Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Llanfair

Oddi ar Wicidestun
Llanbedr Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II

gan Robert Owen, Pennal

Eglwys Saesneg Abermaw
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Llanfair, Gwynedd
ar Wicipedia




LLANFAIR.

Yn ddiweddar, mewn cymhariaeth, y dechreuwyd achos rheolaidd yn Llanfair. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1866, ac ymhen dwy flynedd corfforwyd eglwys yn ffurfiol ynddo. Ond cynhelid moddion crefyddol yn yr ardal er yn bur foreu. Yn y Tyddyn-du, yn y plwyf hwn, ac yn Pen'rallt. wedi hyny, yr oedd Griffith Ellis yn byw. Efe, fel y ceir yr hanes mewn cysylltiad â Harlech, a fu yn offeryn i ddwyn pregethu gyntaf i ddosbarth y Dyffryn; ac yn ei dŷ ef, yn mhlwyf Llanfair, yn ol pob hanes, y bu y Methodistiaid yn pregethu gyntaf erioed yn y wlad hon. Yr oedd hyn, gellir tybio, heb fod ymhell oddiwrth y flwyddyn 1770. Yn fuan wedi iddo agor ei ddrws yn y Tyddyn-du i noddi y pregethwyr, derbyniodd rybudd i ymadael. Ond rhoddodd ei feistr tir iddo ei ddewisiad, "Yr un a fynai, ai peidio coledd y fath bobl, ai ymadael o'r Tyddyn-du." Yr ateb a roddodd Griffith Ellis i'w feistr tir oedd, "Bod yn well ganddo golli ei dyddyn. na cholli ei enaid." Cafodd crefyddwyr Llanfair felly esiampl ragorol yn eu rhag-flaenor, sef yn y Methodist Calfinaidd cyntaf erioed yn y plwyf.

Harlech oedd cartref yr achos yn amser yr hen batriarch Griffith Ellis. Ac hyd y flwyddyn grybwylledig yn y paragraff blaenorol, rhan o eglwys a chynulleidfa Harlech oedd Methodistiaid ardal Llanfair. Yr oedd Ysgol Sabbothol yn cael ei chynal yn y gymydogaeth er tua'r flwyddyn 1812. Mewn ffermdy o'r enw Ymwlch y dechreuwyd ei chadw, ac yno y bu am rai blynyddau yn nechreuad ei hoes. Preswyliai yn Ymwlch y pryd hwn, medd yr hen bobl, Ellin Edwards a'i gŵr, Rhys Evan. Enwir y wraig yn gyntaf am mai hi oedd fwyaf selog gyda'r ysgol. Yr oedd yn aelod o eglwys y Gwynfryn. Yr oedd i'r ddeuddyn hyn ddau neu dri o feibion, a phedair o ferched; un o ba rai, fe'n hysbysir, ydoedd gwraig y Parch. Morris Roberts, o Brynllin, pregethwr poblogaidd, yr hwn gyda'i deulu a ymfudodd i'r America, yn rhywle oddeutu y flwyddyn 1830. Dywed yr hen bobl eto mai cyfeillion o'r Gwynfryn a ddechreuasant yr ysgol yn Ymwlch, ymhlith pa rai yr enwir fel athrawon ac athrawesau,-Owen Evan, o Dalygareg; William Dafydd, y gof, Llanbedr; William Rhisiart, Tyddynypandy; a Mrs. Anne Lewis, Tymawr.

Oherwydd ymadawiad y teulu, ac anghyfleusdra y lle, symudwyd yr ysgol o Ymwlch i bentref Llanfair. Cynhelid hi am ysbaid mewn gweithdy crydd, perthynol i Mr. Owen Richards, Tŷ'nllan. Un o'r hen weithwyr yn y gweithdy hwn ar hyd y chwe diwrnod ydoedd Samuel Griffith, yr hwn hefyd a fu yn weithiwr ffyddlon gyda'r Ysgol Sul a gedwid yno. Perthynai ef fel aelod i eglwys y Gwynfryn. Gan mai ar ol moddion y boreu yn y Gwynfryn y byddai yr ysgol yn cael ei chadw yn Llanfair, byddai helynt flin yn aros cyfeillion y lle cyntaf i gasglu y plant ynghyd, y rhai a aent erbyn hyn ar wasgar i bob cwr, rhai cyn belled a Morfa Harlech, ac eraill i bob cyfeiriad, fel defaid ar wasgar. Yn y flwyddyn 1818, symudodd Mr. Humphrey Evans o Danywenallt i fyw i Lanfair, a chafodd yr ysgol fantais fawr ar hyny. Adeiladodd y gŵr hwn dai yno, ac yn llofft un o honynt y cynhaliwyd hi nes yr adeiladwyd y capel presenol yn 1866. Dodrefnwyd y llofft â meinciau pwrpasol i gadw yr ysgol, ac yr oedd grisiau i fyned iddi oddiallan. Y pryd hwn trosglwyddwyd yr ysgol oddiar ysgwyddau cyfeillion y Gwynfryn, a daeth bellach i orphwys yn gwbl ar ysgwyddau pobl Llanfair eu hunain. Humphrey Evans, ynghyd ag Evan Thomas, Pen'rallt, blaenor ffyddlawn yn Harlech, fu y ddau mwyaf blaenllaw yn ei chynal. Cynhelid ambell bregeth a chyfarfod gweddi yn yr hen lofft hefyd. Yr oedd hwn yn gyfnod llewyrchus ar yr Ysgol Sabbothol yn Llanfair. Eraill a deilyngant gael cofrestru eu henwau a'u coffadwriaeth yn gysylltiedig â'r achos yn yr ardal ydynt,-Morris Griffith, Llwynhwleyn; Sion a Betty William, Ymwlch; Harri William, Talarocyn; Rhisiart William, Griffith Lewis. Griffith Jones, Bronygadair, oedd ŵr ieuanc gweithgar, ac a fu am dymor yn ysgrifenydd yr ysgol.

Bu Humphrey Evans yn nodedig o garedigol i achos crefydd yn yr ardal hon am dros ugain mlynedd. Ond rywbryd tua'r flwyddyn 1842, ymfudodd oddiyma i America. Merch iddo ef a gymerodd y Parch. Robert Ellis, Ysgoldy, Arfon, iddo ei hun yn wraig. Fel hyn y rhydd y gŵr parchedig ei hun yr hanes: "Ar y 23ain dydd o Fawrth, 1842, ymunais mewn priodas â Jane Evans, merch Mr. Humphrey Evans, Caerffynon, ger Harlech. Yr oedd hi eisoes er yn lodes wedi arfer â siop. Dyma oedd ei helfen. Profodd yn wraig ac yn fam deilwng o'r enw. Gwnaeth bobpeth a allai yn fy ffordd fel pregethwr. Gweithiai yn galed yn y siop er mwyn fy arbed. Hwyliai fi bob amser yn siriol i'm cyhoeddiadau. Gwnai bobpeth mor bleasant ag y gallai i'm derbyn adref yn ol. Profodd yn ymgeledd gymwys i eithaf y gair. Ar ol ymadawiad Humphrey Evans i'r America,[1] syrthiodd yr achos, a'r ysgol ar ysgwyddau Evan Thomas, Pen'rallt, ond nid hir y bu yntau heb gael ei alw oddiwrth ei waith at ei wobr. Wedi hyn syrthiodd gofal yr ysgol yn benaf i ddwylaw Owen Roberts, Rhiwcenglau, yr hwn fel y mae yn hysbys oedd yn flaenor yr eglwys hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le ganol y flwyddyn 1888. Yr oedd ef yn ddolen gydiol rhwng dyddiau mabandod yr achos a'i ddyddiau presenol, ac nid yw yn ormod dweyd mai efe oedd tad yr achos yn y lle. Yr adeg y daeth y gofal arno ef, trwy lawer o symudiadau o'r ardal, gwanhaodd yr ysgol yn fawr. Cawsant gymorth dros ryw dymor eto oddiallan i gario yr achos ymlaen; bu Mr. W. Lewis, Tymawr, yn rhoddi llawer o wasanaeth gwerthfawr yma y pryd hwn. Ond er derbyn cymorth oddiallan, ni buasai yr un achos Methodistaidd yma oni bai i'r ardalwyr eu hunain ymaflyd o ddifrif yn y gwaith o'i gychwyn.

Y crybwylliad cyntaf a welsom o berthynas i ysgogi tuag at gael capel yn y gymydogaeth ydyw y penderfyniad canlynol a geir yn Nghofnodion Cyfarfod Misol Harlech, Ebrill, 1861, "Bu ymddiddan am ardal Llanfair, a'r angen sydd am gapel yno; penodwyd y Parch. Edward Morgan i geisio cael lle i adeiladu un." Hyd y flwyddyn 1866, yr oedd Talsarnau a Harlech yn un daith Sabbothol. Y flwyddyn hon aeth Talsarnau yn daith arni ei hun, gan adael Harlech a Llanfair gyda'u gilydd. Bu hyn yn foddion i symbylu y cyfeillion ymlaen. Teimlid fod y lloft yn lle anfanteisiol i bregethu, a meddyliwyd yn uniongyrchol am adeiladu capel. Prynwyd tir gan Mr. John Owen, Tymawr. Talwyd am dano 24p. 5s. Nid oedd y Cyfarfod Misol a'r brodyr yn y lle yn cydweled ar y ffurf i'w roddi ar y capel. Anogai y Cyfarfod Misol roddi meinciau ynddo yn lle eisteddleoedd; teimlai cyfeillion y lle yn gryf dros gael eisteddleoedd, a'r olaf aeth a'r maen i'r wal. Yn y cyfnod rhwng y symudiad o'r hen lofft i'r capel newydd, buwyd yn cynal y moddion yn Ysgubor Llanfair Uchaf, trwy garedigrwydd Mr. a Mrs. Pugh, y rhai y pryd hyny a breswylient yno. Blwyddyn fuwyd yn pregethu yn y capel cyn ffurfio eglwys yn rheolaidd ynddo. Yn Nghyfarfod Misol Siloam, Ebrill 1868, "Penodwyd y Parch. Edward Morgan, a Mr. Owen Owen, Glyn, i fyned i Lanfair, ger Harlech, gyda golwg ar sefydliad yr achos yn y lle hwnw yn eglwys ar ei phen ei hun." Oddeutu 120 oedd nifer eglwys Harlech cyn yr ymraniad. Ymadawodd deugain i Lanfair, a rhoddwyd iddynt un ran o dair o Drysorfa y fam-eglwys i fyned gyda hwy i ddechreu byw. Yn yr ystadegau cyntaf y ceir cyfrifon eglwys Llanfair ynddynt, sef am y flwyddyn 1868, ei sefyllfa ydyw,-mewn cymundeb, 40; Ysgol Sul, 120; gwrandawyr, 187; blaenoriaid 2; casgliad y weinidogaeth, 20p. 10s. 71c.; dyled y capel, 240p.-casglwyd at y ddyled y flwyddyn hono, 14p. 12s. 5c. Traul adeiladu y capel felly oedd oddeutu 250p. Bu yr eglwys wrthi yn ddiwyd a chyson yn talu y ddyled. Nid oedd ar ddiwedd 1888 ond 20p. yn aros. Yr oedd dau o flaenoriaid Harlech yn byw yn Llanfair, sef Owen Roberts ac Ellis Lloyd, a bu pwysau yr achos yn ei bethau allanol ac ysbrydol, ar eu hysgwyddau hwy am y blynyddoedd cyntaf. Ond bob yn dipyn, magwyd yn yr eglwys weithwyr da gyda'r holl waith.

Yn y flwyddyn 1871, rhoddodd yr eglwys hon a Harlech alwad i'r Parch. Richard Evans yn weinidog iddynt, yr hwn sydd wedi eu gwasanaethu yn gyson hyd yn bresenol. Blaenoriaid yr eglwys yn awr ydynt, Mri. Ellis Lloyd, Robert Williams, Griffith Thomas, Robert Richards.

Rhif y gwrandawyr, 142; cymunwyr, 78; Ysgol Sul, 97.

OWEN ROBERTS, RHIWCENGLAU.

Dygwyd ef i fyny yn yr ardal hon. Yr oedd yn blentyn wyth oed pan y dechreuwyd cynal Ysgol Sul yn Mhentref Llanfair. Yn ol ei adroddiad ef ei hun, byddai yn arfer pan yn fachgen lled ieuanc, aros ar ol y moddion yn Harlech i fod yn gwmpeini adref i Evan Thomas, Pen'rallt, yr hen flaenor selog. Diameu i'r dyddordeb a gymerai mewn crefydd ar hyd ei oes, wreiddio ynddo y pryd hwnw. Pan oedd tua 32 oed, fel y gwelwyd, disgynodd gofal yr Ysgol Sul yn Llanfair arno ef, a daliodd yn ffyddlon gyda hi dros faith flynyddoedd, yn ngwyneb llawer o dywyllwch, ac ond ychydig o argoelion llwyddiant. Gweithiai yn ddiwyd gyda'r achos yn Harlech, er fod ganddo gryn ffordd o'i gartref yno; dewiswyd ef yn flaenor gan yr eglwys yno, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn Medi 1861. Symudodd gyda'r gangen eglwys i Lanfair, ac efe oedd ei phrif arweinydd o'r cychwyn cyntaf. Er nad oedd ganddo ond gweithio yn ddiwyd ar hyd ei oes i enill ei fywoliaeth, gwnaeth wasanaeth mawr i grefydd yn yr ardal hon. Bu yn noddwr o'r fath oreu i eglwys Llanfair am yr ugain mlynedd cyntaf o'i heinioes. Bu ei ffyddlondeb fel blaenor eglwysig yn amlwg i bawb. Yn ychwanegol at hyny, yr oedd ganddo fedr neillduol i roddi pobl ieuainc mewn gwaith, ac i'w tynu allan i weithio. Bu farw a'i goron ar ei ben, Mehefin 25, 1888, yn 78 oed, a chladdwyd ef yn mynwent y Methodistiaid Calfinaidd yn Harlech.

Nodiadau[golygu]

  1. Gwnaeth Humphrey Evans wasanaeth mawr gydag achos crefydd yn America. Yr oedd yn un o'r rhai a gychwynodd yr achos Methodistaidd yn Racine. Yn ei dŷ ef y cynhaliwyd y cyfarfod gweddi a'r Ysgol Sul Gymreig gyntaf yno, ac efe a roddodd y tir at adeilad y capel. Bu farw yn Nghymru, yn nhŷ ei fab-yn-nghyfraith, y Parch. Robert Ellis.