Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/William Rees, Towyn
← Owen Williams, Aberdyfi | Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I gan Robert Owen, Pennal |
Thomas Jones, Corris → |
William Rees, Towyn
Genedigol oedd ef o Ddolgellau, ac yr oedd yn frawd i'r diweddar R. O. Rees. Dilynai y society pan yn blentyn gyda'i frawd a'i chwiorydd, ond fel llawer plentyn arall, aeth allan. Dygwyd ef i fyny yn egwyddorwas gyda Mri. Williams a Davies, Dolgellau. Wedi bwrw ei brentisiaeth, aeth am ychydig i Manchester, wedi hyny i Liverpool. Yn Liverpool y daeth i'r seiat. Yr oedd yr house-keeper lle y lletyai yn grefyddol, ac yn bresenol yn y cyfarfod eglwysig y noson yr ymunodd ef â'r eglwys, a gwnaeth iddo gadw dyledswydd y noson hono, i'r hyn yr ufuddhaodd. Collodd ei iechyd, a daeth adref i Ddolgellau. Gan dybio y buasai Towyn yn lle manteisiol i ddyn ieuanc gwanaidd ei iechyd, gosodwyd ef i ofalu am siop oedd gan Mri. Williams a Davies yn y lle. Dyma y ffordd yr arweiniodd Rhagluniaeth ef i Dowyn. Cymerodd hyn le oddeutu y flwyddyn 1834. Ymhen amser ymgymerodd â'r fasnach ei hun, ac ar ol hyn daeth i gysylltiadau crefyddol drachefn, trwy ymbriodi â Miss Jones, merch i'r diweddar Barch. Owen Jones, y Gelli. Y mae Mrs. Rees yn aros hyd y dydd hwn, ac yn parhau i ddangos llawer o garedigrwydd at achos y Gwaredwr. Ymhen blwyddyn neu ddwy wedi iddo ddyfod i Dowyn dewiswyd ef yn flaenor yr eglwys, ac efe yn ddyn ieuanc tua 23 oed. Yr amcan, mae'n ymddangos, i'w ddewis 'mor ieuanc oedd, am y tybid y byddai yn gymorth i gadw cyfrifon, gan ei fod wedi cael addysg, canys nid oedd yr hen flaenoriaid oedd yn Towyn yn medru ar lyfr. Troes ef allan, modd bynag, yn flaenor rhagorol, nid i gadw cyfrifon yn unig, ond i gario pobpeth crefydd ymlaen, ac i fod ar y blaen gyda'r achos yn ei holl ranau. Daeth allan ar unwaith fel dyn hollol ymroddedig i waith yr Arglwydd yn y rhan yma o'r wlad. Ac efe a gadwodd y blaen hyd oni luddiwyd ef gan angau i barhau.
Yr oedd ynddo ragoriaethau fel dyn na cheir mo honynt ond anfynych mewn byd nac eglwys. Nis gellir mewn crynhodeb fel hyn o'i hanes ond nodi y prif rai o honynt. Hynodid ef o ran harddwch ei ymddangosiad. Yr oedd yn ddyn tal, lluniaidd, a boneddigaidd yr olwg arno; siriol ei wynebpryd, ystwyth ei ysbryd, serchog ei ymddiddanion. Yn berffaith onest a chywir yn ei fasnach; yn nodedig o gymwynasgar i'w gymydogion; yn ffyddlon i'w rwymedigaethau—gadawai helyntion a thrafferthion masnach os byddai rhywbeth yn y capel, ac yno ag ef, bydded a fo. Yn niwedd ei oes, wedi rhoddi ei fasnach heibio, yr oedd yn ei elfen yn gwasanaethu crefydd yn ei holl gylchoedd. Fel engraifft o'i benderfyniad i wneuthur yr hyn oedd iawn, daeth yn ddirwestwr trwyadl am y rheswm a ganlyn—Cawsai ar ddeall rywbryd fod rhyw ddyn yn y dref yn gwrthod dyfod yn ddirwestwr "am nad oedd Mr. Rees yn ddirwestwr;" clywodd yntau hyny, a phenderfynodd o hyny allan i fod yn llwyrymwrthodwr, a chadwodd yn drwyadl at ei benderfyniad. Bu yn glaf am ysbaid lled faith unwaith, ac aeth yr eglwys i weddïo yn daer am iddo gael ei adferu. Yn y cyfarfod eglwysig cyntaf y daeth iddo ar ol gwella, diolchai yn gynes i'r brodyr a'r chwiorydd am weddïo drosto. Byddai yn hynod o deimladwy wrth drin pob achos yn yr eglwys. Tynai ddwfr o lygaid rhai hyd yn nod wrth holi yr Hyfforddwr. Yr oedd yn awyddus iawn i adferu rhai wedi myned ar gyfeiliorn, ac yn dra medrus i wneuthur hyny. Rhoddwyd iddo bob swydd o ymddiried yn y dref lle y preswyllai, a gelwid arno i gymeryd rhan ymhob cyfarfod cyhoeddus.
Fel blaenor yn eglwys Towyn, ac aelod o Gyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, llanwodd le anrhydeddus am dros 40 mlynedd. Syrthiodd cyfrifoldeb yr achos yn Nhowyn yn benaf arno ef yr holl amser yna. Gwnaeth waith mawr i'r eglwys, trwy ofalu am yr achos yn ei holl ranau; gwasanaethodd "swydd diacon yn dda," ac enillodd iddo ei hun "radd dda;" a thrwy ei lafur a'i ddyfal barhad cyrhaeddodd "hyfder mawr yn y ffydd sydd yn Nghrist Iesu." Ffydd, sicrwydd ffydd, a hyder mawr yn y ffydd oeddynt linellau amlwg yn nghymeriad Mr. Rees. Ei olwg siriol, ei dymer hynaws, a gwresog-rwydd ei ymadroddion, a barai ei fod yn wastad yn gymeradwy ymhlith lliaws ei frodyr. Dichon nad oedd yn gymaint diwygiwr a llawer un, ac feallai nad oedd yn gweled yn glir i'r dyfodol i gymeryd camrau breision ymlaen, ac i dori i dir newydd, ond nid oedd yn ol i neb mewn zel pan y gwelai y cwmwl yn codi, a'r golofn yn cychwyn. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf ar ol ei ddewis yn flaenor, yr ydys yn gweled ei enw yn fynych ar lyfr cofnodion y Cyfarfod Misol gyda holl symudiadau pwysicaf y sir, ac yn llenwi y lleoedd uwchaf a berthynai i'w swydd; a thua deugain mlynedd yn ol yr oedd ef a dau eraill o flaenoriaid y dosbarth (un o ba rai sydd eto yn fyw) yn dywysogion ymysg henuriaid yr eglwysi, ac ystyrid Mr. Rees yn dywysog wedi myned o hono yn hynafgwr. Bu yn gwasanaethu ar ran y Feibl Gymdeithas yn Nhowyn a'r ardaloedd cylchynol am flynyddoedd lawer. Efe a osodwyd yn drysorydd yr Achos Cenhadol o fewn cylch y Cyfarfod Misol ar ol dydd Mr. Williams, Ivy House, ac yr oedd gwaith y swydd hon yn hynod gydnaws â'i ysbryd. Pan fyddai eisieu dweyd gair o blaid y genhadaeth yn y Cyfarfod Misol, rhoddai ef ar unwaith dân yn y cyfarfod gyda'i eiriau gwresog; ac un o'r pethau olaf a ddywedodd wrth Mr. Griffith, Dolgellau, cyn marw ydoedd, "Gwnewch gymeryd gofal o'r Achosion Cenhadol yn ein rhan ni o Sir Feirionydd." Efe oedd un o'r rhai a anfonid yn fynych i ymweled âg eglwysi y sir, ac nid oedd neb a gaffai rwyddach derbyniad yn yr eglwysi, na neb ychwaith a wnai y gwaith yn fwy pwrpasol a thrwyadl. Yr oedd ef a'r Parch. Robert Parry, wedi bod unwaith yn ymweled âg eglwysi Ffestiniog, ac yn Nghyfarfod Misol Talsarnau, rhoddent adroddiad o'r ymweliad. Galwai ei gyfaill ar Mr. Rees i ddechreu, ac fel hyn y dechreuodd,—"Cawsom fyned i weled y chwarel fawr hono, ac yno yr oedd y gweithwyr yn gweithio, rhai yn curo, rhai yn rhoi powdwr yn y tyllau. Ond er yr holl weithio yr oedd yn rhaid cael y tân cyn y gellid chwalu dim ar y graig; y tân ar y powdwr oedd yn dryllio ac yn chwalu y graig i lawr. Felly ninau, rhaid i ni gael y tân o'r nefoedd; wnawn ni ddim byd o honi hi heb y tân; ond os cawn ni y tân i lawr, hwnw wnaiff y gwaith." Yr un ffunud â Mr. Rees! Wedi'r cwbl, dywediadau ac ymadroddion dyn ei hun ydyw y desgrifiad goreu oll o hono.
Mewn erthygl yn y Goleuad, yr wythnos gyntaf ar ol ei farw, darllenir "Y lle yr oedd ef yn disgleirio fwyaf gloew a chyson o bob man ydoedd yn y cynulliadau eglwysig, a'r cyfarfodydd gweddïau gartref. Dyma beth sy'n wybyddus i'r holl eglwys y modd y bu yn eu cynghori, ac yn eu cysuro, bob un o honynt, fel tad ei blant ei hun. Er mwyn i'r rhai oedd heb ei adwaen gael rhyw engraifft o'i ddywediadau, cymerer y rhai canlynol:— "O na wyddwn pa le y cawn ef,' meddai Job. Yr oedd ef ar y pryd wedi colli ei ychain, a'i ddefaid, a'i gamelod, a'i weision, a'i feibion, a'i ferched; ond nid oedd Job yn gofyn am gael ail afael yn yr un o'r rhai hyn, ond 'O na wyddwn pa le y cawn ef. Yr oedd yn teimlo y byddai ar i fyny wed'yn ond cael ail afael ar ei Dduw." Adeg arall, dywedodd, "Mynwch, fy mhobl anwyl i, ddyfod i berthynas â Duw fel plant iddo. Peth yn dal ydyw perthynas. Pan oeddwn i yn fachgen, byddwn yn digio fy mam, ac yn ei gorfodi i fy ngheryddu; ond waeth i chwi beth, yr oedd y berthynas yn dal." Dro arall, wedi i weinidog adrodd ei fod yn clywed fod llawer yn cael eu dychwelyd mewn rhyw fan o'u ffyrdd drygionus at yr Arglwydd, a hyny trwy offerynau distadl iawn, a'i fod yn ofni nad oedd ef yn cael y fraint o ddychwelyd neb. "Wel," ebai Mr. Rees, rhaid i chwi gofio fod Penarglwyddiaeth yn y peth. Ond wed'yn, un gwaith ydyw tori y coed i lawr, peth arall ydyw eu llifio, a'u plaenio, a'u haddurno, a'u gwneyd yn ddodrefn, a'u polisho yn fit i'w dangos mewn drawing room; ac os nad ydych chwithau yn cael y fraint o dori y coed i lawr, pwy wyr na bydd llawer o ddodrefn y drawing room above ag ôl eich gwaith chwi arnynt." Yn y society nos Sul, ar ol y bregeth, adeg arall, dywedai, "Mor barod ydyw y Brenin Mawr i roddi i ni y pethau sydd arnom eisiau; mae y tad yn dangos yr afal i'r plentyn bach—afal brongoch, braf, yn ei droi, ac yn ei ddal rhwng ei fysedd, er mwyn i'r plentyn bach fod yn fwy awyddus am dano. Felly y mae ein Tad nefol yn dangos y bendithion, ac yn eu cymell hwy i ni, yn eu codi hwy i fyny yn y moddion a'r weinidogaeth, er mwyn ein cael ni yn awyddus i'w ceisio." Gwnaethpwyd sylwadau er coffadwriaeth am dano yn y Cyfarfod Misol cyntaf ar ol ei golli, ac y mae yr hyn a ganlyn i'w weled yn adroddiad y cyfarfod hwnw: "Yr oedd Mr. Rees yn dywysog ymhlith ei frodyr. Yr oedd yr Arglwydd wedi ei lwyddo mewn pethau tymhorol, ac yr oedd ei enaid wedi lwyddo yn fawr. Yr oedd yn ddyn cywir a defnyddiol mewn gwlad ac eglwys. Elai ar ei union i'r nefoedd ymhob cynulliad crefyddol, a meddai ar fedr tuhwnt i'r cyffredin i ganmol y Gwaredwr. Yr oedd yn fawr yn y dirgel, yn fawr yn y weddi deuluaidd, ac felly yn fawr yn yr amlwg. Cyrhaeddodd ddylanwad yn ei ardal ac yn y Cyfundeb, a hyny oblegid ei grefydd a'i foneddigeiddrwydd." Bu farw Medi 1879, yn 68 mlwydd oed, ac y mae hyd heddyw deimlad o chwithdod a cholled ar ei ol ymysg ei gyd-drefwyr a'i gydgrefyddwyr.
Nodiadau
[golygu]