Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl/Mary Jones yn Casglu Cronfa at Brynu Beibl

Oddi ar Wicidestun
Bywyd Boreuol Mary Jones Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl

gan Robert Oliver Rees

Yn Myned i'r Bala at Mr Charles i Brynu Beibl


PENOD II.—Mary yn casglu cronfa at brynu Beibl.

FEL miloedd ereill o fythynod tlodion Cymru yn y dyddiau hyny, cyn sefydliad y Feibl Gymdeithas, nid oedd yn Nhy'nyddol yr un Beibl cyflawn. Yr oedd y Beibl Cymraeg a gyhoeddasai y Parch. Peter Williams yn Nhrefecca yn 1790—yr unig Feibl Cymraeg a argraffesid "i'r bobl" er 1769—erbyn hyn yn brin ac yn anhawdd ei gael, yn enwedig yn ardal neillduedig y gwehydd tlawd o Lanfihangel, i fyny yma yn y Gogledd. Y Beibl agosaf y gallai Mary gael caniatad i'w ddefnyddio, oedd un mewn ffermdy tua dwy filldir o'i chartref. Caniatai ei berchenogion caredig iddi ddyfod y pryd y mynai i ddarllen hwnw. At y Beibl benthyg hwnw y gwelid yr eneth fechan yn cerdded bob wythnos, fel yr hydd at yr afonydd dyfroedd, i'w ddarllen a'i chwilio, a dysgu ei benodau ar ei chof; erbyn yr Ysgol y Sabbath. Bu fel hyn heb yr un Beibl yn eiddo iddi ei hun am y chwe' mlynedd cyntaf o'i gyrfa grefyddol. Mor gryf oedd cariad yr eneth ieuanc dlawd hon at y Llyfr dwyfol, fel y parhaodd i gerdded at y Beibl benthyg hwnw trwy yr holl flynyddau hyn. Yr "un peth" a ddeisyfai ei chalon trwy y blynyddau hyn oedd Beibl cyflawn yn eiddo iddi ei hun. Pob dimai a cheiniog a dderbyniai gan gymydogion am unrhyw wasanaeth bychan, bwriai y cwbl yn ofalus i'w thrysorfa fechan gysegredig, mewn gobaith o'u gweled, ryw ddiwrnod dedwydd, yn gyfanswm digonol i allu prynu yr "un Perl gwerthfawr" yr oedd ei holl fryd ar ei feddianu.

Wedi blynyddau o ddiwidrwydd y wenynen yn casglu ei dimeiau a'i cheiniogau i'w chronfa fechan, cyrhaeddodd y cyfanswm o'r diwedd i'r swm a glywsai oedd pris yr argraffiad newydd o'r Beibl Cymreig a gyhoeddasid y flwyddyn flaenorol. Aeth i'r Llechwedd at William Huw, pregethwr, ac oracl yr achos bychan yn yr ardal, i holi ymha le y gallai brynu Beibl. Ei atebiad oedd, nad oedd yr un Beibl i'w gael ar werth yn unlle nes na'r Bala, gan Mr. Charles, ac ofnai fod yr oll o'r Beiblau a gawsai yntau o Lundain wedi eu gwerthu er's misoedd. Oni fuasai y fath atebiad—fod yn rhaid myned o 25 i 30 milldir o ffordd i geisio am Feibl, ac ansicrwydd, wedi myned, fod un Beibl i'w gael—oni fuasai y fath atebiad yn ergyd angeuol i zel geneth ieuanc dlawd gyffredin? Ond nid geneth gyffredin oedd ein geneth ieuanc dlawd o Dy'nyddol. Er ieuenged ei hoed, er tloted ei sefyllfa a'i gwisg, er dieithred a phelled y ffordd, er dieithred hefyd y boneddwr y disgwyliai y ffafr fawr ganddo, ac er ansicred ydoedd fod ganddo yntau yr un Beibl i'w werthu iddi wedi iddi fyned ato; eto, mor angerddol, anorchfygol, oedd awydd Mary am feddianu Beibl, fel y penderfynodd anturio y daith a'r rhwystrau hyn oll er ei fwyn.