Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Penrhyn (Nazareth)
← Pencaergô a Gelligwiailh | Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II gan Robert Owen, Pennal |
Pant → |
PENOD VI.
HANES YR EGLWYSI.
CYNWYSIAD.—Nazareth—Pant—Minffordd—Gorphwysfa—Llan Ffestiniog—Bethesda—Tanygrisiau—Trawsfynydd—Cumprysor —Eden—Maentwrog Uchaf—Llenyrch—Maentwrog Isaf—Llanfrothen—Croesor—Rhiw—Tabernacl—Garegddu—Engedi—Bowydd—Eglwys Saesneg Blaenau Ffestiniog.
Hyd yma, rhoddwyd bras-ddarluniad o agwedd trigolion y parthau hyn yn y cyfnod a ragflaenai y Diwygiad Methodistaidd, ynghyd a'r modd y cymerodd y cyfnewidiad le trwy ymweliad grasol o eiddo yr Arglwydd a'r wlad yn niwedd y ganrif ddiweddaf. Bellach, amcenir dangos dechreuad a chynydd crefydd yn yr eglwysi, o'u sefydliad hyd yr adeg bresenol. Cyfleir hwy, mewn rhan, yn ol eu trefn amseryddol, ac mewn rhan, fel yr oedd y naill eglwys yn ymganghenu o'r llall.
PENRHYN (NAZARETH).
HODDWYD eisoes hanes helaeth am ddechreuad yr achos yn Mhenrhyndeudraeth, yn y bedwaredd benod. Gwelwyd, oddiwrth y ffeithiau a'r hanesion sydd ar gael, fod Methodistiaeth wedi dechreu yn yr ardal hon yn gynt nag un man arall yn Ngorllewin Meirionydd, oddieithr Pandy-y-Ddwyryd. Dyma y lle y gwreiddiodd yr achos, ac y daeth pethau i drefn gyntaf o'r holl eglwysi. Adeiladwyd capel yma yn 1777, deng mlynedd yn gynt na Dolgellau. Ceir crybwylliad am flaenoriaid yr eglwys hon o flaen pob eglwys arall. Nid ydyw yr hanes a roddwyd, pa fodd bynag, yn cyraedd ond yn brin i lawr i ddechreu y ganrif hon. Amcenir yn awr roddi crynhodeb o hanes eglwys Nazareth hyd yn bresenol.
Saif yr hen gapel, yr hwn a gyrhaeddodd y fath enwogrwydd hanesyddol, o fewn ergyd careg i Nazareth, ar y llaw chwith wrth fyned i fyny ato o waelod yr ardal. Mae y muriau, a rhan o'r tô, yn aros eto, oddieithr hyny, y mae wedi myned yn gwbl adfeiliedig. Daeth peth cymorth o'r Dehendir tuag at ei adeiladu. Yr unig symiau a welsom wedi dyfod o Gymdeithasfa y Gogledd ydoedd, 1p. yn 1782, a thrachefn o Sasiwn y Bala, yn 1783, 1p. 10s. Mae bychander y symiau hyn yn profi mai bychan a diaddurn oedd y capel. Nid oedd ond math o gaban, gyda muriau diogel o'i amgylch, a thô clyd uwch ei ben. Cofia un chwaer sydd yn awr yn fyw (Miss Ellin Jones, Tanygrisiau) ei mam yn ei chario i'r cyfarfod eglwysig yn y capel hwn, ac yn ei rhoddi i eistedd ar dwr o frigau gleision mewn cwr o'r neilldu ynddo. Yn y dydd y cedwid y seiat bob amser; ac os deuid a phlant yno, byddai raid eu cuddio ymysg brigau gleision neu yn rhywle arall. Defnyddiwyd yr hen gapel hwn hyd y flwyddyn 1815, pryd yr adeiladwyd capel newydd, mewn lle newydd, sef Bethel, yr hwn a elwid gan yr ardalwyr y capel canol. Ar doriad allan y diwygiad dirwestol, cynyddodd yr Ysgol Sul a'r gynulleidfa yn fawr, fel y bu raid adeiladu capel helaethach eto, yr hyn a wnaed yn y lle y mae y capel presenol, ac agorwyd ef Mehefin 8fed, 1839. Oherwydd fod y brwdaniaeth gyda dirwest mor gryf, galwyd y capel yn Nazareth, gan fod bron yr oll o'r trigolion wedi dyfod, neu yn penderfynu dyfod, yn Nazareaid.
Yr oedd Nazareth, pan yr adeiladwyd ef gyntaf, yn cynwys (er heb ddim gallery) lle i 300 i eistedd yn yr eisteddleoedd. Yr oedd yn un o dri chapel mawr yn y sir y perid cryn lawer o bryder ynghylch eu dyled, sef Trawsfynydd, Ffestiniog, a'r Penrhyn. Yn y flwyddyn 1845, cymerwyd sylw o honynt gan y Cyfarfod Misol. Ceir y penderfyniad a basiwyd ganddo o berthynas iddynt, yn hanes Trawsfynydd. Cynwys y penderfyniad oedd, fod i'r lleoedd hyn gasglu cymaint ag a allent at y ddyled, a byddai i'r Cyfarfod Misol roddi punt ymhen pob punt i'w cyfarfod. Ymgymerodd y cyfeillion â chasglu gyda sel, a thrwy ddeheurwydd Mr. John Davies, yr hwn oedd y pryd hwnw wedi symud i fyw i Borthmadog, cafwyd. 20 o'r aelodau yn y Penrhyn i addaw 5p. yr un. Ac ar ddiwedd y flwyddyn, aeth tri o'r brodyr i'r Abermaw, i'r Cyfarfod Misol, i hysbysu eu bod wedi casglu 160p. Yn gweled fod y swm mor fawr, yr oedd y Cyfarfod Misol bellach mewn penbleth yn methu eu cyfarfod, a chyfodai Mr. Humphreys ei ddwylaw i fyny, gan ddywedyd, "Wfft i bobol y Penrhyn, wfft i bobol y Penrhyn!" A dywedir mai 100p a gawsant, yn lle punt ymhen pob punt. Rhoddwyd gallery ar Nazareth yn 1860. Yn y flwyddyn 1880, drachefn, rhoddwyd front newydd i'r capel, ac adnewyddwyd ef drwyddo, fel y mae yn awr yn un o'r capelau harddaf a mwyaf cysurus yn y cwmpasoedd. Aeth y draul gydag ef y tro diweddaf hwn yn 1200p. Yr oedd y gangen i Gorphwysfa newydd ymadael o Nazareth pan yr anturiwyd ar y gorchwyl. Bu cynulleidfa Nazareth yn addoli mewn pabell gerllaw, tra buwyd yn adeiladu, ac y mae yma lawer o son hyd heddyw am yr amser difyr a dreuliwyd yn y babell. Daeth amryw i wrando nad oeddynt yn arfer dyfod i'r capel, ac y mae y rhai hyny yn aelodau er's blynyddoedd bellach. Y personau fu a'r llaw benaf gyda'r adeiladu y tro diweddaf oeddynt, y gweinidog a'r blaenoriaid ar y pryd. Tuag at dalu y ddyled, fisol yn yr Ysgol Sabbothol. Yr oedd y casgliadau cesglir yn hyn y blynyddoedd cyntaf o 8p. i 10p. yn y mis. Hefyd, rhoddid yr elw a dderbynid oddiwrth y cyfarfodydd llenyddol blynyddol i'r un amcan, a bydd hwn yn amrywio o 15p. i 25p. yn flynyddol. Heblaw hyn, yr ydys er's tair blynedd yn casglu ar y dydd diolchgarwch,—casglwyd y llynedd (1889) yn agos i 40p. felly. A gwneir ychydig gyda'r Gymdeithas Arianol.
Rhoddodd hen grefyddwyr y Penrhyn eu gwyneb i'r Ysgol Sabbothol gyda'r rhai cyntaf yn y rhan yma o'r sir. Bernir iddi gael ei chychwyn mewn hen dŷ yn y Pant (yr hwn, erbyn hyn, sydd wedi ei chwalu), yn y flwyddyn 1790. Ei diben ar y cyntaf oedd cael y plant ynghyd rhag halogi dydd yr Arglwydd. Yr oedd y pechod hwn yn uchel ei ben yma ar y pryd. Y ddau a gafodd yr anrhydedd o'i chychwyn oeddynt Evan Thomas, gwehydd, a Dafydd Sion James. Ymhen amser, gosodwyd y cyntaf, yr hwn oedd ŵr dengar a goleuedig, yn arolygwr, neu yn hytrach yn flaenor yr ysgol, a'r olaf i ofalu am y canu. Er fod capel wedi ei adeiladu er's 13eg o flynyddoedd, ni ystyrid yr ysgol ar y dechreu yn ddigon teilwng a chysegredig i gael ei chadw ynddo. Gan y gwelid fod llwyddiant yn ei dilyn, rhoddodd Robert Morris, Joiner, Robert Sion Ismael, a William Ismael eu cynorthwy iddi. Cafodd yr ysgol cyn hir, modd bynag, ddyfod i'r capel, a hysbysir mai ei rhif y pryd hyny oedd 25. Yn y flwyddyn 1807, yr oedd y nifer yn 50, a golwg siriol ar y gwaith; ac erbyn agor yr ail gapel, sef Bethel, yn 1815, yr oedd yn rhifo 112. Gŵr a gymerodd ran flaenllaw gyda hi yn Bethel ydoedd John Williams, Plasnewydd. Bu yn arweinydd gweithgar yn yr ysgol am dymor lled faith, hyd nes y symudodd i Gonwy, lle y terfynodd ei oes yn wasanaethgar gyda theyrnas y Gwaredwr. Un arall hynod ffyddlon gyda dysgu plant bach ydoedd William Edwards, Caegwyn. William Llwyd, Meusyddllydain, hefyd fu Yn llafurus iawn, ac yn un o'r rhai mwyaf llwyddianus i hel rhai i'r ysgol. Byddai yn myned o gwmpas y tai awr cyn y dechreu, a byddai ei arswyd ar y mwyaf anystyriol, ac ni omeddai neb ufuddhau iddo. Oherwydd ei weithgarwch gyda hyn, galwyd ef "y cenhadwr cartrefol.' Disgynodd yr arweiniad wedi hyn ar Mr. John Davies, Pentrwyn-y-garnedd, er nad oedd ond ieuanc ar y pryd. Cyfarfyddwn âg enw y gŵr hwn yn fynych, fel un a fu yn dra gwasanaethgar i'r achos ymhob cysylltiad. Erbyn 1831, rhifai yr ysgol dros ddau gant. Ceir ychwaneg o'i hanes gan Mr. David Evans, Brynhyfryd, yn ei Adroddiad gyda chyfrifon yr Ysgolion am 1867, ac yn Nhraethawd Can'mlwyddiant Mr. David Richard, Penlan.
Y mae cyfarfod pregethu blynyddol yn cael ei gynal yn Nazareth, yn mis Mehefin, yr hwn yr edrychir arno fel sefydliad arhosol, a'r hwn yn lled debyg yw yr hynaf o'r cyfryw yn Nghymru. Dechreuwyd ei gadw, fel y tybir, gan y fintai a elai o Sir Gaernarfon i Gymdeithasfa y Bala. Cymerid mantais o'r achlysur o fynediad y pregethwyr a'r tyrfaoedd trwodd, i'w gadw ar yr adeg hono o'r flwyddyn. Yn hanes mintai a elai o'r Waenfawr i'r Bala, yn y flwyddyn 1806, ceir y cofnodiad canlynol am danynt yn galw heibio yma ar eu ffordd, "Aethom o'r lle hwn (Beddgelert) i'r Penrhyndeudraeth, lle yr oedd cyfarfod pregethu ddydd Llun am ddeg a dau o'r gloch. Yr oedd yma liaws mawr o ddieithriaid, heblaw nyni, wedi dyfod o Eifionydd a Lleyn, a'r athrawiaeth yn hynod nerthol a llewyrchus, a llawer yn tori allan ar y diwedd i ganmol Duw ac i orfoleddu." Yr oedd hyn yn yr hen gapel cyntaf, yr hwn sydd yn awr yn furddyn. Rywbryd wedi i Mr. John Davies symud i fyw i Borthmadog, yr hyn oedd heb fod ymhell o'r amser y diddymwyd Sasiwn flynyddol y Bala, meddyliodd rhywrai am ddiddymu y cyfarfod dechreu yr haf, fel y gelwir ef yn yr ardal, a dygwyd cynygiad ymlaen yn gyhoeddus na byddai yr un cyfarfod o'r fath mwyach. Ond cyfododd W. Ellis, yr hen flaenor selog, ar ei draed a dywedodd, "Mi fydd yma gyfarfod dechreu haf eto yn ei amser, can sicred i chwi a bod craig yn y Briwat."[1] Aeth yr hen flaenor ar ei godiad boreu dranoeth i Borthmadog at John Davies, a dywedai wrtho, "Rhaid i ti ddyfod acw, nos Fercher nesaf, mae nhw wedi gwneyd i ffwrdd a'n hen gyfarfod ni am byth, wel di." "O'r goreu, mi a ddeuaf acw," ebe John Davies. Felly fu, a thrwy ei ddylanwad ef, penderfynwyd iddo gael ei gynal fel cynt. Ac mae y cyfarfod blynyddol hwn wedi ei gadw ar ddechreu haf yn ddifwlch, oddieithr un flwyddyn, sef adeg adgyweiriad y capel, er's 112 o flynyddoedd.
Megis y crybwyllwyd, yr oedd y sel a'r brwdfrydedd gyda Dirwest yma, ar doriad allan y Diwygiad, yn gryfach nag odid fan yn y wlad. Fel hyn y dywedir yn Y Diwygiad Dirwestol, gan y Parch. J. Thomas, D.D., Liverpool, tudalen 95:— "Tachwedd 28ain (1836), cynhaliwyd cyfarfod yn Mhenrhyndeudraeth, pryd yr areithiodd y Parchn. R. Humphreys, Dyffryn, a D. Charles, B.A., Bala, ac ardystiodd 215. Parhaodd i gynyddu, fel erbyn Llun y Pasg, 1838, pan gadwyd gwyl nodedig, yr oedd eu rhif yn 900, pan nad oedd rhif y trigolion ond 1000; ac yr oedd rhif y tafarnau wedi eu tynu i lawer o chwech i ddwy, ac nid oedd elw y cyfryw ond bychan iawn."
Yn hanes eglwys hynafol y Penrhyn, ceir lliaws o engreifftiau o hen gymeriadau tra hynod, ac esiamplau nid ychydig o ddull nodweddiadol yr hen Fethodistiaid o gario yr achos ymlaen, ac yn neillduol eu ffordd blaen, ddirodres, a didderbynwyneb gyda'r ddisgyblaeth eglwysig. Mae enw Catherine Griffith yn adnabyddus, fel un o wragedd hynotaf yr oes o'r blaen. Parhaodd hi i "gadw tŷ capel" yn hir, a pharhaodd yn isel ei hamgylchiadau hefyd ar hyd ei oes. Byddai cynifer o bregethwyr yn galw heibio y Penrhyn yn ei hoes hi, fel y gosodid hi dan orfodaeth yn fynych i redeg i dŷ cymydog i ymofyn benthyg torth ac ymenyn, ac arferai y cymydog hwnw ddweyd y byddai y dorth a'r ymenyn yn d'od yn ol heb fyn'd ddim llai. Daeth John Elias heibio unwaith ar ddamwain, a Chatherine Griffith a ddywedai, "Wel, John bach, beth a wnaf fi? 'does gen i ddim byd ellwch chwi fwyta." "Catherine bach," ebe yntau, "oes genych chwi ddim bara ceirch?" "Oes." "Wel, nid oes dim yn well gen i na shot." Perthynai amryw o hen grefyddwyr Llanfrothen i'r eglwys hon yn yr amser cyntaf, am y rhai y crybwyllir ynglyn â'r eglwys yno. O'r ddwy neu dair sydd eto yn fyw, ac yn cofio addoli yn yr hen gapel, un ydyw Alice Llwyd, yn awr o Borthmadog, yr hon sydd yn Fethodist o'r Methodistiaid, a'r hon fu yn cerdded i Sasiwn y Bala yn ddigoll am ryw gymaint dros ugain mlynedd. Eisteddai hi pan yn ddeg oed, o'r tuallan i'r Hen Gapel yn disgwyl ei nain o'r seiat. Daeth Ellin Thomas, Lluudain, sef gwraig Dafydd Siôn James, allan a gwelodd hi yno, ac wedi deall ei neges, dywedodd, "Dylaset tithau fod yn y seiat," a dyna y tro cyntaf iddi feddwl am ymuno, a glynodd y gair yn ei meddwl nes cael ei hun yn aelod.
Yr oedd yr Ellin Thomas uchod yn sefyll a'i phwys a'r glawdd mynwent Nazareth un tro, yn nghwmni hen ferch grefyddol iawn, o'r enw Siân Thomas, tra yr oedd claddedigaeth dyn pur annuwiol yn cymeryd lle, ac meddai, "Yn eno dyn, y mae nhw yn hel pob siort i'r fan yma." "Na hidia, Neli bach," meddai y llall, "fe gawn ni godi o'u blaen nhw." Hen ŵr hynod grefyddol oedd John Pritchard, Hafodymynydd. Yr oedd pregethwr o'r Deheudir yn yr hen gapel (bernir mai Edward Goslett ydoedd), ar ddiwrnod gwaith; a'i destyn neu ei fater ydoedd, "Yr arch yn ol y portread," a chafodd odfa anarferol, llawer yn gorfoleddu, ac yn eu mysg yr hen ŵr a enwyd. Ar ei ffordd adref, gwelodd Iwdn dafad iddo yn un o erddi y gymydogaeth, daliodd a rhwymodd ef, a chariodd ef tuag adref ar ei gefn. Ond llawer gwaith cyn cyraedd adref yr oedd yn myned i hwyl, ac yn rhoddi y llwdn i lawr, ac yn neidio mewn gorfoledd o'i gwmpas, gan ddiolch am "Iesu Grist yn Arch yn ol y portread,"—a bu ef a'r llwdn dafad am oriau cyn cyraedd adref.
Bu yma hen ferch hynod o selog a ffyddlawn, o'r enw Sioned Sion Daniel. Ni chollai yr un moddion o râs, os byddai yn weddol iach. Yr oedd yn nodedig o ffyddlawn i gerdded i Sasiwn y Bala; a phob tro yr elai yno, dodai gareg o Lyn y Bala yn ei phoced, i gadw cyfrif o'r troion y bu yno, a phan fu farw yr oedd ganddi 28 o'r cerig hyn.
Adroddir yn fynych yr hanesyn canlynol am y ddau hen flaenor, Robert Ellis ac Ellis Humphrey, yn yınddiddan â'u gilydd ar ol pregeth effeithiol iawn gan Edward Goslett. Gofynai Robert Ellis i Ellis Humphrey, "Faint rown ni iddo fo, dywed?" 'Wel," meddai y llall, "yr un faint, debyg gen i." "Na, yn wir," meddai Robert Ellis, "mi fentra i roi 6c. (8c. medd rhai, sef mwy o 2c. nag arfer) iddo fo, doed a ddelo." "Wel, edrych di ati hi," meddai Ellis Humphrey, "rhag gwneyd drwg i ti dy hun, a niwed i'r achos." A mentro felly a wnaeth.
Yr oedd yn arferiad yn yr hen amser, i fyned i'r Ceunant (tafarndy o fri) i gyrchu diod i'r llefarwyr. Ac yr oedd y bill am y ddiod, un adeg, wedi rhedeg yn swm pur fawr, a bygythiai y tafarnwr roddi yr achos yn y Penrhyn yn y jail. "Na," ebe gwraig y Tyddynisaf, "nid aiff achos Iesu Grist ddim i'r jail, mi rof fi haner gini i'w gadw rhag myned yno." Diolchodd yr hen flaenoriaid lawer am y waredigaeth hon, rhag i achos yr Arglwydd fyned i "Gwrt Bangor." Yn ddiweddarach na hyn, yr oedd ganddynt le yma yn ymyl y capel, pwrpasol i ddarllaw, yn enwedig ar gyfer pob cyfarfod mawr a chyhoeddus. Ond arferai Richard Jones, y Wern, ddweyd, flynyddoedd cyn i ddirwest ddyfod i'r wlad, "Nid peth fel hyn sydd i fod yn nhŷ y capel; Bibl a choncordance ddylent gael eu darparu ar gyfer y pregethwr."
Yr oedd chwaer wedi ei diarddel o'r eglwys unwaith, ac nid ymostyngai i'r ddisgyblaeth. Daeth i'r seiat y tro cyntaf wedi ei thori allan, ac ar un cyfrif ni ufuddhai i'r swyddogion i fyned allan. Rhoddwyd dau frawd i wylio y drysau erbyn y tro wed'yn, er ei rhwystro i ddyfod i mewn. A bu y wyliadwriaeth yma mewn gweithrediad am amryw wythnosau. Ond un noswaith, pa fodd bynag, cafodd y chwaer anufudd gyfle i redeg y gwarchae, ac i mewn a hi, gan benderfynu mynu buddugoliaeth. Yr oedd y cyfarfod hwn ar nos Sadwrn, a Lewis William, Llanfachreth, wedi dyfod yno at ei gyhoeddiad y Sabbath; a'r peth cyntaf a roddwyd o'i flaen oedd achos y chwaer dan sylw. Adroddwyd iddo yr hanes, a chododd yntau ar ei draed a dywedodd, "Od oes neb a fyn fod yn ymrysongar, nid oes genym ni gyfryw ddefod, na chan eglwysi Duw.' Yn awr, yr ydych chwi, Ann bach, wedi myned i ymryson âg eglwys Dduw—yr ydych wedi tynu mwy na'ch match yn eich pen. Gan hyny, y cyngor goreu a fedraf fi ei roi i chwi ydyw, rhoddi eich arfau i lawr mewn pryd, a myned allan o ufudd-dod i Dduw a'i bobl." Ac, er syndod i bawb yn y lle, cododd ac aeth allan, ac ni flinodd yr eglwys mwy.
Bryd arall, yr oedd y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, yma yn disgyblu rhyw berson, a chafwyd y person yn euog. Rhoddwyd gorchymyn iddo fyned allan yn union wedi i'r ddedfryd gael ei chyhoeddi. Ond nid ai y dyn ddim allan, ond ymaflai yn gadarn am un o'r colofnau. "Ewch a'r dyn allan," ebai Robert Griffith. "Mi âf fi ag ef allan," atebai G. P., y blaenor, gan neidio allan ar unwaith o'r sêt fawr. Ac ymladdfa lled arw a fu rhwng y swyddog a'r diarddeledig oddiwrth y golofn at y drws. Bu raid rhoddi gwarchae i gadw y drws y tro hwn hefyd.
Bu disgyblaeth hynod arall ar ferch ddibriod, yr hon oedd wedi addaw priodi dau berson yr un adeg. Y ddau flaenor, Ellis Humphrey a Robert Ellis oedd yn disgyblu y tro hwn fel arfer. Cyfodai Ellis Humphrey ar ei draed gyda bod y cyfarfod eglwysig wedi dechreu, a dywedai, "Y mae hon a hon (gan ei henwi wrth ei henw) yma heno, ac y mae yn galw am ddisgyblaeth. Be wnawn ni iddi hi? Y mae hi wedi addo priodi dau; glywaist ti?" ebai wrth ei gyd-flaenor. "Mi glywais ben gair," ebai Robert Ellis. "Dear me," ebai Ellis Humphrey, drachefn, "priodi dau, priodi dau! Mae priodi un yn beth mawr; dear me, priodi dau! Beth wnawn ni iddi hi?" "Torwch hi allan i'w chrogi," ebai Dafydd Sion James. "Ie, mae hynyna yn air mawr hefyd," ebe R. E. "Hon a hon," dywedai drachefn, "gwell i chwi fyned allan." A dyna y ddisgyblaeth drosodd.
Byddai ymrafaelion beunydd yn eglwys y Penrhyn; yn gymaint felly nes yr oedd wedi enill y cymeriad o fod yn eglwys gwerylgar. Richard Jones, y Wern, a anfonid dros y Cyfarfod Misol y rhan fynychaf i wastadhau y cwerylon yn eu plith. Cyfodai y cyfryw gwerylon gan mwyaf o bethau bach iawn. Wrth drin rhyw achos o'r fath yno ryw dro, dywedai Richard Jones, "Fe welsoch y brain yn crawcian, a'r piogod yn ysgrechian ac yn neidio trwy eu gilydd ar ochr y ffos, uwchben eu hysglyfaeth; gallech feddwl mai tarw oedd y gelain y gwnaent gymaint o dwrw uwch ei ben, ond nid oedd yno wedi'r cwbl ddim ond twrch daear wedi trigo." Dywediad y Parch. Richard Humphreys am danynt ydoedd, "Mae pobl y Penrhyn yn debyg iawn i ŵr a gwraig yn y Dyffryn acw, y maent yn ffraeo bob amser, ond ganddynt hwy y mae mwyaf o blant wedy'n. Felly y maent yn y Penrhyn, er yr holl ffraeo sydd yno, mae rhywrai yn dyfod atynt i'r seiat yn fynych."
Y BLAENORIAID.
ELLIS HUMPHREYS.
John Pritchard, Hafod-y-mynydd, ac un arall na cheir ei enw, oedd y ddau flaenor cyntaf, am y rhai y ceir crybwylliad yn mhenod y bedwaredd. E. H. oedd yr agosaf atynt. Bu ef yn flaenor uwchlaw haner can' mlynedd. Bu farw Mai 14, 1832, yn 89 mlwydd oed. Yr oedd yn y swydd ymhen blwyddyn neu ddwy ar ol adeiladu y capel cyntaf. Treuliodd ddechreu ei oes mewn oferedd, a rhyw bum' mlynedd cyn ei osod yn flaenor y daethai at grefydd. Y noson yr aeth i'r seiat at yr ychydig grefyddwyr, dechreuodd erledigaeth chwerw arno oddiwrth ei deulu ei hun. Ei wraig, wedi iddo gyraedd adref oedd yn wylo o ddigllonedd, gan waeddi yn ei wyneb, "ei fod wedi ei gadael hi am byth, ac mai hyny oedd ei unig ddiben pan feddyliodd am fyned i'r fath le; ïe, ei fod wedi anmharchu ei hun am byth." Un o'i ferched hefyd a ddywedodd "y buasai yn well ganddi ei fod yn euog o ladrata, fel y buasai raid ei garcharu, i'r diben o'i rwystro i'r seiat anmharchus!" Dengys hyn mor gryf ydoedd erledigaeth yn y Penrhyn yn ei amser ef. Ond enillwyd ei deulu at grefydd yn fuan, a bu Ellis Humphreys yn flaenor llafurus a hynod o barchus. Ei air cyffredin pan yr elai i'r llawr i ofyn profiad yn y cyfarfod eglwysig ydoedd, "Wyt ti mewn rhyfel â dy lygredigaethau?"
ROBERT ELLIS.
Daeth at grefydd yn ugain oed, a bu yn flaenor am yr un tymor âg Ellis Humphreys. Yntau a fu farw ymhen chwech wythnos ar ol ei gyd-filwr, sef Mehefin 24, 1832, yn 77 mlwydd oed. Yr oedd ef yn ŵr pwyllog, yn meddu barn dda, a dylanwad mawr. Efe oedd yr hwn a roddodd yr atebiad cyrhaeddgar ynghylch cariad brawdol yn y Penrhyn. Gofynai pregethwr am yr achos yn y lle, "Oes yma gariad brawdol yn eich plith chwi?" "Oes," ebai Robert Ellis, "mae yma barseli o hono," gan olygu fod yr eglwys wedi myned yn llawer o ranau—rhan fan yma a rhan fan acw yn caru eu gilydd, ac heb garu neb arall. Efe fyddai yn myned i'r Cymanfaoedd a'r Cyfarfodydd Misol i ymofyn cyhoeddiadau, ac efe oedd bngail yr eglwys, i rybuddio yr afreolus, ac i ddiddanu y gwan eu meddwl. Y ddau flaenor hyn oeddynt wroniaid gyda'r achos yn eu hoes.
ROBERT WILLIAMS, HENDREHENYD,
Oedd wr da a chrefyddol, a blaenor ffyddlon. Bu o wasanaeth mawr i achos crefydd dros ei oes. Ni chafwyd yr amser y bu ef yn y swydd.
JOHN PETER, MINFFORDD.
Ni bu ef yn y swydd yn hir.
WILLIAM ELLIS, TYUCHAF.
Bu farw Chwefror 22ain, 1858, yn 79 mlwydd oed, wedi bod yn flaenor am 26 mlynedd. Yr oedd yn llawn sêl gyda phob achos da, yn arbenig Dirwest, a chyfarfodydd gweddi; rhagorai ar lawer am gael pob trefniadau, a phobpeth yr achos yn eu hamser ac mewn trefn. Cyfrifid ef yn flaenor o radd dda.
GRIFFITH PARRY, TYCEFN.
Bu farw Medi 14eg, 1858, yn 66 mlwydd oed, yntau hefyd wedi bod yn flaenor am 26 mlynedd. Dyn penderfynol, dirodres, a phlaen, yn cymeryd pwyll gyda materion eglwysig, ac yn bur sicr o siarad i bwrpas ar bob mater. Gŵr mawr yn Israel oedd efe. Bu y ddau hyn, a ddewiswyd gyda'u gilydd, ac a fuont feirw yr un flwyddyn, yn cyd-dynu yn rhagorol gyda'r achos am dymor maith.
JOHN DAVIES, PORTHMADOG.
Bu farw Mehefin 8fed, 1855, yn 53 mlwydd oed, wedi bod yn flaenor am 23 mlynedd. Symudodd ef i Borthmadog yn 1843, ond arferai dros rai blynyddoedd ddyfod yma i'r cyfarfod eglwysig, gan y teimlai ymlyniad mawr wrth yr achos yn y lle. Daeth yn golofn dan yr achos pan yn ddyn lled ieuanc.
Gwnaeth wasanaeth mawr gyda'r Ysgol Sul, a chyda chyfrifon, a holl drefniadau yr eglwys. Yr oedd yn ŵr hynod o ddeheuig gyda phob peth. Efe oedd man of business yr eglwys, a bu colled fawr ar ei ol.
THOMAS PRITCHARD.
Bu farw Chwefror 15fed, 1866, yn 66 mlwydd oed, wedi bod yn flaenor am 18 mlynedd. Goruchwyliwr oedd efe ar ffordd haiarn Ffestiniog a Phorthmadog, ac yr oedd yn meddu. cymhwysderau arbenig i arolygu y gwaith yn ei holl gysylltiadau. Meddai gymeriad disglaer, a safai yn uchel yn nghyfrif pawb a'i hadwaenai, fel Cristion ac fel swyddog eglwysig. Trwy ei gywirdeb a'i symlrwydd, enillodd ymddiried a pharch yn yr eglwys. Mab iddo ef ydyw Mr. T. Lloyd Pritchard, Brithwernydd.
Derbyniwyd pedwar eraill yr un adeg a'r diweddaf, yn Nghyfarfod Misol Rhagfyr, 1848.--Evan Lloyd, yr hwn oedd yn dra defnyddiol, ac yn llawn bywyd a gweithgarwch gyda'r achos yma, hyd nes y symudodd i Minffordd, pan sefydlwyd eglwys yno. David Williams, yr hwn sydd er's blynyddoedd wedi ymadael i'r Eglwys Sefydledig. A Thomas Jones, Penygraig, a Henry Owen (yn awr yn station master), a ddewiswyd yn flaenoriaid y môr, fel eu gelwid, oblegid capteniaid oedd y ddau.
JOHN WILLIAMS, YSGOLFEISTR.
A ddewiswyd yn flaenor yn 1859. Symudodd yn 1864 i Borthmadog, ac oddiyno i Dremadog, lle hefyd yr oedd yn swyddog. Bu farw yn 1885. Brawd ydoedd ef i'r Parch. David Williams, Tremadog.
DANIEL ROWLANDS.
A ddewiswyd yn 1862. Bu yn y swydd am 18 mlynedd. Ymadawodd â'r byd Mawrth 5ed, 1880, yn 82 mlwydd oed. Dyn plaen, a chrefyddwr cydwybodol, yn tueddu yn ei ddull at arferion yr hen bobl. Yn y diwygiad, ugain mlynedd cyn ei farw, cafodd ei drwytho mewn crefydd, yn enwedig mewn ysbryd gweddi.
ELLIS ROBERTS.
Yr oedd efe yn swyddog yn Bethania, Beddgelert, i ddechreu. Symudodd i'r Penrhyn i fyw, a dewiswyd ef yn swyddog yn Nazareth yn 1880. Parhaodd yn ei swydd hyd ei farwolaeth yn nechreu 1888. Yr oedd yn ŵr rhadlawn, yn Gristion da, ac yn swyddog ffyddlawn.
ROBERT WILLIAMS.
Neillduwyd ef yn flaenor Tachwedd, 1885; bu farw Mai 31ain, 1890. Yr oedd yn ddyn cywir, gonest, a chydwybodol yn ei holl gysylltiadau; yn ddarllenwr cyson, ac yn ŵr o farn. Dioddefodd gystudd yn dawel, a bu farw yn hyderus. Bu yma eraill yn gwasanaethu y swydd, ond a symudasant yn ystod eu bywyd, o ba rai y mae amryw yn fyw eto. Mr. Hugh Jones, Bryngwilym, a ddewiswyd yn flaenor yn 1866, ac a fu o wasanaeth mawr i'r achos am dros ugain mlynedd, hyd oni symudodd o'r ardal i fyw. Robert Williams, Bryntirion, a ddewiswyd yr un adeg, ac a symudodd i Minffordd. John Williams, High Street, yr hwn a symudodd gyda'r eglwys i Gorphwysfa. Mr. Hughes, Post Office, hefyd a symudodd i Gorphwysfa. Mri. O. Owen, a H. J. Hughes a symudasant o Dalsarnau yn 1873, ac a ddewiswyd yn swyddogion yma yr un flwyddyn. Ymadawsant hwythau hefyd, gyda'r eglwys i Gorphwysfa.
Y blaenoriaid yn awr ydynt-Mri. Henry Owen, T. Lloyd Pritchard (er 1880), a Thomas Williams (er 1885).
Y PARCH. DANIEL EVANS.
Y mae enw Daniel Evans wedi bod yn hysbys yn Sir Feirionydd, er yn gynar yn y ganrif bresenol. Gweddus, gan hyny, ydyw rhoddi braslinelliad o'i hanes mewn cysylltiad â'r eglwys y bu yn ei gwasanaethu mor hir. Brodor ydoedd o Langower, ger y Bala. Ganwyd ef Awst 20fed, 1788. Yr oodd ei rieni yn aelodau eglwysig gyda'r Annibynwyr. Ond trwy ryw gysylltiad neu gilydd, ymunodd ef âg eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn y Bala, pan yn un ar bymtheg oed. Yn yr ugeinfed flwyddyn o'i oedran, dechreuodd gadw ysgol o dan Mr. Charles, a thrwy ei arolygiaeth ef. Wedi bod yn myned ar gylch gyda'r gorchwyl hwnw, yn y flwyddyn 1813 y daeth gyntaf i Penrhyndeudraeth i gadw ysgol. Bu ei lafur yn fendithiol iawn gyda'r plant. Enillodd eu serch yn gymaint, fel yr oeddynt oll yn wylo wrth iddo ymadael, ac aeth yntau i wylo i'w canlyn: ac mewn dagrau y torwyd yr ysgol i fyny. Yn y Penrhyn y dechreuodd bregethu, yn y flwyddyn 1814, a hyny yn bur ddiseremoni. Un nos Sabbath, wedi iddo ef fyned i'r cyfarfod gweddi, daeth y ddau hen flaenor, Ellis Humphreys a Robert Ellis, ato, a dywedasant,- "Mae yn rhaid i ti bregethu i ni heno, Daniel." Cafodd gryn dipyn o hwyl y tro cyntaf, a thorodd allan yn orfoledd. Ar y diwedd, cyfododd Ellis Humphreys i gyhoeddi, a'r peth cyntaf a ddywedodd oedd, "Bydd Daniel yn pregethu yma eto y Sabbath nesaf." Yr oedd yn dda iawn ganddo, yn ol ei dystiolaeth ei hun, glywed yr hen flaenor yn ei gyhoeddi. Bu yn ddiwyd ar hyd yr wythnos yn parotoi; ac erbyn nos Sadwrn, yr oedd yn tybio fod y bregeth wedi ei gorphen. Wedi cymeryd ei destyn y tro hwn, modd bynag, a gwneuthur ychydig o ragymadrodd, collodd y cyfan, ac aeth yn hollol dywyll arno, ac nid oedd dim i'w wneyd ond gofyn gyda llais crynedig i'r blaenoriaid enwi rhai o'r brodyr i fyned i weddi. Aeth yntau yn syth o'r capel i'w wely. "Dyna y tro mwyaf bendithiol i mi," arferai ddweyd, "o holl ddigwyddiadau fy mywyd." Bu am dymor byr yn yr Ysgol yn Ngwrecsam, gyda y Parch. John Hughes, yr un adeg & Dafydd Rolant, y Bala. Ar ol hyny aeth i'r Dyffryn i gadw ysgol yr ail waith. Tra yno y tro hwn aeth i'r stad briodasol, a Mr. Humphreys oedd ei was priodas. Trwy ei briodas aeth i drigianu i Benycerig, ger Harlech, ac ymhen amser i dŷ y capel yn yr un lle. Ac wrth yr enw Daniel Evans, Harlech, yr adnabyddid ef fynychaf yn ystod ei fywyd. Symudodd oddiyno i'r Penrhyn, i gadw shop; ac yma y treuliodd yr ugain mlynedd olaf ei oes. Yn yr hen lyfrau gwelir fod rhyw fath o gysylltiad rhyngddo â'r eglwys yma ryw ddeng mlynedd cyn ei farw, gan ei fod yn derbyn swm bychan o gydnabyddiaeth am ei lafur. Treuliodd lawer o fore a chanol ei oes gyda Chyfarfodydd Ysgolion Dosbarth y Dyffryn. O 1840 i 1846 bu yn ysgrifenydd Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd. Safai yn uchel yn y sir fel gŵr tra chrefyddol, pwyllog, a doeth, ac yr oedd yn anwyl iawn gan y saint yn gyffredinol. Bu yn dilyn ac yn lled flaenllaw gyda phrif symudiadau yr achos ar hyd ei fywyd. Nid oedd yn nerthol na grymus yn ei weinidogaeth. Yn hytrach, arafaidd a thyner fyddai yn wastadol, fel y gwlith, ac nid fel y gwlaw mawr. Bu yn llesg a methedig yn niwedd ei oes. Yn yr adeg hon yr oedd ar brydiau yn llwfr ac ofnus. Un diwrnod dywedai wrth ei briod, "Mae arnaf ofn fy nghrefydd, Margaret fach; ac yr wyf yn ofni mai yn uffern y byddaf wedi'r cwbl." Trodd ei briod arno, a dywedodd mewn tôn geryddol, "Sut na bae arnoch chwi gywilydd, Daniel Evans, wedi crefydda ar hyd eich oes, ac yn y diwedd yn ofni eich crefydd Hen weinidog fel chwi yn ofni nad oes genych ddim crefydd, ac mai i uffern yr ewch! I uffern yn wir ! beth a wnewch chwi yn y fan hono? Pe baech chwi yn myn'd yno, mi'ch ciciai rhyw gythraul chwi oddiyno yn bur fuan, 'rwy'n siwr o hyny." Gwnaeth y wers hon les iddo. Bu yr hen weinidog farw mewn tangnefedd. Ar ei fedd-faen, o flaen capel Nazareth, mae yr hyn a ganlyn yn gerfiedig,- "Er côf am y Parch. Daniel Evans, Penrhyn, yr hwn a fu farw Tachwedd 7, 1868, yn 80 mlwydd oed."
Y pregethwyr a gyfododd yn yr eglwys hon hyd y mae yn wybyddus ydynt, y Parch. David Evans, M.A., yn awr o'r Abermaw; y Parch. Richard Thomas, sydd yn awr yn weinidog yn Glyn Ceiriog, yr hwn a ddechreuodd ar ei flwyddyn brawf, Mai 1880; y Parch. Daniel Evans Jones, wŷr i'r hen weinidog Daniel Evans, sydd yn awr yn America dechreuodd ei flwyddyn brawf Chwefror, 1884. Bu y Parch. Thomas Williams, gŵr a ddaeth yma o Sir Benfro, yn byw yn yr ardal am bump neu chwe' blynedd. Bu farw yn nechreu 1875. Yr oedd yn ŵr serchog ac yn bregethwr cymeradwy.
Bu y Parch. N. Cynhafal Jones, D.D., mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r eglwys o ddechreu 1867 hyd 1875, pryd y symudodd i Lanidloes. Wedi hyny y Parch. William Jones, Penmachno, o ddiwedd 1875 hyd ddiwedd 1885, pryd y symudodd i Liverpool. Yn Ionawr 1887, symudodd y Parch. D. Davies, Abermaw, yma i fyw. Bu farw yn hynod o sydyn ymhen ychydig wythnosau. Y gweinidog presenol ydyw y Parch. E. J. Evans, yr hwn a ymsefydlodd yma Ionawr 1889.
Yr eglwys hon oedd un o'r rhai cyntaf yn y Sir i gyfodi tŷ i'r gweinidog fyw ynddo. Adeiladwyd ef yn y flwyddyn 1868, ac y mae yn dy da a chyfleus.
Nifer y gwrandawyr, 425; cymunwyr, 263; Ysgol Sabbothol, 250.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Lle creigiog ar lan y môr.