Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia/1873-1874, a'n Harosiad yn Buenos Ayres

Oddi ar Wicidestun
Yr Ysgrifenydd yn Myned i Gymru Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia

gan Abraham Mathews

Dechreu Cyfnod Newydd

PENOD XXI.—1873-1874, A'N HAROSIAD YN BUENOS AYRES

Gan fy mod yn absenol o'r sefydliad yn ystod y rhan fwyaf o 1873 a haner cyntaf 1874, nis gallaf fod yn fanwl yn nglyn a hanes y Wladfa yn yr adeg uchod. Y mae yn ymddangos i Captain Cox ddyfod yn ol gyda llong arall i ymofyn y llwyth a'r dwylaw a adawsai yno ar ol, ac iddo ddyfod a rhyw gymaint o nwyddau i'w gwerthu. Ymwelwyd a'r sefydliad y flwyddyn hon gan Esgob Sterling, perthynol i Gymdeithas Genhadol yr Eglwys Esgobaethol Seisnig yn Ne America. Gelwid eu llong "Allen Gardener." Yr wyf yn deall i'r Esgob bregethu yno, bedyddio rhai plant, a phriodi un par ieuanc. Fel y sylwasom o'r blaen, cafodd y ddau ddyn ieuane John Griffiths ae Edmund Price gynhauaf toreithiog iawn y flwyddyn hon, fel yr oeddynt mewn ffordd i allforio swm pur fawr.

Ymwelwyd a'r Wladfa gan un Captain Wright yn y llong "Irene," a llwyddwyd ganddo i gymeryd y gwenith uchod i Buenos Ayres, ac hefyd rhoddwyd cludiad i Mr. Edward Price i fyned gydag ef i'w werthu. Dyma y tro cyntaf i wenith y Wladfa fyned i'r farcbnad, ac erbyn sefyll y farchnad yn Buenos Ayres, cyrhaeddodd uwch pris nac un gwenith arall. Wedi'i E. Price werthu ei wenith, a chael hamdden i edrych tipyn o'i ddeutu yn y ddinas, daeth o hyd i foneddwr ieuanc o Gymro o'r enw William Parry, yr hwn oedd fasnachwr parchus yn y ddinas, yn perthyn i dy a adnabyddid wrth yr enw Rook Parry & Co. Boneddwr o Lanrwst ydyw y Parry hwn, ac y mae yn Buenos Ayres hyd heddyw wrth yr enw Parry & Co, ae y mae yn Gymro twymgalon yn gystal ag yn fasnachwr anturiaethus. Wedi iddo gael ymgon a Mr. E. Price yn nghylch y Wladfa, tybiai fod yno le gobeithiol i agor masnach. Mewn canlyniad, prynodd ty Rook Parry yr. "Irene," a danfonasant hi i lawr yn ngofal yr un Captain gyda llwyth o nwyddau amrywiol o dan ofal Mr. E. Price, gydag awdurdod i agor masnach dy yn y Camwy. Felly y bu, adeiladwyd ar unwaith ystordy bychan heb fod yn mhell o lan y môr, ac yno y gwerthid y nwyddau, ac y prynid gwenith, caws, ymenyn, pluf, a chrwyn yn gyfnewid am danynt. Dyma ddechreu masnach ar radd eang a sefydlog yn y Wladfa yn y flwyddyn 1874. Pan ddaeth y ddwy fintai i Buenos Ayres, yr oedd y llong "Irene" i lawr yn y sefydliad, ae felly buom yn aros yn Buenos Ayres am ei dychweliad, er cael myned i lawr gyda hi y daith nesaf. Buom yno hyd Gorphenaf ac yn y diwedd, pan yr oedd y llong yn barod i ail gychwyn, deallasom, er ein gofid, na fedrai ond tua haner y dyfudwyr fyned i lawr ar unwaith, a chan nad oedd llong arall i'w chael, fod yn rhaid i'r gweddill aros eto yn Buenos Ayres hyd ei dychweliad drachefn. Teg yw i mi yn y fan hon ddwyn tystiolaeth i haelioni, caredigrwydd, ac ymddygiad anrhydeddus y Llywodraeth 'Archentaidd trwy ei Bwrdd Ymfudiaeth. Yr oedd gan y Bwrdd hwn le neillduol i roi ymfudwyr, a elwid "Cartref yr Ymfudwr," yn yr hwn y byddai ymfudwyr yn cael eu bwydo a'u lletya yn ddigost hyd nes y celent waith, neu ynte gyfle i fyned i'r man hwnw o'r Weriniaeth a fwriadent fyned wrth gychwyn. Gan ei bod yn debygol y buasem yn gorfod aros yn hwy na dyfudwyr yn gyffredin, barnodd y Bwrdd yn garedig iawn y buasni yn well ein rhoddi ar ein penau ein hunain, mewn ty mawr a logwyd ar y pryd ar ein cyfer. Cawsom yma bob chwareu teg mewn lle cysurus, ac ymborth blasus yn ystod ein harosiad yn y ddinas, yr hyn a fu tua thri mis i rai o honom. Yr oedd yr oediad hwn yn ddiflas a phoenus i ddynion oedd wedi arfer bod yn weithgar, diwyd, ac enillgar, fel yr aeth rhai o honynt i weithio rhyw waith a fedrent wneud yn y dref i aros y llong i ddychwelyd. Wrth ddewis y rhai oedd i fyned i lawr i'r sefydliad yn ei siwrne gyntaf, cymerwyd y rheol i anfon dynion sengl, a'r penau teuluoedd mwyaf llawrydd, fel ag iddynt allu parotoi mewn hau a phethau ereill ar gyfer y teuluoedd. Yr oedd y dynion sengl yn gallu lletya mewn teuluoedd yn y Camwy heb orfod edrych am dai iddynt eu hunain, ac felly yn gallu myned i weithio ar unwaith, canys yr oedd yn awr yn nghanol tymor trin tir a hau. Cyrhaeddodd y llwyth cyntaf hwn y Camwy Awst yr 2il, 1874, ac mor fuan ag y glaniasant, aethant ati ar unwaith i agor ffosydd, a thrin a hau llanerchau o dir, y rhai a droisant allan fel rheol yn llwyddianus iawn mewn cnydau toreithiog. Dychwelodd y llong yn ol i ymofyn gweddill y minteioedd heb ymdroi dim, a daethant hwythau i lawr erbyn diwedd Medi neu ddechreu Hydref yr un flwyddyn. Dyma ni bellach, y ddwy fintai wedi dod i lawr, ac edrychir arnynt mwyach fel un fintai, sef mintai 1874, ac weithiau cyfeirir atynt fel minteioedd D. Ll. Jones a D. S. Davies.

Mintai 1865 a Mintai 1874.—

Yr oedd y fintai hon yn dra gwahanol i fintai y "Mimosa" yn 1865. Mintai oedd un y " Mimosa" o'r dosbarth gweithiol a llawer o honynt yn rhai tra anghenus. Nid yw dweyd hyn yn anfri arni, am fod cyflogau gweithwyr yr adeg hono yn isel iawn, fel nad oedd hyd yn nod y gweithiwr mwyaf diwyd a chynil yn gallu arbed nemawr ddim, ond erbyn 1874, yr oedd cyflogau gweithwyr yn Nghymru wedi cyfnewid yn fawr, ac feallai na fu cyflogau pob math o weithwyr—o'r ffermwr i lawr i'r labrwr isaf—mor uchel yn Nghymru erioed ag y bu yn 1874—5. Fel yr ydym wedi dangos yn barod, pobl heb ddim arian yn eu llogellau oedd corff y fintai gyntaf, ac wedi dyfod allan ar draul y Parch. M. D. Jones, Bala; ond wrth edrych yn ol ar yr amgylchiadau, yr ydym yn cael ein tueddu i gredu mai mintai gymwys oeddynt wedi y cwbl. Nid ydym yn gallu darllen rhagluniaeth yn mlaen llaw un amser, ond bob amser wrth edrych yn ol. Pan yn edrych ar y fintai gyntaf yn Lerpwl yn cychwyn tua Phatagonia, gallesid meddwl mai mintai anghymwys iawn ydoedd, ac yn wir, dyna oedd barn pobl am danynt pan yn cychwyn, ac wedi iddynt lanio, fel y prawf y llythyrau a ysgrifenid ar y pryd, a dyna hefyd oedd barn y Llywodraeth Archentaidd am danynt. Ond wrth edrych yn ol, yr ydym yn gweled mai ei thlodi oedd ei phrif gymwysder i gyfarfod a'r amgylchiadau cyfyng, boddloni ar fyd mor wael yn y blynyddoedd cyntaf, gan deimlo fod y byw hwnw, er cymeryd ei anfantais, i'w ddewis o flaen y caethiwed diobaith yr oeddynt ynddo yn Nghymru. Peth arall, pe buasent yn ddynion ag arian yn eu llogellau, buasent oll wedi ymadael, pob un i'w ffordd ei hun yn ngwasgfeuon a digalondid y tymhorau methiantus, ac felly ni fuasai y Wladfa wedi ei pharhau, na dyffryn y Camwy wedi ei boblogi, na'r wlad wedi ei harchwilio, na mwnau yr Andes wedi eu darganfod. Pethau distadl a ddewisir yn barhaus i gynyrchu y pethau mawr, er profi mai Duw, ac nid dyn, sydd yn trefnu ac yn llywodraethu yn nadblygiad amgylchiadau dyrys y byd hwn. "Tawed pob cnawd ger ei fron Ef." Mintai wahanol iawn oedd un 1874. Yr oedd yn y fintai hon amryw ddynion pur gefnog o weithwyr—dynion oedd wedi manteisio ar gyflogau uchel i roddi cryn dipyn o'r neilldu. Yr oedd yn eu plith hefyd rai ffermwyr profiadol a deheuig. Yr oedd yn y fintai hon hefyd dri gweinidog yn perthyn i'r Annibynwyr, heblaw yr Ysgrifenydd, yr hwn oedd yn dychwelyd yn ol at ei deulu.

Yn mysg y fintai Americanaidd, yr oedd y Parch. D. S. Davies ar ymweliad a'r Wladfa, yr hwn cyn cychwyn oedd wedi bod a gofal yr eglwys Gymreig yn New York arno. Bu yni a gwroldeb y dyn hwn o fantais fawr i'r fintai anffodus ar ol y llongddrylliad, hyd nes cyraedd Buenos Ayres. Gweinidog arall oedd y Parch. J. C. Evans, Cwmamar, Aberdar, Deheudir Cymru. Yr oedd efe yn gredwr mawr mewn ymfudiaeth cenedl y Cymry a Gwladfa Gymreig, a bu yn fantais fawr i'r sefydliad fel Gwladfawr solog, gobeithiol, a chalonog ei ysbryd ar lawer adeg ddigalon, yn gystal ag fel gweinidog a phregethwr poblogaidd, ac y mae o dro i dro wedi dal prif swyddi y sefydliad, ac wedi bod yn flaenllaw gyda phob symudiad a dueddai at lwyddiant y Wladfa Gymreig yn y diriogaeth. Gweinidog arall yn y fintai hon oedd y Parch. David Lloyd Jones, Rhuthin, Gogledd Cymru. Yr oedd y boneddwr hwn wedi bod a rhan flaenllaw yn y symudiad Gwladfaol o'r cychwyn cyntaf yn Nghymru, ac wedi bod yn gydweithiwr ffyddlon a'r Parch. M. D. Jones, Bala, trwy y blynyddoedd. Pan yn weinidog defnyddiol a hynod boblogaidd mewn dwy eglwys Annibynol yn Ffestiniog, Gogledd Cymru, rhoddodd yr eglwysi i fyny a bu am ddwy flynedd yn teithio ac yn areithio ar ymfudiaeth i Patagonia, ac hefyd i ffurfio Cwmni Masnachol ac Ymfudol Cymreig. Wedi hyny, ail ymgymerodd a gweinidogaeth yn Manceinion am bedair blynedd, ac wedi hyny, er mwyn bod yn nes er cydweithio a'i gyfaill, y Parch. M. D. Jones, Bala, ymgymerodd a gweinidogaeth yn Rhuthin. Bu y rhan fwyaf o'r flwyddyn 1872-3 yn cymeryd lle y Parch. M. D. Jones fel athraw yn y Bala, pan oedd y boneddwr uchod yn yr Unol Dalaethau yn casglu tuag at dalu dyled Colegdy yr enwad yn y Bala. Daeth y Parch. D. Ll. Jones allan i'r Wladfa yn 1874 yn genhadwr anfonedig i wneud cynyg ar Gristioneiddio Indiaid Patagonia, ond yr oedd eu bywyd mor grwydrol, fel yr oedd yn anmbosibl gwneud dim a hwy, a chyn hir Symudodd y Llywodraeth Archentaidd hwy i wahanol ranau y Weriniaeth, er eu cael o dan warcheidiaeth, ac hefyd er cael y wlad yn agored i'w phoblogi a'i hamaethu. Y mae y boneddwr hwn wedi bod o ddefnydd mawr i'r Wladfa o adeg ei ddyfodiad hyd heddyw, ar gyfrif ei dalent a'i ddysg, yn gystal a'i sel a'i ymroddiad di-ildio o blaid llwyddiant y Wladfa. Y mae wedi dal y swydd o ynad yn y sefydliad bron yn ddi-fwlch o'r ail flwyddyn ei sefydliad yn y lle hyd heddyw, a chan ei fod o feddwl dadansoddol ac elfenol, bu yn alluog iawn i drin materion gwleidyddol a chyfreithiol yn ein plith. Nid oes na bwrdd na chyngor o bwys nad yw efe wedi eistedd ynddo er pan yn y lle, ac y mae y Wladfa yn fwy dyledus iddo nag i un person unigol arall am ei phrif ddadblygiadau yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, a dymuniad y sefydlwyr yw iddo gael llawer o flynyddoedd eto i wasanaethu ei genedl mewn llwyddiant a hapusrwydd. Yr oedd yn y fintai hon hefyd amryw leygwyr a fu yn ychwanegiad mawr at ein llwyddiant amaethyddol a masnachol, cymdeithasol a chrefyddol, ac fel y rhai blaenaf, gallwn enwi D. D. Roberts, o'r Unol Dalaethau; E. Jones, Dinas Mawddwy, Gogledd Cymru; E. Owen, Tyucha, ger Bala; John S. Williams, Hawen, Sir Aberteifi; a John W. Jones, o Tanygrisiau, Ffestiniog. Wrth enwi y personau uchod, nid ydym yn awgrymu nad oedd yn y fintai amryw ddynion gweithgar a medrus ereill, y rhai a fu yn gymorth mawr i ddadblygiad y lle mewn mwy nag un ystyr. Gwelir erbyn hyn i'r fintai hon fod nid yn unig yn ychwanegiad at nifer y llafurwyr, a bod hyny yn bwysig iawn, ond hefyd yn waed newydd, ac yn allu mawr yn nglyn a phob cylch o fywyd.