Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Llan Ffestiniog (Peniel)

Oddi ar Wicidestun
Gorphwysfa Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II

gan Robert Owen, Pennal

Bethesda
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Llan Ffestiniog
ar Wicipedia

LLAN FFESTINIOG (PENIEL)

Yn Llan neu Bentref Ffestiniog y sefydlwyd yr eglwys Ymneillduol gyntaf yn y plwyf. Nid oes sicrwydd hollol am yr amser y cymerodd hyn le. Yr oedd un oddiyma yn perthyn i'r eglwys foreuol a ymgyfarfyddai yn Mhandy-y-ddwyryd, a'r tebygolrwydd ydyw na sefydlwyd yr un eglwys yn y pentref hwn ar wahan i'r lle hwnw, am o leiaf bymtheng mlynedd. Yr hyn y gellir bod yn sicr o hono ydyw, fod pregethu yn Ffestiniog gan y Methodistiaid, gyda rhyw fesur o gysondeb, rhwng 1770 a 1780. Rhai a ddywedant mai Hugh Evans, o'r Sarnau, a bregethodd gyntaf yn y plwyf, ac mai yn Tŷ'nycefn, yn nhŷ Robert Richard, y cymerodd hyny le. Yr oedd William Evans, o'r Fedw Arian, modd bynag, yn un o'r efengylwyr cyntaf a ymwelai â'r ardal. Dioddefodd ef ac eraill lawer o erledigaeth yr amseroedd. Hysbysir am un tro neillduol felly a gymerodd le, yn agos i'r hen dolldŷ, neu orsaf bresenol y Rheilffordd. Crybwyllir yn Nrych yr Amseroedd hefyd am derfysg ac erlid mawr a fu mewn Cyfarfod Misol yn Ffestiniog. Ataliwyd y pregethu, curwyd a baeddwyd rhai yn dra chreulawn. Yn hanes bywyd y Parch. John Ellis, Abermaw, adroddir fod ei dad ef wedi ymddwyn yn dra. chwerw tuag ato, oblegid iddo fyned i wrando ar y Methodistiaid yn pregethu, yr hyn sydd yn cyfateb mewn hanesiaeth i'r blynyddoedd a grybwyllir uchod. Yn yr awyr agored y pregethid fynychaf y pryd hwn. Enillwyd amryw o ddisgyblion, yn enwedig o blith y chwiorydd.

Y tŷ cyntaf a roddodd ddrws agored i'r Methodistiaid i bregethu ynddo oedd y Tŷ Uchaf, yr hwn oedd dafarndy. Cynhaliwyd Cyfarfod Misol yn y tŷ hwn. Ond nid oedd Cyfarfod Misol y sir yr adeg yma ond cyffelyb i un o'r pwyllgorau lleiaf yn awr. Wedi hyn buwyd yn cynal cyfarfod eglwysig rheolaidd, a hyny, cyn belled ag y gellir casglu, ryw ychydig yn flaenorol i'r flwyddyn 1780. Enwir y personau canlynol fel rhai a gafodd y fraint o ffurfio yr eglwys Ymneillduol gyntaf yn Ffestiniog,—Martha, Penstryd; Ann Sion Andrew; Robert, Gwen, ac Ann Roberts, o'r Cymerau ; Sian Ellis, Tŷ Uchaf; Ann ac Owen Roberts, Bwlchiocyn; Ellin Williams, Hafodysbytty. Nid yw y rhestr yn gyflawn, ac nid oes ond ychydig o'u hanes yn y cyfnod hwn ar gael. Yr helyntion nesaf sydd yn wybyddus am danynt ydynt, helyntion adeiladu y capel. Fel hyn yr adroddir am hyny. Y chwiorydd oedd ar y blaen yma, fel mewn llawer man arall, i gychwyn yr achos. Aeth nifer o honynt hwy at eu gilydd i weddio, ac yn union ar ol y cyfarfod gweddi hwnw, agorwyd y drws iddynt gael tir i adeiladu capel arno. Rhoddodd Mr. John Williams, Lledwigan, Môn, le cyfleus ar ffarm Bwlchowa, ar fin yr hen ffordd sydd yn arwain o bentref Ffestiniog i Benmachno. "A'r hyn sydd yn hynod yn yr amgylchiad ydyw, fod y tir wedi ei gael, fel y dywedir, ar y llanerch bu y chwiorydd duwiol ar eu gliniau yn gweddio am dano." Dywed un hysbysydd fod y tir wedi ei gael trwy offerynoliaeth gwraig Hafodysbytty, yr hon oedd chwaer i berchenog yr etifeddiaeth; a dywedir hefyd yn ychwanegol, fod cae wedi ei gael yn ymyl y capel, fel y gellid cael porthiant i geffylau y pregethwyr. Adeiladwyd y capel hwn yn 1784. Dyma y cyntaf yn y plwyf. Bychan a diaddurn ydoedd, ac ychydig yn ddiau oedd y draul i'w adeiladu. Yr unig beth y daethpwyd o hyd iddo o berthynas i'r ddyled ydyw, fod swm bychan wedi dyfod o'r casgliad dimau yn yr wythnos a wneid y blynyddoedd hyn trwy yr holl siroedd tuag at adeiladu capelau. Yn Nghymdeithasfa Llansanan, Rhagfyr 1785, "talwyd i Ffestiniog 11p. 19s." Gan nad yw yr arian hyn yn union gyfrif, tybir fod y swm yn cael ei roddi i orphen clirio y ddyled. Hysbysir mai nifer yr aelodau eglwysig yn y plwyf yr amser yr adeiladwyd y capel hwn oedd, o ddeg i bymtheg. Mae y capel er's blynyddau wedi ei droi yn dŷ anedd, yr hwn a elwir hyd heddyw yr Hen Gapel. Gelwid ef gan drigolion yr ardal yn yr oes yr addolid ynddo, "Capel y Rhos," am ei fod wedi ei adeiladu ar ros-dir perthynol i Bwlchowa.

Flynyddau yn ol, byddai yr hen bobl yn hoff o adrodd y pethau a welsant ac a glywsant yn yr Hen Gapel. Er mai pethau cyffredin a adroddid weithiau, eto ceid cipolwg trwy y pethau hyny, ar agwedd y wlad yn yr amser pell yn ol. Un o'r hen chwiorydd a ddywedai iddi fod yn gwrando y Parch. Owen Jones, y Gelli, yn pregethu yno, ac ar ol iddo ddyfod i lawr o'r pulpud, gofynodd i bawb oedd yn bresenol a gymerent benod neu Salm i'w dysgu a'i hadrodd allan; yna rhoddodd gyfran benodol o'r Ysgrythyr i bob un fel tasg i'w ddysgu a'i adrodd yn gyhoeddus. Un arall a ddywedai iddi ddyfod o bellder ffordd ar geffyl i wrando Mr. Charles yn pregethu. Ceisid cyhoeddiad y gŵr parchedig i gadw odfa yn yr ardal lle yr oedd hi yn byw, yr hyn, oherwydd rhyw resymau, a omeddai. Wrth weled nad oedd taerineb y bobl mewn oed yn tycio, casglasant y plant ynghyd i ofyn ei gyhoeddiad, a'r plant a lwyddasant, trwy orchfygu teimladau Mr. Charles. Yr hynafgwr a'r henadur adnabyddus sydd yn awr yn fyw, Mr. Robert Griffith, Melbourne House, a ddywed mai yn yr Hen Gapel y bu ef yn gwrando y bregeth gyntaf erioed. Lewis Morris oedd yno yn pregethu, ar y geiriau, "A'r Arglwydd a agorodd galon Lydia." Yr oedd Mr. Griffith mewn ofn a dychryn annisgrifiadwy yn ystod yr odfa Credai fod Lewis Morris y dyn mwyaf a welsai erioed, a dychymygai fod yr Arglwydd yn berson mawr tebyg iddo, a chan fod y pregethwr yn erfyn yn fynych am i'r Arglwydd ddyfod i agor calon pawb yn y lle, elai aethau trwy ei deimladau ar hyd y cyfarfod, gan ofn gweled y gŵr yn dyfod a chyllell yn ei law i wneuthur yn ol erfyniadau y pregethwr. Yr oedd ei lawenydd yn anrhaethadwy i gael myned allan o'r capel heb i ddim o'r oruchwyliaeth erchyll ddigwydd iddo ef ei hun na neb o'r gwrandawyr. "Ond," ychwanega, "gellwch feddwl fy mod yn bur ieuanc ar y pryd."

Yr oedd yr achos wedi dechreu yma dipyn o amser cyn bod son am Ysgol Sul; y capel wedi ei adeiladu er's pedair blynedd ar ddeg cyn iddi gael ei chynal ynddo yr unwaith. Heblaw hyny, yr oedd y crefyddwyr yn hynod o wrthwynebol iddi. Aeth deng mlynedd ar hugain heibio cyn i'r eglwys hon brofi nemawr o gynorthwy yr ysgol Sul. "Yr hanes cyntaf a gawn am dani mewn unrhyw ffurf yn Ffestiniog ydyw, ymhen isaf Tynant, a phenty Tynewydd, lle yr ymgrynhoai nifer o blant, ac y deuai tri o wyr cyfrifol o'r ardal i'w haddysgu." Credir mai y tri hyn oeddynt, Morgan Prys, o'r Garth, John Hughes, Penstryd, a Morris Pierce, Llety'r Fadog. Yn y pentref felly y cychwynwyd hi, tua'r flwyddyn 1796. Ymhen dwy flynedd, symudwyd hi i'r hen gapel. Bedair blynedd ar hugain yn ol, dywedai un ei fod yn ei chofio heb ddim ond dau grefyddwr yn perthyn iddi—un yn ei dechreu a'r llall yn ei diweddu yn wastad,—sef Morgan Prys a John Hughes. Plant a berthynai iddi bron yn gwbl y pryd hwn. Elai y bobl mewn oed i ganlyn y pregethwr ar y Sabbath i Drawsfynydd a Maentwrog. Ond yn fuan wedi dechreu y ganrif bresenol, cafodd yr ysgol adfywiad, trwy ymweliadau brodyr o'r Ysbytty. Dywedir y byddai chwech neu wyth yn achlysurol yn dyfod yr holl ffordd dros y mynydd hirfaith i ymweled â'r ysgol hon, i'w hyfforddi mewn darllen, egwyddori, a chanu. Gwnaeth y cyfarfod mawr hefyd, a gynhaliwyd yn haf y flwyddyn 1808, ar fynydd Migneint, lawer o les iddi, trwy ei chryfhau a'i lliosogi. Ceir hanes y cyfarfod hwnw yn gyflawn yn y benod ar yr Ysgol Sabbothol. Y mae llawer o wybodaeth am Ysgol Sabbothol Peniel a'i changhenau i'w gael yn yr Adroddiad a ysgrifenwyd gan Mr. David Owen, Highgate, ac a gyhoeddwyd mewn cysylltiad â chyfrifon y Dosbarth am 1866.

Yn ystod blynyddoedd llwyddiant mawr Sasiynau y Bala, byddai tyrfaoedd lliosog yn myned ol a blaen trwy Ffestiniog bob haf o Leyn ac Arfon. A sicr ydyw i'r cyfryw dyrfaoedd adael argraff ddaionus ar grefyddwyr yr ardal. Byddai llawer o son am danynt yn yr amser gynt. Nid oes dim yn hanes ein gwlad yn fwy bendithiol na hyny o wybodaeth sydd ar gael am y minteoedd a gyrchent i'r Bala a Llangeitho. A da fuasai pe cawsid ychwaneg o honynt wedi eu croniclo. Y mae hanes dwy o'r teithiau hyn trwy Ffestiniog ar gael. Un ydyw, pan yr oedd y Parch. John Elias o Fôn yn llanc ieuanc, ddwy flynedd cyn iddo ddechreu pregethu, a phan nad oedd eto yn aelod eglwysig, yn myned gyda'r fintai o Leyn am y tro cyntaf i Sasiwn y Bala, yn y flwyddyn 1792. "Yn Ffestiniog, ar eu ffordd tua'r Bala, fe benderfynwyd cael cyfarfod gweddi. Gofynwyd a oedd Beibl gan rywun. Ond nid oedd yr un yn digwydd bod gan neb, o leiaf nid oedd neb yn ateb fod ganddo un. O'r diwedd, dyma ŵr ieuanc, sobr, distaw, dieithr i bawb, a dillad pur lwydaidd am dano, yn dywedyd fod ganddo ef Feibl, ac yn ei dynu allan o'i logell. Gan fod y Beibl ganddo ef, fe'i hanogwyd ef i ddarllen penod. 'Yr hyn a wnaeth,' ebe hen flaenor oedd yn y fintai, 'nes oedd y benod yn newydd i ni gyd.' Anogwyd ef i fyned i weddi. 'Ac os oedd y darllen,' meddai, 'yn rhyfedd, yr oedd y weddi yn rhyfeddach. Nid wyf yn meddwl i mi glywed y fath weddio na chynt nac wedi hyny.'"[1] Ar yr heol yn Ffestiniog y cymerodd hyn le. Yr hanes arall ydyw, "Am daith o'r Waenfawr i Gymdeithasfa y Bala, yn y flwyddyn 1806," a ysgrifenwyd gan Mr. Evan Richards, Conwy, ac a yınddangosodd yn y Drysorfa, Rhagfyr 1855. "Oddiyma (Penrhyndeudraeth) aethom ymlaen tua Ffestiniog (a'r rhai oedd ar geffylau i Drawsfynydd), dan gerdded yn rhwydd a diflin, gan adroddiad o'r pethau a glywsom, gyda blas a hyfrydwch nid bychan. Cawsom ddwy bregeth hynod lewyrchus ar y lawnt, neu yr heol, yn Ffestiniog, gan y diweddar Barch. Michael Roberts, a'i dad, y Parch. John Roberts, Llangwm. Lletyasom y noson hono gyda hen fam grefyddol, gerllaw Ffestiniog. Wedi swpera, cadwyd dyledswydd, ar ddiwedd yr hyn y torodd allan yn orfoledd tanllyd, yn ganu, canmol, a neidio, nes oeddym yn teimlo megis y nefoedd ar y ddaear. Yr oeddwn braidd yn barnu mai parhau i orfoleddu felly a wnaent hyd y boreu; ond wedi ychydig blethu dwylaw i gysgu, cyfodasom yn foreu ddydd Mawrth; ac wedi cymeryd ein lluniaeth mewn llawenydd, ac addoli, eychwynasom tua Mynydd Migneint, yr hwn oedd ar y pryd wedi ei ordoi â niwl, ac ychydig wlithwlaw yn diferu arnom. Fel yr oeddym yn teithio ymlaen, clywem ryw adsain beraidd, megis yn ehedfan gyda'r awel i'n cyfarfod, yr hyn a fu yn effeithiol i'n cyflymu tuag at oddiweddyd rhyw fintai oedd wedi ein blaenu, nes y daethom o'r diwedd i ddeall y geiriau, ac i allu eu canfod. Y penill ydoedd,—

'Unwaith am byth oedd ddigon
I ddiodde'r bicell fain.'


Ymhen ychydig daethom i'w golwg, pan yn troi ychydig o'r ffordd, ac wedi i un o honynt ddarllen ychydig o adnodau o'r Beibl, a myned i weddi, rhoddwyd penill allan i'w ganu, ac aethom ymlaen gyda hwy, dan ganu, ac ymddiddan am y pregethau, ac adrodd ein teimladau o dan eu heffeithiau, nes cyraedd at dý cyhoeddus, a elwid y Tai hirion, ac yma gorphwysasom ychydig i gymeryd lluniaeth. Wedi darllen yma, drachefn, ychydig o air yr Arglwydd, a myned i weddi, aethom ymlaen dan ganu, hyd nes y cyrhaeddasom dŷ cyhoeddus arall, a elwid Bwlch-y-buarth, lle y goddiweddasom fintai arall, wedi bod yn cymeryd lluniaeth, ac yn addoli. Oddi yma, aethom ymlaen, yn dyrfa lled liosog erbyn hyn, tua Mynydd Nodol. Tra bwy byw mi gofia'r lle." Mae y daith ymlaen i'r Bala, a'r pethau a gymerasant le yno, yn hynod ddyddorol ac addysgiadol.

Ystyrir hanes yr achos yn Mhentref Ffestiniog, gan y pentrefwyr hynaf, fel yn perthyn i dri chyfnod. Y Cyfnod Cyntaf yn yr Hen Gapel, o 1784 i 1814. Gwneid yr eglwys i fyny y tymor hwn o nifer o hen frodyr a chwiorydd duwiol, heb ddim yn neillduol i'w gofnodi am danynt, ond eu bod yn meddu sel a ffyddlondeb dihafal yr oes yr oeddynt yn byw ynddi. Morgan Prys, o'r Garth, oedd noddwr penaf yr Ysgol Sul. Yr oedd ef o linach yr enwog Archddiacon Prys, o'r Tyddyndu. Bu farw oddeutu 1811, yn 51 mlwydd oed, a mawr oedd y golled ar ei ol. Bu ei goffadwriaeth yn barchus yn yr ardal o hyny hyd yn awr. Gŵr o'r enw Robert Ellis, Tycerig, hefyd a fu yn weithgar gyda'r achos y tymor hwn. Wrth wneuthur ymchwiliad tuag ugain mlynedd yn ol, methasom a chael allan y bu mwy na dau flaenor yn yr Hen Gapel, sef,

OWEN ROBERTS, BWLCHIOCYN, A JOHN HUGHES—

gŵr yn gweithio yn y chwarel. Anhawdd yw gwybod gan bwy na pha fodd y dewiswyd hwy; ac ymddengys mai y prif gymhwysder ynddynt i'r swydd ydoedd gonestrwydd a duwioldeb, oblegid dywedir am y cyntaf o'r ddau nas gallai ddarllen gair ar lyfr. Owen Rhobert oedd y blaenor cyntaf yn Mhlwyf Ffestiniog. Symudodd o Bwlchiocyn i fyw i Neuadd-ddu yn y flwyddyn 1809. Yr oedd hyn ddeng mlynedd cyn bod un eglwys wedi ei sefydlu yn y Blaenau. Ganddo ef yr oedd y prif lywodraeth yn yr hen gapel, oblegid ceir hanes am dano yn talu i'r pregethwyr, a'r tâl, fel yr hysbyswyd gan ddau weinidog, ydoedd chwe' cheiniog. Efe hefyd fyddai yn cyhoeddi, a'i ddull yn cyhoeddi moddion yn y Blaenau oedd,— "Cyfarfod gweddi i fod yn ein tŷ ni rhwng t'wllu a th'wllu." Bu farw yn y flwyddyn 1818. John Hughes a fu yn dysgu y plant yn yr Ysgol Sul gyda ffyddlondeb am ddeugain mlynedd, ac a fu farw, wedi bod yn fendith i ganoedd, yn 1834, yn 96 mlwydd oed.

Yr ail gyfnod ydyw yn y Capel Gwyn, o 1814 i 1839. Yr oedd yr Hen Gapel oddeutu milldir oddiwrth y pentref i gyfeiriad Penmachno. Yn awr, gan fod y boblogaeth yn cynyddu, aeth yr hen adeilad yn rhy fach, ac adeiladwyd un arall yn ei le ar dir Plasmeini, yn nghongl cae a elwid Caegwyn; oddiwrth hyn yr enw cyntaf ar y capel oedd Pencaegwyn, ac ymhen amser daeth i gael ei alw yn Gapel Gwyn. O ran maint ac addurn nid oedd fawr o ragoriaeth yn hwn ar yr hen. Yr oedd yn ddeg llath o hyd, ac wyth lath o led. Fel hyn y dywedir yn y Traethodydd am 1868, tudalen 45,—"Gofynai Mr. Charles wrth fesur y tir am hyd coed yn ychwaneg, oblegid yr oedd ei ffydd ef yn lletach na'r ychydig latheni hyn. Ond yr oedd Edward Robert, y pregethwr, yn chwyrnu ac yn chwythu bygythion rhag y fath beth. 'A oes arnoch ddim ofn i'r capel mawr yna fyn'd yn ysgubor?' meddai, nid oes arnoch ddim mwy o'i eisiau na gwaew yn eich talcen.' Costiodd 300p." Hanes arall a ddywed mai John Evans, y Bala, ac un arall, a anfonwyd dros y Cyfarfod Misol i fesur y tir, ac i rywun eu cyfarfod wrth ddychwelyd adref, a gofyn iddynt, "Pa le y buoch chwi?" "Ni a fuom yn Ffestiniog," oedd yr ateb, "yn cymeryd lle i'r Methodistiaid i adeiladu capel, digon o faint iddynt am gan' mlynedd." Tra yn gwneuthur y gwaith coed, dywedodd un hen frawd, "Yn siwr, mi gwelwn i chwi yn gwneyd yn ddoeth, pe gwnaech bulpud yn y ffenestr ar gyfer Sasiwn y Bala." Y pryd hyn yr oedd tramwy mawr trwodd o Sir Gaernarfon i'r Wyl i'r Bala. Gwnaed pulpud felly, i'w roddi ar achlysuron neillduol yn y ffenestr, a "phulpud Edward Hughes" y gelwid ef. Rhoddwyd oriel drachefn ar ddau ben y capel yn y flwyddyn 1826.

Y Daith Sabbath yn 1816 oedd, Capel Gwyn, Cwmprysor, Trawsfynydd. Deuent i'r capel hwn o'r holl blwyf. Llawer coffa a wnaed am ychydig ffyddloniaid yn dyfod i lawr yma o Rhiwbryfdir. Dywed hen wraig sydd yn awr yn fyw, y byddai hi pan yn eneth yn dyfod o Glanypwll Bach i'r Capel Gwyn, ac y byddai yn cario ei hesgidiau a'i hosanau o dan ei chesail at Plasmeini, ac yno yn eu gwisgo i fyned i'r capel. Er rhagored crefyddwyr oedd yr hen bobl, perthynai iddynt un diffyg mawr i feithrin crefydd. Am y deugain mlynedd cyntaf, ni chai plant fod yn perthyn i'r cyfarfod eglwysig o gwbl. Cofus genym glywed un yn adrodd ugain mlynedd yn ol, iddo ef gael ei droi allan pan yn chwech oed-yr hyn a gymerodd le yn 1806-am fod yr hen bobl yn tybio ei fod yn fachgen dewr, craff ei sylw ar yr hyn a wneid ac a ddywedid, ac 'ofnent iddo gario dim allan o'r seiat. Ond yn raddol daethant i ddeall eu camgymeriad. "Oddeutu 1814, dechreu- wyd cadw society rydd, wrth yr hyn y meddylid fod rhyddid i aros yn ol am y tro yn unig." Canlyniad gofalu yn y modd hwn am had yr eglwys oedd dechreuad cynydd yr achos. Ymhen pump a chwe' blynedd ar ol myned i'r Capel Gwyn, bu yma gynydd ar yr holl waith. Nodir tri o bethau fu yn foddion i beri y cynydd,—Diwygiad mawr 1818; sefydliad Cyfarfodydd Ysgolion y Dosbarth y flwyddyn ddilynol; dyfodiad John Ellis, Llanrwst, i'r fro i ddysgu cerddoriaeth y flwyddyn ddilynol i hono. Cynyrchodd y pethau hyn ysbryd cenhadol yn yr eglwys, a ffurfiwyd canghenau ysgolion. Y mae pentref Ffestiniog wedi bod yn llawn llygad yn yr ystyr hwn. Perthyna i'r lle dair cangen ysgol lled bwysig, a thybiwn mai yn awr yw yr adeg oreu i wneyd crybwylliad am danynt.

Y BABELL.

Sefydlwyd Ysgol Sabbothol i breswylwyr Cwm Cynfal yn Cae Iago, yn 1820. Ei sefydlwyr yn benaf oeddynt William a Robert Griffith, Bryn yr Odyn, dau oeddynt wedi eu bedyddio yn dra helaeth gan ysbryd y diwygiad ddwy flynedd yn flaenorol. Bu ddau wedi hyn yn ddiaconiaid gweithgar— Robert yn agos i'r Bala, a William yn Dolyddelen, ac wedi hyny yn Llanfachreth. Symudwyd yr ysgol saith o weithiau, ac ar y seithfed tro daeth i'r Coed bach, lle bu gan yr Annibynwyr eglwys flodeuog gynt. Ac yn 1861, adeiladwyd yr ysgoldy a elwir y Babell, ar y draul o 120p.

TEILIA MAWR.

Sefydlwyd ysgol yma yn mis Mai 1821, ar gyfer ardalwyr Cwm Teigil. Adeiladwyd ysgoldy yn y flwyddyn 1839, yn werth 50p. Er's rhai blynyddau bellach, mae ysgoldy eangach a harddach wedi ei adeiladu, yr hwn a elwir Horeb.

RHYDSARN.

Sefydlwyd Ysgol Sabbothol yma yn y Frondirion, tŷ William Williams, yn y flwyddyn 1843. Trwy garedigrwydd David Ll. Lloyd, Ysw., Plasmeini, yn gwerthu tir am bris rhesymol, yn y flwyddyn 1859, adeiladwyd ysgoldy dymunol, mewn lle hynod o brydferth, yn werth agos i 120p., yr hwn sydd yn feddiant i'r Cyfundeb.

Yr hyn sydd i'w adrodd yn mhellach am y Capel Gwyn ydyw, gair am y ffyddloniaid fu yn llafurio ynddo. Y penaf o honynt oedd Edward Robert, "Hen Vicar y Crawcallt." Efe, fel yr hysbyswyd yn y benod ar Pandy-y-ddwyryd, oedd y pregethwr cyntaf a ddechreuodd bregethu yn Ngorllewin Meirionydd. Daeth i fyw i Tynant y Beddau; ac yn ystod ei arosiad yno, bu o wasanaeth mawr i'r achos yn Ffestiniog. Symudodd yn niwedd ei oes i Drawsfynydd, a bu farw yno yn orfoleddus. Gwydd ydoedd wrth ei gelfyddyd. Gwnaeth ymdrech bron angrhedadwy i ddysgu darllen ac i gyraedd gwybodaeth. Gwnaeth lawer hefyd i hyfforddi crefyddwyr a ddaethant at grefydd yn amser y diwygiad, trwy ddysgu iddynt weddio, ac arfer geiriau priodol mewn gweddi. Gyrai lyfr Gurnal ar gylch trwy dai ei gymydogion, er mantais iddynt ei ddarllen. Cychwynodd ddosbarth o grefyddwyr da yn yr ardal hon. Er hyny, yr oedd o dymer hynod o ddreng, a phigog, a chroes. Mewn seiat yn y Capel Gwyn unwaith, dywedai y Parch. R. Jones, y Wern, wrtho, "Edward Robert, yr ydych yn rhy anodd eich trin: yr ydych yr un fath a draenog, yn bigau i gyd." Yn y seiat gyntaf wedi hyny, dywedai Edward Robert, "Yr oedd y gŵr yn ddigon creulon y buasai yn fy mlingo, pe gallasai, ac yr oedd llawer o honoch chwithau yn barod i ddal fy nhraed iddo wneyd hyny." Y blaenoriaid y tymor hwn oeddynt Robert William, Tŷ'nycefn, ac Edward Jones, Ysgol Newydd. Symudodd y ddau i Bethesda, ac i America wedi hyny. Bu David Jones, saer, a Morris Jones, Llety-Fadog, yn flaenoriaid am dymor. John Williams, Hen Gapel, a fu yn arolygwr yr Ysgol Sul am dymor maith, a chadwai rif y presenoldeb a'r llafur ar lechau a ddygai o'r chwarel. Dywed rhai hefyd iddo fod yn gwasanaethu y swydd o flaenor. Oddeutu y pryd hwn yr ymunodd yr hen frawd duwiol, Evan Thomas, y Pandy, â chrefydd, ac y dywedodd un o'r blaenoriaid wrtho, "Wel, Evan bach, y mae genyt waith i gredu bob dydd." Yr oedd yn syn ganddo glywed hyn. "Ond," meddai, "mi welais lawer gwaith wedi hyny ei fod yn wir." Llety y pregethwyr ar y cyntaf oedd Llety Fadog, lle a fu yn llawer o nodded i'r achos; wedi hyny buont yn lletya yn nhŷ David Jones, saer. Oherwydd anghydfod, bu yr eglwys dros amser y pryd hwn heb yr un swyddog ynddi, a byddai Owen Thomas, Fucheswen, yn dyfod i lawr i gadw y cyfarfod eglwysig. Ac wrth ymadael o'r Capel Gwyn, gallasai yr eglwys ddweyd ei bod wedi dyfod trwy "leoedd geirwon, enbyd iawn."

Yn 1839 symudwyd i Peniel, y capel presenol. A dyma y trydydd cyfnod. Dyddiad gweithred y capel hwn ydyw Mai 1838; prydles, 99 mlynedd; ardreth, 5p. 12s. Edrychid arno ar y pryd yn gapel o faintioli anferth, wedi ei adeiladu mewn lle cyfleus, ei olwg yn urddasol, tŷ capel mewn cysylltiad ag ef, ac ysgoldy uwch ei ben i gadw ysgol ddyddiol. Y Methodistiaid oedd noddwyr yr ysgol ddyddiol y blynyddoedd hyn. Bu y capel eang hwn am ugain mlynedd heb oriel arno, a'r pulpud wedi ei grogi i fyny, o leiaf, haner y ffordd i'r ceiling, fel pe buasai wedi ei roddi yno yn bwrpasol i ddysgu y pregethwr i waeddi, er mwyn i'r bobl ar hyd y gwaelod ei glywed. Ond pan ddaeth diwygiad ar grefydd (1859, 1860), daeth diwygiad hefyd i ostwng pulpudau capelau y wlad, a Ffestiniog yn eu plith. Yr oedd y brodyr yn meddu ffydd aruthrol i anturio adeiladu adeilad mor fawr, a daroganid mai suddo a wnaent hwy a'r achos. Ac o dan faich gorlethol y buont hyd 1845, pryd y rhoddodd y Cyfarfod Misol ryw gymaint o gynorthwy i gyfarfod eu hymdrech hwy eu hunain. Ar ddymuniad y Cyfarfod Misol, hefyd, rhoddodd Bethesda iddynt 40p. y pryd hwn i helpu talu dyled y capel. Gwelir oddiwrth y llyfrau, modd bynag, nad oedd ond 350p. o'r ddyled yn aros yn 1850. Yn y flwyddyn 1879, adgyweiriwyd y capel yn drwyadl, a gwnaed ef yn gysurus a phrydferth o'r tufewn. Aeth y draul yn 1000p. Pregethwyd ar ei ail-agoriad gan y diweddar Barch. Joseph Thomas, Carno. Y mae hefyd yn awr yn rhydd-feddiant i'r Cyfundeb. Y ddyled ar ddiwedd 1889 oedd 639p. 15s. 7c.

Cynhaliwyd Cymdeithasfa Flynyddol y sir yn y capel hwn, Hydref 2il a'r 3ydd, 1844, yr hon a gofiwyd ac a gofir gan ganoedd, ar gyfrif mai ynddi hi y cafodd y Parch. John Jones, Talsarn, un o'r odfeuon hynotaf, os nad yr hynotaf oll yn ei oes. Yr oedd y Gymdeithasfa hono, y tro hwnw, yn cymeryd lle y Gymdeithasfa a gynhelid yn flynyddol yn Nolgellau. Gwnaethid parotoadau i bregethu allan ar y maes, ond trodd y tywydd yn anffafriol, fel y bu raid pregethu yn y capeli. Yn nghapel Peniel, am ddeg o'r gloch, pregethodd Mr. Daniel Jones, Llanllechid, yn gyntaf, a Mr. John Jones ar ei ol. "Yr oedd y capel eang wedi ei orlenwi â gwrandawyr, pob congl o hono dan sang." Geiriau testyn Mr. John Jones oeddynt, "Mor werthfawr yw dy drugaredd, O Dduw! am hyny yr ymddiried meibion dynion dan gysgod dy adenydd." "Yr oeddwn," meddai y Parch. Robert Parry, "ar risiau y pulpud, ac mewn lle manteisiol i ganfod y cwbl; ni welais y fath olygfa yn fy holl fywyd, ac nid wyf yn gallu disgwyl ei chyffelyb byth. Pan y darluniai Drugaredd yn dywedyd, 'y cai y nefoedd fod yn wag o'r Mab, cyn y cai dim angenrheidiol er sicrhau iachawdwriaeth i bechadur fod heb ei gwblhau,' disgynodd rhywbeth ar y gynulleidfa nad ydyw ond ofer ceisio ei ddesgrifio, oedd, yn wir, yn annisgrifiadwy. Rhoddwyd un lef gyffredinol gan yr holl dorf, fel pe buasai wedi ei tharo gan fellten; a chafodd pawb ryddhad i'w teimladau-rhai trwy waeddi, llawer trwy wylo, a rhai trwy wylo a gorfoleddu. Ac ni therfynodd effeithiau y bregeth yn y capel, ond bu yn dwyn ffrwyth am flynyddoedd. Bu rhai yn dyfod i'r eglwysi, yn y cymydogaethau hyn, am amser maith, wedi eu deffro yn ddifrifol am y tro cyntaf erioed, trwy y bregeth hon."[2] Parhau i gynyddu a chryfhau wnaeth yr achos yn Mhentref Ffestiniog ar ol adeiladu capel Peniel, ac ar ol y Gymdeithasfa hon.

Bu amryw o bregethwyr a gweinidogion yn dal cysylltiadi â'r eglwys hon, rhai a ddaethant yma i drigianu, ac eraill a ddechreuasant ar eu gweinidogaeth. Hugh Edwards, yr hwn. a aeth i'r America, Ebrill 1841; Edward Rees, aeth yntau hefyd i'r America, Ebrill 1842; Robert Thomas a fu yn byw yn nhŷ y capel yma, cyn ei fynediad i Lidiardau; Robert Lewis, wedi hyny o Gaernarfon, a fu yma am dymor yn cadw ysgol ddyddiol. Yn Peniel y dechreuodd y Parch. James Donne, Llangefni, bregethu. Cyflwynwyd ef gan y Cyfarfod Misol i'w dderbyn yn aelod o'r Gymdeithasfa, Mai 1, 1843. Yma y magwyd y Parch. E. Stephen, Tanymarian. Yma hefyd y cychwynodd y Parch. James Jarrett, yn awr o Nefyn. Yn Nghyfarfod Misol Awst 3, 1848, "caniatawyd iddo gael arfer ei ddawn i bregethu, a myned hefyd i Athrofa y Bala." Y Parch. R. J. Williams, Aberllyfeni, ei flwyddyn brawf yn diweddu Mai 1878; Parch. O. Lloyd Owen, Cymdy, ei flwyddyn brawf yn dechreu Mai 1880; Mr. Robert Morris, yn dechreu ar ei flwyddyn brawf Gorphenaf 1883.

Yn Nghyfarfod Misol Rhagfyr 1840, "Ymddiddanwyd â David Davies, David Evans, ac Humphrey Williams, y tri o Ffestiniog, gyda golwg arnynt i flaenori." Dyma y tri y gosodwyd y gwaith ar eu hysgwyddau ar ol yr ymrysonau a gymerasant le yn y Capel Gwyn, a'r cyfwng mewn canlyniad y bu yr eglwys heb flaenoriaid. Dechreuodd yr olaf yn fuan bregethu. David Davies, Pantlluryd.—Bu ef yn flaenor ffyddlon a gweithgar am hir amser mewn cyfwng pwysig ar yr eglwys. Efe oedd un o sefydlwyr ysgol Rhydsarn. "Dywedir na chollodd ond dau Sabbath yn ysbaid y deng mlynedd y bu yn blaenori ynddi. Yr ydoedd yn ddihareb am ei benderfyniad, a'i ffyddlondeb, a'i gywirdeb gyda phob rhan o waith yr Arglwydd." Gwr o farn, a phwysau yn ei gymeriad. Bu farw Medi 2, 1859, a theimlid colled ar ei ol. David Evans.-Gwasanaethodd ei swydd gyda ffyddlondeb tuhwnt i'r cyffredin am tua 40 mlynedd. Yr oedd yn hynod ryddfrydig ei syniadau, a byddai ar flaen pob diwygiad er llesoli yr achos mawr. Yr oedd yn hynod hefyd am ei hyddysgrwydd yn yr Ysgrythyrau; ei hyfrydwch oedd myfyrio ar athrawiaethau mawr crefydd. Bu yn cyhoeddi y moddion am 40 mlynedd, a chyhoeddwr hyglyw heb ei ail ydoedd. Cerddodd lawer i Gyfarfodydd Misol. Teilynga gael ei restru fel un o flaenoriaid ffyddlonaf plwyf Ffestiniog er dechreuad Methodistiaeth. Bu yntau farw Medi 21, 1879. Dewiswyd Mr. Robert Griffith ar ei ddyfodiad yma o Bethesda. Evan Thomas, Robert Davies, Hafodfawr; Hugh Jones, Post Office; Ellis Lloyd, a W. Jones (Ffestinfab), fuont yn flaenoriaid yina, ond a symudasant i leoedd eraill. Y blaenoriaid yn awr ydynt,- Mri. Robert Griffith, W. Jones, David Owen, Richard Jones, W. Davies.

Yn y flwyddyn 1880, adeiladwyd capel Engedi yn nghwr arall y pentref, a symudodd nifer fawr i ymffurfio yn eglwys yno. Cyn yr ymadawiad hwnw, rhifai cynulleidfa Peniel yn wrandawyr, 870; cymunwyr, 443; Ysgol Sul, 658. Gwasanaethodd y Parchn. Robert Parry ac Humphrey Williams yr eglwys am flynyddoedd lawer, er nad oeddynt wedi eu galw yn ffurfiol. Yn awr y mae Mr. D. D. Williams, gynt o Croesor, wedi ei alw yn weinidog yr eglwys. Ar ddiwedd 1889, rhif y gwrandawyr, 400; cymunwyr 248; Ysgol Sul, 342.

Y PARCH. HUMPHREY WILLIAMS.

Ganwyd ef yn Tomen y Mur, Medi 10fed, 1810. Bugeilio defaid oedd ei waith boreuol; daeth wedi hyny i weithio i chwarelau Ffestiniog. Ymunodd â chrefydd yn eglwys Bethesda, yn 1830, pan yn 20 oed. Dewiswyd ef yn flaenor yn Peniel yn 1840. Awst 1843, anfonwyd y Parch. Robert Griffith, Dolgellau; Morris Lloyd, Cefngellewin; a W. Ellis, Maentwrog, dros y Cyfarfod Misol, i Ffestiniog i gymeryd llais yr eglwys o berthynas iddo gael dechreu pregethu ; ac yn Medi yr un flwyddyn, "caniatawyd i Humphrey Williams ddechreu llefaru yn ol y plan a basiwyd yn Nghymdeithasfa Pwllheli." Yn Nhymdeithasfa Amlwch, 1872, ordeiniwyd ef i gyflawn waith yr efengyl. Bu farw mewn tangnefedd, Rhagfyr 6ed, 1883, yn 73 mlwydd oed. Aeth trwy holl gylchoedd ei fywyd gyda llawer o ffyddlondeb a dewrder. Cyn ei ddewis yn flaenor, bu yn arolygwr gweithgar yn yr Ysgol Sabbothol. Felly dringodd yn rheolaidd ar hyd pob gris o ddefnyddioldeb. Meddai ar fesur helaeth o athrylith; ac yn ol y manteision a gafodd, gweithiodd yn dda ymhob cylch y bu yn troi ynddo. Nis gallwn roddi gwell darluniad o hono na thrwy ddyfynu ychydig o'r sylwadau a wnaed ar ei gymeriad a'i waith, y rhai a ymddangosasant yn y Goleuad, yr wythnos ar ol ei farw. Yr oedd hynodion yn perthyn iddo, dywediadau hynod, brawddegau hynod, a chymhariaethau hynod. Gyda'r cwbl, yr oedd yn was ffyddlon i Iesu Grist, ac fel y cyfryw, mae ei goffadwriaeth yn haeddu parch. Un o'r hen gymeriadau ydoedd, o blith yr hen bobl, wedi ei wneuthur y peth oedd trwy oruchwyliaeth natur a gras. Delw yr hen bobl oedd arno, a delw y wlad y magwyd ef ynddi. Fel engraifft o'i ymadroddion digrifol mewn cymdeithas, dyma un:—Yr oedd yn marchogaeth ar geffyl benthyg unwaith, ymhell oddicartref. Nid oedd dim myn'd yn yr anifail, ni chlywai lais y marchogwr, ac ni theimlai oddiwrth y pastwn yn ei law. Gwaeddai yntau ar ei gydymaith, anifail yr hwn oedd yn cario y blaen arno,—"Nid yw yn bosibl marchogaeth yr anifail hwn yn ysbryd Mab y dyn." Rhagoriaeth neillduol ynddo oedd ei barodrwydd i wasanaethu ei gyd-ddynion yn mhob peth y gallai; i gynghori yn erbyn drygau yr oes; i geisio y rhai tarfedig; i bregethu yn nheithiau pell a mynyddig Sir Feirionydd. Yr elfen fwyaf amlwg ynddo fel pregethwr oedd yr elfen ymosodol. Rhyfelwr oedd, ymosodwr ar bob drwg, yn enwedig ar yr Un drwg. Ymosodai yn ddiarbed bron ymhob pregeth ar y "black prince." Tynai ei gymhariaethau o dair ffynhonell,—y Beibl, Gurnal, a'r Chwarelau. Cynyrchai fywyd ar unwaith yn y Cyfarfodydd Misol pan y codai i fyny i siarad. Anaml y ceid neb a allasai fel efe, trwy ei ddamhegion a'i ffraeth-eiriau, roddi hergwd i'r hyn fyddai dan sylw yn ei ol neu yn ei flaen. Yr oedd mewn dau beth yn fwy na llawer, sef fel dirwestwr ac fel gweddiwr. Da y gwyddai ei gydoeswyr am ei ymdrechion dihafal gyda dirwest ac yn erbyn meddwdod, ac am ei weddiau gafaelgar ac effeithiol.

"Mor nodweddiadol o hono ef ei hun oedd ei eiriau diweddaf. Cefais lythyr boreu heddyw oddiwrth y Gwr, a'i gynwys oedd, Mewn ing y byddaf fi gyda thi.' ' Golygfa fendigedig ar ddydd ei angladd oedd gweled tyrfa mor fawr— o gylch 2000—yn talu parch i'w goffadwriaeth, y bobl y bu trwy ei oes yn eu dysgu a'u hyfforddi, yn canu emynau mor rymus, ar hyd y ffordd o'r capel i'r fynwent, a swyddogion yr eglwys y bu yn cyd-lafurio gyda hwy, o dan bedair congl yr elor yn ei gario i lan y bedd."

Y PARCH. ROBERT PARRY.

Brodor ydoedd ef o Lanllyfni, wedi ei eni mewn lle o'r enw Felingerig. Daeth i Ffestiniog pan o gylch 20 oed, i weithio fel chwarelwr. Yr oedd yn ddyn ieuanc syml a diargyhoedd, a rhagorai ar y cyffredin trwy ei awydd i brynu a darllen llyfrau, a hynodid ef fel dadleuwr selog dros yr athrawiaeth Galfinaidd. Ymhen o gylch tair blynedd wedi iddo symud yma, ymunodd â chrefydd yn eglwys y Methodistiaid yn Nhanygrisiau. Ymaflodd ar unwaith yn nyledswyddau crefydd: bu yn ffyddlon gyda'r cyfarfodydd egwyddori; byddai eneiniad ar ei weddiau ar ei doriad cyntaf allan. "Daliwch chwi sylw," ebe un brawd, wrth fyned adref o gyfarfod gweddi, mae defnydd pregethwr yn y dyn ieuanc yna sydd newydd ddyfod atom." A dywedai ef ei hun wedi hyny ei fod wedi cyfansoddi rhai pregethau cyn bod yn aelod eglwysig. Ymhen o gylch blwyddyn ar ol ymuno â'r eglwys, aeth i Athrofa y Bala; ond nis gallodd aros yno ond am dymor byr. Dychwelodd yn ol drachefn at ei orchwyl yn y chwarel. Y pryd hwn darfu i'r blaenor duwiol, Mr. Jacob Jones, Bala, anfon llythyr at swyddogion eglwys Tanygrisiau, yn eu hanog i gymell y gŵr ieuanc fu yn y Bala i ddechreu pregethu. Ac felly y gwnaethant. Bu yn gweithio yn y chwarel am gryn amser ar ol dechreu pregethu. Aeth i'r Athrofa eilwaith, a bu yno am o gylch tair blynedd. Ymdrechodd yn ganmoladwy iawn yr adeg yma i gael addysg athrofaol i'w gymhwyso i fod yn ddefnyddiol, ac aeth trwy galedi mawr. Ar ol bod yn y Bala am yr amser arferol, gwnaeth ei feddwl i fyny, er mwyn cael moddion cynhaliaeth, i fyned i gadw ysgol ddyddiol; a thuag at gyfaddasu ei hun at y gwaith hwnw, aeth i'r Borough Road, Llundain. Ymgymerodd â gofal yr Ysgol Frutanaidd yn Ffestiniog, a bu yr ysgol yn llwyddianus o dan ei ofal am o gylch wyth mlynedd. Ymsefydlodd yma bellach, trwy briodi Miss Catherine Thomas, Tryfal. Er mwyn bod yn fwy rhydd i ddilyn ei gyhoeddiadau Sabbothol a'r Cyfarfodydd Misol, rhoddodd y swydd o ysgolfeistr i fyny, ac ymgymerodd â masnach, er mwyn, fel y dywedai, ceisio gwneyd ychydig i'w gynorthwyo i fyw i bregethu. Bu ei fynediad i Ffestiniog o fendith fawr i achos y Methodistiaid yn y lle. Gwasanaethodd fel bugail i eglwys liosog Peniel am amser maith; meddai ar gynhwysder neillduol i gadw cyfarfodydd eglwysig, ac i hyfforddi y bobl ieuainc. Yr oedd ei ddawn ef, a dawn y Parch. Humphrey Williams, pob un yn ei ffordd ei hun, yn peri i'r cyfarfodydd eglwysig fod yn dra adeiladol ac effeithiol. Ei gyfaill, y Parch. G. Williams, Talsarnau, yr hwn a ysgrifenodd gofiant byr iddo i'r Drysorfa, Tachwedd 1881, a ddywed ei fod yn meddu anfantais i fod yn boblogaidd, am nad oedd yn feddianol ar lais soniarus, ond y byddai y dosbarth mwyaf deallus o'r gwrandawyr yn ei werthfawrogi. Ac mewn cysylltiad ag ef y gwnaeth G. W. y sylw canlynol, "Clywsom am un wraig yn myned heibio i gapel pan oedd y gwasanaeth newydd ddechreu; a phan y gofynwyd iddi a oedd hi ddim yn myned i wrando y gŵr dieithr, dywedai, Mae arnaf eisiau myned i'r shop yn gyntaf, ond deuaf yn ol erbyn y bydd y pregethwr yn dechreu gwaeddi.'" Y lleoedd y rhagorai Mr. Parry ynddynt oeddynt, y cyfarfodydd eglwysig, y cyfarfodydd ysgolion, a'r Cyfarfodydd Misol. Bu am dymor maith yn gofalu yn dra llwyddianus am gyfarfodydd ysgolion y dosbarth. Byddai yn fynych yn cael ei benodi i wneuthur cymwynasau dros y Cyfarfod Misol, ac nid oedd neb yn fwy medrus at achosion felly. Yr oedd yn ŵr o argraffiadau crefyddol dyfnion trwy ei oes, a chadwodd ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd, a bu yn ffyddlon yn ngwasanaeth ei Arglwydd hyd y diwedd. Bu farw ar y 7fed o Ionawr, 1880, yn nhŷ ei fab, Dr. Parry, Harlech y pryd hwnw, a chymerodd ei angladd le yn Mhentref Ffestiniog, pan y daeth tyrfa fawr i ddangos eu parch iddo.

Nodiadau[golygu]

  1. Cofiant y Parch. John Jones, Talsarn, tudal. 818.
  2. Cofiant y Parch. J. Jones, Talsarn, tudal. 632.