Hanes y Bibl Cymraeg/Cymru Cyn Cael Bibl Argraphedig

Oddi ar Wicidestun
Casgliad Llyfrau Y Bibl Hanes y Bibl Cymraeg

gan Thomas Levi

Testament Salesbury

PENNOD III.

CYMRU CYN CAEL BIBL ARGRAPHEDIG.

CAFODD Cymru ei breintio â'r Efengyl yn fore. Tybia llawer i Joseph o Arimathea fod yn y wlad hon yn pregethu. Dywedir hefyd mai Lucius (Lles ap Coel), Brenin y Brytaniaid, oedd y brenin Cristionogol cyntaf yn yr holl fyd; ac iddo anfon at Eleutherius, Esgob Rhufain, i ddymuno arno anfon dysgawdwyr Cristionogol i Brydain, fel y gallai ei ddeiliaid glywed y newyddion da o lawenydd mawr am y Ceidwad—Crist yr Arglwydd.

Mewn atebiad i'r cais, anfonwyd Dyfan a Ffagan yma, yn y flwyddyn 180. Tua dau gant a haner o flynyddau wedi hyn (430) daeth Garmon a Lupus yma, o Ffrainc, i wrthwynebu cyfeiliornadau Pelagius. Yn 540 daeth Awstin Fynach drosodd i Loegr. Daliodd yr Efengyl ei thir yn rhyfeddol o dda yn Nghymru hyd y ddeuddegfed ganrif, pan osodwyd iau haiarn Pabyddiaeth arni, ac yr amddifadwyd hi o'i llyfrau. Gwnaed cyfraith yn y flwyddyn 1400, gan Harri IV., i atal i un Cymro ddysgu ar lyfr, a chadwyd hi mewn grym am ddigon o amser i'r wlad golli ei chwaeth at ddarllen, fel y bu argraphu yn y byd yn hir heb i'r Cymry fod yn well o hyny.

Mae profion diammheuol fod rhanau o'r Bibl, os nad yr holl Fibl, gan y Cymry, mewn ysgrif-lyfrau yn ystod y cyfnod hwn. Cyfieithodd TALIESIN, bardd enwog o ymyl Llanrwst, yr hwn oedd yn ei flodau ei flodau yn 540, pan ddaeth Awstin Fynach i Brydain, ranau o'r Bibl. Math o arall-eiriad barddonol ydoedd o "Ddeg pla poeni yr Aipht," "Llath Foesen," neu wialen Moses, ac ychydig am Dduw a Christ.

Cyfieithwyd rhanau o'r Bibl hefyd gan DAFYDD DDU o Hiraddug, bardd cyfrifol arall oedd yn ei flodau oddeutu 1349. Mae ei waith ef yn cynwys rhan fawr o'r Salmau, rhan o'r bennod gyntaf o Efengyl Luc, cân Zacharias, cyfarchiad i Mair gan yr angel, cân y tri llanc, a chân Simeon. Arall-eiriad barddonol, neu ar gynghanedd, yw ei waith yntau. Dyma siampl o'r cyfieithiad, o gyfarchiad yr angel Gabriel i Mair :

"Gabriel a anfoned yn gennad y gan Dduw i ddinas yn Galilea, yr hwn a elwir Nassareth, i briodi morwyn â gwr a elwid Joseph, o lwyth Dafydd. Ac enw y forwyn oedd Mair. A phan ddaeth yr angel i mewyn attai y dywawd ef, Hanffych gwell Fair gyflawn o rad Duw gyda thi bendigaid yngyfrwng y gwragedd. A phan erglw Fair hyny, cynhyrfu a wnaeth, a meddyliaw pa ryw gyfarch oedd honna.

"A dywedyd a oryg yr angel wrthi nac ofnha, Fair, canys ti a gefaist rad y gan Dduw, ti a ymddygu feichiogi i'th groth ac essgory ar fab, a elwy ei enw Iesu, a hwnw a fydd gwr mawr, a Mab y gelwir i'r Goruchaf, ac efe a rydd yr Arglwydd Dduw iddaw esteddfa Dafydd ei Dad."

Nid oedd yr ysgrifau hyn i'w cael ond yn llyfrgelloedd y cywrain a'r dysgedig hyd y flwyddyn 1801, pryd y casglwyd ac y cyhoeddwyd y cyfan yn yr Archæology of Wales, trwy lafur Owen Jones (Owain Myfyr), Dr. Owain Pughe, ac Edward Williams (Iolo Morganwg).

Mae yn ddiau fod rhanau eraill o'r Bibl yn Gymraeg yn ystod y cyfnod a nodwyd. Gwelodd Dr. Richard Davies, Esgob Tyddewi, pan yn llanc, Bum' Llyfr Moses yn Gymraeg, mewn ysgrifen, yn nhŷ ewythr iddo, yr hwn oedd ŵr dysgedig. Yr oedd hyny tua chanol teyrnasiad Harri VIII. (oddeutu 1527). Barna rhai y gallai hwnw fod wedi ei gyfieithu gan William Tyndal, yr hwn oedd frodor o Gymru, a'r Protestant a gyfieithodd y Bibl gyntaf i'r iaith Saesneg, ac a ddyoddefodd ferthyrdod yn wobr am y gorchwyl. Dywed Esgob Davies, yn ei lythyr argraphedig gyda Thestament William Salesbury:—

"Yn lle gwir, ni ffynodd genifi erioet gael gwelet y Bibl yn Gymraeg: eithr pan oeddwn fachcen, cof yw cenyf welet Pump Lyfr Moysen yn Gymraeg, o fewn tu yewythr ym' oedd wr dysgedig; ond nid doedd neb yn ystyr y llyfr nac yn prisio arno. Peth ammheus ydiw (ir a wnni) a ellir gwelet yn oll Cymru un hên Fibl yn Gymraeg i'r penn golledwyt ac y speiliwyt y Cymry oy holl lyfrau. Eithr diemmay yw cenyf fot cyn hynny y Bibl yn ddigon cyffredin yn Gymraeg. Perffeithrwydd ffydd y Merthyron, eglwyswyr a llëigion, sydd brawf fod yr Ysgrythyr Lân cenddynt yn i iaith eu hunan.—Hefyd, y mae cenym ni yn Gymraeg amryw ymadroddion a diarhebion, yn aros fyth mewn arfer, a dynwyt o berfedd yr Ysgrythyr Lân ac o ganol Efengyl Crist. Yr hyn sydd brofedigaeth ddigonawl fot yr Ysgrythyr Lân yn mhen pob bath ar ddyn, pan y dechreuwyt hwynt, a phan y dygwyt i arfer gyffredinawl: megis, A Dvvw a digon; heb Ddvvw heb ddim,—A gair Dvvw yn uchaf,—y Map rhâd,—Ni lafar, ni weddia, nid teilwng iddo ei fara,—Eglwys pawb yn ei galon,—Cyn wired a'r Efengyl,Pan nad oedd rhyfedd na thyf post aur trwy nen ty yr anwir,—Drwg y ceidw diawl ei wâs,—I Ddvvw y diolchwn gael bwyt, a gallu ei fwyta,—Rhad Dvvw ar y gwaith; ac eraill o'r fath hyn. Y mae llawer o enwau arferedig gynt yn mhlith y Cymry yn brawf ychwanegol o hyny; megis Abraham, Esgob Mynyw; Adda Frâs, un o'r beirdd; Aaron, un o benaethiaid Gwlad Forgan; Asaph, Esgob Llanelwy; Daniel, yr Esgob cyntaf yn Bangor; Iago ab Idwal; Joseph, Esgob Mynyw; Samuel Benlan, offeiriad dysgedig; Samson, y chweched Esgob ar ugain, a'r diweddaf, yn Mynyw; a'r cyfryw eraill a goffeir yn fynych yn yr hên achau. Y mae hyn yn dangos fot yr Ysgrythyr Lân yn wybodedic iawn gan ein hynafieit gynt. Y mae prydyddiaeth Taliesin, ben-beirdd, yn gwiriaw yr un peth, yr hwn oedd yn byw yn amser Maelgwn Gwynedd, yn y chweched ganrif."

Mae penill cyfarwydd Taliesin fel hyn:

"Gwae'r offeiriad byd,
Nys anghreifftia[1] gwyd,[2]
Ac ny phregetha;
Gwae ny cheidw ei gail,
Ac ef yn fugail,
Ac ny areilia;
Gwae ny cheidw ei ddefaid,
Rhag bleiddiau 'r Rhufeiniaid,
A'i ffon gnwpa."

Mae y tystiolaethau hyn yn brofion eglur fod y Bibl, neu ranau helaeth o hono, mewn ysgriflyfrau, yn meddiant ein hynafiaid ni y Cymry yn fore iawn. Y tebygolrwydd yw iddynt eu colli trwy erledigaethau a rhyfeloedd gymerodd yn y cyfnod rhwng y chweched a'r bumthegfed ganrif.

Y darnau cyntaf o'r Bibl a argraphwyd erioed yn Gymraeg ydoedd mewn llyfr bychan Cymraeg, pedwar-plyg, a gyhoeddwyd yn Llundain yn y flwyddyn 1546. Hwn yn wir oedd y llyfr cyntaf a argraphwyd erioed yn yr iaith Gymraeg, oddigerth mai Cymraeg ydoedd "Prymer" Salesbury, a argraphwyd yn 1531. Ond nid oes sicrwydd yn mha iaith oedd hwn. Teitl y llyfr Cymraeg a nodwyd ydoedd,

"BEIBL. Yn y Llyvyr hwn[3] y Traethyr Gwyddor Kymraeg. Kalendyr. Y Gredo, neu bynkey yr ffydd Gatholig. Y Pader neu Weddi yr Arglwydd. Y deng air Deddyf. Saith rinwedd yr Eglwys Y Kampay arveradwy, a'r Gweddiau Gocheladwy Keingen."

Nid oedd ond math o almanac, a bernir fod gan Syr John Price, o'r Priordy, Aberhonddu, law yn ei awduriaeth. Gosodwyd y "Beibl" mewn llythyrenau mawrion ar ben y ddalen gyntaf, er mwyn galw sylw, am fod y Bibl y pryd hwnw yn ddyeithr iawn yn Nghymru, a bod y rhanau o'r Bibl a nodir yn y teitl uchod ynddo.

Tystiai Iolo Morganwg wrth Dr. Malkin fod un Thomas Llewelyn, Glyn Eithinog, o'r Rhigos, gerllaw Glyn Nedd, Morganwg, yr hwn oedd fardd enwog a Phrotestant o ddysg a duwioldeb neillduol, ac yn byw yn amser Edward VI. a Mari ac Elisabeth—fod y gwr hwn, wedi cyfieithu y Bibl i Gymraeg da, o gyfieithiad Seisonig William Tyndal, odddeutu y flwyddyn 1540. Myn rhai fod cyfieithwyr y Bibl presenol wedi gwneyd defnydd o gyfieithiad Llewelyn; ond y mae eraill yn gwrthddywedyd.

Dywed Ioan Tegid, yn ei ddarlith ar "Fedd Gwr Duw," i hên gyfieithiad o'r pedair Efengyl, yn un llyfr, fod yn llyfrgell Eglwys Gadeiriol Llanelwy am oesoedd. Cyfrifid ef yn gyfieithiad hên yn y flwyddyn 1282, fel y gellir gweled oddiwrth lythyr nodded a braint Archesgob Caergaint y flwyddyn hono, yn caniatau i offeiriaid yn perthyn i eglwys Llanelwy y rhyddid i gario y darn hwnw o'r Testament Newydd o amgylch y wlad, er mwyn ei ddangos i'r neb a chwenychai ei weled. Yr oedd y llythyr hwnw wedi ei ysgrifenu yn Lladin; wedi ei Gymreigio darllena fel hyn :

Cylch-lythyr Ioan, Archesgob Canterbury, yn caniatau i Ganonwyr Llanelwy, yn Nghymru, i gariaw oddiamgylch yr Ysgrythyrau.

"Y Brawd Ioan, &c., i'r holl offeiriaid, yn gystal ag i'r gwyr lleyg, yn Esgobaethau Coventry, Lichfield, Henffordd, a'r holl Esgobaethau Cymreig, iechyd, a thangnefedd tragywyddawl yn yr Arglwydd. Y llyfr neu eiriau yr Efengylau yn perthyn i Eglwys Llanelwy, a elwir yn gyffredin wrth yr enw ENEGLTHEN, yr hwn sydd, fel y deallasom, mewn cyfrif mawr a pharch gan drigolion o bob gradd yn mharthau Cymru a'r cyffiniau; ac am fwy o resymau nag un, a gludir ar droion yn barchus o amgylch y wlad, fel yn beth sanctaidd, gan offeiriaid yn perthyn i'r eglwys a enwyd uchod. Nyni, gan hyny, yn cael ein tueddu i gymeradwyo y cyfryw arferiad a ddymunem i chwi dalu pob anrhydedd i'r llyfr ac i'r personau, y rhai a ddarlunir yma, sydd yn ei ddwyn ef oddi amgylch, gan ddeisyfu arnoch, er mwyn y parch sydd genych i Grist, yr Hwn yw Awdwr yr Efengylau, i ganiatau i'r offeiriaid y soniwn am danynt, ymdaith yn eich plith, gyda'r llyfr [dywededig, ac iddynt allu llawenhau oblegyd ddarfod iddynt hwy gael diogelwch a llonyddwch yn eu mynediad, eu hansawdd, ac yn eu dychweliad yn ol.

"Rhoddwyd o dan ein llaw, yn Lambeth, Gorphenaf 14eg, o flwyddyn ein Harglwydd 1282."

Yr oedd y cyfieithiad uchod yn Llanelwy hyd amser yr Esgob Goldwell, rhagflaenydd Richard Davies. Collodd Goldwell yr esgobaeth ar esgyniad Elisabeth i'r orsedd, am na throai yn Brotestant. Aeth i Rufain, lle y bu farw. Bernir iddo gymeryd hên ysgriflyfr yr Efengylau yno gydag ef, ac y gallai ei fod yn aros eto yn mysg trysorau y Vatican. Pa fodd bynag, nid oedd yn Llanelwy yn amser yr esgob dylynol—Richard Davies—onide, buasai yn sicr o fod wedi crybwyll am dano.

Nodiadau[golygu]

  1. Cherydda.
  2. Bai
  3. Er nad oes enw awdur ar y llyfr y gred gyffredinol ymysg ysgolheigion bellach yw mai Syr John Prys oedd yr awdur nid William Salesbury