Neidio i'r cynnwys

Oriau Gydag Enwogion/Ceiriog

Oddi ar Wicidestun
William Carey Oriau Gydag Enwogion

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Mathew Henry

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
John Ceiriog Hughes
ar Wicipedia





CEIRIOG.

MEDI 25, 1832

Mab y mynydd ydwyf innau
Oddi cartref yn gwneyd cân,
Ond mae'm calon yn y mynydd
Efo'r grug a'r adar mân!"
—Ceiriog.

"Ceiriog ydyw prif fardd telynegol y ganrif. . . . Y mae miwsig yn yr oll o'i ganeuon. Symledd, dychymyg chwim a chwareus, a chydymdeimlad byw â natur,—dyna brif nodweddion Ceiriog."

—W. Lewis Jones ("Caniadau Cymru ")

"Braint y bardd yw breuddwydio yr oes ar ei ol. Os cododd Ceiriog y llen llwyd—oer oddiar Gymru Fu, safodd hefyd yn y ffenestr ddeheuol i weled gobeithion Cymru Fydd."

—Elfed.

AR un ystyr, hawdd fuasai llanw oriel mis Medi â chymeriadau enwog, hen a diweddar. Yn ystod teyrnasiad y mis hwn,—mis melus y ffrwythau addfed, a'r ydlan lawn, y gwelodd llu o lenorion a beirdd oleuni dydd. Yn mis Medi y ganed James Thompson (1700), bardd y "Tymhorau," un feddai fedr arbenig i ddesgrifio allanolion Anian. Yn ystod yr un mis, a'r un ganrif, y ganed Samuel Johnson (1709); John Foster (1770), a Felicia Hemans (1793), barddones dlos, ac un a garai Gymru, ei hanes, a'i golygfeydd.

CEIRIOG A'I FERCH MYFANWY

Ac ar y pumed-ar-hugain o Fedi, yn y flwyddyn 1832, blwyddyn y "Reform Bill," y ganed CEIRIOG, bardd y gân, y rhiangerdd, y delyneg, prif-fardd telynegol ei wlad a'i oes. Yn yr un flwyddyn y ganed Islwyn, bardd dwysder, cyfriniaeth a swyn ysbrydol Natur, bardd y nos a'r cysgodau; yr awenydd oedd yn clustfeinio ar gyfrinach y bydoedd,―

Hyawdledd dwfn y sêr sydd gyda'r wawr yn tewi."

Torrodd y naill a'r llall lwybrau newyddion a thra gwahanol. Yr oedd y ddau yn greawdwyr cyfnodau ym marddoniaeth Cymru. "Nant y mynyddoedd awen Ceiriog, yn llawn ynni a nwyf; afon y dyffryn oedd awen Islwyn, a sŵn llanw'r môr yn murmur ar ei glannau.

Treuliodd Ceiriog ei faboed o dan gysgodion y Berwyn, mewn ardal wledig, hollol Gymroaidd, y tu cefn i'r byd. Yn yr un fro y treuliasai Huw Morus, Pont y Meibion, dorraeth ei oes. Lle ardderchog i feithrin bardd,-bardd anian, yn enwedig. Ac yr oedd Ceiriog wedi ei encinio i'r swydd. Suddodd yr olygfa i'w galon, i'w gôf. Yno, yn nghanol gwylltineb y bryniau, a hudoledd yr encilion tawel, y derbyniodd efe yr argraffiadau oeddynt i osod eu delw ar ei ganeuon, ac i gadw ireidd-dra ieuenctyd yn ei feddylddrychau.

Yn gynnar ar ei oes, gadawodd ddyffryn Ceiriog a neillduaeth y mynyddoedd, ac aeth i Fanceinion; a hyny at orchwyl rhyddieithol dros ben. Onid gwaith felly ydyw bod yn glerc mewn swyddfa rheilffordd? Pa berthynas sydd rhwng barddoniaeth ac invoice a time tables? Gallesid tybio, ymlaen llaw, y buasai yr alwedigaeth yn ddiweddglo i dueddiadau barddol y llanc o fro y Berwyn. Ond fel arall y bu. Yn Manceinion y deffrodd awen Ceiriog. Adgyfododd yr hen lanerchau, a daethant yn adgofion byw, yn drylawn o brydferthwch a cheinder. Fel y dywed Elfed yn ei lyfr gwerthfawr ar Athrylith Ceiriog,—" Nid wrth syllu yn ngwyneb y prydferth y mae y bardd yn breuddwydio ei freuddwydion goreu; ond wrth ddal y prydferth yn ngoleuni dwys—dyner Adgof. . . . Yn mynwes hiraeth y mae yr awen wedi breuddwydio lawer gwaith, ac ar wefus hiraeth y clywodd hi gyntaf lawer mabinogi dyddanus." Fel yna y bu gyda Cheiriog. Yn Manceinion, yn nghanol berw y rheilffordd, a mwrllwch y ddinas, y daeth argraffiadau mebyd yn brofiad, ac yn farddoniaeth i'w ysbryd,

"Fe glywai hen glychau Llanarmon,
Yn fachgen fe deimlodd ei hun,
Breuddwydiodd hen deimlad y galon,
Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd."


Yno y gwelodd efe y mynyddoedd yn eu gwir ogoniant,

Hen fynyddoedd fy mabandod,
Syllant eto ger fy mron,
Wele fi yn ail gyfarfod
Gyda'r ardal dawel hon."

Yno y clywodd efe fiwsig y ffrydlif fynyddig honno sydd wedi dod yn rhan o lenyddiaeth ei wlad,

Nant y mynydd groew, loew,
Yn ymdroelli tua'r pant.
Rhwng y brwyn yn sisial ganu,
O. na bawn i fel y nant!"

Ac oddiyna y crwydrai ei ddychymyg at y "Garreg Wen," o felus gof,

"Fy mebyd dreuliais uwch y lli
Yn eistedd yno arni hi,
A mwy na brenin oeddwn i
Pan ar fy Ngharreg Wen!"

Yno, hefyd, y deuai cyngor ei fam, fel angel gwarcheidiol i'w gadw rhag llwybrau yr ysbeilydd,

Mae ysbryd yr oes, megis chwyddiad y môr,
Yn chwareu â chreigiau peryglon,
O'm hamgylch mae dynion a wawdiant Dduw Iôr,
Wyf finnau ddiferyn o'r eigion:
Fy nghamrau brysurant i ddinistr y ffôl,
Ond tra ar y dibyn echryslon,
Atelir fi yno gan lais o fy ol,
Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.'"


Ac yno, bryd arall, y gwelai

. . . Bren yn dechreu glasu,
A'i ganghenau yn yr ardd,
Ac yn dwedyd wrth yr adar,
Do, fe ddaeth y Gwanwyn hardd."

Ond y mae difynu Ceiriog yn orchwyl anorffen. Onid oedd ei ganiadau yn "fil a phump?" Canodd ar lawer o fesurau, ac ar lawer o destynau. Canodd awdlau, cywyddau, rhiangerddi, marwnadau, tuchangerddi, ac emynau. Ond y mae cuddiad ei gryfder yn ei Ganeuon. Rhoddes safle newydd i'r gân, y delyneg, yn marddoniaeth Cymru. Ac y mae Caneuon Ceiriog yn meddu rhyw briodoleddau o'r eiddynt eu hunain. Gellir eu hadwaen ar unwaith. Mae delw ac argraff arbenig arnynt. Nis gellir ei ddeffinio yn fanwl, hwyrach, ond teimlir ei fod, er hyny. Beth yw nodweddion ei ganiadau ef, rhagor pawb arall? Naturioldeb, dyna un peth amlwg. Ond y mae hwnnw yn gynyrch diwylliant, a choethder. Er mor syml yr ymddengys ei ganeuon, o ran ffurf, a geiriau, y mae y symledd hwnnw yn gorwedd ar ddeddfau manylaf celf. Beth yn fwy syml na'r gân i'r "Eneth Ddall,"

"Siaradai'r plant am gaeau
A llwybrau ger y lli,
Ac am y blodau dan eu traed,
Ond plentyn dall oedd hi!"


Beth yn fwy perffaith o ran syniadaeth a mynegiant?

Dwy ffrwd yn tarddu o'r un ffynon ydyw tynerwch ac arabedd." Yr oedd y naill a'r llall yn rhedeg yn glir drwy ganeuon Ceiriog. Y mae y wên a'r deigryn yn pelydru drwyddynt. Canodd lawer o bethau ysmala, digrifol; ond odid fawr na cheir rhyw gyffyrddiad tyner yn cloi y gân. A phan yn canu ar destynau hiraethus, pruddaidd, y mae y wên yn goleuo'r tywyllwch, ac yn balmeiddio'r gofid,

"Mewn bwthyn diaddurn yn ymyl y nant,
Ymddiried i'r nefoedd mae'r weddw a'i phlant;
Ni fedd yr holl gread un plentyn a wâd
Fod byd anweledig os collodd ei dad."

Nis gallwn aros gyda'i riangerddi poblogaidd, ei eiriau gwladgarol ar hen alawon Cymru. Dichon mai yn y rhain y bydd efe byw. Dyma drwydded ei anfarwoldeb. Cododd yr hen alawon cain o ddinodedd; treiddiodd i'w gwir ysbryd, a chorfforodd draddodiadau a dyhead ei genedl yn y miwsig pêr oedd wedi bod yn disgwyl cyhyd am ryw fardd i'w cyflwyno i sylw y wlad. Dyna a wnaeth Ceiriog, a bu ei ymdrech yn llwyddianus. Deffrodd wladgarwch yn ysbryd ei genedl. Canodd am hanes gwych ei gorffenol; canodd ddelfrydau ei dyfodol. Safodd yn "ffenestr ddeheuol" y gweledydd, a chanfu "obeithion Cymru Fydd." Cana am "Yr Ysgol Sul a'r Beibl," am " Lili wen y dŵr," "Dynerwch at y gwan a'r ieuanc,"

"Bydd dyner wrth y plentyn bach
Fel ton ar dyner dant,
'Does dim ond cariad Iesu Grist
Yn fwy na chariad plant."

Ni chafodd Ceiriog ddychwel i fro ei febyd. Aeth o Fanceinion i Lanidloes, ac oddiyno i Gaersŵs fel arolygydd y Van Railway. Ac yno, yn Ebrill, 1887,—naw mlynedd ar ol Islwyn, y bu efe farw, yn 55 mlwydd oed. Ond yn ei farddoniaeth, yn ei ganeuon, y mae yn fyw, a'i enw'n ymledu i lenyddiaeth y byd. Darllenir, adroddir ei" Fyfanwy " a'i "Alun Mabon " gan oes newydd. Y mae cyfaredd yn gorffwys ar ei ganeuon. Dichon iddo ganu rhai pethau salw, israddol, ond aiff y rhai hyny o'r golwg. Ond am Ceiriog, yn ei fanau goreu, Ceiriog dan eneiniad yr awen, nid oes marw na bedd yn ei hanes. Gellir dweud am dano, fel yr ehedydd ar riniog y nef,

"Canu mae, a'r byd a glyw
Ei alaw lon o uchel le;
Cyfyd hiraeth dynol ryw
Ar ei ol i froydd ne,
Yn nes at ddydd, yn nes at Dduw,
I fyny fel efe!


Nodiadau

[golygu]