Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011/Mesur

Oddi ar Wicidestun
Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 Mesur Addysg (Cymru) 2011

gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yr Atodlen—Cosbau Sifil

Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011

Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddarparu am ddiogelwch ar gludiant a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir at ddibenion sicrhau bod plant yn mynychu mannau lle y cânt eu haddysgu neu eu hyfforddi; ac at ddibenion cysylltiedig.

Mae’r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 22 Mawrth 2011 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar 10 Mai 2011, yn deddfu’r darpariaethau a ganlyn:—

1 Gofyniad am wregysau diogelwch ar fysiau a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr

Ar ôl adran 14 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—

"Diogelwch ar gludiant i ddysgwyr

14A Gofyniad am wregysau diogelwch ar fysiau a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr

(1) Rhaid i gorff perthnasol sicrhau bod pob bws a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr y mae’n ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall yn un y mae gwregys diogelwch wedi ei ffitio i bob sedd deithiwr.
(2) Rhaid i berson sy’n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol sicrhau bod pob bws a ddefnyddir ar gyfer cludiant o’r fath yn un y mae gwregys diogelwch wedi ei ffitio i bob sedd deithiwr.
(3) Mae person sy’n methu â chydymffurfio ag is-adran (1) neu (2) yn cyflawni tramgwydd ac yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.
(4) Mae’n amddiffyniad i ddangos bod y methiant i gydymffurfio ag is-adran (1) neu (2) wedi ei gyfiawnhau oherwydd amgylchiadau eithriadol.
(5) Nid oes dim yn yr adran hon i’w ddehongli fel petai’n gosod safonau technegol ar gyfer gwneuthuriad neu gyfarpar cerbyd sy’n wahanol i’r safonau a fyddai neu a allai fod yn gymwys mewn modd arall i’r cerbyd hwnnw yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu unrhyw ofyniad yng nghyfraith yr Undeb Ewropeaidd sy’n uniongyrchol gymwysadwy.
(6) Yn yr adran hon—
ystyr “bws” yw cerbyd modur sydd wedi ei wneuthur neu wedi ei addasu i gario mwy nag wyth o deithwyr ar eu heistedd yn ychwanegol at y gyrrwr;
ystyr “deddfiad” yw unrhyw un o’r canlynol, pryd bynnag y’i pasiwyd neu y’i gwnaed—
(a) Deddf Seneddol;
(b) is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf Seneddol;
(c) darpariaeth mewn unrhyw Ddeddf neu is-ddeddfwriaeth o’r fath;
ystyr “gwregys diogelwch” yw gwregys sydd wedi ei fwriadu ar gyfer ei wisgo gan berson mewn cerbyd ac sydd wedi ei ddylunio i atal neu leihau anafiadau i’r sawl sy’n ei wisgo os bydd damwain i’r cerbyd.”.

2 Rhagor o ddarpariaethau ar gyfer y disgrifiadau o gerbydau y caniateir eu defnyddio yn gludiant i ddysgwyr

Ar ôl adran 14A o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—

{{canoli|“Diogelwch ar gludiant i ddysgwyr

14B Rhagor o ddarpariaethau ar gyfer y disgrifiadau o gerbydau y caniateir eu defnyddio yn gludiant i ddysgwyr

(1) Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach er mwyn—
(a) ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol sicrhau mai dim ond cerbydau o ddisgrifiadau rhagnodedig a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr y mae yn ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall;
(b) ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol ddefnyddio cerbydau o ddisgrifiadau rhagnodedig yn unig;
(c) darparu am dramgwyddau troseddol a chosbau am dorri gofynion a osodir o dan yr adran hon.
(2) Caiff rheoliadau o dan baragraffau (a) a (b) o is-adran (1) ddisgrifio cerbydau drwy gyfeirio at wneuthuriad, cyfarpar neu nodweddion eraill cerbyd.”.

3 Recordio delweddau gweledol neu sain ar gludiant i ddysgwyr

Ar ôl adran 14B o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—

“14C Recordio delweddau gweledol neu sain ar gludiant i ddysgwyr

(1) Caiff rheoliadau—
(a) ei gwneud yn ofynnol i drefniadau rhagnodedig gael eu gwneud i recordio delweddau gweledol neu sain o ddigwyddiadau sy’n digwydd ar gludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol;

(b) darparu ynghylch defnyddio, storio a chadw delweddau gweledol neu sain a recordir ar gludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir gan gorff perthnasol;
(c) darparu am dramgwyddau troseddol a chosbau am dorri gofynion a osodir o dan yr adran hon.
(2) Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill) roi pwerau neu ddyletswyddau ar unrhyw un o’r canlynol—
(a) corff perthnasol;
(b) person sy’n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol.
(3) Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) awdurdodi na’i gwneud yn ofynnol bod recordio yn digwydd mewn ffordd sydd wedi ei chynllunio i sicrhau nad yw personau sy’n ddarostyngedig iddo yn gwybod ei fod neu y gall fod yn digwydd.”

4 Asesiad risg diogelwch o gludiant i ddysgwyr

Ar ôl adran 14C o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—

“14D Asesiad risg diogelwch o gludiant i ddysgwyr

(1) Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol gynnal asesiadau risg diogelwch o’r cludiant i ddysgwyr y mae yn ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall.
(2) Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—
(a) gosod gofynion ynghylch natur yr asesiad i’w gynnal;
(b) ei gwneud yn ofynnol i lunio a chyhoeddi adroddiadau;
(c) rhagnodi ffurf a dull y cyhoeddi;
(d) rhagnodi pa mor aml y mae’n rhaid cynnal yr asesiadau.”.

5 Hyfforddi gyrwyr

Ar ôl adran 14D o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—

“14E Hyfforddi gyrwyr

(1) Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol sy’n darparu neu yn sicrhau fel arall bod cludiant i ddysgwyr yn cael ei ddarparu sicrhau bod gyrwyr cerbydau a ddefnyddir at y cyfryw gludiant wedi cwblhau hyfforddiant rhagnodedig i safon ragnodedig.
(2) Caniateir rhagnodi hyfforddiant a safonau drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir, fel a bennir yn y rheoliadau, gan Weinidogion Cymru.
(3) Yn yr adran hon ystyr “hyfforddiant” yw hyfforddiant am ddiogelwch ar gludiant i ddysgwyr a gweithio gyda phlant.”.

6 Goruchwylwyr ar gludiant i ddysgwyr

Ar ôl adran 14E o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—

“14F Goruchwylwyr ar gludiant i ddysgwyr

(1) Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer goruchwylio dysgwyr sy’n defnyddio cludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol.
(2) Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill)—
(a) rhoi pwerau i gorff perthnasol neu osod dyletswyddau arno;
(b) darparu ynghylch hyfforddiant i bersonau sy’n goruchwylio dysgwyr.”

7 Cosbau sifil

(1) Ar ôl adran 14F o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
“14G Cosbau sifil
Mae i Atodlen A1 effaith.”.
(2) Mae i Atodlen y Mesur hwn effaith.

8 Awdurdod gorfodi

Ar ôl adran 14G o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—

“14H Awdurdod gorfodi

(1) Caiff rheoliadau benodi person neu gorff (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) i fod yn awdurdod gorfodi.
(2) Caniateir penodi mwy nag un person neu gorff yn awdurdod gorfodi.
(3) Caiff rheoliadau roi pwerau i awdurdod gorfodi neu osod dyletswyddau arno i orfodi darpariaeth a wneir gan adran 14A a chan reoliadau o dan adrannau 14B a 14C ac Atodlen A1 a chânt (ymhlith pethau eraill)—
(a) rhoi pŵer i awdurdod gorfodi i awdurdodi person (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “arolygydd”) i arfer y pwerau yn adrannau 14I a 14J,
(b) gwneud addasiadau i unrhyw ddeddfiad sy’n gymwys i’r awdurdod gorfodi, neu
(c) darparu i’r cyfryw ddeddfiad fod yn gymwys, gyda neu heb addasiadau, at ddibenion adran 14A a rheoliadau o dan adrannau 14B a 14C, yr adran hon ac Atodlen A1.
(4) Mae cyfeiriadau yn y Mesur hwn at awdurdod gorfodi yn gyfeiriadau at berson neu gorff a benodir o dan yr adran hon ac maent yn cynnwys person a benodir gan awdurdod gorfodi.
(5) Yn yr adran hon mae “deddfiad” yn cynnwys—
(a) deddfiad pryd bynnag y’i pasiwyd neu y’i gwnaed,
(b) deddfiad a geir mewn Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac
(c) darpariaeth a geir mewn is-ddeddfwriaeth o fewn ystyr isddeddfwriaeth yn Neddf Dehongli 1978 (gan gynnwys isddeddfwriaeth a wneir o dan Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru).”.

9 Pŵer mynediad

Ar ôl adran 14H o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—

“14I Pŵer mynediad

(1) Mae’r adran hon yn gymwys i—
(a) cerbyd neu unrhyw fangre dan berchnogaeth neu reolaeth corff perthnasol;
(b) cerbyd neu fangre sy’n dod o fewn is-adran (2).
(2) Cerbyd neu fangre sy’n dod o fewn yr is-adran hon yw—
(a) y rhai a ddefnyddir, neu y bwriedir eu defnyddio, gan unrhyw berson mewn cysylltiad â darparu cludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol, neu
(b) y rhai y mae arolygydd yn credu yn rhesymol eu bod yn cael eu defnyddio felly, neu y bwriedir eu defnyddio felly.
(3) Caiff arolygydd ar unrhyw adeg resymol—
(a) cadw cerbyd yn gaeth;
(b) mynd i gerbyd neu fangre.
(4) Ond nid yw’r pŵer yn is-adran (3) yn cynnwys y pŵer i fynd i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn annedd breifat.
(5) Rhaid i arolygydd sy’n arfer unrhyw bŵer a roddir o dan is-adran (3) neu adran 14J, os bydd yn ofynnol iddo wneud hynny, ddangos dogfen a awdurdodwyd yn briodol sy’n dangos bod gan yr arolygydd yr awdurdod i wneud felly.”.

10 Pŵer arolygu Ar ôl adran 14I o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—

“14J Pŵer arolygu

(1) Caiff arolygydd sy’n cadw cerbyd yn gaeth neu yn mynd i mewn i gerbyd neu fangre o dan adran 14I—
(a) arolygu’r cerbyd neu’r fangre;
(b) arolygu unrhyw ddogfennau neu gofnodion sy’n ymwneud â darparu cludiant i ddysgwyr, cymryd copïau ohonynt a mynd â hwy o’r cerbyd neu’r fangre;
(c) arolygu unrhyw eitem arall a mynd ag ef o’r cerbyd neu’r fangre.

(2) Mae’r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys—
(a) pŵer i’w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n dal dogfennau neu gofnodion a gedwir yn y cerbyd neu’r fangre neu sy’n gyfrifol am y dogfennau neu’r cofnodion hynny i’w dangos hwy, a
(b) o ran cofnodion a gedwir yn gyfrifiadurol, pŵer i’w gwneud yn ofynnol dangos y cofnodion ar ffurf y mae modd eu darllen a mynd â hwy i ffwrdd.
(3) Nid yw’r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys pŵer—
(a) sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ddangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol, neu
(b) i gymryd copïau o’r cyfryw ddogfennau neu gofnodion neu i fynd â hwy i ffwrdd.
(4) Mewn cysylltiad ag arolygu’r cyfryw ddogfennau, caiff arolygydd—
(a) mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sydd yn ei dyb ef yn cael neu wedi cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â’r dogfennau ac arolygu a gwirio gweithrediad y cyfrifiadur, y cyfarpar cysylltiedig neu’r deunydd, a
(b) ei gwneud yn ofynnol i berson o fewn is-adran (5) roi unrhyw gymorth rhesymol a all fod yn ofynnol at y diben hwnnw.
(5) Mae person o fewn yr is-adran hon—
(a) os y person hwnnw yw’r person sy’n defnyddio’r cyfrifiadur neu a’i defnyddiodd neu’r person y defnyddir neu y defnyddiwyd y cyfrifiadur ar ei ran, neu
(b) os yw’r person hwnnw yn berson sydd â gofal y cyfrifiadur, y cyfarpar neu’r deunydd, neu’n ymwneud fel arall â’u gweithrediad.
(6) Caiff arolygydd sy’n cadw cerbyd yn gaeth neu’n mynd i gerbyd neu fangre ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw gyfleusterau neu gymorth iddo o ran materion o fewn rheolaeth y person ag sy’n angenrheidiol er mwyn ei alluogi i arfer pwerau o dan adran 14I neu’r adran hon.
(7) Bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol—
(a) yn rhwystro arolygydd rhag arfer unrhyw bŵer o dan adran 14I neu’r adran hon, neu
(b) yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan yr

adran hon,

yn euog o dramgwydd ac yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.”.

11 Y pŵer i fynnu gwybodaeth

Ar ôl adran 14J o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—

“14K Y pŵer i fynnu gwybodaeth

(1) Caiff awdurdod gorfodi ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a bennir yn is-adran (2) roi iddo unrhyw wybodaeth, dogfennau, cofnodion neu eitemau eraill—
(a) sy’n ymwneud â darparu cludiant i ddysgwyr, a
(b) sydd, ym marn yr awdurdod gorfodi, yn angenrheidiol neu’n hwylus i’w cael at dibenion ei swyddogaethau fel yr awdurdod gorfodi.
(2) Y personau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yw—
(a) corff perthnasol;
(b) unrhyw berson sy’n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol.
(3) Mae’r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys, mewn perthynas â gwybodaeth, dogfennau neu gofnodion a gedwir yn gyfrifiadurol, y pŵer i’w gwneud yn ofynnol eu darparu ar ffurf y mae modd eu darllen a mynd â hwy i ffwrdd.
(4) Nid yw’r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys pŵer i’w gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth, dogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol yn cael eu darparu.
(5) Mae unrhyw berson sydd heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir yn rhinwedd yr adran hon yn euog o dramgwydd ac yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar yr raddfa safonol.”.

12 Tramgwyddau: atebolrwydd swyddogion a phartneriaid Ar ôl adran 14K o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 mewnosoder—

“14L Tramgwyddau: atebolrwydd swyddogion a phartneriaid

(1) Pan brofir bod tramgwydd o dan adran 14A, 14B neu 14C a gyflawnir gan gorff corfforaethol wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn swyddog o’r corff corfforaethol, neu i’w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o’r corff corfforaethol, caiff rheoliadau ddarparu y bydd y swyddog yn atebol yn ogystal â’r corff corfforaethol ei hun.
(2) Pan brofir bod tramgwydd o dan adran 14A, 14B neu 14C a gyflawnir gan bartneriaeth wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn partner yn y bartneriaeth, neu i’w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner yn y bartneriaeth, caiff rheoliadau ddarparu y bydd y partner yn atebol yn ogystal â’r bartneriaeth ei hun.”.

13 Rheoliadau: ymgynghori

Ar ôl 14L o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) mewnosoder—

“14M Rheoliadau: ymgynghori

Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â phob awdurdod lleol ac ag unrhyw bersonau eraill y mae yn eu barn hwy yn briodol ymgynghori â hwy cyn gwneud unrhyw reoliadau o dan adrannau 14B i 14F, adran 14H neu 14L neu Atodlen A1.”.

14 Dehongli Ar ôl adran 14M o Fesur Teithio gan Ddysgwyr ::(cymru) 2008 mewnosoder—

“14N Dehongli adrannau 14A i 14K

(1) Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 14A i 14K.
(2) Mae pob un o’r canlynol yn “gorff perthnasol”—
(a) awdurdod lleol;
(b) corff llywodraethu ysgol a gynhelir.
(3) Ystyr “cludiant i ddysgwyr” yw cludiant i’w gwneud yn hwylus i blentyn fynychu unrhyw fan perthnasol lle y caiff addysg neu hyfforddiant; ond nid yw’n cynnwys cludiant a ddarperir er mwyn teithio yn ystod y dydd rhwng mannau perthnasol neu rhwng safleoedd gwahanol o’r un sefydliad. :(4) Nid yw’r weithred o wneud unrhyw un o’r trefniadau a ganlyn i’w hystyried, ynddi’i hun, fel petai’n darparu cludiant i ddysgwyr neu’n sicrhau fel arall bod cludiant i ddysgwyr yn cael ei ddarparu.
(5) Y trefniadau a grybwyllir yn is-adran :(4) yw—
(a) trefniadau i dalu’r cyfan neu unrhyw ran o dreuliau teithio rhesymol person;
(b) trefniadau i dalu lwfansau mewn cysylltiad â defnyddio cludiant.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio is-adran :(3) yn y fath fodd ag i hepgor y geiriau o “ond nid yw’n cynnwys” hyd at ddiwedd yr is-adran.”.

15 Darpariaethau cyffredinol am orchmynion a rheoliadau

(1) Diwygier adran 27 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr ::(cymru) 2008 ::(gorchmynion a rheoliadau) fel a ganlyn.
(2) Yn is-adran :(2)—
(a) ym mharagraff (a), ar ôl “neu” rhodder “ddosbarthau ar achos neu ddibenion

gwahanol neu”;

(b) ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

“::(aa)i wneud darpariaeth yn ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodedig;”;

(c) ym mharagraff ::(b), ar ôl “achosion” mewnosoder “neu ddosbarthau ar achos”.
(3) Yn is-adran :(3), hepgorer “adran 7 neu adran 8” a rhodder “7, 8, 14B, 14C, 14D, 14E,

14F, 14H neu 14L neu Atodlen A1”.

(4) Ar ôl is-adran (4), mewnosoder—

“(4A) Wrth gymhwyso is-adran (4) i reoliadau a wneir o dan adrannau 14B i 14F, adran 14H neu 14L neu Atodlen A1 mae’r cyfeiriad at “y Mesur hwn” yn is-adran (4) i’w ddehongli fel cyfeiriad at Fesur Teithio gan Ddysgwyr ::(cymru) 2011.”.
(5) Yn is-adran (7)—
(a) ym mharagraff (d) hepgorer “neu”;
(b) ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

“::(da) rheoliadau o dan adran 14B, 14C, 14D, 14E, 14F, 14H neu 14L neu Atodlen A1, neu (db) gorchymyn o dan adran 14N(6).”.

16 Cychwyn

(1) Mae adran 1 yn dod i rym ar 1 Hydref 2014.
(2) Daw gweddill darpariaethau’r Mesur hwn i rym ar ddiwedd cyfnod o ddau fis sy’n dechrau ar y diwrnod y caiff y Mesur hwn ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.

17 Enw byr

Enw’r Mesur hwn yw Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011.