Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia/Penod XV

Oddi ar Wicidestun
Yr Ail Gyfnod, sef o Awst 1867 hyd Awst 1874 Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia

gan Abraham Mathews

Diffyg Cymundeb, ac Ymweliad y "Cracker"

PENOD XV.

Yn nechreu y flwyddyn 1869, cafodd Mr. Lewis Jones long eto gan y Llywodraeth at wasanaeth y sefydliad, yr hon a enwyd "Mary Ann," a chafodd hefyd arian i brynu gwartheg eto yn Patagones, ac â rhan o'r arian prynwyd melin flawd i'w gweithio gyda marchrym. Ond y fordaith gyntaf hon o eiddo y "Mary Ann," ysigwyd hi yn ddrwg iawn wrth ddyfod i mewn dros y bar i'r Camwy, fel na chafodd ond cael a chael gyraedd yn ol i Buenos Ayres, a chan nad oedd genym fel Gwladfa fodd i dalu am ei hadgyweirio, gorfu i Mr Lewis Jones ei gwerthu yn Buenos Ayres am bris bychan iawn. Yn Ebrill yr un flwyddyn, aeth Mr. Jones yn ol i Gymru i ymofyn ei deulu, yr hwn oedd wedi dychwelyd yn Dechreu 1866. Dyma y Wladfa unwaith eto wedi ei gadael heb un cyfrwng cymundeb ag unman tu allan iddi ei hun. Er ein bod fel hyn yn aflwyddo y naill flwyddyn ar ol y llall trwy ryw anffawd neu gilydd, eto oedd y sefydlwyr wedi credu fod y dyffryn o ran ei dir yn amaethadwy a chynyrchiol, ond i ni allu gor-fyw yr anffodion hyn, fel nad oedd bron neb yn son yn awr am fyned ymaith. Hauwyd y tymor hwn eto, trwy i ni gael cyflenwad o hadyd gan y Llywodraeth yn y " Mary Ann," ond os daeth yr afon dros ei cheulanau y tymor o'r blaen, ni chododd y tymor hwn mor uchel ag yr arferai, ac felly yn Chwefror 1870, ni chafwyd ond cnwd rhanol, am i'r afon fyned yn rhy isel i ddyfod i mewn i'r ffosydd pan yr oedd angen ail a thrydydd dwfr ar y gwenith. Yr oedd hyn eto yn wedd newydd ar bethau i ni, am nad oeddym, er pan yn y lle wedi sylwi fod yr afon yn codi mor lleied, ac yn myned i lawr mor gynar yn y tymor.

"Y Cwmni Ymfudol a Masnachol Cyfyngedig."—

Gwnaethom gyfeiriad damweiniol yn barod at y Cwmni hwn yn nglyn a cholliad y llong fach yn yr hon yr oedd Mr. Cadivor Wood. Nid yw yn perthyn i amcan yr hanes hwn i ymdrin a helynt y Cwmni hwn, ond eto y mae yn anmhosibl egluro rhai pethau yn nglyn a'r Wladfa yn y Camwy heb grybwyll ychydig am y Cwmni hwn. Y mae yn ymddangos i rai o gyfeillion a phleidwyr y mudiad Gwladfaol yn Nghymru, yn gystal ag yn yr Unol Dalaethau, ffurfio bob un Gwmni gyda'r amcan i brynu tir, llogi neu brynu llongau i gludo ymfudwyr a nwyddau i Patagonia, a gwneud masnach a manau ereill, a chludo nwyddau i ac o wahanol wledydd, ond yn benaf gwledydd De America. Galwyd y Cwmni Cymreig "Cwmni Ymfudol a Masnachol Cyfyngedig;" y Parchedigion M. D. Jones, Bala; D. Lloyd Jones, Ffestiniog; ac R. Mawddwy Jones, Dolyddelen, oedd a'r llaw flaenaf yn ffurfiad y Cwmni hwn yn Nghymru. Prynwyd llong newydd, a galwyd hi "Myfanwy," yr hon a gostiodd tua thair mil o bunau. Hwyliodd y "Myfanwy" o Casnewydd am Patagonia yn ngwanwyn 1870, gyda Mr. Lewis Jones a'i deulu ar ei bwrdd, a dau deulu ereill fel ymfudwyr. Yr oedd un o'r penau teuluoedd hyn yn ôf medrus, ac anfonwyd allan yn ei ofal swm o haiarn, a llawer o arfau amaethyddol defnyddiol, a bu efe a'r arfau yn gaffaeliad mawr i'r sefydliad, am i'r gof oedd genym wedi dod allan yn y fintai gyntaf ymadael i Patagones. Glaniasant yn Mhorth Madryn yn mis Mai, ac wedi dadlwytho ac aros ychydig, ymadawodd y "Myfanwy," a dyna yr unig fordaith a wnaeth i'r Wladfa. Boneddwr ieuanc o'r enw Griffiths oedd Captain y llong hon, ac o herwydd rhyw annibendod a diofalwch, os nad twyll mawr o du rhyw un neu ryw rai, bu y llong hon yn golled o'r dechreu i'r diwedd i'r Cwmni, ond gan mai y Parch. M. D. Jones, Bala, trwy eiddo Mrs. Jones, oedd y mwyaf tan ei ddwylaw, bu helynt y llong hon yn golled ac yn sarhad mawr iddo ac arno, er ei fod yn hollol ddiniwed yn nglyn a'r holl helynt. Gwerthwyd y llong trwy arwerthiant gan y gofynwyr, a phrynwyd hi gan yr un rhai am un rhan o dair o'i gwerth, a hyny yn mhen y flwyddyn wedi ei hadeiladu, a gwerthwyd y Parch. M. D. Jones i fyny am y gweddill o'r arian. Nid oes hanes am bleidiau wedi ymddwyn yn fwy creulon ac anonest na'r gofynwyr hyn ar ddu a gwyn. Peth hawdd iawn yw pigo i fyny ddiffygion, y mae yn wir, ond y mae yn ddiameu pe buasai cyfeillion y mudiad Gwladfaol yn ymgynghori a'r sefydlwyr ar y Camwy cyn cymeryd cam mor bwysig, gallesid ysgoi golled fawr hon.

Nid oedd y sefydliad y pryd hwnw wedi cyrhaedd safle o lwyddiant digon helaeth a sicr i fentro cymaint arno, ac nid oedd y boblogaeth yn ddigon lluosog fel ag i allu derbyn llwyth o nwyddau, heb son am allu i dalu am danynt. Ond y mae hyn i'w ddweyd fel esgusawd, yr oedd y Sefydliad mor bell o Gymru, a'r cymundeb â Chymru mor anaml, a'r Gwladfawyr yn Nghymru mor awyddus i yru allan Ymfudwyr, a gwneud y Wladfa yn Patagonia yn llwyddiant buan ac amlwg, fel nad oedd yn eu golwg hwy ddim amser i'w golli. Ond y mae yn bur debyg i'r hyn a fwriadwyd i fod er mantais, droi allan i fod yn anfantais trwy i helynt y cwmni hwn ddwyn anair i'r Sefydliad, am fod ei enw wedi ei gysylltu ag ef, pan na wyddai y Sefydlwyr ddim yn ei gylch, nac yn meddu unrhyw fuddianau ynddo, ac ni dderbyniodd y Sefydliad unrhyw elw oddiwrtho, ond mor bell ag y gwnaeth dyfodiad y gof hwnw hwylusdod iddo. Y mae hanes y Cwmni hwn yn rhybydd i bawb nad ymyront a phethau nad oes ganddynt gymhwysder atynt, na phrofiad o honynt.

Ymadawodd y llong "Myfanwy" fel y crybwyllasom mor fuan ag y dadlwythodd, ond diangodd pedwar o'r dwylaw i'r tir, a buont yn guddiedig hyd nes iddi fyned allan o'r porthladd. Hauwyd y flwyddyn hon eto ar y tir du digroen, yn y gobaith y buasai yr afon yn codi yn brydlon, ac yn dal i fyny, fel y byddai yn arferol o gwneud hyd y flwyddyn ddiweddaf. Ymwelwyd a ni gan nifer luosog iawn o Indiaid y gauaf hwn, sef o Mehefin hyd Medi; ac er fod ymweliadau yr Indiaid yn fuddiol iawn i ni, eto byddent yn gryn rwystr i'r penau tealuoedd i yru yn mlaen gyda llafurio y tir, am nad oeddid yn teimlo i adael y teuluoedd wrthynt eu hunain pan y byddai llawer o'r Indiaid oddeutu. Aeth yr hau braidd yn ddiweddar y flwyddyn hon, ond cododd yr afon yn brydlon, a dyfrhawyd y tir yn drefnus, ac yn mis Hydref yr oedd golwg obeithiol ar y cnydau; ond aeth yr afon yn isel eleni eto pan oedd angen ail ddyfrhad ar y gwenith; ac er na fethodd yn hollol, eto cnwd teneu a gwan ydoedd; ac erbyn Chwefror 1871, pan ddaeth y cynhauaf, nid oedd genym ond cnwd rhanol iawn. Yn wir dwy flynedd sych a chrynllid iawn oedd y rhai hyn, a deallasom wedi hyny eu bod wedi bod felly trwy ranau helaeth o Ddeheudir America, fel nad oedd y Camwy yn eithriad i fanau ereill.