Neidio i'r cynnwys

Nedw/Ifan Owen Ty'n Llwyn

Oddi ar Wicidestun
Gwynt y Dwyrain Nedw

gan Edward Tegla Davies

Geirfa

XII.—IFAN OWEN TY'N LLWYN.

"Nedw," medde Betsen Jones y crydd pan es â thipyn o datws iddi oddiwrth mam un diwrnod, "be sy ar dy ddwylo di'n gwaedu?"

"Taro'r ddafad yma mewn carreg ddaru mi," medde fi.

"'Rargen fawr," medde hi, "mae dy ddwylo di'n llawn defed. Wyddost ti sut i'w mendio nhw? Galw yng ngefel Tomos Owen y gô a gofyn am gael molchi dy ddwylo yn y dŵr y mae o'n oeri haearn ynddo fo, bob dydd wrth fynd adre o'r ysgol, ac mi gei weld y clirian nhw i gyd ond iti beidio â sychu dy ddwylo, ond gadael i'r dŵr sychu arnyn nhw ohono'i hun."

Mi ddarum, ac mi ffeindies mai dyn clên iawn ydi Tomos Owen, hoff iawn o stori, ac o dipyn i beth, aeth Wmffre a fi ac ynte'n hen ffrindie, ac arhosem yno am gom bob dydd wrth alw i mi 'molchi nwylo. Dyn go newydd yn yr ardal ydio, wedi cymyd yr efel pan fu farw William Pitars.

Un diwrnod yr ha dwaetha roedd hi'n llethol o boeth, ac yn bygwth trane trwy'r pnawn. Roedd Wmffre a fi'n cychwyn adre wedi bod dipyn yn hwy na'r gweddill o'r plant, oherwydd castie Joseph y Titshar. O'n blaene ni roedd ene nifer o fechgyn yn mynd tuag efel Tomos Owen tan gomio. Dene daran sydyn, a mellten, a tharan wedyn. Ac i ffwrdd â phob un ar sgruth a throi i'r efel. Ac ni chawsom ninne ond cyrraedd y drws na ddaeth yn gafod ofnadwy o law trane, ac yr oedd y mellt yn ddychrynllyd. Roedd pawb wedi dychrynu, a Tomos Owen yn ceisio ein diddanu. Wrth ei weld mor rydd, dene Morus yr Allt yn mentro gofyn iddo,—"Tomos Owen, o ble 'rydech chi'n dwad?"

"O Lanfangu, machgen i," medde Tomos Owen.

"Sut le ydio?" medde Morus.

Ddeydodd Tomos Owen ddim byd am dipyn. "Meddwl amdano fo y bum i trwy'r pnawn," medde fo yn y man. "Mae'r pnawn poeth yma yn fy atgoffa am bnawn poeth tebyg iddo fo dro'n ol yn Llanfangu, pnawn pur ryfedd. Fasech chi'n leicio cael hanes y pnawn hwnnw?"

"Basen," medde pawb.

"I ddechre," medde fo, "rhaid i mi ddeyd sut le ydi Llanfangu, ac mi ddechreua i yn y dechre. Dene'r peth gore am wn i." Ac aeth Tomos Owen ymlaen gyda'i stori, a dyma hi,—

"Lle rhyfeddol o dawel ydi Llanfangu," medde fo, "a'i Eglwys a'i fynwent yn ei ganol. Mwy o lawer iawn ydi trigolion y fynwent na thrigolion y Llan ei hun. Hwyrach mai dene'r rheswm pam fod y lle mor rhyfeddol o dawel, mai ymostwng y mae o, fel y dyle pob lle, i lywodraeth y mwyafrif. Welwch chi'r un fynedfa ohono fo, ac y mae ei beder ffordd fel tase nhw'n darfod ryw ganllath o'r Llan. Wedyn 'does dim i'w weled ond mynyddoedd, a brynie, a choedwigoedd, ar bob tu. Lle ydio fase'n taro bardd neu freuddwydiwr fel cilfach bell o sŵn y boen sy'n y byd. Ac wedi'r cwbwl, ei le amlyca o, mhlant i, ydi'r fynwent.

"A'r pnawn crasboeth yma o fis Mehefin, roedd o'n ymddangos fel pe na base yno leiafrif o gwbwl, a bod y mwyafrif wedi gadael eu cartref yn y fynwent, a thrawsfeddiannu pob tŷ a thwlc o fewn y lle. Mor dawel oedd hi yno ag y gellid clywed yn glir hen gloc mawr yr ysgol bob dydd yn tipian cyn belled a buarth y Crown. Doedd na siw na miw arall ond y sŵn hwnnw na ellwch chi mo'i ddeffinio, sy'n yr awyr pan fo popeth yn berffaith dawel. Rhygnai ceffyl ei garn yrŵan ac yn y man ar gerryg llawr stabal y Crown, ac mi clywech o'n rhoi ambell gno ar ei fwyd rhwng ysbeidie o dawelwch, fel pe na base arno ddim angen am fwy o fwyd nag a fase'n ei gynnal i freuddwydio, ac mai cipio tamed rhwng y golygfeydd yr oedd o. Yr unig sŵn arall y gallsech chi ei glywed o'r ffordd fawr oedd cliciade gweill yr hen Farged Roberts y Gwŷdd, a ddoi'n ysbeidie di-reol trwy'r drws agored. Ac mae'n rhaid ei bod hi'n dawel felly. Ac yr oedd yn reit hawdd dychmygu cyflwr yr hen Farged ar y pryd,—mai gweu yr oedd hi, a phendympian bob yn ail. O dipyn i beth mi dawelodd hithe'n llwyr, ac ni welech unrhyw arwydd o fywyd o'r cyfeiriad hwnnw, ond y gath, a chwareuai ar garreg drws y ffrynt â hynny oedd yng ngweddill o'r bellen ddafedd ar ol iddi ei rholio yno trwy ddrws y cefn ac i lawr yr ardd a heibio talcen y tŷ."

"'Rargen fawr," medde Wmffre dan chwerthin.

"Mae o'n wired a'r pader i ti," medde Tomos Owen.

"Toc," medde fo, "dene sŵn traed yn dwad o'r pellter o gyfeiriad Allt y Felin, a gŵr bynheddig yr olwg arno fo, yn dwad i lawr tua chanol y Llan a'r fynwent. Daeth Elin Huws Nymbar Ten i'r drws, ac ar ei chyfer yr ochor arall yr oedd Leisa Ifans Nymbar Nain, yn disgwyl yn ddyfal am i'r gŵr diarth ddwad heibio."

"'Dyn diarth, Elin Huws,' medde Leisa Ifans.

"'Gŵr bynheddig, Leisa Ifans,' medde Elin Huws.

"Mi ddaeth y gŵr bynheddig heibio iddyn nhw,—

"'Sut ydech chi heddyw, Elin Huws a Leisa Ifans?' medde fo. Mi swiliodd y ddwy, a gwrido, a rhoi cyrtsi iddo fo, ond ddeydodd yr un o'r ddwy air.

"'Pwy oedd o, tybed?' medde'r ddwy efo'i gilydd, wedi iddo basio, yr un fath a chi'r plant mewn dosbarth holi ac ateb. Ac er na fedren nhw yn eu byw ddyfalu pwy oedd y dyn diarth, roedden nhw'n bur falch fod un gŵr bynheddig yn y byd mawr, llydan, yn eu nabod nhw.

"Ar y funud, dene sŵn curo ysgafn o'r fynwent fel tase hithe hefyd yn ymysgwyd wrth sŵn troed y gŵr diarth. A daliodd y curo'n gyson, a chryfhau bob curiad. I'r fynwent â'r gŵr diarth ar ei union. Roedd ei ddyfodiad wedi bywiogi tipyn ar drigolion y tuallan i'r fynwent, ac roedd hi'n debyg fel tase fo'n gneud yr un peth i rai o'r trigolion y tumewn. Aeth y gŵr bynheddig heibio cornel yr Eglwys tua'r sŵn curo. Y tu arall i'r Eglwys yr oedd gŵr ar ei linie o flaen carreg fedd dywodfaen, cŷn yn y naill law, morthwyl yn y llall, a phot jam llawn o ddŵr budr, a cherpyn, ar lawr wrth ei ochor o. Roedd golwg go fywiog ar y gŵr yma erbyn hyn, pan ddaeth y gŵr bynheddig wyneb yn wyneb ag o, ac yr oedd curiade'i forthwyl yn seinio dros y lle.

"'Wel, Lias Tomos,' medde'r gŵr bynheddig yn bwyllog, 'sut mae hi'n dwad ymlaen?'

"'Da iawn, da iawn, syr,' medde Lias Tomos.

"Ar y garreg fedd, mewn llythrenne newydd, oedd yn amlwg yn ffrwyth ymdrech ddiweddar Lias Tomos, roedd y geirie yma,—

AC HEFYD
AM ELIN OWEN,
PRIOD Y DYWEDEDIG IFAN OWEN,
YR HON A FU FA

"Fel hyn welwch." A dene Tomos Owen yn sgwenu'r peth ar ddarn o bapur i ddangos i ni fel yr oedd o.

"Dene cyn belled ag yr oedd ffrwyth llafur Lias Tomos yn cyrraedd," medde fo.

"Mi drychodd y gŵr bynheddig ar y geirie yma, ac wedyn yn ddwys a hir ar eirie twyll, dipyn yn aneglur, uwchlaw iddyn nhw," medde Tomos Owen.

Ddeydodd o run gair am dipyn wedyn, a ninne'n ofni anadlu, gan y gwyddem fod rhywbeth mawr ar ei feddwl o. Ysgydwodd ei hun toc, ac aeth yn ei flaen. Ac medde fo,—

"'Ac mae o wedi marw ers deunaw mlynedd ar higien?' medde Lias Tomos gan weithio'r llythyren "r."

"'Ydi, ydi,' ebe'r gŵr bynheddig, a dwyster ei wedd yn dyfnhau.

"A dyma'r geirie." A sgwenodd Tomos Owen y geirie ar bapur. Edrychodd arnyn nhw'n hir, yna dangosodd nhw i ni. A dyma nhw,—

ER SERCHUS GOFFADWERIAETH
AM IFAN OWEN,
TY'N LLWYN, O'R PLWYF HWN,
YR HWN A FU FARW RHAGFYR 2IL, 1891,
YN 39AIN MLWYDD OED.

"Yn nghanol ein bywyd yr ydym yn angau."

"Ochneidiodd y gŵr bynheddig," medde fo, "a throdd draw. Ochneidiodd Lias Tomos, ynte, ochenaid swyddogol, a daliodd i weithio'r llythyren 'r'."

Cododd Tomos Owen ar ei draed, ac aeth i edrych trwy'r ffenest, a ninne fel llygod, a'r trane'n rhuo'r tuallan, a'r glaw fel tase rhywun yn ei dywallt o fwcedi. Daeth yn ei ol, ac ysgydwodd ei hun fel pe tase fo'n trio 'i ddeffro ei hun. Ac aeth yn ei flaen.

"Ryw ddegllath oddiwrth y garreg yma," medde fo, "roedd carreg farmor odidog. Ac am ysbaid wedyn edrychai'r gŵr bynheddig i bobman yn y fynwent ond ar garreg dywodfaen Ifan Owen a'i wraig, ac ar y garreg farmor ddegllath i ffwrdd. Ac mi ddeyda i chi'r rheswm pam.

"Does dim Ty'n Llwyn yn bod i blant heddyw,—dim ond lle yng ngodre Coed y Garth o'r enw Cyt y Bugiel. Ond mi fu Ty'n Llwyn yno unweth, a chenhedlaeth ar ol cenhedlaeth yn byw ynddo fo,—yn cael eu geni ynddo, yn priodi ohono; yn gofidio, a llawenhau; yn pechu a chrefydda; yn torri clonne a'u cyfannu; yn diodde a marw. Ac un o'r rhai ola i fynd drwy'r driniaeth yno oedd Ifan Owen.

"Er nad oedd mynd i fyw i Dy'n Llwyn yn rhyw ddyrchafiad mawr, mi lawenychodd Ifan Owen â chalon lawn pan aeth yno o'r capel, fore ei briodi ag Elin y Llety, â'i wraig ifanc yn pwyso ar ei fraich. Mi lawenhaodd uwch ben geni pob un o'i blant, ac mi ddiolchodd yn ddwys i'r Brenin Mawr bob tro y dychwelai'i wraig yn ol i'r gornel. Mi ddioddefodd Ifan Owen hefyd wrth edrych i wynebe 'i wraig a'i blant, a'r diodde yma a'i hanfonodd o i'w fedd yn beder ar bymtheg ar higien oed."

Rhwng popeth, roedden ni wedi rhyw hanner ddychrynu. Mi wnaeth hanes Ifan Owen yn priodi i mi gofio am briodas Lisi'r Pentre, ac Elis y Graig wedi cael hanner pwys o reis i luchio am ei phen, ond yn ei dywallt yn dawel ar lawr pan oedd pawb arall yn lluchio, am ei fod o'n swil. Ac er mai Elis oedd yn eistedd yn fy ochr i yn yr efel, roedd arnai ormod o ofn i edliw'r peth iddo fo.

"Tŷ â hanner ei do'n wellt, a'i hanner yn slaets, a slabie cerryg, a thywyrch, oedd Ty'n Llwyn," medde Tomos Owen. "Roedd ei lawr yn bridd, ag eithrio carreg yr aelwyd, a'r garreg oedd dan draed Elin Owen yn y gornel y mage hi ei phlant ynddi, a'r garreg oedd yn y gornel arall dan linie Ifan Owen rhag i'r llawr pridd godi crydcymale ar ei benneglinie, gan mor gyson yr oedd o arnyn nhw yn y gornel honno. A doedd dim llun carped yn unman, dim ond dau ddarn sach, gymint â chadache poced, ar y ddwy garreg o bob tu i'r aelwyd.

"Y tu ol i Dy'n Llwyn yr oedd nyrs fawr o goed pinwydd,—cartre mebyd ffesants y plas. O flaen y tŷ dan garreg y rhiniog roedd ffos ddŵr. Ac wedi nos, anamal y clywid dim sŵn oddiallan ond sgrech ambell ffesant a ddychrynid gan heliwr, a murmur parhaus y ffos. Ac yn nyfnder nos sŵn ceffyl Mr. Richmond, ffarm y Daran Fawr, yn dwad adre o un o dafarne'r Llan, a sŵn y marchogwr ei hun yn rhygnu rhegi trigolion yr ardal am na wnai'r un ohonyn nhw ymostwng i'w wasanaethu o fel y dylent, ac ynte'n Sais. Ac ni bu storm drane er y dyddie hynny heb i blant Ty'n Llwyn gofio am Mr. Richmond y Daran Fawr.

"Gwas yr Hafod oedd Ifan Owen. Mi gode gyda'r wawr, a dychwelai adre gyda'r machlud, hyd yn oed yn yr ha. Prin oedd ei gyflog o, ond medrai Elin Owen ei estyn cyn belled â neb heb neud gwyrth. A chyda help ambell i gypaned o laeth enwyn a meipen, magodd ei phlant heb iddyn nhw fawr erioed wybod beth oedd eisio bwyd.

"Ond mi ddaeth tro ar fyd, ac mi ddechreuodd Ifan Owen nychu. Daliodd Mr. Huws yr Hafod o, gefn dydd gole, yn pwyso ar ei fforch ar ganol cae, ac mi gwyliodd o am ddeng munud heb weld osgo ynddo i symud. Rhoddodd wers o'r ysgrythur iddo ar olwgwasanaeth, ac mi rhybuddiodd o na fedre fo ddim goddef hynny wedyn. Ond mi daliodd o drachefn ymhen deuddydd yn eistedd ar garreg yng nghanol cae, pan ddylase fo fod yn agor ffos, ac mi hysbysodd o mai gartref oedd y lle i orffwyso. Mae'n wir fod Ifan Owen newydd gael cwrs o besychu nes bod bron darfod amdano. Ond roedd Mr. Huws, druan ohono, yn bur drwm ei glyw ar adeg felly. Mi blediodd Ifan Owen yn ddwys ger ei fron dros ei wraig a'i blant, ac mi fentrodd hyd yn oed gyfadde iddo fo ei nychtod. Ateb Mr. Huws oedd fod rhybuddio unweth yn ddigon, nad hospitol oedd yr Hafod, ond ffarm, ac mai dynion cryfion oedd eisio ar ffarm. A chan y cydnabyddid Mr. Huws yn grefyddwr selog, dylid ei gymyd ar ei air. A gwir a ddeydodd o mai ffarm oedd yr Hafod. Ffarm fwyaf yr ardal oedd hi, â deugien o wartheg godro ynddi, a dwy fil o ddefed ar ei moelydd. A rhyfedd oedd dylni Ifan Owen os camgymerodd yr Hafod o bobman am hospitol.

"Mi drodd Ifan Owen tuag adre i ddeyd wrth ei wraig nad oedd o'n weithiwr yn yr Hafod mwy. Mi drychodd hithe arno am dipyn, ond gwelodd ei wyneb yn llwydo fwyfwy, yna mi drodd ei gwyneb a syllodd yn gadarn i'r tân. Lle da, mhlant i, ydi tân am sychu dagre, hyd yn oed cyn iddyn nhw adael cartre. Mi grwydrodd Ifan Owen lawer o ffarm i ffarm, ond nid oedd ar neb eisio gweithiwr a ddaliwyd yn gorffwyso gefn dydd gole. Mi fu ymhobman yn ei dro ond gyda Mr. Richmond, y Daran Fawr. Doedd unrhyw was yn ddigon rhyfygus i'w iselhau ei hun trwy ofyn am waith i Mr. Richmond pe tase rhithyn o obaith am le yn rhywle arall, o achos onid Mr. Richmond oedd y gŵr, ar ddiwedd cynhaea gwlyb, a regodd Dduw o dop y dâs. Roedd yr ardal yn ofni cynhaea gwlyb arall am y beiddgarwch ysgymun yma. Ac mi draddododd Mr. Huws yr Hafod araith ddwys i'w weision ar barchedigaeth. O achos ofnai Mr. Huws Dduw, a chredai mai Duw a lywodraethai'i gynhaea o."

Yr oedd golwg ofnadwy ar Tomos Owen erbyn hyn, a wyddem ni ddim yn iawn pa un ai bod efo fo yn yr efel, neu allan yn y trane oedd fwya dychrynllyd. Roedd o'n cerdded o gwmpas yr efel ers meityn ac yn bwrlymu siarad, a'i lygid o'n wyllt ac yn gochion. Yn y fan yma mi safodd yn sydyn, a bu am dipyn heb ddeyd dim, a ninne'n edrych ar ein gilydd, a Wil Tŷ Hen yn rhyw ddechre crio. Eisteddodd Tomos Owen i lawr, a dechreuodd wedyn yn fwy tawel, a chryndod yn ei lais.

"Wel, mhlant i," medde fo'n ddwys, "mi feddyliodd Ifan Owen gymint am ei gyflwr di-waith nes anghofio'i nychtod, ac mi ddaeth rhyw nerth iddo i grwydro na feddyliodd erioed amdano. A thystiai bob nos wedi chwilota cyson trwy'r dydd nad oedd o wedi blino dim. Pan gyrhaeddodd o adre un nosweth roedd y ddau blentyn ienga yn eu gwlâu, a'r ddau hyna,—Hannah a John,—wrth eu swper. Sgrifennu roedd Hannah ei henw ar damed o fara efo gwaelodion tun trieg, a John yn ei fwynhau'i hun trwy ddotio at ffurf ei ddannedd mewn brechdan doddion. Roedd Jane Jones, Pant yr Afon, wedi galw yno'n ystod y dydd efo'r toddion. Gwas ffarm oedd ei gŵr bithe, ond roedd hi wedi cael dau botied o'r ffarm ar ol priodas y ferch hyna yno. Ac roedd gan Ifan Owen, ynte, newydd da,—roedd o wedi cyfarfod â Mrs. Huws yr Hafod yn ystod y dydd, a hithe wedi deyd wrtho y cawse fo gwpaned o laeth enwyn yn rhad ond i rywun fynd i'w nol. Aeth John, y bachgen hyna, yno drannoeth i'w nol o, ac mi gafodd nid yn unig dunied o laeth, ond dwy feipen braf hefyd. Pan ddychwelodd Ifan Owen o'i grwydriade y nosweth honno, wylodd Elin Owen mewn diolchgarwch distaw, mhlant i, wrth y tân am fod y byd mor rhyfeddol o garedig wrth bobol ar lawr. Ac mi ddiolchodd Ifan Owen, ynte, ar ddiwedd y dydd, yn wresocach nag erioed, ar y tamaid carreg las a'r darn sach, am hael drugaredde Rhagluniaeth. Roedd o'n pwysleisio nad oedden nhw eto wedi eu darostwng i fara sych. Ac er nad oedd o 'n cofio, yng ngrym ei ddiolchgarwch, ddim ond am y nosweth honno, gwir a ddeydodd,—ia, gwir a ddeydodd o, canys roedd Rhagluniaeth wedi darparu digon o ddŵr genau hyd yn oed iddyn nhw i fwydo'u bara. Oedd, roedd digon o hwnnw."

Ac yn y fan yma cododd wedyn a phoerodd i bendraw'r efel. Erbyn hyn roedd pawb yn edrych arno fel tase ganddo gyrn ar ei ben. A fynte'n ddyn diarth hefyd. Dyna'r pnawn rhyfedda aeth Q dros ein penne ni. Dene fo'n eiste ac yn gafael mewn morthwyl, ac yn dechre siarad wedyn gan gadw amser ar yr eingion am dipyn efo'r morthwyl yma.

"Ond darfu'r llaeth enwyn," medde fo, "a'r maip, a'r trïeg, a'r toddion, a nosweth ryfedd oedd honno y bu raid i Ifan ac Elin Owen fod o bnawn un diwrnod tan drannoeth heb damed, rhag i'r plant ddysgu beth oedd eisio bwyd. A nhw'n myfyrio ar eu dyfodol o flaen ychydig farwor, y goedwig yn llethol dawel, a hyd yn oed y ffrwd wedi distewi yn eu myfyrdod nhw, dene sŵn rhoncian ymlaen o'r tuallan,—gŵr y Daran Fawr oedd yn pasio, ac yn melltithio'r Cymry rhwng rhegfeydd am na wnae nhw ymostwng i'w wasanaethu o, gan bwysleisio gogoniant llachar y genedl y tarddai o ohoni hi.

"Mi wrandawodd y ddau arno fo'n dwad, yn pasio heibio, ac yn mynd, nes i'r sŵn golli yn y pellter. Edrychodd Ifan Owen ym myw llygid ei wraig, edrychodd hithe i fyw ei lygid yntau, y ddau am y llwyta,—ond cochni annaearol y marwor oedd yn tywynnu ar eu gwedd.

"'Wel,' medde Ifan Owen toc, 'yfory amdani.'

"Mi ddechreuodd gwefuse Elin Owen grynu, ond ddaeth cysgod deigryn ddim i'w llygid hi. Ond bore drannoeth roedd ei gobennydd hi'n wlyb ddiferol, am fod ei gŵr wedi ei ddarostwng i ofyn am waith i ŵr y Daran Fawr, o achos gwydde hithe'n rhy dda na pharche'r ardal byth mwy neb fase'n ymostwng i weithio iddo fo. Ond wedi'r cwbwl beth sydd i ddyn i'w neud, â'i blant yn gwelwi bob dydd?

"Mi gafodd Ifan Owen waith yn y Daran Fawr, ac ymhen yr wythnos mi ddaeth â chwe swllt i Elin,—chwe swllt, mhlant i,—chwe swllt yr wythnos a'i fwyd oedd cyflog Ifan Owen i wynebu'i deulu.

Ar bnawn y dydd cynta o Ragfyr, mi ddaeth Mr. Richmond ato i ddeyd bod yn rhaid iddo fynd dros y nos honno i nol glo. A thaith bell oedd y daith i'r glo. Mi gychwyunid un min nos, a theithio trwy'r nos, a dwad yn ol ddyfnder nos drannoeth. Welai Ifan Owen fawr o ddim yn hyn nes i Mr. Richmond enwi'r cyffyle,—Bocsar, hen geffyl musgrell a bregus oedd un, a cheffyl ifanc newydd ei dorri i lawr oedd y llall. Roedd Ifan Owen yn ofni'r ceffyl ifanc yn fawr, o achos mi wydde fwy am ei nychtod na neb arall,—na hyd yn oed ei wraig ei hun.

"Nosweth oleu, rhwng ysbeidie o fwrw eira oedd y nosweth honno, a chaenen o eira tros y wlad. Rhaid oedd mynd ddwy filltir cyn cyrraedd Llanfangu ei hun, ac wedyn i'r mynydd, a ffordd anial, unig, am filltiroedd maith oedd y ffordd fynydd. Mi elwid rhan o'r mynydd, oedd ar godiad tir, yn Faes y Lladron, o achos bod traddodiad ar droed mai yno y llechai'r lladron ddyddie pedoli'r gwartheg a mynd â nhw i Loeger, ac ysbeilio porthmyn ar eu ffordd yn ol. Anodd oedd gweld y ffordd fynydd ar nos eira, ac roedd Elin Owen yn meddwl yn bryderus trwy'r nos am hynt ei phriod.

"Roedd hi'n bwrw eira wedyn drannoeth, ac Elin Owen yn dwad o'r siop fin nos lle bu hi'n toddi tipyn ar y ddyled efo'r cyflog. Ar y funud honno roedd yr awyr yn glir, y sêr yn fflamio mwy nag arfer, a'r wlad yn wen ddisglair dan y gawod oedd newydd ddisgyn, ac Elin Owen yn brysio adre at ei phlant dan synfyfyrio uwchben eu rhagolygon. Mi wibiodd seren ar draws yr awyr, a chododd hithe ei golwg i edrych arni. Wedi ei dilyn nes iddi ddiffodd, mi dynnodd ei golwg yn ol ar y ffordd fawr. A gwelai rywun yn siglo dwad i'w chyfarfod gan sefyll o'i blaen. Fferrodd ei gwaed pan adnabu hi ei osgo. Pwy oedd o ond Ifan Owen ei gŵr, a hithe'n tybio ei fod o ymhell iawn o'r fan honno.

"'Ifan,' medde hi, 'be ydech chi'n ei neud yma?'

"Atebodd Ifan ddim un gair iddi, ond aeth heibio iddi gan edrych yn ofnadwy ddwys. Mi drodd hithe drach ei chefn i alw arno eilweth. Ond doedd Ifan Owen ddim yno, na siw na miw amdano. Mi drychodd Elin Owen yn wyllt ar y ffordd fawr, ond doedd ôl ei draed ddim yno chwaith.

"Na, mhlant i," medde fo â chrec yn ei lais, "doedd Ifan Owen ddim yno, a 'dallse fo ddim bod yno, o achos ar y funud honno roedd o newydd orwedd i orffwys, am ei dro ola ar ganol ei waith, ar allt Maes y Lladron. Yn gorwedd ar draws ei draed roedd olwyn trol, ac ar ei gorff lwyth o lo. Yn ei ymyl roedd hen geffyl yn gruddfan gan guro'i ben ar y ddaear, ac yn y pellter clywid sŵn myglyd carne ceffyl ifanc yn carlamu trwy'r eira, a'i gadwyne'n llusgo ar ei ol. Roedd y sŵn yn cyrraedd ymhell, ond er pelled ei gylch, roedd trigfanne dyn ymhellach.

"O'r diwedd mi dawelodd y cynnwrf. Doedd dim sŵn yn unman,—dim ond siffrwd yr eira ar lyn oedd yng ngwaelod yr allt. Disgynnai'n gyson gan wynnu'n ddiwyd a charuaidd hen geffyl llonydd, a throl lo, a nyddu'n dyner gwrlid dros wyneb y gorffwyswr tawel dan y llwyth. O achos doedd yno neb ond yr Un a daenellai'r eira, i ddiweddu Ifan Owen Ty'n Llwyn."

Wedi deyd hyn, mi drychodd Tomos Owen yn hir i'r lle tân heb gymyd arno ei fod o'n gwybod ein bod ni yno. "Ddoi di adre?" medde fi wrth Wmffre, a dene ni'n rhyw ymysgwyd tipyn gan feddwl llithro allan. Deffrodd hyn Tomos Owen,—

"O ia," medde fo'n siriol, "sôn am bnawn crasboeth o fis Mehefin fel hwn oeddwn i ar y dechre, yntê? Wel, ar y pnawn crasboeth yma o Fehefin, mi safe John, mab Ifan Owen, fel gwrbynheddig ar lan bedd ei rieni. Wedi methu'n hir, mi drodd o'r diwedd ac mi syllodd ar y garreg, wedyn mi drodd ei wyneb at y garreg farmor. Casglodd ei boer, anadlodd yn drwm, ond mi ymataliodd. Tarodd i'w ben yn sydyn y gellid sarhau hyd yn oed boeryn wrth ei fwrw ar ambell fedd." A gwenodd Tomos Owen yn hir tan edrych tua'r drws fel tase fo wedi anghofio wedyn ein bod ni yno. Roedd y glaw wedi stopio erbyn hyn, ac mi gododd pawb i fynd allan. Cododd Tomos Owen ar ei draed hefyd. Wmffre a fi oedd y ddau ola'n mynd drwy'r drws. Tynnodd Wmffre at fy nghôt ac mi aethom i'n dau yn ein hole.

"Tomos Owen," medde Wmffre, "Ar fedd pwy yr oedd y garreg farmor,—ar fedd Mr. Huws yr Hafod neu fedd Mr. Richmond y Daran Fawr?"

"Dydio fawr o bwys, mhlant i," medde Tomos Owen, tan wenu, "ewch adre rwan, mae hi'n codi'n braf ar ol y storm,—dacw i chi bont law. A dydio fawr o bwys gan y dyn a wlychodd yn y storm pan wêl o 'r bont law. Diolch am bob pont law'n tê, mhlant i?"

Ac i ffwrdd â ni. Ond wrth fynd drwy'r drws mi glywem Tomos Owen yn deyd rhyngddo a fo ei hun, dan ddechre curo'r eingion,—"Do, mi welodd Jac fy mrawd bont law y pnawn hwnnw."

Nodiadau

[golygu]