Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/William Davies, Llechlwyd

Oddi ar Wicidestun
Harry Jones, Nantymynach Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Owen Evan, Tyddynmeurig


William Davies (William Dafydd), Llechlwyd

Yn hen fynwent Celynin, cei a ganlyn ar y beddrod lle yr huna: "Er coffadwriaeth am William Davies, Llechlwyd, yr hwn a fu farw Ebrill 19eg, 1854, yn 77 mlwydd oed." Ganwyd ef felly yn 1777, blwyddyn y tair caib, fel yr arferai ef ei hun ei galw. Yr oedd yn un o'r tri neu bedwar cyntaf o flaenoriaid a fu gan y Methodistiaid yn y dosbarth hwn o'r wlad. Nid yw yn hysbys pa bryd y neillduwyd ef i'r swydd, ond yr oedd yn gwneyd gwaith blaenor lawer o amser cyn ei neillduo, os bu neillduo arno o gwbl. Dechreuodd weithio gyda chrefydd yn dra ieuanc. Ymddengys iddo yntau gael ei ddwyn at grefydd, fel llawer yr amseroedd hyny, trwy ffordd bur anghyffredin. Yn y Castell Fawr y ganwyd ac y dygwyd ef i fyny. Gwraig weddw oedd ei fam, a chanddi amryw blant heblaw efe. Un tro, rhoddai y fam arian i'r merched ac i William, i fyned i Lwyngwril i noswaith lawen. Cychwynodd y merched yn lled gynar, ac ymhen amser aeth William ar eu hol. Erbyn iddo ef gyraedd i Lwyngwril, yr oedd y drws lle cedwid y noswaith lawen wedi ei gau. Clywai yntau swn canu a dawsio oddimewn. "Wel, wel," meddai wrtho ei hun, "thal hi ddim byd; rhaid rhoddi cyfrif eto am hyn." Ac aeth adref. "Dyn, dyn, dyma lle yr wyt ti, Will, yn lle bod yn yr interlude!" ebe ei fam wrtho. "Daf fi byth yno 'chwaneg, mam," atebai yntau. Y tebyg ydyw mai hyn fu foddion i'w argyhoeddi.

Elai bellder mawr i wrando pregethau pan yn llanc ieuanc. Un boreu Sul, yn blygeiniol iawn, yr oedd yn parotoi i gychwyn o'r Castell Fawr i fyned i Ddolgellau, erbyn yr odfa 10 o'r gloch. Cyfodai yn foreu iawn. Ei chwaer a ddywedai wrth ei glywed yn codi mor foreu: "Dyna'r bachgen yn myn'd eto; rhaid i ni dreio ei rwystro, yn wir, mam. Os daw ef a'r Methodistiaid yna yma, fe fyddant wedi ein difetha; maent yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon." "Taw son, fy ngeneth i," ebe ei mam, "y mae yn fachgen da iawn i mi." Yr oedd yr hen wraig yn Eglwyswraig gydwybodol yn ei ffordd. Daeth y chwiorydd, wedi hyn, yn Fethodistiaid, ac yn grefyddwyr da. Efe oedd un o'r rhai mwyaf zelog a gweithgar gydag adeiladu capel cyntaf y Bwlch, tra nad oedd y pryd hwnw ond 18 oed. Cerddodd lawer yn moreu ei oes i Lanegryn, a'r lleoedd bychain o amgylch, i gynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddïau, a chyfarfodydd eglwysig. Efe oedd yn codi y canu yn y Bwlch trwy ei oes, yn cyhoeddi, ac yn arolygu yr Ysgol Sul. Pan y byddai myn'd yn y canu, cyfodai ei law i fyny, fel pe buasai yn rhoddi arwydd fod y gynulleidfa yn myned yn nes i'r nefoedd. Meddai ar lawer o ddylanwad yn ei ardal, er rhoddi i lawr arferion drwg yr oes yr oedd yn byw ynddi. Daeth ei hiliogaeth yn wasanaethgar i grefydd mewn gwahanol gylchoedd. Wyres iddo ef ydoedd Mrs. Roberts, a fu yn genhades yn Mryniau Khassia, sef priod y Parch. Hugh Roberts, yn awr o Sir Fflint.

Nodiadau[golygu]