Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Thomas Jones, Corris

Oddi ar Wicidestun
William Rees, Towyn Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Hugh Owen, Maethlon


Thomas Jones, Voel Vriog, Corris.

Yn Caethle, gerllaw Towyn, yr oedd yn preswylio y saith mlynedd olaf o'i oes; ond adnabyddid ef yn fwyaf cyffredin wrth yr enw sydd uwchben yr ysgrif hon. Mab ydoedd i Meredith Jones, Penybont, Corris. Ganwyd ef oddeutu y flwyddyn 1823. Cafodd ei ddwyn i fyny yn blentyn yn yr ardal rhwng Corris a Machynlleth; ac yn ol ei dystiolaeth ef ei hun, tra yr oedd yn llanc ieuanc, ac hyd yn nod wedi iddo dyfu i oedran gŵr, yr oedd yn fwy difeddwl a difater na'r cyffredin. Rhoddodd ei gymydog, yr ysgrythyrwr a'r Cristion cywir, Richard Jones, Bronyraer, fenthyg Geiriadur Mr. Charles iddo, ac wrth ddarllen y llyfr hwnw y daeth i feddwl gyntaf fod dim pleser ac adeiladaeth i'w gael heblaw mewn oferedd a phleserau y byd hwn. Wedi iddo briodi, ac ymsefydlu, fel y dywedir, yn y byd, dechreuodd ymroddi o ddifrif gyda'r byd a chrefydd, ac fe lwyddodd yn fawr yn y naill a'r llall. Dechreuodd ei fywyd yn ngwaelod pentref Corris. Cafodd, mae'n wir, fagwraeth a meithriniaeth dda i'w grefydd gyda'r hen grefyddwyr, a'r hen flaenoriaid ffyddlon yno. Gweithiai yn y chwarel y rhan gyntaf o'i oes, mewn lle a elwid "Tŷ Engine Magnus." Y tymor hwn, llafuriodd lawer i gyraedd gwybodaeth, trwy ddarllen y Traethodydd, a thrwy y dadleuon brwd a gymerent le rhwng y gweithwyr. Gwnaeth amryw o symudiadau yn ystod ei fywyd, a'r cwbl gan fyned rhagddo. Nid digwyddiad oedd ei symudiadau; yr oedd yn amcan ganddo ynddynt i gyd, i wneuthur yr oll er lles a mantais i achos crefydd. Bu am 18 mlynedd yn Galltyrhiw; 18 mlynedd drachefn yn Voel Vriog; a 7 mlynedd yn Caethle. Tra yr oedd yn dal y fferm fechan Galltyrhiw, gweithiai am gyflog yr un pryd, a bu yn hynod lafurus er mwyn iddo gael symud i le mwy. Adroddai hanes am dano ei hun yn y tymor hwn sydd yn werth ei gadw mewn coffadwriaeth. Yr oedd ei briod yn gweithio yn ddiwyd a chaled gyda y fferm gartref, ac yntau yn gweithio yn y chwarel. Yr oedd yn fyd gwan iawn, y cyflogau yn fach, ac nid oedd modd cael y cyflog ond bob rhyw dri mis, fel yr oeddynt mewn cryn ymdrech i gael dau ben y llinyn ynghyd. Mewn canlyniad, ofnai y byddai raid iddo dynu yn ol yn y casgliad misol yn y capel. Y wraig ac yntau un tro a siaradent a'u gilydd ar y mater, a dywedai ef ei fod yn ofni mai rhoi llai fyddai raid iddynt. "Na," meddai y wraig, "gadewch i ni beidio tynu yn ol, gwell i ni dreio eto am dipyn i beidio rhoi llai yn y casgliad, beth bynag." Ac o'r dydd hwnw allan, fe drodd Rhagluniaeth o'u plaid: dechreuasant lwyddo yn y byd, a llwyddo a wnaethant o hyny i'r diwedd. Fel yr oedd ef yn symud o'r naill le i'r llall, yr oedd crefydd ar ei mantais yn ei holl symudiadau; dangosai llyfr yr eglwys yn union y pryd yr elai ar gynydd yn mhethau y byd. Yr Arglwydd oedd yn ei lwyddo yn dymhorol ac ysbrydol, ac yr oedd yntau yn gweled llaw yr Arglwydd ymhob peth, ac yn "anrhydeddu yr Arglwydd â'i gyfoeth, ac â'r peth penaf o'i holl ffrwyth."

Ceid fod rhagoriaethau ei gymeriad yn llawer. Yr oedd yn ŵr o farn, ac yn ŵr o gyngor, yn gymydog yn ngwir ystyr y gair, ac fel y dywedir yn yr Ysgrythyr, wedi ei berffeithio i bob gweithred dda." Un o fil ydoedd fel cymydog. Ewyllysiai yn dda i bawb, hoffai weled pawb yn llwyddo, a gwnai ei oreu ei hun tuag at i bawb lwyddo. Dyn siriol, caredig, cymwynasgar ydoedd, a'i gyfarchiad wrth eich cyfarfod ar y ffordd neu yn y tŷ yn enill eich calon a'ch ymddiried. Elai lawer o'i ffordd ei hun i wneuthur lles i eraill. Meddai ffydd gref mewn Rhagluniaeth, a chredai ac ymhyfrydai mewn gweled dynion yn ymdrechu yn dymhorol ac ysbrydol. Ni chlybuwyd bron un amser gymaint o gwyno ar ol colli cymydog ag ydoedd ar ol ei golli ef.

Fel crefyddwr drachefn, cyfodai ar adegau uwchlaw iddo ei hun, ac uwchlaw ei gyfeillion. Crefydd oedd y peth penaf iddo ef. A'r wedd neillduol ar ei grefydd oedd gwaith. Yr oedd yn weithiwr difefl, ac yn filwr da i Iesu Grist. Dyn o ddifrif ydoedd gyda phob peth, a dyn a wnaeth y goreu mewn modd amlwg o'r ddau fyd. Byddai o ddifrif ar ei liniau mewn gweddi, yn y cyfarfod eglwysig, yn gwrando y weinidogaeth, ac yn cynghori ei gyd-dynion. Cyfodai ei deimladau yn uchel yn ei holl gyflawniadau crefyddol, ond y nodwedd amlycaf o bob peth ynddo oedd gwaith. Elai rhagddo o hyd mewn gweithgarwch. Methai yntau fel pawb weithiau. Nid oedd heb ei golliadau; a pha le y ceir dyn felly? Modd bynag, pa un bynag ai methu ai peidio, yr oedd efe am fyned rhagddo, mewn haelioni, mewn trefniadau, mewn cynydd gyda phob achos da, ac i hyrwyddo teyrnas yr Arglwydd Iesu yn y byd. Dechreuad a diwedd ei ddiwrnod gweithio oedd—Ymgysegriad.

Bu yn llenwi y swydd o flaenor am oddeutu 30 mlynedd, y rhan fwyaf o honynt yn Nghorris; dewiswyd ef i'r swydd hefyd yn Nhowyn. Yr oedd efe yn mawrhau y swydd o flaenor, ac fe roddes urddas ar y swydd. Wedi colli yr hybarch dad a'r blaenor adnabyddus, Humphrey Davies, Abercorris, syrthiodd y fantell yn naturiol ar Thomas Jones. Yntau, fel Eliseus, a gymerodd y fantell i fyny, a chyda hi a gyflawnodd waith ei swydd yn ofn yr Arglwydd. Blaenor yn blaenori ydoedd efe ymhob peth. Yn hyn cadwodd ar y blaen yn ei oes; byddai yn chwilio am waith i'w wneuthur, ac yn barhaus yn cynllunio pa fodd i'w wneuthur. Mewn rhagdrefnu a rhagofalu, rhoddai esiampl i liaws ei frodyr, ac yn hyn bron na ragorai ar y rhai rhagoraf o honynt. Un o'r Trefnyddion Calfinaidd ydoedd mewn gweithred a gwirionedd, ac yn ystod yr ugain mlynedd olaf o'i oes efe oedd un o'r Trefnyddion goreu a feddai Sir Feirionydd. Cafwyd ynddo weithiwr digymar ymhob cylch yn ei eglwys gartref, yn y Cyfarfod Dosbarth, yn y Cyfarfod Ysgolion, yn y Gymanfa Ysgolion, ac yn y Cyfarfod Misol. Tra byddai rhai yn ofni myned ymlaen, ac eraill yn cwyno nad oedd dim modd myned ymlaen, byddai ef fel gwir ddiwygiwr yn cynllunio pa fodd i fyned yn bellach yn ei flaen. Nodwedd ragorol iawn ynddo fel blaenor yn eglwys Dduw oedd, ei fod bob amser yn barod i wynebu anhawsderau. Ni byddai byth yn cilio o'r ffordd pan ystyriai mai myned ymlaen fyddai ei ddyledswydd. Elai trwy dywyllwch a rhwystrau, gan ymddiried yn Nuw. Yn cyflawni ei swydd fel diacon yn yr eglwys, yr oedd yn debyg iawn i'r hyn a ddywedir am un o ddiaconiaid cyntaf yr Eglwys Gristionogol yn llawn o'r Ysbryd Glân ac o ffydd." Cynyddai o hyd ymhob gras a rhinwedd, a chymerwyd ef ymaith yn anterth ei nerth. A dyna sydd yn adlewyrchu yn ddisglaer eto ar ei gymeriad, yr oedd yn fwy awyddus i weithio dros Grist yn niwedd ei oes nag y bu erioed. Tystiolaeth pawb a'i hadwaenent, a thystiolaeth y gwirionedd ei hun ydoedd, ei fod yn was da a ffyddlawn, ac wedi gweithio ei ddiwrnod fel un o'r rhai ffyddlonaf o'r ffyddloniaid. Boreu Sabbath, Gorphenaf 13eg, 1884, hunodd yn dawel yn yr Iesu.

Nodiadau[golygu]