Meini Gwagedd/Materion clawr ôl
← Y Ddrama | Meini Gwagedd gan James Kitchener Davies |
→ |
JAMES KITCHENER DAVIES
o Badarn-Odwyn, ger Tregaron; ysgol yr Eglwys ac Ysgol Sir, Tregaron, a Choleg Aberystwyth; athro yn ysgolion Cwm Rhondda,—athro mewn Cymraeg yn Ysgol Uwchradd y Pentre, Rhondda, yn awr.
Awdur Cwm Glo[1] . Bu fuddugol naill ai yn yr Eisteddfod Genedlaethol neu yng Nghystadleuaeth Cyngor Gwasanaeth De Cymru a Mynwy ar y dramau hyn: Susanna,[1] Y Tri Dyn Dierth, Afallon (ar fydr), a *Meini Gwagedd[1]:
Gwahoddwyd ef i gyfieithu Gwlad Fy Nhadau[1] (Jack Jones) i'w chwarae gan Gwmni Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1938.
Beirniad ysgrifennu dramau i'r Eisteddfod Genedlaethol 1942, 1943, 1945. Yr Eisteddfod gyd-golegol, 1936, 1945: Cyngor Gwlad Môn, 1944. Coleg y Gogledd, Bangor, 1944.
Beirniad actio drama i Eisteddfod yr Urdd, 1938; Cwpan Sybil Thorndyke, Caerdydd, 1941.
Darlithydd ar ddrama a llenyddiaeth Gymraeg i'r Y.M.C.A., y W.E.A., i Ddosbarthiadau Allanol y Brifysgol, ac Athro Drama Ysgol Haf Harlech, 1942.
Awdur cyfres o erthyglau i un o bapurau Llundain ar y ddrama Gymraeg, a llawer erthygl Gymraeg i'r cyfnodolion; mae'n ys- grifennu i'r radio, ac yn darlledu ar y ddrama. . . Y mae ganddo ei gwmni drama,-Cwmni'r Pandy, Tonypandy. Aelod o Bwyllgor Drama ac Areitheg Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol. Gwleidydd.
Y SEIRI DRAMA
Eu Hamcan.
Noddi a datblygu crefft ysgrifennu drama yng Nghymru. Yn eu plith y mae awduron ieuainc adnabyddus fel Kitchener Davies, J. D. Jones, John Gwilym Jones, George Davies, Tom Richards, ac Eic Davies. Beirniadant waith ei gilydd, a chwrddant i drafod eu problemau. Rhoesant gymorth i'r awdur i gyhoeddi'r gyfrol hon. Gellir cael gwybodaeth am Y SEIRI gan unrhyw un. o'r aelodau neu gan eu hysgrifennydd,—
GRIFFITH J. JONES, 21 Cae Mawr, Rhiwbina, Caerdydd.
MYNNWCH DDRAMAU'R SEIRI
Goreuon y Genedlaethol
Dramau Hirion
- J. GWILYM JONES. "Diofal Yw Dim" (Dinbych, 1939). 2/6.
- GEORGE DAVIES. "Diffodd Yr Haul" (Aberpennar, 1940). 2/6.
Dramau Byrion
- EIC DAVIES. "Cynaeafau" 2/0
- Sef "Y Tu Hwnt i'r Llenni" (Bae Colwyn, 1941).
- "Cynaeafau" (Aberteifi, 1942).
- "Y Dwymyn." Drama i blant. 1/3
- "Llwybrau'r Nos" (Bangor, 1943)
- J. KITCHENER DAVIES. "Meini Gwagedd" (Llandybïe, 1944) 1/3
Cyfres y Plant
- "Botymau Pres" (3 bachgen a 3 merch) 1/-
- "Fforshem" (2 fachgen a 2 ferch) 1/-
I'w cael gan Lyfrwerthwyr
neu oddi wrth
GRIFFITH J. JONES, 21 Cae Mawr, Rhiwbina, Caerdydd,
ysgrifennydd y
SEIRI DRAMA
Noddwyr Dramau o Safon