Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Bethesda

Oddi ar Wicidestun
Llan Ffestiniog (Peniel) Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II

gan Robert Owen, Pennal

Tanygrisiau
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Blaenau Ffestiniog
ar Wicipedia

BETHESDA.

Hon ydyw yr eglwys gyntaf a ffurfiwyd gan y Methodistiaid Calfinaidd yn Mlaenau Ffestiniog, a hi ydyw mam yr holl eglwysi eraill sydd yn y fro yn awr. Sefydlwyd hi, cyn belled ag y gellir cyraedd sicrwydd, yn y flwyddyn 1819. Un capel oedd yn y plwyf yn flaenorol i hyny, sef y Capel Gwyn yn y Llan. Yn yr amser gynt, ystyrid y Blaenau a'r Llan yn un ardal, i bob pwrpas crefyddol a gwladol. Ac mewn amser cymhariaethol ddiweddar, ni ystyrid myned i lawr o'r Blaenau i'r Llan ond mater o angenrheidrwydd dyddiol, a chan lawer edrychid ar hyn yn fraint. I lawr i'r Hen Gapel, a'r Capel Gwyn ar ol hyny, yr elai trigolion y Blaenau i addoli, dros ysbaid o agos i ddeugain mlynedd. Nid yw yn annhebyg nad oedd oddeutu haner y rhai a wnai i fyny gynulleidfa y Llan yn dyfod o'r Blaenau. I fyny y preswyliai un o'r ddau flaenor, a thros rai blynyddau yr unig flaenor yn y plwyf. Y mae ychydig bersonau eto yn fyw, yn cofio Robert Morris a Betty Rhisiart, Glanypwll, yn dyfod i lawr i'r Llan i bob moddion o ras, yn marchogaeth ar ferlod, a chynffonau llaes hyd y llawr.

Trwy gynal Ysgol Sabbothol y dechreuwyd yr achos yn sefydlog yn y Blaenau. Dywedir mai yn y flwyddyn 1810 y sefydlwyd hi gyntaf, yn Penybryn, ac mai William Evans, Cwmbowydd, a John Hughes, Bertheos, Dolyddelen, fuont yr offerynau i'w sefydlu. Symudwyd hi oddiyma i'r Tycoch, ac oddiyno i Neuadd-ddu, lle y bu hyd nes yr adeiladwyd capel Bethesda. Yn y flwyddyn 1818, ymunodd y Methodistiaid a'r Annibynwyr gyda'u gilydd i gadw ysgol. Cynhelid hi yn Tanymanod a'r ysgubor oedd yn agos i'r tŷ, a rhifai tua 120. Ond cyfododd anghydwelediad rhwng y ddau enwad yn lled. fuan, ac yna ymranasant. Nid oedd yr un crefyddwr yn rhoddi ei bresenoldeb yn yr ysgol ar y cychwyn, ond tua'r adeg y bu y Methodistiaid a'r Annibynwyr yn cynal yr ysgol gyda'u gilydd, ymunodd llawer â chrefydd trwy y diwygiad mawr oedd yn y wlad, ac o hyny allan yr oedd yn llawer haws ei chario ymlaen. Yn 1819, y sefydlwyd Cyfarfod Ysgolion Dosbarth Ffestiniog, a bu hyny drachefn yn foddion symbyliad i'r ysgol hon fel i holl ysgolion y cylch. Gorphenaf 17eg, 1825, cynhaliwyd Cyfarfod Ysgolion cyntaf Blaenau Ffestiniog yn Neuadd-ddu. Hysbysir mai y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, oedd y gofalwr neu holwyddorwr. Rhifai yr ysgol 80; yr oedd dwy ysgol arall, sef Teilia Mawr a Thanygrisiau, wedi d'od ynghyd i'r cynulliad, a chan ei bod yn Sabbath teg o haf, cynhaliwyd y cyfarfod yn y tŷ a'r cwrt o'i flaen. Erbyn yr ail Gyfarfod Ysgol, yr oedd capel Bethesda wedi ei adeiladu, a chynhaliwyd ef ynddo ar y trydydd Sabbath yn Medi 1826. Cymerwyd rhan yn hwn gan y Parchn Richard Jones, Wern; Richard Jones, Trawsfynydd; a John Jones, Tremadog. Dygwyd cynygiad dipyn yn ddieithr i'r cyfarfod hwn gan W. Williams (Gwilym Peris), gŵr oedd yn flaenllaw gydag ysgol fechan Monachlog, Rhiwbryfdir, sef y priodoldeb o ddysgu gramadeg yn yr Ysgol Sabbothol. "Yr oedd y Parch. Richard Jones, Wern, yn bleidiol i hyn, ond cadw mewn cylch gweddeidd-dra. Ond yr oedd John Jones yn gryf yn ei erbyn, gan ddweyd fod hyn yn doriad uniongyrchol ar y Sabbath, a rhag bod neb yn cael ei dramgwyddo, rhoddwyd heibio ei ddysgu." Rhif yr ysgol hon adeg y cyfarfod hwn oedd 136. Ceir ychwaneg am ysgol Bethesda mewn cysylltiad ag Adroddiad Ysgolion y Dosbarth am 1869, gan Richard Owen, Neuadd ddu.

Gellir, gyda phriodoldeb, ofyn y cwestiwn, gan fod achos wedi ei sefydlu, a chapel wedi ei adeiladu yn y Llan, er's deugain mlynedd, paham y buwyd cyhyd heb wneyd hyny yn y Blaenau? Yn gyntaf oll, rhaid cofio mai teneu iawn oedd poblogaeth yr ardal y pryd hyny. Rhoddir 40 fel amcan gyfrif o'r rhai a elent i lawr i'r Llan i addoli o holl gylchoedd y Blaenau? Araf, fel rheol, fyddai yr hen bobl bob amser i gychwyn achos newydd. Tybiwn fod y rheswm dros yr hwyrfrydigrwydd hwn i'w gael i fesur o ddau gyfeiriad,— diffyg sel yn y Blaenau am sefydlu achos, a gormod cyndynrwydd yn y brodyr i lawr i adael i'r cyfeillion i fyny ymadael oddiwrthynt hwy. Y mae tystiolaeth bendant, modd bynag, ar gael ddarfod i'r eglwys yn yr Hen Gapel a'r Capel Gwyn, nid yn unig ddangos hwyrfrydigrwydd, ond gwrthwynebiad hollol i'r cyfeillion sefydlu achos yn y Blaenau. Fel hyn yr adroddir yr hanes,—"Yr oedd William Evans, Cwmbowydd, yn awyddus i gael pregethu cyson i'w dŷ, ac addawodd roddi bwyd a llety i'r pregethwyr ei hunan, os byddai i ychydig gyfeillion eraill eu cydnabod am eu llafur. Gwnaed hyn yn hysbys i'r blaenor (Owen Robert, Neuadd-ddu) yr unig flaenor yn y gymydogaeth y pryd hyny. Aeth y blaenor a'r achos yn galonog i'w roddi gerbron yr eglwys yn y pentref, gan feddwl yn sicr y llwyddai gyda'r cais. Ond Edward Robert, y pregethwr, a'i gwrthwynebai, gan ddweyd yn ffyrnig yn ei wyneb, Beth ydi'r diogi sydd arnoch chwi tua'r Blaenau acw, Owen? Taw, gynted ag y medri, ti wyddost ein bod yn methu myn'd a'r achos yn ei flaen fel yr ydym.' "[1] Digalonodd hyn y gŵr oedd wedi dangos parodrwydd i gynal yr achos; ac oherwydd rhyw gysylltiadau, llwyddodd i gael brodyr o enwad arall i ddyfod dros y mynydd o Ddolyddelen i'w dŷ i bregethu. A dyma y modd y dechreuodd yr Annibynwyr ymsefydlu yn yr ardal. Adroddwyd yr hanes uchod laweroedd o weithiau gan un oedd ei hun yn cofio yr holl amgylchiadau. Rhoddir adroddiad arall am y modd y dechreuodd yr Annibynwyr achos yn yr ardal. Ond nid yw yr adroddiad hwnw yn gwahaniaethu llawer, nac yn yr amser, nac yn y manylion. Modd bynag, ffurfiwyd eglwys gan yr Annibynwyr yn y flwyddyn 1817, a'r flwyddyn ganlynol adeiladwyd capel Bethania, ac yr oedd hyn wyth mlynedd cyn bod yr un capel arall yn y Blaenau gan unrhyw enwad. Mae y brodyr teilwng yr Annibynwyr erbyn hyn wedi lledu eu canghenau dros yr holl blwyf.

Dechreuwyd pregethu yn rheolaidd yn Neuadd-ddu yn nghanol y flwyddyn 1819, ac oddiwrth y ffaith eu bod yn talu i'r pregethwyr, tybir mai y pryd hwn y darfu iddynt ymffurfio yn eglwys ar wahan i Ffestiniog. Cawsant ddeuddeg o bregethau y mis cyntaf, a thalwyd 14s. 6c. am y cyfan. Fel hyn y mae llyfr taliadau yr eglwys i'r pregethwyr yn dechreu:—

s. c.
"Mehefin 27, 1819 Robert Griffith (Dolgellau) 1. 0.
— 4 Hugh Jones 2. 0.
— 9 John Peters 1. 6.
— 10 Richard Roberts 2. 0.
— 11 Eto 1. 0.
— 12 Owen Williams 1. 0.
— 17 Mr. Lloyd (Bala) 1. 0.
— 17 John David 1. 0.
— 18 Mr. Lloyd 1. 0.
— 18 John David 1. 0.
— 23 William Roberts 1. 0.
— 25 David Rowland 1. 0.
— 29 John Peters 1. 0.

Yn flaenorol i hyn, yn yr Hen Gapel a'r Capel Gwyn, ymddengys oddiwrth yr hanesyn canlynol mai chwe' cheiniog fyddai tâl y pregethwr. Byddai y Parch. John Jones, o Edeyrn, yn dyfod yno i bregethu yn fynych, ac yr oedd ef ac Owen Rhobert y blaenor yn wastad ar delerau da. Arferid yn y parthau hyn, pan y byddai person wedi cael cam oddiar law person arall, ddywedyd o'r person fyddai wedi cael y cam, "Mi a dalaf i ti yr hen chwech." Un tro pan y rhoddid rhywbeth yn llaw John Jones, syrthiodd i'r llawr, a chafwyd golwg arno, ac nid oedd ond dernyn bychan gwyn ei liw. "Nid wyt ti a fi ddim yn ffrindia, Owen," meddai John Jones. Ydym yn siwr," John Jones bach," oedd yr ateb, "pa beth a welsoch yn amgenach?" "Dy wel'd yr ydwyf," ebe John Jones, "bob tro y deuaf yma, yn rhoddi i mi yr hen chwech." Cynhelid pob moddion yn y Neuadd—ddu hyd Medi 17eg, 1826, pryd yr agorwyd capel Bethesda. Un o'r teulu a adroddai, amser yn ol, y byddai pethau digrifol yn cymeryd lle yno weithiau. Cedwid y cyfarfod eglwysig wythnosol ar noson waith, a digwyddai tipyn o ddyryswch ambell dro. Yr oedd yno un yn lletya dros yr wythnos, yr hwn nad oedd yn perthyn i'r gyfeillach; ac yn hytrach na gadael iddo fyned allan i ganol yr oerni, gadewid iddo fyned i'r gwely, ar yr amod iddo gadw ei ben o dan y dillad nes y byddai y cyfarfod eglwysig drosodd.

PENOD Y TIR A'R ADEILADAU.

Adeiladwyd y capel cyntaf ar dir Tanymanod, yn y fan lle mae hen gapel presenol Bethesda, ar brydles, a thelid ardreth o 2p. yn y flwyddyn. Y draul i'w adeiladu oedd 274p. 10s. 4c. Dywedir i ddau bregethwr dieithr o'r Deheudir ddyfod heibio tra yr oedd y bobl wrthi yn adeiladu, y rhai a ddywedent,— "Ha wyr bach, shwd yr ych chi'n buildo capel yn y fath le a hyn? Beth ych chi'n ddisgwyl gael i'w lanw—defaid a geifr?" Agorwyd ef Medi 17eg, 1826. Gwasanaethwyd gan y Parchn. John Roberts, Llangwm; John Peters, Bala; Richard Jones (Wern neu Trawsfynydd). Rhoddodd John Roberts, Llangwm, yr enw Bethesda iddo yn gyhoeddus ddiwrnod ei agor. Yr oedd cantorion wedi dyfod i fyny o'r Capel Gwyn, i ganu ar yr amgylchiad. Rhif yr eglwys ar y pryd, fel y tybir, oedd o 40 i 50. Ymhen saith mlynedd, sef yn 1833, bu raid rhoddi gallery ar y ddau dalcen, ar y draul o 57p. 13s. 11c. Adeiladwyd tŷ yn llety i'r pregethwyr, ac ystabl i'r ceffylau, yn 1837, am 150p. William a Catherine Owen ddaethant i fyw iddo gyntaf, yn 1838. Coffa da am danynt. Y cytundeb cyntaf i lawr yn llyfr yr eglwys a wnaed â hwy oedd,—" William Owen i gael at y tân, 2p.; at drin y ceffylau, 10s.; at lanhau y capel, 10s." Ymhen un mlynedd ar hugain ar ol adeiladu y tro cyntaf, bu raid helaethu ac ailadeiladu y capel, ac yr oedd hyn yn waith anhawdd, canys yr oedd deddf wedi ei phasio yn Nghymdeithasfa y Gogledd ar y pryd, yn gwahardd i bob gweinidog a phregethwr i bregethu yn yr un capel a adeiledid neu a helaethid o'r newydd, os na byddai yr oll o'r ddyled wedi ei thalu. Pa beth oedd i'w wneyd? Ymwregysu ac ymwroli. Gorphenaf 5ed, 1847, daeth y Parch. John Parry, wedi hyny Dr. Parry, o'r Bala, yma i areithio a chymell i haelioni, ac i gasglu addewidion at y capel newydd. Ymhen y flwyddyn, yr oedd cyfanswm y derbyniadau, rhwng y casgliad, arian yr eisteddleoedd, a'r hyn a dderbyniwyd am ddefnyddiau yr hen gapel, yn 386p. 2s. 6c. Yr holl draul yn 385p. 3s. 11c. Felly talwyd yr holl ddyled cyn ei agor, er mai cael a chael ydoedd. Onid hwn oedd y capel cyntaf i'w agor yn ddiddyled o dan y ddeddf hon? Dydd yr agoriad oedd Medi 10fed, 1848. Pregethwyd gan y Parchn. R. Humphreys; David Lewis, Rhuthyn; John Hughes, Pontrobert; a Robert Roberts. Rhif yr eglwys yr adeg yma, 151. Cofrestrwyd y capel i briodi ynddo yn 1853. Hwn yw yr hen gapel sydd ar ei draed yn bresenol. Y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn, oedd y cynllunydd.

Yn 1856, prynwyd y gladdfa, a'r tir yr oedd yr adeiladau yn sefyll arno am y swm o 150p. Y cyfanswm rhwng talu am y Weithred a chau o amgylch y tir yn 210p. Talwyd y swm hwn trwy gasglu yn fisol, arian yr eisteddleoedd, a'r tâl a godid am le beddau.

Yn nechreu 1864, agorwyd y Tabernacl. Rhifai yr eglwys yn Bethesda cyn yr ymraniad hwn 332; ymadawodd i'r Tabernacl, 170; felly yr oedd yn aros yma 162. Casglwyd yn Bethesda, a chan gyfeillion uwchlaw 500p. erbyn dydd agoriad y Tabernacl, a chyflwynasant y swm i'r frawdoliaeth ar eu hymadawiad, ynghyd ag o 1300p. i 1500p., sef yr holl swm oedd yn y Gymdeithas Arianol ar y pryd, fel nad oedd yn rhaid iddynt dalu dim llog ar y ddyled oedd yn aros ar y capel. Adeiladwyd tŷ Bronygraig i'r gweinidog yn 1864,- y ddwy eglwys i dalu haner y draul bob un. Talodd Bethesda rhwng ei rhan o draul yr adeilad a'r ychwanegiad a wnaed ato, 245p. 10s. 6c.

Yr anturiaeth fawr nesaf oedd adeiladu y capel hardd presenol, yr hwn a agorwyd y Pasg 1870. Cynllunydd hwn oedd Mr. Richard Owen, Liverpool; adeiladydd Mr. J. Rhydwen Jones, Rhyl. Heblaw y gweinidog, y Parch. Owen Jones, B.A., a'r blaenoriaid, ffurfiwyd pwyllgor adeiladu i ddwyn y gwaith o amgylch, a gosodwyd Mr. Owen Jones, Fronwen, yn ysgrifenydd, a Mr. Thomas Edwards yn drysorydd. Gwnaeth y pwyllgor ynghyd a'r eglwys oll waith ardderchog. Yr oedd yr holl draul yn 2447p. Os. 11c., ac ar ddiwedd y flwyddyn 1875, cyhoeddwyd fod yr oll o'r ddyled wedi ei thalu. Adeiladwyd ysgoldy Congl-y-Wal, ac agorwyd ef Mai 29, 1880. Y draul, 487p. 8s. 10c. Yn ddiweddarach, adeiladwyd tŷ ar dir yr hen gapel, a phrynwyd darn o dir at y capel newydd. Gwelir yr holl dreuliadau yn y daflen isod:—


Taflen o'r Adeiladau o 1826 hyd 1890.
Blwyddyn £ s. c
Y capel cyntaf 1826 ... ... 274 10 4
Oriel (gallery) 1833 ... ... 57 13 11
Tŷ y capel 1838 ... ... 250 0 0
Ailadeiladu y capell 1848 ... ... 386 2 6
Y Gladdfa, &c, 1856 ... ... 210 0 0
At y Tabernacl 1863 ... ... 500 0 0
Tŷ i'r Gweinidog " ... ... 206 4 3
Darn ynddo 1868 ... ... 59 5 4
Y Capel Newydd, 1869 ... ... 2447 0 11
Ysgoldy Conglywal 1880 ... ... 487 8 10
Tŷ Newydd (contract) 1882 ... ... 281 10 0
Repairio y capel a'r tai " ... ... 142 9 9
Darn o dir ychwanegol " ... ... 31 17 6
... ... ... ... ... ... ...
Cyfanswm ... ... ... 5334 4 4
Dywed ein hysbysydd, "Y mae canoedd ar ganoedd wedi eu talu yn ychwaneg na'r swm uchod."

Y GYMDEITHAS ARIANOL.

Bethesda oedd y cyntaf o gapelau y Methodistiaid yn Ffestiniog i gychwyn Cymdeithas Arianol. Sefydlwyd hi noswaith Chwefror 20, 1854. Rhif yr aelodau y noson gyntaf oedd 36. Yr arian a dderbyniwyd 22p. 5s. Yr ysgrifenydd cyntaf oedd Mr. Robert Owen, British School. Ar ei ol ef, bu Mri. Thomas Williams, Croesor; Richard Owen, Neuadd-ddu; G. G. Davies, Rhiw; ac Evan Davies, Glanaber, yn ysgrifenyddion. Y trysorydd cyntaf oedd Mr. Morris Roberts, Brynhyfryd, Congl- y-wal. Bu yn ei swydd am bymtheng mlynedd-hyd ei farwolaeth, Mawrth 11, 1869, ac ni bu trysorydd erioed yn fwy ffyddlon, na'r un dyn y bu gan yr ardal fwy o ymddiried ynddo. Gwnaeth wasanaeth mawr i'r Gymdeithas, a bu ei briod yn llawer o help iddo gyda'r gorchwyl hwn. Ei olynydd teilwng fel trysorydd am yr ugain mlynedd diweddaf ydyw Mr. Thomas Edwards, Bryneifion.

Bu y Gymdeithas yn fendith fawr i lawer o bobl ieuainc a phenau teuluoedd, i "gadw eu hafraid at eu rhaid." Y mae hefyd wedi bod yn help mawr i gynal yr achos yn Bethesda. Ni thalwyd dim llogau ond 4p, 7s. 6c., er y flwyddyn 1854. Ond derbyniwyd yn llogau o'r banc oddiwrth arian y Gymdeithas, 433p. 7s. Arbedwyd talu llogau gan arian y Gymdeithas (yn ol pedair punt y cant) 595p. 10s. Wrth roddi y ddau swm gyda'u gilydd—y llogau a dderbyniwyd o'r banc a'r hyn a arbedwyd rhag talu llogau—fe enillwyd i'r achos trwy y Gymdeithas y swm o 1028p. 17s. Y mae swm yr arian yn y Gymdeithas, fel rheol, yn amrywio o 300p. i 1500p.

YR ACHOS DIRWESTOL.

Cynhaliwyd y cyfarfod dirwestol cyntaf yn Mlaenau Ffestiniog, yn nghapel Bethesda, Hydref 25ain, 1836. Llywyddwyd gan y Parch. Thomas Williams; a'r prif siaradwr oedd Mr. W. Ellis Edwards, Penrhos (y Parch. W. Edwards, Aberdâr, wedi hyny). Ardystiodd 104 ar ddiwedd y cyfarfod. "Rhagfyr 2lain, y flwyddyn hono, cafwyd gwyl ddirwestol yn y lle, pryd y rhoddwyd diwrnod cyfan i'r gwaith, gan ddechreu gyda chyfarfod gweddi am chwech o'r gloch yn y boreu...... ......... Yr oedd y nifer Ionawr 12fed, 1837, yn y Blaenau yn 803; Llan Ffestiniog, 278; Coed Bach, 40—cyfanrif, 1,121. Bu dirwest yn flodeuog iawn yn y lle am lawer o flynyddoedd, ac ni bu unrhyw adeg o'r dechreuad, er pob dirywiad, nad oedd yma lawer o ddirwestwyr cywir; ac ar adegau o fywhad neillduol, cyfrifwyd hwy wrth y canoedd."[2] Y mae llwyrymwrthodiad wedi bod bob amser yn yr eglwys hon a'r eglwysi cylchynol yn amod aelodaeth eglwysig. Yn niwedd Hydref, 1886, cynhaliwyd yn y Blaenau Jiwbili Ddirwestol, pryd y rhoddwyd hanes y dechreuad gan ddau o frodorion yr ardal, Mri. Edward Evans, Fourcrosses, a John Hughes, Draper. Y tri enw cyntaf ar lyfr dirwest yn Ffestiniog oeddynt, Griffith Ellis, Pantyryn; Gwen Jones, Neuadd-ddu; a Dafydd Williams, Coedybleiddia. Ardystiodd rhai am dri mis "i dreio;" eraill am chwe' mis, eraill am flwyddyn. Ond yr oedd Samuel Jones, Tanygraig, ac un neu ddau eraill, yn ddigon gwrol i' ardystio am byth. Diwrnod yr wyl y cyfeiriwyd ati, sef Rhagfyr, 1836, dywedir i bob copa walltog fyned o'r Blaenau i'r Llan, lle cynhelid cyfarfod cyhoeddus yn yr awyr agored, ganol gauaf. Yr oedd yr achos yn llwyddo trwy ganu,—canu, canu, a chanu oedd pob peth ar y pryd. Rhoddwyd y penill canlynol allan i'w ganu wrth Blaenddol, pan oedd yr orymdaith ar gyraedd i'r pentref:—

"Elias y Thesbiad a deithiodd fel gwr,
Ar deisen o fara a dysglaid o ddwr;
Fe'i porthwyd gan gigfran-mae'n hynod o syn,
Ac yfodd o'r afon, mae'n siwr y pryd hyn."

Crybwyllwyd yn nghyfarfod y jiwbili am Dr. Charles, o'r Bala, yn dyfod trwy y wlad i areithio ar ddrygedd "alcohol," a'r modd y byddai yn ei losgi i ddangos y gwenwyn oedd ynddo, ac am y gwrthwynebiad cryf a ddangosid iddo gan rai, yn enwedig gan rai hen feddwon. Yn Nhrawsfynydd, yr oedd hen lanhawr clociau yn byw, o'r enw "John Hislyn," yr hwn a elai o amgylch gyda'i orchwyl. Yr oedd y cymeriad hynod hwn yn bur hoff o'i "lasiad," ac ystyrid ef yn wastad fel bwgan y plant; pan wnelai y plant rhyw ddrwg, ni byddai dim mor gyffredin a bygwth "John Hislyn" arnynt. Gwnaethai Dr. Charles ei gynhyrfu nid ychydig wrth ddweyd yn erbyn y glasiad, ac meddai yr hen "John Hislyn" am y Doctor, "Yr hen ysgogyn balch yna o'r Coleg yn dweyd fod hyn a hyn o wenwyn mewn glasiad; ond peidied o a meddw!, y mae acw, yn Nhrawsfynydd, rai all wneyd sums cystal ag yntau. Dyna i chwi yr hen Sion Pritchard, Trawsfynydd, acw-y mae ef wedi yfed galwyni lawer o gwrw, ac yn ol system yr ysgogyn balch yna o'r Bala, y mae ysgolheigion Trawsfynydd yn cael allan fod Sion Pritchard wedi llyncu dros 15 pwys o wenwyn. Dyna i chwi gelwydd goleu, fod yr un dyn wedi byw ar ol llyncu 15 pwys o wenwyn." Engraifft eithafol yr amseroedd hyny o ymresymu ydoedd hyn. Gwnaeth dirwest les dirfawr yn yr eglwysi, trwy drawsnewid y rhai a arferent slotian gyda'r ddiod. Trwy lwyrymwrthod daeth llawer yn ddynion o ymddiried yn yr eglwys a'r byd. Bu yr eglwys yn arosol yn Neuadd-ddu am y saith mlynedd cyntaf. Byddai nifer y pregethwyr a bregethent yno yn fisol yn amrywio o 7 i 17. Yn 1820 bu yno 154 o bregethwyr. Y swm a dalwyd i'r nifer hwn oedd 10p. 6s. Yr oedd Owen Robert, gŵr y tŷ, a'r blaenor cyntaf erioed yn y plwyf, wedi marw flwyddyn cyn symudiad yr eglwys yno o'r Llan. Ei fab, Robert Owen, yn llanc 19 oed, heb na thad na mam, na brawd na chwaer, a breswyliai yn Neuadd-ddu, flwyddyn ei sefydliad, sef 1819. Ymhen rhyw gymaint o amser, digwyddodd tro hynod mewn cysylltiadau teuluaidd. Nid oedd tenant a phreswylydd y tŷ yn briod, ond cadwai house-keeper, fel y gwna eraill yn yr un amgylchiadau. Ofnai yr hen frodyr crefyddol i rywbeth allan o le ddigwydd, gan mai y tŷ hwn oedd cartref yr achos yn ei holl ranau. Ac yn eu gorfanylwch a'u gorofal, wedi rhoddi eu penau ynghyd, trefnasant i William Owen (llanc arall dibriod) fyned yno i letya, gan gwbl gredu y cadwai ef lywodraeth ar y tŷ. Paham yr anfonasant ef yno nid yw yn hysbys, ond fe ddichon mai am y rheswm eu bod yn gweled ynddo fwy o arwyddion sadrwydd. Modd bynag, cyn pen ychydig, fe briododd William Owen ei hun Catherine Owen, yr house-keeper. Mor debyg i droion meibion a merched dynion!

Y Cyfarfod Misol cyntaf, yn ol llyfrau yr eglwys, a gynhaliwyd yma ydoedd ymhen pum' mlynedd wedi iddynt ymsefydlu yn y capel, sef ar Hydref 27, 1831. Yr oedd un ar ddeg o bregethwyr ynddo. Talwyd i'r un ar ddeg 14s. 6c. Yn y Cyfarfod Misol cyntaf ar ei ol yma yr oedd pedwar ar ddeg o bregethwyr y sir yn bresenol, ac yn cael eu talu oll gyda'r swm o 15s. 6c. Cyfarfod pregethu y Pasg cyntaf a gynhaliwyd ydoedd yn 1837. Y rhai a wasanaethent ynddo oeddynt y Parchn. Hugh Edwards, Robert Owen, Evan Roberts, Thomas Williams, Bethesda. Y mae wedi ei gynal yn gyson ar Sabbath a Llun y Pasg o hyny hyd yn awr. Yn 1861, darfu i'r frawdoliaeth yn Ffestiniog ymuno â'r eglwys hon i'w gadw, a'r Tabernacl yn 1864. Dywed Mr. Robert Jones, Cae Du- yr hwn a gasglodd lawer o'r hanes hwn-fod holl draul y weinidogaeth yn Bethesda o'r dechreuad, sef o 1819 i ddiwedd 1889, yn 6233p. 5s. 1½c.

Y mae disgyblaeth eglwysig wedi bod yn yr eglwys hon o'r dechreuad, nid yn unig ar ei thraed, ond yn sefyll yn uchel. Byddai yr hen bobl yn orfanwl ac yn ymylu ar greulondeb gyda disgyblaeth. Rhoddir engraifft neu ddwy fel esiampl o'u dull o ddisgyblu. Gofelid am i'r troseddwr fod yn bresenol pan y trinid ei achos, ac os diarddelid ef, elai allan o'r cynulliad yn uniongyrchol. Y mae genym gôf plentyn am un amgylchiad felly; nis gallwn gofio dim ond am y diarddeledig yn galw am ei het i fyned allan, ac am ocheneidiau, yn enwedig y chwiorydd, tra yr ydoedd hyn yn cymeryd lle. Y mae argraff ar ein meddwl fod yno le anarferol o ddifrifol, a bod tori allan o'r eglwys y peth pwysicaf ar y ddaear. Dafydd Walter oedd yr un a ddisgyblid, gŵr a lediaeth y Deheuwyr arno Yr oedd un o'r blaenoriaid yn llym iawn wrtho, a gwingai yntau yn erbyn y symbylau. O'r diwedd dywedai, "Paid ti a meddwl R-W-dy fod di fel papyr gwyn; mi wn i yn abal da be wyt ti; nid wyt ti na llawer o honoch fawr gwell na fina gyda'r grefydd yma, beth bynag. Ddof fi byth dan eich cronglwyd chwi eto, yr hen llyffantod; lle ma' ffet i?" Ac allan yr aeth. Ond daeth yn ol wedi hyny, a bu farw ac arwyddion amlwg o Gristion arno.

Daethai gŵr o Lanllyfni i fyw i Ffestiniog, ac ymhen amser ymwelodd cyfeillion o'i hen ardal âg ef. Aeth ef a hwythau ar brydnhawn Sul i ben rhai o'r bryniau cyfagos tra yr oedd moddion yn y capel. Ac yn herwydd ei drosedd, daeth ei achos o flaen yr eglwys yn Bethesda. Trodd yr achos yn ei erbyn yn y ddisgyblaeth, a gorchymynwyd iddo fyned allan. Wedi myned at y drws, trodd yn ei ol, a chan sefyll ar ganol y capel, ac ymaflyd â'i ddwy law yn ei het, dywedai mewn llais toddedig, "Frodyr a chwiorydd anwyl, gweddiwch drosta i." Tynodd y deisyfiad ddagrau o ugeiniau o lygaid, ond ni feiddiai neb ddweyd, "tyred yn ol," rhag anmharu min y ddisgyblaeth. Arweiniodd y cyfaill fywyd pell oddiwrth grefydd am ugain mlynedd, ond daeth yn ol, a pharhaodd hyd henaint yn dirf ac iraidd. Dichon fod ymddygiad y brawd yn galw am gerydd, ond a oedd angen am dori allan yn yr amgylchiad hwn?

Dro arall, barnai y brodyr fod yn rhaid disgyblu Sion Evan, gŵr oedd wedi colli ei olwg yn y chwarel. Yr oedd Dafydd Rolant, y Bala, yn bresenol yn y cyfarfod eglwysig ar nos Sadwrn. Enillai y gŵr hwn ei fywoliaeth trwy gario nwyddau gyda cheffyl a throl, a'r trosedd oedd ei fod wedi cario jiariad o win o Borthmadog i un o'r Hotels yn y Llan. "Beth ydi'r mater arno fo?" gofynai Dafydd Rolant i'r blaenoriaid. "Wel," ebai y blaenor, "y mae yn sobr o beth pan y mae aelodau eglwysig wedi myned i wasanaethu y diafol fel—" "Wel," ebai Dafydd Rolant, "y dyn dall hwnw ydyw Sion Evan, onite? Ac y mae yn ceisio enill ei damaid trwy gario efo ceffyl a throl?" "Ydyw siwr." "Wel, fyddai waeth ganddo gario jiariad o ddŵr na jiariad o win—cael tâl yw y pwnc." "Ond," ebai Samuel Jones, gan ofni erbyn hyn fod yr hen weinidog am gymeryd plaid y troseddwr, "beth a atebwn ni i'r byd annuwiol, Dafydd Rolant?" "Samuel," atebai Dafydd Rolant yn ol, "os daw y byd annuwiol i ofyn rhywbeth ynghylch Sion Evan, deudwch wrth y byd annuwiol, Mind your own business.'"

Yr oedd hen grefyddwyr Bethesda yn bererinion Sion mewn gwirionedd. Faint bynag o golliadau a berthynent iddynt, yn eu sel, eu ffyddlondeb, a'u hymgais i rodio yn ol rheol y gair, rhoddent argraff ar, feddwl byd ac eglwys mai crefydd oedd eu peth penaf. Yn yr hen gapel cyntaf yr oedd pulpud bach wedi ei gyfodi i uchder haner y ffordd oddiwrth y llawr at y pulpud mawr. Yn hwnw yr eisteddai y blaenoriaid, ac yr oedd mor fach nad oedd le i ond tri neu bedwar ynddo. Gosodid y blaenoriaid gymaint a hyny yn nes at y pregethwr, ac yn bellach oddiwrth y bobl. Felly y disgwylid iddynt fod, ac felly yr oeddynt, yn eu crefydd a'u dylanwad. Hwy o'r pulpud bach fyddai yn trin holl achosion ysbrydol yr eglwys, yn gystal a'i hamgylchiadau allanol. O bob tu i'r pulpud yr oedd tair o eisteddleoedd, yn y rhai yr eisteddai yr hynafgwyr a'r hynafwragedd. Y rhai a lanwent y rhai hyn, yn wyr ac yn wragedd, oeddynt bigion yr eglwys mewn duwioldeb; a phwy allasai ameu gwirioneddolrwydd eu crefydd? Nid rhyfedd i'r hen bregethwyr gael odfeuon a myn'd ynddynt, gyda'r fath nifer o saint, fel Aaron a Hur, yn cynal eu breichiau, ac yn rhoddi eu hamen cynes gyda eu gweinidogaeth.

Nis gellir yma ond yn brin roddi enwau rhai o hynafgwyr a gwragedd penaf yr eglwys. Griffith Ellis, Pantyryn; Robert Richards, Tŷ'nycefn; Evan Jones, Tanyclogwyn, oeddynt grefyddol iawn, ac yn "halen y ddaear." Richard Griffith, Plasyndre, oedd yn nofiwr rhagorol pan gyfodai y dwfr i dipyn o uchder. Mewn cyfarfod gweddi un nos Sabbath, wrth ganu y penill, "Ni bydd yno gofio beiau," &c., cafodd afael yn y ddwy linell olaf, fel y buwyd am faith amser yn dyblu a threblu y gân. Abram Jones a roddai fywyd yn y moddion gyda'i Amen cynes; a phan elwid yr enwau i dalu y tro mis, gyda'i lais bloesg a waeddai dros y capel, "Croesa." Ni wyddai y plant y pryd hwnw ddim mai rhoddi croes ei fod yn dyfod i dalu ei gasgliad a feddyliai. Hynodid Samuel Jones, Tanygraig, fel un fyddai beunydd yn cyfodi ei lais yn groch yn erbyn drwg arferion, ac fel gweddiwr gafaelgar. Llanwodd ei gylch ei hun yn gystal a neb o'i frodyr. Canmolai lawer ar draethawd John Elias ar Gyfiawnhad, ac yr oedd ganddo ddwfn barch i lyfr arall, yr hwn a elwid ganddo ef ei hun, "Yr hen Gyffes anwyl." William Owen, Tŷ Capel, oedd wr llawn o sel a llawn o waith. Ni bu ei gymhwysach i gadw tŷ capel erioed. Hynodid ef am ei barodrwydd i wneuthur pob gwaith gydag achos crefydd. Pan y gwrthodai rhyw frawd wneyd unrhyw orchwyl, byddai ef ar ei draed yn ebrwydd yn gofyn a gai ef ei wneuthur. Buasai W. Owen yn un o'r blaenoriaid goreu yn yr oes hon. Lewis Jones, Bryneithin, oedd un o'r meddylwyr cryfaf a fu yn perthyn i'r eglwys. Yr Ysgol Sul, athrawiaeth a phwnc, oedd ei faes neillduol ef. Bu yn athraw ar gyfarfod darllen, yr hwn a gynhelid, fynychaf, wyth o'r gloch boreu Sabbath, am ragor nag 20 mlynedd. Cofir gan y bobl hynaf yn arbenig am ddau ŵr ieuanc a roddasant amlygrwydd o dduwioldeb nodedig, ac addfedrwydd i'r nefoedd, lawer tuhwnt i'r cyffredin, sef William Thomas, Fucheswen, a Robert Jones, Peniel. Ymhlith chwiorydd yr eglwys, Catherine Owen, Tŷ'r Capel, oedd un o'r rhai amlycaf fel canlynwyr yr Iesu. Ei harafwch, ei thymer grefyddol wastad, a'i gofal am weinidogion y gair, oeddynt yn hysbys i bawb yn ei dydd. Gwraig ddeallus, bwyllus, uchel ei chyrhaeddiadau mewn gwybodaeth a chrefydd, oedd Laura Jones, priod y diacon gweithgar Pierce Jones; mor awyddus a medrus fyddai i hyrwyddo pob rhan o achos yr Arglwydd yn ei flaen. Duwioldeb Mari Rhys oedd yn amlwg. Ryw adeg, yr oedd perchenogion un o'r chwarelau wedi rhoddi swm anferth o bowdwr o dan fanc y Brynpoeth, a rhoddwyd gorchymyn i'r holl drigolion yn y cyffiniau i fyned yn ddigon pell y diwrnod yr oeddis yn myned i'w chwythu i fyny. Mewn ufudd-dod, ciliodd pawb o'u tai i ben y bryniau a'r mynyddoedd; ond y lle yr aeth Mari Rhys iddo i lechu oedd i gapel Bethesda, gan gredu y byddai yno yn ddiogel rhag pob peryglon. Y fath ffyddlondeb a ddangosid gan Anne Owen ac Ellin Jones, Pengwern, hyd yn nod yn eu henaint, . yn dyfod yr holl ffordd i fyny i'r capel i bob moddion o ras, a byddent yno fel y cloc at y fynyd. Mrs. Vaughan, Tanymanod, a ddeuai i'r capel yn gyson ar ei cheffyl—nis gallai gerdded a byddai yn un o'r rhai cyntaf i dori allan mewn gorfoledd ar adegau neillduol. Dichon yr esgusodir yr ysgrifenydd yn crybwyll am ei fam ei hun, yr hon oedd yn un o'r rhai mwyaf diddrwg a diabsen o honynt oll. Ni chlywodd ei lliaws plant mohoni erioed yn dweyd gair bach am na chymydog, na chrefyddwr, na blaenor, na phregethwr. Nid crefydd mewn gair yn unig oedd ei chrefydd hi, ond mewn gweithred ac esiampl. Hen bererinion hoff!

"Gan nad oedd pregethu yn yr ardal (Tanygrisiau), byddai y rhai mewn oed yn cyrchu i gapel Bethesda yn lled aml i gael pregeth (o 1830 i 1840). Ac fel y tyfasom ninau y plant i fyny, dechreuasom ddilyn ein rhieni ambell waith ar y Sabbothau teg yn yr hâf, a da yr ydym yn cofio preswylwyr y Cwm, yn rhieni ac yn blant, yn myned yn fintai dros y Bwlch Llydan, ar draws Cwm Bowydd, tua chapel Bethesda. Cyrchasom lawer i'r hen gapel hwn gyda sel a brwdfrydedd mawr, a byddem yn ei hystyried yn fraint fawr cael dweyd adnod yn y seiat cyn dechreu y bregeth boreu Sabbath. Ac y mae darlun o'r "Pulpud Bach," lle y byddai yr hen flaenoriaid, Robert Owen, Neuadd-ddu; Robert William, Penybryn; ac Owen Thomas, Fucheswen, yn eglur o flaen fy meddwl hyd heddyw. Yr oedd y tri fel angylion Duw yn ein golwg ni y plant, ac yr oedd iddynt le parchus yn meddyliau rhai mewn oed hefyd. Ond yr oeddym ni, y plant, yn gallu canfod gwahaniaeth rhyngddynt. Yr oedd Robert William yn benderfynol iawn, ac yn lled lym ar bob mater, a Robert Owen, i raddau, yr un fath, tra yr oedd Owen Thomas, fel "Daniel, ŵr anwyl," yn feddianol ar lawer o dynerwch a sirioldeb. Yr oedd o ddoniau naturiol hwylus, dros ben, a chanddo lais dwys, peraidd, toddedig, fel yr oedd pob peth a ddywedai yn effeithiol. Medrai fod yn ddifrifol a siriol ar unwaith. Cofiwyf yn dda am nifer o hen frodyr eraill oedd yn hen gapel Bethesda. William Walter oedd yn dechreu canu, a byddai yn sefyll ar risiau y pulpud bob amser; a'r hen frawd Samuel Jones, Tanygraig, yn agos iddo, a'i lygaid yn llawn dagrau, ac yn gwaeddi 'O diolch' wrth wrando y weinidogaeth ac wrth ganu."[3]

Y Parch. Thomas Williams oedd frodor o Sir Fon. Ymsefydlodd yn yr ardal hon trwy briodi merch i Griffith Ellis, Pantyryn. Dewiswyd ef yn flaenor yn Bethesda, ac yn fuan dechreuodd bregethu. Y tro cyntaf y mae ei enw i lawr yn pregethu yma ydyw Mawrth 3ydd, 1837. Yr oedd yn bregethwr gwlithog a chymeradwy iawn, ac yn meddu ar ddawn poblogaidd. Gan fod ei deulu yn dyfod yn lliosog, ymfudodd i America yn 1845, a rhoddwyd iddo gan yr eglwys wrth gychwyn 5p. 12s. 6c., ynghyd a llythyr cymeradwyaeth at y brodyr yr ochr draw i'r môr. Ymsefydlodd yn Swydd Oneida, talaeth New York. Ordeiniwyd ef ymhen y flwyddyn wedi iddo gyraedd i'r America, a bu yn pregethu yn yr Unol Dalaethau gyda chymeradwyaeth mawr, hyd y flwyddyn 1872, pan yr hunodd yn llawn o dangnefedd yr efengyl, gan dystiolaethu wrth ei gyfeillion nad oedd arno ddim mwy o ofn marw na phe buasai yn symud o'r naill ystafell i'r llall. Ymfudodd un arall o feibion goreu eglwys Bethesda i America, yn y flwyddyn 1850, Mr. Owen Owens, yr hwn oedd fab i Robert Owen, Tai Newyddion, Diphwys. Magwyd ef yn "ngeiriau y ffydd," ond ciliodd o'r eglwys yn nhymor ieuenctid. Er hyny, yr oedd yn wr ieuanc dichlynaidd, meddylgar, a llafurus am wybodaeth. Yn Chwefror, 1846, ar noswaith waith, bu John Hughes, Llangollen, yn pregethu yn yr ardal yn hynod o effeithiol. Yr wythnosau canlynol ychwanegwyd llawer at yr eglwys, ac yn eu plith Owen Owens, R. Jones (Caedu yn awr), a G. Pritchard (Gorphwysfa yn awr). Wedi ymfudo i'r America, ymsefydlodd yn Fair Haven, Vt. Llwyddodd yn fawr mewn pethau bydol, ac mewn crefydd. Efe oedd y dyn mwyaf ei ddylanwad yn ei ardal. Bu yn flaenor eglwysig am tua 35 mlynedd. Bu farw mewn tangnefedd llawn, Ionawr 2il, 1886, yn 71 mlwydd oed.

Y Parch. Owen Roberts a ddaeth yma o Bettws-y-coed yn 1854, ac wedi bod yn llafurus a chymeradwy am dros bedair blynedd, ymadawodd i fod yn weinidog yn Rhiwspardyn, yn 1858. Dechreuodd Mr. Robert J. Williams, Caegwyn, bregethu yn 1874. Yn haf 1859, daeth y Parch. Francis Jones yma yn weinidog, ar orpheniad ei dymor yn Athrofa y Bala. Ordeiniwyd ef yn 1860, ac yn niwedd y flwyddyn hono, ymadawodd i'w gartref yn Sir Drefaldwyn, oherwydd -cysylltiadau teuluaidd. Cafodd lygad a heulwen y Diwygiad tra bu yma, ac yr oedd ei wasanaeth yn gymeradwy. Daeth y Parch. Owen Jones, B.A., yma yn Ionawr, 1864; ymadawodd i Liverpool Mehefin 1872. Bu yntau yn ddefnyddiol a chymeradwy yn eglwysi y Tabernacl a Bethesda am wyth mlynedd a haner. Y mae y Parch. T. J. Wheldon, B.A., yn weinidog y ddwy eglwys er Ionawr 1874, ac yn gweithio a'i holl egni ymhob cylch.

Y BLAENORIAID.

ROBERT WILLIAM, PENYBRYN.

Dywedir ei fod ef yn swyddog yn Ffestiniog, a'i fod yn dyfod gyda'r eglwys ar ei hymsefydliad yn Neuadd-ddu, yn 1819. Dyn hallt yn erbyn pechod oedd ef, a disgyblwr llym. Pan y deuai achos troseddwr gerbron yr eglwys, arferai ddweyd, "ddiodda i byth mohono, frodyr bach." Un o'r sect fanylaf o'r hen flaenoriaid oedd. Dywedai Mr. Humphreys, o'r Dyffryn, wrtho ryw adeg, "Robert, yr wyt tithau wedi bod yn llawer mwy gofalus i fod yn onest yn dy oes, nac i fod yn ddoeth." Er hyny, yr oedd yn gymeriad a phwysau ynddo, ac yn flaenor o gryn werth. Ymfudodd ef a'i deulu i America yn 1845, ac yr oedd y golled ar ei ol yn cael ei theimlo yn fawr, gan fod ei deulu yn lliosog, a'i fab hynaf yn arweinydd y canu. Dewiswyd ef yn ddiacon yn America.

OWEN THOMAS, FUCHESWEN.

Yr oedd ef yn flaenor yn Penmachno yn 1825. Daeth i fyw i Ffestiniog yn 1830, a dewiswyd ef yn flaenor yn Bethesda ar unwaith. Dywedir i'r eglwys hon ei gymeryd yn fater gweddi am i'r Arglwydd anfon blaenor iddi, ac i O. T. symud o Benmachno yr adeg y cymerodd hyn le. Gwr o dymer naturiol dyner ac addfwyn oedd ef; darllenwr mawr, meddyliwr lled alluog, a meddai ddawn i draethu ei feddwl yn oleu. "Cynysgaeddwyd ef â doniau naturiol helaeth, a byddai rhyw eneiniaid ar ei bethau, yn enwedig ei weddiau, bob amser. Byddai ganddo gynghorion priodol ar bob achos, a rhoddai y rhai hyny gyda'r fath addfwynder ag oedd yn sicrhau lle iddynt yn mynwes yr un y cyfeirid ato. Dywedai wrth bregethwr ieuanc unwaith am beidio rhoddi llawer o benau ar ei bregeth, am y rheswm nad oedd ond ychydig o gig ar ben." Yr oedd yn ffraeth a chyrhaeddgar ei ddywediadau. Ond trwy ei dynerwch, ei dduwioldeb, a'i ysbryd addfwyn, yr enillodd y lle a'r parch a roddid iddo. Yr oedd yn un o'r rhai goreu yn yr holl wlad am gadw y cyfarfod eglwysig. Bu farw Rhagfyr 2, 1855, yn 57 oed, wedi bod yn gwasanaethu swydd blaenor gyda graddau neillduol o ffyddlondeb am ddeng mlynedd ar hugain. Yr oedd ef yn dad i'r blaenor adnabyddus Mr. Thomas Williams, Croesor.

ROBERT OWEN, NEUADD-DDU.

Ganwyd ef yn 1800 yn Bwlchiocyn, a symudodd y teulu i Neuadd-ddu pan oedd ef yn naw oed. Ei dad, fel y crybwyllwyd, oedd y blaenor cyntaf yn mhlwyf Ffestiniog, a phan yn 19 oed, rhoddodd yntau ei dy i sefydlu eglwys Bethesda ynddo, a bu yno am saith mlynedd. Neillduwyd ef yn flaenor oddeutu 1835. Dygodd deulu lliosog i fyny gyda chrefydd. Cyfarfyddodd â llawer o dreialon y byd, ac aeth trwyddynt gyda gwroldeb, a gorphenodd ei yrfa ddaearol, Mawrth 4, 1871. Fel hyn y dywed rhai o'i gyfeillion am dano,-"Pe buasai ychydig o'r un feddwl ag ef ymhob eglwys, buasai llawer o bethau yn mhellach ymlaen. Byddai yn arfer a dweyd ei fod haner cant o flynyddoedd o'n blaenau ni oll. Yr ydoedd felly mewn gwirionedd." "Darllenai lawer ar y cyfnodolion, yn grefyddol a gwladol; dilynai ysbryd yr oes yn ei holl ddiwygiadau, a meddai farn addfed ar bynciau y dydd." "Parod ei air a'i gyngor bob amser; selog iawn gyda phob moddion. Mewn ffydd ac ewyllys i waith, yr ydoedd o flaen pawb yn y wlad " "Meddai ar graffder mawr i ddeall cyfeiriad ac arwyddion yr amserau; ei fywiogrwydd, a'i weithgarwch, a'i haelioni oeddynt yn nodedig."

Y tri blaenor hyn oeddynt golofnau cyntaf yr eglwys, ac y mae un a'u hadwaenai wedi crynhoi eu nodweddion i dri gair, Llymder, Tynerwch, a Gwaith.

EDWARD JONES, YSGOLNEWYDD,

a fu yn y swydd yma am ychydig cyn ei fynediad i America, oddeutu 1840. John Pierce-A fu yn flaenor yn Bethesda ; symudodd gyda'r eglwys i Tanygrisiau yn 1838. Thomas Williams hefyd a fu yn ddiacon am ychydig cyn iddo ddechreu pregethu.

JOHN ABRAM JONES.

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor yr eglwys hon yn Nghyfarfod. Misol Siloam, Mai 1847, pryd yr oedd Lewis Morris yn gymedrolwr. Dyn darllengar a myfyrgar, athrawaidd, ac yn gofalu llawer am yr athrawiaeth. Ymadawodd oddiyma i Drefriw, a bu yn ddiacon yno. Symudodd drachefn i Lanrwst, lle y diweddodd ei ddyddiau. Gwasanaethodd swydd blaenor yno hefyd.

OWEN OWENS, BETHESDA.

Mab ydoedd ef i William Owen, selog a charuaidd, yr hwn y crybwyllwyd eisoes am dano. Neillduwyd Owen Owens a Robert Griffith, yn awr o Ffestiniog, yr un noswaith, yn niwedd y flwyddyn 1851. Gŵr ieuanc o feddwl cryf a ffrwythlon oedd ef, a'i gynydd mewn gwybodaeth a phrofiad o bethau crefydd yn eglur i bawb. Arferai gymeryd adnod, wrth fyned at ei waith yn y boreu, i fod yn destyn myfyrdod ar hyd y dydd. O'r holl flaenoriaid a fu yn perthyn i'r eglwys hon o'r dechreu, O. Owens oedd yr ymadroddwr penaf. Wedi derbyn bendith trwy gystudd maith, bu farw Mehefin 18fed, 1858, yn 34 mlwydd oed.

PIERCE JONES, PENYGROES.

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol, Gorphenaf, 1857, a Mr. Thomas Williams, Croesor yn awr, yr un adeg. Gŵr oedd ef a fedyddiwyd yn y rhan olaf o'i oes yn nodedig gan ysbryd crefydd. Wedi ei neillduo i'r swydd, ymroddodd i bob gwaith crefyddol i raddau uchel iawn, ac anfynych y gwelwyd neb yn fwy yn ei elfen yn gwasanaethu achos yr Arglwydd Iesu. Yn amser y diwygiad, noson gyntaf Cyfarfod Misol Dolgellau, Ionawr 1860, yr oedd wedi tori allan yn orfoledd cyffredinol. Yr oedd Pierce Jones yn un o'r rhai penaf yn y gorfoledd y noswaith nono. Cafodd afael yn yr adnod yn y bumed benod o Rhufeiniaid,-"Trwy yr Hwn hefyd y cawsom ddyfodfa trwy ffydd i'r gras hwn, yn yr hwn yr ydym yn sefyll." Safai ar ei draed, mewn eisteddle heb fod ymhell oddiwrth y pulpud, gan adrodd yr adnod laweroedd a llaweroedd o weithiau, gyda'i freichiau yn ymrwyfo yn hamddenol, yn debyg i ddyn yn nofio, a'r olwg arno yn nefolaidd dros ben. Golygfa oedd hon i'w chofio. Dywedai y Parch. E. Morgan, wrth wneuthur coffhad am Pierce Jones, ar ol ei farw, na byddai byth yn darllen yr adnod heb gofio am dano yn ei hadrodd yn y gorfoledd mawr hwnw yn Nolgellau. Yr oedd y cyfryw sel a bywyd ynddo gyda chrefydd hyd y diwedd. Bu farw Gorphenaf 4ydd, 1863, yn 46 mlwydd oed.

RICHARD OWEN, NEUADD-DDU.

Dewiswyd ef yn swyddog yn 1864, newydd i'r ymadawiad i'r Tabernacl gymeryd lle, a chafodd fyw i weithio am dros bymtheng mlynedd. Un o'i gyd-flaenoriaid a ddywedai am dano, "Dyn gwylaidd, am ymguddio hyd y gallai ydoedd. Gwnaeth ddefnydd da o'i amser, i ddarllen a diwyllio ei feddwl, ac yr oedd wedi cyraedd mesur da o wybodaeth. Meddai farn glir ar y pethau ddeuai dan sylw; yr oedd yn gryf iawn pan y credai o ddifrif mewn unrhyw beth." Un arall a ddywed, "Bu yn ysgrifenydd y gymdeithas arianol yn eglwys Bethesda am un mlynedd ar bymtheg, a llanwodd y swydd o flaenor am bymtheng mlynedd yn yr un eglwys. Ië, llanwodd y swydd, nid cael ei ddewis yn unig i'r swydd, a'r swydd yn addurn iddo, ond llanwodd a chyflawnodd y gwaith a ymddiriedwyd iddo. Nid oedd yn siaradus, ond pan y siaradai, fe wnai hyny i bwrpas." "Yr oedd yn un o'r rhai mwyaf pur ei gymeriad, fel mai ychydig oedd yn meddu ar fwy o ddylanwad nag ef. Hanai o hen gyff Methodistaidd. Ei daid oedd un o flaenoriaid hynaf plwyf Ffestiniog. A thra bu Richard Owen byw, yr oedd hen grefydd y teulu yn disgleirio mor loew ynddo ef ag y bu erioed." Bu farw Hydref 27ain, 1879, yn 41 mlwydd oed.

DAVID DAVIES, GLASFRYN,

a neillduwyd yn flaenor yr un noswaith a'r diweddaf, ond bu farw cyn ei dderbyn i'r Cyfarfod Misol. Yr oedd yn ŵr o gymeriad rhagorol.

ROBERT WILLIAMS, CAEGWYN,

a ddewiswyd yn flaenor gan yr eglwys yn unfryd unfarn, Ebrill 27, 1868. Dywedir ei fod yn uwch o'i ysgwyddau i fyny na neb o aelodau yr eglwys ar y pryd, a chredir ei fod o flaen pawb yn yr ardal mewn gwybodaeth o "Athrawiaeth yr Iawn." Meddai gymeriad crefyddol o'r fath ddisgleiriaf, a phe cawsai fyw, buasai yn debyg iawn o wneyd ei ôl ar yr eglwys. Cyfarfyddodd â damwain a derfynodd yn angeuol, Hydref 11, 1869, pan nad oedd ond 34 oed.

Neillduwyd y personau canlynol hefyd yn flaenoriaid yn yr eglwys hon,-Mri. David W. Owen, Bethesda, a John Hughes, Tanygraig—ymadawodd y ddau i'r Tabernacl pan ddechreuwyd yr achos yno; Owen Jones, yn awr o Erwfair; Evan Griffith, yn awr o Aberllyfeni; D. G. Davies, yn awr yn Maentwrog; G. G. Davies, yn awr yn y Rhiw.

Ni bydd hanes eglwys Bethesda yn gyflawn heb wneuthur crybwylliad am swyddog arall, yr hwn sydd yn aros hyd y dydd hwn," sef Mr. Robert Jones, Cae Du. Neillduwyd ef yn flaenor Gorphenaf 5ed, 1854, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol Medi 5ed, yr un flwyddyn. Y mae ef wedi bod yn dra llafurus dros dymor maith, ac wedi gwneuthur gwasanaeth mawr i'r eglwys ac i'r ardal. Anhawdd ydyw rhoddi bys ar neb a weithiodd yn rhagorach. Tra yr oedd Pierce Jones, a Thomas Williams ac yntau yn flaenoriaid gyda'u gilydd y gwnaeth yr eglwys y symudiadau cyflymaf mewn haelioni a threfn.

Y blaenoriaid yn bresenol,—Mri. Robert Jones, Thomas Edwards, Evan Davies, ac Evan R. Jones. Rhif yr aelodau, 352; y gwrandawyr, 630; yr Ysgol Sul, 524.

O. Y.-Ysgrifenwyd yn helaethach am yr eglwys hon nag y gellir gwneyd am y mwyafrif o'r eglwysi eraill, am fod yn perthyn iddi fwy o ffeithiau hanesyddol.

Nodiadau[golygu]

  1. Traethodydd, 1868, tudal. 45
  2. Y Diwygiad Dirwestol, Parch. J. Thomas, D.D., tudal. 91.
  3. Adgofion y Parch. Owen R.. Morris, Minesota, America.