Neidio i'r cynnwys

Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Bonedd a Chyneddfau'r Awen

Oddi ar Wicidestun
Ar Enedigaeth Sior Herbert Holl Waith Barddonol Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Ieuan Brydydd Hir

BONEDD A CHYNEDDFAU'R AWEN.

Bu gan HOMER gerddber gynt
Awenyddau, naw oeddynt;
A gwiw res o dduwiesau,
Tebyg i'w tad, iawn had Iau;
Eu hachau, o ganau gynt,
Breuddwydion y beirdd ydynt.


Un Awen a adwen i,
Da oedd, a phorth Duw iddi,
Nis deirydd, baenes dirion,
Naw merch cler Homer i hon.

Mae'n amgenach ei hachau,
Hŷn ac uwch oedd nag âch Iau,
Nefol glêr[1] a'i harserynt,
Yn nef y cai gartref gynt
A phoed fâd i wael adyn
O nef, ei hardd gartref gwyn;
Dod, Ion, im' ran ohoni,
Canaf ei chlod hoywglod hi
Llwyddai yn well i eiddil
Borth tau, na thafodau fil.
Dywaid, pa le caid awen
Cyn gosod rhod daear hen,
A chael o'r môr ei ddorau,[2]
A thyle dŵr o'th law dau,
A bod sail i'th adailad,[3]
Ein Creawdr, Ymerawdr mad?

I'r Nef ar air Naf yr oedd,[4]
Credaf pand cywir ydoedd?
Ser bore a ddwyreynt
Yn llu i gyd ganu gynt;
Canu'n llon hoywlon eu hawdl,
Gawr floeddio gorfoleddawd!!
Ac ar ben gorphen y gwaith,
Yn wiwlan canu eilwaith;
Caed miloedd o nerthoedd nef
Acw'n eilio cân wiwlef,
Meibion Nef yn cydlefain
A'u gilydd mewn cywydd cain:—

"Perffaith yw dy waith,[5] Duw Ion,
Dethol dy ffyrdd a doethion,

A mâd ac anchwiliadwy,
Dduw mawr ac ni fu ddim mwy
Per lefair cywair eu cân,
Pob ergyr[6] fal pib organ,
Can mil—ddwbl acen amlddull,
Llawn hoen, heb na phoen na ffull.

Gwanai ei gwiwdeg hoenwawr,
Ewybr eu llef, wybr a llawr,
Fe'i clywai'r ser disperod,
Llemain[7] a wnae rhai'n i'w rhod;
Ffurfafen draphen a droe,
Ucheldrum nef a chwildroe;
Daeth llef eu cân o nefoedd,
Ar hyd y crai fyd, cryf oedd;
Adda Dad, ym Mharadwys,
Clywodd eu gwawr leiswawr lwys;
Hoffai lef eu cerdd nefawl,
Ac adlais mwynlais eu mawl;
Cynhygiai eu cân hoywgerdd,
Rhoe ymgais ar gais o'r gerdd;
Difyr i'w goflaid Efa,
Glywed ei gân ddiddan dda;
Canai Efa, deca' dyn,
Canai Adda, cain wiwddyn;
Canent i'w Ner o ber berth,
O'r untu, hyd awr anterth;
Ac o chwech ymhob echwydd,
Pyncio hyd nad edwo dydd.
Cân Abel oedd drybelid,
Diddrwg, heb hyll wg a llid.
Anfad ei gân, bychan budd
Acen lerw—wag Cain lawrudd,—
Ni chydfydd awenydd wâr
A dynion dybryd anwar
Ion ni rydd hyn o roddiad,

Wiwles, ond i fynwes fad.
Cynar o beth yw canu,
Awen i Foesen a fu;
Awen odiaeth iawn ydoedd,
Wrth adaw'r Aifft anghraifft oedd.
Cant, cant, a ffyniant i'w ffydd,
Cyn dyfod canu Dafydd;
Pyncio wnae fe fal pencerdd
Nefol, a rhagorol gerdd;
Prydodd dalm o ber Salmau,
Fwyned im' ynt, f'enaid mau!
Canu dwsmel, a thelyn,
Yn hardd a wnai'r gwiwfardd gwyn,
Gyd â'i law ydd ai'r awen,
Wi, wi, i'r llaw wisgi wen!
Ewybr oedd y boreuddydd,
Ei lais ym min dichlais dydd:—
Deffro fy nabl, parabl per!
I ganu emyn Gwiwner,
I'm Ion y rhof ogoniant,
A chlod, â thafod, â thant;
Am ganu ni fu, ni fydd,
Hoyw ei fawl, ei hefelydd.

Awen bêr wiwber ei waith,
Oedd i Selyf, ddisalw eilwaith,
Fe gant gân gwiwlan y gwau,
Can odiaeth y Caniadau;
Pwy na char ei Ros Saron,
Lili, a draenllwyni llon?
Y mae'n ail y mwyn eiliad
I gywydd Dafydd ei dad
Dygymydd Duw ag emyn,
O awen dda, a wna ddyn,
Prawf yw hon o haelioni
Duw Nef, a da yw i ni.
Llesia gân yn llys gwiwnef,

Mawr gerth yw ei nerth yn nef;
Pan fo'r côr yn clodfori,
Cydlef llu nef oll â ni;
Ac ateb cân yn gytun,
Daear a Nef a dry 'n un.

Dyledswydd a swydd hoyw sant,
Yw gwiw gân a gogoniant;
Dysgwn y fad ganiad gu,
Ar fyr awn i'w harferu;
Cawn awenlles cân unllef
Engyl â ni yngolau Nef,
Lle na thaw ein per awen,
Sant, Sant, Sant! moliant. Amen.


Nodiadau

[golygu]
  1. Dosbarth o Dderwyddon awenyddol gynt
  2. Job xxxviii. 8, 10.
  3. Job xxxviii, 4, 6
  4. Job xxxviii. 7.
  5. Salm xix. 1
  6. Tarawiad
  7. Neidio