Llyfr Haf/Y Gnu

Oddi ar Wicidestun
Yr Ych Gwyllt Llyfr Haf

gan Owen Morgan Edwards

Camel y Mynyddoedd

Y Gnu

VI

Y GNU

1.DYMA un o'r creaduriaid rhyfeddaf yn y byd. Y mae fel pe wedi ei gymysgu o rannau amryw greaduriaid eraill. Y mae iddo fwng fel llew ar ei war, a barf fel gafr dan ei ên. Y mae iddo ben fel ych, clustiau fel asyn, a chynffon fel merlyn, a choesau fel ewig.

Wrth edrych ar ei ben, meddyliech mai tarw bychan gwyllt yw, ei lygaid cochion yn fflachio, ac yntau'n gwneud osgo fel pe am ruthro arnoch a'ch codi â'i gyrn cam, bachog. O'r tu ôl edrych fel merlen fuandroed a diniwed.

Y mae ei fygythiad yn debycach i ruad llew nag i weryriad march; cicia fel march.

2. Yn Neheudir Affrig y mae'n byw. Ni fwyteir ef, ac felly nid oes cymaint o hela arno ag sydd ar y carw. Nid yw'n ddinistriol fel y llew ychwaith, ac felly ni helir cymaint arno er mwyn mwynhau perygl. Felly, yn ôl pob tebyg, erys yn y tir gwyllt a breswylia'n awr.

Y mae ei liw rhwng llwyd-ddu a dugoch. Y mae ei fwng a'i gynffon yn wyn, ei farf yn ddu.

Edrych yn llawer mwy barus nag ydyw, oherwydd y blew sydd dan ei lygaid.

Y mae ei symudiadau'n afrosgo a digrif, fel pe buasai ei wahanol rannau yn methu deall ei gilydd. Ond y mae'n effro iawn; a phan ddaw perygl, gall ei wneud ei hun yn bur erchyll i edrych arno,— ei ruad byr, bygythiol, ei lygaid cochion yn fflachio tân, ei gyrn fel pe'n barod i rwygo ei ymosodydd, ei draed yn lluchio yn ôl ac ymlaen mewn cynddaredd.

Nid yw cymaint ag ych neu farch, mae'n debycach i faint llo neu ferlen, ac felly nid yw yn greadur peryglus iawn.

Pan garlama gyr ohonynt hyd y meysydd gwelltog, a'u cynffonnau gwynion yn chwyfio, y mae'r olygfa yn un na ellir ei hanghofio.

Nodiadau[golygu]