Neidio i'r cynnwys

Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Corris

Oddi ar Wicidestun
Llanegryn Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Aberllefeni
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Corris
ar Wicipedia

CORRIS.

Olrheinir dechreuad Methodistiaeth Corris yn rhwydd ac eglur yn ol i'r flwyddyn 1781. Trwy offerynoliaeth gwraig o'r enw Jane Roberts y torodd y wawr gyntaf ar yr ardal. Cawsai y wraig hon grefydd ychydig flynyddau cyn hyn, tra yr ydoedd yn preswylio yn Nannau, ger Dolgellau, trwy iddi fyned i wrando ar John Evans, y Bala, yn pregethu yn Maes-yr-afallen. Daeth i fyw ymhen ychydig wedi hyn i Rugog, Corris. Ac yn y flwyddyn uchod clywodd fod pregeth i fod yn Abergynolwyn, a pherswadiodd ei merch Elizabeth, a Dafydd Humphrey, y rhai oeddynt newydd briodi, i ddyfod gyda hi i wrando y bregeth, Aeth y tri gyda'u gilydd o Gorris i Abergynolwyn. Hon oedd yr ail bregeth yn ol pob hanes, a bregethwyd gan y Methodistiaid yn y rhan yma o Sir Feirionydd, a'r gyntaf, hyd y gellir gwybod, i neb yn Nghorris fod yn ei gwrando. Bendithiwyd y bregeth hon mewn modd neillduol i Dafydd Humphrey. Wrth ei gwrando, yn y fan a'r lle, gwnaeth gyfamod â'r Gwr i'w gymeryd ef yn Dduw, a'i bobl yn bobl, a'i achos yn waith iddo tra byddai ar y ddaear." O'r dechreuad hwn y tarddodd yr eglwys yn Nghorris, ynghyd â'r pedair eglwys a darddodd allan o honi hithau—Aberllyfeni, Ystradgwyn, Esgairgeiliog, a Bethania. Ysgrifenwyd hanes. Methodistiaeth yn y manau hyn gan y Parch. G. Ellis, M.A., Bootle, ac efe a'i cyhoeddodd yn llyfr mor ddiweddar a diwedd 1885, o dan y teitl, "Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd". Mae yr hanes wedi ei ysgrifenu ganddo ef o'r dechreuad mor gyflawn a manwl fel nas gellir rhagori arno; a chan ei fod wedi ei gyhoeddi mor ddiweddar, ni fwriedir yma ond rhoddi crynhodeb o'r pethau mwyaf angenrheidiol eu gwybod am ddechreuad a chynydd pob eglwys, fel y byddo yr oll o weithredoedd yr Arglwydd yn y parth hwn o'r wlad i'w cael gyda'u gilydd i'r oes sydd yn codi, i'w cadw mewn coffadwriaeth. Bydd felly, o angenrheidrwydd, lawer o'r ffeithiau a'r digwyddiadau a gofnodir am y pum' eglwys hyn i'w priodoli i lafur ffyddlawn Mr. Ellis, yr hwn a'u chwiliodd allan gyda dyfalwch, ac a'u hysgrifenodd gyda manylwch teilwng o hono ei hun. Cafwyd gwell mantais i wybod hanes boreuol yr achos yn Nghorris nag odid fan yn y sir, oblegid ysgrifenwyd ef yn y f. 1840, gan Mr. Daniel Evans, yr hwn oedd ar y pryd yma yn ysgolfeistr, a chyhoeddwyd ef yn y Drysorfa y flwyddyn hono. Y flwyddyn gynt y bu farw Dafydd Humphrey, sylfaenydd yr achos, a diameu fod yr holl amgylchiadau wedi eu cael gan y neb a'u hysgrifenodd o enau yr hen batriarch ei hun.

Ymhen y flwyddyn, ar ol bod yn gwrando y bregeth yn Abergynolwyn, y cafodd Dafydd Humphrey gyfle i wrando yr ail bregeth. Yr ydoedd hyn ar Fawnog Ystradgwyn, a phrofwyd erledigaeth blin a chwerw yn yr odfa hono. Dywed yr hanes yn 1781 y bu hyn, ond wrth gymharu yr amgylchiadau, rhaid dyfod i'r penderfyniad ei bod flwyddyn yn ddiweddarach. Yna, ymhen rhyw ysbaid, cafwyd un o hen bregethwyr y Bala ar ryw Sabbath i bregethu i ardal Corris, ar fin y ffordd fawr. Dywed Mr. Ellis mai Dafydd Cadwaladr oedd y pregethwr, ac mai tua 1781 neu 1782 yr oedd hyn. Yn 1780 y pregethodd Dafydd Cadwaladr ei bregeth gyntaf, yn Ngherig-y-druidion, ac fe fu bwlch o ddwy flynedd cyn iddo roddi cynyg ar bregethu drachefn, oherwydd iddo wangaloni ar ol y tro cyntaf. Os efe oedd y pregethwr a bregethai ar fin y ffordd fawr y tro hwn, rhaid mai newydd ddechreu pregethu yr oedd. Modd bynag, mae yn bur sicr mai hon oedd y bregeth gyntaf erioed a bregethwyd gan y Methodistiaid yn Nghorris. Ac y mae dau beth yn amlwg mewn cysylltiad à hi—gwrthwynebiad cryf yr ardalwyr i dderbyn yr efengyl, a chyfryngiad rhyfedd Rhagluniaeth ddwyfol i beri i'r efengyl orchfygu. "Yr oedd rhywrai, ar ol clywed fod pregeth i fod yn yr ardal y Sabbath hwnw, wedi danfon offer aflonyddwch, sef llestri tin a phres i'w curo, fel ag i lesteirio i'r bobl glywed beth a ddywedid gan y pregethwr. Ond yr oedd blys cael clywed gan ryw un yno, yr hwn a gipiodd y llestr pres o law y terfysgwr, ac a'i lluchiodd i'r afon. Aed i'w geisio eilwaith, ond bellach ni ellid, gan yr agen a wnaed ynddo, wneyd nemawr ddefnydd o hono." Am y saith neu wyth mlynedd nesaf, tebyg ydoedd yma i hanes yr ardaloedd cylchynol—pregethwr dieithr yn dyfod heibio yn awr ac yn y man, ac yn cael derbyniad i bregethu i'r tŷ hwn a'r tŷ arall. "Wedi hyn bu pregethu mor aml ag y gellid ei gael, yn gyntaf yn Llainygroes, a thrachefn, am ysbaid dwy flynedd, yn Ysguborgoch. Ond yr oedd dygasedd yr hen sarff yn llesteirio i'r efengyl gael arhosiad hir yn unlle; eto yr oedd yn enill calon ambell un. Yn y flwyddyn 1790 yr oedd yno bump wedi cael blas ar fara y bywyd, sef Dafydd Humphrey a'i wraig, Jane Roberts, Jane Jones, a Betti Lewis. Wedi i ddrysau eraill gau, buwyd yn pregethu ar ben careg, wrth ddrws tŷ anedd, ar dir Dafydd Humphrey. Gelwid y tŷ hwn yr Hen Gastell; ac wedi ymadawiad y gŵr a'i preswyliai y pryd hyny, gosododd ef i ŵr arall am ychydig o ardreth, ar yr amod fod pregethu i fod ynddo."—(Methodistiaeth Cymru, I., 580.)

Dyma yr adeg y sefydlwyd yr eglwys yn Nghorris wedi ei gofnodi, "y pryd hwn, oddeutu y flwyddyn 1790, y dechreuwyd cynal cyfarfod eglwysig," a'r pump a enwir uchod oedd yn gwneyd i fyny aelodau yr eglwys. Cafodd y crefyddwyr hyn, a'r rhai a ymunodd a'r eglwys ar eu hol brofi yn drwm oddiwrth erledigaeth yr amseroedd. Y mae hanes eu gorthrwm, a'r milwyr yn dyfod dan arfau i ymosod ar yr Hen Gastell, a Dafydd Humphrey yn brysio, ac yn cymeryd y pulpud a'i gario ar ei gefn i'w guddio yn y beudy, wedi ei roddi eisioes yn y benod ar yr erledigaethau yn 1795. Ac y mae geiriau yr hen Gristion am dano ei hun, tra yr ydoedd wedi ymuguddio yn y rhedyn yn ngolwg y ffordd, yn teilyngu eu hadrodd fil o weithiau drosodd,—"A gwelwn," meddai, "y fyddin arfog yn dyfod dan saethu, nes oedd y mwg yn llenwi cwm Corris o ben bwygilydd." Ychwaneg ar hyn i'w weled yn Hanes Methodistiaeth Corris, a Methodistiaeth Cymru.

Yr Ysgol Sabbothol oedd yn foddion arbenig i gryfhau yr eglwysi, pa le bynag yr oedd y cyfryw wedi eu sefydlu o'i blaen hi. Felly yn Nghorris. Ond tra y mae amser sefydliad yr eglwys yma yn wybyddus, nid oes sicrwydd am amser dechreuad yr Ysgol Sabbothol. Adroddir am y dull y dechreuodd fel hyn.—Yr oedd yn Sabbath hynod o wlawog, ac nid oedd pregethu yn yr Hen Gastell y diwrnod hwnw. Penderfynodd teulu Abercorris ymffurfio yn ddosbarth, ac i bob un a fedrai ddarllen gymeryd ei Feibl. Cawsant gymaint o flas ar y gwaith yn y dull hwn fel y penderfynasant gyhoeddi Ysgol yn yr Hen Gastell y Sabbath dilynol. Coffheir am dri o ysgolfeistriaid a fu yma yn cadw ysgol, o dan Mr. Charles, oddeutu y pryd hwn-Robert Morgan, Lewis William, Llanfachreth, a Dafydd Rhisiart. Diameu i bob un o'r tri fod yn gefnogol i gychwyn a chynal yr Ysgol Sabbothol. Un o'r hen bobl a ddywedai mai yr hyn fu'n gymhelliad i'r rhai a ofalent am yr achos i feddwl am yr Ysgol Sul ydoedd, dymuniad i gadw y plant rhag gollwng dros gôf yr hyn a ddysgasai Dafydd Rhisiart iddynt. Yn 1800 y bu Lewis William yn Nghorris y tro cyntaf. Oherwydd yr awydd angerddol oedd yn llosgi yn ei natur ef gyda'r gwaith hwn, ni allasai aros dri mis yn unlle heb godi Ysgol Sul. Y geiriau canlynol a roddant oleuni am y rhan a gymerodd ef yn y gwaith yma hefyd, "Bu y brawd Lewis Williams, Llanfachreth, yn llafurus a llwyddianus iawn, pan oedd yma, i gynorthwyo ein tadau i sefydlu Ysgol Sabbothol yn ein plith." Tueddir ni yn gryf i gredu mai efe a roddodd gychwyniad i'r Ysgol Sul mewn trefn reolaidd, a hyny yn 1800. Hen chwaer grefyddol-Jane Roberts, Shop Newydd-a adroddai bum' mlynedd yn ol iddi hi fod yn perthyn i'r Ysgol yn yr Hen Gastell, pan yn eneth pur ieuanc. "Ychydig iawn," ebe hi, "oedd eu nifer y pryd hyny. Yn eu plith, ac yn benaf o honynt, yr oedd Dafydd Humphrey, Richard Anthony, Sion Richard, a'u gwragedd, ynghyd âg Humphrey Dafydd. Yr oedd yno hen lanc hefyd, o'r enw Edward Meredith, yn cymeryd rhan flaenllaw gyda'r Ysgol." Yn ol y cyfrifon a dderbyniwyd yn 1821, yn y Cyfarfod Ysgol, y lle a ddysgodd fwyaf allan ydoedd Ysgol Corris. Tua yr un amser bu ymweliad â'r Ysgolion. Yr hyn a ddywedir am Ysgol Corris yn yr Adroddiad ydyw,—"Nid oes dim i'w ddweyd am yr Ysgol hon, ond ei bod yn esiampl i holl Ysgolion y cylch." Parhaodd trwy y blynyddoedd, a pharha hyd yn awr i feddu yr un cymeriad, o ran teyrngarwch, gweithgarwch, a chydweithrediad â threfniadau y cylch, a holl gylchoedd y Cyfundeb. Ni adeiladwyd capel yn Nghorris am fwy nag 20 mlynedd ar ol dechreuad yr achos. Yr oedd yr Hen Gastell wedi ei gofrestru, a theimlid pob diogelwch bellach i bregethu ynddo. Diameu hefyd fod yr hen le yn gysygredig yn meddyliau y trigolion, fel nad oedd arnynt frys i ymadael o hono. Nid ydym yn hollol sicr ychwaith pa flwyddyn yr adeiladwyd y capel cyntaf. Y mae a ganlyn yn gerfiedig ar fur y capel:-

Rehoboth
A adeiladwyd y tro cyntaf—1813;
" " " " Yr ail dro—1834;
" " " " Y trydydd tro—1869;

Yr hyn sy'n peri gwedd o anghysondeb ydyw, y dywedir yn yr hanes a ysgrifenwyd yn 1840, mai yn 1816 yr ymosodwyd at ei adeiladu. Dichon mai gwall argraffyddol ydyw yr olaf. Ymddengys i'r eglwys fod am beth amser cyn dechreu adeiladu mewn sefyllfa pur isel; syrthiodd rhyw ddigalondid ar y crefyddwyr, a buont am ysbaid heb gadw yr un cyfarfod eglwysig. Hysbysir hefyd fod yr amser hwnw gyfyngder a phrinder mawr ymhlith y trigolion. Ond ail-enynodd ysbryd gweithio yn eu tad hwy oll, sef Dafydd Humphrey; rhoddodd dir i adeiladu arno, a gweithiodd ef ei hun, a'i weision, a'i anifeiliaid; a chynyrchodd yr un ysbryd yn chwarelwyr yr ardal, nes peri iddynt hwythau weithio wrtho bob prydnawn Sadwrn. Dygwyd y capel fel hyn i ben, yr hwn a safai tua haner milldir yn is i lawr na'r hen Gastell, ac yn union lle y saif y capel presenol. Cyn pen hir wedi adeiladu y capel torodd allan yn ddiwygiad nerthol—Diwygiad Beddgelert, 1818, 1819—teimlwyd dylanwadau grymus yr Ysbryd Glan, ac ychwanegwyd at yr eglwys o 65 i 70. Dywedai D. H., mewn canlyniad i'r llwyddiant hwn, "Bum yn chwilio llawer am blant i'r Ysgol Sabbothol; wele hwynt yn awr agos i gyd yn yr eglwys; dyma ddigon o dal am lafurio blynyddoedd meithion." Rhifai yr eglwys ar ddiwedd y Diwygiad hwnw 80, ond syrthiodd y rhif drachefn i 60 trwy farwolaethau, symudiadau, a gwrtligiliadau. Cafodd crefydd oruchafiaeth ar yr ardal trwy y diwygiad hwn. Ystyrid y capel a adeiladwyd ychydig yn flaenorol yn gapel mawr, ac eang anghyffredin, mor fawr fel y dywedai rhyw frawd fod eisiau "troi ei haner yn gorlan defaid." Yr oedd angenrheidrwydd am i'r capel fod yn fawr bellach, oherwydd fod y boblogaeth yn cynyddu trwy agoriad y chwarelau; ac ymhen tair blynedd ar ol ei adeiladu yr ail dro, sef y flwyddyn y bu farw Dafydd Humphrey, rhifai yr eglwys o 180 i 190. Yr un flwyddyn 1839—blwyddyn jiwbili dyled y capelau rhwng y Ddwy Afon, casglodd Corris at y drysorfa hon £136 0s. 6c., a derbyniasant o honi £209. Naill ai nid oedd hyn yn eu dwyn hwy allan o ddyled yn llwyr, neu aethant i ddyled drachefn, oblegid ceir y penderfyniad canlynol yn nghofnodion Cyfarfod Misol Dolgellau, Ionawr, 1853,—"Hysbyswyd fod cyfeillion Corris wedi talu dyled eu capel yn llwyr y llynedd, a phenderfynwyd, Fod y cyfarfod hwn yn cyflwyno diolchgarwch iddynt am eu ffyddlondeb, ac yn enwedig i'r brawd Mr. Humphrey Davies, am ei garedigrwydd yn rhoddi y tir ato, a'r fynwent helaeth sydd yn perthyn iddo, yn rhad." Yn 1869, ymgymeryd âg adeiladu y trydydd tro, a'r ffrwyth ydyw y capel hardd presenol, yr hwn sydd yn addurn i'r fro. Er cymaint oedd y gorchwyl hwn, yr oedd y Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yma Awst, 1885, yn gyfarfod jiwbili. Gwnaed yn hysbys ynddo fod dyled y capel oll wedi ei thalu, eu bod fel eglwys a chynulleidfa wedi talu bob blwyddyn at eu gilydd ryw gymaint dros £100, a bod yr holl swm oeddynt wedi dalu yn cyraedd i ymyl £2000. Y mae yr eglwys hefyd er's tuag wyth mlynedd yn ol wedi adeiladu tŷ eang a hardd i'r gweinidog. Y mae pedair eglwys, fel y crybwyllwyd, wedi tarddu allan o'r eglwys hon—Aberllefeni, Ystradgwyn, Esgairgeiliog, a Bethania. Rhif yr aelodau eglwysig yn 1790 ydoedd 5. Yn niwedd 1886, ymhen agos i gan' mlynedd, yr oedd y fameglwys a'r canghenau gyda'u gilydd yn rhifo 488. Yn 1820, y "Daith Sabbath" ydoedd—Corris, Llanfihangel, a Llanerchgoediog. Yn awr, y mae Corris ei hun wedi myned yn dair o "deithiau,"—Rehoboth, ac Esgairgeiliog; Aberllefeni, a'r Alltgoed; Bethania, ac Ystradgwyn. Rhoddir eto grynhodeb o hanes swyddogion yr eglwys. Bu eraill yn dra gwasanaethgar gyda yr achos, trwy yr holl dymhorau er y dechreuad. Ond y mae hanes y swyddogion fel rheol yn cynwys hanes yr eglwys yn lled gyflawn, oblegid ar eu hysgwyddau hwy y bu pwysau y gwaith yn gorphwys. Bendithiwyd yr eglwys hon â swyddogion enwog—dynion yn llawn o ffydd ac o'r Ysbryd Glân o'r cychwyn cyntaf. Ni bu yr un eglwys erioed o dan fwy o ddyled i'w blaenoriaid nag eglwys Corris. I ba beth y priodolir fod yr eglwys hon yn eglwys drefnus, weithgar, a llwyddianus, trwy yr holl flynyddoedd, ond i'r ffaith fod ei blaenoriaid hi wedi bod yn enwog a blaenllaw mewn pob rhinwedd a gweithredoedd da?

Dafydd Humphrey. Efe ydoedd sylfaenydd yr eglwys. Argyhoeddwyd ef pan oedd yn ddyn ieuainc 25 oed, wrth wrando pregeth yn Abergynolwyn—un o'r pregethau cyntaf a bregethwyd gan y Methodistiaid yn yr holl wlad. Gwnaeth gyfamod y diwrnod hwnw i newid dau achos â'r Arglwydd—i roddi ei achos ei hun i'r Arglwydd, ac i gymeryd achos yr Arglwydd yn waith iddo yntau—ac fe gadwodd at y cyfamodi hyd ddiwedd ei oes. Rhoddodd le i bregethu yr efengyl pryd, nad oedd neb yn yr ardal a feiddiai dderbyn pregethwr i dŷ, ac ymhen 30 mlynedd wedi hyny rhoddodd le i adeiladu capel ar ei dir ei hun. Safodd yn wrol o blaid crefydd yn yr erledigaeth ffyrnicaf, pan yr anfonwyd milwyr o dan arfau i'w ddal ef a'i gyd-grefyddwyr. Adroddwyd eisoes am dano yn cario y pulpud ar ei gefn, i'w guddio rhag y milwyr. Wedi i'r erledigaeth fyned heibio, ac i'w gydbroffeswyr fyned yn wan-galon, rhoddai ef ysbryd ac yni ynddynt i ddal i weithio yn y nos. Dau beth mawr a'i hynodai—zel a brwdaniaeth gyda chrefydd, a llwyr ymroddiad dros ei holl fywyd i wasanaeth crefydd. Adroddai un o'r brodyr, llai ei ffydd, ei brofiad yn y cyfarfod eglwysig un tro, ac meddai, "Mae arna i ofn y dyddiau yma nad ydw i ddim wedi dechreu yn iawn gyda chrefydd erioed; ond y mae yn gysur gen' i feddwl y caf ei hail ddechreu hi o'r newydd heno eto." "Twt, twt, twt," ebe Dafydd Humphrey, "y peth gwiriona' glywais i 'rioed; ail ddechra, ail ddechra, o hyd, o hyd! Mi wnes i gyfamod â'r Gwr unwaith yn y dechra, a gloewi'r cyfamod, gloewi'r cyfamod, y bydda i byth wed'yn. Pa eisio ail ddechra o hyd, o hyd! Twt, twt, twt!" Byddai yn mwynhau y weinidogaeth yn anarferol, porthai gwasanaeth a chwarddai a diolchai yn orfoleddus bob yn ail. Gwyliai y gynulleidfa hefyd, ac edrychai pwy fyddai yn teimlo dan y weinidogaeth. "Sylwai yn moddion gras pwy fyddai yn cael ei nodi dan y gair; yna, äi yn ddioed i ymofyn am y cyfryw i'r tŷ, gan ddweyd wrtho, Tyred, y mae efe yn dŷ alw di.'" Y mae hanes D. H. yn ei ddyddiau olaf yn dangos ei fod yn marw fel y bu fyw. Ei genadwri olaf at yr eglwys gyda dau o'r blaenoriaid ydoedd,— Dywedwch wrthynt oll am ymofyn am grefydd dda; mae crefydd llawer yn darfod yn angau." Wrth ei wyrion, y rhai y pryderai yn eu cylch dywedai, Byddwch fyw yn dduwiol; rhodiwch ar hyd canol llwybr barn. Gweddïwch a gwyliwch rhag i chwi byth adael eglwys Dduw." Ddeuddydd cyn ei farwolaeth, "galwodd am y brawd Rees Jones, Bermo (Y Parch. Rees Jones, Felinheli, wedi hyny), at ei wely a dywedodd wrtho; "Mewn perthynas i'r cyfeiliornadau sy'n codi y dyddiau hyn ynghylch gwaith yr Ysbryd Glan, dymunaf i chwi adael chwareu teg i'r TRI ddyfod i'r maes yn iachawdwriaeth pechadur. Cedwch ddigon o glychau o'u deutu; a gweddiwch lawer na chaffoch byth eich gollwng i'r fath dir a gwadu yr angen am ei waith." Bu farw Rhagfyr 19, 1839, yn 83 mlwydd oed.

Richard Anthony oedd un o flaenoriaid cyntaf Corris. Efe am amser oedd clochydd Talyllyn,——a dywedir iddo y pryd hwnw roddi terfyn hollol ar gyhoeddi arwerthiadau yn y fynwent ar y Sabbath. Gwr bychan o ddoniau, ond llawn o zel a ffyddlondeb.

Lewis Pugh, a Shon Rhisiard, Hen Shop. Symudodd Lewis Pugh oddiyma yn lled gynar. Bu yn trigianu mewn amryw ardaloedd, a dewiswyd ef yn flaenor eglwysig ymhob man lle yr elai, ac y mae son am dano fel un o'r rhai duwiolaf yr amseroedd hyny. Nid oedd S. R. yn flaenor, ond llanwodd le pwysig yn moreuddydd crefydd yn yr ardal. Meddai ar wybodaeth a donian mwy na rhai o'r blaenoriaid, ac yr oedd yn weddïwr heb ei fath. "Mi hoffwn, Dic bach," meddai unwaith wrth Richard Anthony, "allu gweddïo nes gwneyd plwy' Talyllyn yma yn nefoedd i bawb o'i fewn." Y rhai nesaf a etholwyd yn flaenoriaid oeddynt Humphrey Davies, a Rowland Evans, Aberllefeni, ond fe ddeuant hwy i gael sylw mewn penod arall.

Richard Owen, Ceiswyn, oedd un o'r ail dô o flaenoriaid. Daeth i fyw o ardal y Dyffryn, a bu ei ddyfodiad i Gorris yn gryfder i'r achos. Er fod ganddo bedair milldir o ffordd i'r capel, yr oedd ei ffyddlondeb yn dilyn y moddion yn ddiarebol, Edrychid ato yn barhaus gan yr eglwys fel gwr craff, doniol a gwybodus. Pan y symudodd i Bennal, teimlid fod bwlch mawr yn Nghorris ar ei ol. Ymhlith pethau eraill, adrodda y Parch. G. Ellis, M.A., Bootle, y sylw canlynol am dano,—"Daeth ei ddesgrifiad o Humphrey Davies, a Rowland Evans, yn cadw society yn dra adnabyddus; a theimlai pawb a'u hadwaenent nas gallesid cael ei gywirach. Dyna ddyn yn y gors.' Cynllun R. E. ydyw myned ato i wrando ei brofiad, i gydymdeimlo âg ef, ac i'w gysuro; ond cynllun H. D. ydyw sefyll ar y lan a gwaeddi arno, 'Dyna gareg yn dŷ ymyl, dyro dŷ draed arni, a thyr'd oddiyna.'"

William Jones, Tan'rallt. O Lanllyfni y daeth ef i'r ardal hon, ac yma yr ymunodd âg eglwys Dduw. Yr oedd yn oruchwyliwr ar un o'r chwarelau, ac fel y cyfryw yn ŵr cyfrifol, ac yn llenwi lle pwysig. Cadwodd ei le, mewn byd ac eglwys, yn ddifrycheulyd. Ymddengys mai nid yn y rhan gyhoeddus o'r gwaith yr oedd ef fwyaf yn y golwg. Arno ef y gorphwysai dwy gangen bwysig o waith blaenor—y swydd o drysorydd yr eglwys, a gofalu am ddechreu a diweddu y moddion; llanwodd y rhai hyn mor berffaith nas gallasai neb eu llenwi yn well. Pwy bynag fyddai yn siarad, y fynyd y delai yr amser i derfynu, rhoddai ef benill allan i'w ganu. Y mae ei blant a'i Wyrion a'u hysgwyddau yn dyn o dan yr arch.

William Richard, Tycapel. Blaenor a'i enw mewn coffadwriaeth parchus yn Nghorris ar gyfrif ei onestrwydd a'i grefyddoldeb. Wedi iddo symud i Gorris i fyw, dewiswyd ef yn flaenor gan yr eglwys yno yn 1836, a llanwodd ei swydd yn fyddlawn hyd ei farwolaeth, Mehefin 21, 1861. Rhai o'i ragoriaethau oeddynt, ei fedrusrwydd i borthi y praidd, ei sylwadau craff a phwrpasol yn y cyfarfodydd eglwysig, ei gynghorion buddiol i ieuenctyd, a'i lymder yn erbyn pechod. Mae ei blant ar ei ol yn dilyn llwybrau rhinweddol eu tad.

Owen Jones. Dyfod yma wnaeth yntau o Waunfawr. Meddai ar alluoedd cryfion, a dawn hwylus. Efe ydoedd yr ymadroddwr penaf yn y cyfarfod eglwysig ar nos Sabbath, Byddai ganddo asgwrn i'w gnoi ar ol pob pregeth; disgwylid am ei sylwadau, a byddent yn gyffredin yn rymus ac at y pwynt.

Robert Owen. Yn Ebrill y flwyddyn hon (1887), y bu ef farw. Bu yn grefyddwr da, ac yn weithgar gyda chrefydd yn Aberllefeni cyn symud i Gorris. Wedi ei droi yn lled gynar ar ei oes o'r ffordd ddrwg, ac iddo ymuno â'r eglwys, gwnaeth y goreu o'r ddau fyd, a llwyddodd i fesur helaeth gyda y naill a'r llall. Efe ydoedd trysorydd yr eglwys y tymor olaf o'i oes, ac nid oedd ei well i'w gael. Yn ei gystudd olaf, yn enwedig tua'r diwedd, cafodd brofiad lled sicr ei fod yn myned i "gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni."

Bu Morris Jones, Aberllefeni; William Edwards, Ceinws; Richard Lumley, a Thomas Jones, Voelfriog, yn flaenoriaid yn yr eglwys hon, am y rhai y coffheir mewn lle arall. Y Parchn. John Jones, Brynteg, Arfon, ac Ebenezer Jones, fuont yn llafurus gyda chrefydd yma a'm dymor o'u hoes. David Davies, Geuwern, ydoedd yn bregethwr zelog, ac ymroddgar. O Rhiw, Ffestiniog, y daeth i'r ardal hon, i fod yn oruchwyliwr ar chwarel y Geuwern. Yr oedd yn ddyn cymeradwy a dylanwadol yr adeg y bu yn byw yma. Bu yn ymdrechgar iawn i ddilyn ei deithiau Sabbothol yma ac yn Ffestiniog. Cymerwyd ef ymaith yn lled sydyn trwy dwymyn boeth oddeutu y flwyddyn 1865.

Hugh Roberts. Pregethwr adnabyddus iawn yn Ngorllewin Meirionydd am y 27 mlynedd olaf o'i oes ydoedd ef. Ganwyd ef Awst 24ain, 1810, yn y lle a elwid "Incline y Dinas," rhwng Bangor a Bethesda. Symudodd i Gorris yn 1833. Dywedir iddo ymuno â dirwest y noswaith y ffurfiwyd y gymdeithas yn yr ardal, ac mai ei enw ef oedd y pedwerydd ar y llyfr. Efe, hefyd, yn ol ei dystiolaeth ei hun, a siaradodd yn gyhoeddus gyntaf yn Nghorris o blaid dirwest. Cafodd argyhoeddiad grymus wrth wrando pregeth yn Llwyngwern. Ymunodd â chrefydd gyda'r brodyr y Wesleyaid yn Nghorris, ac yn fuan dewiswyd ef yn flaenor yn yr eglwys yr oedd yn aelod o honi, a chyn hir wedi hyny dechreuodd bregethu, a chyda y Wesleyaid y bu yn pregethu am y pymtheng mlynedd cyntaf. Oherwydd rhyw amgylchiadau, daeth drosodd at y Methodistiaid, a derbyniwyd ef yn bregethwr; ac o'r flwyddyn 1856, bu yn pregethu yn gyson gyda chymeradwyaeth gyffredinol hyd ei farwolaeth, Mai yr 2il, 1882. Yn nghofnodion y Cyfarfod Misol cyntaf a gynhaliwyd wedi hyny, ceir yr hyn a ganlyn:— "Gwnaed sylwadau er coffadwriaeth am y Parch. Hugh Roberts, Corris. Dywedid am dano ei fod yn ddyn cywir a gonest yn ei ymwneyd â'r byd hwn, ac yn nodedig o ffyddlon gyda'i gyhoeddiadau Sabbothol. Teimlir colled mewn cylch eang ar ol ei weinidogaeth. Bendithiodd yr Arglwydd ei lafur i liaws mawr o wrandawyr."

Cyfododd cenhadwr ymroddgar a llwyddianus o'r eglwys hon, sef y Parchedig John Roberts. Derbyniwyd ef fel ymgeisydd am y weinidogaeth yn Nghyfarfod Misol Bryncrug, Hydref 4ydd, 1863. Wedi bod am bedair blynedd yn Athrofa y Bala, ac wedi hyny yn Mhrif Athrofa Edinburgh, aeth allan i'r maes cenhadol ar Fryniau Kassia, India'r Dwyrain, yn Medi, 1871.

Y mae yn deilwng o goffhad fod dirwest wedi bod mewn bri mawr yn Nghorris o gychwyniad cyntaf yr achos dirwestol, ac wedi cael lle pur amlwg hefyd mewn disgyblaeth eglwysig. "Cynhaliwyd y cyfarfod dirwestol (llwyrymataliol) cyntaf yn yr ardal hon, Tachwedd 5ed, 1836; a'r ail, Tachwedd 12fed, 1836, yn yr hwn yr oedd Dr. Charles yn bresenol, ac yn llosgi alcohol." "Y mae yn ffaith gwerth ei chroniclo, fod cylchwyl flynyddol cymdeithas ddirwestol Corris wedi ei chynal yn ddifwlch, oddieithr un flwyddyn, o'i sefydliad hyd yn awr (1885), ar Ddydd Iau Dyrchafael."—(Llythyr Mr. D. Ifor Jones, yn Llyfr Jubili y Diwygiad Dirwestol yn Nghymru.)

Amgylchiad arall tra hynod mewn cysylltiad â'r eglwys hon ydyw, fod llety y pregethwyr wedi bod yn yr un fan, a chyda yr un teulu o ddechreuad cyntaf pregethu yn yr ardal, er's rhyw gymaint dros gan' mlynedd o amser; a thri yn unig sydd wedi bod yn ben-teulu yn y tŷ lletygar hwn yr holl flynyddoedd uchod,—Dafydd Humphrey, y taid, o 1782 hyd 1839; Humphrey Davies, y tad, o 1839 hyd 1873; a Mr. Humphrey Davies, U.H., y mab, o 1873 hyd yn awr. Bu y Parch. Evan Jones, yn awr o Gaernarfon, yn weinidog rheolaidd yr eglwys hon o 1868 i 1872. Symudodd oddiyma i fod yn weinidog yr eglwys yn y Dyffryn. Drachefn, y Parch. W. Williams, o 1873 hyd ddechreu 1888, pryd y symudodd i Talsarn, ar alwad yr eglwys yno.

Blaenoriaid presenol yr eglwys ydynt, Mri. Humphrey Davies, U.H., John Roberts, Evan Williams, Edward Humphreys, Morris Thomas, a Humphrey Lloyd Jones.

Nodiadau

[golygu]