Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Llanbedr

Oddi ar Wicidestun
Talsarnau Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II

gan Robert Owen, Pennal

Llanfair
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Llanbedr, Gwynedd
ar Wicipedia



LLANBEDR.

Deunaw mlynedd ar hugain i'r flwyddyn hon (1890) y dechreuwyd yr achos yn Llanbedr, yn ei wedd gyntaf oll. Rhan o gynulleidfa y Gwynfryn ydoedd trigolion y pentref a'r gymydogaeth yn flaenorol. Ond fel yr oedd y plant tua Llanbedr yn lliosogi, aeth y brodyr oeddynt yn eiddigeddus dros addysg foesol y genhedlaeth ieuanc i deimlo yn bryderus rhag ofa yr esgeulusid anfon y plant yn gyson i'r Gwynfryn, a theimlent awydd cryf am gael Ysgol Sabbothol i Lanbedr. Cafwyd lle mewn tŷ, eiddo Mr. Riveley, Brynygwin, trwy fod y teulu a breswylient ynddo (Mr. John Evans, Gwyndy House), yn symud i dŷ newydd. Yn yr hen dŷ hwn y buwyd yn ei chynal am bedair blynedd. Pregethid hefyd ynddo yn achlysurol: y bregeth gyntaf a gafwyd yma oedd gan y Parch. Owen Roberts, Llanfachreth, ar nos Sadwrn. Y prif ddynion fu yn flaenllaw gyda'r ysgol yn ei chychwyniad oeddynt William Rhisiart, Rees Jones (Rhys Sion), Robert Griffith, Evan Evans, John Evans, John Lewis (Tŷ Mawr), a Griffith Sion. Cynyddodd yr ysgol yn lled fuan i tuag 80 mewn nifer. Oherwydd fod yr ysgol yn cynyddu, a'r pregethu yn dyfod yn amlach, cytunwyd i anfon dau frawd at Mr. Poole, boneddwr oedd yn byw yn Cae Nest, palasdy gerllaw Llanbedr, a'r hwn ar y pryd a berchenogai y rhan fwyaf o'r gymydogaeth, i ofyn caniatad i adeiladu ysgoldy i gadw Ysgol Sul ynddo, er mwyn sicrhau addysg Feiblaidd i'r plant a'r bobl ieuainc. Atebodd Mrs. Poole yn benderfynol, "fod digon o le yn eglwys y plwyf, y dylent oll fyned yno; ac na roddid lle arall i neb i'r diben yma tra y byddai hi byw." Mae yn iawn i ni dybied fod boneddigion y wlad, yn yr amser gynt o leiaf, wrth wrthwynebu unrhyw symudiad o eiddo Ymneillduwyr, yn credu eu bod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw. Bu y foneddiges hon farw, modd bynag, y flwyddyn y gwnaed y cais hwn, a bu farw ei phriod hefyd yn fuan wedi hyny. Ymhen ychydig amser daeth Mr. Poole, hynaf, tad y rhag-ddywededig R. Poole, i drigianu i Gae Nest. Yr oedd ef yn adnabyddus i'r bobl fel gwr caredig a gwir foneddwr. Anfonwyd dau o frodyr ato yntau drachefn gyda'r un genadwri, sef i ofyn caniatad i adeiladu ysgoldy bychan. (Dywedir mai Rees Jones a Robert Griffith a anfonwyd dros y cyfeillion y ddau dro). Rhoddodd y boneddwr calon-agored eu dymuniad i'r cyfeillion ar ben gair. Caniataodd iddynt y lle mwyaf cyfleus, a dywedodd am iddynt beidio ei wneyd yn rhy fychan, ond yn gapel cysurus i bregethu ynddo, y byddai felly yn fwy cyfleus a manteisiol i gynal Ysgol Sul ynddo hefyd, ac ychwanegai, "y cymerai ef sët ynddo, os dewisent." Addawodd y tir ar brydles o 99 mlynedd, gyda'r hysbysiad, os na byddai yr ardal wedi ei henill iddo erbyn hyny, y byddai yn well i ryw bobl eraill geisio ei henill. Ac yn ychwanegol rhoddodd 5p. ei hun tuag at y draul. Arhosed bendith ar ei goffadwriaeth. Y mae gweithred fel hon yn teilyngu cael ei chroniclo.

Dyddiad y brydles ydyw Gorphenaf, 1856. Ardreth flynyddol 1p. 10s. Mae tir y fynwent o'r tucefn i'r capel yn gynwysedig yn hwn. Yr hysbysiad cyntaf am yr achos yn Llanbedr ar lyfrau y Cyfarfod Misol ydyw, y penderfyniad canlynol a wnaed yn Nghyfarfod Misol Abermaw, Mawrth 3, 1856, "Gofynwyd caniatad gan gyfeillion y Gwynfryn i adeiladu capel yn Llanbedr. Dywedent eu bod yn barnu y gallent gasglu digon o arian tuag at ei adeiladu yn y gymydogaeth, fel na byddai raid iddynt ddyfod at y Cyfarfod Misol i ofyn am ddim cymorth tuag at hyny. Cydsyniwyd â'r cais." Agorwyd y capel Rhagfyr 3, a'r 4, 1856. Pregethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. Robert Williams, Aberdyfi, Joseph Thomas, Carno, a John Jones, Talsarn. Casglwyd ddiwrnod ei agor, 5p. 10s. Oherwydd fod y ddeddf mewn grym, nad oedd yr un capel i gael ei agor a dyled arno, gwnaeth y cyfeillion yma ymdrech arbenig at ddwyn y draul, a chan na cheir dim dyled ar gyfer cyfrifon y capel y blynyddoedd dilynol, cymerir yn ganiataol iddo gael ei agor yn ddiddyled. Yr holl draul, yn ol cof y rhai sydd yn fyw yn awr oedd ychydig dros 300p. Ymhen y flwyddyn ar ol agor y capel, sef ar ddiwedd 1857, y cyfrifon ydynt: cymunwyr, 62; gwrandawyr, 180; Ysgol Sul, 135; cyfanswm y casgliadau, 38p. 19s. 1c. Ymhen deng mlynedd aeth y capel yn rhy fach, a bu raid rhoddi darn ato, trwy ei estyn yn nes i'r ffordd. Felly, yn mis Chwefror, 1867, yr ydym yn cael y Cyfarfod Misol yn pasio penderfyniad drachefn, "Cydsyniwyd i eglwys Llanbedr gael helaethu eu capel yn ol y cynlluniau a ddodwyd gerbron y cyfarfod." Ar ei ail agoriad, pregethwyd ynddo yn gyntaf gan y gweinidog, y Parch. D. Jones, ar y geiriau, "Bydd mwy gogoniant y tŷ diweddaf hwn na'r cyntaf." Aeth y draul y waith hon yn 463p. 14s. 103c. Dodrefniad y capel, 47p. 17s. 4c. Casglwyd mewn arian, 163p. 14s. 103c., ynghyd â'r swm uchod at ddodrefnu, gan adael y gweddill, ar y pryd, heb ei dalu. Mewn Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yn Llanbedr, Tachwedd, 1874, ceir yr hysbysiad canlynol yn y cofnodion,"Yr oedd yr eglwys wedi ymgymeryd â thalu dyled y capel, sef 300p. oedd yn aros, ac mewn pedwar mis o amser, ddiwedd y flwyddyn ddiweddaf (1873), cliriwyd y swm hwn oll, fel y mae y capel yn awr yn hollol glir, a gwedd lewyrchus ac addawol ar bob rhan o'r achos yn y lle." Y mae Llanbedr yn daith arni ei hun er y flwyddyn 1873.

Yr hyn sydd yn ngweddill i'w groniclo am yr eglwys hon ydyw crynhodeb o hanes ei swyddogion. Pan sefydlwyd hi gyntaf, yr oedd dau o hen swyddogion y Gwynfryn yn dyfod yma gyda hi, sef Rees Jones a William Rhisiart, ac ar eu hysgwyddau hwy, yn benaf, y bu y gwaith yn gorphwys am rai blynyddoedd. A ganlyn ydyw ychydig o'u hanes hwy, a'r rhai a'u dilynasant:—

REES JONES (RHYS SION)

Yr oedd ef yn un o flaenoriaid cyntaf y Gwynfryn. Edrychid arno fel cymeriad tra adnabyddus, ac y mae coffa mynych am dano hyd heddyw fel un o'r rhai ffyddlonaf gyda'r achos. Coffheir am dano fel gwrandawr rhagorol; cerddodd lawer i wrando hen bregethwyr Cymru; gwyddai lawer o'u hanes, a byddai yn teimlo yn ddwys o dan eu gweinidogaeth. Efe oedd un o'r rhai penaf a wnaeth ymdrech i gael capel yn Llanbedr, ac yr oedd yn arbenig yn ei sel yn casglu tuag ato. Ond ar ol ei ymdrech gydag ef, rhyw dair blynedd fu ei oes ynddo. Bu farw Rhagfyr 29, 1859, yn 75 mlwydd oed. Pregethodd y Parch. E. Morgan yn ei angladd ar "Hanes Lazarus." Dywedid pethau lled ddigrifol am dano yn ystod ei fywyd. Ond yr adnod ar gareg ei fedd, yr hon, debygid, a fwriedid fel arwyddair o'i gymeriad ydyw, "Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll."

WILLIAM RHISIART.

Mae yr hyn a ganlyn yn gerfiedig ar gareg ei fedd, y tucefn i'r capel: "William Richard, Tyddynypandy, yr hwn a fu farw Ebrill 7, 1868, yn 86 mlwydd oed. Yr oedd yn Gristion cywir, ac yn un a berchid gan bawb; treuliodd oes ddifwlch o broffes grefyddol, a gwasanaethodd y swydd o ddiacon am yr ysbaid o 60 mlynedd gyda ffyddlondeb mawr." Elizabeth ei wraig a fu farw Mawrth 21, 1879, yn 90 oed. Yr oedd hi yn wraig nodedig o grefyddol, a gadawodd argraff er daioni ar ei gŵr. Er o ddoniau bychain, cydnabyddid William Rhisiart yn ŵr crefyddol, duwiol, ac o ansawdd dyner ei ysbryd. Yr olwg arno yn niwedd ei oes oedd yn batriarchaidd. Perthynai i'w fywyd ddau ddigwyddiad arbenig. Efe a arweiniodd y Parch. Richard Humphreys i'r seiat y tro cyntaf. Efe, hefyd, yn un o dri, a anfonwyd dros y Cyfarfod Misol, a gynhaliwyd Rhagfyr 1 a'r 2, 1840, i'r Dyffryn i gymeryd llais yr eglwys ar gychwyniad y Parch. Edward Morgan i bregethu. Ymffrostiai yr hen bererin yn hyn, ac arferai ddweyd mewn cwmni lle byddai Mr. Morgan yn bresenol, "Y fi fu yn rhoi tenyn yn ei ben o."

ROWLAND JONES. Rhestrir yntau yn arbenig yn un o wyr urddasol eglwys Llanbedr. Yma y daeth ei grefydd i'r golwg, ac yma y bu o ddefnyddioldeb mawr. Yr oedd yn enedigol o'r Tyddynbach, Dyffryn. Dygwyd ef i fyny yn fasnachwr; a phan o gylch un ar hugain oed agorodd fasnachdy yn Llanbedr. Dechreuodd haul llwyddiant yn fuan dywynu arno, a pharhaodd i lwyddo nes y daeth i droi mewn cylch eang iawn fel masnachwr. Llwyddodd ei grefydd hefyd yr un modd a'r un pryd a'i amgylchiadau bydol. Yr oedd wedi derbyn argraffiadau crefyddol er yn fachgen, ac ni fu enill cyfoeth yn un atalfa ar ei grefydd. Byddai ei ofal yn fawr am achos yr Arglwydd yn wastad. Yn ei dy ef y lletyai llawer o weinidogion a phregethwyr ar y Sabbothau, ac ni theimlent yn fwy cartrefol yn unman. Dewiswyd ef yn flaenor yn eglwys Llanbedr yn y flwyddyn 1860. Trwy ddiwydrwydd ac ymroad bu yn "ffyddlawn yn yr holl dŷ." Nid un o'r rhai trystfawr ydoedd, ond gweithiwr distaw a chyson, un yr ymddiriedai ei frodyr unrhyw beth iddo, ac yr oedd pwysau a dylanwad mwy na chyffredin yn ei gymeriad. Ymaflodd afiechyd ynddo gryn amser cyn iddo gael ei gymeryd ymaith; yn yr amser hwn dangosai dawelwch mawr. Bu farw yn Llandrindod, lle yr aethai i ymofyn am leshad, Awst 13eg, 1872, yn 48 mlwydd oed. Gorphwysa yn dawel, gyda llawer o ragorolion y ddaear, y tu cefn i'r capel.

JOHN LLOYD

Prin ddeng mlynedd gafodd ef wasanaethu yn y swydd o flaenor. Yr oedd yn ŵr duwiol, selog, a ffyddlawn, a chrefydd yn y rhan olaf o'i oes fel wedi ei feddianu yn llwyr. Byddai graddau helaeth o deimlad yn ei feddianu wrth wrando yr efengyl. Bu farw ar ol ychydig o gystudd, Chwefror 3ydd, 1881, yn 63 mlwydd oed.

CADBEN GRIFFITH, TYDDYN Y PANDY.

Mawrth 3, 1873, y derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor yn yr eglwys hon. Treuliodd lawer o'i amser gyda'i orchwylion ar y môr, ac felly nid oedd wedi cael y fantais i ymarfer llawer â phethau cyhoeddus crefydd. Yr oedd, modd bynag, wedi cyraedd sefyllfa gyfrifol gyda'r byd a chrefydd. Bu o lawer o wasanaeth i achos yr Arglwydd yma, yn enwedig mewn pethau arianol. Ei barodrwydd a'i ewyllysgarwch i bob achos da oeddynt ganmoladwy. Bu farw yn ei long ar y môr, ddechreu Mawrth, 1883, a dygwyd ef i dir i'w gladdu.

JOHN RICHARDS.

Symudodd yma o Faentwrog, lle yr oedd yn swyddog defnyddiol yn flaenorol. Ychydig fu byw ar ol ei symudiad. Dewiswyd ef yn flaenor yma yn Gorphenaf, 1881, ac yn Nghyfarfod Misol Ionawr, 1882, yr oedd sylwadau coffadwriaethol yn cael eu gwneuthur am dano. Teimlid colled fawr ar ei ol, oblegid yr oedd yn ŵr o farn ac o allu.

Heblaw y rhai blaenorol, dewiswyd Mri. W. Prise Jones, Gwerneinion, a Robert Roberts, Llanbedr, yn flaenoriaid yma, y rhai wedi gwasanaethu am dymor, a symudasant o'r ardal.

Y blaenoriaid yn bresenol ydynt, Mri. John Evans, Hugh Evans, a J. R. Jones.

Rhif y gwrandawyr, 185; cymunwyr, 91; Ysgol Sul, 114.

Bu Mr. Robert Griffith, Siop, yn weithgar iawn gyda'r achos yn ei holl ranau o'r cychwyn, yn enwedig gydag adeiladu y capel a thalu ei ddyled, ac mewn cyfranu yn haelionus trwy y blynyddau; ei deulu oll yr un modd a fuont yn golofnau hardd gyda chrefydd yn y lle. Mr. Evan Evans, Glanartro, a fu yn weithgar iawn gyda'r gwaith yn ei holl gysylltiadau. A gellid enwi amryw o denluoedd eraill a wnaethant yn gyffelyb. Yma y dechreuodd y Parch. J. R. Evans, yn awr o Tyldesley, bregethu; ei flwyddyn brawf yn diweddu Ionawr, 1879. Y Parchn. E. J. Evans a W. Lloyd Griffith, a fuont yn gwasanaethu yr achos am flynyddau, er nad oeddynt mewn cysylltiad ffurfiol â'r eglwys. Yn 1864, rhoddodd yr eglwys alwad i'r Parch. D. Jones i'w gwasanaethu mewn undeb â'r Gwynfryn, a bu yn llafurus a chymeradwy ynddynt am bymtheng mlynedd, hyd nes y symudodd i Garegddu. Bu y Parch. O. Parry-Owen yn weinidog yr eglwys hon a'r Gwynfryn am oddeutu pum' mis, hyd ei farwolaeth, Mai y flwyddyn hon (1890). Yn awr. ar ddiwedd yr un flwyddyn, mae y Parch. J. Wilson Roberts wedi ymsefydlu yma trwy alwad y ddwy eglwys.

Y PARCH. O. PARRY-OWEN.

Cafodd ef ei fagu yn Abermaw. Wedi colli ei dad a'i fam, symudodd at ei frawd i Rostryfan, ac yno y dechreuodd bregethu. Bu o dan addysg yn Nghlynog am dymor byr, ac yna aeth i Athrofa y Bala. Ar ol gorphen ei amser yno, ymsefydlodd yn Abermaw trwy ymbriodi â Miss Jones, o Porkington Terrace, ac yn fuan, ymgymerodd â bod yn weinidog yr eglwys Saesneg yn y lle. Bu am flwyddyn drachefn yn weinidog ar eglwys Tregynon a Beulah, Trefaldwyn Isaf. Dychwelodd yn ol i Orllewin Meirionydd trwy dderbyn galwad eglwysi Llanbedr a'r Gwynfryn. Rhoddodd brofion eglur ei fod yn meddu talent i bregethu yn y ddwy iaith. Yr oedd yr elfen weithgar yn dra amlwg ynddo, ac yr oedd yn llenor da. Ond er galar i'w deulu a'i liaws cyfeillion, nos Lun, Mai 19eg, 1890, bu farw yn yr oedran cynar o 29.

Nodiadau[golygu]