Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Pant

Oddi ar Wicidestun
Penrhyn (Nazareth) Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II

gan Robert Owen, Pennal

Minffordd
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Penrhyndeudraeth
ar Wicipedia

PANT.

Er fod y Pant yn un o'r "Lleoedd Gweiniaid," mae hanes yr achos yno, pe gallesid ei gael yn fanwl, yn ddyddorol ddigon. Lle ydyw, fel yr arwydda yr enw, yn ngwaelod ardal Penrhyndeudraeth, lle y preswyliai gynt, ac y preswylia eto, bobl dlotaf y gymydogaeth. O ran pellder, gallai yr holl

drigolion roddi eu presenoldeb yn nghapeli eraill y gymydogaeth, ond fe sefydlwyd Ysgol Sul yma i ddechreu er mwyn y bobl, ac yn fwyaf arbenig y plant a esgeulusent bob moddion o ras, amcan mewn rhan, y parheir i gario yr achos ymlaen trwy y ac i'r un blynyddoedd.

Mewn tŷ yn agos i'r Griffin y dechreuwyd yr Ysgol sydd yn awr yn y Pant. Aeth wedi hyny i Dyrnpike Caerfali, lle y preswyliai William Ismael, yr hwn a fu yn dra defnyddiol gyda hi. Ymhen ychydig symudwyd hi oddiyma, a chafwyd caniatad gan Morris Nanney a'i briod i'w chynal yn ffermdy Trwyn-y-garnedd, yr oedd ar y pryd gryn nifer o bobl yn byw yn Mhen Trwyn-y-garnedd, gan fod llawer o waith yn cael ei gario ymlaen gyda'r cychod ar yr afon. Oddiyno drachefn daeth i'r Pant, o gylch y flwyddyn 1849. Cynhelid hi yn Llofft y Tŷ Talcen, am yr hon y telid 1p. 10s. yn y flwyddyn. Cyn hyn yr oedd y trigolion yn nodedig am eu hesgeulusdra o foddion gras. "Yr oedd y Sabbath yn mhell o gael ei dreulio yn gyfaddas gan y rhieni; ond am y plant, yr ydoedd yn eu golwg hwy yn gwbl yr un fath a diwrnod arall—yn cael ei ddefnyddio o foreu hyd y nos i ddilyn y gamp a'r chwareuyddiaeth yn ddiwarafun. Ofer ydoedd cymell y naill na'r llall i ddyfod i'r moddion yn y capelau. Yr oedd eu tlodi yn rhwystro iddynt feddianu y wisg a ddymunent gael, a'u balchder yn eu hatal i ddefnyddio yr hyn oedd ganddynt, i ymddangos ymysg eu cymydogion. Oherwydd hyn, yr oedd yn canlyn yn naturiol fod y plant yn tyfu i fyny yn anwybodus, yn ddrygionus, ac anwaraidd."[1] Yr hyn fu yn achlysur uniongyrchol i gychwyn ysgol yn y Pant, oedd i foneddwr o ymddangosiad boneddigaidd ddyfod trwy ardal y Penrhyn mewn cerbyd, yn y flwyddyn a grybwyllwyd, ac yn ol eu harfer, rhedai plant y Pant ar ol cerbyd y boneddwr. Cymerodd yntau sylw o honynt, ac aeth at Mr. John Williams, yr ysgolfeistr, i wneuthur ymholiad a oedd ysgol ddyddiol, neu. Ragged School yn y gymydogaeth. Atebodd John Williams. fod dwy ysgol ddyddiol yn yr ardal, ond fod rhieni y plant mor dlodion nas gallent hyfforddio i roddi addysg iddynt. Mewn canlyniad i'r ymddiddan hwn, gwahoddwyd y gwahanol enwadau crefyddol ynghyd i ymgynghori beth ellid wneyd, a'r penderfyniad y daethpwyd iddo oedd cychwyn Ysgol Sul yn y Pant, a bod i frodyr oddiwrth y gwahanol enwadau fyned yno i'w chario ymlaen. Ond ni buont yn cydweithio gyda'u gilydd ond am ychydig Sabbothau; gadawyd yr achos yn hollol i ofal y Methodistiaid Calfinaidd. Y Sabbath cyntaf yr agorwyd yr ysgol, cafwyd 40 o aelodau i fewn, ac yn fuan yr oedd y nifer wedi cynyddu i 80. Dewiswyd John Jones, Hendrehenyd, yn arweinydd yr ysgol, a gweinyddodd ei swydd gyda ffyddlondeb mawr. Bu Edward Williams, Brynbach, hefyd yn ymdrechgar a llwyddianus i gael y plant i'r ysgol. Elai o amgylch dan ganu i'w gwahodd, ac ymunent hwythau yn orymdaith ag ef, rhai o'u tai, a rhai oddiwrth eu chwareuon, fel y llenwid yr ystafell gan arabiaid bychain, Sabbath ar ol Sabbath. Bu Samuel Holland, Ysw., diweddar A.S., dros Feirionydd, yn gefnogydd i'r ysgol hon trwy gyfranu tuag at ei chynal. A chyfranodd Cadben John Evans, Bwlchgoleu, lawer o lyfrau at wasanaeth yr ysgol. William Ellis, Tŷ-uchaf, hefyd fu yn hynod ymdrechgar o'i phlaid.

Ar ddiwedd yr ysgol, yn enwedig yn y tymor hâf, byddid yn arfer myned allan o'r tai lle y cynhelid hi, ac yn cyfarfod yn yr awyr agored, a'r holwr yn myned i ben y clawdd i holwyddori, a'r ysgolheigion o'i amgylch yn ateb, nes tynu sylw neillduol yr holl ardal. Wrth weled yr ysgol yn cynyddu ac yn myned yn llawer mwy na llon'd y tai lle y cynhelid hi, penderfynwyd cael ysgoldy i'w chynal. Dygwyd hyn oddiamgylch trwy wneuthur casgliad yn Ysgolion Sabbothol Dosbarth Ffestiniog tuag at ddwyn y draul. Gwnaed y casgliad cyntaf o 3p. 6s. yn Bethesda. Agorwyd yr ysgoldy ddydd Nadolig 1856. Yn ystod y dydd cyfarfyddodd deiliaid yr ysgol i gyd-yfed tê, ac yn yr hwyr pregethwyd gan y Parch. Daniel Evans. Yr oedd y pryd hwn ynghylch 200 yn ei dilyn yn gyson, a chynyrchodd yr amgylchiad adfywiad cyffredinol gyda'r Ysgol Sul trwy yr ardal oll. Y prif ysgogydd gyda'r symudiad oedd Edward Williams, y crybwyllwyd am dano eisoes. Ar ei dir ef, yn gyfranog â rhyw frawd arall, yr adeiladwyd yr ysgoldy, ac nid oedd terfyn ar ei sel a'i ymdrech gyda'r achos yn y lle. Proffwydai er's amser y byddai capel ac achos yn y Pant, yr hyn hefyd a ddaeth i ben. Gorphenaf 1867, yr ydym yn cael fod y tir yn cael ei gyflwyno i'r Cyfundeb gan Mri. Holland ac E. Williams, am bum' swllt ar hugain, a'r weithred yn cael ei chyflwyno i'r gist haiarn yn Nolgellau.

Am y deng mlynedd cyntaf ar ol adeiladu yr ysgoldy, defnyddid ef yn unig, neu o leiaf yn benaf, at wasanaeth yr Ysgol Sul, a pherthynai yr aelodau oedd yn byw yn y gymydogaeth i eglwys Nazareth. Ond yn 1867 ffurfiwyd yma eglwys reolaidd. Yn Nghofnodion Cyfarfod Misol Trawsfynydd, mis Medi y flwyddyn hono, cawn yr hanes a'r penderfyniad canlynol,—"Daeth cenadwri o'r Penrhyn yn hysbysu fod yr eglwys yno, wrth ystyried sefyllfa bresenol yr achos yn y lle, yn barnu mai doethach fyddai i'r achos yn y Pant (capel mewn cysylltiad â'r Penrhyn) gael ei sefydlu yn eglwys, ac i foddion rheolaidd gael eu cynal yno. Wedi gwrando ar adroddiad y cyfeillion, yr oedd y Cyfarfod Misol yn cyd-olygu â hwy, ac yn barod i gydsynio â'r cais, ar yr amod i William Jones a Henry Owen, y rhai sydd yn flaenoriaid yn y Penrhyn, fyned o hyn allan i'r Pant, yn flaenoriaid yr eglwys yno. Penodwyd y Parchn. Robert Parry ac Owen Jones, B.A., i fyned yno gyda golwg ar hyn." Ar y cyntaf yr oedd yr eglwys mewn cysylltiad â Nazareth, ac yn cael pregeth ddau o'r gloch. Yn niwedd 1870, trefnwyd y Pant a Minffordd yn daith Sabbothol. Am rhyw dair blynedd a haner y parhaodd y cysylltiad hwn, oblegid yn nghanol y flwyddyn 1874 aeth y ddau le yn ddwy daith. Ar hyn o bryd, oherwydd gwendid a bychander y nifer, mae y Pant eto yn daith gyda Nazareth, ac ambell i Sabbath yn cael pregethwr trwy y dydd ei hunan. Pan sefydlwyd yr eglwys yma yn 1867, rhifai y gwrandawyr 206, yr Ysgol Sul 200, y cymunwyr 39.

Gŵr oedd William Jones, y cyfeirir ato yn y penderfyniad a grybwyllwyd, a ddaethai i fyw yma o Namor, Beddgelert, a chan fod ei breswylfod yn nghymydogaeth y Pant, a chanddo dai yno o'i eiddo ei hun, anogwyd ef i flaenori yn y gangen eglwys newydd, yr hyn hefyd a wnaeth. Ac efe oedd blaenor cyntaf y Pant. Oherwydd rhyw amgylchiadau, nid aeth Henry Owen yno fel y penodasid. Bu W. Jones yn ffyddlawn gyda'r achos tra parhaodd yn y gymydogaeth. Ond cyn hir dychwelodd yn ol i Sir Gaernarfon, ac y mae, er's amser bellach, wedi myned oddiwrth ei waith, fel yr hyderir, i fwynhau ei wobr. Oddeutu canol y flwyddyn 1868 neillduwyd Hugh Williams, Pencaergô, yn flaenor; ac ar ol ymadawiad W. Jones i Sir Gaernarfon, bu dros beth amser yn unig flaenor yr eglwys. Symudodd yntau o'r Pant, ac y mae yn awr yn flaenor yn Gorphwysfa.

HUGH OWEN.

Symudodd y gŵr da hwn i fyw i'r Penrhyn o Maethlon. Yn mis Mai 1872, neillduwyd ef yn flaenor ar eglwys y Pant. Yr oedd ef yn flaenor o ddylanwad yn ei gylch cartrefol, a meddai gymhwysder arbenig i fod yn y swydd yn y lle hwn. Bu yn gwasanaethu y swydd yn anrhydeddus am flynyddoedd cyn symud yma. Bu farw yn orfoleddus yn 1875. Rhoddwyd hanes cyflawn am dano eisoes (Cyf. I., tudal. 310).

STEPHEN OWEN

Mab oedd ef i Hugh Owen, a daeth i'r ardal hon yr un amser a'i dad. Neillduwyd yntau yn flaenor yma Medi 1875. Yr oedd wedi ei fagu yn ngeiriau y ffydd, ar aelwyd lle yr oedd crefydd bob amser yn uchaf, a throes allan yn wr dichlynaidd a chrefyddol, a bu yn ffyddlawn i wneuthur yr hyn a allai. Ond torwyd ef i lawr yn ieuanc mewn dyddiau. Bu farw yn niwedd 1876.

David Davies, Ysguborgoch, a fu yn flaenor defnyddiol yn y Pant am dymor. Ymadawodd i fyw i Blaenau Ffestiniog. David Davies, ei fab, hefyd a fu yn gwasanaethu y swydd o flaenor yma hyd nes y symudodd i Minffordd, lle y mae eto wedi ei ddewis i'r swydd. Ar ol colli yr hen flaenoriaid, bu Richard Jones yn flaenor llafurus a gweithgar yn y Pant am flynyddoedd; byddai yn pregethu yn achlysurol, ac yr oedd yn dra gwasanaethgar a defnyddiol gyda'r achos yn ei holl gysylltiadau. Rhyw bum mlynedd yn ol ymfudodd i'r America, ac ar ol myned yno y mae wedi myned i'r weinidogaeth. Bu David Roberts yn gwasanaethu swydd blaenor am dymor. Ac y mae amryw frodyr eraill wedi bod yn dra ffyddlawn, y rhai, ynghyd a holl frodyr a chwiorydd yr eglwys, ydynt yn ddiamheuol yn llafurio gyda gwaith yr Arglwydd. Y blaenoriaid yn bresenol ydynt John Roberts a John Morgan.

Rhoddodd y gweinidogion a fu mewn cysylltiad â Nazareth lawer o'u gwasanaeth yma, sef y Parchn. N. C. Jones, D.D., W. Jones, yn awr o Liverpool, a'r gweinidog presenol, y Parch. E. J. Evans. Bu Mr. Richard Thomas, yn awr y Parch. Richard Thomas, Glynceiriog, yn llafurio yn y Pant yn unig am ychydig amser, a'r Cyfarfod Misol yn rhoddi rhyw gymaint o gynorthwy arianol.

Bu adeg unwaith pan yr oedd y trigolion yn lliosog a'r eglwys yn weithgar, a meddyliwyd am adeiladu capel newydd mewn lle yn uwch i fyny. Ond llesteiriwyd y bwriad hwnw trwy nad oedd rhagolygon am gynydd yn y boblogaeth. Wedi hyn, gwaethygodd masnach, lleihaodd y trigolion, collwyd dynion gweithgar o'r eglwys, a daeth yr achos yn fwy adfeiliedig. Galwyd sylw at y lle nifer mawr o weithiau yn y Cyfarfod Misol y blynyddoedd diweddaf, ac mewn graddau o benbleth, yn methu gwybod pa beth i'w wneyd, tueddid rhai weithiau i roddi yr achos i fyny. Ond y mae yn sicr fod llawer iawn o waith da wedi ei wneuthur yn y Pant, ac er's peth amser, y mae mesur o adfywiad eto ar yr achos. Rhifa y gwrandawyr yn awr 131; yr Ysgol Sul 80; y cymunwyr 76.

Nodiadau[golygu]

  1. Drysorfa, Chwefror 1857; tudal. 63.