Neidio i'r cynnwys

Llio Plas y Nos/Llio

Oddi ar Wicidestun
Y Porth Cyfyng Llio Plas y Nos

gan R Silyn Roberts

Gwirio Breuddwyd


5

LLIO

Llio curwallt, lliw arian,
Llewych mellt ar y lluwch mân.

MORDWYAI cymylau golau fel llynghesoedd dros lesni awyr y nos, gan guddio a datguddio lleuad ddisglair agos i lawn, fel y cerddai Ivor Bonnard yn gyflym ar ei daith unig tua Phlas y Nos. Noswaith wyllt, sych, wyntog, ydoedd; noswaith a dueddai i wroli yn hytrach na digalonni ysbryd anturiaethus. Nid oes dim yn fwy adnabyddus na'r effaith a gaiff natur ar ysbryd dyn. Wrth ruthro yn y trên drwy olygfeydd gwylltion, rhamantus, yn yr Alpau, neu'r Mynyddoedd Creigiog, teimla'r galon anturiaethus syched yn ei llenwi am wynebu peryglon, a gorchfygu anawsterau. Yn lle gwanhau, cryfhau a wnâi gwroldeb Bonnard fel y dynesai at Blas y Nos. Eto, noson oedd hon i lenwi'r ofnus â braw. Symudai cysgodion y cymylau ar hyd wyneb y ddaear, a newidiai cysgodion brigau'r coed i bob ffurf a llun dan gernodiau ffyrnig gwynt y gorllewin. Awgrymai'r cysgodion ansicr eu dawns bresenoldeb ellyllon a drychiolaethau i'r dychymyg; a swniai'r gwynt trwy'r brigau a'r glaswellt fel rhuthr lleng o ysbrydion anweledig yng ngolau gwan, gwelw'r lloer; cymerai pethau cyffredin ffurfiau annaturiol, a hawdd i feddwl dyn oedd llithro i stad freuddwydiol ac ofnus, ac ymlenwi â hanesion dychrynllyd am ffyrdd a llwybrau lle y cyniweiria ysbrydion anesmwyth eu byd.

Dichon i'r cyfryw feddyliau ddyfod at Bonnard, ond sicr yw na pharlyswyd mo'i benderfyniad na'i awydd i fynd i Blas y Nos. Cyflymai ei gamau dros y bryniau a thrwy'r cymoedd a orweddai rhyngddo a'r lle. Yr oedd o natur dyner a llednais iawn, a'i ysbryd yn gyflym i dderbyn argraffiadau oddi wrth y pethau o'i amgylch. Ond heno llanwai amcan ei daith ei feddwl, fel na chaffai ei ddychymyg lawn chwarae teg. Eto, fel y dynesai at ben y daith, ac fel y gwyliai ddawns wyllt, gyfrin, cysgodau brigau'r coed ar draws ei lwybrau, curai ei galon yn gynt.

Nid calon wan a wnâi'r tro i wynebu'r anturiaeth hon-nesâu yn unigedd a thrymder y nos at hen adfail o'r fath felltigaid goffadwriaeth-anturiaeth y buasai'r cyffredin yn ymgroesi ac yn dianc rhagddi. Ychydig ddynion yn y wlad, efallai, a fedrai wneud y peth a wnâi Bonnard y noswaith hon. Eto, nid ofnai ac ni chrynai ef, ac nid argoelai ei gamau cyflym un awydd am droi yn ôl. Ond fel y dechreuai droi ar i lawr tua'r coed, gafaelai yn dynnach yn ei lawddryll, a chadwai ei feddwl arno, er mwyn bod yn barod, beth bynnag a ddamweiniai ei gyfarfod. Nid oedd yn disgwyl cyfarfod â neb yma, y mae'n wir; meddyliai y gallai, hwyrach, ddyfod ar draws rhyw grwydryn a ddaethai yn wysg ei drwyn i gymdogaeth Plas y Nos heb wybod dim amdano.

Rhaid oedd cerdded yn ofalus yn y coed hyn. Dewed oedd y brigau uwchben nes gwneud y ddaear danynt yn dywyll iawn, a'r lle hefyd yn ddieithr i Bonnard hyd yn oed ganol dydd. Prin y gwyddai i ddim sicrwydd ei fod ar yr iawn lwybr, ond cofiodd y dylai cyn hir ddyfod i le agored, ac y gallai gerdded oddi yno ar gylch yn y cysgod nes cyrraedd y tŷ. Nid oedd yno lwybr o fath yn y byd i'w arwain, canys gwell fuasai gan bobl yr ardaloedd hynny gerdded-deng milltir o gylch nag unioni drwy gwm y Plas.

Dewisasai Bonnard ymwthio drwy'r coed at y tŷ yn hytrach na dilyn y ffordd. A thybio bod rhywun yn byw yn y tŷ, gallasent ei weld pe daethai ar hyd y ffordd. Ac yr oedd yr olion ar glo'r drws wedi codi amheuon rhyfedd yn ei ben. Credai i rywun fod yno yn ddiweddar, a gallai fod yno eto. Os troseddwr ydoedd, anodd fuasai iddo gael sicrach mangre yn y wlad; diogelach ydoedd yn unigedd Plas y Nos na phe gwersyllasai cad o'i gylch.

Bob yn dipyn, dechreuodd y coed deneuo, ac ymgripiai ambell belydr crwydr o olau'r lleuad rhwng y brigau ar ei lwybr. Petrusodd yn awr pa un a gyraeddasai'r pwynt a ddymunai ai peidio. I gefn y tŷ y dymunai ddyfod. Foment yn ddiweddarach, tybiodd iddo gael cipolwg ar y muriau llwydion, ond nid oedd yn sicr. Yr oedd hyd yn hyn yn rhy bell i weled yn glir. Symudodd yn fwy gofalus fyth yn awr; cyrhaeddodd y drysni a fuasai unwaith yn bleserfa, a gwelai'n eglur hen dŵr y Plas yn estyn ei ben i'r awyr o fewn rhyw dri chanllath iddo.

Dan arian lewych y lloer, edrychai'r hen Blasty'n wych a phrudd. Adlewyrchid y golau o wydr y ffenestr, a disgleiriai'r eiddew gwyrdd a ymgenglai am y conglau, y muriau a'r simneiau, yn llachar dan ei belydr. Taflai'r muriau uchel eu llaesion gysgodion ymhell ar un ochr i'r tŷ, mor bell fel y toddai eu hymylon i ddudew wyll y pellter.

Safodd Bonnard yn awr ennyd, â'i law chwith ar ei galon, ond ni ddaeth y syniad o droi'n ôl i'w ben. Er echrysloned ei neges, er dued y lle y tyngasai yr âi iddo, ni bu torri ei benderfyniad erioed ymhellach oddi wrtho. Yno y safai yn yr unigedd. Trwy'r coed o'i amgylch griddfanai gwyllt ruthrwynt Medi, o'r brigau uwchben cododd anniddan ddolef tylluan, ac atebwyd hi gan un arall o'r eiddew ar fur y tŷ—y ddwy fel pe baent yn ymgomio amdano, ac yn chwerthin am ei ben. O'i flaen yr oedd Plas y Nos, a lloriau ei ystafelloedd wedi eu halogi gan sang troed y llofrudd, a'i sylfeini wedi yfed gwaed gwirion a godai fyth yn weddi fud at orsedd y Sawl a esyd farn ar y ddaear. Oerai'r cof am hyn y gwaed yn ei wythiennau, ond symudodd ymlaen a meistrolodd ei deimlad. Gwelodd nad oedd perygl i neb ei ganfod yno rhwng y prennau tal a'r llwyni tewion. Yn ddiymdroi, heb aros munud yn hwy, cerddodd at y tŷ, a daeth at y drws bychan a welsai'r bore cynt.

Gafaelodd ynddo, a cheisiodd ei agor, ond methodd; yna ciliodd yn ôl yn araf, â'i lygaid ar y muriau. Gwelodd ffenestr uwchben y drws, ryw ugain troedfedd uwchlaw'r llawr; tyfai'r eiddew yn dew a chryf ar hyd y mur; dyn ysgafn ac ystwyth ydoedd yntau, a dringwr campus. Yn ei logell cariai lusern dywyll, a meddyliodd y gallai dorri gwydr y ffenestr â'i gyllell, neu ddwrn ei lawddryll, oni byddai yno rywbeth grymusach i'w gadw draw.

Ni thorrai dim ar y distawrwydd ond griddfanau'r gwynt yn y coed, a thrist waedd aderyn y nos. Dechreuodd ddringo'r mur ar hyd yr eiddew heb golli amser. Daliai'r ciddew ei bwysau, a phrysurai yntau i fyny; ond heibio i'w wyneb cododd tylluan fawr o'r eiddew, â sgrech annaearol, wedi ei haflonyddu ynghanol ei myfyrdodau. Wrth glywed oernad y dylluan, cododd nifer o ystlumod hwythau o'r eiddew, i wibio o'i amgylch, a'u gwichiadau treiddiol a dieithr yn merwino'r glust. Ond nid gŵr a ddychrynai rhag ei gysgod oedd Bonnard.

Dringodd yn chwim a gofalus, a chyn pen ychydig eiliadau yr oedd yn eistedd ar astell lydan y ffenestr. Cafodd amryw o'r chwarelau gwydr wedi eu dryllio, ac nid oedd caead oddi mewn, a gwelodd y gallai fynd trwyddi heb ddim ond ei hagoryd. Nid gwaith rhwydd oedd hynny. Gallai gyrraedd y glicied, ond yr oedd honno wedi rhydu wrth sefyll gyhyd, nes anystwytho ei chymalau, a gwneud ei hagor y nesaf peth i amhosibl. Ond wedi ysgytian a llafurio am tua chwarter awr, llwyddodd i wthio un ochr yn agored.

Bellach, nid oedd cloffi rhwng dau feddwl i fod. Ni wnâi ei anawsterau ond codi ei ysbryd, a gwroli ei galon. Magodd math o deimlad o oruchafiaeth yn ei fron, ac â llaw gadarn a ffyrnig y gafaelodd yn nwrn ei lawddryll, ac y trodd ei lusern i mewn i'r ystafell. Gwelodd fod y llawr o fewn llathen i'r ffenestr, a'r eiliad nesaf yr oedd yn sefyll arno. Safai tu mewn i furiau Plas y Nos.

Cododd ei lusern i edrych o'i gylch. Ystafell ganolig ei maint, nenfwd isel, a heb ddodrefnyn o'i mewn; derw du yn gwisgo'r muriau, a llwch tew dros y llawr ac ar hyd y muriau; ac o'r nenfwd, yn rhaffau hirion yn siglo yn ôl ac ymlaen yn yr awel o'r ffenestr, crogai gweoedd cenedlaethau o bryfed cop. Gwelodd ddrws o'i flaen, a rhedodd iasau dieithr drosto wrth sylwi ei fod yn gil-agored. Llaw pwy a'i gadawodd felly, a pha bryd? Ai tybed ei fod wedi sefyll yn gil-agored am ugain mlynedd? Ond deuai teimladau eraill ato hefyd. Plas y Nos! Dyma ef tu mewn iddo. Teimlai ei anadl yn pallu, a'i waed ar dân.

Wedi ei feistroli ei hun unwaith eto, croesodd at y drws yn ddistaw, a thynnodd ef yn agored. Wrth iddo wneud hynny, rhuthrodd rhywbeth yn chwim drwy'r fynedfa tu allan—llygoden Ffreinig, fe ddichon—ond camu yn ôl a wnaeth Bonnard, a'i galon yn ei wddf. Y foment nesaf, fe'i ceryddodd ei hunan am ei ofn di-sail ac ofergoelus, a cherddodd yn benderfynol i'r fynedfa.

Anhygar oedd golwg y lle, ac arwyddion eisiau ymgeledd, ac adfeiliad yn amlwg. Mynedfa lydan, a drysau o boptu, a llwch a gweoedd cop ymhobman. Beth sy'n cenhedlu ysbwrial mewn lleoedd anghyfannedd? Daw i fod ohono'i hun, rywfodd. Dyma le y gallai fwy na disgwyl cyfarfod ynddo ag ymwelydd o fyd arall.

Yn y dwfn ddistawrwydd gallai glywed curiadau ei galon ei hun. Teimlai fel pe bai rhywun neu rywbeth tu ôl iddo, ac wrth iddo symud meddyliodd glywed cam o'i ôl, ac anadl rewllyd yn cyffwrdd â'i rudd, a chrechwen isel ddieflig yn merwino'i glustiau. Ond erbyn troi'r llusern yn ôl, nid oedd yno ddim ond y tywyllwch pygddu. Bwriodd ymaith ofn oddi wrtho; camodd yn gyflym at y drws ar ei gyfer, a gafaelodd yn y dwrn. Yna safodd. Beth oedd tu draw iddo? A welai rywun yno? Trôi ei lusern eto i edrych o'i ôl, gan hanner disgwyl gweled wyneb gwelw angheuol wrth ei benelin, ond nid oedd yno ddim. Rhoes dro ar y dwrn, a synnodd ei fod mor rhydd. Agorodd y drws. Teimlai wallt ei ben yn codi'n syth i'w union sefyll. Yr oedd goleuni yn yr ystafell—goleuni! Safodd yn berffaith lonydd, a churai ei galon yn wyllt yn erbyn ei ochr. Pe syrthiasai'r nefoedd y funud honno, prin y gallasai ef symud na llaw na throed.

Paham y teimla rhai pobl hi mor anodd ganddynt fynd i mewn i ystafell lle bydd cannwyll yn llosgi, heb neb yn bresennol yno? Yr hen arfer o gadw cannwyll yn olau gyda'r marw, y mae'n debyg, sydd wrth wraidd yr ofn annelwig hwn a geir mor aml ymhlith dynion. Ond, os arswydir rhag ystafell felly mewn tŷ cyffredin, pa faint mwy'r arswyd wrth fyned i ystafell mewn tŷ a fu am dros ugain mlynedd heb drigiannydd, a gweled yno gannwyll yn llosgi? Am eiliad, safodd Bonnard yn hollol lonydd; y funud nesaf, gwibiodd yr atgof am y drws, a'r olion ar y clo, drwy ei feddwl, a sylweddolodd mai ystyr y golau oedd bod yno ddyn o ryw fath yn byw. Wedyn, cerddodd yn ddistaw a hy i'r ystafell.

Safai lamp ar astell y simnai, ond nid oedd neb yn yr ystafell, a chafodd Bonnard felly hamdden i fwrw golwg o'i gylch. Nid oedd yno fawr i'w weled. Ystafell ysgwâr, a'i nenfwd yn isel, y ffenestr yn uchel yn y mur, a chaead arni, bwrdd â dau neu dri o lyfrau arno, ychydig gadeiriau derw hen ffasiwn â chefnau uchel, darnau carped ar y llawr derw wedi hen wisgo eu gwawr allan—a dyna'r cwbl. Yn ei phen draw yr oedd drws yn agor i ystafell arall ymhellach i mewn. Cacodd Bonnard y drws y daethai drwyddo, rhag i neb ddyfod ar ei warthaf o'i ôl yn ddirybudd, ac aeth ymlaen at y bwrdd i weled y llyfrau. Hen gopi o'r "Bardd Cwsc" oedd un, wedi ei argraffu yn Llundain gan E. Powell yn y flwyddyn 1703; un arall yn hen gopi o'r "Vita Nuova", gan Dante, yn yr Eidaleg. Amlwg oedd mai llyfrau hynafol o'r llyfrgell ydoedd y rhai hyn. Ond pwy a oedd yn eu darllen? Nid dyma'r math o lenyddiaeth y buasai troseddwr o radd isel yn ei chwenychu.

Rhedodd hen ias yr ofn dieithr dros ei holl gorff drachefn. Cydiodd yn y llyfrau, a theimlodd y cadeiriau, er mwyn bod yn sicr mai sylweddau gwirioneddol oeddynt, ac nid cysgodion hud a lledrith. A! dyna sŵn agor y drws ar ei gyfer yn peri iddo droi'n sydyn, a'i galon yn llamu o'i fewn, a'i fysedd yn dynn am ddwrn. y llawddryll.

Llaciodd ei afael yn hwnnw yn y fan, oblegid, beth bynnag oedd y ffurf o'i flaen, pa un bynnag ai cig a gwaed, ai ynteu un o ddinasyddion bro'r oesol ddistawrwydd, oedd ei ymwelydd, prin y gallai neb ofni rhagddi, nac ymarfogi i'w chyfarfod.

Nid oedd namyn geneth ifanc, ac nid ymddangosai yn fwy na deunaw oed. Geneth dal, osgeiddig, a hardd, digon glân ei phryd i fod yn ysbryd, a thynerwch a thlysni rhyfedd yn gwisgo ei hwyneb. Prin y gallasai llygad perffaith hen gerflunwyr Groeg weled bai ar gyfuniad diledryw llinellau ei hwyneb, a gwisgwyd y ffurf â chroen mor lân â gwedd lili'r dyffrynnoedd. Euraid a ilaes oedd ei gwallt, yn disgyn yn dresi rhyddion ar hyd ei hysgwyddau. Syml a rhydd oedd ei gwisg amdani, heb na gwasg na gwregys i gadwyno helaethrwydd ei chwmpas, a'i lliw yn wyn o dan aur ei gwallt. Fel

Aur melyn am ewyn môr,
Tresi mân tros ei mynor.

Agorodd Bonnard ei lygaid mewn syndod gerbron y weledigaeth brydferth hon. Sylwodd ar unwaith ar ei llygaid mawrion disglair, a theimlai fod rhywbeth dieithr, pell, trist, yn eu dyfnder. Rhyfedd oedd ei gweled yno, yn ifanc a thlws ynghanol henaint prudd Plas y Nos—fel pelydryn goleuni yn trywanu ei farnol wyll. Ni ddywedodd Bonnard air, ond parhau i syllu arni mewn syndod. Beth bynnag y dychmygasai gyfarfod ag ef ym Mhlas y Nos, diogel yw credu na ddisgwyliasai erioed mo'r weledigaeth hon.