynych yr aflonyddai ar eu heddwch os na lwyddai iw cael i roddi heibio eu harferiad ffol.
Fel swyddog eglwysig bu yn dra gofalus i gyfodi crefydd yn y teulu. Galwai sylw yn fynych at yr angenrheidrwydd am lywodraeth deuluaidd, ac am y pwys o fod yn gyson gyda'r addoliad teuluaidd. Perthynai i'r hen ysgol o grefyddwyr a swyddogion; ond yr oedd yn hynod rydd oddiwrth ei diffygion ac yn dra amlwg yn ei rhinweddau. Ni feddyliodd neb erioed am ddywedyd ei fod yn gul mewn syniad na theimlad; ond yr oedd yn ddibetrus yn ei wrthwynebiad i bob drwg, ac yn ei gefnogaeth i bob daioni. Ac er perthyn ei hun i'r hen ysgol, nid oedd un amser yn anmharod i fyned ymlaen gyda symudiadau newyddion o duedd ddaionus.
Bu yn gwneuthur gwaith bugail ei hun am lawer o flynyddoedd; ond nid oedd neb yn fwy parod nag efe i gofleidio Bugeiliaeth eglwysig pan y daeth. Yr oedd, yn wir, yn hynod ystwyth yn wastad, ac yn llithro rywfodd yn arweinydd pob symudiad, er i'r symudiad gychwyn yn meddyliau brodyr eraill. Rhoddodd y derbyniad siriolaf i'r Parchedig Evan Jones yn awr o Gaernarfon, y bugail cyntaf a alwyd gan yr eglwys, yn 1867; ac wedi hyny ychydig misoedd cyn ei farwolaeth i'r Parchedig William Williams. A bu yn , cydweithio hefyd yn hapus am flynyddoedd âg amryw frodyr eraill—un yn weinidog a phump yn bregethwr sef Mr. Corris Jones (at yr hwn y gelwir sylw eto); Mr. John Jones, Cwm celli (wedi hyny o Brynteg); Mr. Thomas Williams, wedi hyny o'r Dyffryn; y Parchedig Ebenezer Jones, wedi hyny o Abergynolwyn; Mr. David Davies, Geuwern; a Mr. Hugh Roberts. Ni theimlai un amser fod neb yn myned ai le; ac ni lochesodd erioed am foment deimladau eiddigeddus tuag at neb o'i frodyr. Gormod fyddai dywedyd iddo ar hyd ei fywyd gydweled â hwynt oll; ond parai pob anghydwelediad ofid calon iddo, a bu ar bob amgylchiad yn llawn ystwythder a maddeugarwch.
Nid ydym yn petruso datgan ein syniad ei fod yn model o swyddog eglwysig; ac yr ydym yn credu yr edrychid arno felly gan y gwyr craffaf ai hadwaenent. Cofus genym glywed Mr. Morgan, o'r Dyffryn, un tro, pan yn dadleu yn y Cyfarfod Misol yn erbyn cydnabod yn flaenoriaid mewn eglwys flaenoriaid wedi symud iddi o eglwys arall, yn dywedyd, Pe bae Mr. Humphrey, Davies, Corris, yn dyfod i eglwys y Dyffryn acw; fe gai aros o leiaf am flwyddyn heb ei alw i fod yn flaenor, gyda ni. Dywedwyd wrthym iddo ar achlysur arall gyfeirio ato fel un o'r rhai mwyaf defnyddiol yn holl gylch y Cyfarfod Misol. Yn ei deimlad ef, ac yn wir yn nheimlad holl aelodau y Cyfarfod Misol, nid oedd flaenor perffeithiach na Humphrey Davies,
Edrychwch arno yn ail, Yn ei berthynas ar Ysgol Sabbothol.
Dywedwyd eisoes iddo gilio braidd yn llwyr o'r cysylltiad hwn yn ei flynyddoedd diweddaf. Yn ystod y blynyddoedd hyny gwnaeth wasanaeth gwerthfawr i'r achosion newyddion yn Aberllefenni; Esgairgeiliog, a Bethania, trwy fyned i'r naill neu y llall o honynt yn gyson gyda'r pregethwr ar y Sabbothau. Ac yr oedd yr athrawon wedi lliosogi i'r fath raddau fel mai hawdd bellach oedd dwyn y gwaith ymlaen hebddo. Ond o 1820 hyd 1850 yr oedd ei weithgarwch gyda'r Ysgol Sabbothol yn dra nodedig. Dywedir fod ganddo ddawn neillduol i holwyddori, yn enwedig y plant; a bu am amser, yn un o'r gofalwyr am Gyfarfod Ysgolion Dosbarth y Ddwy Afon. Cynorthwyai fel holwyddorwr, a gwasanaethai hefyd fel ysgrifenydd y cyfarfod. Buasai ei dad o'i flaen yn dra ffyddlon, i'r Ysgol Sabbothol, a disgynodd deuparth o ysbryd y tad ar y mab, fel nad oedd lonydd i neb yn y gymydogaeth mewn esgeulusdra o'r ysgol, nac un llafur yn cael ei arbed er sicrhau ei heffeithiolrwydd.
Mae y Cyfarfod Ysgolion yn Nosbarth y Ddwy Afon wedi bod ers cenhedlaethau yn sefydliad pwysig, ac ysgolion Corris ar amgylchoedd wedi bod bob amser yn hynod ffyddlon iddo. Cafwyd gwasanaeth gwyr rhagorol fel gofalwyr am y cyfarfod, yr hyn yn ddiau sydd wedi bod yn un rheswm am ei bwysigrwydd ai ddylanwad; ac y mae ffyddlondeb yr ysgolion uchod iddo hefyd yn y lle cyntaf yn ddyledus i esiampl a dylanwad H. D. Y mae efe wedi marw bellach ers blynyddoedd, ac yr oedd wedi cilio cyn ei farwolaeth i roddi lle i eraill, ond y mae yr eglwysi ar ysgolion yn yr ardaloedd hyn yn myned ymlaen hyd y dydd heddyw yn y cyfeiriad a roddodd efe iddynt yn mlynyddoedd ei weithgarwch.
Edrycher arno eto,
Yn ei berthynas a symudiadau cyhoeddus yn y gymydogaeth.
Ni welwyd ef erioed yn wrthwynebydd unrhyw symudiad daionus; ei le yn wastad gyda phob un o honynt fyddai lle y pleidiwr mwyaf gwresog, ar arweinydd mwyaf medrus a gwrol. Cymerer, er engraifft, yr achos dirwestol. Mae yn amheus a oes yn Nghymru un gymydogaeth wedi bod ar y cyfan mor ffyddlon i'r achos hwn a chymydogaeth Corris. Dydd mawr y flwyddyn i ni, yn adeg mebyd, ydoedd dydd yr Wyl Ddirwestol,—dydd Iau y Dyrchafael. Sefydlwyd y Gymdeithas yno yn 1836, dyna y dyddiad ar y Faner Fawr, yr hon a ddygid allan yn wastad ar y dydd uchod, os byddai y tywydd yn caniatau; ac y mae yr wyl wedi ei chynal yno bob blwyddyn o'r adeg uchod hyd heddyw, oddigerth 1860, pryd y rhoddwyd hi heibio yn ngwres y diwygiad, er mwyn cynal yn ei lle gyfarfod Pregethu Undebol. Y dirwestwr cyntaf yn yr ardaloedd ydoedd Morris Jones, y pregethwr, yr ail ydoedd Humphrey Edward (Cwmcelli gynt); ar trydydd, ond y cyntaf i arwyddo yr ardystiad am ei oes, ydoedd Rowland Evans, Y Felin, Aberllefenni; ar pedwerydd ydoedd Richard Jones, y Saer, yn awr o Ddolffanog Fach, Ystradgwyn. Yr oedd brawd arall wedi arwyddo yn ail, ond bu yn anffyddlon iw ardystiad; ac nid ydym o ganlyniad yn crybwyll ei enw. Yr oedd y diweddar Barchedig John Jones, Brynteg, ond y pryd hwnw o Gwmcoch yn gynar ar y rhestr; a dywedai fod ganddo law gyda Morris Jones mewn cael cyfarfod cyhoeddus o blaid yr achos am y tro cyntaf. Yr oedd eraill, ac yn eu mysg yn arbenig y diweddar Mr. Hugh Roberts, yn foreu gyda'r gwaith, y rhai a barhasant yn ffyddlon hefyd hyd y diwedd. Lled gyndyn fu H. D. i ymuno â'r symudiad hwn ar y cyntaf. Heblaw yr anhawsderau oedd ar ffordd y cyffredin yn eu mysg y syniad fod byw, ac yn enwedig gweithio, yn amhosibl heb ryw gymaint o'r diodydd meddwol—yr oedd ei gysylltiadau masnachol yn peri iddo ef fod i fesur yn betrusgar. Gelwid arno i fyned yn fynych oddicartref, ac yn y tafarnau yn wastad y cyfarfyddai â'r rhai y masnachai â hwynt i ddwyn ymlaen ei drafodaethau, yr hyn a ystyrid yn gwbl anocheladwy; ac edrychid ar ymarferiad â'r diodydd meddwol uwchben y trafodaethau yr un mor anocheladwy; Ond wrth glywed un gŵr yn areithio yn Machynlleth, ac yn disgrifio y gareg fawr yn nghanol y llyn o dan ba un y llechai y pysgod, penderfynodd ar unwaith na chai neb lechu mwyach yn ei gysgod ef, ac arwyddodd yr ardystiad ar unwaith, a deuddeg ar hugain eraill; gydag ef yr un noswaith. O hyny allan bu yn llawn gwres gyda'r achos.
Daeth Corris yn fuan yn enwog am ei zêl ddirwestol; ffurfwyd côr yno dan arweiniad Richard Williams, yr Hen Ffactri, o ba un yr oedd William Evans. yr hwn a fu yn arweinydd y canu yn Rehoboth am flynyddocdd wedi hyny, yn aelod pwysig a dylanwadol; a byddai y côr hwn yn myned yn fynych i Ddolgellau, Machynlleth, Dinas Mawddwy, a lleoedd eraill i ganu. Ar yr adegau hyn mawr fyddai y cynwrf; a chynhelid breichiau aelodau y côr gan frodyr ffyddlawn eraill o'r gymydogaeth. Ond ni byddai neb yn fwy ffyddlawn iddynt na H. D. Hir gofio am dano ar un achlysur yn Machynlleth pan yr oedd aelodau y Cymdeithasau Dirwestol o'r gwahanol ardaloedd yn cydgyfarfod i orymdeithio, yn brasgamu gyda'r faner, rhag i un gymdeithas arall gael y blaen ar gymdeithas Corris. Byddai gyda hwynt ymhob man, yn llawn bywyd a gwres. Ac anhawdd ydyw yn awr ffurfio syniad priodol, am y cyffro oedd yn y wlad y pryd hwnw gyda'r symudiad dirwestol. Codai yr holl boblogaeth allan i'r cyfarfodydd yn y gwahanol ardaloedd. Yn Nghorris un diwrnod, yr oedd gwraig y dafarn wedi colli yr ysgubell, ac meddai wrth y forwyn, Tybed fod yr ysgubell wedi myned i'r Cyfarfod Dirwestol ? Un tro yr oedd Cymdeithas Corris yn myned i Ddolgellau; ac ar y Stryd Fawr, gan pan myned ymlaen ar ol eu baner, ar côr yn canu nes oedd y bryniau ar mynydd—oedd yn diaspedain gan y gerddoriaeth, daeth y gwrthwynebwyr allan i gicio y bêl droed yn eu canol. Ar y cyntaf ofnid terfysg; ond yr oedd Humphrey Hughes, y Pandy, yn eu plith, a thynodd ei gyllell o'i logell, gan ei dal yn agored i dderbyn y bêl, yr hon a ddisgynodd arni fel cadach llestri; ac yr oedd y chwareu ar unwaith drosodd. Yr oedd yn Nghorris lawer o frodyr zelog eraill, âc amryw yn llawer gwell siaradwyr na H. D.; ond nid oedd neb o honynt yn rhoddi y fath fywyd yn yr achos. Morris Jones ydoedd yr ymresymwr penaf yn mlynyddoedd cyntaf y symudiad: Hugh Roberts oedd un o'r ymadroddwyr mwyaf llithrig a gwresog; ond H. D. oedd yn rhoddi mynd yn yr holl wersyll, a pharhaodd yn gwbl ffyddlon hyd ddiwedd ei oes, sef am yn agos i ddeunaw mlynedd ar hugain.
Wedi i Demlyddiaeth Dda ddyfod i'r ardal, nid oedd neb yn fwy parod iw chroesawu nag efe. Ymunodd ar unwaith a'r Gyfrinfa, a bu yn ffyddlawn iw chynulliadau wythnosol, yn ol ei allu, hyd derfyn ei oes.
Yr oedd yn hynod amlwg hefyd gydag achos addysg Derbyniasai ei hun well addysg na neb o'i gyfoedion; rhoddodd addysg dda iw blant a gwnaeth bob peth yn ei allu o blaid addysg yn y gymydogaeth. Yr ydym yn ddigon hen ein hunain i gofio adeiladu yr ysgoldy cyntaf yn y Garnedd—wen, gan R. D. Pryce, Yswain, Cyfronydd, Arglwydd Raglaw Meirionydd yr hwn a adnabyddid y pryd hwnw fel R. D. Jones,—Yswain, Trefri; Aberdyfi. Cyn hyny cynhelid ysgol ddyddiol yn Mhenygraig, Corris,—mewn rhan o'r ystafell a fu wedi hyny yn gapel yr Annibynwyr am flynyddoedd; a thrachefn yn nghapel Pantymaes, Aberllefenni o'r hwn le, yn 1850, y symudwyd yr ysgol i'r Garnedd—wen, Mae amryw enwau eraill yn haeddu coffadwriaeth parchus am eu ffyddlondeb i achos addysg y pryd hwnw, ac am flynyddoedd wedi hyny, yn arbenig John Stephen, Aberllefenni, a Robert Jones, Machine; ond neb yn fwy na H. D. Ac yn y mater hwn, fel gyda phob gwaith da arall yr ymaflodd ei law ynddo, ni oerodd ei zêl hyd ddiwedd ei oes. Yn lled agos i'r diwedd, anrhegodd y gymydogaeth â thir i adeiladu Ysgoldy Brytanaidd arno.
Yr oedd yn Ymneillduwr cydwybodol, ac yn Rhyddfrydwr glew a chyson. Efe a roddodd dir at Fynwent Ymneillduol capel Rehoboth yn 1846,—llanerch sydd erbyn hyn yn dra chysegredig i deimladau braidd bob teulu yn y gymydogaeth. Yr oedd yn Rhyddfrydwr pan nad oedd Rhyddfrydiaeth yn boblogaidd; ac yr oedd yn un o'r ychydig a bleidient Syr William Wynn, pan nad oedd ei bleidwyr trwy yr holl sir ond o 60 i 70 Cafodd fyw i weled yr achos Rhyddfrydol wedi enill y fuddugoliaeth. Ond yr hyn ydoedd werthfawr ynddo gyda gwleidyddiaeth, fel gyda phob symudiad daionus arall, ydoedd y mynd a berthynai iddo. Gellid cyfrif arno yn wastad pan y byddai ymdrech gyda rhywbeth yn angenrheidiol
Yr ydym wedi taflu allan awgrymiadau amryw weithiau am ei haelioni. Yr oedd yn ddiau mewn amgylchiadau i gyfranu yn weddol helaeth at wahanol achosion; ond yr oedd er hyny yn llawn haeddu y cymeriad o fod yn ŵr haelionus. Yr oedd ei dŷ yn agored yn wastad i weinidogion a phregethwyr; ac am lawer o flynyddoedd yn ei ystabl ef hefyd y byddai eu ceffylau. Rhai o'r cyfeillion eraill a deimlasant y dylai yr eglwys gymeryd rhan o'r baich, ac a fynasant gymeryd y ceffylau i ystabl y capel, lle y gofalwyd am danynt o hyny allan gan ei gyd—swyddog, William Richard. Yr ydym yn cofio yn dda, er nad oeddym ond ieuanc, ein syndod pan gyhoeddwyd yn Aberllefenni gasgliad nad oeddym wedi clywed sôn am dano erioed yn Nghorris, sef Y Casgliad at Fwyd y Llefarwyr. Llefarwyr oedd yr enw arferol ar bregethwyr yn y ddau le. H. D. fyddai yn cyhoeddi bob amser yn Nghorris, ac felly y cyhoeddai: Hwn a Hwn i fod yma yn llefaru. Ond yr oedd y draul i letya y llefarwyr yn disgyn yn gyfan ar H. D.; ac am lawer o flynyddoedd, pan yr oedd y teithio yn ei ogoniant, nid bechan ydoedd. Pan ddaeth Mr. Morgan o gwmpas i gasglu at Athrofa y Bala, rhoddodd iddo dderbyniad croesawus, gan addaw yn y fan, rhyngddo ef ai fab, Mr. David Davies, haner cant o bunau. Pan yn adeiladu y capel presenol, addawodd gan punt os byddai i'r eglwys wneuthur pedwar cant; ac yr oedd wedi talu ei addewid cyn aros i weled pa beth a wnai yr eglwys.
Rhaid edrych arno cyn terfynu,
Yn ei berthynas a'r Cyfarfod Misol. Daeth yn fuan yn aelod cyson a phwysig o hono. Gelwid ef yn fynych i'r gadair lywyddol, er nad oedd un amser yn chwenych y lle hwnw. Un tro, yn Llanegryn, dywedai wrth Mr. Humphreys, Dyffryn, fod yn rhaid iddo ef aros gartref os na adewid llonydd iddo heb ei wthio i'r gadair. Ydi hi yn galed iawn? meddai Mr. Humphreys, caledi go esmwyth ydi hwna, Wmffra bach. Ond teimlai pawb eraill ei fod yn llanw ei le yn dda; ac ar adegau dangosai ddeheurwydd neillduol gyda'r gwaith. Yn Llanelltyd, pan oedd yr Hybarch Lewis Morris yn ceryddu yn llym aelodau y Cyfarfod Misol am eu hanffyddlondeb iddo, dygodd ef, fel llywydd, bawb i natur dda ar cwbl i drefn trwy ofyn yn ysmala, A wyt ti, y Cyfarfod Misol, yn clywed beth y mae Lewis Morris yn ei ddweyd am danat? Mynych yr anfonid ef ar ymweliadau â gwahanol eglwysi; a bu rhai o'r ymweliadau hyny yn dra nodedig. Crybwyllir am un felly yn Ffestiniog gyda Lewis Morris, gyda golwg ar Ddyled y Capelau; ac un arall â chyfran o'r sir gyda Mr. John Jones, Ynysgain, a fu yn dra bendithiol. Ac y mae yn amlwg iddo ddyfod i safle uchel yn lled fuan, oblegid cyn ei fod ond cymharol ieuanc anfonwyd ef, gyda'r Parchedig Richard Jones, o'r Wern, i Ddolgellau, i gymeryd llais yr eglwys gyda golwg ar ŵr ieuanc oedd yno yn ymgeisydd am y weinidogaeth. Y gŵr ieuanc hwnw ydyw y Parchedig Roger Edwards, o'r Wyddgrug. Ar nos Sabbath yr oeddynt yno; a dywedai Mr. Edwards wrthym yn ddiweddar ei fod wedi cofio ar hyd ei oes yr ychydig eiriau a ddywedodd H. D. wrtho ar yr amgylchiad hwnw. Gofalwch, fy machgen, meddai, am wneyd y ffordd i fod yn gadwedig yn glir iawn i bechadur ymhob pregeth. Cofiwch bob amser y gall rhywun fod yn eich gwrando am y tro diweddaf cyn myned i'r farn. Byddwch yn siwr o ddweyd digon am fywyd ymhob pregeth. Anhawdd fuasai rhoddi gwell cyngor; ac anhawdd hefyd fuasai cael gwell esiampl o'r hyn a fyddai ei gynghorion ar hyd ei oes.
I ba raddau y mae Corris ar ardaloedd cylchynol yn ddyledus iw ddylanwad y mae yn anmhosibl, traethu. Amlwg yw oddiwrth yr hyn a ddywedwyd, er mor anmherffaith, y dylai ei enw gael ei gadw yno byth mewn coffadwriaeth bendigedig. Wedi treulio oes faith yn ei ardal enedigol, daeth o'r diwedd ddydd ei ymddatodiad, sef y 26ain o Ragfyr, 1873, pan oedd uwchlaw 83 mlwydd oed. Cafodd gladdedigaeth tywysogaidd; yn yr hwn y cymerwyd rhan gan y Parchedigion William Williams, Corris; Robert Owen M.A, Pennal; Griffith Evans. Bryncrug; John Foulkes Jones, B.A, Machynlleth; John Davies, Bont—ddu; Evan Jones, Dyffryn; David Evans, M.A, Dolgellau, a Hugh Roberts, Siloh. Terfynwn ein sylw arno gydag anerchiad y gŵr anwyl o Fachynlleth, sydd bellach, ers rhai blynyddoedd, wedi ei ddilyn i'r breswylfa lonydd, fel y ceir ef yn yr adroddiad yn y Goleuad, Ionawr 10, 1874 :—Yr oeddwn yn adnabod Mr. Humphrey Davies, yn dda, ac yn cario meddwl uchel am dano bob amser. Gŵr yn caru Duw ydoedd,—gŵr heddychol a thirion. Un wedi llywodraethu yn dda ydoedd; ac am hyny yn haeddu parch dau—ddyblyg. Mae yn ei gael yma heddyw, ac yn siwr o'i gael am dragwyddoldeb. Yr wyf fi yn teimlo yn gysurus yma heddyw. I ba le bynag yr edrychaf, y mae yr olwg yn siriol a hapus. Dyma hen dad wedi cael byw dros bedwar ugain mlynedd; ac y mae yr olwg ar ei oes faith yn siriol a disglaer. Gweithiodd yn ffyddlawn gydag achos Iesu Grist. Ond ymlaen y mae yn ddisglaer iawn. Dylem fod yn falch a diolchgar am rai o'r fath yma; ond nid yn aml iawn y maent iw cael. Yr oeddwn yn meddwl wrth glywed canu y penill,
Eu henwau'n perarogli sydd,
PENOD V
CYDLAFURWYR HUMPHREY DAVIES YN NGHORRIS
YN y benod hon gwneir ychydig grybwyllion am nifer o gydlafurwyr Humphrey Davies yn Nghorris. Buasai yn dda genym eu gwneuthur yn helaethach; ond y mae hyny yn anmhosibl, yn y lle cyntaf, oherwydd prinder gofod, ac yn y lle nesaf, oherwydd yr anhawsder, bellach, i gael gafael ar hysbysrwydd cywir gyda golwg arnynt. Yr ydym yn gadael dau o honynt o'r neilldu er mwyn gwneuthur crybwyllion llawnach am danynt mewn penodau dilynol, sef Morris Jones a Rowland Evans. Yr oedd yn Nghorris, yn cydlafurio a H. D. nifer o frodyr eraill yn gystal ag amryw chwiorydd, heb fod wedi cyraedd y safle oedd iddo ef, ond er hyny yn gymeriadau tra dyddorol, y rhai y byddai yn resyn caniatau iw henwau ddisgyn i dir anghof.
Yr oedd amryw o'r brodyr hyn yn flaenoriaid. Un o honynt ydoedd Richard Owen, Ceiswyn. Mab ydoedd efe i Owen Morgan, Ymwlch, gerllaw Harlech. Enw ei fam ydoedd Jane Richards, chwaer i dad y diweddar Barchedig Richard Humphreys, o'r Dyffryn; yr hon a fu ar un adeg yn cadw tŷ ei brawd. Bu Owen Morgan farw yn Ymwlch. Buasai ef ai briod yn byw yn Tyntwll, Dyffryn, cyn eu mynediad i Ymwlch, a dychwelodd ei weddw ar ol ei farwolaeth ef i Egryn. Bu iddynt saith o blant, pedwar o feibion a thair o ferched. Enwau y meibion oedd William, Morgan, Richard, ac Edward; ac enwau y merched oedd Mary, Gwen, a Jane. Y Morgan uchod a ddaeth wedi hyny yn dra adnabyddus fel Morgan Owen, y Glyn, Talsarnau; ac y mae ei ddisgynyddion yn awr yn gyfran bwysig o'r Cyfundeb Methodistaidd mewn llawer o ardaloedd. Mary ydoedd mam gwraig y diweddar Barchedig Robert Ellis, o'r Ysgoldy; Gwen ydoedd priod y diweddar Gadben G. Griffiths, o'r Abermaw, a Jane ydoedd mam Mr. Davies, Maes-glas, ger Treffynon, a Mrs. Thomas Owen, Porthmadog.
Cafodd Richard fwy o fanteision addysg na'r cyffredin o'i gyfoedion yn yr oes hono; canys bu mewn lle yn Sir yr Amwythig am beth amser yn yr ysgol. Wedi ei ddychweliad oddiyno digwyddodd fod Mr. Charles o'r Bala yn pregethu yn Harlech, brydnhawn dydd gwaith. Yr oedd gydag ef y tro hwnw y diweddar Barchedig Rowland Hill, ac am fod Richard yn medru Saesneg, anfonwyd ef i ddanfon Mr. Charles a Mr. Hill, trwy y Rhyd, ac i'r Abermaw. Cymerodd y ddau ŵr da hamdden i ymdrochi yn y môr, tra y gofalai yntau am eu ceffylau. Cynygiodd Mr. Hill, y pryd hwnw chwilio am le iddo yn Llundain os teimlai awydd myned yno. Ar y pryd nid oedd ynddo unrhyw ogwydd at fyned oddi cartref; ond tybiodd lawer gwaith wedi hyny iddo wneuthur camgymeriad difrifol na buasai yn derbyn caredigrwydd Mr. Hill.
Cafodd ef ar plant oll eu dwyn i fyny yn grefyddol; ond ymddengys ei fod, pan yn llencyn lled ieuanc, yn llawn direidi, ac mewn perygl o gymeryd camgyfeiriad. Dywedwyd wrth ei fam gan y gŵr a ofalai am Gastell Harlech, ei fod ef a nifer o'i gyfoedion yn arfer myned yno ar brydnhawn Sabbothau i chwareu amrywiol gampau. Yr oedd y gwr yn awyddus am iw enw ef gael ei gadw yn ddirgel. Y Sabbath canlynol aeth mam Richard yno; a phan y gwelodd un o'r cwmni hi yn agosau, aeth braw i fynwes pob un o honynt; ac wrth geisio dianc rhagddi neidiodd Richard o'r fath uchder fel yr oedd yn syndod na buasai wedi derbyn niwed difrifol. Bu yr ymweliad hwn yn derfyn ar yr ymgasglu i'r Castell ar y Sabbothau o hyny allan; yr hyn a ddengys yn bur eglur mai nid gwraig gyffredin oedd mam y teulu sydd yn ei holl ganghenau hyd heddyw yn llanw safleoedd mor barchus yn gymdeithasol a chrefyddol.
Wedi dyfod i Geiswyn, bu Richard Owen yn gaffaeliad pwysig i'r achos yn Nghorris. Gŵr call, craffus, ydoedd; a bu yn hynod ffyddlawn er fod ganddo yn agos i bum milldir o ffordd o'i gartref i'r capel. Yn ei ddyddiau ef nid oedd capel wedi ei adeiladu yn Aberllefenni. Yr oedd ei amgylchiadau yn gysurus, ai gymeriad yn uchel ymysg yr ardalwyr. Byddai yn cael llawer o fwynhad wrth sylwi ar neillduolion ei gyd—swyddogion. Daeth ei ddisgrifiad o H. Davies a R. Evans yn cadw society yn dra adnabyddus; a theimlai pawb a'u hadwaenent nas gallesid cael ei gywirach. Dyna ddyn yn y gors. Cynllun R. E. ydyw myned yno ato i glywed ei brofiad, i gydymdeimlo ag ef, ac iw gysuro: ond cynllun H D. ydyw sefyll ar y lan a gweiddi arno. Dyna gareg yn dy ymyl, dyro dy droed arni, a thyrd oddi yna. Mae coffadwriaeth Richard Owen yn barchus hyd heddyw yn nghalonau yr ychydig sydd yn ei gofio yn swyddog yn eglwys Corris. Ymadawodd o'r gymydogaeth yn gymharol gynar yn ei oes, ond parhaodd yn ffyddlawn i achos crefydd hyd y diwedd. Bu yn briod ddwy waith. Mae rhai o'i blant o'r wraig gyntaf yn fyw eto yn yr America; ac y mae tri o'i blant o'r ail wraig yn fyw yn Machynlleth. Un o honynt ydyw Mr. Richard Owen, Timber Merchant.
Un arall o gyd-flaenoriaid H. D. ydoedd William Jones Tan-yr-allt, yr hwn, y gwelwyd mewn penod flaenorol, oedd hefyd yn frawd yn nghyfraith iddo. Brodor ydoedd ef o Lanllyfni, yn Swydd Gaernarfon. Daeth i Gorris yn ddyn ieuanc; ac yno yr ymunodd âg eglwys Dduw. Bu am flynyddoedd yn oruchwyliwr ar chwarel Aberllefenni; a pharhaodd mewn cysylltiad a'r chwarel mewn swydd israddol wedi rhoddi heibio o hono ei hun yr oruchwyliaeth. Yr elfenau mwyaf amlwg yn ei gymeriad oeddynt ei onestrwydd ai ddiniweidrwydd. Am dano ef y dywedai John Richard: Dwn i ddim beth iw feddwl o hono; mae rhyw berffeithrwydd creadigol yn perthyn iddo nad ydyw iw gael mewn dynion yn gyffredin. Yn ei oruchwyliaeth yr oedd ei uniondeb a'i onestrwydd yn adnabyddus i bawb, er nad ydym yn tybio iddo ef ei hun erioed feddwl am udganu hyny o'i flaen; ac yr oedd ei ymarweddiad bob amser yn gwbl ddiargyhoedd. Nid oedd ei alluoedd yn fawrion; ond yr oedd o deimladau hynod fywiog. Ychydig o le a gymerai yn ngwaith cyhoeddus yr eglwys; ond llanwai ddwy swydd ynddi i berffeithrwydd. Efe fu ei thrysorydd am lawer o flynyddoedd; ac efe hefyd a ofalai am yr amser yn y gwahanol gyfarfodydd. Yn y cyfarfod eglwysig byddai yn hynod fanwl gyda hyn. Mynai ddechreu mewn amser priodol, a mynai ddiweddu hefyd yr un modd. Nid oedd o un gwahaniaeth pwy fyddai yn siarad pan ddeuai amser diweddu i fyny, byddai W. J. ar unwaith ar ei draed, yn rhoddi penill allan iw ganu. Un o'i hoff benillion ydoedd :—
Mae cwmni r saint yn hyn o fyd,
Yn bleser mawr i ni o hyd;
Ond yn y tragwyddoldeb pell,
Bydd eu cymdeithas lawer gwell.
Dyma yn ddiau ydoedd ei brofiad. Cafodd fyw i oedran teg; a threuliodd brydnawn—ddydd ei fywyd yn hynod gysurus. Fel yr hysbyswyd eisoes, y mae yn aros eto ddau o feibion iddo, a thair o ferched; ac y mae eu teuluoedd, eu plant, a'u hwyrion, erbyn hyn yn lliosog. Wyr i W. J. ydyw y Parchedig William S. Jones, B.A, gweinidog yr eglwys Fethodistaidd Saesneg yn Llanidloes. Nid oes amheuaeth yn meddwl neb ai hadwaenai nad oedd W. J. yn Gristion trwyadl; a phan y bu farw, teimlai pawb nad oedd yn gymwys i un man ond y nefoedd!
Un arall o flaenoriaid Corris a haedda goffâd parchus ydoedd William Richard, Tŷ'r capel. Ganwyd ef yn y Dunant, Llan y Mawddwy, yn Mai 1795; a bedyddiwyd ef yn Eglwys y plwyf ar y 24ain o'r un mis. Wedi tyfu i fyny daeth i wasanaethu i Lwydiarth, Aberllefenni; a thra yno ymbriododd â Mary Ellis, o Groesor, ger Llanfrothen, yr hon oedd ar y pryd yn aros gyda'i llysdad yn Ngheiswyn. Wedi priodi aethant ill dau i fyw i Tynymaes, Ystradgwyn; ac yn eglwys yr Ystradgwyn y dewiswyd ef yn flaenor eglwysig. O Tynymaes symudodd i Tynrhelyg, Corris; ond parhaodd am ryw yspaid o amser wedi hyny heb dori ei gysylltiad ag eglwys yr Ystradgwyn. Yn 1830 cafodd ei ddewis yn flaenor yn Nghorris, a bu yn hynod ffyddlawn yno o hyny hyd ei farwolaeth, Mehefin 21, 1861.
Y nodwedd fwyaf amlwg ac adnabyddus ynddo ef ydoedd ei lymder yn erbyn pechod. Teimlai eiddigedd dwfn dros anrhydedd crefydd a phurdeb y ddisgyblaeth eglwysig; ac i'r cyffredin yr oedd ei eiddigedd yn fwy amlwg nai fwyneidd-dra; ond yr oedd yn bell iawn o fod yn ddyn chwerw ei ysbryd neu surllyd ei dymer. Yr oedd yn hoff o blant, a phlant yn hoff o hono yntau; dyn serchog mewn gwirionedd ydoedd. Ond yr oedd yn gâs gan ei enaid bechod; ac nid oedd neb ai hadwaenai heb wybod hyny. Yr oedd yn ŵr o amgyffredion cryfion, o feddwl craffus, a gwreiddiol, ac yn fedrus at ddarparu ymborth iachus i'r praidd; ac ystyrid yn wastad ei sylwadau yn y cyfarfod eglwysig o'r gwerth mwyaf. Bu yn wyliwr effro ar furiau Sïon, a chododd ganllawiau gwerthfawr lawer adeg trwy ei gynghorion i gadw ieuenctyd y gymydogaeth rhag syrthio dros y dibyn i lawer o arferion pechadurus. Yr oedd o ddoniau helaethach na'r cyffredin; ac nid anfynych y gelwid arno i wasanaethu mewn claddedigaethau. Nid llawer oedd yn bresenol yn nghladdedigaeth Hannah Davies, Abercorris, ac ychydig o'r rhai oeddynt sydd yn awr yn fyw; ond nid anghofiwyd byth y gwasanaeth gan neb oedd yno, ac yn enwedig ei bwyslais ar y geiriau, "Am hyny byddwch chwithau". "Fel yna," meddai, "y mae y gair yn dyfod atom heddyw oddiwrth ein hanwyl chwaer, 'byddwch chwithau barod' ; lwc fawr i mi oedd fy mod yn barod fy hun."
Yn ei flynyddoedd diweddaf, dioddefodd gystudd maith a nychlyd; ond gwellhaodd drachefn i'r fath raddau fel ag i fod yn alluog am ychydig amser i ail ymaflyd yn ei alwedigaeth Nid oedd y gwellhad, pa fodd bynag, ond dros amser byr; a chymerwyd ef ymaith yn 66 mlwydd oed. Yn ei farwolaeth, temlai yr holl ardal ei bod wedi colli un o'r dynion duwiolaf a gonestaf a fu ynddi erioed. Bu iddo ef ai briod dri o blant, y rhai sydd yn aros hyd heddyw, sef Mr. Richard Williams, yr hwn sydd yn un o flaenoriaid eglwys Nassau Street, Llundain; Mr. Howell Williams. yr hwn sydd yn un o flaenoriaid yr eglwys yn West Bangor, Pennsylvania, Unol Daleithiau yr America; a Mary Williams, yr hon sydd yn byw eto yn Nghorris.
Blaenor arall y rhaid ei grybwyll ydyw OWEN JONES, Penybont. Brodor o'r Waunfawr, Sir Gaernarfon, oedd ef; ond symudodd i Gorris yn lled ieuanc. Bu yn byw Mewn amryw fanau, megis Cefnbyriaeth, Aberangell, a Thy Capel, Aberllefenni; ond ymsefydlodd drachefn yn Nghorris, ac yno y treuliodd ei flynyddoedd diweddaf. Merch ydoedd ei wraig i'r hen flaenor adnabyddus David Jones, Llanwrin, tad y blaenor diweddar o'r un enw yn yr un lle. Dygasant ill dau i fyny deulu lliosog. Mae amryw ou blant wedi meirw, ac eraill yn aros hyd heddyw. Un o'r rhai hyn ydyw y Parchedig David Jones, yn ddiweddar o Lanfairtalhaiarn, ond yn awr o Lanllyfni. O alluoedd, meddyliol cryfion ydoedd, ac ymadroddwr dawnus a rhwydd. Ar nos Sabbath, byddai ei sylwadau yn fynych yn rhagorol. Cymerai afael mewn rhyw sylw yn y bregeth a draddodasid, a defnyddiai hwnw fel testyn i adeiladu arno anerchiad a fyddai ar adegau yn wir werthfawr. Un tro, yr oedd dau gyfaill yn gwrando pregeth led wag a diafael; a thra yr oedd y gynulleidfa yn ymwasgar, gofynai y naill i'r llall, Beth yn y byd geith O. J. yn y bregeth yna i gymeryd gafael ynddo a mawr oedd pryder y ddau gyfaill am ei weled yn cyfodi. O'r diwedd, wele O. J. i fyny, ac fel arferol yn rhoddi ei ysgwydd aswy ar ochr y pulpud, ar gair cyntaf a ddywedodd, gyda'i lais lleddf, ydoedd, Yr oeddwn i yn meddwl am destyn y gŵr ieuainc yma heno. Anhawdd oedd i'r ddau gyfaill erbyn hyn ymgadw rhag gwenu; ond cafwyd anerchiad a fuasai yn gyfoethogiad gwerthfawr i'r bregeth erbyn ei thraddodiad ai adeg ddilynol, os bu y pregethwr yn ddigon doeth i gymeryd mantais ar y cyfleusdra. Mae O. J. bellach wedi myned drosodd at y mwyafrif ers llawer o flynyddoedd.
Yr oedd y rhai hyn oll fel y gwelir yn flaenoriaid; ond yr oedd yn Nghorris amryw gymeriadau eraill y tu allan i'r swyddogaeth y dymunem wneuthur crybwylliad parchus am danynt. Un o'r rhai hyn yw Hugh Humphrey, y Pentre, tad Humphrey Hughes, Pandy, Dafydd Humphrey, Aberllefenni, a John Humphrey, West Bangor, y rhai ydym oll bellach, oddieithr y diweddaf, fel yntau wedi huno. Gallwn gofio H. H. yn dechreu yr Ysgol unwaith. Yr hyn a argraffodd yr amgylchiad ar ein côf ydoedd i ni dybio mai ei frawd Dafydd Humphreys, y Pandy, ydoedd. Hen ŵr ffyddlon ydoedd ef; a hen chwaer grefyddol iawn oedd ei wraig,—Pali'r Pentre, yn ol yr enw cyffredin arni; yr hon a fu byw am lawer o flynyddoedd ar ei ol. H. H. oedd yr aelod hynaf o'r eglwys yn Rehoboth am rai blynyddoedd tua'r adeg gyntaf y gallwn ni ei chofio, a byddai bob amser yn eistedd yn nghongl y sêdd fawr ar y llaw ddeiau i'r pulpud. Yr ydym eisoes wedi cyfeirio at y gwasanaeth a wnaeth ei ffon yn llaw H. Davies er sicrhau gweddusrwydd yn yr addoliad. Ar ddydd ei gladdedigaeth ef y taflwyd yr holl ardal i gyffro dirfawr trwy i rywun ganfod corff hen wraig a adnabyddid fel Megan, Maesmachreth, yn y llyn yn Hen Gloddfa y Fronfelen.
Un arall a fyddai yn gyson yn y sêdd fawr am rai blynyddoedd ar ol H. H. ydoedd EVAN WILLIAMS, Llainygroes. Gŵr ffyddlawn oedd yntau er ei fod yn wastad yn hynod ddistaw. Mae un mab iddo, o'r un enw ag yntau, yn un o flaenoriaid yn eglwys yn Rehoboth yn bresenol. Mae hefyd un ferch iddo yn byw yn Nghorris, Elinor Whittington; ac y mae ei ddisgynyddion yn lliosog yn Nghorris ac yn yr America.
Gŵr a haeddai goffâd parchus ydyw yr hen athraw anwyl LEWIS THOMAS, Castell. Athraw y plant bach oedd efe. Dysgodd y wyddor i ugeiniau lawer o fechgyn yn Rehoboth, Yr ydym yn cofio yn dda yr adeg y gadawsom ei ddosbarth am ddosbarth uwch; ac yn cofio wedi hyny erfyn ar yr arolygwr am gael dychwelyd ato oherwydd iddo ddywedyd ei fod wedi digio wrthym am ei adael. Addfwyn, tyner, a thra charedig ydoedd ef; ac un a hoffid yn fawr gan yr holl gymydogaeth. Mae llawer o fechgyn a fagwyd yn Nghorris, ond sydd wedi eu gwasgaru erbyn hyn i wahanol ranau y byd, dan ddyled fawr iddo am eu cychwyniad cyntaf yn yr Ysgol Sabbothol. Merch iddo ef ydyw Mrs. Anne Lumley, sydd eto yn fyw, yn Nghorris,
Tra yr oedd L. T. yn dysgu y bechgyn, yr oedd hen frawd arall, yr un mor ffyddlon, yn dysgu y genethod, sef Gruffydd Ifan, Tynycae. Gwehydd ydoedd ef wrth ei alwedigaeth a thra chyffredin oeddynt ei amgylchiadau; ond yr oedd rhyw fath o wreiddioldeb tra dymunol yn perthyn iddo. Yn adeg y diwygiad yn 1859—60, wedi cyfarfod hynod o hwyliog, galwyd arno i fyned i weddi. Disgynodd ar ei liniau ar unwaith, a'i eiriau cyntaf oeddynt :—Diolch i ti, O Arglwydd mawr, am ei bod hi yn farchnad go sharp yma heno. Hen gymeriad tra gwreiddiol hefyd oedd Aels (Alice), ei wraig. Hynod ffwdanus fyddai yr hen chwaer yn wastad; ac anfynych y byddai yn gweled dechreu unrhyw gyfarfod; o leiaf, anfynych y byddai yn myned i unrhyw gyfarfod ond ar drot. Ond er ei holl ffwdan, nid oedd yn perthyn i'r eglwys neb yn fwy cyson yn y moddion, na neb yn fwy sicr o fwynhad ynddynt. Ar adegau ceid ganddi yn y cyfarfod eglwysig brofiadau lled wreiddiol. Un nos Sadwrn, pan yr oedd yr hen bregethwr Mr. Williams, Drefnewydd (os ydym yn iawn—gofio), yn cadw y society, daeth at Aels am ei phrofiad. Ychydig a ddywedai ac felly dechreuodd yr hen bregethwr ei holi pryd y cymerodd yr ymddiddan canlynol le :—"A fydd arnoch chwi ofn uffern"?
- "Na fydd ama i."
- "Sut felly?"
- "Ni bydda i yn meddwl fawr iawn ynghylch uffern."
- "O, sut y byddwch chwi yn gwneyd ynte?"
- "Treio byw i ryngu bodd y Gŵr y bydda i; a gadael iddo fo fy rhoi i yn y man y myno fo yn y diwedd".
Ac erioed ni adroddodd neb ei phrofiad yn fwy gonest na'r hen chwaer hon y tro hwn.
Symudodd y ddau hen bererin gwreiddiol i dreulio diwedd eu hoes mewn lle gerllaw Aberdyfi; ond y maent wedi cyraedd adref ers blynyddoedd bellach.
Mae yn hyfryd genym dalu y deyrnged fechan hon i goffadwriaeth y ddau hen frawd,—y ddau hen dâd hyn, fuont am gynifer o flynyddoedd yn athrawon mor ffyddlon ar ddosbarthiadau y plant bach. Digon tebyg na, feddyliodd neb erioed am gyflwyno diolchgarwch iddynt gymaint ag unwaith yn eu hoes mewn cyfarfod athrawon; ond y maent wedi derbyn yn ddïos erbyn hyn gyfarchiad caredig y Barnwr, "Da, was da a ffyddlon; buost ffyddlawn ar ychydig; mi ath osodaf ar lawer: dos i mewn i lawenydd dŷ yr Arglwydd". A thra y maent hwy yn mwynhau y llawenydd yn y nef, bydded eu henwau byth mewn coffadwriaeth bendigedig ar y ddaear.
Gŵr tra ffyddlawn oedd Abraham Edward, y Geuwern; ac un a ystyrid yn rhagori ar y rhan fwyaf mewn gwybodaeth a dawn. Ymysg y plant yn enwedig yr oedd yn dra phoblogaidd, am mai efe yn gyffredin a fyddai yn neidio i'r adwy, ac yn eiriol drostynt, pan y bygythid cerydd arnynt am eu camymddygiadau. Yr ydym yn cofio yn dda y modd y siriolwyd ein meddwl ein hunain un tro, pan y cododd A. E. ar ôl araith geryddol a bygythiol iawn gan un o'r blaenoriaid, ac y dywed—odd :—Wel, mi â i yn feichiau drostyn nhw unwaith eto, na byddan nhw ddim yn blant drwg ar ol hyn; ond cofiwch chithau, fy mhlant i, nad â i ddim yn feichiau drosoch chi ar o'l y tro yma. Trwy ei eiriolaeth ef cafwyd arbediad am y tro.
Carasem enwi amryw eraill, megis William Evans yr hwn y crybwyllwyd am dano eisoes fel arweinydd y canu; Humphrey Hughes, y Pandy; John Hughes, Rhognant; ac eraill, ynghyd ag amryw o hen chwiorydd tra theilwng; ond rhaid ymgadw rhag gormod meithder. Oddiwrth yr ychydig grybwyllion a roddwyd mae yn hawdd gweled fod yn y gymydogaeth yn gyd oeswyr ag Humphrey Davies lawer o gymeriadau gwir ddyddorol; a da iawn fyddai casglu ynghyd cyn eu colli am byth yr adgofion am danynt sydd eto yn aros yn wasgaredig ar hyd y gymydogaeth.
Rhan o'u hoes yn unig a dreuliwyd gan y pregethwyr, y crybwyllwyd eu henwan yn flaenorol, yn Nghorris. Nid ydym ein hunain yn cofio y diweddar Barchedig John Jones, Brynteg, ar diweddar Mr. Thomas Williams, Dyffryn, yno. Yn Nghorris y dechreuodd y cyntaf bregethu, a thorodd allan yn bregethwr hwyliog a dylanwadol iawn yn nghychwyniad ei yrfa. Bu ei lafur yn Nghorris ac Aberllefenni o werth mawr, yn enwedig gyda'r Achos Dirwestol; ac un o'r pethau mwyaf tarawiadol y gallwn ni ei gofio yn ein hoes ydoedd ei araith mewn Gwyl Ddirwestol, ymhen blynyddoedd wedi iddo adael y gymydogaeth. Nid ydym yn cofio gweled mwy o wylo mewn cynulleidfa erioed. Ychydig iawn sydd yn aros o'i hen gyfeillion; ond y mae ei enw yn anwyl hyd heddyw yn meddyliau llawer nad ydynt eu hunaian yn ei gofio. Hunodd yn yr Iesu, Rhagfyr 31, 1884; ac y mae ei goffadwriaeth yn beraroglaidd yn Bethesda a holl ardaloedd Arfon.
Fel ysgolfeistr y bu Mr. Thomas Williams yn aros yn Nghorris am ychydig amser. Yr unig gôf sydd genym am dano ydyw ar ei ymweliadau â'r ardal i bregethu ar ol ymadael i'r Dyffryn; ond derbyniasom oddiwrth ein rhieni syniad tra pharchus am dano, a chofiwn yn dda am ei serchogrwydd tuag atom yn y Tynewydd, yn ystod ei ymweliadau. Mae yntau wedi huno ers llawer o flynyddoedd.
Yn llawer diweddarach, sef tua 1854 neu 1855 y daeth y Parchedig Ebenezer Jones i'r gymydogaeth, ac yntau hefyd i gadw ysgol ddyddiol. Bylchiog iawn fu yr ysgol am lawer o flynyddoedd oedd. Wedi dyddiau Lewis William yr hwn oedd yn Nghorris yn 1799, neu 1800, nid ydym yn gwybod am neb arall a fu yn ei chadw o flaen Mr. Daniel Evans, oddieithr un o'r enw Hugh Roberts, o Lanfachreth, yr hwn y clywsom oedd yn hen ffarmwr wedi ei droi o'i ffarm gan Syr Robert Vaughan oherwydd ei Ymneillduaeth, a fu yno am ryw ysbaid: ond pa adeg, ni dderbyniasom hysbysrwydd. Dilynwyd D. E. ganlyniadau Mr. Thomas Williams; a dilynwyd yntau gan Mr. John Roberts, wedi hyny o'r Ceinewydd, mab Robert a Jane Roberts, Garleg-lwyd. Y Jane Roberts hon fu yn byw yn y Shop Newydd wedi hyny ac y cyfeiriwyd ati mewn penod flaenorol. Wedi ei ymadawiad ef, yr hyn oedd golled fawr i'r gymydogaeth, bu dau wr ieuanc a fuasent yn yr ysgol gydag ef yn gwneuthur yr hyn a allent i lanw ei le, sef Thomas Humphrey, mab Dafydd a Jane Humphrey, Aberllefenni a William Parry, mab John ac Anne Parry, Aberllefenni. Gyda'r cyntaf o'r ddau hyn y cawsom ni y fraint o ddysgu y Wyddor yn yr iaith Saesneg. Yna, yn 1850, agorwyd yr ysgoldy yn y Garnedd Wen; ac o'r pryd hwnw hyd yn awr ni adawyd y gymydogaeth heb fanteision addysg. Yr ysgolfeistr cyntaf yno oedd gwr ieuanc o Sais, o'r enw Thomas Nicholas. Eglwyswr oedd ef, a chododd lawer o helynt trwy geisio gwthio ar y plant Gatecism Eglwys Loegr. Byddai gweinidog y plwyf, y Parchedig Robert Ellis Pring, yn talu ymweliadau mynych â'r ysgol yn ei ddyddiau ef. Nid oedd ond ieuanc, a chofiwn yn dda un tro i'r plant mwyaf gyfodi yn ei erbyn, ac i'r gwrthryfel esgor ar ganlyniadau tra annymunol. Caredigrwydd i'r ysgol oedd ei ymadawiad.
Dilynwyd ef gan un o'r enw Thomas Williams ond y mae ein maddeugarwch Cristionogol yn rhy fyr i ganiatau i ni ymhelaethu ar helyntion ei ddyddiau ef. Wedi iddo ymadael, daeth y Parchedig Ebenezer Jones i'r gymydogaeth. Bu am rai blynyddau yn gwasanaethu fel ysgolfeistr; ond ymryddhaodd wedi hyny oddiwrth yr ysgol, ac ymsefydlodd yn yr ardal fel masnachhwr. Brodor ydoedd o Sir Aberteifi, a brawd i'r diweddar Barchedig Evan Jones, Ceinewydd. Digwyddodd rhai pethau anghysurus cyn ei ymadawiad o'r gymydogaeth; a thra ystormus fu arno wedi hyny yn Abergynolwyn. Yn y cynwrf yno ymadawodd â'r Methodistiaid, ac ymunodd â'r Annibynwyr; a chyda hwy y bu yn weinidog (er na roddodd i fyny ei fasnach o gwbl i gymeryd gofal eglwys) hyd ddiwedd ei oes. Gorfodwyd ni lawer gwaith i demilo gofid oherwydd rhyw bethau a wneid ganddo, ond ni chollasom i'r diwedd y gwir barch iddo ar serch calon tuag ato â pha rai y meddianwyd ni tra yn aros o dan ei addysgiaeth. Yr ydym yn teimlo parch calon iw goffadwriaeth; a hyfryd ydyw genym ddwyn ein tystiolaeth iw ddefnyddioldeb am lawer o flynyddoedd yn Nghorris ar amgylchoedd. Yr oedd ganddo ddawn neillduol i gadw cyfarfod eglwysig. Dysgasai lawer o'r Beibl allan pan oedd yn ieuanc, a thra anfynych yr adroddid adnod gan neb na byddai efe yn gwbl gartrefol yn ei chysylltiadau. Dyfynai ar unwaith yr adnodau ol a blaen iddi, fel y rhoddai baich mewn mantais i gael gafael ar ei hystyr. Wrth dderbyn rhai ieuainc at Fwrdd yr Arglwydd yr oedd yn rhagorol. A chyflawnodd lawer o wasanaeth am ychydig iawn o gydnabyddiaeth. Efe am flynyddoedd oedd a wasanaethai ymhob claddedigaeth; ac nid anfynych y byddai ar yr adegau hyny yn cael y fraint o roddi yn rhad. Am yr ystormydd y bu ynddynt nid ydym yn dymuno dweyd gair. Mae efe a'i briod yn gorwedd bellach ers amser yn mynwent Abergynolwyn. Ac y maent wedi eu dilyn hefyd gan eu hunig ferch, Mary Ann, fel nad oes yn aros yn awr ond eu hunig fab, yr hwn a enwir yntau ar enw ei dad, ac sydd yn parhau i ddwyn ymlaen y fasnach yn Abergynolwyn.
Pregethwr arall a cafwyd ydoedd Mr. David Davies, Geuwern. Daeth ef i'r ardal o Danygrisiau, i fod yn oruchwyliwr ar chwarelau y Geuwern. Brodor ydoedd o Bethesda, yn Arfon. Bu yntau yn gymeradwy a defnyddiol am y tymor y bu yn y gymydogaeth. Cymerwyd ef ai briod ai fab hynaf ymaith gan dwymyn boeth. Mae y plant eraill yn aros hyd heddyw. Brawd iddo ydyw Mr. John Davies, Aberllefenni.
Ond yr hwn a dreuliodd fwyaf o flynyddoedd yn Nghorris, ar hwn y rhaid rhoddi y nodiad helaethaf am dano yn ddiau ydoedd Mr. Hugh Roberts. Ganwyd ef Awst 24ain, 1810, mewn lle a elwid Incline y Dinas, rhwng Bethesda a Bangor. Bu ei rieni, Owen a Charlotte Roberts, yn byw yn y lle hwnw o adeg eu priodas hyd eu gwahaniad gan angau; ac yr oeddynt ill dau yn Eglwyswyr zelog. Ychydig o fanteision addysg a gafodd eu mab Hugh. Bu yn yr ysgol am bythefnos; ond arweinwyd ef gan nwyfiant ei natur dros y terfynau a ganiateid gan yr ysgolfeistr, a cheryddwyd ef am hyny yn ol eithaf llymder disgyblaeth yr amseroedd. Diangodd o'r ysgol, gau addunedu talu y pwyth pan y deuai yn ddigon cryf ; ac ymddengys mai ymostyngiad y troseddwr ai cadwodd rhag cyflawni yr adduned. Pa fodd bynag, ni welwyd ef yn yr ysgol mwyach. Cyn bod yn fwy na saith neu wyth mlwydd oed, dechreuodd weithio yn y Chwarel Fawr; ac yno yr arhosodd nes oedd oddeutu 23 mlwydd oed, pryd y symudodd i Gorris. Yr oedd hyn yn 1833. Gweithiai ar y cyntaf yn chwarel Aberllefenni a llettyai yn Tanyrallt, Corris. Ymhell oddeutu blwyddyn ymbriododd â Jane Evans, merch i James Evans, Tynllechwedd; yr hwn y crybwyllwyd am dano eisoes fel prif golofnau yr achos Wesleyaidd yn y Capel Bach. Ganwyd iddynt wyth o blant, pedwar o feibion, a phedair o ferched, o ba rai y mae pump yn awr yn fyw.
Ymddengys y byddai Hugh Roberts, pan yn lled ieuanc, yn arfer myned i Ysgol Sabbothol a berthynai i'r Annibynwyr ac mewn cydffurfiad âg arferiad cyffredin yn y lle, rhoddodd allan iw ganu ar ganol yr ysgol un Sabbath, y penill canlynol
Llefwch genhadon Duw o hyd,
O wele waed adeliawdwr byd
Cymhellwch baich ddod ato fe,
Mae r Iesu'n dweyd fod eto le.
Anghymeradwyiwyd y penill ar unwaith fel yn sawru yn rhy gryf o Arminiaeth. Teimlai yn siomedig, ac adroddodd wrth ei dad yr hyn a ddigwyddasai. Wel, meddai ei dad, ond penill Wesla ydi hwna. Wedi clywed hyn, tueddwyd ef gan ei gariad at y penill i fyned i gapel y Wesleyaid yn Tyn-y-clawdd, Trergarth. Cyn hir, ymunodd â'r eglwys yn y lle hwnw, a daeth i fod yn athraw yn yr Ysgol Sabbothol, gan fod yn hynod ffyddlawn a llafurus nes oedd oddeutu un mlwydd ar hugain oed. Tua'r adeg hono, trwy ryw amgylchiadau, aeth yn ddifater; ac ymollyngodd i ymwneyd â'r diodydd meddwol. Yn fachgen gwyllt y daeth i Gorris, ac felly y parhaodd hyd ddyfodiad dirwest i'r gymydogaeth. Dywedir wrthym iddo ymuno â'r gymdeithas hono ar noson ei ffurfiad; ac mai ei enw ef oedd y pedwerydd ar y llyfr. Credwn y rhaid fod yn Aberllefenni; ryw lyfr y cafwyd enwau ynddo cyn sefydliad ffurfiol y gymdeithas yn Nghorris ac mai dyna yr unig ffordd i gysoni y gwahanol adroddiadau am y rhestr gyntaf o ddirwestwyr yn y gymydogaeth. Ymddengys hefyd mai efe oedd y cyntaf i siarad yn gyhoeddus ar Ddirwest yn Nghorris. Dyma ei dystiolaeth ef ei hun; ac nid ydym wedi clywed dim yn wrthwynebol iddi. Ond y mae yn gwbl sicr er hyny mai ar Morris Jones, y pregethwr, fel y gelwid ef, y rhaid edrych fel tad yr achos Dirwestol yn yr ardaloedd hyn.
Tua'r adeg y cychwynodd Dirwest, aeth Hugh Roberts ai briod i wrando pregeth gan ŵr dieithr yn Llwyngwern, a chafodd y gwirionedd y tro hwn y fath effaith ar ei feddwl, fel mai gydag anhawsder y gallodd gerdded adref. O hyny allan bu yn ddyn newydd. Ymunodd ar unwaith â'r Wesleyaid yn y Capel Bach ; ac nid hir y bu heb gael ei wneuthur yn un o flaenoriaid yr eglwys yn y lle. Tua'r flwyddyn 1841 anogwyd ef mewn Cyfarfod Chwarterol yn Machynlleth i ddechreu pregethu; ar Sabbath canlynol aeth i'r Eglwys Bach, swydd Aberteifi, gyda Mr. Richard Roberts, Machynlleth,—tad y Parchedig Richard Roberts, Llundain. Ei destyn cyntaf ydoedd Psalm xxxvi. 23 Yr hwn yn ein hisel radd an cofiodd ni: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. Daeth yn fuan yn bregethwr poblogaidd, a gwneid galwadau mynych am ei wasanaeth y tu allan iw gylchdaith ei hun.
Yn 1853 bu yn yr America am ychydig fisoedd; a chan y tybiai y gallai waeuthur bywioliaeth gysurus yno, dychwelodd i gyrchu ei deulu; ond oherwydd y gwrthwynebiad a deimlid gan ei briod i'r symudiad, gwnaeth ei feddwl i fyny i aros yn dawel yn Nghorris i dreulio gweddill ei ddyddiau. Gadawodd yr argraff oreu ar feddyliau y rhai y daeth i gyffyrddiad â hwynt yn ystod ei arosiad byr yn yr America; a chofient yn serchog am dano ymhen blynyddoedd ar ol ei ddychweliad i'r hen wlad. Tua'r adeg yr oedd efe yn Fair Haven, Vermont, y sefydlwyd yr Achosion Cymreig yno ac yn Middle Granville, y rhai ydynt bellach yn gryfion a lliosog.
Yn niwedd 1855 yr arweiniwyd ef trwy ryw amgylchiadau nad yw yn angenrheidiol manylu arnynt i ymuno â'r Methodistiaid. Daeth ei deulu oll drosodd gydag ef, oddieithr ei fab hynaf, yr hwn sydd yn parhau hyd heddyw yn aelod gyda'r Wesleyaid. Derbyniwyd ef ar unwaith yn bregethwr; ac o ddechreu 1856 bu yn pregethu yn gyson; a llafuriodd felly gyda chymeradwyaeth gyffredinol hyd ei farwolaeth, Mai 2, 1882, yn 71 mlwydd oed.
Er derbyn athrawiaeth y Wesleyaid, nid oedd yn gwbl dawel iw trefniadau; ac nid gormod ydyw dweyd fod ei fywyd gyda'r Methodistiaid yn llawer mwy cysurus.
Dyn bywiog ei ysbryd a brwd ei dymer oedd efe; yn meddu llais da a dawn i lefaru yn rhwydd. Cyfyng o angenrheidiol rwydd oedd cylch ei ddarllenyddiaeth; ond yr oedd wedi gwneuthur pob peth y gallesid ei ddisgwyl oddiwrtho yn nghanol lliosogrwydd ei anfanteision. Nid oedd ei bregethau yn fawrion na thrymion, ond yr oeddynt yn hynod gymeradwy gan y cynulleidfaoedd. Bu ei weinidogaeth yn ddiamheuol yn foddion dychweliad llawer o eneidiau at Grist. Yn wir, yn y peth hwn cafodd dystiolaethau i effeithiolrwydd ei weinidogaeth na estynir i lawer o ddynion a ystyrir yn fwy galluog, ac wedi cael llawer mwy o fanteision nag efe.
Cawsom unwaith brofiad oedd i fesur yn chwerw i ni o'i boblogrwydd pan yn anffodus yr aethom iw gyhoeddiad yn ei le. Cawsom y fraint o geisio pregethu i gynulleidfa—oedd lliosog a thra siomedig. A parhaodd ei gymeradwyaeth ai boblogrwydd hyd ddiwedd ei oes.
Yn ei gymydogaeth ei hun bu yn dra defnyddiol. Edrychid arno yn wastad yn arweinydd gyda'r Achos Dirwestol; ac ni oerodd ei zêl gydag ef hyd y diwedd. Dilynodd ef yn ffyddlon ymhob ffurf arno. Rhoddodd ei gefnogaeth wresog i Demlyddiaeth Dda, ac yn ei gystudd diweddaf gwisgai yn zelog y Ruban Glâs.
Yr oedd ynddo haws o nodweddau tra dymunol. Ac un o honynt ydoedd ei ffyddlondeb iw ymrwymiadau yn y mater hwn gallai yn hyf ofyn "A arferais i ysgafnder?" Trwy anhawsderau a fuasent yn cyfreithloni ei arosiad gartref, aeth iw gyhoeddiad lawer gwaith; ac nid oes amheuaeth na niweidiodd ei iechyd ac na fyrhaodd ei oes trwy y cydwybodolrwydd hwn.
Peth arall canmoladwy ynddo ydoedd ei ffyddlondeb i Fugeiliaeth Eglwysig. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy yn eglwys Corris ers yn agos i ddeuddeng mlynedd cyn i'r Parchedig Evan Jones gael ei alw yno; ond rhoddodd iddo ef, ac i'r Parchedig William Williams wedi hyny, y derbyniad mwyaf siriol, a chyd—weithredodd â hwy yn y modd mwyaf calonog.
Cafodd gystudd nychlyd am fisoedd. Trwy waeledd mawr yr aeth i Lanfair a Harlech yr ail Sabbath o Chwefror, 1882; a dyna y tro diweddaf iddo bregethu. Teimlai yn dra chysurus yn ei gystudd er fod arno hiraeth calon am bregethu; ac yr oedd meddwl am yr eneidiau a roddasid iddo yn seliau ei weinidogaeth yn gysur gwirioneddol iddo. Hunodd o'r diwedd yn dawel yn yr Iesu. Rhoddwyd iddo gladdedigaeth tywysogaidd gan ei gyfeillion yn eglwys Rehoboth. Nawdd y Nefoedd fyddo dros ei weddw ai deulu.
Mae dau frawd eraill a fuont yn swyddogion yn Nghorris mewn blynyddoedd diweddar nas gallwn derfynu y benod hon heb sylw arnynt, sef Richard Lumley a Thomas Jones.
Yn Mhenybwlch, gerllaw y ffordd o Fachynlleth i Bennal, y ganwyd Richard Lumley. Yr oedd y tŷ wedi ei ollwng i lawr cyn i ni gofio ond dangoswyd i ni y llanerch y tro cyntaf erioed yr aethom y ffordd hono fel y lle y ganwyd Robert a Richard Lumley. Crybwyllwyd eisoes am frawd arall iddynt, Hugh Lumley, yr hwn oedd frawd-yn-nghyfraith i Rowland Evans. Ac yr ydym yn cofio yn dda John eu brawd, tad y Parchedig Roderic Lumley, gweinidog parchus gyda'r Annibynwyr, yn Swydd Gaernarfon. Tua 1838 yr ymunodd Richard Lumley a'r eglwys, a hyny yn Nghorris, gan ei fod ar y pryd yn was yn Cwincadian. Ar ol hyn yr aeth i Abercwmeiddew, yn hwsmon i William Jones, ac y daeth mewn amser yn fab-yn-nghyfraith iddo. Gydag ef ai briod, Jane, yn Tanyrallt, y treuliodd William Jones flynyddau diweddaf ei fywyd. Dewiswyd ef yn flaenor yr un amser a Thomas Jones ac Humphrey Davies, ieu, Abercorris. Symudodd amryw weithiau yn mlynyddoedd diweddaf ei oes; ond galwyd ef i fod yn flaenor ymhob eglwys y bu mewn cysylltiad â hi.
Nid hawdd ydyw i ni ysgrifenu am y gŵr anwyl hwn. Yr ydym yn ei gofio o flaen bawb braidd oddigerth ein tad a'n mam ac yr oedd ein parch iddo a'n serch ato on mebyd yn fawr iawn. Yr oedd ein tad ac yntau yn gyfeillion calon; ar un modd ein mam âi briod. Nid ydym yn cofio i ni weled dyn mwy rhydd oddiwrth bob diffyg un amser Cyffredin oeddynt Ei alluoedd; ac nid oedd ei wybodaeth yn helaeth; ond yr oedd yn nodedig am ei synwyr cryf, a gwastadrwydd dilychwin ei gymeriad. Rhoddai y pethau hyn iddo ddylanwad mawr ar y rhai ai hadwaenent oreu. Dyn siriol ydoedd, heb y chwerwder lleiaf yn ei ysbryd; ond byddai ei bresenoldeb yn ddigon i gadw cwmni o rai ieuainc o fewn terfynau priodol.
Bu iddo ef ai wraig gyntaf dri o blant,—dau fab ac un ferch. Bu farw y ferch yn ieuanc iawn; a bu farw y ddau fab,—William a John, wedi tyfu i fyny yn llanciau dymunol a chrefyddol. Priododd yr ail waith âg Anne, merch yr hen athraw Lewis Thomas, Castell. Bu iddynt un ferch; ac y mae ei mam a hithau yn byw yn awr yn Nghorris.
Cafodd Richard Lumley gystudd maith a nychlyd, yr hwn a ddioddefodd gyda thawelwch mawr. Yr oedd ei grefydd uwchlaw amheuaeth; a mawr oedd y golled am dano wedi ei ymadawiad.
Mab i Meredith Jones, Penybont, ydoedd Thomas Jones. Mae Richard Jones, Dolffanog fach, Ystradgwyn, yn haner brawd iddo. Ac y mae John Jones, Galltyrhiw; yn frawd a Susannah Owen, y Waen, yn chwaer, iddo. Bu yn byw ar ol priodi am beth amser yn Mhenybont, ac wedi hyny am 18 iddo. Gydag ef ai briod, Jane, yn Tanyrallt, y treuliodd William Jones flynyddau diweddaf ei fywyd. Dewiswyd ef yn flaenor yr un amser a Thomas Jones ac Humphrey Davies, ieu, Abercorris. Symudodd amryw weithiau yn mlynyddoedd diweddaf ei oes; ond galwyd ef i fod yn flaenor ymhob eglwys y bu mewn cysylltiad â hi.
Nid hawdd ydyw i ni ysgrifenu am y gŵr anwyl hwn. Yr ydym yn ei gofio o flaen bawb braidd oddigerth ein tad a'n mam ac yr oedd ein parch iddo a'n serch ato on mebyd yn fawr iawn. Yr oedd ein tad ac yntau yn gyfeillion calon; ar un modd ein mam âi briod. Nid ydym yn cofio i ni weled dyn mwy rhydd oddiwrth bob diffyg un amser Cyffredin oeddynt Ei alluoedd; ac nid oedd ei wybodaeth yn helaeth; ond yr oedd yn nodedig am ei synwyr cryf, a gwastadrwydd dilychwin ei gymeriad. Rhoddai y pethau hyn iddo ddylanwad mawr ar y rhai ai hadwaenent oreu. Dyn siriol ydoedd, heb y chwerwder lleiaf yn ei ysbryd; ond byddai ei bresenoldeb yn ddigon i gadw cwmni o rai ieuainc o fewn terfynau priodol.
Bu iddo ef ai wraig gyntaf dri o blant,—dau fab ac un ferch. Bu farw y ferch yn ieuanc iawn; a bu farw y ddau fab,—William a John, wedi tyfu i fyny yn llanciau dymunol a chrefyddol. Priododd yr ail waith âg Anne, merch yr hen athraw Lewis Thomas, Castell. Bu iddynt un ferch; ac y mae ei mam a hithau yn byw yn awr yn Nghorris.
Cafodd Richard Lumley gystudd maith a nychlyd, yr hwn a ddioddefodd gyda thawelwch mawr. Yr oedd ei grefydd uwchlaw amheuaeth; a mawr oedd y golled am dano wedi ei ymadawiad.
Mab i Meredith Jones, Penybont, ydoedd Thomas Jones. Mae Richard Jones, Dolffanog fach, Ystradgwyn, yn haner brawd iddo. Ac y mae John Jones, Galltyrhiw; yn frawd a Susannah Owen, y Waen, yn chwaer, iddo. Bu yn byw ar ol priodi am beth amser yn Mhenybont, ac wedi hyny am 18 Yr oedd yntau yn ddyn ag yr oedd genym o'n mebyd barch calon iddo; a derbyniasom oddiwrtho lawer o garedigrwydd, yn enwedig tua'r amser yr oeddym yn dechreu pregethu. Ond heb geisio gwneuthur unrhyw sylwadau ein hunain ar ei gymeriad ai alluoedd, dodwn i lawr yma nodiadau a dderbyn—iasom oddiwrth y Parchedig J. H. Symond, Towyn, yr hwn a fu yn ystod ei flynyddoedd diweddaf yn y fantais oreu iw adnabod.
Ychydig; awgrymiadau ar gymeriad a defnyddioldeb Mr.Thomas Jones, Caethle
1. Erbyn ystyried ei fod wedi troi ugain oed cyn dechreu talu sylw i bethau crefydd, yr oedd wedi dyfod yn hynod gyfarwydd yn yr Ysgrythyrau, ac yn dra deallus yn ngwahanol bynciau yr athrawiaeth
2. Yr oedd yn ofalus i harddu athrawiaeth Duw ein Hiachawdyr ymhob peth heb adael na dirwest nac unrhyw rinwedd arall heb ei weithredu ei hun ai amddiffyn yn ngwydd dynion.
3. Yr oedd yn gyson a phrydlon yn ei ymwneyd â holl freintiau cyhoeddus crefydd. Pa ymdrech deilwng bynag fyddai ar droed, ni chai sefyll o ddiffyg cefnogaeth addas oddiwrtho ef.
4. Yr oedd yn hawdd ganddo roddi a chyfranu, ystyriai yn foddion gras iddo ei hun ac i bob un arall fod yn cyfranu yn ol ei gallu at bob achos da. Oblegid hyny ceid ef yn cael blas ar roddi ei hun, ac ar grybwyll yn fynych a chynes wrth y gynulleidfa, ond gwneuthur daioni, a chyfranu, nac anghofiwch; canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw. Yr oedd yn hynod awyddus i gael pawb i ddwyn ffrwyth cyfatebol iw hamgylchiadau am ei fod yn credu mai dyna un o lwybrau gwir lwyddiant yn y byd hwn, ai fod yn arogl peraidd, aberth cymeradwy, boddlawn gan Dduw, ac hefyd fod ffrwyth pob un yn amlhau erbyn ei gyfrif.
5. Yr oedd ganddo ddull serchog, cyfeillgar, a chryn fedr i drin pobl, fel ag iw cael i gymeradwyo yr hyn a ystyriai yn fwyaf addas ac angenrheidiol. Meddai hefyd ysbryd pen—derfynol lled gryf, fel na welid mono yn llwfrhau a rhoddi i fyny yr ymdrech er rhwystrau a gwrthwynebwyd.
6. Yr oedd ganddo lawer o gymwysderau i gymeryd rhan mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Bu am chwe mis yn llywydd y Cyfarfod Misol. Gallai siarad yn dda ar wahanol faterion, a gweddio yn effeithiol. Yr oedd yn ddyn hymaith a deheuig at bob rhan; ac yn ofalus am bob dosbarth a phob oedran, yn enwedig y bobl ieuainc ar plant. Cymerai ddyddordeb mawr yn yr Ysgol Sabbothol a'r Cyfarfodydd Ysgolion. Ceid ef yn fynych yn dweyd pethau rhagorol yn y cyfarfodydd eglwysig, er engraifft—peidied neb a meddwl yn llai o'i fywyd crefyddol am mai myned tros yr un cyflawniadau ddydd ar o'i dydd sydd yn ei wneyd i fyny. Nid yw bywyd crefyddol yn hyn ond cyffelyb i'r bywyd tymhorol. Yr ydym at fyw yn y byd hwn yn myned tros yr un cyflawniadau drachefn a thrachefn, ddydd ar ol dydd. Ail gymeryd ein hanadl o hyd. Cysgu y nos, codi y boreu, gwisgo am danom, bwyta ein prydiau, ar rhai hyny yn cael eu gwneyd i fyny o ddydd i ddydd bron o'r un pethau. Dilya yr un alwedigaeth myned ol a blaen beunydd, a byth bron yr un fath,—ac eto yn byw ar bwys y cyflawniadau cyffelyb a chyffredin hyny ydym yn ddwyn ymlaen ddydd ar ol dydd. Yr un fath gyda bywyd crefyddol. Ail—gymeryd ein hanadl o hyd mewn cymundeb ffydd â'r Arglwydd Iesu. Gwylio a gweddio, a darllen y Beibl ddydd ar o'i dydd. Dyfod dro ar ol tro i'r cyfarfod eglwysig ac i'r addoliad ar y Sabbath, ac at Fwrdd yr Arglwydd. Cyfranu dro ar ol tro at achosion da, ac ymddwyn o ddydd i ddydd yn addas i'r efengyl Ond er mai rhyw gylch o gyflawniadau cyffelyb o wythnos i wythnos ydyw ein crefydd eto trwy y pethau hyn yr ydys yn byw ac yn yr holl bethau hyn y mae bywyd ein hysbryd ni. Gwyliwch flino arnynt nau galw yn gyffredin, oblegid nis gellir hebddynt fyw i Dduw yn Nghrist Iesu ein Harglwydd.
7. Yr oedd yn flaenllaw yn ei olygiadau, ac yn cydfyned â symudiadau ein Cyfundeb yn rhwydd a siriol. Gwelai yn fuan y ffordd yr oedd pethau yn gogwyddo, a medrai ddeall yr amseroedd i wybod beth a ddylai Israel ei wneuthur. Yr oedd ar y blaen mewn rhoddi dylanwad o blaid pob symudiad a fernid yn angenrheidiol tuag at lwyddiant crefydd yn ein plith.
Oherwydd yr holl gymhwysderau amrywiol a nodwyd, yr oedd Mr. Thomas Jones yn un o'r blaenoriaid mwyaf gwerthfawr i gario gwahanol ranau yr achos ymlaen; ac yn un o'r rhai mwyaf diogel a chalonogol i gydweithio âg ef. Gwasanaethodd swydd diacon yn dda, ac enillodd iddo ei hun râdd dela, a hyfder mawr yn y ffydd sydd yn Nghrist Iesu.
Bu farw yn nghanol ei ddefnyddioldeb mwyaf, a phan y gallesid disgwyl fod iddo flynyddoedd yn ychwaneg i fyw. Mae ei fab hynaf, Meredith Jones, wedi ei alw yn flaenor yn eglwys Towyn.PENOD VI
CYNYDD METHODISTIAETH YN NGHORRIS A'R AMGYLCHOEDD
CYN myned ymlaen i wneuthur sylwadau ar Morris Jones a Rowland Evans, y rhai y mae eu henwau yn fwy arbenig yn gysylltiedig âg Aberllefenni, byddai yn fanteisiol taflu golwg ar y cynydd a gymerodd le ar yr achos yn Nghorris, a'i ymledaeniad graddol i'r gwahanol ardaloedd eraill oddiamgylch, Ac er mwyn peidio dychwelyd at y mater mewn penod ddilynol dodwn i lawr yma y cwbl y bwriadwn ei ddywedyd ar y mater hwn.
Yr ydym eisoes wedi dyddio cychwyniad yr achos yn yr Hen Gastell o'r flwyddyn 1790, a chrybwyll mai yn 1816 yr adeiladwyd y capel cyntaf yn yr ardal. Adeiladwyd ef yn agos i haner milldir yn is i lawr na'r Hen Gastell, sef yn y man y saif y capel presenol. Yn 1836 adeiladwyd yr ail gapel yn yr un lle. Yr oedd yn fwy o gryn lawer na'r cyntaf; a dywedai un hen ŵr nad oedd yn edrych o gwbl yn ffafriol ar gynydd Methodistiaeth, y gallent yn hawdd droi ei haner yn gorlan i ddefaid Wmffra Dafydd. Yn 1869, tynwyd hwn drachefn i lawr a chyfodwyd y capel presenol, yr hwn sydd yn anrhydedd i Fethodistiaeth, ac yn addurn hefyd i'r gymydogaeth. Cofus genym glywed y diweddar Barchedig Edward Morgan, Dyffryn, yn galw sylw y swyddogion mewn Cyfarfod Misol yn y lle at yr angen am gapel newydd. Yr ydwyf, meddai, yn cofio yn dda y tro cyntaf y daethum i'r capel hwn, bedair blynedd ar hugain yn ol. Yr oeddwn yn ei weled yn fawr iawn. Mi welais amryw o rai mwy wedi hyny; ond nid wyf yn gwybod am lawer o gapeli heblaw hwn yn hollol yr un fath yn awr ag oeddynt bedair blynedd ar hugain yn ol. Cyn hir wedi hyny, aed ati o ddifrif, a chwblhawyd y gwaith; ac y mae yr holl ddyled yr aed iddi erbyn hyn wedi ei thalu. Ac nid gormod ydyw dywedyd na bu yr achos yn fwy siriol yn Rehoboth erioed nag ydyw yn awr.
Crybwyllwyd mewn penod flaenorol am gychwyniad yr achos yn yr Ystradgwyn; ac nid oes genym lawer i'w ychwanegu yma at yr hyn a ddywedwyd yno. Oherwydd teneurwydd y boblogaeth, nis gallesid disgwyl i'r eglwys yn y lle hwn ddyfod yn gref; ond y mae wedi bod bob amser yn eglwys fechan gysurus a gweithgar. Carasem wneuthur crybwylliad helaethach nag a ganiata ein gofod i ni am un brawd a fu yn swyddog ynddi am dymor maith, ond a fu farw amryw flynyddoedd yn ol, sef Dafydd Jones, y gwehydd. Mab ydoedd i Edward Jones, Cwmtylian, Corris. Yn mhentref Esgairgeiliog y preswyliai pan y cofiwn ef gyntaf; ond yn yr Ystradgwyn y dewiswyd ef yn swyddog eglwysig. Yr oedd yn D. J. lawer o neillduolion; ac yr oedd yn un o'r cymeriadau mwyaf pur a dymunol. Llais gwan, aneglur, oedd ganddo, yn tynu sylw ar unwaith; ond yr oedd yn meddu gwybodaeth Ysgrythyrol a duwinyddol eang. Byddai o werth mawr yn y cyfarfod eglwysig ac yn yr Ysgol Sabbothol; a cholled wirioneddol a gafwyd yn ei farwolaeth. Yr oedd yn un o'r dynion duwiolaf yn ddiau a adnabuwyd erioed yn y gymydogaeth.
Bu y diweddar Barchedig Humphrey Evans yn aros am ryw dymor yn yr ardal, ac yn aelod o'r eglwys yn yr Ystradgwyn. Gwr o graffder neillduol ac o allu diamheuol ydoedd ef; a bu o wasanaeth mawr i'r ardaloedd cylchynol yn ystod yr adeg y bu yn byw yn Dolffanog. Mab iddo ef yw y Parchedig Owen Evans, Bolton. Bu farw yn Nolgellau, Chwefror 1864. Gallasem wneuthur crybwyllion helaeth am eraill; yn eu mysg y diweddar Humphrey Jones, Cwmrhwyddfor, a'i briod, yr hon oedd yn wraig nodedig am ei synwyr da a'i chrefyddolder diamheuol. Hwynthwy oeddynt dad a mam Mr. Morris Jones, Minffordd, a Mr. Henry Jones, Cildydd. Ond rhaid ymatal.
Yn Pantymaes, Aberllefenni, y sefydlwyd yr ail eglwys y gellir edrych ar yr eglwys yn Rehoboth fel ei mam. Daeth Rowland Evans i fyw i Felin Aberllefenni tua'r flwyddyn 1822; ond ni sefydlwyd eglwys yno am lawer o flynyddoedd wedi hyny. Bechan iawn oedd poblogaeth yr ardal hyd agoriad y chwarelau; ac ni chymerodd yr amgylchiad hwnw le am rai blynyddoedd wedi symudiad R. E. i'r Felin. Buasid yn codi ychydig geryg llwydion yn achlysurol yn y Foel Grochan ers llawer o amser. Tewion a geirwon oedd y rhai hyny, a defnyddid hwynt i lorio lawn cyn amled ag i doi y tai. Yn 1867 dywedai R. E. fod un yn fyw y pryd hwnw a fuasai yn cyrchu oddiyno at gapel y Brithdir, er llorio y fynedfa iddo, yr hyn y gallai ei gymeryd ar gefn ceffyl. Cymerodd gydag ef bedair carreg, a mawr y ganmoliaeth a roddid iddynt wedi cyraedd pen y daith. Yn 1824 nid oedd yn gweithio yn chwarel Aberllefenni ond tri o ddynion, y rhai a dderbynient bymtheg swllt yn yr wythnos o gyflog. Nid wrth y dydd y gweithient; ond os enillent fwy na'r swm uchod, gostyngid y pris; ac ni oddefid i'r cyflog ar un cyfrif fod yn fwy na hyny. Credwn fod chwarelwyr Aberllefenni wedi dioddef yn gyffelyb lawer o flynyddoedd ar ol y cyfnod uchod. Nid ydym yn gwbl sicr o'r adeg y dechreuwyd agor y chwarelau o ddifrif; ond cyn belled ag y gallasom gasglu, yr oedd yn rhywle tua 1825 neu 1826. A diangenrhaid yw ychwanegu mai dyna yr amgylchiad mwyaf pwysig erioed yn hanes yr ardaloedd hyn. Dyma yr adeg y dechreuodd dynion o leoedd eraill, ac yn enwedig o ardaloedd y chwarelau yn Arfon, ddylifo i'r gymydogaeth i weithio, ac y lliosogwyd yn fawr mewn byr amser nifer y trigolion. Oddiyma y gallwn ddyddio cychwyniad masnach y gymydogaeth; a dyma yr adeg yr ychwanegwyd yn fawr at nerth yr achosion crefyddol yn y lle. Rhaid ychwanegu i gefnllif o lygredigaeth hefyd ddyfod i mewn ar yr un adeg. Nis gellid gwneyd bellach heb dafarn yn nes na Minffordd; ac nid yn hir iawn y buwyd heb gael ychwaneg nag un yn Nghorris. Ond yn adeg y diwygiad dirwestol sychwyd y dafarn oedd yn Tanyrallt. Wedi ei rhoddi heibio yr oedd yno ryw gymaint o'r ddiod yn aros, a threfnwyd i gael claddedigaeth cyhoeddus i'r gweddillion. Yr oedd yr adeg wedi cael ei gwneyd yn hysbys yn y gymydogaeth, a daeth cynulliad lliosog ynghyd i weled y ddiod yn cael ei thywallt allan i'r ffordd. Pan oedd un hen frawd yn prysuro yn gyflym tua'r lle, gofynwyd iddo i ba le yr oedd yn myned, a phaham y brysiai; a'i ateb oedd : Rydw i yn mynd i'r claddedigaeth; a byddai yn arw i mi fod ar ol, a minau yn un o'r rhai nesa i'r corff. Traddodwyd anerchiadau gwresog a hwyliog ar yr achlysur. Bu llawer o'r llanciau gwylltion a ddaethant i'r chwarelau yn ddynion rhagorol wedi hyny yn y gymydogaeth, ac y mae plant, ac wynon, a gorwynon llawer o honynt heddyw ymysg y rhai mwyaf defnyddiol sydd i'w cael ynddi.
Ond i ddychwelyd at hanes yr achos yn Aberllefenni. Nid ydym yn gwybod yn sicr pa bryd y cychwynodd yr Ysgol Sabbothol yno. Yn y Drysorfa, 1840, dywedir fel hyn : Yn oes yr Hen Gastell sefydlwyd hefyd Ysgol Sabbothol yn Aberllefenni. Aeth hono yn dair; ac yn awr y mae Col Jones, Cyfronydd, Sir Drefaldwyn, wedi bod mor haelionus ag adeiladu ysgoldy yn yr ardal hono. Os ydyw y crybwylliad hwn yn gywir, rhaid fod ysgol wedi ei chychwyn yn Aberllefenni rywbryd cyn 1816, ac yn y Ty Uchaf, maen ddiau, y cynhelid hi. Ond nid ydym yn sicr a gynhaliwyd hi yn ddifwlch o'r amser hwnw ymlaen. Yn 1826, pa fodd bynag, yr oedd yn cael ei chynal yn rheolaidd, ac ambell waith ceid pregeth hefyd yn yr un lle. A digwyddodd rhai pethau digrifol yn y Ty Uchaf. Yr oedd Hugh Humphrey, o Lwydiarth, yn bresenol yn yr odfa un tro. Crybwyllasom mewn penod flaenorol am ei gryfder corfforol; ac mewn ffeiriau byddai weithiau yn gwneuthur gwrhydri fel ymladdwr. Cariai ffon fawr yn gyffredin, a dywedir iddo rai troion gyda'r ffon glirio heol Dinas Mawddwy ar ddiwrnod ffair. Y tro hwn adroddai y pregethwr hanes Joseph; ac yr oedd y cwbl yn dra newydd a dieithr i Hugh Humphrey. Yr oedd ei ffon yn ei law; ac wrth glywed y pregethwr yn adrodd y gamdriniaeth a dderbyniodd Joseph oddiwrth ei frodyr, nis gallai ymatal heb ddatgan ei syndod. Chlywas i rioed 'siwn beth, meddai drachefn a thrachefn; ond wedi clywed y diwedd, tarawodd y ffon yn y llawr, a dywedodd yn uchel, "Myn——, 'daswn i yno !"
Buwyd yn pregethu hefyd yn ysgubor Aberllefenni, pan oeddid yn ail adeiladu y Ty Uchaf. Cafwyd odfa i'w chofio byth yn yr ysgubor, pan oedd Mr. John Morgans, Drefnewydd, yno yn pregethu. Pregethid hefyd yn achlysurol yn y Felin, er mwyn Mary Evans, yr hon a ddioddefodd gystudd trwm am lawer o flynyddoedd. Yn raddol cychwynwyd dwy o ysgolion eraill, y naill yn Cwmcelli, ar llall yn y Fronfraith. Ac nid ymddengys i'r ysgol yn y lle cyntaf gael ei rhoddi i fyny ar unwaith wedi agor yr ysgoldy; canys yn y Drysorfa 1840, dywedir fod y tair yn cael eu cynal yr adeg hono. Bu yr ysgol yn cael ei chynal yn y Fronfraith am flynyddoedd o fewn ein côf ni, ac wedi hyny yn y Waen. Cynhelid cyfarfod eglwysig hefyd yn achlysurol yn y Felin amryw flynyddoedd cyn adeiladeiladu yr Ysgoldy yn Pantymaes. Y rheswm paham y cynhelid ef yno ydoedd, mai teulu y Felin oedd yr unig deulu cyfan a berthynai i'r eglwys. Yr oedd dau o flaenoriaid Corris, fel y gwelwyd eisoes, yn byw yn Aberllefenni, sef Rowland Evans a Richard Owen, a chafodd yr achos trwy hyny lawer o fanteision yn ei gychwyn. Yr oedd, yn wir, gyflawnder mawr o ddoniau, ac ystyried bychander y nifer, yn yr eglwys hon o'r cychwyn. Ond tua'r flwyddyn 1839 daethpwyd i deimlo fod gwir angen am gapel, neu o leiaf ysgoldy; a chytunwyd i anfon Morris Jones at Col. Jones i ofyn am dir i adeiladu arno. Yr oedd i M. J. ddylanwad mawr gyda'r boneddwr; a chanlyniad ei ymweliad fu i'r boneddwr addaw adeiladu i'w weithwyr ysgoldy ar ei draul ei hun, os byddai i'r ardalwyr gludo y defnyddiau ato; ac yn yr ysgoldy rhoddid caniatad i gynal pob math o wasanaeth crefyddol yn gyson? A hyn cytunwyd yn llawen; ac nid hir y bu y gwaith heb ei ddwyn i derfyniad. Gweddus ydyw cydnabod, yn y fan hon, rwymedigaeth y gymydogaeth i haelioni y boneddwr uchod. Cwbl ddiaddurn oedd yr adeilad, ond yr oedd yn hollol gyfleus at yr amcan oedd iddo; ac yn amgylchiadau y gymydogaeth ar y pryd, anhawdd ydyw prisio yn gywir werth caredigrwydd y boneddwr. Yr ydym wedi cyfeirio eisoes at garedigrwydd cyffelyb ei fab, ychydig gyda deng mlynedd yn ddiweddarach, yn adeiladu ysgoldy ¡ gynal ynddo ysgol ddyddiol, ar yr un amodau yn y Garnedd Wen. Nid ymddengys fod eglwys wedi ei sefydlu am beth amser yn Pantymaes, er y cafwyd pregethu yno o'r cychwyn gyda gradd o gysondeb. Yn Medi, 1840, nid oedd hyny wedi cymeryd lle, gan y dywedir yn y Drysorfa:
"Mae yr haid sydd yn perthyn i Gorris yn yr ardal hono yn awr o gwmpas 60 o rifedi. Ond cyn belled ag y llwyddasom i gael hysbysrwydd nid yn hir wedi hyny y buwyd heb ei sefydlu. Parhawyd, pa fodd bynag, am beth amser i fyned i Gorris ar nos Sabbothau; ac am amser maith wedi i ni gofio byddai y rhan fwyaf o'r gynulleidfa yn dilyn y pregethwr i Gorris, er y cynhelid ar yr un pryd gyfarfod gweddi yn Pantymaes. Yn raddol blinwyd ar hyn; a dechreuwyd, wedi i'r achosion yn Esgairgeiliog a Bethania enill ychydig o nerth, cael pregeth y nos yn achlysurol; nes o'r diwedd y cafwyd hyny yn hyny yn gwbl reolaidd; ac y trefnwyd i Aberllefeni ac Esgairgeiliog fod yn daith Sabbothol ar eu penau eu hunain, a Chorris a Bethania yr un modd.
Bu yr ysgoldy yn Pantymaes heb nemawr gyfnewidiad arno, oddigerth rhoddi llawr coed ar y llawr ceryg oedd iddo ar y cyntaf am lawn ugain mlynedd. Yn 1859 yr oedd wedi myned yn rhy fychan; a helaethwyd ef y flwyddyn hono, gan roddi ynddo eisteddleoedd cysurus yn lle y meiniciau a fuasent ynddo cyn hyny. Cyn ei fod braidd wedi ei orphen torrodd y diwygiad allan ynddo; a chofiwn yn dda am un chwaer yn dywedyd ar ol y gorfoledd y noson gyntaf, Dyna dwymniad iawn ar y capel newydd. Yn 1874, adeiladwyd y capel presenol yn Pensarn; ac er fod y draul yn fawr y mae y ddyled oll wedi ei thalu er 1881. cynhaliwyd jiwbili Mehefin 26, 1881.
Naturiol fyddai i n¡ ymhelaethu ar helyntion yr achos yn y lle hwn. Magwyd yma lawer o ieuenctyd dymunol, ond chwalwyd hwy, dô ar ol tô, i wahanol ranau y byd. Aeth nifer o honynt i America, ac eraill i Awstralia; ac wrth feddwl am ei mynych golledion, nis gallai Rowland Evans ymatal rhag siarad am dani fel perth yn llosgi ac heb ei difa. Dywedai y diweddar Barchedig William Roberts, Amlwch, fod achos Mab Duw wedi medru fforddio ei golli ef ei hunan; ac y gall yn hawdd fforddio bellach bob colled arall. Yn Aberllefenni cafwyd llawer o golledion y tybiasid ymlaen llaw a fuasent yn ddinystr iddo, ac a barasant hefyd lawer o bryder i'w garedigion; ond y mae, er y cwbl, yr olwg arno heddyw lawn mor lewyrchus ag y bu erioed.
Erbyn hyn y mae capel bychan wedi ei adeiladu yn yr Alltgoed; yr hwn a agorwyd Tachwedd 26, 1871, ac yn yr hwn y pregethir yn rheolaidd ar y Sabbothau. Bechan yw y boblogaeth, ac o ganlyniad bechan yw y gynulleidfa; ac nid oes eglwys wedi ei ffurfio yno hyd yma. Yn Aberllefenni y mae y brodyr ar chwiorydd yn aelodau. Yr eglwys nesaf y rhaid sylwi arni ydyw yr un yn Esgairiog. Anhawdd ydyw cael hysbysrwydd penderfynol pa bryd y dechreuwyd cadw Ysgol Sabbothol yn yr ardal hon. Yn ol y wybodaeth a gawsom, yr oedd William Jones, Tanyrallt, yn un o'r prif golofnau yn ei chychwyniad. Mewn bwthyn bychan diaddurn, o'r enw Pant—teg y cynhelid hi; ond wedi iddi gynyddu ychydig, symudwyd hi i'r Ty Mawr; ac oddiyno drachefn i Flaenglesyrch, lle y preswyliai Thomas a Jane Peters, ynghyd a brawd i Jane Peters o'r enw David Jones. Yn y lle hwn yr oedd wedi dyfod o fewn terfynau y gynulleidfa a berthynai i Gapel Sion, Llanwrin. Dywedwyd wrthym y cynhaliwyd ysgol yno am lawer o flynyddoedd. Yn y cyfnod hwnw mae'n ymddangos, y cychwynwyd ysgol gan Hugh Pugh, yn Rhywgwreidd. yn, yr hwn y crybwyllwyd am dano eisoes fel sylfaenydd yr achos Annibynol yn y lle. Mynychid yr ysgol yno am dymor gan ychydig o Fethodistiaid; ond oherwydd rhyw amgylchiadau ymneillduasant i Esgairgeiliog, i dŷ gŵr o'r enw Edward Edwards, yr hwn a gadwai y lle fel gwas i Doctor Evans, o'r Fronfelen. Nid oedd y gŵr hwn ar y pryd yn aelod eglwysig, ond rhoddodd dderbyniad croesawus i'r Ysgol Sabbothol.
Tua dechreu y ganrif bresenol nid oedd un Tŷ o gwbl lle y saif yn awr bentref Esgairgeiliog. Ond yn lled gyna'r yn y ganrif, adeiladwyd gan deulu y Ceinws, yn agos i'r lle y saif y capel presenol, factory, yr hon a alwyd Ffactrir Ceinws. Yr ydym yn cofio cael ein hanfon ar neges iddi yn nyddiau ein mebyd. Ymhen amser, adeiladwyd ychydig o dai gerllaw iddi, nes y daethant yn raddol i gael yr enw Pentre Caerbont, neu Bentrer Ceinws. Wedi adeiladu capel Acchor yno, buwyd yn galw y lle am beth amser yn Bentref Acchor; ond wedi adeiladu yno gapel gan y Methodistiaid, galwyd ef am flynyddoedd yn Bentref Samaria. Mae yr enw hwn, pa fodd bynag, a rhai enwau eraill, wedi ymgolli bellach yn yr enw Pentref Esgairgeiliog. Yn ffermdy Esgairgeiliog, dynion heb fod yn aelodau eglwysig oedd y rhan fwyaf o'r rhai a gymerent y blaen gyda'r Ysgol Sabbothol. Yn eu mysg, heblaw Edward Edwards, yr oedd William Jones, yr Ysgubor Fach. Yr ydym yn ei gofio ef yn dda, er nad oes bellach ers llawer o flynyddoedd gareg yn aros o'r ty y preswyliai ynddo. Un arall ydoedd ewythr i Doctor Evans, oedd yn lletya yn Esgairgeiliog, ac yn cael mwynhad neillduol wrth ddysgu y wyddor i'r plant. Ond estynid iddynt gymorth parod gan nifer o frodyr o Gorris, ymysg pa rai yr enwir Humphrey Davies, Abercorris; William Richard, Ty'r capel; Williarn Jones, Tanrallt; Hugh Humphrey, y Pentre; a'i fab Humphrey Hughes, y Pandy.
Wedi dyfodiad John Jones, o Lanwrin, i'r Gyfylchau, ymddiriedwyd gofal yr ysgol iddo ef. Wedi ei dwyn ymlaen yn y fferrndy am flynyddoedd, ac i gyfnewidiadau gymeryd lle yno, teimlwyd yn angenrheidiol cael capel, a gwnaed cais am dir i adeiladu arno gan Doctor Evans. Nid oedd ef yn foddlawn i ganiatau tir i adeiladu lle i bregethu ynddo, er ei fod yn gwbl barod i roddi tir at ysgoldy. Ond teimlai y cyfeillion erbyn hyn, wrth weled eu nifer yn lliosogi, ar ffordd yn bell i gerdded i Gorris, mai dymunol fyddai cael lle i bregethu ynddo yn achlysurol; a chawsant dir am bris rhesymol i'r amcan hwnw, gan Mr. Thomas Edwards, Ceinws, ynghyd âg addewid am £15 tuag at y draul o'i adeiladu. Nid oedd efe ar y pryd yn aelod eglwysig. Meibion iddo ef ydynt Richard Edwards, Ceinws; a David Edwards, Rhywgwreiddyn. Bu mab arall iddo, William Edwards, Ceinws, yn flaenor ffyddlawn am rai blynyddoedd yn eglwys Corris, cyn sefydlu eglwys yn Esgairgeiliog.
Yn y Drysorfa, 1840, dywedir:— Mae ysgoldy yn awr ar waith yn ardal Esgairgoiliog, yn saith llath wrth wyth o faintioli. Ond ymddengys na agorwyd ef hyd y flwyddyn ganlynol, —1841.Unwaith yn y mis y ceid pregeth yno am flynyddoedd yn ein cof ni; ac yr oedd yr holl aelodau yn Ebenezer, canys dyna enw yr ysgoldy yn aelodau yn Nghorris, er y cynhelid cyfarfod eglwysig yno hefyd. Cofiwn yn dda y byddai John Jones, Gyfylchau, wedi i Humphrey Davies, ar nos Sabbath, orphen cyhoeddi y moddion am yr wythnos, yn codi ar ei ol ac yn cyhoeddi seiat nos Fercher yn Ebenezer. Yn 1874, yn y lle y safai y capel cyntaf, adeiladwyd y capel hardd a chysurus presenol.
Bu mewn cysylltiad â'r achos yn y lle hwn lawer o gymeriadau tra dyddorol. Un o rai rhagorol y ddaear oedd William Edwards, Ceinws; a cholled fawr a gafwyd yn ei farwolaeth gynar, ac (in golwg ni) anamserol. Disgwylid gwasanaeth gwerthfawr oddiwrtho yn eglwys Corris am lawer o flynyddoedd.
John Jones, y Gyfylchau, yr hwn nad yw ei farwolaeth ond amgylchiad diweddar, a fu am dymor maith yn brif golofn yr achos yn Esgairgeiliog. Gŵr o ddawn helaeth a gwybodaeth eangach o. lawer na'r cyffredin oedd efe; a thra gwreiddiol hefyd mewn llawer o bethau. Dygodd i fyny deulu lliosog, ond y maent oll wedi marw erbyn hyn oddigerth un mab iddo. Yr oedd dau o'i feibion, David a John, a fuont farw yn wŷr ieuainc, yn rhai tra addawol. Gadawodd John Jones y gymydogaeth ychydig amser cyn ei farwolaeth; ac nid oes yn awr yn Nghorris neb o'i berthynasau ond plant ei unig ferch.
Hawdd fuasai crybwyll am eraill, megis yr hen frawd digrif a dyddorol, Dafydd Rhobert, a Lowri ei wraig; ond y mae ein terfynau yn ein gorfodi i ymatal.
Rhoddwn air yn olaf am yr achos yn Bethania. Crybwyllwyd mewn penod flaenorol am yr Ysgol yn y Capel Bach ; ond ymddengys mai nid yno y dechreuodd yn y gymydogaeth a elwir yn fynych, yn y rhan isaf, top Corris. Dywedir wrthym mai yn y Fronheulog y dechreuodd; ond pa bryd nis gwyddom. Nis gwyddom ychwaith dros ba amser y cynhaliwyd hi yn y ty hwnw. Bu am ryw gymaint o amser wedi hyny, meddir, yn Llainygroes. Ac yn 1840, yn ol yr adroddiad yn y Drysorfa, yr oedd ysgol yn y TY Mawr a Cwmeiddew. Nid ydym yn sicr pa bryd yr unwyd y ddwy hyn mewn un ysgol yn y Capel Bach ; ond yr ydym yn gwybod mai yno yr ydoedd o 1848 i 1850. Yn 1854 yr adeiladwyd Capel Bethania, yr ochr arall i'r afon, ac ar fin y ffordd newydd. Yn 1866, cafwyd ei fod yn rhy fychan, ac adeiladwyd capel llawer helaethach a rhagorach wrth ei dalcen. Tybiwn mai tua 1865 y sefydlwyd yr eglwys yn Bethania.
Mae un brawd a fu mewn cysylltiad â'r eglwys hon, sef y diweddar Samuel Williams, Rugog, yn un nas gellir myned heibio iddo heb wneuthur coffad parchus am ei enw. Bu yn dŵr o nerth i'r achos yn Bethania ymron o'i gychwyniad; ond bydd yn fwy naturiol dwyn i mewn ein crybwyllion am dano fel un o gydlafurwyr Rowland Evans yn Aberllefenni. Yn yr eglwys hono y dewiswyd ef yn flaenor; ac yno hefyd y llafuriodd gyda ffyddlondeb mawr am lawer o flynyddoedd.
Mae yn amlwg oddiwrth yr amlinelliad uchod fod Methodistiaeth Corris wedi bod yn hynod lwyddianus. Am y deugain mlynedd cyntaf, neu o leiaf y deunaw ar hugain cyntaf, ni bu gynydd braidd o gwbl; ond yn y 66 mlynedd diweddaf y mae wedi bod yn fawr iawn. Mae yr eglwys yn Rehoboth yr unig eglwys lai na thriugain mlynedd yn ol, erbyn hyn yn bump o eglwysi, ac yn dair o Deithiau Sabbothol. Dyma y Teithiau ;Rehoboth ac Esgairgeiliog; Bethania ar Ystradgwyn; Aberllefenni a'r Alltgoed. Ac yr ydym yn dodi i lawr yma nifer eu haelodau ar ddiwedd 1880, yn ol yr Ystadegau cyhoeddedig gan Gyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, fel y caffer golwg ar unwaith ar gynydd can mlynedd, sef o 1780, pryd y dychwelwyd Dafydd Humphrey yn y bregeth yn Abergynolwyn, hyd 1880:
Aelodau Eglwysig |
Gwrandawyr |
Aelodau yr | |||
Rehoboth | 160 |
. . . |
282 |
. . . |
237 |
Ystradgwyn | 28 |
. . . |
56 |
. . . |
40 |
Aberllefenni | 122 |
. . . |
210 |
. . . |
183 |
Esgairgeiliog | 59 |
. . . |
102 |
. . . |
93 |
Bethania | 90 |
. . . |
200 |
. . . | 170 |
Cyfanswm | 459 |
. . . | 850 |
. . . | 723 |
Yr oedd cyfanswm cyfraniadau yr eglwysi hyn at achos crefydd yr un flwyddyn yn £516 1s. 2½c. Ar ddiwedd 1884, yr oedd cyfanrif yr aelodau yn 494; a chyfanswm y cyfraniadau yn £549 5s. 10c.
PENOD VII
MORRIS JONES, ABERLLEFENNI
DYMA ŵr sydd wedi ei symud ymaith ers llawn bum mlynedd a deugain, ond gŵr ag y mae Corris ar amgylchoedd heddyw dan rwymau neillduol i barchu ei gofiadwriaeth. Ac y mae yn llawen genym gael neillduo penod iddo, er ei fod wedi marw amryw flynyddoedd cyn ein geni. Nid oedd ond 34 mlwydd oed pan y cymerwyd ef ymaith, a threuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn wyllt ac annuwiol, er nad oedd yn ddidalent na difeddwl yn ei annuwioldeb; ond yn y deng mlynedd diweddaf gwnaeth waith a haedd barch i'w goffadwriaeth byth
Ganwyd ef yn Bryntwr, Penmorfa, Sir Gaernarfon, Ionawr 13eg, 1806. Ar ol amryw symudiadau daeth i weithio i chwarel Aberllefenni, yn y flwyddyn 1828. Y pryd hyny nid oedd ei fuchedd ddim gwell na chynt; a dilynodd yr hen arferiad o yfed a meddwi, ynghyd it llawer o feiau eraill: a mawr oedd y dylanwad oedd ganddo ar ei gydweithwyr i'w temtio i'w ddilyn mewn drwg, fel plant yn dilyn eu tad. Yn 1829, priodwyd ef ag Anne Roberts, o ardal y Garn, Sir Gaernarfon. Wedi priodi aeth yn dlawd, a dechreuodd weled ei ffolineb yn gwario ei arian ar ddiodydd meddwol, a rhoddodd hwy heibio yn hollol. Yr adeg hono, o dan weinidogaeth yr hen bregethwr parchedig Thomas Owen, o Fon, effeithiwyd cymaint arno fel yr aeth ar unwaith i ymofyn am le yn nhy Dduw; a mawr oedd syndod y brodyr yno pan y gwelsant ef.
Bu wedi hyn yn wrthgiliedig am ychydig, oherwydd na weinyddwyd disgyblaeth arno am ryw gamymddygiad o'i eiddo ag y tybiai efe oedd yn haeddu hyny, ond na wyddai y blaenoriaid ddim am dano. Mynai ef nad oedd eglwys a oddefai y fath beth yn eglwys i Grist. Ond daeth yn ol eilwaith, ac ymroddodd i ddarllen ac efrydu, ac i fod yn ddefnyddiol gyda chrefydd. Yn 1835, dewiswyd ef yn flaenor yn Nghorris, ac yn Awst 1836, dechreuodd bregethu. Yr oedd felly yn flaenor ymhen llai na chwe blynedd ar ol gadael ei annuwioldeb cyhoeddus, yr hyn sydd ynddo ei hun yn dystiolaeth ddigonol am y syniadau uchel a goleddid yn fuan am dano yn meddyliau ei frodyr. Ar ddirwest y dechreuodd siarad yn gyhoeddus; ac efe oedd y dirwestwr cyntaf yn yr holl gymydogaeth. Yn y Dirwestydd, Ionawr 1837, ceir y nodiad canlynol am gychwyniad dirwest yn Nghorris :Yr oedd yma un wedi mynwesu yr egwyddor ddirwestol ers mwy na dwy flynedd, ac yn nechreu yr haf diweddaf, tarawodd wrth un arall o'r un egwyddor; ac Awst 12, 1836, cymerasant lyfr bychan, ac ysgrifenasant yr ardystiad, a dywedai llawer eu bod wedi ynfydu. Ond er hyny, cynyddu yn raddol a wnaethom, a thrwy ymweliad Mr. D. Charles ac eraill â ni yr ydym heno (Rhag. 15) yn 214. David Jones, Ysgrifenydd. Y cyntaf yn ddiau oedd Morris Jones; ac, fel y crybwyllwyd mewn penod flaenorol, ymddengys mai Humphrey Edward, Cwmcelli, oedd y llall. Cawsom hanes y cyfarfod cyntaf a gynhaliwyd gan y diweddar Barch. John Jones, Brynteg, a dodwn ef i lawr yn ei eiriau ef ei hun : Morris Jones, y pregethwr, oedd y dirwestwr cyntaf, ac ymunodd ychydig ag ef cyn cael cyfarfod. Un diwrnod, yn chwarel y Ceunant Du, darfu i amryw o honom roddi ein henwau, gan ddweyd y byddai yn rhaid cael cyfarfod cyhoeddus. Rhoddwyd yr enwau i mi i'w cymeryd i Morris Jones, i'r Ty Engine, lle yr oedd ef yn gweithio ceryg beddau; ac yno y penderfynwyd cael y cyfarfod cyntaf, yr hwn a gafwyd yn ddioedi. Nid oedd neb dieithr yn y cyfarfod, ond cymerodd amryw yr ardystiad. A dyma ddechreuad y Gymdeithas ddirwestol yn y gymydogaeth.
Yn llyfr dyddorol a gwerthfawr y Parchedig Ddr. John Thomas, ar Y Diwygiad Dirwestol yn Nghymru, ceir y dyfyniad canlynol o lythyr gan Mr. D. Ifor Jones, yn cynwys hysbysrwydd a dderbyniasai o enau ei dad.yn—nghyfraith, y diweddar Barch. Hugh Roberts, Corris : Cynhaliwyd y Cyfarfod Dirwestol cyntaf yn yr ardal hon, Tachwedd 5, 1836, a fi oedd y cyntaf a siaradodd ynddo. Cynhaliwyd yr ail, Tachwedd 12, 1836, yn yr hwn yr oedd Dr. Charles yn bresenol, ac yn llosgi alcohol. Yr oeddwn i yn ddirwestwr er mis Hydref; ac yr oedd pedwar ar ddeg o honom yn ffurfio y Gymdeithas. Yr ydym yn tybio y rhaid fod cyfarfodydd wedi eu cynal yn Aberllefenni cyn y cyfarfod hwn; ac mai nid at yr un cyfarfod y cyfeiria y ddau adroddiad.
Yr oedd Morris Jones yn ymresymu yn bersonol dros ddirwest ers amser cyn dechreu siarad yn gyhoeddus drosti; ac iddo ef yn ddiau y mae Corris ar amgylchoedd yn ddyledus uwchlaw pawb am gychwyniad y Gymdeithas a wnaeth gymaint o ddaioni yno o hyny hyd yn awr. Dyddorol fyddai hanes y diwygiad dirwestol yno am y deg neu yr ugain mlynedd cyntaf, oblegid anhawdd ydyw cyfleu syniad i'r rhai nad ydynt yn ei gofio am y gwres angerddol oedd y pryd hwnw gyda'r achos. Pan yn dechreu siarad yn gyhoeddus dros ddirwest, dywedai Morris Jones y byddai yn anhawdd cyn pen dwy flynedd i neb gael lle yn eglwys Dduw heb fod yn llwyrymwrthodwyr; ond yr oedd ei ragfynegiad yn wirionedd perffaith. Daeth llwyrymwrthodiad yn fuan yn amod aelodaeth yn eglwys y Methodistiaid ; ac y mae y caerau a gyfodwyd y pryd hwnw wedi eu cadw i fyny i fesur mawr ar hyd y blynyddoedd. Ymddengys y fath lymder yn gwbl afresymol i eglwysi mewn ardaloedd eraill; ond mwynhaodd eglwysi yn Corris ar amgylchoedd dangnefedd tra dymunol wedi cau y diodydd meddwol yn gwbl o'r tu allan. Ar peth tra gwerthfawr mewn cysylltiad â'r mater ydoedd nad oedd y rheol oddiallan yn ddim ond ffrwyth yr egwyddor a goleddid oddifewn. Enillwyd yr holl aelodau i goleddu egwyddorion mor gryfion fel y daeth y rheol yn ganlyniad anocheladwy: a pharhawyd i ddwyn y plant i fyny yn yr un egwyddorion gyda ffyddlondeb mawr ar hyd y blynyddoedd. Ar y cyfan, dichon na cheir cymydogaeth yn Nghymru sydd wedi bod yn fwy gwastad yn ei ffyddlondeb i ddirwest; canys heblaw cyfarfodydd mynych yn y gwahanol gapelau, y mae yr Wyl Ddirwestol wedi ei chynal yn ddifwlch ar Ddydd Iau Dyrchafael o'r cychwyn, oddieithr yn 1860, pryd, fel y crybwyllwyd eisoes, y cynhaliwyd Cyfarfod Pregethu Undebol yn ei lle. Ond cofier yn barhaus mai Morris Jones ydyw tad y symudiad dirwestol yn Nghorris a'r amgylchoedd.
Wedi dechreu siarad yn gyhoeddus dros ddirwest, amlygodd yn fuan duedd at y weinidogaeth. Ar y cyntaf, nid oedd ei frodyr yn credu yn gryf yn ei gymwysderau i'r cylch hwnw, nid oherwydd unrhyw amheuaeth am ei alluoedd meddyliol na'i wybodaeth, ond yn benaf am nad oedd ei ddawn i draddodi, ac yn enwedig ei lais, y mwyaf dymunol. Ond fel y dywed Rowland Evans yn ei Gofiant yn y Drysorfa, Chwefror, 1841, pan ollyngwyd ef i redeg, deallwyd yn fuan fod ganddo genadwri dda. Fel hyn y cyfeiria R. E. at ei bregeth gyntaf
"Pan yn cadw yr oedfa gyhoeddus gyntaf, dywedodd y barnai fod yno lawer yn cofio ei hen ffyrdd ef, a'i fod yntau hefyd yn gorfod cofio am danynt er ei alar; a pha beth bynag oedd o ran ei gyflwr a'i alwad i'r gwaith, na welid byth mohono mwy, trwy gymorth gras, yn y pyllau y bu ynddynt; a mawr yr effaith a gai ei ddywediad ar y gwrandawyr. Ac ychwanegir y sylwadau canlynol ar nodweddau ei weinidogaeth: Dangosodd yr Arglwydd trwy arwyddion amlwg ei fod o'i anfoniad ef. Yr oedd ei weinidogaeth yn hynod o fuddiol; a sicr yw—fod llawer wedi eu galw trwyddi, y rhai yr oedd arnynt arwyddion amlwg o dduwioldeb. Yr oedd efe hefyd yn dra adeiladol i'r eglwys, mewn cryfhau egwyddorion a chynyddu profiadau y saint. Trinai bob amser ei faterion yn oleu a deallus. Defnyddiai gymhariaethau addas a syml i ddangos ei feddwl. Ni arferai eiriau ysgafn ac anysgrythyrol, ond argyhoeddai ni am arfer geiriau o'r fath gyda phethau crefyddol, gan ddweyd nad oedd bosibl cael cystal geiriau a rhai y Beibl.
Byr iawn fu ei oes fel pregethwr, sef o Awst, 1836, hyd Chwefror, 1840; ond gweithiodd yn galed tra y parhaodd ei ddydd. Awgrymwyd nad oedd yn ddifeddwl pan yn byw yn annuwiol. Y pryd hwnw, teimlodd duedd gref at yr athrawiaeth Arminaidd, a siaradodd lawer drosti yn yr Ysgol Sabbothol yn y Tŷ Uchaf, ac wrth y pregethwyr a ddeuent yno yn achlysurol; aeth ati hefyd i barotoi llyfr i'w hamddiffyn, ond argyhoeddwyd ef tra wrth y gorchwyl hwnw mai Calfiniaeth wedi'r cwbl oedd yn iawn, ac ni chlywyd mwyach sôn ganddo am Arminiaeth. Ymroddodd, maen amlwg, i fod yn efrydydd caled; a dywedir gan R. E. yn y Drysorfa na byddai braidd un amser, wedi iddo ddechreu pregethu, yn myned i orphwys nes byddai o un i dri o'r gloch yn y boreu. Yr oedd yn nodedig am ei ddiwydrwydd gyda'i orchwylion bydol. Trwy dalent naturiol ac ymroddiad, yn hytrach na thrwy fanteision beresol, daeth yn fedrus mewn gwneuthur cerig beddau, &c., ae ymdrechai hyd y byddai modd fyned i'w deithiau Sabbothol, a dychwelyd o honynt heb golli dim o'i amser gyda'i waith. Cerddai o 15 i 20 milldir lawer boreu Sabbath i'w gyhoeddiad; a chymaint ag a fyddai yn bosibl yn ol y noson hono, rhag colli dim o'i amser." Yr oedd yn ddyn o ysbryd gwir grefyddol. Cofus genym, flynyddau yn ol, glywed un o'i gyfeillion mynwesol yn adrodd iddo gael un Sabbath cyfan heb i un meddwl am bethau bydol, hyd y gallai gofio, fyned trwy ei fynwes nes y cyrhaeddodd i ymyl ei dŷ yn yr hwyr, ac y gwelodd tombstone y buasai yn gweithio arni. Anfynych y canmolai lawer ar ddim mewn cysylltiad a'i bregethu. Fel hyn y dywed R. E. ar y pen hwn :—"Gofynais iddo, ar ol agos bob Sabbath, pa fath odfaon a gawsai, a'r ateb yn gyffredin fyddai, Digon tlawd,' oddieithr un Sabbath y cafodd efe odfa neillduol yn Caeau Cochion, ger Trawsfynydd, pryd y dywedodd ei fod yn sicr fod yno ryw un mwy nag ef na'r bobl. Diameu y bydd llawer yn cofio am yr odfa hono i dragwyddoldeb." Ond daeth ei oes i derfyn hynod ddisymwth. Yr oedd yn pregethu yn Llanwrin nos Sabbath, Ionawr 26, 1840, a dydd Llun, Ionawr 27, tua thri o'r gloch yn y prydnhawn, trwy gwympiad y graig yn chwarel y Ceunant Du, lladdwyd ef a gŵr crefyddol arall o'r enw Hugh Williams. Ei destyn olaf yn Llanwrin ydoedd, Heb. ix. 27, "Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith, ac wedi hyny bod barn;" ac ymhen llai nag ugain awr ar ol terfynu y bregeth yr oedd ei hunan yn y farn. Y noson hono yr oedd y diweddar Barchedig Richard Jones, y Llanfair, yn pregethu yn Nghorris, i gynulleidfa fawr, mewn agwedd hynod ddifrifol. Mae yn amheus a dreuliwyd odfa erioed yn yr ardal dan amgylchiadau a theimladau mor gyffrous. Mae yr ychydig o'r gwrandawyr sydd yn fyw yn cofio am dani hyd heddyw. Y testyn oedd Caniad Solomon ii. 3, "Bu dda genyf eistedd dan ei gysgod ef", &c. Yr oeddwn yn petruso yn fawr, meddai y pregethwr, pan y clywais ar y ffordd wrth ddyfod i fyny o Fachynlleth, pa un a wnawn a'i dyfod ymlaen a'i peidio, ond daeth y geiriau hyn i'm meddwl, ac yr oeddwn yn teimlo mai tra hapus oedd bod dan ei gysgod ef pan oedd cylymau y creigiau yna yn gollwng.
Mae yn dda genym gael cyflwyno i'r darllenydd y bregeth olaf o eiddo Morris Jones. Er mor uchel y llefarai pawb am dano, rhaid i ni addef na roddodd neb i ni syniad mor uchel am ei alluoedd ag a gawsom trwy ddarlleniad y bregeth hon yn y Drysorfa, am Mawrth, 1842, wedi ei chodi o'i lawysgrif ef ei hun gan y diweddar Barchedig Humphrey Eyans, Ystradgwyn. Mae delw duwinyddiaeth y cyfnod yn amlwg arni; a rhai pethau yn cael eu dywedyd ag y mae yn bosibl na chlywir hwy mwyach yn y ffurf y ceir hwynt yma; ond y mae yn syndod fod y fath bregeth wedi ei chyfansoddi gan ŵr mor amddifad o bob manteisioin addysg ag efe, a hyny pan nad ydoedd wedi bod yn pregethu ond llai na phum mlynedd, ac nad ydoedd ond 34 mlwydd oed. Ni chafodd ddiwmod o ysgol ddyddiol erioed; a thrwy ei ymdrech ei hun, wedi tyfu i fyny, y dysgodd ysgrifenu. Un o droion tywyllaf rhagluniaeth Duw ydyw i ŵr o alluoedd ac ymroddiad mor hynod gael ei gymeryd ymaith o ganol y fath ddefnyddioldeb mor gynar yn ei oes. Efe oedd y pregethwr cyntaf a gyfodwyd yn Nghorris; ac y mae gan yr eglwys yn Rehoboth reswm i fod yn falch o hono ymben mwy na deugain mlynedd wedi ei gladdu. Yr oedd ei frawd, Robert Jone; Machine, yn aros hyd o fewn ychydig flynyddoedd yn ol. Wele y bregeth:
"Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith, ac wedi hyny bod barn." Heb. ix. 27.
Y mater sydd gan yr Apostol, yn niwedd y benod hon, ydyw profi fod aberth Crist yn tra rhagori ar yr holl aberthau dan y ddeddf seremoniol, a bod y Testament Newydd wedi ei gadarnhau â gwaed,—y testamentwr wedi marw, gan hyny fod yr holl addewidion mewn grym.
Pan oedd Moses yn cadarnhau cyfamod Sinai rhwng Duw a'i bobl, efe a gymerodd waed lloi a geifr, ac a'i cymysgodd gyda dwfr, i'w wneyd yn deneu; wedi hyny cymerodd sypyn o wlan porphor i'w sugno i fyny o'r cawg, a thusw o isop i'w daenellu yn ddafnau, ac a daenellodd un haner iddo ar y llyfr, yr hwn oedd yn agored ar yr allor, i'w gysegru i wasanaeth sanctaidd, fel yn cynwys y cyfamod yr oedd Duw yn un blaid ynddo; ar haner arall ar y bobl oll, neu, feallai, eu cynrychiolwyr, y deg a thriugain, fel y blaid arall. Yr oedd yn hyn hefyd lanhâd cysgodol oddiwrth halogrwydd seremoniol, ac feallai fod y cymysgiad o ddwfr a gwaed yn cysgodi y dwfr ar gwaed a ddaeth o'i ystlys sanctaidd ef, y gwaed sydd yn glanhau oddiwrth bob pechod. Trwy ei waed ef y cadarnhawyd y Cyfamod Gras, rhwng Duw yn Nghrist a'r holl gredinwyr, ac y mae ei addewidion yn ie ac yn amen ynddo ef i'r holl rai a gredant. Aberthodd Crist ei hun unwaith, a gwnaeth anfeidrol fwy yr unwaith hwnw na'r holl aberthau a laddwyd er dechreuad y byd; unwaith yn niwedd y byd yr ymddangosodd efe, i ddileu pechod, trwy ei aberthu ei hun. Yr oedd Crist yn feddianol ar natur y troseddwr, yr hyn nid oedd yr aberthau eraill. Pan oedd cleddyf cyfiawnder wedi deffro yn ei erbyn ef, yr oedd wedi deffro yn erbyn y natur a bechodd; ac yr oedd undeb y ddynoliaeth â pherson anfeidrol Mab Duw yn peri ei bod yn abl i gynal ergydion dwyfol gyfiawnder. Marw oedd y gosb osodedig am bechu, ac wrth ddioddef cospedigaeth ei bobl bu Crist farw unwaith. Nis gallasent hwy byth ddioddef hyd eithaf y gofynion, ond dioddefodd Crist nes talu yr hatling eithaf. Nis gallasai fod haeddiant yn eu dioddefiadau hwy, ond yr oedd anfeidrol werth a haeddiant yn nioddefiadau Crist, canys yr oedd y gyfraith yn ei galon ef, a chariad pur oedd yn ei ysgogi i ddioddef y cwbl. Yr oedd mawredd ei berson, y sefyllfa yr oedd ynddi, ynghyd â'r egwyddor oedd yn ei gymell, yn peri fod anfeidrol werth yn yr hyn oll a wnaeth. Trwy farw unwaith fe ddygodd ymaith bechodau llawer.
Oddiwrth y testyn sylwaf ar y ddau fater canlynol :
I. Marw. II. Yr hyn sydd yn ei ganlyn.
I. Marw. Dywedir yma ei fod yn osodiad; ac mewn perthynas iddo sylwaf, 1. Pwy ydyw y gosodwr. 2. Pa fath osodiad ydyw. 3. Yr achos o'r gosodiad. 4. A phwy y mae yn dwyn perthynas.
1.Pwy yw y gosodwr. Duw oedd y gosodwr yn nhragwyddoldeb diddechreu, cyn creu dyn nac angel. Fe ragwelodd Duw y byddai i'w gyfraith gael ei throseddu, ac yn y rhagolygiad hwnw fe osododd fod marw yn gyflog pechod. Mae yn rhaid i ni ddeall mai nid peth newydd a dieithr i Dduw oedd pechod, pan y torodd allan gyntaf yn ei ymerodraeth; byddai hyny yn feddwl tra annheilwng am y Duw mawr, yr hwn sydd yn gwybod y diwedd o'r dechreu, ac er cynt yr hyn ni wnaed eto. Nid oes dim yn newydd iddo ef; yr oedd efe wedi rhagweled pechod cyn iddo dori allan, ac wedi rhagosod y gosb briodol iddo. Nid ydym i feddwl chwaith na allasai Duw rwystro i bechod gymeryd lle; byddai hyny yn feddwl rhy isel am yr Hollalluog; eto nid oedd hyn yn gosod un angenrheidrwydd ar yr un o'i greaduriaid i bechu, yr oedd hyny wedi ei adael at ryddid eu hewyllys, fel creaduriaid rhesymol. Yr oeddynt wedi eu gosod yn y gyfryw sefyllfa ag y gallasent beidio pechu, ac y gallasent wneyd, gwobr am beidio, a chosb am wneyd, wedi eu rhagosod gan Dduw, a'u hamlygu iddynt hwy. Felly Duw a osododd fod i ddynion farw.
2. Pa fath osodiad ydyw? Mae y gosodiad hwn, fel y cwbl o eiddo Duw, yn osodiad priodol iddo ef ei hun.
(1.) Mae yn osodiad cyfiawn. Ni osododd Duw ddim ond oedd yn gyfiawn. A wyra yr Hollalluog gyflawnder? Pe buasai cyfiawnder yn goddef i ryw gosb ysgafnach fod am bechod, buasai un ysgafnach wedi ei gosod. Nid yw Duw yn ymhoffi yn mhoenydio gwaith ei ddwylaw; ac y mae fod marw wedi ei osod yn gyflog pechod, yn gosod allan y mawr ddrwg sydd ynddo. Ni allasai anfeidrol ddoethineb a chyflawnder Duw gael allan yr un gosb briodol iddo ond marw. Nid creulondeb yn Nuw ydyw ei fod yn cosbi ei ddynion, ond ei gyfiawnder sydd yn rhoddi angenrheidrwydd arno i wneyd; ei gyfiawnder oedd yn ei rwymo i gosbi pechod â marwolaeth gan hyny, mae y gosodiad hwn yn berffaith gyfiawn.
(2.) Mae yn osodiad anghyfnewidiol. Fel y mae Duw ei hun yn anghyfnewidiol, felly y mae y gosodiad; gan hyny, mae pechod, pa le bynag y byddo, yn rhwym o gael ei ddilyn â marwolaeth. Nis gellir newid y gosodiad hwn heb newid Duw. Pan roddwyd pechod ar uniganedig y Tad, dilynwyd ef â marwolaeth yno. Yn y byd hwn y mae y gosb weithiau yn cael ei newid, neu ei hysgafnhau; ond nis gellir newid cyflog pechod, nai ysgafnhau ychwaith, mwy nag y gall y feichiog ddianc rhag gofidiau esgor. Chwant wedi ymddwyn a esgor ar bechod; pechod hefyd pan orphener a esgor ar farwolaeth. Yr unig ffordd i ddianc rhag marw ydyw cael gwaredigaeth oddiwrth bechod. Y rhai a waredir odditan lywodraeth pechod a ddiangant yn hollol rhag yr ail farwolaeth, ond er bod Crist ynddynt, y mae y corff yn farw oherwydd pechod, i amlygu llidiawgrwydd anghymodol Duw tuag at bechod. Fe gyflawnir y ddedfryd, "I'r pridd y dychweli", hyd yn nod ar eiddo Crist ei hunan: ond fe droir hyny yn elw iddynt hwy.
(3.) Y mae yn osodiad grymus. Mae grym Hollalluog o'i blaid, i'w ddwyn i weithrediad. Mae llawer gosodiad wedi eu rhoddi ymysg dynion, ond yr oedd eu gosodwyr yn rhy weiniaid i'w rhoddi mewn gweithrediad. Gosodwyd unwaith yn Ffrainc na byddai y Sabbath ond unwaith yn y deng niwrnod; methwyd a dyfod a hyny i ben. Yr oedd y gosodwyr yn rhy wan. Llifeiriant yw y gosodiad hwn nad oes neb yn abl sefyll o'i flaen. Nid ydyw cyfoeth, na dagrau, na chwynion, na galar, wylofain, nac ympryd, yn ddigon i dori grym y gosodiad hwn.
(4.) Gosodiad unigol ydyw, Marw unwaith. Mae llawer peth y cawn gyfarfod a hwy fwy nag unwaith, cawn ddiwrnod ar ol diwrnod, noswaith ar ol noswaith, haf ar ol haf, a gauaf ar ol gauaf, ond ni chawn farw ond unwaith. Mae marw i'r annnwiol yn nos na ddaw byth ddydd ar ei hol; mae marw i'r duwiol yn ddydd na ddaw byth nos ar ei ol.
3. Yr achos o'r gosodiad. Yr achos ydyw cyfiawnder ac uniondeb. y Duwdod. Copy o ddelw Duw ydyw ei gyfraith, dangosiad amlwg o'r hyn ydyw. Ac yn y rhagolwg y byddai i'w gyfraith gael ei throseddu, yr oedd ei gyfiawnder a'i uniondeb diwyrni tuag ato ei hun yn ei rwymo i ragosod cosb briodol i'r trosedd, ond y trosedd ei hun a ddygodd y gosodiad i weithrediad. Buasai yn aros yn dragwyddol lonydd a digyffro oni buasai bechod. Mae cosb osodedig yn hanfodol i bob cyfraith, onide nid yw yn gyfraith: eto, nid oes achos i'r un o'r deiliaid ofni'r gosb hono. Tra y parhaont heb droseddu y gyfraith, nid oes gan y gosodiad cospawl un hawl i afael ynddynt. Ac ni buasai y gosodiad hwn mewn grym ar neb o'r hil ddynol oni buasai pechod. Colyn angeu yw pechod.
4 A phwy y mae y gosodiad yn dwyn perthynas. Gosodwyd i ddynion farw unwaith, nid i ddynion fel creaduriaid, ond fel pechaduriaid. Oni buasai pechod, buasai dynion yn aros byth mewn cymundeb â Duw, heb un ymadawiad, eu cyrff a'u heneidiau mewn tragwyddol undeb a'u gilydd. Nid oedd marw yn perthyn i ddyn mwy nag i angel, oni buasai bechod. Ond yn gymaint ag i ddynion bechu, cafodd y gosodiad rym i gydio gafael ynddynt. O ddynion! dyma osodiad fydd mewn grym byth ar bawb na ddygir i Iesu yn nghysgod y gwr fu farw i'r euog i gael byw. Gallwn sylwi oddiwrth hyn, yn
(1.) Mai y peth mwyaf difrifol a berthyn i ni ydyw y sefyllfa yr ydym ynddi yn bresenol,—o tan rwymau gosodiad i farw! Pe caem olwg arno yn ei fawredd a'i bwys, byddai yn sicr o gael y flaenoriaeth ar bob peth yn ein meddyliau.
(2.) Mae o bwys tragwyddol i ni ein bod yn ddynion. Mae creaduriaid eralll yn meirw, ond nid oes nemawr bwys yn eu marw hwy, oherwydd y mae yn ddiwedd iddynt; ond nid difodiad ydyw marw dynion. Nid tragwyddol gwsg ydyw chwaith. Symudiad i fyd arall ydyw marw. Bydd dynion yn fyw er marw. Pan yn cau eu llygaid ar fyd o amser, maent yn eu hagor ar fyd tragwyddol; dechreu byw y mae dynion wrth farw. Mae rhyw "wedi hynny" difrifol iddynt hwy.
(3.) Gan mai unwaith yr ydym i farw, nid oes genym ond un tymor i ymbarotoi, un farchnad i elwa, un diwrnod i hau, un haf, un cynhauaf; gan hyny, prif bwnc ein bywyd ddylai fod parotoi erbyn marw. Diwrnod gweithio yw y tymor byw. Y fynedfa i'r office i dderbyn y cyflog ydyw marw; a rhaid byw byth ar gyflog y diwrnod hwnw.
Un o ddeddfau amlwg natur, a rheol gyffredinol y Creawdwr yn ngwaith y greadigaeth ydyw, nad oes dim i gael ei ddifodi. Mae llawer o chwyldroadau yn cael eu dwyn oddiamgylch, a chyfnewidiadau yn cymeryd lle, ond nid oes dim yn cael ei ddifodi. Er cael eu newid o un ffurf i un arall, y maent yn bod. Mae natur yn barhaus yn dwyn oddiamgylch ei chyfnewidiadau; eto, nid ydynt ond yr un pethau yn cael eu cylchdroi. Nid oes dim newydd dan yr haul. Pe meddyliem am gnwd y ddaear, y naill dymor ar ol y llall, nid ydyw ond yr un, mae cnwd un flwyddyn yn dyfod i fyny, ac yn cael ei ddefnyddio, ac wedi hyny. yn dychwelyd i'r ddaear drachefn. Yr anifeiliaid, pedwar carnolion, ac ymlusgiaid, ffurfiwyd hwy o'r ddaear, cynhelir hwy gan y ddaear, a dychwelant i'r ddaear. Mae yr haul yn codi, a'r haul yn machludo, a'r lleuad yn cadw ei hamserau nodedig. Mae y dwfr yn dyfod o'r môr, ac yn dychwelyd yno; mae y gwynt yn chwythu yn rymus weithiau, a phryd arall yn llai; ond nid ydyw hyn i gyd ond cyfnewidiadau.
Barna llawer o ymchwilwyr doethion a deallus, manwl a chywrain, yn y mater hwn, bod y Creawdwr mawr wedi gosod y fath ddeddfau mewn natur, fel y mae yn barhaus ymweithio ynddi ei hunan, i ddwyn oddiamgylch gyfnewidiadau. Gallai fod rhyw ymweithiad gan y dwfr yn nghrombil y ddaear o flaen y diluw, a rhyw ragbarotoi gan ffynhonau y dyfnder mawr i ymagoryd, fel y byddai i'r llifeiriant ymruthro allan. Gallai fod gan y tân yn bresenol ryw ymweithiad yn mherfedd y ddaear, a bod deddfau natur fel yn rhagbarotoi y byd hwn at gael ei losgi. Pa fodd bynag, y mae tân mawr yn y ddaear; ac feallai fod safnau y mynyddoedd tanllyd yn gynifer o bibellau i ollwng awyr i'w gryfhau, ac nad yw y daeargrynfau ond arwyddion o'r ymdaeniad; ac mai hwn, wedi iddo ymgryfhau digon, fydd yn ymruthro allan yn niwedd y byd, ac yn llosgi y ddaear ar gwaith a fyddo ynddi. Er y cyfnewidiadau a fo, ni ddifodwyd eto ddim; a pha gyfnewidiadau bynag a fydd eto ar y ddaear, mae yn debyg na ddifodir mo honi byth, ond y bydd nef newydd a daear newydd, mewn dull newydd, rhagorach a pherffeithiach, ei hagwedd yn harddach, a'i hawyr yn burach.
Yr un modd am danom ninau, ddynion. Pa amgylchiadau bynag y bydd raid i ni fyned trwyddynt, pa gyfnewidiadau bynag a gymer le arnom, ni fyddant oll yn alluog i'n gyru o fodolaeth. Yr ydym i fod byth, er marw: i ni y mae "wedi hyny bod barn."
Yr ydym yn bresenol yn dyfod i sylwi ar yr ail fater yn y testyn,
II. Yr hyn sydd yn canlyn marw, sef barn.
Pe na buasai dim ar ol marw, ni buasai nemawr o bwys yn yr amgylchiad, ond "ac wedi hyny bod barn." Barn ydyw dedfryd neu benderfyniad Barnwr. Wrth farn yn y lle hwn y mae i ni ddeall; yr edrych fydd i mewn i'n hachos, wedi i ni ymadael â'r byd hwn. Bydd barn bersonol a chyffredinol; yn y farn bersonol bydd pawb yn cael eu troi i'w lle eu hun am byth. Y Barnwr fydd yr Arglwydd Iesu Grist: mae hyn wedi ei osod iddo oherwydd ei fod yn Fab y dyn. Ni bydd angen am farn yno yn yr un ystyr ag yn y byd hwn, sef i ymchwilio i'r materion, i edrych pa un a'i euog a'i dieuog. Ni bydd angen am holi tystion i ddyfod ar materion i benderfyniad, oherwydd bydd y barnwr yn hollwybodol. Bydd pob mater yn eithaf hysbys iddo cyn ei ddwyn ger ei fron. Bydd un olygfa ar y byd tragwyddol yn rhoddi i bawb berffaith esboniad ar ei sefyllfa anghyfnewidiol. Y mynyd yr egyr y byd mawr ei ddorau o flaen dyn, bydd mewn un amrantiad yn deall pa le y bydd ei gartref yn oes oesoedd. Bydd achos pob dyn yn cael ei benderfynu, na bydd newid i fod arno, ar ei fynediad cyntaf i'r byd tragwyddol.
Ar ryw olwg, gellir dywedyd ei bod yn ddydd barn yn wastadol, oblegid y mae rhyw liaws mawr o ddynion yn dropio i'r byd tragwyddol yn barhaus; ond y mae yn amlwg yn y Beibl, pan y gorphenir holl oruchwyliaeth rhagluniaeth, y bydd barn gyffredinol, pryd y caiff holl hiliogaeth Adda, ynghyd â'r angylion syrthiedig hefyd, eu galw ymlaen i dderbyn eu dedfryd olaf, ac o hyny allan i dderbyn eu cyfiawn daledigaeth; canys ni bydd cosb y drygionus, na gwobr y cyflawn, yn gyfiawn hyd hyny. Gelwir yr adeg hono yn ddydd, ac yn ddydd mawr. Mae llawer dydd mawr wedi bod er dechreu y byd. Dydd mawr oedd y dydd y boddwyd y byd â diluw; dydd mawr oedd y dydd y dinystriwyd dinasoedd y gwastadedd; dydd mawr oedd y dydd y safodd yr haul ar lleuad; dydd mawr oedd y dydd y cymerodd y Rhufeiniaid Jerusalem; dydd mawr oedd y dydd y gorchfygodd Alexander ymerodraeth Persia a Media; dydd mawr oedd y dydd y lladdwyd Nelson yn Nhrafalgar, ac y dinystriwyd grym moryddol holl alluoedd cryfion Cyfandir Ewrop; dydd mawr oedd y dydd y gorchfygodd y Duc Wellington Buonoparte ar faes Waterloo; ond pe gellid enwi yr holl ddyddiau, ar gorchestion mawr a wnaed dan haul erioed, ni byddent oll ond rhyw oferedd gwâg wrth y dydd mawr a ddaw. O ddiwrnod digyffelyb! Dydd Iesu Grist, a dydd Duw y gelwir ef. Da fyddai i ni gofio yn ein dydd hwn y bydd y Barnwr yn mynu un dydd ar ol pawb.
Bydd rhyw fawredd anghydmarol ar holl amgylchiadau y dydd hwnw, oblegid yr Arglwydd ei hun a ddisgyn o'r nef gyda bloedd, a llef yr archangel, ac âg udgorn Duw. Clywir crochlef yr udgorn yn dadseinio holl gyrau y greadigaeth. Cynhyrfoir holl natur i gyd; treiddia y swn i waelodion y beddau, deffroir y meirw o'u cwsg hir; ar olygfa gyntaf a welaut fydd y Barnwr wedi sefydlu ei orsedd. fainc yn y cwmwl, a gosgordd ardderchog o angylion o'i amgylch, a hwythau yn cael eu galw ger ei fron. A byddwn ninau â'r llygad yma yn gweled yr olygfa; a bydd yr olwg fydd ar y gdr fydd ar y ewmwl, yn wahanol iawn i'r olwg oedd arno o flaen Pilat. Bydd Herod a'r archoffeiriaid, a henuriaid Jeriwsalem, yn gwelwi ac yn crynu wrth yr olwg arno. Byddant yn cofio y noswaith y buont yn ei arwain o lys i lys, gan ei wawdio a'i ddirmygu; a bydd hyny yn gnofeydd arteithiol iddynt.
Sylwaf ar rai pethau mewn perthynas i'r Barnwr. Dywed Caryl ei fod i'w arswydo mewn pump o olygiadau (1.) Am na ddichon y grym mwyaf mo'i ddigaloni. (2.) Am na ddichon y cyfoeth mwyaf mo'i wobr—ddenu. (3.) Am na ddichon y ffraethineb na'r cyfrwysdra mwyaf mo'i ddyrysu. (4.) Am na bydd dim apelio oddiwrth ei ddedfryd. (5.) Am y bydd yn anmhosibl diddymu ei ddedfryd.
Gallaf finau ddywedyd y bydd ei ddedfryd mor gyfiawn na bydd gan neb ddim i'w feio arni. Os bydd yn galed ar rai, bydd yn gyfiawn ar bawb; ni rydd ar neb fwy nag a haeddai. Tal i bob un yn ol ei weithred. Bydd ei orsedd yn anfeidrol wen, a'i gyfiawnder yn tanbaid ddisgleirio yn dragwyddol ogoneddus.
Ychwaneg a allesid ei ddywedyd, ond yn
2. Y modd y bydd gwaith y dydd yn cael ei gario ymlaen. Pa hyd fydd y dydd. mae yn anmhosibl penderfynu. Mae yn debyg mai nid dydd o bedair awr ar hugain fydd. Meddylia rhai mai mil o flynyddoedd a fydd; tybia eraill y bydd yn parhau cyhyd ag y parhaodd amser; y goreu ydyw aros nes ceir gweled. Y gwaith cyntaf ar ol i'r Barnwr gymeryd yr orsedd fydd, galw yr holl dyrfa gerbron. A bydd yn rhaid i bawb ymddangos. Bydd golygon treiddgar y Barnwr yn cyniwair trwy holl gyrau y greadigaeth, fel y bydd yn anmhosibl llechu na ffoi o'i wydd. Yn ganlynol, fe ddidolir y rhai drwg oddiwrth y rhai da; ac fe osodir y rhai da ar ei ddeheulaw, ar rhai drwg ar yr aswy. Yna y Barnwr a ymlaen i ddadlenu holl ddigwyddiadau amser, ac i oleuo pob amgylchiad tywyll.
Byddaf yn meddwl y bydd y gwaith yn cael ei ddwyn ymlaen mor fanwl ag y bydd pob un yn cael ei alw ymlaen, megis wrth ei enw, ac y bydd y Barnwr yn darllen ar goedd y dorf fawr, holl ymddygiadau pob un ar ei ben ei hun. Byddaf yn meddwl mai hyn fydd diben y farn ddiweddaf. O ran gwneyd ail brawf, ni bydd angen am dani, gyda golwg ar y duwiolion na'r aunuwiolion eilwaith; ond rhag i un digwyddiad nac amgylchiad aros dan leni o dragwyddol dywyllwch. fe oleua y Barnwr ddirgelion y tywyllwch, ac a eglura fwriadau y calonau.
Bydd hyn yn peri mwy o ofid i'r annuwiol, yr holl ddibenion gau yn cael eu datguddio, yr holl bechodau yn cael eu cyhoeddi, yr holl golliadau yn cael eu hadrodd, yr holl gyfleusderau a gamddefnyddiodd, yr holl wahoddiadau a ddibrisiodd yn cael eu hedliw iddo. Pa deimiladau o gywilydd a'i meddiana! Pa faint o warth a dirmyg a roddir arno!
Bydd hyn hefyd yn peri mwy o lawenydd i'r duwiol. Pa deimladau o orfoledd a'i meddiana pan glywo ei rinweddau yn cael eu coffâu, y cyhuddiadau a roddwyd yn ei erbyn yn cael eu dangos, ar holl bechodau wedi eu taflu i ddyfnderoedd y môr. Yna y dychwelwch ac y gwelwch ragor rhwng y cyfiawn ar drygionus, rhwng yr hwn a wasanaetho Dduw, ar hwn nis gwasanaetho ef.
Peth o annhraethol werth fydd bod mewn heddwch â'r Barnwr.
PENOD VIII
ROWLAND EVANS, ABERLLEFENNI
YR ydym eisoes wedi gwneuthur amryw gyfeiriadau at wrthddrych y benod hon; ond yn bresenol ymdrechwn grynhoi yr hyn sydd wybyddus i ni, ac y credwn a fydd o ddyddordeb parhaol, o hanes ei fywyd, i gyn lleied o gwmpas ag y gallwn, gan ychwanegu sylwadau ar ei gymeriad a'i waith. Mae yn hyfryd genym hefyd y gallwn roddi i'n darllenwyr amrywiol gynyrchion, y rhai a ddangosant y dyn yn llawer gwell nag unrhyw sylwadau o'r eiddom ni.
Gyda golwg ar rai pethau yn ei fywyd boreuol, cawsom radd o anhawsder, oherwydd y gwahaniaeth rhwng amrywiol adroddiadau a dderbyniasom; ond gwnaethom bob ymdrech i gael allan o honynt yr hyn y barnem a ddeuai yn agosaf i'r gwirionedd, er y rhaid i ni addef fod ansicrwydd yn aros eto am rai o'i symudiadau.
Mab ydoedd Rowland Evans i Lewis a Jane Evans; a ganwyd ef mewn lle o'r enw Felin Eithin, gerllaw Mathafarn, yn mhlwyf Llanwrin, Maldwyn, yn Ebrill, 1792 Yr oedd yr ieuangaf o bedwar o blant. Dygodd ei unig frawd, yr hwn a elwid Evan Lewis, ar hwn ydoedd aelod gyda'r Annibynwyr, i fyny deulu lliosog o naw o blant. A bu pump o'r rhai hyn yn bregethwyr gyda'r enwad hwnw yn Lloegr; ond nid oes mwy nag un o honynt yn awr yn fyw. Bu farw ei chwaer Jane yn 18 mlwydd oed; ond bu ei chwaer Elisabeth yn briod â Hugh Lumley, yr hwn oedd frawd i Richard Lumley, a grybwyllwyd mewn penod flaenorol, ac i Robert Lumley, yr hwn y daw ei enw gerbron mewn penod ddilynol. Gŵr crefyddol iawn, meddir, oedd Lewis Evans; ond bu farw pau nad oedd Rowland ei fab ieuangaf yn fwy na deunaw mis oed. Ymhen rhyw gymaint o amser wedi ei farwolaeth, symudodd ei weddw, gyda'i phedwar plentyn, i ardal Corris, lle yr ymbriododd eilwaith â'r blaenor ffyddlawn Richard Anthony. Yn yr Hen Shop y dywedir iddynt breswylio am rai blynyddoedd; a thra yno ymddengys i Rowland fod am beth amser yn yr Ysgol gyda Lewis William. Os ydoedd y dyddiad mewn penod flaenorol yn gywir, yr oedd ar y pryd o wyth i naw mlwydd oed. Cafodd y fraint, fel un o ddeiliaid yr Ysgol Sabbothol, o adrodd y chweched benod o'r Epistol at yr Ephesiaid yn gyhoeddus wrth Mr. Charles ar un o'i ymweliadau; a dywedodd yntau ar y pryd, Y mae rhywbeth yn y bachgen hwn. Bu am rai blynyddoedd yn hogyn gyda Dafydd Humphrey yn Abercorris. Yr adeg hono, y mae yn ymddangos, yr aeth ei fam a'i phriod i fyw i Felin Aberllefenni; ac ymhen amser aeth yntau yno atynt i ddysgu gwaith Saer coed, canys dyna oedd galwedigaeth Richard Anthony. Yn ei flynyddoedd olaf, dychwelodd Rowland Evans at yr alwedigaeth hono i enill ychydig trwyddi, wedi i'w iechyd fyned yn rhy wanaidd i fyned gyda'r gaseg a'r gert i'r Dderwen Las. Ond trwy ei agosrwydd i'r Felin, ymddengys iddo deimlo mwy o awydd am fod yn felinydd na myned ymlaen gydai saerniaeth, ac felly, pan ydoedd tua 15 mlwydd oed, aeth i'r Felin Goegian, gerllaw y Cemmaes, Maldwyn, yn fath o egwyddorwas. Cedwid y Felin hono gan hen wraig, nodedig o gall a deallus, yr hon a roddai iddo lawer o gynghorion; yn enwedig gyda golwg ar y byd presenol, yn y ffurf o ddiarhebion. Nid ydoedd eto yn aelod eglwysig, nac ychwaith wedi cael mynychu y Cyfarfodydd Eglwysig gydai rieni; ond parhaodd i fyned i'r Ysgol Sabbothol wedi symud i'r Cemmaes. Nid oes un hanes ddarfod iddo erioed ddangos un duedd at fod yn fachgen gwyllt; ond pan oedd tua 18 mlwydd oed cafodd droedigaeth amlwg iawn. Ac y mae yr amgylchiadau yn werth eu gosod i lawr gyda gradd o fanylder.
Dydd Nadolig, yn y flwyddyn 1810 yn ol yr arferiad y pryd hwnw, aeth gyda'i gyfoedion i chwareu gyda'r bêl droed; ond ar derfyn y dydd, yn lle myned gyda hwynt i'r dafarn, aeth i wrandaw y Parchedig John Hughes, Pontrobert, yr hwn oedd i bregethu yn y Cemmaes y noson hono. Testyn y pregethwr ydoedd 1 Timotheus i: 15 "Gwir yw y gair &c." Sylwai fod y geiriau yn cymeryd yn ganiataol fod pawb yn bechaduriaid yn wreiddiol, ac nid wedi myned felly rywbryd ar ol tyfu i oedran, fod y gorden ddamniol ar wddf y pechadur yn dyfod i'r byd. Ac, ychwanegai, os nad ydyw Duw o'i ras wedi ei thynu ymaith, y mae am dy wddf y foment hon. Wrth adrodd yr hanes, ymhen llawer o flynyddoedd, dywedai R. E. iddo deimlo ar y pryd fel pe na buasai neb yn y capel ond y pregethwr ac yntau; a bu am dymor wedi hyny mewn trallod blin yn achos ei enaid. Aros y tuallan i'r eglwys a wnaeth efe er hyny. Ymhen rhai misoedd wedi y bregeth uchod, aeth i wrando y Parchedig William Williams, o'r Wern, yn pregethu oddiwrth Hosea xiii. 13, "Mab anghall yw efe canys ni ddylasai efe sefyll yn hir yn esgoreddfa y plant." Sylwai y pregethwr fod perygl mawr i ddyn ddechreu oedi yn yr argyhoeddiad. "Fel y llwyth yn myned trwy y gors, meddai, os a hwnw ymlaen ar ei union, bydd ganddo siawns dda i fyned trwodd; ond os erys yn ei chanol a dechreu suddo, deg i un nad yn ddarnau y rhaid ei gymeryd oddiyno." Effeithiodd cymhwysiad y pregethwr o'r sylw hwn yn ddwys iawn ar feddwl R. E. ond oedi a wnaeth drachefn am oddeutu chwe mis. Tua'r adeg hono clywodd fod y Parchedig John Evans, New lnn, yn pregethu yn Machynlleth, ar Parchedig John Elias yn Llanbrynmair, yr un adeg. Wedi peth petrusder, penderfynodd fyned i wrando ar y diweddaf. I Lanbrynmair yr aeth, dros y mynyddoedd meithion, ac ar hyd llwybrau tra anhygyrch. Testyn y pregethwr y tro hwnw ydoedd Numeri x. 29, "Tyred gyda ni, a gwnawn ddaioni i ti" O dan y bregeth teimlai fel un wedi ei lwyr orchfygu, a phenderfynai ymuno âg eglwys Dduw ar unwaith; ond erbyn tranoeth yr oedd yn dechreu caledu drachefn. Yn lled fuan, os nad y diwrnod hwnw, wrth fyned i fyny i'r mynydd, i gyrchu llwyth o fawn, gwelai nifer o fechgyn yn chwareu pitch and toss, a thybiodd ar unwaith fod yno gyfleusdra rhagorol i ymlid ymaith aflonyddwch ei deimladau. Ymdaflodd gan hyny yn egniol i'r chwareu am ryw yspaid; ac wedi hyny aeth ei gyfoedion tuag adref, ac yntau yn ei flaen i'r mynydd. Wedi cyraedd yno, yn ol un hanes a gawsom, dallwyd ef gan ystorm arswydus o fellt a tharanau; aeth yn ystorm, pa fodd bynag, yn ei feddwl. Ofnai rhag i Dduw ei ladd yn y fau; ac yn y terfysg y diwrnod hwnw y torwyd y ddadl am byth yn ei feddwl. Y cyfleusdra cyntaf a gafodd ar ol hyny, ymunodd â'r eglwys Fethodistaidd yn y Cemmaes. Yr oedd, hyd yn ddiweddar, un yn fyw yn ei gofio yn y cyfnod hwn, sef yr hen dad hybarch James Ellis, o'r Cemmaes, yr hwn a dystiolaethai iddo hynodi ei hun yn fuan yn ei ymroddiad i lafur gyda'r Ysgol Sabbothol. Nid oedd yn ei feddiant ar y pryd ond Beibl a Hyfforddwr Mr. Charles; ond llafuriodd yn galed am wybodaeth Ysgrythyrol yn nghanol pob anfanteision. Pan oedd tua 22 mlwydd oed symudodd o'r Cemmaes i'r Felin Gau, yn ardal Penegoes, gerllaw Machynlleth. Yn Machynlleth yr oedd yn aelod eglwysig yn ystod ei arosiad yn y lle hwn; ond dywedir ei fod yn ffyddlawn ac ymdrechgar gyda'r Ysgol Sabbothol yn Penegoes tuag adeg ei chychwyniad. Mewn llyfr dyddorol a gyhoeddwyd ychydig flynyddau yn ol, ar Hanes yr Ysgol Sabbothol yn Nyffryn Dyfi, dywedir fel y canlyn : Wrth y Twyn Celyn (fel ei gelwir), yn mhentref Penegoes, y mae tŷ bychan i'w weled, yn yr hwn yr oedd yn byw, flynyddoedd lawer yn ol, ddwy chwaer grefyddol, o'r enwau Mary a Jane Miles. Yno y cafodd yr Ysgol Sabbothol; le i roddi ei throed i lawr gyntaf yn y pentref hwn. Yr oedd hyny oddeutu y flwyddyn 1810 Ei chyfeillion mwyaf zelog oeddynt Morris Davies; John Jones, Bowling Green; a Rowland Evans, gwas ar y pryd gyda Mr. John Lewis, Felin Gerig. Ond yn ol yr hanes a gawsom nid oedd R. E. yn yr ardal hon hyd oddeutu y flwyddyn 1814
Tra yn ardal Penegoes, cymerodd iddo ei hun yn wraig un o'r enw Mary Peters, merch i John ac Ann Peters, Aberdyfi, yr hon a ddygasid i fyny yn grefyddol. Tachwedd 7, 1818, y priodwyd hwy, yn Eglwys Towyn, gan y Parchedig David Davies, M.A, Curad, (o Bennal wedi hyny) pan oedd R. E. yn 25 mlwydd oed, a'i briod flwyddyn yn hynach nag ef. Wedi priodi, cymerodd felin ei hun yn ardal Eglwys Fach, Swydd Aberteifi, lle y preswyliodd am bedair neu bum mlynedd. Ymhen tua blwyddyn wedi symud i'r lle hwn dewiswyd ef yn flaenor yn nghapel y Graig; yr hyn sydd dystiolaeth sicr fod ynddo y pryd hwnw ryw nodweddau tra anghyffredin. Cymhellwyd ef yn daer hefyd i ddechreu pregethu, ond gwrthododd yn benderfynol. Tua'r flwyddyn 1822, neu 1823, pan ydoedd yn 30 mlwydd oed, symudodd o Sir Aberteifi i Felin Aberllefenni, i ofalu am dani dros Humphrey Davies, Abercorris. Ac felly yr ydym yn ei gael, ar ol absenoldeb o ddeuddeng mlynedd, yn ymsefydlu eilwaith yn y lle y buasai yn byw gyda'i fam a'i dad gwyn, ac yn y lle yr oedd i dreulio bellach weddill ei oes.
Nis gallwn fanylu ar ei helyntion am y 47 mlynedd y bu yn y Felin,—y 29 cyntaf fel goruchwyliwr H. Davies, ar gweddill gyda chymeriad y Felin ganddo ei hun. Digon helbulus fu ei holl fywyd. Yn un peth, yr oedd yn wastad mewn ansicrwydd. Clywsom ef yn dywedyd unwaith, Yr wyf yn yr hen Felin yma ers deugain mlynedd; ond ni bum erioed yn gwybod a gawn i aros ynddi flwyddyn arall. Croes drom iddo fu afiechyd maith ei briod. Bu yn orweddiog am lawer o flynyddoedd, ac yn dioddef hefyd lawer mwy nag a dybid yn gyffredin. Siaradai yn lled iach yn ei gwely; ac yr oedd bob amser yn gwbl gyfarwydd â hanes y Felin, er heb ei gweled ers blynyddoedd. Hawdd fyddai gweled ar R. E. os byddai Mari yn waelach. Dangosodd tuag ati dynerwch diderfyn; ac yr oedd ei marwolaeth, Mai 24ain, 1856, yn 65 mlwydd oed, yn brofedigaeth lem iddo.
Cyfyng fyddai ei amgylchiadau yn wastad; ac ar adegau byddai mewn anhawsder i gael deupen y llinyn ynghyd. Byddai yn cadw cwpl o fuchod, a byddai ganddo hefyd yn wastad hyd y blynyddoedd olaf gaseg a chert, yn cludo llechi i lawr i'r Dderwen Las. Cyn gwneuthur y Tramway i'r lle hwnw, a chyn gwneuthur y Cambrian Railway i Fachynlleth, byddid yn cludo holl gerig y chwarelau i lawr i'r Dderwen Las mewn gwageni a cherti, oddieithr y rhai a gyrchid i'w defnyddio ar hyd gwahanol ranau y wlad oddiamgylch; ac oddiyno cymerid hwy i lawr yn y cychod ar hyd Afon Dyfi, i Aberdyfi, i'w cymeryd drachefn yn y llongau o'r porthladd hwnw i wahanol borthladdoedd y deymas hon ar Cyfandir. Trwy gludo y llechi y byddai tenantiaid y boneddwr a berchenogai y chwarel yn talu eu hardrethoedd, ac yn gwneuthur, feallai, ryw gymaint dros ben; a bu R. E. am flynyddoedd, tra yn gofalu am y Felin ei hun, yn cadw gwas i ganlyn y gaseg ar gert. Wedi adeiladu y ty engine mawr gerllaw y Felin, aeth y ddiweddaf yn gwbl ddiwerth, oddieithr yn y nos, pan na byddai y dwfr yn cael ei ddefnyddio gyda'r blaenaf, neu ynte pan y byddai llifogydd mawrion yn peri fod cyflawnder at wasanaeth y naill ar llall. Dibynai R. E. bellach braidd yn gwbl ar ei lafur ei hun gyda'r gaseg ar gert, a llafur Eliza gyda'r gwartheg, y moch, ar ieir. Wedi gwneuthur y tramway o Aberllefenni i'r Dderwen Las, daeth goruchwyliaeth y cario i ben, ond caniatawyd yn dirion iddo ef barhau, er y gostyngwyd y pris iddo yntau hefyd. Yr oedd ei iechyd yn hynod egwan ac ansicr; a chanlyn y gaseg ar gert trwy bob tywydd yn dra niweidiol iddo. Teimlai yn fynych yn hynod ddigalon, yn enwedig pan y gwelai ambell ddrws yn cau a arferasai fod yn agored iddo. Ar un o'r amgylchiadau hyn yr ydym yn cofio ei weled yn hynod o isel, pan y dywedwyd wrtho, Cymerwch galon, daw gwaredigaeth o rywle eto. Dichon y daw, atebai yntau, ond rhaid ein bwrw ni ar ryw ynys, ac ar hyn o bryd dyw'r ynys ddim yn y golwg. O'r diwedd aeth ei iechyd yn rhy lesg iddo barhau ar y ffordd, a bu raid gwerthu y gaseg ar gert, ac aros gartref i geisio enill ychydig trwy ei hen alwedigaeth fel saer coed, yr hon y buasai yn dysgu ychydig arni yn yr hen Felin yn nyddiau ei febyd.
Bywyd a llawer o ddedwyddwch yn perthyn iddo ar yr un pryd oedd ei fywyd ef yn nghanol pob trafferthion. Hen dŷ gwael oedd yr hwn y preswyliai ynddo. Nis gallai dyn o daldra cyffredin fyned i mewn iddo heb blygu; ac wedi myned ychydig ymlaen rhaid oedd plygu ychwaneg cyn y gellid ymwthio i'r gongl wrth y tân o fewn yr hen simdde. Dysgwch blygu; ydi hi yma meddai R. E. unwaith wrth Mr. Humphreys Dyffryn, pan yn myned i mewn yno. Ie felly y gwela i, Rowland, meddai yntau; a phlygu i fochyn hefyd. Byddai yn gyffredin weddillion un neu ychwaneg o'r cyfryw yn grogedig dan y nen; ond yr oedd yn rhaid plygu yn is drachefn wrth fyned ymlaen tua'r gornel. Ar lawr y byddai y tân, a choed fyddai ei ddefnydd braidd yn wastad. Ar y naill law yr oedd settle, y gallai dau eistedd arni, gerllaw i'r hon y byddai yn wastad ford gron. Y gongl yn ymyl y ford oedd congl R. E. Yr ochr arall i'r tân yr oedd mainc, yr hon y gallai tri neu bedwar eistedd arni, ac o dan ba un y cedwid yn gyffredin ryw gymaint o danwydd. Yn yr hen gonglau hyn, treuliwyd llawer hirnos gauaf yn dra difyrus. Byddai y cwmni weithiau yn lliosog ac amrywiol, ond byddai yr ymddiddan bob amser yn adeiladol. Ni chaniateid i wegi ddyfod i mewn, er y byddai yno yn gyffredin bob sirioldeb. Yno y treuliasom rai o oriau dedwyddaf ein hoes. Cymerid i fyny rai prydiau bwnc o athrawiaeth, y pwnc fyddai dan sylw ar y pryd yn yr ysgol, neu bwnc y cawsid pregeth arno yn ddiweddar, neu ynte a ddaethai i sylw mewn cyfarfod eglwysig; ac ar adegau ceid dadleuon gwresog. Nid oedd Llyfrgell y Felin yn helaeth, ond yr oedd ynddi ddau neu dri o lyfrau o awdurdod uchel yn ngolwg ei pherchen, yn arbenig Y Geiriadur, ac Esboniad Thomas Jones ar yr Hebreaid. Gelwid y blaenaf yn fynych i'r bwrdd; a byddai y neb a ddigwyddai gael yr awdurdod hwnw o'i ochr, yn teimlo ei hun cystal a buddugoliaethwr.
Ar adegau eraill, adroddid hanesion am hen bregethwyr, hen bregethau, hen seiadau; a llithrai yr ymddiddan nid yn anfynych at y profiadol. Nid ydym yn cofio gweled neb erioed yn tynu mwy o fwynhad o gymdeithas cyfeillion nag a dynai R. E. ar yr adegau hyn, ac yn wir ar bob adeg y digwyddai iddo syrthio i gymdeithas ei frodyr. Byddai yn anghofio ei ofidiau yn llwyr, nid yn unig yn nhŷ Dduw, ac yn nghymdeithas y saint yno, ond hefyd yn eu cymdeithas ymhob man arall. Llawer awr a dreuliodd ar ei ffordd adref o'r addoliad gyda'i gyfeillion; ac nid anfynych y bu yr ymddiddanion hyn yn swynol eraill, y rhai a hoffent wrandaw arnynt er heb gymeryd rhan ynddynt.
Yn nghanol pob trallod, ac yn ngwyneb pob profedigaeth, dangosodd ddioddefgarwch Cristionogol. Gŵr gonest ac uniawn ydoedd yn ei holl drafodaethau, a hynod heddychlawn a thangnefeddus. Dros yr holl flynyddoedd y bu yn oruchwyliwr i H. Davies, tystiai y diweddaf na chafodd erioed yr anghywirdeb lleiaf yn ei gyfrifon; ac yr oedd yn wastad yn dra gofalus am gyfarfod ei holl ofynion yn brydlawn a chyflawn. Gyda llawer o bethau yn wir nid oedd yn brydlawn. Annibendod oedd un o'i ddiffygion. Ar ol y byddai yn gyffredin yn myned i'r addoliad, ac ar ol hefyd yn myned o'r addoliad. Llawer sèn a ddioddefodd yn dawel oblegid y diffyg hwn. Ond gydai ofynwyr yr oedd yn dra ymdrechgar i fod yn brydlawn.
Nodweddau mwyaf amlwg ei gymeriad fel dyn oeddynt amynedd, ac addfwynder. Yn ngwyneb dioddefiadau o bob math yr oedd yn addfwyn, a than brofedigaethau cryfion i fod yn wahanol, dangosai braidd bob amser yr ysbryd mwyaf amyneddgar. Unwaith y clywsom am dano wedi gwylltio, a hyny mewn cyfarfod eglwysig yn y Felin. ryw adeg cyn adeiladu yr ysgoldy yn Pantymaes. Ymddengys fod dwy chwaer oeddynt yn byw yn yr un lle wedi syrthio allan a'u gilydd, ac i'r helynt rhyngddynt gael ei ddwyn i mewn i'r eglwys. Achos yr ymrafael oedd camddealltwriaeth rhwng yr ieir ar y buarth. Tybid fod ffrae yr ieir wedi ei chymeryd i fyny gan un o'r ddwy wraig. un diwrnod cadwyd ieir y wraig hono i mewn yn y tŷ, a gadawyd yr holl fuarth yn rhydd i ieir y wraig arall; ond canlyniad y rhyddid hwn a fu eu marwolaeth bob un. A chanlyniad eu marwolaeth ydoedd ymrafael blin rhwng y ddau deulu. Dygwyd y cweryl i'r society, ond y cwbl oedd yn eglur ydoedd fod yr ieir oll wedi marw. Sicrwydd moesol yn unig oedd gan y cyfeillion fod marwolaeth ieir un wraig wedi ei hachosi gan y wraig arall; a dadlenai R. E. fod hwnw yn ddigon, tra yr oedd eraill yn dadleu y dylid cael prawf uniongyrchol. Am unwaith pallodd ei amynedd, a dywedir iddo wylltio yn gidyll ; ac mai da iawn oedd fod Morris Jones yn bresenol i ddwyn pethau i drefn. Cymerodd M. J. yr achos i fyny, a rhoddodd i'r ddwy wraig driniaeth a'u danfonodd adref wedi eu darostwng gan gywilydd, os nad wedi eu hystwytho gan ras. Ychydig mewn cymhariaeth o'r rhai a ddygwyd i fyny o dan ei addysg am y deng mlynedd ar hugain diweddaf o'i oes a allent feddwl am dano, er y tro hwn a ddigwyddasai, ond fel un o'r rhai llarieiddiaf o ddynion.
Yr oedd yn ddiau yn dra amddifad o'r nodweddau y cyfeiriwyd atynt yn H. Davies, ar rhai oeddynt hanfodol i sicrhau llwyddiant mewn ystyr dymhorol. Yr oedd ynddo gydwybodolrwydd dwfn, ond yr oedd yn amddifad o'r yni ar egni sydd yn gwneyd dynion llwyddianus. Yn ei farn ar bob achos yr oedd yn annibynol hollol; ac os byddai galw, safai i fyny dros ei farn gyda dewrder a gwroldeb, ond nid oedd ynddo ar yr un pryd yr annibyniaeth ysbryd i enill iddo ei hun safle annibynol yn y byd. Da iawn fuasai fod ynddo ychydig o'r ysbryd oedd yn y fath gyflawnder yn Humphrey Davies. Aeth trwy y byd yn ddyn ar ei eithaf yn wastad, heb erioed fod yn meddu safle y gellid ei hystyried yn annibynol.
Yr oedd ar yr un pryd yn ddyn o graffder neillduol, ac o allu meddyliol o radd uchel. Yr oedd yn llawer ehangach ei wybodaeth Ysgrythyrol a duwinyddol na H. D.; a'i syniad am athrawiaethau yr efengyl yn annrhaethol gryfach ac eglurach; ond yr oedd ar yr un pryd yn amddifad o'r nerth oedd mor amlwg yn H. D. i'w wneyd yn feistr ar amgylchiadau. Nid rhyw wlanen o ddyn ydoedd; na, yr oedd o argyhoeddiadau dyfnion, ac ni phetrusai sefyll dros ei egwyddorion; ond yr oedd ei natur yn gwbl rydd oddiwrth yr uchelgais iachus sydd bob amser yn nodweddu y dynion sydd yn dyfod ymlaen yn y byd.
Fel Cristion yr oedd yn ddiau yn un o'r rhai disgleiriaf a welwyd yn yr ardaloedd hyn erioed. Tystia un brawd, sydd yn fyw eto, ei fod yn wastad yn teimlo yn ei ddyddiau gwylltaf fod Duw yn agos iawn ato pan y byddai R. E. gerllaw. Dyma ydoedd yr argyhoeddiad yn meddyliau ieuenctyd yr ardaloedd bob amser. Edrychai pawb arno yn ŵr Duw. Er mor siriol ei dymer ydoedd, ni ymollyngai un amser i ysgafnder. Un tro, mewn cyfarfod eglwysig yn Pantymaes, pan yr oedd cwyn fod amryw o'r aelodau yn euog o ysgafnder tra phechadurus yn y chwarel, safodd i fyny, a gofynodd dair gwaith, Pwy o honoch a all fy nghyhuddo i o ysgafnder? Yr oedd yr apêl yn hynod effeithiol, am fod tystiolaeth ymhob cydwybod ei fod ef bob amser, ac ar bob achlysur, yn gwbl rydd oddiwrth yr hyn y rhybuddiai eraill rhagddo.
Yn ei holl ymddygiadau yr oedd yn dra gwyliadwrus yn wastadol. Byddai ei holl ymddiddanion yn adeiladol: ac anhawdd ydyw credu i'r cymydogaethau hyn weled erioed ddyn yn fwy rhydd oddiwrth bob diffygion. Yn ei deulu yr oedd yn ddifwlch hollol gyda'r addoliad teuluaidd. Deuai adref yn fynych yn hwyr; ond nid ymneillduai i orphwys un amser heb gadw dyledswydd. Foreu a hwyr, Sul a gwyl a gwaith, ni oddefid bwlch yn yr addoliad teuluaidd. Cymhellai yn fynych yn y cyfarfod eglwysig na byddo iddo gael ei roddi heibio ar y Sabbath, gan sylwi fod yn Israel ddau oen yn y boreu, a dau oen yn yr hwyr yn cael eu haberthu ar y Sabbath tra na aberthid ond un ar ddyddiau eraill yr wythnos. Darllenai y Beibl o'i gwr, ac aeth trwyddo oll liaws o weithiau. Ni byddai byth yn plygu dalen y Beibl; ond ni byddai er hyny mewn unrhyw drafferth i gael gafael ar y lle y byddai wedi gadael heibio y tro o'r blaen. Ac yr ydym yn credu na threuliodd llawer o ddynion mewn amgylchiadau cyffelyb erioed fywyd cyfan yn nes i ysbryd addoli na R. E.
Hoffem yn fawr allu cyflwyno i'n darllenwyr syniad teilwng am dano, yn arbenig mewn cysylltiad a'r Ysgol Sabbothol, ac fel swyddog eglwysig. Edrycher arno yn gyntaf yn ei gysylltiad â'r Ysgol Sabbothol.
Gwelsom eisoes ei fod er yn foreu yn aelod o honi, ac iddo barhau yn ffyddlawn iddi yn ei holl symudiadau. Cawn weled eto yn ei areithiau y gwerth a roddai arni; ond gorchwyl lled anhawdd fydd gosod allan y gwasanaeth gwerthfawr a wnaeth iddi yn ystod ei Oes faith.
Fel athraw ni raid i ni betruso datgan ei fod yn ddiau yn un o'r rhai rhagoraf, er na chawsom ein hunain erioed y fraint o fod yn aelod o'i ddosbarth. Byddai ei ddosbarth yn wastad yn lliosog, yr hyn oedd dystiolaeth sicr i effeithiolrwydd yr athraw. A magodd hefyd lawer o athrawon, er mai nid ei ddosbarth ef yn gyffredin oedd y dosbarth athrawon. Ond ymataliwn rhag gwneuthur unrhyw sylwadau pellach arno yn y cysylltiad hwn. Bu yn ffyddlawn yn y swydd am uwchlaw pymtheng mlynedd a deugain.
Fel holwyddorwr, yr oedd yn meddu ar ragoriaeth arbenig. Dechreuodd ar y gorchwyl yn gyna'r yn ei oes, ac ni roddodd ef i fyny hyd y diwedd. Ac yn Aberllefenni, yn benaf trwy ei ddawn a'i lafur ef, daeth holwyddori yn sefydliad tra phoblogaidd. Ar ddiwedd yr ysgol bob Sabbath, treulid chwarter awr neu ychwaneg gydag ef; a mynych iawn yn y blynyddoedd gynt y cynhelid cyfarfodydd holwyddori ar nos Sabbothau. Yn y prydnhawn yn unig y ceid pregeth y pryd hwnw; ac yn lle cyfarfod gweddi (yr hwn a fyddai yr un mor boblogaidd ar bregeth) ceid ar adegau gyfarfodydd i'r amcan uchod. A chyfarfodydd tra neillduol fyddent. Cymerid weithiau ran o benod o'r Beibl, a phryd arall benod o'r Hyfforddwr; ond yn achlysurol darperid 'Mater', yn y ffurf o holwyddoreg, gan un neu ychwaneg o'r brodyr cartrefol. Mae on blaen yn awr lyfr yn cynwys nifer mawr o'r cyfryw, wedi eu cyfansoddi gan Howell Jones, Gell Iago; Samuel Williams, Ffynonbadarn; a Rowland Evans. Wele restr o honynt : Am werthfawrogrwydd Gwir Grefydd; Am Bechadur Tafod; Am y Pechod o Falchder; Am y Cyfamod Gweithredoedd; Am Ddewiniaeth; Am Addoli; Am Agweddau Anaddas tuag at Air Duw; Am Ostyngeiddrwydd; Am Ailenedigaeth; Am Chwilio'r Ysgrythyrau a Myfyrio ynddynt; Am y Prophwydoliaethau am Grist a'u Cyflawniad; Am lwyddiant Teymas Crist; Am Athrawiaeth y Cyfrifiad; Am y Cysgodau o Grist yn ei Dair Swydd Gyfryngol; Am Genfigen; Am Galedwch; Am Gariad Brawdol; Am Gadw'r Sabbath; Am Hunanoldeb; Am Gariad Duw; Am Ffyddlondeb gyda gwaith yr Arglwydd. Am Barhad mewn Gras; Am Esgeuluso Moddion Gras; Am Gyfeiliornadau; Am Ddiweirdeb.
Wedi parotoi mater, rhenid ef mewn ysgrifen ar ddarnau bychain o bapyr i'r gwahanol ddosbarthiadau. Byddai yn y modd yma bob dosbarth yn dysgu allan un o'r atebion, ynghyd â'r adnodau a ddygid ymlaen fel profion ; ac eid trwy yr holl Fater bob yn rhan ar ddiwedd yr ysgol, nes bod felly yn barod i gael cyfarfod ar nos Sabbath i fyned trwyddo oll. Cymerid dyddordeb cyffredinol yn y cyfarfodydd hyn, pryd yr holwyddorid gan awdwr y Mater. Creodd rhai o honynt radd o gynwrf yn y gymydogaeth. Yn anffodus, nid oes genym sicrwydd pa nifer o'r Materion uchod a gyfansoddwyd gan y tri brawd; ond dywedai Samuel Williams wrthym ei fod yn cofio yn dda mai efe a barotoisai yr un Am Gyfeiliornadau ; ac yr oedd argraff ar ei feddwl mai efe hefyd ydoedd awdwr yr un Am Ailenedigaeth. Dodwn i mewn yn y benod nesaf yr unig ddau y mae sicrwydd mai R. E. ydoedd eu hawdwr; a dangosant un peth o leiaf yn eglur, sef fod llafur gwirioneddol gyda'r Ysgol Sabbothol yn y dyddiau hyny.
Nid anghofir byth rai o'r cyfarfodydd ar nos Sabbothau yn Pantymaes gan neb oedd ynddynt, yn enwedig pan fyddai R. E. yn holi, ac yn ei hwyliau goreu. Yn yr olwg arno oddiallan nid oedd dim yn neillduol: a dywedai un brawd wrthym ei fod yn teimlo yn dra siomedig wedi ei weled, am nad oedd yn canfod ynddo ddim i gyfreithloni y son a glywsai am dano. Gwanaidd a lleddf oedd ei lais: ond byddai yr holwyddori yn ei law yn rhywbeth gogoneddus ar adegau. Byddai mewn hwyl hyfryd ei hun; ac ni byddai un amser y wledd i gyd yn disgyn i ran yr holwyddorwr. Gwelsom rai gweithiau ddynion wrth areithio neu bregethu yn ymddangos yn mwynhau yn rhyfeddol eu hunain, a'u gwrandawyr yn synu ac yn gofidio na chaent hwythau ryw gyfran fechan o'r mwynhad; ond byddai R. E. fel holwyddorwr yn wastad mewn perffaith gydymdeimlad â'i gynulleidfa. Nis gallwn ddywedyd pa un a'i y goleuni a'i y gwres fyddai yn fwyaf amlwg; ond yr ydym yn sicr na fyddai ef yn foddlawn heb arwyddion fod y deall yn. cael ei oleuo, a'r galon hefyd yn cael ei gwresogi. Ni roddai un amser yr anghefnogaeth leiaf i neb a geisiai ateb ei gwestiynau, gan nad pa mor anfoddhaol fyddai yr ateb: i'r gwrthwyneb, gwelid ateb lled ganolig yn troi yn ateb da yn ei ddwylaw ef. Hawdd er hyny fyddai gweled arno effaith wahanol pan roddid ateb cywir a llawn; ond y mae yn anmhosibl gosod ar bapyr y gwres a gynyrchid wedi cael y cyfryw gan ei Ie ; da iawn: rhywun eto. Tynai ei law yn frysiog dros ei wallt o'i goryn i lawr i'w dalcen; ac yna gafaelai âg un llaw y ddehau, yn mrest ei gôt, ac â'r llaw arall yn nghefn y fainc ol flaen, gan godi yn fynych ar flaenau ei draed, y rhai oeddynt arwyddion sicr ei fod yn gwresogi yn y gwaith. Pan y codai y gwres yn uchel iawn byddai yn gollwng y fainc ac yn gafael yn mrest ei gôt â'i ddwy law, gan wasgu y ddwy ochr at eu gilydd drachefn a thrachefn, a chodi yn barhaus ar flaenau ei draed. Byddai y plant yn deall yr arwyddion hyn cyn bod yn alluog i ddeall nemawr am werth yr hyn a fyddai dan sylw; ac nid oedd rhai mewn oed ychwaith uwchlaw bod ar eu gwyliadwriaeth am danynt. Yr oedd R. E. yn wres—fesurydd yn gystal ag yn wresgynyrchydd yn y gynulleidfa. Gadewid y cyfarfod gweddi weithiau gan rai o'r bobl ieuainc i fyned ar ol y pregethwr i Gorris; ond ni addewid y Cyfarfod Holi un amser, yn enwedig os R. E. fyddai yr holwr. Ac anmhosibl ydyw prisio yn briodol y daioni a gynyrchwyd yn y blynyddoedd lawer y bu y llafur hwn yn myned ymlaen yn y gymydogaeth. Yr oedd i R. E, fel y dywedwyd, gydlafurwyr ffyddlawn yn Howell Jones, a Samuel Williams; ond cydnabyddent hwy eu hunain yn rhwydd, a chydnabyddai pawb eraill yr un modd fod R. E. fel holwyddorwr yn dywysog yn eu plith.
Llanwodd bob swydd yn yr Ysgol Sabbothol yn ei gartref; a bu hefyd o wasanaeth gyda hi mewn manau eraill. Llawer a areithiodd ar Yr Ysgol Sul ; ac y mae yn hyfryd genym all rhoddi i'n darllenwyr rai engreifftiau o'i areithiau. Gwelir hwy yn y benod nesaf Bu yn ymweled hefyd â gwahanol ysgolion, ac yn dangos medr neillduol i wneuthur y gorchwyl hwnw yn effeithiol. Clywsom am dano unwaith yn rhoddi adnod i'w darllen, sef Esaiah xxv. 5 "Fel gwres mewn sychder y darostyngi dwrf dieithriaid; sef gwres â chysgod cwmwl, &c". Ychydig a geid wedi sylwi mai arddodiad ac nid cysylltair yw yr a yn yr adnod; a'i wers yntau oedd, wrth gwrs, yr angenrheidrwydd am sylw ar yr hyn a ddarllener. Un o feibion yr Ysgol Sabbothol ydoedd ; mawr oedd ei zêl drosti a'i frwdfrydedd gyda hi hyd ddiwedd ei oes.
Rhaid i ni eto geisio cyflwyno rhyw syniad am dano fel swyddog eglwysig,—fel blaenor. Dangoswyd eisoes ei fod wedi gwasanaethu yn y swydd hon mewn tair o eglwysi,—yn gyntaf oll yn Nghapel y Graig, Swydd Aberteifi; yna yn Nghorris, ac yn olaf yn Aberllefenni. Nid ydym yn gwybod nemawr am ei hanes yn y lle cyntaf; ond gwyddom mai un or pethau cyntaf y daeth i deimlo o'i herwydd fel blaenor ieuanc oedd bychander y gydnabyddiaeth i'r pregethwyr. Swllt, maen debyg, oedd y swm cyffredin y pryd hwnw am bregeth; ond mynodd ef ei godi yn y Graig i haner coron, o leiaf yn achlysururol os nad yn gyson. Ystyrid y swm hwn yn uchel, yn wastraffus o uchel; a dygodd y blaenor ieuanc arno ei hun gryn helynt trwy i'r pregethwr, wrth ei dderbyn un tro, yn drwsgl iawn ollwng yr haner coron i'r llawr, nes y gwelodd pawb oedd yn bresenol drostynt eu hunain y gwastraff. Er bod yn gyffredin ei amgylchiadau, yr oedd o duedd haelionus; a pharhaodd felly hyd y diwedd. Yn Nghorris, daeth yn fuan i lanw lle pwysig fel cydswyddog â'i feistr, Humphrey Davies. Sylwyd eisoes ar y lle mawr oedd i flaenor yn y dyddiau hyny. A rhoddwn yma arwydd ychwanegol o hono trwy ddyfynu yr hyn sydd ysgrifenedig ac argraffedig ar Docyn sydd yn awr on blaen :
"Rowland Evans, Golygwr Cymdeithas
y Methodistiaid yn Corris, Swydd Meirionydd.
- Medi 1, 1843
Ar wyneb arall y Tocyn, ceir yr hyn a ganlyn:—
A WYT TI YN FY NGHARU I?
Portha fy wyn; Bugeilia fy nefaid; Portha fy nefaid. Ioan
xxi. 15—17 Edrychwch arnoch eich hunain, ac ar yr holl
braidd, gan fugeilio Eglwys Dduw, yr hon a bwrcasodd efe â'i
briod waed. Nid fel rhai yn tra—arglwyddiaethu ar etifeddiaeth
Duw, ond gan fod yn esamplau i'r praidd. Yn gwylio
dros eu heneidiau megys rhai a fydd rhaid iddynt roddi cyfrif.
Actau xx. 28; 1 Petr v. 2, 3; Heb. xiii. 17 "
"Golygwyr" oedd blaenoriaid y cyfnod hwn; ac fel y cyfryw cyflawnent bob gwaith a berthyn i swydd gweinidog yr efengyl, oddigerth pregethu a gweinyddu yr ordinhadau. A cheir gweled yn fuan fod R. E. yn gwneyd y cwbl mewn gwirionedd ond gweinyddu yr Ordinhadau o Fedydd a Swper yr Arglwydd. Ein hamcan, pa fodd bynag, yn y sylwadau hyn, ydyw mynegi ffeithiau, ac nid dwyn i mewn unrhyw feirniadaeth. Yr ydym yn cydsynio yn galonog â'r sylwadau canlynol gan y diweddar Barchedig Griffith Williams, Talsamau, yn ei lyfr bychan dyddorol ar "Yr Hynod William Ellis:—
Wrth son am dano fel blaenor, dylem gymeryd hamdden i dalu gwarogaeth i'r urdd hon o swyddogion yr oedd ef yn perthyn iddi. Y mae pawb sydd yn gwybod dim am yr achos yn y blynyddoedd gynt yn gwybod hefyd am y gwasanaeth mawr a wnaed gan y swyddogion hyn; ac yr ydym yn dyledus fesur mawr iddynt am y llwyddiant sydd wedi bod ar yr achos yn ein plith. Bu amser pan y byddai gofal yr achos yn gartrefol yn gorphwys bron yn gwbl ar ysgwyddau ein diaconiaid. Yr oedd y gweinidog yn weinidog i'r holl Gyfundeb, a gofal cyffredinol yr achos trwy Gymru oll ganddo: ond am y blaenor, fe fyddai ef, fel y wraig rinweddol, yn gwarchod gartref; neu fel Sara, gwraig Abraham, bob amser yn y babell, ar holl ofalon yn eu hamrywiaeth mawr yn gorphwys arno.
Urdd ardderchog mewn gwirionedd oedd urdd yr hen flaenoriaid, y rhai oeddynt olygwyr ar yr eglwysi.
Gyda H Davies, fel yr awgrymwyd, daeth R. E. i gymeryd ei ran yn ngolygiaeth yr eglwys yn Nghorris; ac ni chydweithiodd dau swyddog erioed yn fwy hapus. H D. fyddai yr arweinydd bob amser. Yr oedd y cynllun i lywyddu bob yn ail fis heb ddyfod i feddwl neb yn yr oes hono. Wrth alwad H D, yr hwn a fuasai yn flaenor rai blynyddoedd yn yr eglwys o'i flaen, yr ymaflai R. E. yn wastad yn ei waith. Araf, anniben oedd R. E, os gadewid ef iddo ei hun; ond gyda H D, yr hwn oedd bob amser yn llawn bywyd ac egni, byddai yn gweithio yn rhagorol. Crybwyllasom eisoes ddisgrifiad Richard Owen o'r ddau yn y Cyfarfod Eglwysig; ac anmhosibl fuasai cael ei ffyddlonach. Myned i mewn i deimladau ei frodyr a'i chwiorydd crefyddol oedd amcan mawr R. E, deall eu tywydd, a gwybod pa beth a wnaent eu hunain yn ei ganol. Ond eu cael i'r lan oedd pwnc mawr H. D. Er ei fod yn llawer mwy galluog a gwreiddiol nai dad, Dafydd Humphrey, yr oedd yn ddiau lawer o'i ysbryd ynddo. Ni fynai D. H. ei faeddu gan amheuon; yr oedd y cyfamod ganddo yn wastad i syrthio yn ol arno. Preswylio yr uchelderau y byddai efe. Ac yr oedd cwyno yn ddiddiwedd yn beth nad oedd gan ei fab amynedd gydag ef: gwrthdystiai yni ei natur yn ei erbyn. A'i bwnc ef fyddai cael y dioddefwyr a'r cwynfanwyr i'r lan. Rhwng y ddau, byddai y cyfeillachau eglwysig yn dra dyddorol ac adeiladol.
Nid llawer o bethau digrifol a ddigwyddasant erioed mewn cysylltiad â R. E.; ond un tro, yn Nghorris, dywedodd air a arweiniodd i ganlyniadau lled ddigrifol. Yr oedd dau hogyn yn gwasanaethu gyda Dr. Evans, yn y Fronfelen. Perthynai un o honynt i'r society a daeth y llall un noson yno gydag ef. Buasai y ddau hogyn yn y berllan, yn cymeryd rhyw nifer o afalau; a chuddiasai yr un oedd heb fod yn y society lonaid ei gadach poced o honynt yn becyn yn ei goffr gartref, nes y deuai yr amser cyfaddas i'w bwyta. Nid oedd hyn, pa fodd bynag, yn wybyddus ond i'r ddau hogyn eu hunain. Yn y Cyfarfod Eglwysig, dywedodd H. D. : Maen dda genym weled Richard, y Fronfelen, yma heno. Lle gwerthfawr i fechgyn fel yma sydd yn eglwys Dduw. Gobeithio, machgen i, y byddi di yn fachgen da iawn. Newch chi ofyn gair iddo, Rowland Cyfododd R. E. i fyned ato, ac wrth gychwyn dywedodd, Wel, gadewch i ni weld beth sydd yn ei bac o. Tybiodd y bachgen fod ei gyfaill wedi dweyd wrth R. E. am yr afalau; cipiodd ar unwaith ei gap odditan y fainc, aeth allan ar frys, ac ni welwyd ef yno byth mwyach. Gydag enwad arall y bu yn aelod ymhen blynyddoedd ar ol hyny; a chyda'r enwad hwnw yr arhosodd hyd ei farwolaeth.
Bu R. E. yn swyddog yn eglwys Corris am oddeutu ugain mlynedd, sef hyd sefydliad eglwys yn Pantymaes, Aberllefenni. Yr oedd tua 50 mlwydd oed pan y terfynodd ei gysylltiad âg eglwys Corris; ac o hyny hyd ei farwolaeth bu yn "dad" yr achos yn Aberllefenni. Er nad oedd mor adnabyddus o lawer y tu allan i'w gymydogaeth a H. D, eto yr oedd ei glod fel blaenor wedi cyraedd i liaws o eglwysi yn y cymydogaethau cylchynol. Yr ydym yn gwneuthur y dyfyniad canlynol o lythyr a dderbyniasom oddiwrth y Parchedig Evan Davies, Trefriw, yr hwn sydd enedigol o gymydogaeth gyfagos, sef o Aberangell
Y tro cyntaf i mi glywed son am Rowland Evans, oedd wrth ddyfod adref o seiat yn Aberangell, gyda'm tad, ar hyd llwybr camfäog, ar noson dywell, wlybyrog, pan yn blentyn bychan o bump i chwech oed. Braidd nad oeddwn yn grwgnach, ac yn cwyno y drafferth o fyned i'r capel ar y fath noswaith ystormus. Ond atebai fy nhad, Taw son, fachgen, yr oedd y seiat heno yn werth cerdded deng milldir iddi trwy dywydd mwy na hwn. Tybiwn inau fod y clod am effeithiolrwydd y seiat hono i'w briodoli yn gyfan i ragoroldeb yr unig flaenor oedd yn y lle ar y pryd; yr hwn gyda y Parchedig Richard Jones oedd yn gwneyd y cwbl i arwain y moddion ymlaen. Nid oedd y Parchedig R. Jones yn bresenol y noson y cyfeiriais ati; ac felly syrthiodd y gwaith yn hollol ar y blaenor, Mr. David Dayies, Blaen-y-plwyf Isaf. Er nad oedd David Davies wedi darllen llawer, nac yn ddyn o syniadau eang, yr oedd yn nodedig am ei bwyll a'i synwyr, yn ŵr pur, a hollol gysegredig i grefydd, ac yn meddu dawn arbenig i gadw seiat yn flasus ac adeiladol. Pan soniodd fy nhad wrthyf am effeithioldeb y seiat hono, gofynais iddo yn y fan, A oes blaenor yn rhywle cystal a David Davies, fy nhad? Atebai yntau, Ni wn i ddim yn wir: un go dda ydyw Rowland Evans y Felin, Aberllefenni. Yr oedd yr atebiad yna yn y fath gysylltiad yn ddigon i beri i ini gadw ei enw byth yn fy nghof, Bum yn holi llawer ar fy rhieni yn ei gylch ar ol hyny; a chefais bob lle i gredu fod R. E. yn rhywun mwy na chyffredin".
Ac felly yn ddiau yr ydoedd; ond ni chafodd neb gystal cyfleusdra i wybod hyny ar rhai yr estynwyd iddynt y fraint o fod yn gyson dan ei ddylanwad. Adeiladu ac ymgeleddu oedd ei amcan mawr; ac yr oedd ei fedr at y gorchwylion hyn yn neillduol. Byddai yn dra gofalus hefyd am ddisgyblaeth eglwysig; ond ni welwyd erioed arwyddion fod gweinyddu cerydd yn rhoddi iddo un hyfrydwch. Safai i fyny yn wrol dros wirionedd, a siaradai ar adegau yn hynod gryf a difloesgni.
Cofus genym unwaith fod chwaer ieuanc wedi gwneuthur tro tra annheilwng, ond yn hynod gyndyn i gyfaddef y gwirionedd, hyd yn nod wedi iddo ddyfod yn gwbl adnabyddus. Wedi rhoddi iddi bob chwareu teg i wneyd cyffesiad, a dangos pob amynedd dichonadwy, dywedodd o'r diwedd wrthi; "—yr wyt ti yn ymgyrdeddu mewn celwydd." Yr oedd y fath eiriau oddiwrtho ef yn cynyrchu effeithiau trydanol. Ond wrth ymgeleddu y byddai yn ddedwydd, ac annrhaethol well fyddai ganddo rybuddio na cheryddu. Ac yn y cwbl yr oedd ei ddylanwad yn rhyfeddol.
Tuag at ddeall y dylanwad hwn rhaid cymeryd i ystyriaeth ragoroldeb ei gymeriad fel Cristion. Yr oedd ei dduwioldeb yn amlwg, a sancteiddrwydd ei fywyd yn adnabyddus i'r holl gymydogaeth. Nid oedd ynddo un math o lymder na gerwinder. Byddai ei holl ymddiddanion yn fwynaidd a thirion; ond er hyny gosodai ei arswyd ar fechgyn gwylltaf y gymydogaeth. Byddent oll ar ffô y foment y dywedai un o honynt fod yr Hen Felinydd yn dyfod. Yr oedd yn dda gan ei galon am y bechgyn gwylltion, a mynych y ceisiai, trwy ei eiriau caredig, eu dwyn at yr Iesu. Oes arnat ti ddim awydd dyfod i'r seiat, John ? meddai unwaith wrth hogyn digon direidus, sydd bellach ers blynyddoedd yn swyddog eglwysig. Oes, weithiau, meddai yntau. Wel, gwna hast, da fachgen; mae ar Iesu Grist eisiau peth ryfeddod o dy sort di, meddai yr hen flaenor. Ymdrechai ddeall eu cymeriadau, a pha fodd y gallai yn fwyaf llwyddianus gael gafael arnynt. Mae gan ras lawer iawn o waith i'w wneyd ef yn ddyn, heb son am ei wneyd yn Gristion; meddai am un o honynt. Ac y mae yn ofnus fod y naill na'r llall heb ei wneyd hyd yma.
Gweddiai lawer dros icuenctyd y gymydogaeth. Yr oedd yn hynod fel gweddiwr. Gwledd i ni yn wastad fyddai ei glywed ef yn gweddio. Dechreuai ei weddi braidd bob amser gyda'r geiriau, Diolch iti, diolch iti Dad Nefol. Anfynych yr esgeulusai weddio dros yr ieuenctyd. A chofiai yn yr ugain mlynedd diweddaf o'i fywyd am fechgyn Cymru, a bechgyn Aberllefenni yn arbenig, yn ngwahanol wledydd y byd. Gofid calon iddo ef oedd eu gweled wedi tyfu i fyny, a dechreu bod yn ddefnyddiol yn yr eglwys, yn myned i'r America neu i Awstralia; a pharhaodd i weddio drostynt yn y gwledydd hyn tra y bu byw ar y ddaear.
Un tro yr oedd yn myned i Liverpool i: edrych am ei ferched; a digwyddodd iddo gael ei oddiweddyd gan bedrolfen, yr hon a yrid gan ŵr ieuanc, oedd ar y pryd yn lled bell dan ddylanwad diodydd meddwol. Derbyniwyd ef i'r bedrolfen gyda pharodrwydd; ac wedi dechreu ymddiddan â'r gyrwr, aethant yn fuan yn dra chyfeillgar. Mynai y gŵr ieuanc iddo gymeryd rhan o'i ymborth; ac nid oedd gomedd arno. Wel, bachgen glân dy galon wyt ti, meddai R. E.; pity na chaet ti ras. Mae'n anodd gen i feddwl dy fod ti yn un i'w golli. Ar hyny torodd y gŵr ieuanc allan i wylo; a dywedai fod ganddo y fam dduwiolaf fu ar y ddaear erioed. Bu R. E. yn gweddio dros y bachgen hwn am flynyddoedd yn gyson yn yr addoliad teuluaidd, ac yn holi am dano pa bryd bynag y gwelai rywun o'r wlad y perthynai iddi; ond nid ydym yn deall iddo glywed dim o'i hanes tra yn y fuchedd hon.
Yr oedd yn weddiwr mewn gwirionedd. Mae yn wybyddus y byddai yn gweddio llawer yn y dirgel; byddai yn gwbl gyson gyda'r gwaith yn y teulu; ac yn y cyfarfodydd cyhoeddus cofir byth am ei weddiau. O ein Hiesu bendigedig! meddai un tro wrth ddechreu yr ysgol, O fawredd ei ddioddefiadau! Fel Oen y Pasg gynt, yr hwn oedd i'w rostio wrth dân heb gymaint a thrwch padell na chrochan rhyngddo ar tân ; felly yntau, yr oedd heb y cyfrwng lleiaf rhyngddo â holl wres ofnadwy y digofaint dwyfol. Cofiwyd am flynyddoedd am ei weddi yn nghladdedigaeth Mary Thomas, o Fotyr Waen, pan y dywedai : Dyma ni yn awr yn rhoddi gweddillion marwol ein hanwyl chwaer yn y bedd. Diolch iti ein Tad, nad ydi hi ddim yn myned o'th law di, hyd yn nod yn y fan yma. Ei holl saint ydynt yn dy law. Diolch am hyn. Yn dy law di y mae dy saint ymhob man: yn dy law yn nghanol cystuddiau a phrofedigaethau byd; yn dy law yn angau; yn dy law yn y bedd. A dyna fydd yr adgyfodiad, ein Duw ni yn agor ei law: bydd llwch pob un o'r saint yn gwbl ddiogel ynddi. Ac yr oedd bod yn llaw Duw yn un o'r syniadau mawr ac anwyl ganddo. Clywsom ef lawer gwaith, ar derfyn cyfarfod eglwysig, pan y byddai Hugh Evans, Tynycei, wedi galw ers meityn fod yr amser i fyny, yn rhoddi y darn penill i'w ganu:
Yn dy law y gallaf sefyll,
Yn dy law y dof i'r lan;
Yn dy law byth ni ddiffygiaf,
Er nad wyf ond eiddil gwan.
Ond clywsom y canu ar y rhan olaf o'r hen dôn Moriah yn myned wedi hyny a chryn lawer yn ychwaneg o amser nag a fwriadai efe pan yn rhoddi allan yr haner penill.
Yr oedd yn wrandawr rhagorol hefyd dan y weinidogaeth. Byddai bob amser yn astud, ac yn fynych yn wylo yn hidl. Ni byddai ar unrhyw adeg yn fawr ei swn; yr unig air a ddywedai oedd Amen. Ni chlywsom ef erioed yn dywedyd Diolch iddo, Bendigedig, na dim arall: ond wylai nes y byddai ei lygaid yn gochion, a'i lais hefyd yn diffygio. Ac ar ol yr amlygiadau hyn o deimlad, ceid yn y cyfarfod eglwysig adroddiad melus ganddo o'r gwirioneddau a garient y fath effaith ar ei ysbryd. Rhoddai yn wir arbenigrwydd Yn. wastad ar y weinidogaeth; a chymhellai bawb i ail—adrodd yr hyn y gallent ei gofio o'r pregethau.
Ond yr oedd pob peth ynddo, ei gymeriad difrycheulyd, ei dduwiolrwdedd dwfn, ei weddiau taerion, a'i deimladau dwysion y cwbl yn fanteisiol i'w ddylanwad yn yr eglwys pan yn ymgeleddu y saint. heblaw gwerth cynhenid yr hyn a ddywedid ganddo yr oedd pwysau y fath gymeriad yn dyblu y dylanwad. Ond anaml y gwelwyd neb yn meddwl llai o hono ei hun, nac yn gosod gwerth uwch ar ei frodyr. Pell fyddai o gymeryd i fyny yr amser ei huuan; yn wir, byddai ar adegau yn treulio cymaint o hono i gymell eraill, yn hytrach na myned ymlaen ei hun, nes y byddai amynedd rhai brodyr yn pallu. Wedi i'r Parchedig Ebenezer Jones ddyfod i Gorris, gwahoddid ef yn fynych i Aberllefenni i gadw seiat; ac nid oedd neb yn gwerthfawrogi ei gynorthwy yn fwy na Rowland Evans. Pan y byddid yn derbyn ymgeiswyr at Fwrdd yr Arglwydd, yn enwedig, ni theimlai yn hapus heb ei gymorth. Nid oedd dim yn bellach oddiwrtho na hunan—hyder. Ond yr oedd pobl eraill yn rhoddi ynddo yr hyder llwyraf; a theimlai ei frodyr yn gwbl galonog i wynebu ar unrhyw orchwyl os byddai ef yn bresenol.
Rhaid i ni gymeryd golwg arno cyn terfynu mewn un cymeriad arall. yn ei gladdedigaeth, dywedai ei hen gyfaill, a'i gydswyddog hefyd am lawer o flynyddoedd, y diweddar Samuel Williams, Pregethwyr oedd Rowland Evans, a phregethwr da iawn. Fe bregethodd lawer, ac yn rymus iawn hefyd, yn Aberllefenni. Mae genym gof bywiog am lawer o'r amgylchiadau y cyfeiriai S. W. atynt. Wedi i ddau frawd weddio, cyfodai R. E. i ddarllen ychydig o adnodau, ac i wneuthur sylwadau arnynt, a therfynu y cyfarfod. Gwneid hyny ar adegau gan eraill, ac yn enwedig gan Samuel Williams, gyda chymeradwyaeth gyffredinol. Ond cydnabyddai pawb mai R. E. oedd y tywysog gyda hyn hefyd. Digon cyffredin weithiau fyddai y bregeth yn y prydnhawn Pell oddiwrthym fyddo dywedyd dim yn isel am y pregethwyr ffyddlawn a ddeuent i Aberllefenni yn mlynyddoedd ein mebyd. Bychain iawn oedd eu manteision, a bychani oedd galluoedd rhai o honynt; ond gwnaethant wasanaeth gwerthfawr i achos crefydd yn eu dydd. Nid oes braidd un o honynt yn awr yn aros. Maent wedi myned oddiwrth eu gwaith at eu gwobr. Ond gwirionedd syml ydyw fod R. E. yn rhagori yn fawr fel pregethwr ar lawer o honynt, ac y byddai ei anerchiad yn yr hwyr yn llawer mwy effeithiol nar bregeth yn. y prydnhawn Gellir ffurfio rhyw syniad am ei anerchiadau oddiwrth yr engreifftiau a roddir o honynt yn y benod nesaf; ac eto nis gellir ffurfio ond drychfeddwl tra anmherffaith am eu dylanwad ar y gwrandawyr. Nid oedd yn medru eu hysgrifenu fel y llefarai hwynt, nac yn medru eu llefaru ychwaith fel yr ysgrifenai hwynt. Cofir byth lawer o'i ddywediadau. Dyma un engraifft : Llestr pridd oedd Job ar y goreu; ond yr oedd er hyny yn tincian ar y domen.
Rhaid i ni, pa fodd bynag, ddwyn ein sylwadau i derfyniad. Yn 1866, wedi mwynhau iechyd hynod wanaidd am flynyddoedd, tarawyd ef gan y parlys. Gwellhaodd i fesur ar ol hyny, er na bu o lawer fel yr arferai fod o'r blaen. Yn 1870, tarawyd ef eilwaith, ac ni wellhaodd mwyach. Yn ei gystudd diweddaf, yr oedd yn siriol dros ben, a'i ofnau oll wedi ei adael. Peth newydd iddo ef oedd hyn. Ofnus fu ar hyd ei fywyd. Yr ydym yn cofio yn dda am ymddiddan rhyngddo â'r diweddar Barchedig John Griffith, Jerusalem, yn Nhŷ'r Capel. Pan yn Nolgellau, yr oedd Mr. G. yn dra chydnabyddus âg ef, ac wedi ffurfio syniad uchel am dano. Y tro hwn, daethai i Aberllefeni i Gyfarfod y Nadolig, ar ol myned o Ddolgellau i Jerusalem, yn Bethesda. Yn enw dyn, meddai Mr. G, pan welodd R; E. yn dyfod i mewn, a'i dyma lle yr ydych chwi eto? pa bryd yr ydych chwi yn meddwl mynd i'r nefoedd ? Mae arna'i ofn garw, meddai yntau, na chai ddim mynd i'r nefoedd o gwbl. Pam yr ydych chwi yn ofni peth felly ? meddai Mr. G. Wel, meddai R. E, mae arna'i ofn na fedrwn i ddim byw ar bethau'r nefoedd. Sut felly Wel, atebai R. E, chwi wyddoch na ches i fawr erioed o bethau'r ddaear yma; ond y mae yn rhaid i mi wrth ryw ychydig o aur ac arian i fyw; ac er lleied ydw i yn gael, mae arna'i ofn y teimlwn i yn chwith hebddyn nhw, pe cawn i fynd i'r nefoedd. Yn enw dyn, meddai Mr. G, ni raid i chwi ddim byw heb aur yno: onid ydyw heolydd y ddinas yn aur pur Wel, meddai yntau, pe bawn i yn siwr y gallwn i fyw ar yr aur hwnnw—Sancteiddrwydd pur,—fe ddarfyddai fy ofn am byth.
Yr ydym yn ei gofio adeg arall, mewn Cyfarfod Misol yn Aberllefenni, yn adrodd ei brofiad, pan yr holid ef gan y Parchedig David Davies, o'r Abermaw. Sut mae'r achos yma ? meddai Mr. Davies. Wel, does yma ddim byd neillduol i'w ddweyd amdano, meddai yntau; mae pobpeth yn mynd ymlaen yn eithaf tawel yma. O, yr ydych yn cytuno â'ch gilydd, ynte meddai Mr. D. Ydym, meddai R. E, ond y mae ama i ofn ein bod ni yn cytuno i gysgu. Wedi myned ymlaen i ofyn am ei brofiad crefyddol ef ei hun, tra amheus ydoedd, a hynod ofnus gyda golwg ar ei fater tragwyddol. Wel, meddai Mr. D, pur anniben ydyw yr hen Fethodistiaid yma yn gwneyd "sum" bywyd tragwyddol. Mae rhai yn ei gorphen hi mewn mynyd, a dyna'r pryder i gyd drosodd; ond am yr hen Fethodistiaid, rhyw ffigiwr yrwan a ffigiwr yn y man y mae nhw yn ei roi; ond yn y diwedd mae nhw yn bur siwr o gael y total yn iawn, bywyd tragwyddol. Fel hyn yn hollol y bu gyda Rowland Evans. Siriolodd ei feddwl yn fawr yn ystod ei gystudd yn 1866. Dywedai i'r diafol ddyfod ato yn fuan wedi ei daro gan y parlys, a dywedyd wrtho, Dyna chdi rhan : fedri di wneyd dim byth mwyach dros dy Geidwad. Ond ychwanegai, Fe ffodd ar unwaith pan y dywedais wrtho, Paham yr ymffrosti mewn drygioni, O Gadarn ? Yn ei gystudd diweddaf, yr oedd yn gwbl dawel a siriol; ac yn wir nid oedd dim ond sirioldeb o gwbl yn ei ystafell. Yr adnod a'i cynhaliai ydoedd, Nith roddaf di i fyny, ac nith lwyr adawaf chwaith. Teimlai mai gwirionedd oedd yn y geiriau, Hyd henaint hefyd myfi yw; ie, myfi a'ch dygaf hyd oni benwynoch. Sisialai yn fynych y llinellau melus,
Hyn ywm hangor ar y cefnfor,
Na chyfnewid meddwl Duw ;
Fe addawodd na chawn farw,
Yn nghlwyfau'r Oen y cawn i fyw.
Bu farw mewn perffaith dawelwch, ac mewn llawn fwynhad o dangnefedd yr efengyl, Chwefror 1 1, 1870, pan o fewn deufis i 78 mlwydd oed. Dywedai ei hen gyfaill, Humphrey Davies, wrth gyfeirio at ei farwolaeth, nad oedd dim dadl nad i'r nefoedd yr aethai Rowland Evans, ond na bu nefoedd yn fwy amheuthyn i neb erioed nag iddo ef. Mewn hen fwthyn gwael, myglyd, y treuliodd 47 mlynedd o'i oes; ond cydnabyddid ef er hyny yn dywysog Duw ymysg yr ardalwyr; a chladdedigaeth tywysog a roddwyd iddo. Heddwch i'w lwch.
Un mab fu iddo, a phedair o ferched, ac y maent oll yn aros hyd heddyw. Mae ei fab, Lewis, a'i ddwy ferch hynaf, Ann a Mary, yn byw yn Liverpool ei drydedd ferch, Jane, yn Machynlleth; ar ieuangaf, Elisabeth, yn parhau i lynu wrth yr hen gartref.
PENOD IX
YCHYDIG O GYNYRCHION ROWLAND EVANS
NID ydym yn gwybod i Humphrey Davies ysgrifenu llinell erioed, oddieithr ei lythyrau; ond byddai Rowland Evans yn dodi i lawr yn lled fynych ffrwyth ei fyfyrdodau. Ysgrifenodd i'r Drysorfa gofiant byr i Morris Jones a Mary Davies, Abercorris, os nad ychwaneg. Ac nid afnawdd, hwyrach, fuasai casglu nifer lled dda o'i ddywediadau yn y gymydogaeth pe cawsid cyfleusdra i hyny. Dyma engreifftiau
Nac edrychwch ar y rhai fyddo mewn gwell amgylchiadau, ond yn hytrach ar rai mewn gwaeth amgylchiadau na chwi. Dyma y ffordd i gynyrchu ynom y teimlad priodol.
Os digwydd i Ragluniaeth wasgu arnoch, na phrinhewch yn eich cyfraniadau at achos crefydd yn gyntaf oll. Dylem brinhau ymhob man cyn prinhau yn ein cyfraniadau i'r Hwn sydd yn rhoddi i ni bob peth.
Powsi ydyw crefydd, a phob blodeuyn rhinweddol wedi ei gasglu iddo. Mae rhai blodeu yn fwy amlwg weithiau nau gilydd, ffydd yn Abraham, amynedd yn Job, zêl yn Pedr, cariad yn Ioan; ond chwiliwch yn fanwl, chwi gewch nad oes yr un rhinwedd ar ol.
Bwrw dy faich ar yr Arglwydd, ac efe ath gynal di. Nid yw yn addaw cymeryd ymaith y baich, ond y mae yn addaw dy gynal dan y baich, yr hyn sydd lawn cystal phe symudid y baich.
Yr ydym wedi cymeryd yr hyn a ganlyn ol lawysgrif ef ei hun, oddigerth y ddau Fater Ysgol; ac nid oes genym amheuaeth na bydd llawer o'r sylwadau yn brofion eglur i lawer nad adnabuant R. E. erioed o wirionedd yr hyn a ddywedwn am ei alluoedd.
Dodwn i Iawr yn gyntaf amrywiol areithiau a draddodwyd ganddo ar achlysuron cysylltiedig a'r Ysgol Sabbothol.
I
MYFYRDOD AR YR YSGOL SABBOTHOL.
Offeryn ydyw ysgol i ddringo yn uwch, i weled yn mhellach, a gwneyd gorchwyl yn hawddach. A dyma yw yr Ysgol Sabbothol; Bum yn meddwl y gallasai un anghyfarwydd â hi dybio mai y ffordd a fabwysiedid ynddi i ddysgu darllen a fyddai dysgu un adnod i ddechreu, ac un arall, ac un arall drachefn, nes dysgu yr holl Feibl Ond nid felly; Ysgol ydyw. y peth cyntaf a ddysgir ynddi yw yr Egwyddor, yr A B C. Marciau yw y llythyrenau i adnabod seiniau penodol. Dyna A, y mae yn wahanol ei ffurf i B, ac yn wahanol ei sain; ac y mae C yn wahanol i'r ddwy mewn furf a sain. Wedi dysgu yr Egwyddor, dechreuir cysylltu y llythyrenau bob yn ddwy, yna bob yn dair, nes y gellir, bob yn ronyn, ffurfio geiriau o honynt gyda'r hwylusder mwyaf. Fel hyn y mae Duw megis wedi trefnu temtasiwn er ein dysgu i ddarllen ei Air sanctaidd. Heb ryw gynllun fel hwn, buasai dysgu darllen bron yn anmhosibl; ond wedi ei gael y mae yn hawdd a hwylus. Mae grisiau yr ysgol mor hynod fanaidd, fel y mae yn hawdd i bawb ei dringo. Ar syndod yw, nid fod cymaint yn dysgu darllen, ond fod neb o gwbl heb ddysgu. Moddion celfyddgar yw cynllun yr ysgol, i ddysgu i dlodion uniaith ddarllen meddwl Duw yn eu hiaith eu hun yn yr hon yn ganed. Diolch am yr Ysgol Sabbothol.
Gan ei bod yn foddion mor ragorol i gyraedd ei hamcan, A ydyw hi yn debyg o bara yn hir? Ydyw, canys nid pren crin a phwdr yw yr ysgol hon, ond pren byw, yn tyfu yn uwch, ac yn magu ceinciau newyddion o flwyddyn i flwyddyn. A mwyaf o ddringo fyddo arno mwyaf oll y tyfa. Nid oes dim tebyg y derfydd yr Ysgol Sul, oblegid y mae ei phendefigion a'i llywiawdwyr yn dyfod o'i mysg ei hun. Nid oes nemawr un mewn swdd ynddi na all ddywedyd am dano mai un o'r plant a fagodd ac a feithrinodd ydyw. Gall ddweyd am ei holl swyddogion, Y bobl hyn a luniais i mi fy hun, fy moliant a fynegant. Mae y meibion yn dyfod yn lle y tadau, y rhai a wneir yn dywysogion yn yr holl dir. Ac y mae ei swyddwyr y rhai goleuaf, duwiolaf, a ffyddlonaf o'i phlant. Byddwn galonog a gweithgar gyda'r ysgol, nid yw yn debyg yr arafa , yn ei gwaith. Mae llawer ysgol dda wedi arafu, am fod cyflog yr athraw wedi ei atal; ond ni ddigwydd hyny yma. Nid oes gŵr cyflog o'i mewn. Mae ei holl swyddogion yn llafurio yn rhad. Cerdda llawer o honynt ddwy a thair milldir bob Sabbath i'r ysgol; ond gofynwch iddynt pwy sydd yn talu iddynt, yr ateb fydd, y bydd bod ar gael yn y diwedd yn llawn ddigon o wobr, ar ystynaeth y bu y llafur yn rhywfaint o les, o dan fendith Duw, i ryw bechadur. Ond fe ddaw gwobr. Mae Duw yn hir ei ymaros. Ca yr athraw y cyfarchiad ryw ddydd oddiwrth ei ddisgybl mewn geiriau cyffelyb i'r eiddo Dafydd wrth Abigail, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, a bendigedig fyddo dy gyngor; ti am hateliaist pan oeddwn yn ymyl syrthio dros y dibyn am byth. A naturiol fydd gofyn y dydd hwnw, Pa anrhydedd a wnaed i'r gŵr hwn? Ac yna y dywedir wrtho, Da was da a ffyddlon dos i mewn i lawenydd dy yr Arglwydd.
Mae dibenion yr Ysgol Sabbothol yn ogoneddus. Cael y colledig at y Ceidwad, yr afiach at y meddyg, yr aflan at y ffynon, y marw at y bywyd. Cael Noah i'r arch rhag y diluw, Lot i Soar rhag y tân, ar llofrudd i'r noddfa cyn i'r dialydd ei ddal. Dyma brif amcan yr Ysgol Sabbothol; ond y mae yn gwneyd llawer o gymwynasau ar y ffordd wrth ymgyraedd at yr amcan hwy. Mae yn cymell i bob moesau da sydd yn harddwch i'r ddynoliaeth. Mae yn anog y plant i fod yn ufudd i'w rhieni. ac yn anog y rhieni i beidio cyffroi eu plant fel na ddigalonont. Mae yn anog y gweinidogion i fod yn ufudd a ffyddlon i'w meistriaid, ac yn anog y meistriaid i wneyd yr un peth tuag atynt hwythau. Mae yn dysgu yr is-radd i barchu eu hnwchradd, i'r ieuanc gyfodi o flaen penwyni a pharchu wyneb henuriaid. Mae yn dysgu pawb i ymddwyn yn deilwng yn ei le ei hun. A phe cyrhaeddai ei hamcan, ni byddai y fath beth mewn bod a thyngu; ni byddai na godineb na lleidr ar y ddaear. Ei hamcan yw cael y byd yn gydffurf â deddf Duw a adroddir ynddi. Ac os na lwydda ni ddigalona, ac ni phaid a'i llafur. Pe llwyddai, ni byddai angen am y carcharau yn Mhrydain a manau eraill, ac ni fyddai y fath beth yn bod a chrogbren. Brysied y dyddiau hyfryd i ben.
Peth mwyaf gweithfawr yr Ysgol yw ei Llyfr. Mae yn werthfawr fel corsen fesur, i ni wybod a ydym yn ddigon o hyd a lled i fod yn yr adeilad ysbrydol yn y nef ; fel clorian i ni i bwyso ein hunain cyn y bydd Duw yn ein pwyso yn y farn. Mae yn werthfawr fel y drych i dynn gwrthddrychau pell yn agos. Yma gwelwn Dduw yn creu y byd heb ddim defnydd ; Noah yn gwneyd ei arch, a Duw yn boddi y byd; dinystrio dinasoedd y gwastadedd, a Lot yn dianc am ei einioes ; gweled Israel yn myned trwy y Môr Coch, ar Aiphtiaid yn boddi ynddo; yn taro y graig â'i wialen, ar dyfroedd yn dilyn Israel yn afonydd yn yr anialwch; yr Iorddonen yn troi yn ol, ac yn rhedeg tua'r mynydd yn lle tua'r môr Gallwn yma weled y pethau hyn oll megis pe yn ein hymyl. Gallwn hefyd weled pethau yn y dyfodol yma. Gwelwn ddydd mawr y farn, pan y bydd y Barnwr yn dyfod ar gymylau y nef, ac Adda a'i holl had yn ymddangos ger ei fron, i'w didoli yn ddwy dyrfa, a'u gwahanu am byth oddiwrth eu gilydd. Mae y Beibl hefyd yn werthfawr fel y drych i weled ein hunain ynddo. Dyma olwg yr ydym yn rhwym o'i chael yn rhywle. Gallai na welwn byth lawer man y clywsom am danynt; gallai na weli dy dad a'th fam, neu dy blant, ond byddi yn siwr o'th weled dy hun cyn bo hir. Ond gallwn gael hyn yn awr yn y Beibl. Gallwn yno weled y galon sydd fwy ei thwyll na dim, yr hon y mae holl fwriad ei meddylfryd yn unig yn ddrygionus bob amser, & gweled y canlyniadau ofnadwy o fyw yn ol y cnawd a gwasanaethu pechod. Gallwn yn y Beibl weled hefyd y dedwyddwch annhraethol o wasanaethu Duw a byw yn dduwiol. A gallwn ynddo ef weled Duw, yr hwn nis gwelodd dyn erioed ac nis gwêl byth. Y Beibl, sydd yn dangos y Tri yn un, ac yn dangos y môr, o gariad yn nghalon Duw at fyd colledig, a'r ffrydiau yn rhedeg o'r môr hwnw yn drugaredd a gras i galon y pechadur ar y ddaear. Llyfr y rhyfeddodau yw y Beibl. Yma y darllenwn am y Duw—a wnaeth y bydoedd â'i air wedi dyfod heb le i roddi ei ben i lawr ; y Gwr â greodd yr holl ffynhonau dyfroedd yn cael cynyg iddo y finegr a'r bustl yn ei syched; Creawdwr natur yn sugno bronau ei greadur. Ac y mae y Beibl yn werthfawr fel mynegbost i ddangos y ffordd i drafaelwyr. Mae y Beibl wedi cyfarwyddo miloedd o Gymry i'r ddinas ag iddi sylfeini, saer ac adeiladydd yr hon yw Duw. A diolch i Dduw, y mae y mynegbost yn aros ar y ffordd i ddangos y ffordd i ninau yn yr oes hon. Gwnawn sylw mawr o hono. Dychymygaf weled Cymro yn y nief yn gofyn i rai o drigolion New Zeland, Pa fodd y daethoch chwi yma? An hateb fydd, mai y llyfr da a anfonwyd iddynt o Brydain a'u cyfarwyddodd hwythau yno. .~ Bydd eu gweled eu hnnain a gweled eu gilydd yn y nef yn adgoffa i'r saint am byth werth y Beibl. A dyma Lyfr yr Ysgol Sul.
Mae yr Ysgol Sabbothol yn debyg iawn i'r llyn yn Jerusalem, yr hwn yr oedd angel ar amserau yn disgyn iddo ac yn cynhyrfu y dwfr. y neb a ddisgynai i'r llyn hwnw yn gyntaf, ar ol cynhyrfiad y dwfr, ai yn iach o ba glefyd bynag a fyddai arno. Mae Ysbryd Duw yn fynych yn disgyn i lyn yr Ysgol Sabbothol, ac y mae aml un wedi dechreu myned yn iach ynddo. Anwyl enaid, gochel aros gartref pan y gelli fyned i'r Ysgol, rhag mai y tro hwnw y bydd yr ysbryd yn disgyn, a'th gymydog yn myned adref yn iach, a thithau yn marw yn dy glefyd.
II
MYFYRDOD AR YR YSGOL SABBOTHOL.
Mae pwysigrwydd mawr yn perthyn i'r gwaith o ymdrin â holl osodiadau Duw; ac felly y mae i'r gwaith o ymwneyd â'i Air Sanctaidd. Nid yr un effaith sydd i'r haul naturiol ar bob peth. Mae yn caledu y clai, ond yn toddi yr ymenyn; yn peri i'r llysiau dymunol yn yr ardd arogli yn fwy peraidd, ond yn peri i'r domen fod yn fwy drewedig a ffiaidd. Felly am y Beibl. Nid yr un effaith y mae yn ei gael ar bawb. Mae rhai yn cael bendith arno i fod yn lles iddynt, ond y mae eraill yn myned yn fwy caled wrth ei ddarllen. Mae o bwys i ni i ystyried pa effaith y mae yn ei gael arnom. Nid chwareu plant yw ymwneyd â'r Beibl. Mae canlyniadau tragwyddol iddo. Bydd yn arogl marwolaeth i farwolaeth i ni, oddieithr iddo fod yn arogl bywyd i fywyd. Ac y mae hyn yn dangos y mawr, bwys a berthyn i swydd a gwaith athraw yn yr Ysgol Sabbothol. Bum yn meddwl lawer gwaith yn y cysylltiad hwn, Hyfforddia blentyn ymhen ei ffordd ; a phan heneiddio nid ymedy i hi.
Am y plentyn, ffol ac ynfyd heb ddeall ac heb synwyr ydyw ef, wedi ei eni fel llwdn asen wyllt. Gan hyny angenrhaid ydyw ei ddysgu am ei gyfrifoldeb i Dduw. Mae ei ogwydd at ddrwg hefyd bob amser. Mae holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn ddrygionus bob amser; ac felly rhaid ei hyfforddio at yr hyn sydd dda. O ran ei gyflwr, drachefn, y mae dan gollfarn deddf Duw, ac yn rhwym i farw yn dragwyddol. Teithiwr ydyw dyn yn y byd, yn myned trwyddo unwaith, trwy yr ysgol unwaith, trwy bob odfa unwaith, i fyw am byth yn y byd ysbrydol. Bydd cyfrifoldeb mawr yn gorphwys arnom pa fodd yr ymddygwn tuag ato. Mae Duw yn galw arnom i waredu y rhai a lusgir i angau. A dylem gofio fod y plentyn. yn werth gwaed. Yr oedd yr Iuddewon yn methu gwybod pa beth a wnaent â'r arian a daflodd Judas iddynt. Er caleted oeddynt, ystyrient nad oeddynt i ymddwyn tuag at werth gwaed fel tuag at beth cyffredin. Gwerth gwaed Iesu Grist yw, y plant; a difrifol fydd esgeuluso rhoddi iddynt hyfforddiant priodol. At hyn oll ychwaneger yr ystyriaeth nad yw y plentyn nai athraw yn gwybod eu hamser. Fel y pysgod a ddelir yn y rhwyd, ac fel yr adar a ddelir yn y delm, felly hwythau, heddyw yn yr ysgol, ar Sabbath nesaf yn y farn.
Cof genyf fy mod unwaith mewn ysgol gyda dosbarth o blant,: bach. Pan yn adrodd eu hadnodau, adroddodd un eneth fechan yr adnod, Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad, &c Gofynaia iddi beth ydyw pechaduriaid. Yr ateb oedd, Dwn i ddim Disgwyliwn gael digon o Sabbothau i'w hegwyddori yn fanylach;:, ond dyna y Sabbath olaf am byth iddi fod yn yr ysgol. Bum yn teimio lawer gwaith wedi hyny y dylai pob athraw roddi i'r plant dan ei ofal ddigon o addysg bob Sabbath i'w cyfarwyddo pa fodd fod yn gadwedig.
Mae yr araeth hon yn anorphenol. Nid yw yr uchod ond y sylwadau ar y plentyn Y rhaniadau eraill ydynt : Yr anogaeth neu cyngor, hyfforddia ef. Y Rheol, ymhen ei ffordd. Y ffrwyth neu y fendith, a phan heneiddio nid ymedy â hi.
III
Dyma ddernyn arall heb ei orphen. Byddai yn resyn iddo fyned ar goll.
MYFYRDOD AR YR YSGOL SABBOTHOL.
Mae gan yr Arglwydd Iesu fel Cyfryngwr winllan yn y byd bob amser; a phan y mae yn galw iddi, galw gweithwyr y mae. Os oes segurwyr ynddi, nid efe a'u galwodd. Efe a aeth allan a hi yn dyddhau i gyflogi gweithwyr i'w winllan. Dyna ddywed, "Fy. mab, dos, gweithia heddyw yn fy ngwinllan. Ac nid yfory, ond; heddyw." Un adeg sydd genym, a rhaid gwneyd y cwbl yn yr un adeg hono, Heddyw.
Ond dichon fod ambell un yn barod i ddweyd nad yw ef yn cael dim gwaith i'w wneyd, onide y byddai yn dda ganddo ei wneyd. Wel, fy nghyfaill, byddai yn dda i ti ystyried pa un a'i y winllan sydd heb ddim gwaith, a'i ynte ti sydd heb lygaid i'w weled. Fe welodd y wraig yn nhy Simon waith nad oedd neb arall yn y ty yn ei ganfod, sef golchi traed yr Iesu. A golchodd hwyy â'i dagrau, a sychodd hwy â gwallt ei phen. Pe buasai yno goron i'w gosod ar ei ben, yr oedd yno ddigon o rai eraill fuasai yn gweled gorchwyl felly, ac yn bur barod i'w wneyd; ond yr oedd digon o gariad yn y wraig i blygu at ei draed i wneyd cymwynas iddo.
IV
MYFYRDOD AR DDYLANWAD ADDYSG.
Yn y Beibl cawn gymhelliad at dri math o addysg, sef addysg gelfyddydol addysg foesol, ac addysg grefyddol.
1 Addysg gelfyddydol. Yr oedd yn ddiareb ymysg yr Iuddewon fod pwy bynag na ddysgai gelfyddyd i'w fab yn ei ddwyn i fyny yn lleidr. Cof genyf glywed hen fodryb yn dweyd wrth ei nai y byddai yn ddwy ar bymtheg oed y dydd cyntaf o Ebrill; ac nad oedd ganddo ond blwyddyn wedi hyny nes y byddai yn ddeunaw mlwydd oed, yr oedran i fyned at y militia. Ac os na byddai yn medru cyflawni pob gorchwyl y pryd hwnw y cyfrifid ef yn ffol.
Gwelais hanes am foneddwr, yn berchen etifeddiaeth o amryw ganoedd o bunau yn y flwyddyn, wedi ymserchu mewn boneddiges ieuanc, yr hon y dymunai ei chael yn wraig iddo. Pan yn gofyn cydsyniad ei thad, dywedodd yr hen foneddwr call fod yn rhaid i'r neb a gaffai ei ferch ef yn wraig iddo fod yn medru rhyw gelfyddyd,. Ffromodd y boneddwr ieuanc yn aruthr, a dywedodd fod ganddo ef etifeddiaeth eang, fel nad oedd yn rhaid iddo wrth unrhyw gelfyddyd. Mae ystad yn burion, meddai yr hen foneddwr, os bydd; ond y mae celfyddyd yn well. Yr oedd serch y gŵr ieuanc wedi ymglymu yn gryf am y foneddiges, ac ar unwaith ymroddodd i ddysgu y gelfyddyd o wneuthur basgedi. Wedi dysgu, cymerodd fasged o i waith ei hun at yr hen foneddwr, i ail ofyn ei gydsyniai. Cafodd y foneddiges ieuanc yn wraig; ond yn gynar yn ei oes collodd ei etifeddiaeth, a da oedd iddo bellach wrth ei gelfyddyd i ddwyn ei blant i fyny.
Dyledswydd rhieni ydyw dysgu i'w plant ryw alwedigaeth fuddiol, fel y gallont dybynu arnynt eu hunain wedi eu colli hwy. Hawdd iawn yw i nyth glyd gael ei chwalu, Dywedir y bydd yr eryr yn chwalu ei nyth er mwyn gorfodi ei gywion i ehedeg eu hunain. Dysgais gelfyddyd, ac os bydd modd, dysgwch wybod rhywbeth am fwy nag un gelfyddyd, canys y mae dull y byd hwn yn myned heibio. Mae ambell gelfyddyd yn myned yn lled ddiwerth trwy gyfnewidiad amgylchiadau. Yr oedd Abraham, yn dysgu ei deulu yn rhyfelwyr, Pwy fuasai yn tybio fod angen am i'r hen ffarmwr wneyd hyny? Onid digon oedd iddo amaethu ei dir? Ond gwr ynwyrol oedd ef. Da iawn, erbyn caethgludo Lot, ei nai, gan y brenhinoedd, oedd fod ganddo 318 o wyr yn medru trin arfau. Da yw darpar ar gyfer yr hyn nad yw yn y golwg.
Mae y rhyw fenywaidd yn derbyn cam mawr yn fynych yn y peth hwn, Mae yr eneth yn hynaf o chwech o blant, rhaid iddi siglo y cryd, a gofalu am y plant lleiaf, nes ydyw yn amser iddi droi allan i'w gwasanaeth; ac y mae yn dyfod yn wraig ac yn fam ei hun cyn iddi gael cyfleusdra i ddysgu gwneuthur y gorchwylion angenrheidiol iddi yn ei theulu. Er myned i'r sefyllfa briodasol yn eithaf anrhydeddus, bydd hi a'i theulu yn dioddef oherwydd yr anfantais hon.:
Rhaid talu o enillion prinion ei gwr am wneuthur gorchwylion y dylasai fod wedi cael ei dysgu i'w cyflawni ei hunan.
2 Addysg foesol. Mae Llyfr y Diarhebion yn frith o gymhellion at rinweddau moesol. Dysgir i ni yma foesgarwch mewn amgylchiadau cyffredin, yr hyn sydd yn harddwch i ddynoliaeth ac yn ogoniant i grefydd. Dysgir ni i beidio diystyru y tlawd, i beidio troi ein llygaid oddiwrth yr anghenus. Gelwir arnom i gyfodi gerbron penwyni a pharchu wyneb yr henuriaid, ar cyffelyb. Mae yn y Llyfr hefyd gymhellion cryfion at y Rhinwedd prydferth o ddiweirdeb, yr, hwn y mae ein diffyg ni o hono wedi ein darostwng fel gwlad. Mae hyn yn sefyll i raddau wrth ddrysau y rhieni. Yr oedd Solomon yn rhoddi addysg fel tad, ac yn dywedyd fod y fam yn gwnenthur hyn yn gyfraith. Diau fod rhy fychan o godi ar y rhinwedd hwn gartref ar yr aelwyd, trwy ei ddangos yn ddymunol ynddo ei hun, ac yn dwyn hefyd gydag ef fendith ac amddiffyn yr Arglwydd. Ond gallai yr athraw wneyd llawer er meithrin y rhinwedd hwn yn ei ddosbarth, pe bai yn arfer ei ddylanwad gydai ddisgyblion. Gallai ddangos iddynt mor ddyniunol ydyw myned i'r sefyllfa briodasol yn anrhydeddus, yn annibynol ar bob ystyraethau crefyddol. Mae anniweirdeb yn drygu y wlad ymhob ystyr; er nad oes angen cadw o'r golwg y canlyniadau eithaf "Y neb a becho yn fy erbyn a wna gam â'i enaid ei hun. Deffroed Ysbryd yr Arglwydd rieni, athrawon, a gweinidogion yr efengyl i godi eu llef yn y dyddiau hyn yn erbyn yr anwiredd hwn.
3 Addysg grefyddol. hyfforddia blentyn ymhen ei ffordd, a phan heneiddio nid ymedy â hi. Mae y plentyn yn fwy ei werth na chun o aur dilin, ie, na'r holl fyd, pe buasai pob llwchyn o hono yn aur. Nid oedd dim yn ddigon o werth i brynu plentyn ond y Duw a wnaeth y byd â'i air, a hyny wedi ymuno â natur y plentyn, a marw yn y natur hono. Er gwerth ych prynwyd; gan hyny gogoneddwch Dduw yn eich corff ac yn eich ysbryd. Mae yn gwaredwr tragwyddol ei barhad. Pe rhifld sêr y nef, tywod y môr, wellt y ddaear, dail y coed, a phob blewyn ar gefn pob anifail ar wyneb y ddaear, a rhoddi blwyddyn, ie, mil o flynyddoedd am bob un o honynt, ni byddai y cwbl yn ddim yn ymyl oes y plentyn. o greadur rhyfedd ac ofnadwy Hyfforddia ef ymhen ei ffordd.
Pa le y mae y ffordd? Yn y Beibl. Map ydyw'r Beibl, ac y mae ffordd y plentyn yn line trwyddo yn gwbl eglur. Pa le y mae yn dechreu? Yn y man y mae y plentyn yn dechreu bod ; ac y mae yn dibenu yn nef y gogoniant. Ffordd y bywyd sydd fry i'r synwyrol, i ochel uffern obry. Gan ei fod ef yn synwyrol, gall fyned y ffordd a fyno? Na, rhaid iddo fyned ar i fyny bob cam. Er gweled lluoedd yn treiglo i lawr i'w gyfarfod bob dydd tua cholledigaeth, rhaid iddo gadw ei olwg i fyny. A oes perygl iddo golli y ffordd? Nac oes, ond cadw ei olwg ar y mynegbyst. Ac y mae y rhai hyn mor aml. Na ddilyn liaws i wneuthur drwg. Na fydd ymysg y rhai sydd yn meddwi ar win. Nac edrych ar y gwin pan fyddo coch. Cadw yn bell oddiwrthi hi. Na nesaf at ddrws ei thŷ hi. Ac y mae y manau peryglus yn cael eu dangos yn y llyfr. Fel y light house yn dangos i'r morwr y graig yr aeth llawer llong i lawr arni; felly y mae y manau peryglus wedi eu nodi allan yn y Beibl gan gwymp a dinystr y rhai a syrthiasant ynddynt. Ac y mae yr Iesu yn esiampl berffaith, "Gan edrych ar Iesu."
A phan heneiddio nid ymedy â hi. Edrychwch ar y plant a gawsant hyfforddiant priodol, megis Moses, Samuel, Jeremiah, Ioan Fedyddiwr, a Timotheus Trwy hyfforddiant boreu y mae gochelyd codymau peryglus, ac yn enwedig y mae gobaith dyfod yn ddefnyddiol iawn gyda chrefydd.
Yn Canlyn y mae dau Fater Ysgol a barotowyd ganddo :
I
ATHRAWIAETH Y CYFRIFIAD.
I. GOFYNIAD. Pa bethau a welir yn athrawiaeth y cyfrifiad?
- Atebiad 1. Cyfrifiad o bechod cyntaf Adda i'w holl had naturiol.
- 2. Cyfrifiad o bechodau yr eglwys ar Grist.
- 3. Cyfrifiad o gyfiawnder Crist i'w eglwys. II. G. Pa beth a ddeallir wrth gyfrifiad yn yr athrawiaeth hon?
- A. Y weithred oruchel o eiddo Duw yn rhoddi neu yn trosglwyddo euogrwydd neu gyfiawnder y naill berson a'i roddi ar berson arall.
III. G—Pa beth yw sail cyfrifiad?
- A. Cyfamod, neu gyfamodau.
IV. G. A wnaeth Duw gyfamod âg Adda?
- A. Do, mae pob peth hanfodol i gyfamod i'w cael yn yr ymddiddan rhwng Duw âg ef. Gen. ii. 16, 17
- 1. Gorchymyn i beidio bwyta o ffrwyth y pren gwaharddedig.
- 2. Bygythiad o gosb ynglyn â r trosedd.
- 3. Addewid o fywyd yn gysylltiedig wrth ufudd—dod i'r gorchymyn.
V.G. Tros bwy yr oedd Adda yn rhwym yn y cyfamod hwn?
- A. Trosto ei hun a'i holl hiliogaeth naturiol, y rhai oeddynt ynddo ef fel eu tad. Rhuf. v 12
VI G. Pa bethau sydd yn profi fod y trosedd hwn yn gyfrifedig i'w holl had?
- A. 1. Fod dynolryw yn gyffredinol yn cyfranogi yn dymhorol o'r felldith a'r poenau a roddwyd ar Adda am anufuddod. Gen. iii. 17—19
- 2 Fod pechod cyntaf Adda wedi dwyn barn o gondemniad ar bawb. Rhuf. v. 16—18 Eph. ii. 3
- 3. Fod babanod yn ddarostyngedig i boenau ac angau cyn gweithredu yn bechadurus eu hunain. Rhuf. v:14; vi:23
- 4. Fod pawb yn dangos mor fuan ag y delont i allu, gweithredu, mai at bechod y mae eu tueddiad, Ps. lviii. 3 Esaiah xlviii. 8
- 5. Fod holl ddynolryw wedi cydogwyddo at bechod. Ps. xv. 3 Rhuf. iii, 12
- 6. Fod pob dyn yn cael ei eni yn amddifad o wreiddiol sancteiddrwydd ac yn llygredig o anian.
VII. G.
- A ydyw yn gyfiawn fod anufudd-dod Adda yn cael ei ei gyfrif i'w hiliogaeth, a hwythau heb ei ddewis yn gynrychiolydd iddynt?
- A. Ydyw, 1. Mae yn anmhosibl i'r Duw anfeidrol ddoeth fethu mewn dim. Ps. cxlv. 17 ; Gen. xviii. 25
- 2. Doniodd Duw Adda â phob cymhwysderau i'r swydd o gynrychiolydd ei had, y rhai na bu neb arall yn eu meddu. Gen. i. 26, 27 ; Preg. vii 29
- 3. Pe cadwasai y cyfamod, yna buasai ei ufudd—dod yn cael ei gyfrif i'w had, fel y cyfrifwyd ei anufudd dod Rhuf. vii. 10
VIII. G. A gyfrifwyd pechodau ei bobl ar Grist?
- A. Do. Esaiah liii. 6
IX. G. Pa beth yw yr achos o'r cyfrifiad hwn?
- A. 1. Cariad hunan.gynhyrfiol Duw at ddynion. Ioan iii:16, 17
- 2. Y cyfamod rhwng y personau dwyfol yn nhragwyddoldeb. Diar. xiii. 22, 23 ; Esaiah xlii. 6, 7
X. G. Beth oedd sefyllfa Crist yn y cyfamod hwn?
- A. Pencyfamodwr a meichniydd
XI. G.Pa beth yw pencyfamodwr?
- A. Un yn ymrwymo i gyflawni amodau y cyfamod dros y rhai yr oedd yn cyfamodi yn eu hachos. Ps. xl. 7, 8
XII. G. Pa beth yw Meichionydd
- A. Un yn y canol rhwng y dyledwr a'r gosb, a rhwng y gofynwr a'r golled.
XIII. G. A atebodd Crist i ofynion y Tad?
- A. Do, yn berffaith.
XIV. G. A safodd Crist rhwng y dyledwr ar gosb?
- A. Do, yn wirfoddol. Ioan xviii—79
XV. G. Pa bethau yn mhellach sydd yn profi fod pechodau ei bobl ar Grist?
- A. 1 Cysgodau o Grist oedd y ddau fuwch ar wyl y cymod yn Israel, ar y rhai y rhoddid anwiredd y gynulleidfa. Lev. xv. 810, 21, 22; 1 Petr ii. 24
- 2. Daeth Crist y deddfroddwr dan y ddeddf. Gal. iv. 4, 5.
- 3. Dioddefodd Crist, y dibechod, a bu farw dan gosbedigaeth pechod. Rhuf. vi. 23; Dan. ix. 26.
XVI. G. Pechodau pwy a roddwyd ar Grist?
- A. 1. Pechodau ei bobl a roddwyd arno gan y Tad. Ioan x. 11, 15.
- 2. Daeth Crist y deddfroddwr dan y ddeddf. Gal. iv. 4, 5
- 3. Dioddefodd Crist, y dibechod, a bu farw dan gosbedigaeth pechod. Rhuf. vi. 23; Dan. ix. 26
XVI. G. Pechodau pwy a roddwyd ar Grist?
- A.1. Pechodau ei bobl a roddwyd arno gan y Tad. Ioan x. 11, 15
- 2. Pechodau y rhai a sancteiddir ar ddelw Duw yn byd hwn. Ioan xvii. 11, 12, 17
- 3. Y rhai a ogoneddir gyda Christ yn y nefoedd. Ioan xvi. 24; Rhuf. viii. 29, 30
XVII. G. Pa beth a olygwch wrth gyfrifiad o gyflawnder Crist i'w bobl?
- A. Fod Duw Dad fel barnwr ac amddiffynwr ei gyfraith yn cyfrif yr hyn a wnaeth eu cynrychiolwr mawr drostynt i fod yn eiddo iddynt hwy. Esaiah xci. 10; liv:17; Rhuf. v:6; viii:33
XVIII. G. Onid oes gan y saint gyfiawnder o'r eiddynt eu hunaint
- A. Nac oes. Bratiau budron yw eu holl gyfiawnderau. Esaiah lxiv 6
- 2. Mae y saint wrth natur yn greaduriaid euog megis eraill, ac oni wneir hwynt yn gyfiawn bydd cyfiawnder yn gofyn eu taro hyd yn nod yn y nefoedd; canys ni all cyfiawnder gyd—drigo mewn heddwch âg euogrwydd. Num. xv. 18; Ps. lxxxv. 10, 11
- 3. Mae y saint yn sychedu am gyfiawnder Crist. Phil. iii. 9
- 4. Maent yn casâu eu cyfiawnderau eu hunain. Phil iii. 8
- 5. Yn nghyfiawnder Crist y byddant mor hardd eu hymddangosiad yn y nefoedd. Dat. vii. 9, 13, 14
XIX. G. Pa beth sydd i'w ddeall wrth gyfiawnder Crist?
- A. Ei ufudd—dod perffaith i'r gyfraith yn ei fywyd, a'r Iawn a dalodd yn ei angau. Rhuf. v. 19; 1 Petr iii. 18
XX. G. A ddichon barnwyr mewn llysoedd gwladol gyfiawnhau yr anghyfiawn a bod yn gyfiawn wrth hyny?
- A. Na ddichon. Deut. xxv. i.
XXI.G. A all Duw gyfiawnhau yr euog, a bod yn gyfiawn wrth hyny?
- A. Gall, trwy ei fod yn cyfrif iddo gyfiawnder perffaith, Crist. Rhuf. iii. 26
Mae rhanau o'r Mater uchod i'w cael yn llawysgrifeu R. E ei hun, wedi eu hysgrifenu bedair gwaith, gyda rhyw gyfnewid iadau bob tro; ond nid yn yr un o honynt yn y ffurf uchod yn yn hollol. Y tebyg yw i'r Mater, cyn ei osod o flaen yr Ysgol, gael ei ddwyn gerbron y brodyr Samuel Williams a Howell Jones, ac i ychydig gyfnewidiadau gael eu dwyn i mewn iddo ganddynt hwy. Yn ydym yn tybio mai yn llawysgrif H. J. y mae i lawr yn y llyfr. Yn un o lawysgrifau R. E, ceir y gofyniad canlynol ar atebiad fel hyn
- G.Pa beth yw cyfrifiad?
- A. Rhoddi rhinwedd neu fai un o blaid neu yn erbyn un arall. Philemon 18
- Ac mewn un arall, ceir y cwestiwn ar ateb canlynol:
- G. Am ba sawl math o gyfrifiad y sonir yn y Beibl?
- A. Dau. 1 Cyfrifiad o eiddo dyn iddo ei hun. Ezec. xviii 20
- 2. Cyfriliad o eiddo dyn arall iddo. 2 Bren. xxv. 3 4
Mewn un ysgrif hefyd, ychwanegir y geiriau canlynol at vii. 3, Ac ni buasai neb yn gweled hyny yn anghyfiawn mwy nag y gwelir yn anghyfiawn i fab etifeddu etifeddiaeth a berthynai i'w dad.
AM FFYDDLONDEB GYDA GWAITH YR ARGLWYDD
- GOFYNIAD A ydyw yn ddyledswydd arnom fod yn ffyddlawn gyda gwaith yr Arglwydd?
- ATEB. Ydyw, oblegid
- 1. Mae Duw wedi gosod dynion yn y byd hwn yn oruchwylwyr drosto. 1 Cor. iv:2
- 2. Ffyddloniaid ydyw un o enwau y saint yn y fuchedd hon. Ephes. i:1
- G. Beth yw ffyddlondeb?
- A. Cywirdeb a gonestrwydd Un ffyddlon yw un yn ateb i'r ymddiried a roddwyd ynddo. Gen. xviii. 17—19.
- G. Ymha bethau y mae flyddlondeb y saint i'w weled?
- A.i. Yn eu gw—ith yn cynal y wi'r athrawiaeth yn ngwyneb holl gyfeilirnadau yr oes 1 Tim. iii. 15 ; Judas 3.
- 2. Trwy fod yn llafurus i ledaenu yr efengyl dros yr holl fyd. Rhuf. xv. 19, 20; 1 Thes i. 8.
- 3. Yn ei dyfal ymarferiad âg ordinhadau ty Dduw. 1 Cor. xi, 26.
- 4. Trwy anog eraill i bob rhinwedd a duwioldeb. Heb. iii. 13.; Col. iii. 16.
- 5. Trwy gadw disgyblaeth yn nhy Dduw. 2 Thes. iii. 6; 1 Cor. v. 11—13.
- 6. Mewn haelioni at gynal achos Duw yn y byd mewn pethau arianol. 2 Cor. viii. 35; Ezra ii. 69.
- 7. Trwy roddi esiamplau da i eraill i fyw yn addas i'r efengyl, a gogoneddu Duw. Phil. iii. 17; 1 Cor. x. 32, 33; Heb. xiii. 7.
- 8. Mewn glynu wrth achos yr Arglwydd trwy bob tywydd ac amgylchiad. Num. xv. 24; Actau xx. 24; Heb. x. 39.
- 9. Trwy roddi eu bywydau i lawr dros Grist a'i achos os gelwir am hyny. Act. xxi. 13; Dat. ii. 13.
- G. Pa bethau sydd yn anogaethol i ffyddlondeb?
- A. Ffyddlondeb y personau dwyfol yn iachawdwriaeth pechadwriaid.
- 1. Ffyddlondeb y Tad yn caru ac yn ethol pechaduriaid yn Nghrist, ac yn eu tynu ato. Rhuf. viii, 29, 30; Ioan vi. 44 Num. xxiii. 19.
- 2. Ffyddlondeb y Mab yn marw dros bechaduriaid fel Mechniydd. Hos. xiii. 14; Gal. iii. 13, 14.
- 3. Ffyddlondeb yr Ysbryd Glân yn codi delw sanctaidd arnynt. Phil. i. 6; Eph. v. 26, 27.
- G. A oes rhyw bethau eraill yn anogaethol i ffyddlondeb?
- A. Oes. 1. Y ganmoliaeth a rydd yr Arglwydd i'r rhai ffyddlawn, megis
- (a) Abraham, Gen. xii. 1 ; Heb xi. 8; Gal. iii. 9
- (b)Moses, am ei ffyddlondeb yn arwain Israel i dir yr addewid. Nuni. xii. 7, 8; Heb. iii. 5.
- (c)Dafydd, am ei ffyddlondeb yn llwyr feddianu y wlad, ac yn dfetha ei holl elynion. 1 Sam. xiii. 14 ; Actau xiii. 22.
- (d)Y Rechabiaid, am eu ffyddlondeb yn cadw gorchymyn eu tad. Jerem. xxxv. 1319.
- 2. Y gwobrwyau a addewir gan yr Arglwydd i'r rhai ffyddlawn.
- (a) Tymhorol. Deut. xxviii. 1, 2; l Bren. iii. 14.
- (b) Ysbrydol a thragwyddol. Dat. ii. 10; Mat. xxv. 21.
Wele eto un engraifft o'r Anerchiadau a draddodid ganddo ar nos Sabbothau. Yr ydym yn cofio yn dda y traddodiad o'r anerchiad hwn. Yr oedd ef ei hun dan deimlad dwys, yn enwedig wrth draddodi y darn olaf; ac yr ydym yn dra sicr fod yr ychydig sydd yn aros o'r rhai a'i gwrandawent yn cofio am ddwysder eu teimladau eu hunain dano.
MYFYRDOD AR DIARHEBION XIV:32.
"Y drygionus a yrir ymaith yn ei ddrygioni; ond y cyfiawn a obeithia pan fyddo yn marw. "
Mae yr adnod hon fel y golofn gynt, rhwng yr Aiphtiaid ar Israeliaid, un ochr dywyll ac un ochr oleu iddi.
Cael ei yru y mae y drygionus o borth y geni i borth y marw. Mae ei chwantau pechadurus, a'r diafol yn ei yru trwy ei oes, fel nad oes iddo seibiant haf na gauaf, Sabbath nac wythnos, dydd na nos. Wedi cyflawni un pechod, mae yn cael ei yru i gyflawni pechod arall drachefn o'r un natur ddieflig a diystriol, ac felly ymlaen trwy ei oes. Mae yn was i'w chwant ei hun, yn was i'r diafol. Meistr caled iawn yw y chwant. Ni ddywed byth Digon mwy na'r bedd. Gresyn fod neb yn was i'w chwantau. A meistr ofnadwy o galed yw y diafol hefyd, hollol ddidrugaredd. Mae yn gyru ei weision o ddrwg i ddrwg, nes o'r diwedd y maent yn rhy ddrwg i fyw ar y ddaear. Mae miloedd o honynt yn marw cyn haner eu dyddiau, oherwydd eu llafur yn ngwasanaeth yr un drwg. Llawer meddwyn wedi lladd ei hun; llawer godinebwr wedi dinystrio ei gyfansoddiad cyn haner ei ddyddiau. O, y fath resyn fod y fath greadur, w—edi ei gynysgaeddu â rheswm a chydwybod, yn ymroddi gyda'r fath ffyddlondeb i wasanaethu un mor greulon ar diafol! Un nad oes ganddo le i roddi ei weision yn y diwedd ond llyn yn llosgi o dan a brwmstan. Ofnus yw y bydd llawer Cymro yn barod i ddweyd wrth y diafol yn uffern, O greadur creulawn a melldigedig Ar ol i mi dy wasanaethu âm holl egni bob dydd o'm hoes, a'i dyna y lle sydd genyt i un yn y diwedd? A digon tebyg y bydd yntau yn barod i ateb fel yr archoffeiriaid gynt wrth Judas, Beth yw hyny i mi? edrych di.
Ond nid gyru i bechu a olygir yn yr adnod hon, yn hytrach ei yru o'r byd i dragwyddoldeb. Bydd amser yn ei yru. O bob rhoddion a ddarfyddant, dyma y fwyaf o'r cwbl. Mae amser o fwy o werth na'r ffarm oreu yn y sir, yn well na'r gelfyddyd oreu, yn well na'r mwynglawdd cyfoethocaf yn yr holl fyd. Ond er cystal ydyw, y mae yn gyru y drygionus ymaith bob anadliad. Mae yn ei yru y dydd ar nos, yn effro ac yn nghwsg, yn glaf ac yn iach, heb aros, A buan cawn y bydd wedi ei yru dros y geulan, i'r byd lle y bydd yn medi ffrwyth ei lafur a'i fywyd annuwiol yn y fuchedd hon.
Mae cystuddiau, croesau, profedigaethau, a damweiniau yn ei yru ymaith i dderbyn ei gyflog. Ac y mae deddf a chyfiawnder yn ei yru i'r carchar fel troseddwr
A dyma sydd yn ofnadwy. Y mae yn myned yn ei ddrygioni. Os na ysgerir rhwng dyn a'i ddrygioni yn y byd hwn, ni bydd dim ysgar arnynt byth. Pan y dywed enaid y drygionus, Dyma fi yn myned at Dduw i farn, dywed ei ddrygioni, Mi ddof finau yno gyda thi—Pan y dywed y corff, Dyma fi yn myned i orwedd yn y bedd, fe ddywed ei ddrygioni, Mi ddof finau i orwedd ar dy esgyrn yn y pridd. Ac yn y boreu mawr, pan y dywed y corph Dyma fi yn myned i godi, i gael fy uno unwaith eto a'r enaid melldigedig hwnw, fe ddywed ei ddrygioni, Mi ddof finau gyda thi. Lle y lletyech di y lletyaf finau byth mwy. Y Duw sydd yn llawn o ras a dorro yr undeb rhwng y drygionus a'i ddrygioni yn y byd hwn.
Gyrir ymaith y drygiouus yn ei ddiygioni, fel y troseddwr yn ei rwymau. Gwaith y drygiouus yw giwneyd rhwyniau iddo ei hun, gwau y rhwyd a gwneyd y rhaffau i'w ddal ei hun, casglu tanwydd i'w losgi ei hun am byth. Ei amynedd ei hun a ddeil yr annuwiol, ac efe a ddelir â'i rhaffau ei bechod ei hun.
Nid yw yr hyn a ganlyn ond engraifft o anerchiadau a draddodid ganddo yn achlysurol yn y Cyfarfodydd Eglwysig pan y byddai mater neillduol dan sylw.
Y WEDDI DEULUAIDD.
Mae gan y chwiorydd fwy i'w wneyd, fe allai, nag a feddyliwn er hwyluso y ffordd gyda'r addoliad teuluaidd. Wedi boreufwyd, bydded iddynt oddef i fân orchwylion, megis golchi y llestri, crynhoi y te, &c, gael eu gadael nes y byddo yr addoliad drosodd, fel na choller amser y pen teulu ac aelodau eraill y teulu y byddo eu gorchwylion yn galw am danynt. Bydded y plant wedi eu gwisgo yn brydlon, a gofaler am berffaith dangnefedd. Dyrchafu dwylaw sanctaidd sydd i fod, heb na digter na dadl. Mae un gair chwerw a chyffrous yn ddigon i darfu ysbryd addoli o'r teulu am ddyddiau. Hefyd y mae yn ofynol i'r hwn fyddo yn cynal yr addoliad fod wedi derbyn yr eneiniad oddiwrth y sanctaidd hwnw, er ei gadw rhag.—myned yn ffurfiol a diflas. Yr oedd Moses yn myned o'r neilldu oddiwrth y bobl at yr Arglwydd; ac erbyn dychwelyd at y bobl yr oedd ei wyneb yn disgleiriio. Ac felly y mae yr Iesu yn ein dysgu. "Dos i'th ystafell, ac wedi cau dy ddrws gweddia ar dy Dad yr hwn sydd yn y dirgel, a'th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel a dâl i ti yn yr amlwg."
Nis gallwn lai na theimlo fod y ddau lythyr canlynol yn haeddu lle yn y fan hon; er mai nid heb beth petrusder yr ydym yn dodi i mewn y diweddaf.
Ysgrifenwyd y llythyr hwn ganddo at ei ferch Jane, yn hâf y flwyddyn 1854, wedi iddo ddychwelyd o Landrindod. Bu am flynyddau yn myned i'r Ffynhonau, ac yn derbyn lles mawr yno. Nid oedd yn y byd ddim a wnaeth gymaint o les i'w iechyd a dyfroedd y Pistyll Bach.
Anwyl Ferch,
Clywsom ddydd Sadwrn eich bod yn iach, a da oedd genym hyny. Gobeithio eich bod yn parhau felly eto a'r teulu yna oll. Yr ydym ninau yn debyg fel arferol Nid yw eich mam nemawr salach er pan y daethum adref.
Mae y plant yn iach, ac wedi bod yn blant pur dda tra y bum i ffwrdd. Go wanaidd yr wyf fi yn teimlo fy hun hyd yn hyn; ond yr wyf yn dal i obeithio gwella peth fel y cerddo yr amser, os gwêl y Brenin mawr hyny yn oreu. Byddaf yn ceisio meddwl fod fy amserau yn ei law; am dyled am braint yw ymddiried ynddo byth. Ond pa bryd bynag y byddaf fil farw, mawr ddymunwn fod fy mhlant i gyd yn rhodio yn holl orchymynion a deddfau yr Arglwydd yn ddiargyhoedd. Bum yn meddwl llawer am y geiriau hyny yn y drydedd benod o'r Datguddiad, Dal yr hyn sydd genyt, fel na ddygo neb dy goron di. Y goron fwyaf o bob peth yw duwioldeb. Dyna yw prydferthwch mwyaf hen ac ieuanc, byw yn dduwiol ymhob peth.
Bum yn meddwl am lawer o ieuenctyd wedi colli y goron hon duwioldeb. Cofia dithau y cyngor, Dal yr hyn sydd genyt, fel na ddygo neb dy goron di. Mae holl fywyd y Cristion yn fywyd o lafur ac ymdrech; a chofia na wna yr Arglwydd mo'th waith di a minau. Coroni yr ymdrech y mae Ef bob amser. Arglwydd y lluoedd a fyddo yn Dduw i ti byth.
Dy rieni,
II
Anwyl Frawd,—
Dyma hir ei ddisgwyl wedi dyfod o'r diwedd. Gallaf ddweyd na fu fawr o ddyddiau er pan welais dy gefn yn myned heibio y Culyn na byddwn yn meddwl am danat; ac mi feddyliwn dy fod yn barod i ddweyd, "Drwg yw yr arwydd". Nis gwn yn iawn beth i'w roddi i lawr yn mhellach; ond yn gyntaf oll yr wyf yn dra diolchgar am y llythyr a dderbyniais oddiwrthyt. . . . . Hysbysais yn yr eglwys am dani, a da oedd ganddynt oll glywed am danat. Yr ydym hyd yn hyn yn ceisio cofio am danat wrth orsedd gras. Hyderaf dy fod dithau yn cael blâs ar y busnes enillfawr o weddio. Y gweddiwr mawr yw y Cristion mawr. Gall un fod yn rhyw fath o bregethwr mawr, er bod yn weddiwr bychan; ond Cristion bach wedi y cwbl Yr oedd yn dda genyf dy glywed yn dweyd yn y society ddiweddaf cyn ein gadael, dy fod, os nad oeddit yn twyllo dy hun, wedi cyflwyno dy hun i wasanaeth Iesu Grist am byth. Ynglyn Ar ystynaeth yna, mi ddymunwn roddi darn o adnod i ti, a dyna hi, Tydi gwr Duw, gochel y pethau hyn; a dilyn gyfiawnder, duwioldeb, ffydd, cariad, amynedd, addfwyndra. Dymunwn i ti edrych arnat dy hun yn y nodwedd hwn bob amser. Cofia mai gwr Duw ydwyt, nad ydwyt yn eiddot dy hun, ond eiddo dy berchen. A chofia dy fod felly yn eiddo un gwell na thi dy hun, dy fod yn eiddo y goreu, yn eiddo yr hwn sydd yn ffynon pob daioni sydd mewn bod.
Yr wyt yn well, Yr wyt yn well,
Na'r India bell a'i pherlau drud.
Oll yn gyfan, Oll yn gyfan
Ddaeth im meddiant gyda'm Duw.
Mae yr Apostol Paul yn coffâu y teitl hwn ar y pregethwr ieuanc gyda golwg ar ysbryd ymgyfoethogi, caru arian, yr hyn a welai efe yn ffynu yn fawr yn y wlad y pryd hwnw. Tydi, gwr Duw, gochel. Mae llawer o'r un ysbryd yn y byd yn ein dyddiau ninau. Arian yw y peth mawr sydd yn ferw mewn byd ac eglwys. Ac feallai ei fod ymysg y gwyr ieuainc sydd yn yr Athrofa: os nad ydyw, goreu oll Ond tydi, gochel y pethau hyn. A dilyn gyfiawnder, dilyn dduwioldeb, dilyn ffydd, dilyn gariad, amynedd, addfwyndra. Mae y pethau hyn oll yn werth i redeg ar eu hol, ac nid yn unig i fyned i ben y gamfa i'w cyfarfod, ond dros y gamfa i ganol y cae er mwyn cael gafael ynddynt.
Pe digwyddai i'r temtiwyr dy demtio i falchio, dywed wrtho mai gwr Duw ydwyt; ac nad oes genyt ddim ond a dderbyniais, mai Duw a roddodd i ti y ddawn sydd genyt er mwyn ei eglwys a bwrcaswyd â phriod waed ei Fab, tad ydyw y cwbl yn ddim i ti ond chwanegiad llafur corff a meddwl. Ie dywed mai baich yw y dalent a roddwyd arnat; ond cofia hefyd mai nid baich i'th lethu, ond baich a defnydd cynhaliaeth ynddo ydyw. Gochel i ddim o wynt Haman chwythu arnat. Os digwydd i ryw wynt drwg chwythu arnat saf bob amser yn ymyl y groes. Ar ei liniau, ac ar ei wyneb ar y ddaear yr oedd Iesu Grist yn ei gyfyngder. A dyna y fan i ti a minau i disgwyl goruchafiaeth.
Yr wyf yn dra hyderus na thramgwyddi wrth y geiriau hyn, ond y cymeri hwynt yn ffrwyth caredigrwydd. Maent yn codi oddiar gariad atat, a gwir ofal am danat. Bendith y nefoedd ath ddilyno. Ni byddi byth yn fwy cysurus nag y dymunwn i ti fod. Yr ydym ni yma o drugaredd Yn. weddol iach. Llythyr yn fuan.
PENOD X
CYDWEITHWYR ROWLAND EVANS YN ABERLLEFENNI
CRYBWYLLASOM eisoes am un o'r rhai boreuaf o honynt, sef Richard Owen, Ceiswyn. Un arall teilwng o grybwylliad parchus ydoedd Thomas Hughes, y Tŷ Uchaf, ac wedi hyny o'r Caecenaw, a thrachefn o Grachfynydd. Yn Bwlch Helygen y ganwyd ac y magwyd ef, ac y mae rhai o'r teulu yn aros yno eto. Diweddodd ei oes yn Braich-llwyd, gerllaw Dinas Mawddwy, tua 1845 Yn ei dy ef, y Tŷ Uchaf, y dechreuwyd pregethu yn Aberllefenni; ac yr oedd ef a'i briod, Margaret Hughes, yn wir grefyddol. Yr ydym yn cofio y ddiweddaf yn dda; ond yr oedd Thomas Hughes wedi marw cyn cof genym. Meibion iddynt hwy ydyw Hugh Hughes, Tyddyn-du, yr hwn sydd flaenor ffyddlawn ers blynyddoedd yn Rhiwspardyn, a David Hughes, Corris (o'r Fron fraith gynt), ar diweddar John Hughes, Blaenglesyrch; ac yr oedd iddynt hefyd amryw ferched. Gŵr duwiol iawn oedd T. H, a chywir hollol ymhob peth. Darllenasai lawer ar y Beibl ac ychydig lyfrau eraill, ymysg pa rai y dywedai y diweddar Barchedig John Jones, Brynteg, fod Llyfr Gurnal. Treuliodd ef a Rowland Evans oriau lawer gwaith wrth ddyfod i fyny o'r Cyfarfod Eglwysig yn Nghorris i siarad am bethau crefydd; a byddai ar adegau nifer o bobl ieuainc yn eu dilyn er mwyn clywed yr ymddiddan. Ni chafodd fyw i weled yr un o'i feibion yn aelodau crefyddol, er iddo weddio llawer drostynt. Un o'r pethau mwyaf effeithiol a gofiwn yn adeg y diwygiad yn 1858, daeth llawer iawn i'r eglwys cyn 1859, yr adeg y torodd y gorfoledd allan, ydoedd arosiad un o honynt yn yr eglwys ar nos Sabbath, pryd y coffaodd Robert Jones, Machine, gyda theimlad dwys, sylw Thomas Hughes, ei fod yn credu addewid Duw, y byddai yn Dduw iddo ef ac i'w had ar ei ol Yr oedd y pryd hwnw ymhen blynyddoedd wedi ei gladdu, arwyddion fod yr addewid yn cael ei chyfiawni. Yn gymharol ddiweddar y bu farw ei weddw, ar ol bod am mlynyddoedd lawer yn fam yn Israel. Thomas Hughes a fu yn offeryn i ddwyn Robert Jones ei hun i mewn i eglwys Dduw.
Un o gydlafurwyr ffyddlonaf R. Evans yn Aberllefenni am flynyddoedd ydoedd Howell Jones, Gell Iago. Mab oedd efe i Shon Rhisiard, yr Hen Shop. Nid ydym yn deall iddo gael ond ychydig o fanteision addysg; ond bu yn hynod lafurus gydai addysgiaeth ei hun. Heblaw fod ganddo lawysgrif dda, yr oedd wedi dysgu ysgrifenu Cymraeg yn gywir, ac wedi enill cydnabyddiaeth weddol â'r iaith Saesneg. Darllenasai yn ddiau fwy na neb yn ei ardal; ac yr oedd yn ddyn manwl mewn meddwl ac ymadrodd. Meddai hefyd gôf rhagorl a chydnabyddid ef yn gyffredinol fel y dyn mwyaf gwybodus yn yr holl gymydogaeth. Dygai fawr zêl dros yr Ysgol Sabbothol a chymerai ei ran yn ffyddlawn yn ei dygiad ymlaen. Efe yn ddiau a gyfansoddodd y rhan fwyaf o'r Materion yn y llyfr y cyfeiriwyd ato yn Penod viii. A byddai yn fynych yn holwyddori; ond nid oedd i'w gymharu fel holwyddorwr â Rowland Evans, Yr oedd ei fanylrwydd yn fagl iddo; ac nid oedd neb yn gweled hyny yn fwy eglur nag efe ei hun. Nis gallai er hyny yn ei fyw roddi heibio ei fanylder ac ymollwng i fod yn holwyddorwr effeithiol.
Dyn gwir dda ydoedd; ac yr oedd ei ddylanwad yn fawr yn y gymydogaeth. Dylanwadai ar y rhai goreu a galluocaf ynddi. a thrwyddynt hwy ar y gymydogaeth oll. Bu yn wresog o blaid yr ysgol ddyddiol; ac edrychid arno ef fel yr ysgolor goreu o ddigon ymhlith yr ardalwyr. Bu farw yn ddyn cymharol ieuanc; ac nid ydym yn sicr fod yn awr yn aros yr un o'i blant. Haedda ei enw goffadwriaeth parchus ymysg y rhai sydd hyd heddyw yn mwynhau ffrwyth ei lafur ef, ac yn manteisio ar ei ddylanwad.
Un tra gwahanol iddo ydoedd Peter Ifan, Fotty'r Waen. Nid ydym yn ei gofio ef; ond cofiwn yn dda glywed am ei ffyddlondeb i foddion gras yn ngwyneb llawer o anfanteision. A dyn gwir grefyddol ydoedd, er nad oedd yn nodedig am allu meddyliol, nac ychwaith am eangder ei wybodaeth. Yr oedd ei gymeriad yn beraroglaidd yn y gymydogaeth ymhell ar ol ei ymadawiad. Ymadawodd ef a'i deulu i'r America; ond y mae wedi gorphen ei yrfa ddaearol ers llawer o flynyddoedd, a chyraedd yn ddiau i'r breswylfa lonydd. Cyfeiriwyd eisoes amryw weithiau at Samuel Williams, Rugog, gynt o Ffynonbadarn, a haeddai goffâd llawnach nag y goddef ein terfynau i ni i'w roddi.
Brodor ydoedd o ardal Dinorwig yn Sir Gaernarfon.; Yr oedd iddo amryw frodyr; a threuliodd un o honynt, Dafydd William, y rhan fwyaf o'i oes yn ardal Corris. Bu farw eu tad pan oedd rhai o honynt yn lled ieuanc. Noson ei gladdedigaeth, yr oeddynt oll yn eistedd gydau mam, ac yn barod i ymneillduo i orphwys, pan y dywedodd wrthynt, Wel, fy mhlant i, byddai yn well i chwi fynd ich gwely; does yma mo'ch tad heno i gadw dyledswydd. Ar hyn torodd un ohonynt, ac un o'r rhai gwylltaf, allan i wylo, gan ddywedyd, "Da i ddim i'r gwely nes i rywun gadw dyledswydd" a bu raid gwneyd y cais y noson hono. Bu y tro yn fendith i'r teulu byth.
Ond ymhen rhai blynyddoedd y daeth Samuel Williams i mewn i eglwys Dduw. Daeth i ardal Corris oddeutu 1826 neu 1827. I Chwarel Rhiwgwreiddyn y daeth i weithio ar y cyntaf, a bu yno am ddau fis. Bu am dri neu bedwar mis I wedi hyny yn Llwyngwern, cyn myned i fyny i Chwarel Aberllefenni. Bu yn lletya am oddeutu blwyddyn gyda Dafydd Humphrey, yn Abercorris; ac am dymor wedi hyny yn y Briws yn Aberllefenni. Clywsom ef yn dywedyd ei fod wedi priodi ers dwy flynedd cyn troi ei wyneb at bobl yr Arglwydd, a'i fod ar y pryd yn 26 mlwydd oed. Cefais y fraint, meddai, o ymuno âg achos Iesu Grist pan oedd yn yr ystabl. Yr oeddid yn ail adeiladu capel Rehoboth ar y pryd, ar Cyfarfod eglwysig yn y cyfamser yn cael ei gynal yn ystabl y Fronfelen.
Merch Richard Edwards, Aberllefenni, oedd ei wraig, yr hon, fel y crybwyllwyd eisoes, sydd yn awr yn byw yn y Rugog. Yn Ffynonbadarn y buont am flynyddoedd; ond symudasant oddiyno i Bryneglwys, Abergynolwyn; a dychwelasant oddiyno drachefn i'r Rugog. Bu S. W. yn flaenor yn Aberllefenni, Abergynolwyn, a Bethania, ac yn llanw lle pwysig ymhob un honynt.
Yr oedd yn ŵr o feddwl cryf a gafaelgar, ac yn gadarn yn: yr Ysgrythyrau. Yn ei ddawn, yr oedd gradd o afrwyddineb ond yr oedd rhyw swyn hyd yn nod yn ei besychiad; a phan y gwresogai, siaradai yn rymus mewn gwirionedd. Nid oedd neb ond efe a Rowland Evans yn flaenoriaid yn Aberllefenni am flynyddoedd wedi ffurfio eglwys yno, ac ni bu dau frawd erioed yn cydweithio yn fwy hapus. Meddyliai R. E. yn uchel iawn o S. W, ac yntau yr un modd o R. E, tra y meddyliai yr holl eglwys yn uchel o'r naill ar llall. Nid oedd y naill yn foddlawn i wneuthur un gorchwyl heb fod gan y llall ran ynddo; ac yr oedd ymadawiad S. W. i Abergynolwyn yn chwerw i deimlad y ddau. Yn yr Ysgol Sabbothol, a'r Cyfarfod Eglwysig, byddent yn wastad yn cyd-dynu yn y modd mwyaf dedwydd a chymerai S. W. yn dawel ei dro yn y cyfarfod gweddi ar nos Sabbath i esbonio penod.
Cymeriad cryf oedd Samuel Williams, ac yn cael ei gydnabod felly ymhob man lle y bu yn preswylio; a bu o wasanaeth mawr gydag achos crefydd hyd y diwedd. Yn ei gystudd diweddaf, yr oedd ei brofiad yn uchel a hapus. Bu farw yn gyflawn o ddyddiau, wedi byw yn serch a chalon ei gymydogion ar hyd y blynyddoedd.
Fel engraifft o'i lafur gyda'r Ysgol Sabbothol, y mae yn hyfryd genym gael rhoddi o flaen ein darllenwyr y Mater canlynol a barotowyd ganddo
AM GYFEILIORNADAU.
1 CWESTIWN. Pa un a'i cyfeiliorniad a'i gwirionedd yw fod bedydd yn ail enedigaeth?
- ATEB. Cyfeiliorniad echryslawn ydyw.
2 C. Beth yw bedydd?
- A. Arwydd gweledig oddiallan, tra y mae ailenedigaeth yn gyfnewidiad grasol o waith yr Ysbryd Glân ar enaid pechadur. 1 Ioan iii: 5, 6
3 C. Pa fodd y dangoswch yn mhellach nad ydyw bedydd yn ailenedigaeth?
- A. 1. Gwaith dyn ydyw bedyddio, ond gwaith Duw ydyw aileni 1 Ioan v. 1
- 2 Mae yn amnhosibl i'r arwydd fod yr un peth ar hyn a arwyddoceir. Mat. iii. 11
- 3 Oddiallan ar y corff y gosodir yr arwydd, tra y mae yr hyn a arwyddoceir. yn dumewnol ar yr enaid. 1 Pedr iii. 21; Ioan iii. 6
- 4 Fe gafodd y tair mil yn Jerusalem, eu haileni cyn eu bedyddio; ac am hyny nis gall bedydd fod yn ailenedigaeth. Actau ii. 41
- 5 Fe gafodd Saul o Tarsis ei aileni cyn ei fedyddio, a Lydia hithau yr un modd. Actau ix. 4, 5, 11, 17, 18; a xvi. 14, 15
- 6 Fe gafodd y lleidr ar y groes ei aileni, ond ni chafodd ei fedyddio. Luc xxiii. 43
- 7. Fe gafodd Simon Magus ei fedyddio, ond ni chafodd ei aileni. Actau vii. 23
- 8 Pan sonir yn y Beibl am aileni, dywedir yn gyffredin ei fod o Dduw. 1 Ioan ii. 29; iii. 9; iv. 7
4 C. Paham y dywed neu yr haera rhai fod bedydd o weinyddiad offeiriad yn ailenedigaeth, mwy na bedydd o weinyddiad gweinidog ymneillduol?
- A. Am eu bod yn dal fod awdurdod yr offeiriad wedi dyfodol o law i law o'r apostolion.
5 C. Beth a olygwch wrth ordeiniad gweinidogaethol?
- A.1. Neillduad gweinidog i Grist yn gyhoeddus ac yn ddifrifol i'w swydd sanctaidd gyda gweddi daer drosto a chynghorion addas iddo. Actau xiii. 3
- 2 Gweinidogion y Gair sydd i gyflawni'r gorchwyl. Actau xiii.13; 1 Tim. y. 22
6 C. A oes olynwyr i'r Apostolion?
- A. Nac oes, fel Apostolion: oblegid yn
- 1. Yr oedd yr Apostolion yn dystion o adgyfodiad Crist; ac y mae yn amlwg nad oes neb felly yn bresenol. Actau ii. 32
- 2 Yr oedd pob Apostol wedi gweled yr Iesu yn bersonol; ac nid oes neb felly yn y byd yn awr. 1 Ioan i. 1, 2
- 3 Yr Iesu yn bersonol; a anfonodd allan bob un o'r Apostolion: ac nid oes neb felly i'w cael yn yr oes hon. Marc xvi 15
7. C. Pwy ynte yw olynwyr yr Apostolion?
- A. 1. Pob un sydd yn credu yn Mab Duw, ac yn byw yn dduwiol yn Nghrist Iesu Heb. xiii. 7 ; 2 Thes. iii. 7 1 Cor. iv 16
- 2 Y rhai sydd yn pregethu yr un athrawiaeth o'r un Ysbryd, ac yn dilyn yr un fuchedd ar Apostolion, ac nid neb arall. 1 Cor. iii. 10, 11
8. C. A ydyw Duw, yn llefaru wrth ddynion yn yr oes hon?
- A. Ydyw, trwy ei Air a'i Ysbryd, a thrwy droion Rhagluniaeth. Ioan xv. 23; Actau xiv. 27
9 C. Onid oes angen am i Dduw lefaru yn ddigyfrwng, a gwneuthur gwyrthiau yn ein dyddiau ni megis yn y dyddiau gynt?
- A. Nac oes:
- 1 Nid ydynt mwyach yn angenrheidiol i brofi dwyfoldeb yr Ysgrythyrau. Exodus iv 2 i 5
- 2 Nid oes angen am wyrthiau yn ein dyddiau ni i brofi mai anfonedig y Tad yw Iesu Grist. Luc vii. 22
- 3 Nid oes angenrheidrwydd ychwaith ar weinidogion y Gair i wneuthur gwyrthiau er profi eu gwir anfoniad i'r weinidogaeth; y maent i'w hadnabod wrth y nodau sydd i fod arnynt. 1 Tim. iii. 20
- 4 Nid oes angenrheidrwydd am wyrthiau i argyhoeddi pechaduriaid ac i berffeithio y saint, oherwydd fod moddion addas wedi eu hordeinio. 2 Tim. iii. 16, 17
10.C. A ddylem ni Gristionogion wrthwynebu cyfeiliornoadau?
- A. Dylem
- 1. O ufudd—dod i orchymyn yr Arglwydd, ac er amddiffyniad i'w ogoniant. Esaiah xliii. 10, 12
- 2 Heb hyny nis gallwn ateb i'r enwau sydd arnom yn y Beibl. 1 Tim. iii, 15
- 3 Dylem wneuthur hyny o gariad a thosturi at yr eneidiau sydd yn cael eu hudo trwy gyfeiliornadau. Deut. xiii. 6, 8, 9, 10
- 4 Dylem ei wnenthur i ddangos ein zêl dros Dduw a'i Air, ac er dilyn esiampl yr Apostolion Mat. xxii. 29; Actau xiii. 8, 9, 10
Nid ydym yn dymuno ychwanegu. unrhyw sylwadau beirniadol na chanmoliaethol ar y Mater hwn. Dichon y dylid crybwyll fod Cwestiwn 4 yn seilledig ar gamsyniad, gan yr haera y Pabyddion ar uchel Eglwyswyr fod bedydd a weinyddir yn enw y Drindod gan unrhyw un yn ail enedigaeth. Gwelir yn y Mater arwyddion o lafur mawr; ac amlwg yw, fel y crybwyllwyd eisoes, fod llafur gwerthfawr ymysg aelodau yr Ysgolion Sabbothol yn Aberllefenni yn nyddiau y Materion hyn. Gofelid yn wastad am anfon rhan o bob Mater i Ysgol y Fronfraith.
Mae dau eraill a alwyd yn flaenoriaid yn Aberllefenni, ac a wasanaethasant y swydd am rai blynyddoedd gyda Rowland Evans yn deilwng o grybwylliad parchus, sef Robert Lumley a Richard Jones. Yn yr eglwys yn Aberllefenni, yn 1852, nid oedd ond dau swyddog, sef Rowland Evans a Samuel Williams. Galwyd wedi hyny Robert Owen, Llwynmafon, yn awr o'r Pandy, Corris. Ar ei ol ef, dewiswyd Robert Lumley, ac ymhen amser drachefn Richard Jones, Blue Cottages. Ymadawodd R. Lumley i Abergynolwyn i dreulio blynyddoedd diweddaf ei oes. Gŵr da ydoedd; a gŵr ag yr ydym ni dan rwymau neillduol iddo am lawer o garedigrwydd. Cawsom y fraint o fod yn ei ddosbarth yn yr Ysgol Sabbothol; a phan yn dechreu pregethu dangosodd tuag atom bob sirioldeb. Daeth gyda ni i liaws o leoedd y danfonid ni iddynt yn ystod y prawf rhagarweiniol fu arnom, cyn dwyn ein hachos i'r Cyfarfod Misol; ac nid yw ond naturiol i ni deimlo yn anwyl tuag at ei goffadwriaeth.
Yr oedd Robert Lumley yn ddyn deallus, ac yn glir ei syniadau am yr athrawiaeth; a rhoddai lawer mwy o le i wirionedd nag i deimlad gyda chrefydd. Yr oedd hefyd yn ddyn agored a didderbyn—wyneb. Mae wedi ei alw adref bellach ers blynyddoedd, a'i weddw hithau wedi ei ddilyn. Yr un modd, y mae amryw o'i blant hefyd wedi meirw; ar rhai sydd yn aros wedi eu gwasgaru oll o'r gymydogaeth lle y dygwyd hwynt i fyny.—
Arosodd Richard Jones yn Aberllefenni hyd ei farwolaeth. Gŵr a llawer o neillduolion yn perthyn iddo ydoedd ef; ac eto yn gymeriad prydferth dros ben. Yn ddyn ieuanc yr oedd yn dra distaw, ond yn ei flynyddoedd diweddaf daeth yn llawer mwy siriol a siaradus. Nid ydym yn cofio i ni adnabod neb wedi rhoddi crefydd yn mlaenaf yn fwy llwyr. Gofalai am ei amgylchiadau bydol lawn cystal ar cyffredin o'i gymydogion; ond ni oddefai iddynt ymyryd o gwbl â'i gysondeb yn moddion:
gras. Gwelwyd ef yn mwdylu y gwair yn lle ei gario ar noson. y Cyfarfod Eglwysig, er fod rhagolygon y tywydd yn eithaf bygythiol. Yr oedd dylanwad y diweddar Barchedig Owen Roberts, Llwyngwril, yn lled amlwg arno yn hyn. Pan oedd y gŵr hwnw yn lletya gydag ef, cyn iddo symud i'r ardal i fyw, digwyddodd i'r teulu gysgu braidd yn hir un boreu; a dywedodd un o honynt, "Mae arna i ofn na chawn i ddim dyledswydd heddyw. Na, meddai Mr. Roberts, gadewch i ni gael dyledswydd; maen well gen i fynd allan heb frecwast nac heb ddyledswydd. Clywsom R. J. yn adrodd y sylw yn fynych; a theimlodd yn ddwys oddiwrtho. Meddyliai wrth ei gymharu ei hun â Mr. R. ei fod yn bell o roddi crefydd a'i hordinhadau yn eu lle priodol; ond ni theimlai neb arall felly gyda golwg arno.
Bu ei gymeriad. bob amser yn hynod ddilychwin; ac yr oedd yn ddwfn yn serch ei holl gymydogion. Nodwedd arbenig ei grefydd yn ddiau ydoedd meddwl mawr am y Gŵr sef am y Gwaredwr. Yr hyn a hoffai yn fwy na phob peth arall yn y weinidogaeth ydoedd dyrchafu person yr Arglwydd Iesu. Mynych y dywedodd am bregethau o'r nodwedd yma: Roeddwn i yn teimlo wrth wrando y buaswn yn mentro'r Gŵr pe buasai gen i fil o eneidiau. Mi fuaswn yn eu rhoddi iddo bob un. A bron nad oeddwn i, fel y clywais am un, yn dymuno eu bod genyf er mwyn eu rhoddi oll iddo. Dywedai y pethau hyn gyda theimlad dwys, gan eu hail adrodd unwaith ac eilwaith. Yr oedd yn ddarostyngedig i ofn ar adegau; ond gwyddai beth oedd cyfodi ar adegau eraill i dir tra chysurus gyda chrefydd,
Yn erbyn pechod yr oedd yn llym ac ni oddefai yr olwg ar unrhyw arferiad ddrygionus yn codi ei phen yn y gymydogaeth heb wneyd a allai i'w gwrthwynebu. Bu yn ddirwestwr zelog; a safodd yn gryf bob amser o blaid cadw yr eglwys yn gwbl lân oddiwrth y diodydd meddwol. Ofnai rhag i burdeb y ddisgyblaeth fyned i lawr yn ei ddwylaw; ond er y cwbl nid ydym yn tybio fod neb erioed wedi meddwl am lymder na gerwinder yn elfenau amlwg yn ei gymeriad. Fel gŵr ffyddlawn, ymroddedig i achos crefydd a gŵr ag yr oedd ei dduwioldeb uwchlaw amheuaeth y mae ei goffadwriaeth yn byw yn meddyliau ei gymydogion. Gallesid disgwyl am lawer yn ychwaneg o wasanaeth oddiwrtho; ond gymrwyd ef ymaith yn nghanol ei flynyddoedd. Mae ei goffadwriaeth yn fendigedig.
Yn y gweddill o'r benod hon, cymerwn y pleser o wneuthur crybwyllion byrion am nifer o frodyr a chwiorydd fuont mewn cysylltiad â'r achos yn Pantymaes yn nyddiau Rowland Evans, ond ydynt oll, fel yntau, wedi cyraedd, ni a hyderwn, i'r trigfanau nefol. Nid ydym yn proffesu ysgrifenu darluniad cyflawn o gymaint ag un o honynt. Gadewir hefyd orchudd marwolaeth i orphwys ar bob diffyg a berthynai iddynt. Mynych y dywedai Rowland Evans, wrth sylwi ar y geiriau, "Meddyliwch am eich blaenoriaid, * * * * ffydd y rhai dilynwch," nas gallwn ddilyn pob peth yn ein blaenoriaid, Fe lithrodd, meddai, am un o honynt; ond nid ydym i'w dilyn yn eu llithriadau. Ffydd y rhai dilynwch. Gofalwn am ddilyn yr hyn oedd dda ynddynt, gan osgoi pob peth i'r gwrthwyneb. Gwyddom am ddiffygion lled bwysig mewn rhai o'r brodyr a enwir genym; ond nid oes i'r sylwadau canlynol un amcan pellach na chadw yn fyw y da a berthynai iddynt. Maent oll yn anwyl yn ein golwg; ac nid oes ynom y dymuniad lleiaf at ddim ond gwneuthur yr ychydig a allem er anrhydeddu eu coffadwriaeth. Bydd yn amlwg ar yr un pryd oddiwrth—ein nodiadau nad oeddynt oll yn sefyll ar yr un tir.
Y rhai hynaf braidd y gallwn ni eu cofio oeddynt David ac Anne Evans, y Ddolgoed; tad a mam Hugh Evans, yr Hengae, y diweddar Morris Evans a David Evans, y Ddolgoed, y diweddar Evan Evans, Gwastadfryn, ar ddiweddar Mrs. Owen, Mathafarn, Llanwrin. Yr oedd Anne Evans yn un o'r aelodau hynaf pan aethom i Aberllefenni yn 1852 merch ydoedd i Hugh Humphrey, Llwydiarth. Yr oedd yn wraig ddistaw, ac o deimladau gwir grefyddol. Adroddwyd wrthym yn ddiweddar iddi farw mewn llawn sicrwydd gobaith. Yn ei chystudd, casglodd ei theulu. ol chwmpas, a mynodd addewid oddiwrth bob un o honynt nad oeddynt yn aelodau crefyddol y byddai iddynt, heb golli amser ymuno âg eglwys Dduw. Crefydd fach, meddai, oedd gen i bob amser ond a welwch chwi beth mor fawr sydd yn dyfod heddyw oddiwrth grefydd fach? Beth pe buasai gen i grefydd fawr fel crefydd Rowland Evans? Y peth ffolaf erioed ydyw bod heb grefydd. Yn mîn ei fedd yr ymunodd David Evans â'r eglwys; a golygfa effeithiol iawn oedd ei weled yn troi at bobl yr Arglwydd yn ngwendid henaint. Dangosai y teimladau mwyaf dymunol. Gwnaethai garedigrwydd i achos crefydd flynyddoedd lawer cyn hyny, sydd yn galw arnom i wneuthur crybwylliad parchus am ei enw. Yn ardal Carmel, gerllaw Llanfachreth, yr oedd dymuniad am gapel; ond yr oedd y tir oll, oddieithr fferm Ystum—gwadnau yn eiddo i foneddwr a lywodraethid gan y teimladau mwyaf gelynol at Fethodistiaeth. Eiddo David Evans oedd y fferm uchod; ac er gwaethaf pob dylanwad i'r gwrthwyneb, rhoddodd dir i adeiladu capel arno; ar capel hwnw yw Carmel. Capel Ystum—gwadnau y gelwid ef ar y cyntaf; ond un tro, pan oedd y diweddar Barchedig John Williams, Llecheiddior, yr hwn a breswyliai ar y pryd yn y gymydogaeth, yn pregethu ynddo gyda grym neillduol ar Elias ar ben Carmel, dywedodd yn nghanol ei hwyl, Yr wyf yn dymuno am i'r lle hwn gael ei alw yn Garmel tra byddo yma gareg ar gareg o hono. A thra phriodol yw yr enw ar gyfrif uchelder y lle y saif y capel arno.
Fel y sylwyd, nid oes yn awr ond un o'u plant yn aros, ac y mae yntau yn hynafgwr. Haedda Morris Evans grybwylliad parchus fel y cyntaf o honynt a ymunodd âg eglwys Dduw. Bu yn athraw i ni yn yr Ysgol Sabbothol am flynyddoedd; ac y mae genym adgof hapus hyd heddyw am y tymor y buom dan ei addysgiaeth. Bu yn Aberllefenni am wyth mlynedd; ac wedi hyny dychwelodd eilwaith i'r Ddolgoed. Dangosodd ar lawer adeg garedigrwydd mawr at achos crefydd. Cymerwyd ef ymaith yn nghanol ei ddyddiau. Mae ei weddw a dwy ferch iddo yn aros eto yn Ngheiswyn.
Un a fu mewn cysylltiad â'r achos yn Aberllefenni, ni a gredwn, o'i gychwyniad hyd adeg ei farwolaeth ydoedd Hugh Evans, Tynycei, neu, fel y gelwid ef bob amser gan ei gymydogion Huw Ifan. Cadw yr amser oedd ei swydd ef, yn y chwarel ac yn y capel. Efe fyddai yn canu y corn i alw y chwarelwyr at, a'u gollwng oddiwrth eu gwaith am flynyddoedd; ac efe hefyd a ganodd y gloch, wedi ei chael, hyd ei farwolaeth. Gofalai hefyd am yr amser yn y capel. Byddai yn dra anesmwyth os na ddechreuid mewn pryd; ac edrychai yn gilwgus.. hefyd os na therfynid yn yr adeg briodol; ond nid oedd yn y mater hwn mor fanwl a William Jones, Tanyrallt. anfynych y gwelid Rowland Evans yn y gwasanaeth ar ei ddechreu; a llawer gwaith y danodwyd iddo ei fod am wneyd y golled i fyny ar ei ddiwedd. Yn yr Ysgol Sabbothol, nid oedd ceidwad yr amser yn cael unrhyw anhawsder; a therfynid y darllen, o leiaf, yn gwbl brydlon. Dyn bychan o gorffolaeth oedd Hugh Ifan, hynod fywiog a ffraeth; ond heb fod yn hynod am werth ei alluoedd. Un o'i hoff benillion oedd:
Mae arnaf eisiau zêl a chariad at dy waith;
Ac nid rhag ofn y gosp a ddel, nac am y wobr chwaith
Ond gwir ddyniuniad llawn, ddyrchafu'th gyfiawn glod,
Am i ti wrthyf drugarhau, a chofio am danai erioed.
Y prif brawf ganddo yn wastad fod rhywbeth gwirioneddol rhyngddo a Iesu Grist oedd ei fod yn caru y brodyr. Dyma y profiad diweddaf a adroddwyd ganddo yn y cyfarfod eglwysig. Nid oeddym wedi sylwi ar hyn nes yr adgoffwyd ni o'r ffaith gan Elizabeth Parry, merch John ac Anne Parry, ar ei gwely angau. Cofia y rhai a adwaenent y chwaer hon ei bod yn nodedig ymysg chwiorydd ieuainc y gymydogaeth am, ei gwybodaeth, ac am ei medr hefyd fel athrawes; ond yn ei chystudd diweddaf, yr oedd yn hynod dywyll ar ei meddwl. Dywedai wrthym un tro: "Does gen i ddim i bwyso arno heddyw ond profiad hwn Ifan, yn y seiat olaf y bu ynddi. Yr ydw inau yn siwr, fel yntau, fy mod yn caru y brodyr." Os rhoith Duw fi yn uffern, mi fyddaf gyda dynion na bu dim â wnelwn â hwynt yn y byd yma erioed. Mi wn i mai nid y rheiny ydi mhobol i. Nid oes dim amheuaeth yn meddwl neb a'u hadwaenai nad yw y naill ar llall yn awr yn gwbl ddiogel a dedwydd gydar Iesu.
Mae Mary Evans, gweddw R. E, wedi ei ddilyn bellach, yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau. Gwraig fywiog iawn ydoedd yn ei dydd, a thra chyson a ffyddlawn yn moddion gras. Bu farw eu mab hynaf, Evan Evans, Blue Cottages, o'u blaen. Mab iddo ef ydyw Hugh Evans, sydd yn awr yn flaenor yn eglwys Aberllefenni; ac y mae amryw eraill o'i blant yn aros, ac yn dra defnyddiol gyda chrefydd. Mae dau eraill o blant Tynycei wedi meirw, Mary a Richard; mae Robert a Griffith yn Nghorris, a'r gweddill mewn gwahanol barthau yn yr America. Bu Robert yn flaenor yn Aberllefenni am rai blynyddoedd cyn iddo symud oddiyno i fyw.
Cyfeiriwyd eisoes at Robert Jones, Machine. Bu yntau mewn cysylltiad â'r achos yn Aberllefenni o'i gychwyniad. Yr oedd ynddo lawer o'r elfenau angenrheidiol mewn arweinydd; a chyda dau achos yn neillduol bu am lawer o flynyddoedd yn arweinydd llawn o yni ac ymroddiad, achos addysg ac achos sobrwydd. Llafuriodd yn ddiwyd iawn, mewn cysylltiad â'i brodyr eraill, i sicrhau manteision addysg i'r gymydogaeth; a mynych y llanwodd y swydd o lywydd y Gymdeithas Ddirwestol. Yn yr Ysgol Sabbothol hefyd bu yn athraw ffyddlon, ac yn cymeryd ei ran fel holwyddorwr ; a bu gyda hyny amryw weithiau yn arolygwr. Bu farw Medi, 1883, wedi cyraedd oedran teg. Dwy ferch a phedwar mab a adawyd ganddo; ac y mae ei weddw eto yn aros.
Ychydig allwn ni gofio am y gŵr ffyddlawn Hugh Owen, y Waen. Er byw ymhell oddiwrth y capel, yr oedd yn dra chyson yn moddion gras; ac yn un o golofnau yr Ysgol yn y Fronfraith. Bu farw yn ddyn lled ieuanc. Mae ei weddw yntau, Susannah Owen, yn awr yn fyw, ac yn preswylio yn y Waen.
Arweinir ni yn y fan hon i wneuthur crybwylliad am Abraham, a Jane Williams, Crachfynydd; y rhai a fuont ill dau am flynyddoedd meithion yn aelodau yn Aberllefenni. Hen ŵr bywiog, ffraeth oedd A. W.; a hen wraig graff a chyrhaeddgar oedd J. W. Digwyddodd llawer o bethau digrifol mewn cysylltiad âg A. W, y rhai y gellid llanw amryw dudalenau difyrus â hwynt. Ond arweinid ni felly oddiwrth yr amcan sydd genym mewn golwg. Calfin cryf ydoedd ef; ac mewn dadl unwaith yn y Foel Grochan, ar Gwymp oddiwrth ras, dywedai un brawd o olygiadau Arminaidd, Yr ydw i yn siwr, pe bawn i yn marw heddyw, yr awn i i'r nefoedd; ond ni wn i ddim sut fydd hi yfory. Rhoddodd A. W. gyfeiriad annisgwyliadwy i'r ddadl trwy ddweyd:— Byth o'r fan yma: mae arna i awydd dy ladd di, gael i ti fynd ac aros yno. Yn nghanol ei holl ddigrifwch, yr oedd yn wir dduwiol, ac yn un a hoffid yn fawr gan ei gymydogion.
A chyn i ni adael Cwm yr Hengae, nid anmhriodol fyddai crybwyll am deulu Fottyr Waen, Dafydd Tomos, ei briod, a'i fam-yn-nghyfraith, Un llawn o zêl er heb wybodaeth helaeth, oedd D. T.; ond yr oedd ganddo ddawn gweddi lled felus. Yr oedd yn Fethodist twymngalon, a gwae fyddai i'r hwnw a feiddiai ddywedyd gair yn erbyn y Methodistiaid. Dioddefodd gystudd poenus rai blynyddoedd cyn ei farwolaeth a adawodd ei ol arno am y gweddill o'i oes. Nid oes un amheuaeth nad oedd yn Gristion cywir. Mae ei fab David Thomas yn awr yn un o flaenoriaid yr eglwys yn Aberllefenni.
Bu farw ei briod, Mary Thomas, yn wraig ieuanc; a chadwyd ei dŷ ar ol hyny gan ei fam-yn-nghyfraith, Ellin Edward, fel y gelwid hi bob amser, Nel Edward. Yr oedd yn chwaer Susannah Stephen; ac yr oeddynt ill dwy ymysg aelod hynaf yr eglwys yn nyddiau ein mebyd. Edrychem ni yn wastad yn uchel ar y ddwy; ac yr oeddynt yn ddiau yn nodedig o synwyrol a chrefyddol. Daw enw y ddiweddaf dan sylw mewn cysylltiad â'i phriod.
Cwpl a haeddant grybwylliad parchus ydyw John Michael a'i briod, Catrin William. O Lanllyfni y daethant hwy i Aberllefenni; ac yr oedd ef yn swyddog eglwysig yn y lle hwnw cyn ei symudiad oddiyno. Yr oedd ganddo ddawn neillduol i siarad ac i weddio, er nad oedd ei wybodaeth yn helaeth iawn. Ond yr oedd mwy o hynodrwydd yn perthyn i Catrin William. O'r holl hen chwiorydd yn yr eglwys, hi oedd y fwyaf parod i adrodd ei phrofiad o honi ei hun. Ac oherwydd ei pharodrwydd mynych y disgynai i'w rhan y fraint o roddi cychwyniad i'r Cyfarfod Eglwysig. Eisteddai bob amser yn yr un lle; ac ni feddyliai neb am eistedd yno ond yr hen chwaer. Wrth ei hochr, eisteddai yn wastad Lowri Ifan, Yr Hen Ffactri, hen chwaer ffyddlawn arall fyddai yn mwynhau moddion gras yn rhyfeddol, er na byddai ganddi un amser ryw lawer i'w ddweyd. Mae hiraeth yn llanw ein mynwes wrth gofio am yr hen famau anwyl hyn yn Israel.
Daeth enw Dafydd Humphrey, Blue Cottages, ger fron mewn penod flaenorol. Perthynai iddo yntau neillduolion corfforol a meddyliol. Oherwydd rhyw afiechyd a gafodd yn lled gynar yn ei oes, bu ei gnawd yn chwyddedig dros y gweddill o honi; ac mewn canlyniad byddai syrthni a chysgadrwydd yn brofedigaeth barhaus iddo. Cysgai yn wastad yn y capel; ac er hyny cofiai fwy o'r pregethau na neb a'u gwrandawai. Cysgai hyd yn nod wrth ymddiddan â'i gyfeillion. Yr oedd ganddo gŵr da a dawn i adrodd yr hyn a gofiai; ond mynych y gollyngai y stori ar ei chanol i gael hûn Gafaelai er hyny ynddi eilwaith, wedi deffro, yn hollol yn y man y gadawsai hi. O ran gwybodaeth a chraffder meddyliol, yr oedd yn rhagori llawer ar y cyffredin; a byddai yn dda genym yn nyddiau ein mebyd ei glywed yn dechreu y cyfarfod gweddi, am y darllenai yn gyffredin ryw gyfran ddyddorol o'r llyfrau hanesiol yn yr Hen Destament. Yr oedd yn deall yr athrawiaeth yn well na'r rhan fwyaf o'i frodyr; ac yr oedd yn tra rhagori arnynt yn y gwerth a roddai ar ranau hanesyddol yr Ysgrythyr.
Cafodd ei weddw, Jane Humphrey, fyw am nifer o flynyddoedd ar ei ol; ond y mae hithau bellach wedi ei ddilyn i'r trigfanau nefol. Nid oes yn awr o'u plant yn Aberllefenni ond Mary, eu hunig ferch, priod Mr. John Davies. Mae y meibion sydd yn fyw, oll yn yr America; ac y mae un o honynt, Mr. Evan D. Humphreys, Fair Haven, Vermont, yn bregethwr cymeradwy ers llawer o flynyddoedd gyda'r Methodistiaid.
Cwpl arall nas gallwn fyned heibio heb wneuthur crybwylliad serchog am danynt ydyw John ac Anne Parry, Tyr Capel. Ni feddyliodd neb erioed fwy o'r fraint o letya gweinidogion y Gair na'r ddau hyn; ac yr ydym yn sicr fod lliaws o'r rhai fuont yn aros gyda hwy yn cofio gyda diolchgarwch am eu caredigrwydd. Bychan oedd gwybodaeth John Parry; a bychan hefyd oedd ei awydd am wybodaeth. Mynych y clywsom ef yn sylwi ar gwestiynau a ofynid iddo : Dydw i ddim yn meddwl fod hwna yn hanfodol. Byddai yn eithaf tawel heb wybod pob peth nas gellid ei brofi yn hanfodol. Gyda chaniadaeth y cysegr y bu ef yn fwyaf llafurus. Yr oedd ganddo ddawn naturiol at ganu; ac yn rhinwedd y ddawn hono, yn hytrach na thrwy unrhyw wybodaeth neillduol am gerddoriaeth, y llwyddodd i fod o wasanaeth am flynyddoedd gyda'r canu. Glynodd yn ffyddlon wrth y swydd o arweinydd y gân am lawer o flynyddoedd; a dygodd fawr zêl dros y canu hyd derfyn ei oes. Gwyllt iawn ei dymer ydoedd yn naturiol; ond yr oedd gwaith gras yn amlwg iawn arno hyd yn nod yn y mater hwn. Gwyddai am ei wendid, ac er llithro yn fynych ymdrechai drachefn arfer gwyliadwriaeth; ac am ei faddeugarwch yr oedd yn adnabyddus i bawb. Yn ei gystudd diweddaf teimlai yn gwbl dawel mewn ymorphwysiad ar ei Waredwr.
Lled ddistaw fyddai yn y Cyfarfod Eglwysig: ond yr oedd yn ddiau yn wir grefyddol. Yr oedd Ann Parry yn llawer mwy profiadol, ac o dymer gwbl wahanol. Arafaidd a mwynaidd fyddai un bob amser ac ni welwyd neb erioed yn caru Iesu Grist a'i achos yn fwy gwresog nag Anne Parry. Nis gallwn derfynu y sylw byr hwn am danynt heb ddatgan y parch dyfnaf i'w coffadwriaeth.
Mae amryw o'u plant wedi meirw; ar rhai sydd yn parhau yn fyw wedi hen ymadael â'r ardal y magwyd hwy ynddi. Cyfeiriwyd eisoes at farwolaeth eu merch Elisabeth; a bu farw eu mab Henry yn fachgen ieuanc tra gobeithiol. Yn ŵr ieuanc y bu farw hefyd Owen eu mab ieuangaf. Bu un mab iddynt, Evan, yn dra defnyddiol yn Cesarea, gerllaw y Groeslon, yn Swydd Gaernarfon.; ond y mae yntau hefyd wedi marw ers rhai, blynyddoedd.
Wrth eu gadael hwy, y mae yn naturiol i ni grybwyll chwaer y mae genym gofion serchog am dani, sef Jane Jones, y Briws, neu fel, y gelwid hi yn wastad, Jinny. Jones. Oddigerth Catrin William, nid oedd neb yn fwy rhydd i adrodd ei phrofiad yn y Cyfarfod Eglwysig, na neb yn sicr y byddai yn fwy hyfryd genym ni eu clywed. Nid oedd ei phriod, Robert Jones, yn aelod eglwysig, er ei fod yn wrandawr cyson, ac yn ddyn dichlynaidd ei ymarweddiad; ond dygodd y fam i fyny ei phlant oll yn yr eglwys. Mae un o honynt, Henry, yn byw eto yn y Briws; ac un arall, Robert, yn Abergynolwyn. Y mae amryw o honynt yn Awstralia ers llawer o flynyddoedd.
Hen gymeriad hynod oedd William Hughes, Tŷ ucha. Gallwn gofio yr adeg yr ymunodd â'r eglwys. Gŵr thal, syth, unllygeidiog, ydoedd ef; ac un a fuasai yn ei ieuenctid yn wyllt ac annuwiol. Nid oedd neb yn y gymydogaeth mor hoff ag ef o olrhain achau pobl. Brodor o Sir Gaernarfon.; ydoedd; a phan ddeuai pregethwr o'r sir hono i Aberllefenni a fyddai wedi dechreu pregethu ar ol ei ymadawiad ef, rhaid oedd cael pob gwybodaeth am ei achau. Yr oedd yn atebwr rhydd ar adeg yr holwyddori; ond damwain oedd iddo gael gafael ar yr atebiad a ddisgwylid. Ystyrid fod ganddo yn wastad rywbeth dan ei ewin , ond anfynych y llwyddai i'w wneyd yn ddealladwy i eraill.
Yr oedd yntau yn un y cafwyd llawer o ddigrifwch yn y gymdeithas; ond yr oedd y digrifwch bob amser yn eithaf diniwed. Eraill fyddent yn cael y digrifwch, ac anfynych y byddai ef ei hun yn cael unrhyw gyfran o'r mwynhad. Yr oedd yn ddiau yn hen Gristion da. Ychydig cyn marw, torodd allan i orfoleddu, yn gyffelyb i'r modd y gwnai yn amser y diwygiad.
Gerllaw iddo y preswyliai Mathew Davies; ac yn ddiweddar yn ei oes y daeth yntau i mewn i eglwys Dduw. Yn fachgen ieuanc yr oedd yn nwyfus a digrifol; ond collodd y nwyfiant i raddau helaeth cyn yr adeg y gallwn ni ei gofio gyntaf. Bu ei wraig dan afiechyd trwm am flynyddoedd, yr hyn oedd brofedigaeth lem iddo yntau. Dyn o rodiad diargyhoedd ydoedd; ac llu y bu ei fywyd yn hynod o ddidramgwydd i'w holl gymydogion. Dyma ddau deulu nad oes yn y gymydogaeth neb yn perthyn iddynt ers amryw flynyddoedd.
Un arall y gallwn ei gofio yn dyfod i'r eglwys ydyw Owen Hughes, Blue Cottages. Cyn hyny yr oedd yn ddyn caled ac annuwiol, a chyda hyny yn lled anwybodus. Nid oedd yn medru darllen pan y daeth at grefydd; ond trwy lafur cyson, a diwydrwydd canmoladwy, daeth i ddarllen yn weddol rwydd cyn pen llawer o amser. Yr oedd y cyfnewidiad ynddo ef yn amlwg i bawb. Nid oedd yn berffaith yn ddiau fel crefyddwr; ond yr oedd mor wahanol i'r hyn a fuasai o'r blaen fel nad oedd lle i neb a'i hadwaenai ameu gwirionedd ei droedigaeth. Trwy ddamwain yn y chwarel y cyfarfyddodd â'i farwolaeth. Mae ei weddw eto yn aros; ac y mae ei dri mab, Richard, John, a Hugh, a'i bedair merch, Lowri, Margaret, Catherine, ac Anne hefyd yn fyw; ac yn dwyn i fyny deuluoedd lliosog. Bu Jane ei ferch farw yn eneth lled ieuanc.
Un a haeddai grybwylliad helaeth ydyw John Stephen. Brodor o Ffestiniog ydoedd ef, a brawd i'r gweinidog enwog ac adnabyddus y diweddar Barchedig Edward Stephen, Tanymarian. Dygwyd ef i fyny gyda'r Methodistiaid; ond ymadawodd oddiwrthynt, i ddechreu at y Wesleyaid, ac wedi hyny at yr Annibynwyr. Gŵr o yni anghyffredin ydoedd, ac yn llawn o ysbryd a bywyd yn wastad. Tua'r flwyddyn 1835 y daeth i Aberllefenni, ac ymhen dwy flynedd, priododd wraig weddw, yr hon yr oedd iddi amryw ferched, ar hon y crybwyllwyd am dani yn flaenorol. Un o'r rhai hyn ydoedd Elizabeth, ail wraig Evan Owen, Cambergi, a mam y Parchedig John Owen, Aberllefenni Un arall, Margaret, ydoedd gwraig gyntaf y diweddar William Davies, Aberllefenni. Bu yr ieuangaf o honynt, Gwen, farw yn ddi—briod.
Yn nhyr capel, Pantymaes, y gallwn gofio J. S, yn 1852; ac o'r, adeg gyntaf y daethom dan ei ddylanwad, bu iddo le parchus yn ein meddwl. Gellir ei ystyried yn gychwynydd achos yr Annibynwyr yn Aberllefenni; ac am flynyddoedd efe oedd yn fwyaf llafurus ac ymdrechgar gydag ef. Yn ei flynyddoedd olaf bu yn aelod gyda'r Methodistiaid. Ni chollodd erioed ei serch atynt, a phan ddychwelodd atynt gwnaeth ei gartref ar unwaith yn gwbl ddedwydd gyda hwynt.
Gyda dirwest yr oedd yn hynod wresog o'r cychwyn, a pharhaodd felly hyd ddiwedd ei oes. Nid ydym yn tybio y gwelwyd yn nghanol y cynwrf mwyaf neb yn fwy zelog nag efe. Barnai ei briod, Susannah, yr hon oedd o dymer dra gwahanol iddo, ei fod yn rhy boethlyd ar adegau; a digwyddodd rhyngddynt rai pethau lled ddigrifol. Parhaodd yn ffyddlon ac yn wresog hyd derfyn ei ddydd. Ac yr ydym ni yn ddyledus iddo am y gefnogaeth a gawsom ganddo ar lawer adeg pan y ceisiem ddywedyd ychydig yn mlynyddoedd ein mebyd ar yr achos dirwestol.
Tros addysg hefyd bu yn dra llafurus; ac ni laesodd ei ddwylaw ychwaith gyda hyn. Er nad oedd iddo blant ei hun, nid oedd neb a deimlai ddyddordeb mwy bywiog mewn plant nag efe. Cofiwn yn dda am lawer ol ymddiddanion yn dangos dyfnder ei deimlad dios ddygiad i fyny priodol iddynt; ac yr ydym yn ddyledus i rai o honynt am argraffiadau dwysion ar ein meddwl pan nad oeddym ond ieuanc iawn. Bu yn un o'r colofnau gyda'r ysgol ddyddiol yn y Garnedd Wen am flynyddoedd; ac nid bychan ydyw dyled y gymydogaeth heddyw iddo am y gwasanaeth a wnaeth y pryd hwnw.
Yn 1859, bu farw ei briod, a phriododd yntau wedi hyny Mrs. Catherine Williams, o Lanllyfni, chwaer i'r diweddar Mr. Robert Hughes, Fronwen, goruchwyliwr chwarelau Aberllefenni, yr hon sydd eto yn fyw. Dioddefodd am flynyddoedd gystudd maith a phoenus yn hynod ddirwgnach. Mawr oedd ei serch at dŷ yr Arglwydd, a dwfn oedd ei deimlad o'r golled am fyned i'r cynteddoedd. Gwnaeth ymdrechion mawrion i fyned yno yn nghanol gwaeledd mawr; ac wedi llwyr fethu yr oedd ei galon yn aros yn nhy Dduw. Ond er y cwbl, treuliodd flynyddoedd o gystudd yn bur gysurus. Tynai ddedwyddwch pur o gymdeithas cyfeillion; ac yr oedd adroddiad pregethau iddo yn wledd wirioneddol. Cofiai yn dda ei hunan am lawer o hen Gymanfaoedd y Bala; ac yr oedd ei edmygedd o'r hen bregethwyr yn ddiderfyn. Iddo ef o flaen pawb eraill o'r bron yr ydym ni yn ddyledus am y syniad sydd genym am lawer o honynt. Bu farw Tachwedd 12, 1879 Cristion da yn ddiddadl oedd John Stephen; a pharchus ac anwyl ydyw ei goffadwriaeth.
Un arall a fu yn aelod amlwg am flynyddoedd yn Aberllefenni ydoedd Dafydd Owen. Byr o gorffolaeth ydoedd ef, ond cryf a gwrol yr olwg arno er hyny. Yr oedd ganddo ben lled fawr, a gwyneb yn amrywio llawer ar wahanol adegau, yn ol y teimladau oddifewn. Dyma ddisgrifiad y Parchedig Evan Davies, Trefriw, o hono:—
Yr oedd Dafydd Owen yn wr syth, cydnerth, o ran ei gorff, yn zelog a ffydllawn fel crefyddwr; ac o ran ei farn yr oedd fel y dywedai Glan Alun, am Angel Jones, yn:
Hen Galfin at y gwraidd;
Yn wir fe gloddiai ambell dro
Yn is na hyny braidd..
Yr oedd iddo hefyd lais clochaidd uchel; a dawn rwydd a pharod. Pan y cofiwn ef gyntaf yr oedd yn dal rhyw swydd dan y boneddwr Mr. Anwyl, o'r Hengae; ond wedi hyny daeth yn oruchwyliwr y coed i Mr. Pryce, yn Aberllefenni; a pharhaodd i lanw y swydd hono hyd ddiwedd ei oes.
Fel yr awgrymir uchod yr oedd ei Galfiniaeth yn eithafol, ac nid oedd dim a'i boddiai yn y pregethau ond sylwadau cwbl Galfinaidd. Pan y ceid hyn codai ar ei draed gyda'r sydynrwydd mwyaf, gan edrych yn siriol, i ddechreu ar y pregethwr, ac yna ar ryw gyfeillion o'i amgylch y tybiai oeddynt mewn cydymdemlad agos neu ynte y gwyddai eu bod yn wahanol a gwrthwynebol. Ond os digwyddai i'r sylwadau am raslonrwydd trefn yr efengyl gael eu dilyn gau gyfeiriadau at ddyledswydd dyn, byddai y cymylau yn ymdaenu dros ei wynebpryd ar unwaith, ac eisteddai i lawr fel dyn hollol siomedig. Yr hyn y gellid ei ddarllen yn amlwg yn ei wedd fyddai y Cwestiwn a ofynid ganddo yn fynych yn ei ymddiddanion, I ba ddiben y cyinhelir dyn sydd yn farw ysbrydol at ei ddyledswydd?
Mynych y dywedai, a mynych yn wir y dangosai, nad oedd ganddo amynedd i wrando pregethu dyledswyddau. Ond yr oedd ei ddyddordeb yn ddwfn yn yr athrawiaeth; ac ni flinai byth yn ei thrafod tra y caffai hyny ei wneuthur yn ddigon Calfinaidd.
Camgymeriad fyddai dywedyd fod ei syniadau yn eang ar unrhyw fater; ac ofnwn y rhaid ychwanegu fod ei feddwl wedi ei gau ers blynyddoedd i argyhoeddiad ar bob pwnc yr oedd wedi talu unrhyw sylw iddo. Nid oedd teimlad dwfn ychwaith yn nodweddu ei grefydd; ac eto gwelwyd ef ar adegau yn cael ei orchfygu. i fesur gan ei deimladau. Yr oedd yntau, ni a gredwn, yn Gristion cywir er pob hynodrwydd a berthynai iddo.
Cyn dwyn y benod hon i derfyniad goddefir i ni wneuthur cyfeiriad byr at ein rhieni. Buont yn aelodau cyson yn Aberllefenni o 1852 hyd eu marwolaeth. Brodor o Drawsfynydd oedd Griffith Ellis, ond gadawodd y gymydogaeth hono yn lled ieuanc. Yr oedd yn ngwasanaeth John Jones, Esgair Goch, Pennal, tad y Parchedig Evan Jones, Caernarfon, yn ddwy ar bymtheg oed; ar pryd hwnw, pan oedd y Parchedig Dafydd Rolant, y Bala, yn Mhennal yn pregethu yr arosodd yn y seiat. Yr oedd y gweinidog yn adnabyddus o hono yn Nhrawsfynydd, a phan y gwelodd mai efe oedd wedi aros dywedodd yn ei ddull priodol ei hun : Hylo! Guto bach: a'i ti sydd yma? Tirion iawn ydir Brenin mawr onide, yn showio plant tlodion fel ti a minau i'r seiat. Symudodd o Bennal i Lanwrin, ac oddiyno drachefn wedi ei briodas i Aberllefenni. Bu ef a'i briod am chwe blynedd yn Tanyrallt. Corris; ond yn 1852 dychwelasant drachefn i Aberllefenni, lle y treuliasant weddill eu hoes.
Yn Nghorris y ganwyd ac y magwyd Margaret Ellis, ac yr oedd ei mam, Nel Wmphra, yn un o'r aelodau hynaf yn Rehoboth am rai blynyddoedd cyn ei marwolaeth, Hydref 12 1851 Dygwyd ein mam i fyny yn grefyddol o'i mebyd; a chafodd ei chynal yn ddigwymp hyd y diwedd. Bu farw Griffith Ellis, Medi 13, 1858, yn 44 mlwydd oed; a bu farw Margaret Ellis, Medi 23, 1875, yn 63 mlwydd oed.
Naturiol fyddai i ni gymeryd gwedd ffafriol ar eu cymeriadau; ond ni ddymunem ddywedyd dim am danynt y byddai yr amheuaeth lleiaf yn ei gylch gan neb a'u hadwaenent. Ni chafodd y naill na'r llall ddiwrnod o ysgol ddyddiol erioed; ac ni ddysgasant ysgrifenu na darllen ysgrifen tra y buont byw. Yr oeddynt ill dau o alluoedd naturiol gweddol gryfion, ac ill dau yn meddu cof gafaelgar. Teimlent werth addysg trwy eu hamddifadrwydd eu hunain o honi; a gwnaethant yn ewyllysgar bob aberth er rhoddi yr addysg oreu o fewn eu cyraedd i'w plant. Yr oeddynt yn edmygwyr mawr ill dau ar bregethwyr y Methodistiaid ni wrandawsant ond ychydig ar neb arall oddieithr yn mlynyddau diweddaf eu hoes; ac wrth ystyned hyny digon hynod oedd traddodiad pregeth angladdol ar farwolaeth Griffith Ellis gan y Parchedig William Rees, yr hwn oedd ar y pryd yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn y gymydogaeth. Buont ill dau yn Sassiwn y Bala rai troion; ac yr oedd eu hadgofion am yr hen bregethwyr yno y pethau melusaf y gallwn ni eu cofio yn ein dyddiau boreuaf. Y prif bregethwr yn marn y naill ar llall oedd Henry Rees. O dan ei weinidogaeth ef yn ddiau y teimlodd G. E. y pethau grymusaf yn ei oes. Un tro yr oedd yn myned o'r maes mewn Sassiwn yn Nolgellau, wedi bod yn gwrando arno yn pregethu, pan y cododd i fyny ei law yn nghanol y dyrfa, ac y gwaeddodd, Ddemir byth mono i. Nid oedd ei edmygedd o Mr. Bees yn llawer llai nag addoliad. Yr ydym yn cofio yn dda mai y peth mawr a addewid i ni yn wyth mlwydd oed, pan y cawsom y braint o fyned gydag ef i Sassiwn yn Nolgellau am y tro cyntaf erioed, oedd gweled a chlywed Henry Rees ; ac y mae yr olwg gyntaf a gawsom arno yn dyfod i mewn i gapel Salem mor fyw yn ein meddwl y foment hon a dim a welsom y flwyddyn ddiweddaf. Safai eraill yn uchel iawn yn meddwl G. E.; ond y tywysog yn ddiau oedd "Henry Rees".
Yr oedd yn hynod hoff hefyd o emynau Williams, Pantycelyn, Anne Griffiths, ac Edward Jones, Maesyplwm. Credwn ei fod yn medru allan bob penill cyhoeddedig o waith y ddau ddiweddaf. Ar hirnos gauaf, ein difyrwch yn fynych fel teulu fyddai, "adrodd penillion". Byddai ein mam, ein chwaer, a ninau ar y naill ochr, ac yntau ei hun ar yr ochr arall; ac ni chaniateid iddo ef adrodd yr un penill y gallai ein chwaer a ninau ei adrodd; ond byddai ei ystorfa yn llawn ymhell ar ol dyhysbyddu y blaid arall.
Nid ydym yn gwybod i neb erioed amheu crefydd ein rhieni. Gwyddom nad oeddynt yn berffaith o gryn lawer; ond gadawsant dystiolaeth yn nghydwybod y rhai a'u hadwaenent eu bod yn meddu gwir dduwioldeb. Mae ein dyled ni yn fawr iddynt, an serch yn ddwfn at eu coffadwriaeth. Anwyl yn ein golwg yw y llanerch lle y gorweddant yn mynwent Rehoboth
PENOD XI
SYLWADAU TERFYNOL
WRTH ddwyn ein nodiadau i derfyniad, cymerwn ryddid i ychwanegu ychydig sylwadau cyffredinol ar hanes a nodweddau Methodistiaeth yr ardaloedd hyn am y can mlynedd diweddaf, gan ddwyn i mewn rai ffeithiau nad oeddynt yn perthyn yn briodol i faterion y penodau blaenorol.
Ar derfyn Hanes dechreuad a chynydd y Trefnyddion Calfinaidd yn Nghorris, Meirion, yn y Drysorfa, 1840, gan Mr. Daniel Evans, ceir Olysgrif fel y canlyn:—
Gan mai ymdeithydd ydwyf fi yma, a fy mod wrth ymdaithwedi gweled ychydig o wahanol eglwysi, hwyrach y goddefir i mi ddweyd yn mhellach ychydig o'r hyn a welais ac a glywais am y lle hwn.
1 Clywais mai golwg isel iawn fu ar achos yr Arglwydd yn Nghorris am y deugain mlynedd cyntaf; ond wele ef yn awr yn ei dyrchafedig goruwch y bryniau, a lluoedd yn dylifo ato. Gan hyny, nid rhaid i neb, yn un man, anobeithio am lwyddiant teymas yr Emanuel, pa mor isel bynag y bo, tra y bo hi yn uchel yn addewidion y Gair.
2 Clywaf a gwelaf fod cariad brawdol yn dlws gwerthfawr yn eu golwg, ac ymdrechant i'w gadw. Mae ganddynt gyfeisteddfod a wneir i fyny o'r blaenoriaid, ac 8 neu 10 o'r brodyr mwyaf amlwg mewn gwybodaeth a baru yn yr eglwys, i eistedd ar bob achos cyn ei gychwyn; ac yna ymosodant ato oll fel un gŵr
3 Maent yn ddiwyd a ffyddlon yn dwyn eu plaut i fyny yn yr eglwys. Egwyddorir hwynt, ac ymofynir am destynau a phenau y pregethau am yr wythnos a basiodd, bob cyfarfod eglwysig. Maent wedi cael eneidiau yn wobr am eu gwaith, a diau y cânt lawer eto. A gymeradwywyd gan
Cyfeiriwyd eisoes at arafwch cynydd methodistiaeth yn Nghorris hyd 1819; ac nid oes genym yma nemawr i'w ychwanegu. Bychan iawn yn ddiau fu cynydd y boblogaeth yn y cyfnod hwn; yn wir, gwelsom fod poblogaeth y plwyf yn llai yn 1811 nag ydoedd yn 1801; ond nid ydyw bychander y boblogaeth yn rhoddi cyfrif digonol am arafwch cynydd methodistiaeth. Bu yr erledigaeth arnynt yn ddiau yn anfantais iddynt am flynyddoedd; ac ni ddigwyddodd, tua'r dechreu, unrhyw amgylchiad pwysig i roddi i Fethodistiaeth safle yn y gymydogaeth. Trwy ymweliadau achlysurol hen gynghorwyr cyffredin y rhoddwyd cychwyniad i'r achos yn y lle. Gwelsom fod Mr. Charles wedi rhoddi sylw i'r ardal, wedi anfon iddi fwy nag un o'i ysgolfeistriaid am dymhorau byrion, ac wedi ymweled ei hunan â hi rai troion; a diau mai ei gysylltiad ef fu gymydogaeth fu yr amgylchiadau mwyaf manteisiol i ddyrchafiad yr achos i sylw ynddi. Yr oedd y cychwynwyr yn ddiau mor barchus o ran eu sefyllfa a neb o'r ardalwyr. Yr oedd Jane Roberts yn wraig y Rugog, ffarm o faintioli cymedrol; Dafydd Humphrey a'i briod yn byw yn Abercorris, tyddyn arall o bwysigrwydd cyfartal i unrhyw dyddyn yn yr ardal; ac yr oedd Jane Jones yn wraig Aberllefenni; ond er bod yn barchus nid oedd neb o honynt yn meddu safle dywysogaidd. Nid oes genym wybodaeth pa bryd y bu farw Jane Roberts na Jane Jones, na thros ba hyd, mewn canlyniad, y cafodd yr achos eu presenoldeb a'u dylanwad hwy yn ei ffafr. ond y mae un peth yn sicr, mai nid anffyddlondeb y cychwynwyr oedd y rheswm am arafwch y cynydd. Gwelsom iddynt gael eu taflu i ddigalondid mawr un tymor, ac iddynt ollwng y Cyfarfod Eglwysig wythnosol i lawr am beth amser; ond gwelsom hefyd y profion cryfaf o ffyddlondeb y tadau ar mamau yn nghanol y digalondid mwyaf. Rhy anhawdd yw dywedyd i ba raddau yr oedd y llwyddiant amlwg, ar seiliau diogel, mewn blynyddoedd diweddarach, yn ddyledus i lafur cyson Dafydd Humphrey a'i gydoeswyr. Cadwasant y Tŷ yn agored yn ngauaf aflwyddiant, cadwasant y tân yn gyneuedig ar yr aelwyd yn nghanol pob oerni oddiallan; ac ni chollasant un cyfleusdra i wahodd eu cymydogion i ddyfod i mewn. Cerddodd D. H. lawer ar hyd yr ardaloedd i gymell dynion i foddion gras ac at grefydd; a chyn diwedd ei oes cafodd weled ei lafur wedi ei goroni â llwyddiant ymhell tu hwnt i'w ddisgwyliadau uchaf ei hun. Erbyn hyn, y mae Methodistiaeth mor gref yn yr ardaloedd fel y mae yr addysg a dynir uchod oddiwrth hanes ei chychwyniad, na raid i neb, yn un man, arobeithio am lwyddiant teymas yr Emanuel, yn rhwym o ymddangos i'r rhai hynaf yn y gymydogaeth yn bresenol yn dra dieithrol.
Credwn fod heddwch a chydweithrediad wedi bod, ar y cyfan, yn nodweddau amlwg Methodistiaeth y dosbarth hwn o'r dechreuad. Yr oedd y pwyllgor arianol sydd yn awr yn sefydliad mor bwysig mewn cysylltiad âg eglwysi Liverpool a manau eraill, yn bod mewn rhyw ffurf yn Nghorris fwy na haner can mlynedd yn ol.
Ond pa un bynag a'i bodolaeth y pwyllgor hwn a'i ynte rhywbeth yn ysbryd y bobl yw y rheswm, y mae y ffaith yn amlwg fod y cydweithrediad mwyaf dedwydd wedi bodoli yn yr eglwysi gyda phob symudiad a gymerwyd mewn llaw ganddynt. Iachus iawn oedd dylanwad Humphrey Davies. Tangnefeddwr trwyadl ydoedd ef; ac ni bu erioed yn llywodraethu gwialen haiarn. Yr oedd yn ddiau yn dywysog, ond yn dywysog cwbl gyfansoddiadol: nid oedd ynddo y duedd leiaf at fod yn ormesol. A theimlad gwerinol a gynyrchwyd trwy ei ddylanwad yn yr eglwysi. Gwnaeth bob gormes yn anmhosibl ynddynt byth. Ond yr oedd ar yr un pryd mor llawn o ysbryd gwaith fel y llanwodd yr eglwysi â'r cyffelyb ysbryd. Gwnaeth bawb yn gyffelyb iddo ei hun yn yr awydd am weithio yn hytrach na llywodraethu. A gwirionedd syml ydyw fod eglwys Corris a'r eglwysi ydynt wedi tori allan o honi, wedi bod yn nodedig o heddychol a gweithgar. Ein gweddi ydyw ar iddynt gael eu cadw felly ddyddiaur ddaear.
Nid anmhriodol fyddai ychwanegu fod y teimladau goreu wedi bod yn ffynu rhwng Methodistiaid yr ardaloedd hyn âg enwadau eraill. Daw y mater hwn dan sylw yn naturiol mewn cysylltiad a chrybwylliad a wneir am yr Achos Dirwestol.
Credwn fod crefydd Methodistiaid Corris yn type lled uchel o Cristionogaeth. Mae wedi eu gwneuthur yn ddynion cryfion a chyson. Y mae iddynt eu hegwyddorion: ac ni chafwyd achos erioed i gwyno oherwydd eu hanffyddlondeb iddynt. Gydag addysg a chyda gwleidyddiaeth y maent wedi bod yn Ymneillduwyr trwyadl. Dichon na osodwyd hwy erioed mewn amgylchiadau i'w profi fel y gwnaed mewn cymydogaethau eraill ond ein cred ydyw fod yn y cymeriad Methodistaidd yn yr ardaloedd hyn gryn lawer o'r defnydd o ba un mewn amgylchiadau neillduol y gwneir merthyron. Ac nid yw yn angenrheidiol ychwanegu nad ydym yn hyn yn eu cymharu â, nac yn eu gwahaniaethu oddiwrth yr enwadau crefyddol eraill.
Mae addysg yn ddiau wedi cael sylw neillduol yr ardaloedd; ac nid gormod ydyw dywedyd ei bod ar hyn o bryd mewn sefyllfa mor foddhaol ag mewn unrhyw gymydogaeth gyffelyb yn Ngogledd Cymru.
Peth arall sydd wedi nodweddu Methodistiaid Corris ar amgylchoedd ydyw eu ffyddlondeb i'r Achos Dirwestol. O'r flwyddyn 1836, y mae eu llafur gyda dirwest wedi bod yn gyson. Cyfeiriwyd eisoes at yr Wyl Ddirwestol ar Iau y Dyrchafael, sydd wedi parhau yn ei gogoniant trwy y blynyddoedd; ac ni ollyngwyd i lawr o gwbl y cyfarfodydd pythefnosol neu fisol yn y gwahanol gapelau, nes y daeth Temlyddiaeth Dda i mewn gydai Chyfrinfaoedd wythnosol. Cadwyd eglwysi Corris ac Aberllefenni hefyd yn lân, i raddau helaeth, oddiwrth y diodydd meddwol.
Gyda'r Achos Dirwestol y daeth canu corawl i fri yn y gymydogaeth; ac o'r canu hwnw y cychwynodd y canu corawl a chynulleidfaol sydd wedi rhoddi i Gorris safle barchus yn Meirionydd mewn cysylltiad â cherddoriaeth gysegredig.
Nid oes un amheuaeth nad yw ffyddlondeb yr ardaloedd hyn i ddirwest yn cyfodi o'u crefydd; ac nid oes amheuaeth ychwaith nad yw eu ffyddlondeb i ddirwest wedi effeithio yn ddaionus ar eu crefydd. Dyma yn ddiau i fesur mawr y rheswm am y teimlad da ar cydweithrediad rhwng y gwahanol enwadau, sef eu cydweithrediad cyson gyda'r Achos Dirwestol. Mae y Methodistiaid yn Fethodistiaid zelog, y Wesleyaid yn Wesleyaid zelog, ar Annibynwyr yn Annibynwyr zelog; ond trwy gydgyfarfod yn nghapelau eu gilydd gyda'r achos hwn y maent wedi llwyddo i raddau rhyfeddol i gadw yn fyw; gyda zêl dros eu henwad eu hunain, y teimladau mwyaf rhydd a charedig tuag at enwadau eraill. Bu cydweithrediad cyffelyb mewn Cymdeithas Lenyddol yn Rehoboth Cofiwn yn dda am y Gymdeithas hono, ac y mae ein rhwymau yn fawr iddi. Yr oedd y diweddar Barchedigion James Evans ac R. T. Owen yn aelodau o honi yr un pryd.
Cyn terfynu, rhaid i ni wneuthur crybwylliad byr am y brodyr a godwyd i bregethu yn yr eglwysi hyn. Nid oes genym ddim y dymunwn ei ychwanegu gyda golwg ar y ddau y cyfeiriwyd atynt eisoes, sef y diweddar Barchedigion John Jones, Brynteg, a Morris Jones, Aberllefenni, er fod y cyntaf o honynt; yn arbenig, yn haeddu crybwylliad llawer helaethach nag y mae yn ein meddiant ni y defnyddiau at ei roddi.
Yn Nghorris, ni chyfodwyd neb i bregethu ar ol y brodyr hyn hyd nes y dechreuodd y Parchedig John Roberts, yr hwn sydd yn awr ar ymweliad â'r wlad hon, wedi bod am uwchlaw deuddeng mlynedd yn genhadwr llafurus a llwyddianus ar Fryniau Khassia yn India'r Dwyrain. Mab ydyw ef i'r diweddar Richard Roberts, Gwyngyll, yr hwn ydoedd saer maen wrth ei alwedigaeth, a Jane, ei ail wraig. Bu farw y tad pan yr oedd ei fab John oddeutu naw mlwydd oed. Yn ddiweddar yn ei oes y daeth Richard Roberts at grefydd. Yr oedd bob amser yn ddyn moesol, ac yn tueddu at fod yn hunan—gyfiawn. Tybiai ei fod lawn cystal a llawer o'r rhai a gymerent arnynt fod yn grefyddol; ond trwy drugaredd Duw daeth i weled mai pechadur ydoedd, ac fel pechadur daeth i ymofyn am le yn nhŷ Dduw, yr hwn a gafodd gyda chroesaw. Ni estynwyd iddo lawer o flynyddoedd. Gŵr call craffus ydoedd, a hynod fedrus ac ymdrechgar gydai alwedigaeth, ac un a berchid yn gyffredinol gan ei gymydogion.
Gadawodd ei weddw gyda phedwar o blant ar haner eu magu, un ferch a thri o feibion. Arosodd John gyda'i fam i ofalu yn garedig am dani, oddigerth ychydig amser y bu yn gweithio yn Nhrawsfynydd a Ffestiniog, nes oedd wedi dechreu pregethu. Derbyniwyd ef fel ymgeisydd am y weinidogaeth yn Nghyfarfod Misol Bryncrug, Hydref 4ydd ar 5ed, 1863 Wedi treulio pedair blynedd yn Athrofa y Bala, a thymor yn Mhrifathrofa Edinburgh aeth allan yn genhadwr i India yn Medi 1871. Ymbriododd yn Mai 1871 â Miss Sydney Margaret Jones merch henaf y diweddar Glan Alun. Buont am rai blynyddoedd yn llafurio yn Shellapoonjee a Lait-kynsew; ac wedi hyny symudasant i Nongsawlia, Cherrapoonjee, lle y bu Mr. Roberts yn athraw y Coleg Normalaidd, a Mrs. Roberts yn ei gynorthwyo yn effeithiol gydag addysg y merched. Y mae iddynt saith o blant yn fyw; ac ar hyn o bryd y maent fel teulu yn cyfaneddu yn y Bala. Bwriadant ddychwelyd i faes eu llafur tua diwedd y flwyddyn hon.
Ni chyfododd pregethwr arall yn Nghorris hyd heddyw. Bw farw yn ieuainc amryw o fechgyn y disgwylid pethau mawr oddiwrthynt; ac y mae pedwar o'r cyfryw yn haeddu crybwyll iad yn y lle hwn, sef Robert Roberts, mab ieuengaf Robert a Jane Roberts, Garleglwyd; Rowland Jones, mab John a Jane Jones, Shop Newydd; Richard Roberts, mab John a Mary Roberts, Dolybont; a Meredith, mab John ac Anne Jones, Galltyrhiw. Yr ydym wedi arfer edrych ar farwolaeth y gwyr ieuainc gobeithiol hyn ymysg y colledion mwyaf y gwyddom ni i'r gymydogaeth eu dioddef mewn blynyddoedd diweddar.
Bu un gŵr a fagwyd yn eglwys Corris yn weinidog cymeradwy yn yr America am lawer o flynyddoedd, sef y Parchedig Edward J. Hughes, West Bangor, Pennsylvannia, yr hwn y cyfeiriwyd ato o'r blaen. Bu farw Gorphenaf 30, 1885
Yn Aberllefenni cyfodwyd tri o'r frodyr i'r weinidogaeth. Am resymau amlwg ni wneir un cyfeiriad yn y lle hwn at y cyntaf o'r tri.[3] Yr ail ydoedd y Parchedig John Owen, sydd yn awr yn weinidog yr eglwys y magwyd ef ynddi. Ar trydydd ydyw y Parchedig John Owen Jones, Llanengan, Swydd Gaenarfon. Yn Aberllefenni y dechreuodd yntau bregethu, er mai brodor ydoedd o Lanllechid, yn Arfon.
Mae un brawd o'r ardal hon yn bregethwr cymaradwy yn yr America, y Parchedig Evan D. Humphreys, Fairhaven, Vermont, yr hwn y cyfeiriwyd ato yn y benod flaenorol.
Dichon y goddefir i ni yn y fan hon wneuthur crybwylliad am rai brodyr a gychwynasant eu gyrfa weinidogaethol yn yr ardaloedd hyn gydag enwadau eraill. Nid ydym yn cofio neb ddechreu pregethu gyda'r Annibynwyr yn Nghorris ond y Parchedig Roderic Lumley, sydd yn awr yn llafurio yn Trevor, Sir Gaernarfon. Gyda'r Wesleyaid y codwyd y nifer fwyaf i'r weinidogaeth. Yr oedd yn eu mysg hwy o'r cychwyn lawer o wres a theimlad, awydd canmoladwy i feithrin pob doniau at wasanaeth crefydd, a pharodrwydd i roddi y gefnogaeth angenrheidiol i unrhyw ŵr ieuanc y ceid lle i gredu ei fod yn meddu cymhwysderau at y weinidogaeth; ar canlyniad fu i nifer liosog o frodyr droi allan o'u plith yn bregethwyr a gweinidogion effeithiol a llwyddianus. Gan fod y rhan amlaf o'r rhai hyn eto yn fyw, nid priodol fyddai i ni wneuthur unrhyw sylwadau arnynt; ond dodwn i lawr ychydig nodiadau ar ddau o honynt sydd ers blynyddoedd bellach wedi gorphwys oddiwrth eu llafur, sef y Parchedigion R. T. Owen a James Evans. Anrhydedd mewn gwirionedd i'r eglwys yn Carmel ydoedd cael rhoddi cychwyniad i'r ddau weinidog hyn; a cholled fawr i'r holl gyfundeb oedd eu marwolaeth gynar ac (i'n golwg ni) anamserol.
Yn Glanderi, Corris, y ganwyd R. T. Owen, Mai 13, 1842 Ei rieni oeddynt Owen ac Elisabeth Owen. Bu ei frawd, Mr. David Owen, pregethwr cynorthwyol gyda'r un enwad, yn llanw un o'r safleoedd cyhoeddus mwyaf pwysig yn Nghorris am flynyddoedd: ond y mae wedi symud ers amser bellach i gymydogaeth y Brifddinas. Dechreuodd R. T. Owen bregethu yn Medi, 1860, pan nad oedd ond ychydig fisoedd uwchlaw 18 mlwydd oed. Teimlodd bethau grymus yn niwygiad crefyddol 1859—60; ac aeth allan i bregethu Crist yn ngwres y diwygiad. Daeth yn boblogaidd ar unwaith; ac yn Medi, 1861 cafodd ei alw fel Pregethwr Cyflogedig i Nefyn, yn Nghylchdaith Pwllheli. Derbyniwyd ef i waith rheolaidd y weinidogaeth yn 1862; ar lle cyntaf yr anfonwyd ef i lafurio ynddo ydoedd Birkenhead. Symudodd oddiyno i Bethesda, yn 1863; aeth i Lanfyllin yn 1865, i Gaerlleon yn 1867, ac i Porthdinorwig, yn 1869 Yn y lle hwn y bu farw Hydref 2, 1871, yn 29 mlwydd oed.
Cawsom y fraint o fod yn gyfaill mynwesol iddo yn nyddiau ein mebyd; a hawdd fyddai i ni ysgrifenu llawer am ei gymeriad a'i lafur. Yn y fan hon, pa fodd bynag, nid gweddus fyddai ymollwng gyda'n teimladau. Ni chafodd un gŵr ieuanc erioed yrfa fwy llwyddianus. Er na chawsai braidd ddim manteision addysg yn nechreu ei oes, ac nad oedd ei gyfleusderau i gasglu gwybodaeth am rai blynyddau wedi iddo fyned trwy dymor mebyd ond tra phrinion, ymroddodd i lafur caled a'i galluogodd i orchfygu pob anhawsderau, ac i guddio yn dra effeithiol o olwg pawb ond efe ei hun bob arwyddion o'i amddifadrwydd o fanteision boreuol. Yr oedd yn amlwg wedi ei dori allan i bregethu, ac yn meddu y cyfuniad mwyaf dymunol o'r cymwysderau angenrheidiol at fod yn llwyddianus yn ei weinidogaeth. Yn gyntaf oll, meddai ddynoliaeth dda. Yr oedd yn serchog a synwyrol, yn llawn arabedd a sirioldeb, ac eto yn nodedig o graffus i adnabod dynion a medrus i'w trin. A thrwy y nodweddau hyn bu mor llwyddianus fel bugail ag ydoedd fel pregethwr. Ymhob cylch, yr oedd rhyw swyn ynddo a'i gwnelai yn anwyl gan bawb a ddeuai i gyffyrddiad âg ef. Yr oedd hefyd o dduwioldeb dwfn a diamheuol; ac anaml y gwelwyd ymgysegriad llwyrach i waith y weinidogaeth na'r eiddo ef. Byr fu ei yrfa; ond pery ei waith yn hir. Cofir am dano gyda serchogrwydd ymhob man lle y bu yn llafurio; ac nid oes amheuaeth na ddychwelwyd ugeiniau lawer at Grist trwy ei weinidogaeth. Yn ystod yr ychydig flynyddau a gafodd, nid oedd un gweinidog ieuanc yn fwy ei boblogrwydd a'i ddylanwad ymhlith y Wesleyaid; ac y mae yn amheus a oedd mwy nag un o'i gyfoedion y gellid ei gymharu âg ef yn y pethau hyn. Ond yn nghanol ei boblogrwydd, parhaodd yn gwbl ddirodres diymhongar. Erioed ni welwyd yn wir gymeriad mwy dymunol; ac anmhosibl ydyw traethu maint y golled a gafwyd trwy ei farwolaeth cyn ei fod yn llawn 30 mlwydd oed. Ymddangosodd Cofiant rhagorol iddo, yn 1875, gan y Parchedig Hugh Jones, yn awr o gylchdaith Shaw Street, Liverpool ynghyd â detholiad o'i Bregethau.
Ganwyd James Evans yn y Dafarn—newydd, Corris, Gorphenaf 12, 1841 Ei rieni oeddynt Robert ac Anne Evans. Gwnaed crybwylliad am ei daid, o du ei fam, James Evans, Tyn llechwedd, yn Penod iii. Cychwynodd James Evans ac R. T. Owen eu gyrfa fel pregethwyr yr un adeg; ond yn araf mewn cymhariaeth i'w gyfaill y daeth James Evans i'r golwg. Ac yr oedd hyn i'w briodoli yn unig i wahaniaeth naturiol rhwng eu galluoedd. Yr oedd J. E. wedi cael llawer gwell parotoad yn nyddiau ei febyd nag R. T. O, ond y diweddaf a ymwthiodd er hyny ar unwaith i ffafr y cyhoedd. A chymerodd J. E. rai blynyddoedd, ar ol dechreu pregethu, i gael rhagor o ysgol, tra na chafodd ei gyfaill o hyny hyd ei fedd ddiwrnod o hamdden at unrhyw efrydiaeth ond yn nghanol llafur gweinidogaethol o'r fath galetaf. Yn 1864, ddwy flynedd, yn ddiweddarach na'i gyfaill, y galwyd J. E. i'r gwaith rheolaidd, er ei fod yntau, tra yn yr ysgol yn Abertawe, yn gwasanaethu y gylchdaith hono yn gyson. I Lanrwst yn Tach wedd y flwyddyn hono, mewn canlyniad i farwolaeth y Parchedig Owen Evans, yr anfonwyd James Evans i ddechreu ei lafur. Yn 1865, aeth i Porthdinorwig, yn 1866 i Lansilin, yn 1868 i gylchdaith Amlwch, yn 1869 i Liverpool yn 1871 i Coedllai, ac yn 1874 i Ddolgellau, lle y bu farw Hydref 15, yr un flwyddyn, yn 33 mlwydd oed. Heblaw fod oes y ddau frawd hyn yn fyr, cawsant gryn dipyn o afiechyd a'u hanalluogodd i lafurio o gwbl am rai misoedd, ac am rai blynyddoedd gyda'r effeithiolrwydd y gwnaethent pe yn mwynhau iechyd cryf. Gwnaeth y ddau niwed i'w cyfansoddiadau trwy aros. i fyny gyda'u gilydd un noswaith gyfan o bob wythnos i gyefrydu gwahanol awduron, tra yn gweithio yn galed y dydd drachefn gydau gorchwylion. Gwelir i'r ddau gael eu galw i rai o gylchdeithiau pwysicaf y dalaeth, megis Liverpool a Chaemarfon; ac y mae eu coffadwriaeth ymhob man lle buont yn fendigedig. Dechreu dyfod i'r golwg yr oedd James Evans pan y bu farw. Yr oedd y ddau frawd yn wylaidd yn naturiol, a bu gwyleidd—dra J. E. yn brofedigaeth a magl iddo i ryw fesur hyd y diwedd. Er ei fod yn gerddor rhagorol, ac yn hoff mewn gwirionedd o gerddoriaeth, ni ddeuwyd i ddeall hyd o fewn ychydig flynyddoedd i derfyn ei oes y gwasanaeth gwerthfawr y gallasai ei gyflawni gyda cherddoriaeth y cysegr. Yn y cylchdeithiau y bu yn llafurio, deallid yn fuan ei werth; ac at ddiwedd ei oes yr oedd yntau yn ymollwng yn fwy rhydd i gymeryd y lle a berthynai iddo. Yr oedd ganddo hefyd adnoddau a fuasent yn rhwym o hawlio iddo mewn amser le parchus ymysg y rhestr flaenaf o weinidogion ei enwad yn y Dywysogaeth. Colled fawr i Wesleyaeth ac i grefydd yn Nghymru oedd marwolaeth gynar y brodyr anwyl hyn. Ymddangosodd Cofiant gwerthfawr i'r Parchedig James Evans, yn yr Eurgrawn am 1880, wedi ei ysgrifenu gan y Parchedig W.H. Evans, yn awr o'r Abermaw. Yn Nghladdfa Bangor y gorwedd llwch y Parchedig R. T. Owen; ac yn nghladdfa yr Eglwys Sefydledig yn Nghorris y gorphwys yr hyn sydd farwol o'r Parchedig James Evans. Tra parhaodd eu dydd, gweithiasant yn egniol; ac y maent ill dau yn ddios yn awr yn myned i mewn i lawenydd eu Harglwydd. Mae yn nghapel Siloh, Corris, goflechau (tablets) hardd a threulfawr wedi eu gosod i fyny er anrhydedd i goffadwriaeth y naill ar llall.
Nid yw yn perthyn i ni wneuthur unrhyw sylwadau ar y swyddogion na'r aelodau ydynt mewn cysylltiad a'r gwahanol eglwysi yn bresenol; nac ychwaith draethu ein syniadau am rhagolygon methodistiaeth yr ardaloedd yn y dyfodol Yr ydym o'n calon yn dymuno am i'r llwyddiant rhagllaw fod yn gyffelyb ac os oes modd yn fwy na'r llwyddiant yn yr amser aeth heibio.
Gallesid ychwanegu penod ddyddorol ar Ddiwygiadau Crefyddol yr Ardaloedd yn enwedig diwygiadau 1819, 1839, a 1859 Nid ydym yn cofio ein hunain ond y diweddaf; ac yr ydym wedi ymatal rhag gwneuthur unrhyw grybwyllion am dano oddieithr yn gwbl achlysurol. Plant diwygiadau ydyw Methodistiaid Corris ar Amgylchoedd; ac nid anyddorol fuasai olrhain effeithiau y diwygiadau ar eu cymeriad; ond arweinid ni gyda'r gorchwyl hwn yn rhy agos i'r tir beirniadol yr ydym wedi ymdrechu cadw allan o hono. Gresyn ar yr un pryd fyddai i hanes y diwygiadau gael eu colli; ac yr ydym, wrth derfynu, yn awgrymu mai dymunol fyddaf ei gasglu a'i ddiogelu, heb golli ychwaneg o amser, gan rywun neu rywrai sydd yn preswylio yn y gymydogaeth.
CREDWN mai nid annyddorol fydd yr Alargan ganlynol, gan Gutyn Ebrill. Hi oedd y fuddugol mewn cystadleuaeth eisdeddfodol yn Nghorris, Medi 26, 1874
GALARGAN
AR ÔL
MR. HUMPHREY DAVIES,
ABERCORRIS.
D'WED y testyn mai galargan
Ydyw teilwng bwnc y dydd,
Am yr hybarch Humphrey Davies,
Un o gadfridogion ffydd;
Hoffa rheswm gael esboniad,
Pam y mynwn Alar—gân,
Am un aeth o fyd y galar
At ei delyn i'r nef lân!
Nid fel rhai heb unrhyw obaith,
Y tywalltwn ddagrau n ffol,
Tystiolaethau fil adawodd,
I ni yma ar ei ol,
Y newidiai faes ei frwydr,
Am fro hedd a phalmwydd gwyrdd;
Ac yr ai trwy'r fuddugoliaeth
Lle mae'r dewrion yn fu myrdd.
Pan yn sangur gladdfa dawel
Lle yr huna yr hen dad,
Dinas Meirw i hoff Rehoboth
Un o gysegr-fanau'r wlad,
Cwmwl tystion ol rinweddau
A'i weithgarwch pan yn fyw,
Gyfyd yno i'n hysbysu,
WELE FEDD CADFRIDOG Duw.
Gallwn inau ddwrdio Angau,
(Fel mae arfer llawer rhai)
Am golledau ardal Corris
Pan yn chwalu pabell glai,
Un a fu am haner can mlwydd
Iddi'n Flaenor ffyddlon iawn,
Fel crefyddwr a masnachydd,:
Dyn, a gwir Ryddfrydwr llawn.
Er ein gobaith o'r byd arall,
Wylwn eto ddagrau'n llyn,
Am fod prinder cymeriadau
Mor ardderchog ar rhai hyn;
Hwn yn Batriarch Abercorris
Dros wyth deg o flwyddau maith,
Fu yn werthfawr heb ei eilydd,
Gorfoleddai yn ei waith.
Gwaith a wnaeth trwy fasnach eang,
Gwaith wrth fagu teulu mawr,
Gwaith cymydog wnai i'w ardal,
Gwaith a'i codai gyda'r wawr;
Ysbryd gweithio a gynhyrfai
Ei ewynau cryfion ef,
Nes y tynai waith y ddaear
O dan ddelw gwaith y Nef.
Nid yn nghysgod amddiffynfa
Gaerog, y gweithredai ef,
Ond ar flaen y gâd y byddai,
Heriai fyd, ac uffern gref;
Dewr ymladdai â phechodau,
Gwympodd filoedd yn mhob oes :
Meddai cleddyf ein hen gyfaill
Awch parhaol dur y groes.
Nid ei dalu'n nghoin y ddaear,
Gai efe am lafur maith,
Gwenau'r nef a garai fwyaf
Yn gydnabod am ei waith;
Rhai athrawon cyflogedig
Ger ei fron a aent yn fud,
Wrth weld maint a phwys y llafur
Wnai efe at wellar byd.
Llafur cariad at ddynoliaeth,
Ac eiddigedd dros ei Dduw,
A gynhyrfodd gorff ac enaid
Wmffre Dafydd tra fu byw;
Ar ei ddenlin yr addolai
Wrth ei allor hoff ei hun,
Gan addysgu i blant i'n ffyddlon,
I fawrygu Duw a dyn.
Ei weddiau yn y dirgel,
Oresgynai orsedd Iôr,
Dros ei dylwyth a'i gymdogion,
Achos Iesu ar dir a môr ;
Cariai adswn creigiau Corris
Erfyniadau yr hen dad,
Am gael nodded nef i'r gweithwyr
Yn mheryglon aml y wlad.
Bu'n ddirwestwr egwyddorol,
Daliair faner yn ddigryn,
Mynai sychu pob ffynhonell
Feddwol, o fewn Talyllyn;
Rhoes ei fywyd a'i areithiau,
Noddfa'r gelyn yn un fflam,
Bythol barch a roir i'w enw
Anwyl, gan aml dad a mam.
Crynair meddwyn yn ei wyddfod,
A dywedai, Ffiaidd wyf !
Ond tywalltai yr hen Gristion
Olew cariad lond ei glwyf;
Gwisgai hioedd o'r chwarelwyr,
Yn eu dillad a'u hiawn bwyll
Ar ol gadael llwybrau'r felldith,
Y gyfeddach a'i holl dwyll.
Bu'n arweinydd i'r fforddolion
Ieuainc tua, dinas Duw,
Croesaw calon fyddai iddynt
Gael ei gymorth ef i fyw;
Haner canrif yn ddiacon,
Afu'n safle heb ei hail,
I'n hen gyfaill pan roedd blodau
Pur o rinwedd ar ei ddail.
Nid ei dynu yn anfoddog
Byddai i frodyr yn ei flaen,
Ni roes balchder dyn ystyfnig
I'w gymeriad un ystaen;
Ymestynai at ei orchwyl,
Yn wirfoddol filwr rhydd,
"Gwneyd daioni pan y gllaf"
Ydoedd arwyddair ei ddydd.
Rhoes ei help i ddwyn addysgiaeth
Enwog i addurno'r wlad,
Ni choleddai wag amheuaeth
O'r canlyniad, trwy un brâd;
Ca'dd llenyddiaeth a chelfyddyd,
Pob diwylliant fedda'r fro
Ei gefnogaeth fwyaf diwyd,
Dyn i'r lliaws ydoedd o.
Gwelodd gladdu llu o'i frodyr,
Ac o'i deulu hoff ei hun,
Yntau'n aros fel cedrwydden
Rymus, iraidd, deg ei hun;
Dedwydd iddo fu eu harwain
At y bâd i groesi r lli,
Gyda'r HWN, a rydiai'r afon
ARWR brwydr CALFARI.
Cododd feibion o enwogrwydd,
Pur, rhinweddol, yn eu gwlad,
Merched ffyddlawn i hyfforddiant
Gwir ragorol mam a thâd;
Ei fab DAFYDD er ei fawredd
Aeth o flaen ei dâd i'r glyn,
Bu y fro o ben—bwy—gilydd,
Wedi i golli ef yn syn.
Cafodd daflu i "fantell" loyw
Ar ysgwyddau "Humphrey bach"
(Fel y geilw'r wlad yr iengaf)
Teilwng flaenor o'r ffydd iach;
Bydd ysbrydiaeth hen ELIAS
Yn yr ELISEUS yn llawn,
A gofala'r nef yn deilwng,
Am eneiniad ar ei ddawn.
Wedi cyraedd pedwar ugain,
Mynai'r patriarch fod yn llanc
Hoew, gyda diwygiadau,
Daliai'n wrol hyd ei drangc;
Mynodd uno yn y fyddin
Wrol gyda'r Temlwyr Da.
Rhywbeth wnelai sobri meddwon
Wnai ei auaf oer yn ha.
Bwlch a dorwyd mewn byddinoedd,
Pan fu farw yr hen sant,
CORRIS wylai yn naturiol,
Fel y fam ar ol ei phlant;
Cofio i safle fel dyngarwr
A haelionus deym y lle
A chrefyddwr heb ei eilydd,
Ddalia gwyn am dano fe.
Cyrddau Misol De Meirionydd
Gawsant deimlo colled chwith,
Yn marwolaeth Wmffra Dafydd
O'r ffyddlonaf yn eu plith;
Ond mae'r hâd a hauwyd ganddo
Eto n tyfu yn y tir;
Tra bo Duw yn bur i'w eiriau,
Ffrwytha yntau amser hir.
Gall dysgawdwyr byd rychwantu
Pwys a mesur pethau mawr,
Dal cyfathrach gyda'r heuliau,
Tynu'r mellt o'r nef i lawr
Gwneyd gwrhydri anghredadwy
Ond ni allant fesur nerth,
Na rhoi pris ar waith y Cristion.
Tri-ugein-mlwyddd dyna werth!
Dichon nad oedd dydd ei farw
Yn dywyllwch drwy y Sir,
Ni wnaed rhwysg i glych—alaru
Dydd ei anwyl, digon gwir;
Ond o'r nefoedd daeth gosgorddlu
I Rehoboth at yr awr,
I gael gweled corff y gwron
Yn cymysgu â llwch y llawr.
Ni ŵyr llu o rai gwybodus
Fawr am ardal Corris iach,
Am ei bryniau serth a llechog,
Am ei phêr afonig fach;
Ond gŵyr Mesuronwyr Gwynfa
Am bob llathen yn y lle,
A gysegrwyd i weddiau,
A chlodforedd Teym y Ne
Mynnir codi cofgolofnau,
Am enwogion yn mhob oes,
Fel i herio anghof creulon
I ddistrywio'r clod a roes;
Cenedlaethau, i fydolwyr,
Am wrhydri dodda n llwyr
Tan belydrau dysg a chrefydd,
Fel y todda canwyll gŵyr
Adeiladodd Wmffra Dafydd
Ei gofgolofn yn ei ddydd,
Trwy ei foes, a'i fywyd duwiol,
Pyramidiau maes ei ffydd;
Ei sedd wâg o fewn Rehoboth
Draetha'r golled i'n hoes ni;
A'i rinweddau fy'n ddylanwad
Tra cydnebir nefol fri
Henffych well i'w goffadwriaeth!
Arogl hyfryd ini yw,
Tyfa blodau gardd Paradwys
I bereiddio bedd gŵr Duw ;
Gyda'r udgorn floedd ddiweddaf
Llwchyn at ei lwchyn ddaw
O falurion daear Corris
Gelwir ef i'r ddeheulaw.
Anfonwyd y llinellau canlynol i ni i'w dodi yn ein llyfryn gan ein hen gyfaill Mr. Evan Morris (Ieuan Meurig), Abergynolwyn, yr hwn sydd yntau erbyn hyn wedi myned drosodd at y mwyafrif:—
LLINELLAU COFFADWRIAETH
AM HEN DADAU CREFYDDOL CORRIS AC ABERLLEFENNI
O na buasai ban fynyddoedd Cymru, |
Cynghorion GRIFFITH ELLIS o Bensarn, |
Ac arnynt gwelsom un yn cael gwobrwyon |
—————————————————————
ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN E. W. EVANS, DOLGELLAU
—————————————————————
Nodiadau
[golygu]- ↑ Derbyniasom y nodiad canlynol oddiwrth y Parchedig John Jones, Tue Brook, Liverpool:— "Bum yn ymddiddan â rhai fu yn casglu y cèn, ac yn ei ddefnyddio. Yn ystod rhyfel Ffrainc yr oedd galw mawr am dano i liwio dillad y milwyr. Yr oedd trigolion Dolgellau yn enwog am eu diwydrwydd a’u llwyddiant gyda’r fasnach hon; a dywedir fod amgylchiadau trigolion y lle yn fwy clyd na’r cyffredin hyd heddyw oherwydd yr elw a wnaethant hwy a’u hynafiaid trwy gasglu y cèn. Mae hyn mewn arferiad hyd heddyw mewn ardaloedd gwledig.
- ↑ Yr ydym yn diyledus i'r Proffeswr Powel, o Gaerdydd, am y nodiadau canlynol, allan o Notes and Queries, ar y defnydd a wneid o'r lludw a'r cèn yn yr amser gynt:-"The fern referred to is no doubt the common brake (Pteris aquilina), the fronds of which are collected and burned in considerable quantities, for the sake of the ashes, not only in Wales, but in other parts of the country; these ashes contain a large quantity of alkali, and are made into cakes and balls, which form an article of trade, and are used as soap for washing, as well as by glass-makers. The lichen spoken of as being collected from the stones and boulders is in all probability Lecanora Tartarea, which is common species growing on boulders and rocks. Of this species we read in Lindsay's Popular History of British Lichens, that When Cudbear [dye)-making flourished in Glasgow and Leith, the Cud-bear lichen, so called, was largely collected in the Western Highlands and Islands by the poor peasantry, who were thus able to earn in 1807, according to Hooker, fourteen shillings a week. In Derbyshire and the rocky parts of Cumberland and Westmoreland it was also at one time collected by the peasantry, probably for the London market; they sold it to the manufacturer at a penny a pound, and were able usually to gather 20 or 301bs. a day."
"The lichen was most probably used for dyeing. It used to be employed for that purpose in the Highlands, and produces a dirty yellow."
"It may be well to note that Sir Thomas More knew that fern ashes were used in the making of glass. He says, 'Who wold wene it possible yt.glasse were made of fern rotys' (The Works of Sir Thomas More, Knight, 1557, fol. p. 125)." - ↑ Y Parch Griffith Ellis, Bootle, sef awdur y llyfr hwn
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.