Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Eglwys Saeneg Blaenau Ffestiniog
← Bowydd | Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II gan Robert Owen, Pennal |
Yr Ysgol Sabbothol (Dosbarth Ffestiniog) → |
EGLWYS SAESNEG, BLAENAU FFESTINIOG.
Cychwynodd yr achos hwn yn Ysgol Sul y Tabernacl, lle y dechreuwyd cadw dosbarth Saesneg, ac y caed ambell bregeth yn achlysurol. Yna cafwyd cydsyniad a chynorthwy yr eglwysi Cymreig i gynal achos Saesneg yn hen ysgoldy Garegddu, a thelid 2p. y flwyddyn o ardreth am y lle. Cynhaliwyd moddion cyntaf ar y Sabbath, Gorphenaf 9, 1876, pryd y pregethwyd gan y Parch. T. J. Wheldon, B.A. Arhosodd ychydig nifer yn ol ar ddiwedd moddion yr hwyr, y rhai a ffurfiasant gnewyllyn yr achos. Medi 28ain yr un flwyddyn, cynhaliwyd y cyfarfod eglwysig wythnosol cyntaf, a derbyniwyd Mr. Edwards, Dentist, ynghyd â phedwar eraill, yn gyflawn aelodau, a'r Sabbath dilynol gweinyddwyd yr Ordinhad o Swper yr Arglwydd. Yn Nghyfarfod Misol Rhagfyr y flwyddyn hono, penderfynwyd ar yr hyn a ganlyn,-"Fod yr Achos Saesneg yn Mlaenau Ffestiniog i gael ei neillduo yn eglwys, yn ol dymuniad y cyfeillion yno; a bod y personau canlynol i fyned yno i edrych i reoleiddiad y sefydliad, y Parch. T. J. Wheldon, B.A., Mri. R. Griffith, Ffestiniog, John Hughes, Tabernacl, ac Owen Jones, Fronwen." Cyfrifon argraffedig cyntaf yr eglwys, ar ddiwedd 1876, ydynt,-gwrandawyr 75; cymunwyr 20; casgliad at y weinidogaeth mewn 24 o suliau, 27p. 19s. 24c. Yn 1878, dechreuwyd symud ymlaen i gael capel, ac i sicrhau gwasanaeth gweinidog mewn cysylltiad â'r Garegddu. Ond cyfododd rhwystrau ar y ffordd i gael gweinidog i ofalu am y ddwy eglwys, gan i'r cyfeillion Cymraeg gredu y gallent gario ymlaen yr achos fel yr oeddynt. Pa fodd bynag, ymgymerwyd y flwyddyn a nodwyd â darparu i gael capel i'r eglwys a'r gynulleidfa Saesneg, ac ymhen amser casglwyd swm o arian ar gyfer hyny. Sicrhawyd tir mewn lle canolog yn yr ardal, ac adeiladwyd capel hynod o brydferth, yn cynwys lle i oddeutu 250 i eistedd. Y cynllunydd ydoedd Mr. T. G. Williams, Moss Bank, Liverpool, yr hwn yn garedig a roddodd ei wasanaeth yn rhad. Cyrhaeddodd yr holl draul, trwy fod llawer o drafferth wedi ei gael gyda'r sylfaen, dros 1350p., at yr hyn y casglwyd tuag 800p., gan y Parch. T. J. Wheldon, B.A. Cynhaliwyd cyfarfod agoriad y capel yn mis Medi, 1882, pryd y pregethwyd gan y Parch. T. J. Wheldon, B.A., Henry Jones, M.A., Bangor, D. Charles Davies, M.A., ac Ellis Edwards, M.A. Y flwyddyn hon cliriwyd 100p. o ddyled oedd wedi rhedeg gyda dygiad yr achos ymlaen. Yn 1885 penderfynodd yr eglwys wneyd un ymdrech egniol i symud ymaith y ddyled oddiar y capel. Y cynllun a gymerwyd oedd, casglu tanysgrifiadau, a chynal bazaar, yr hyn gyda diwydrwydd a dyfalbarhad di-ildio a droes allan yn llwyddiant, a chliriwyd 600p. Mae y capel o hyny allan yn gwbl ddiddyled. Dangoswyd llawer o garedigrwydd i'r Achos Saesneg gan yr ardal yn gyffredinol yn yr amgylchiad hwn, ond y Parch. T. J. Wheldon, B.A., fu y prif symudydd yn yr ymdrech, ac mae yr achos o'i gychwyniad yn dra rhwymedig iddo ef a Mrs. Wheldon am y dyddordeb a deimlent ynddo, a'u caredigrwydd iddo. Mewn gwirionedd, cariodd Mr. Wheldon holl gyfrifoldeb yr achos ar ei ysgwyddau ei hun, yn ei sefydliad a'i ddygiad ymlaen, hyd nes y talwyd dyled y capel.
Yn y dechreu, buwyd mewn peth anhawsder i gael personau cymwys i arwain yr eglwys. Un o'r rhai cyntaf a ymgymerodd a'r gwaith gydag egni ac ymroddiad tra chanmoladwy ydoedd, Mr. O. P. Jones, is-oruchwyliwr yn chwarel y Welsh Slate, am yr hwn y gwneir sylw coffadwriaethol ar y diwedd. Yn nechreu y flwyddyn 1878, ymunodd Mr. Griffith Griffiths, Slate Quarries School, a thua diwedd yr un flwyddyn Mr. G. J. Williams, F.G.S., Advanced Elementary School, ond y pryd hwnw yn athraw Ysgol y Bwrdd, yn Nhanygrisiau, ynghyd â rhai o athrawon ac athrawesau eraill yr ysgolion dyddiol, â'r achos Saesneg, y rhai a fuont mewn gwirionedd yn asgwrn cefn iddo. Neillduwyd Mri. Griffith Griffiths, a G. J. Williams, yn flaenoriaid yn Chwefror 1880. Mr. Superintendent O. Hughes hefyd, yr hwn am dymor byr fu yn preswylio yn y Blaenau, a wnaeth wasanaeth yma yn y cyfwng hwn. Tuag amser agoriad y capel, ymunodd Mr. E. H. Millward a'i deulu, a Mr. E. H. Jonathan, Fourcrosses, a'r eglwys, trwy symud o'r Tabernacl. Ac yn mis Awst 1876, neillduwyd Mr. Jonathan a Mr. Edwards, Dentist, yn flaenoriaid. Ar ol bod yn ddefnyddiol gyda'r achos, yn neillduol gyda'r plant, symudodd Mr. Edwards i fyw i Borthmadog. Yn y flwyddyn 1883 rhoddwyd galwad i'r Parch. O. E. Williams, yr hwn a fu mewn cysylltiad a'r eglwys, ac yn weithgar yn yr ardal hyd ddiwedd 1886, pan yr ymadawodd i gymeryd gofal eglwys Saesneg Rhosllanerchrugog. Yma y cychwynodd Mr. E. O. Davies, B.Sc., bregethu, yr hwn sydd yn awr yn Mansfield College, Oxford. Y mae gŵr ieuanc addawol arall, sef Mr. John David Jones, yn awr yn myned trwy y dosbarth fel ymgeisydd am y weinidogaeth. Mae yr eglwys yn bresenol mewn sefyllfa lewyrchus, y gwrandawyr yn rhifo 90; y cymunwyr, 40; yr Ysgol Sul, 70; Mri. G. J. Williams, F.G.S., ac E. H. Jonathan, yn parhau yn flaenoriaid gweithgar. Ac ar hyn o bryd, edrychir allan am weinidog mewn cysylltiad ag eglwys Gymraeg Bowydd.
SYLWADAU COFFADWRIAETHOL.
GRIFFITH GRIFFITHS.
Ymunodd â'r eglwys Saesneg, fel y crybwyllwyd, yn 1878, ac ymhen dwy flynedd neillduwyd ef yn flaenor. Bu ef a'i briod merch y diweddar Mr. W. Williams, Bont, Llanbrynmair-o wasanaeth mawr i'r achos, ac yn hynod am eu caredigrwydd i weinidogion y gair. Yr oedd ef yn un o'r gwyr ieuainc mwyaf meddylgar a fagodd Ffestiniog; yn gymeriad noble, disglaer, hawddgar, ac yn dra chrefyddol ei ysbryd. Colled fawr i'r eglwys oedd ei golli. Ymfudodd i Emporia, Kansas, ac anrhegwyd ef a'i briod ag anerchiad goreuredig gan yr eglwys. Ymhen naw mis ar ol ei fynediad i'r America, sef Chwefror 5ed, 1887, bu farw mewn tawelwch a hyder mawr, yn 30 mlwydd oed, gan ddymuno ar i'r geiriau "Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd" gael eu rhoddi ar gareg ei fedd, ynghyd â'r llinell ganlynol:—
"After life's fitful fever, he sleeps well."
O. P. JONES.
Bu ef mewn cysylltiad â'r eglwys hon am 11 mlynedd; ystyrid ef fel tad yr eglwys, ac efe oedd ei blaenor cyntaf. Bu yn gwasanaethu y swydd dros dymor byr yn Nhalsarnau yn flaenorol. Ymgymerodd â'r swydd yn yr eglwys Saesneg o dan anfanteision mawrion, gan nad oedd ond Cymro uniaith. Ond yr oedd yn ŵr o rym meddwl anarferol, ac o ewyllys mor gref na fynai ei droi yn ol na'i orchfygu gan unrhyw anhawsder, ac felly daeth yn fuan yn alluog i gymeryd rhan yn yr holl wasanaeth. Yr oedd yn ŵr o syniadau eang, ystwythder ysbryd, a barn addfed. Yr oedd hefyd yn prysur ddringo i fyny i fod yn un o ddynion blaenaf ei ardal ymhob cylch. Gwasanaethodd ei swydd yn yr eglwys gyda ffyddlondeb, heb fod yn ail i neb o'i frodyr y diaconiaid. Er galar i gylch eang, bu farw yn sydyn, trwy gyfarfod â damwain, Chwefror 10fed, 1889.
Nodiadau
[golygu]