Oriau Gydag Enwogion/Mathew Henry

Oddi ar Wicidestun
Ceiriog Oriau Gydag Enwogion

gan Robert David Rowland (Anthropos)

William Cowper

MATHEW HENRY.

HYDREF 18, 1662.

YN nyddiau Siarl y Cyntaf yr oedd perllan odidog yn perthyn i balas brenhinol Whitehall, Llundain. Ceidwad y berllan oedd John Henry, ac efe oedd Gymro. I'r John Henry hwnnw yr ydoedd mab,—unig fab,yn dwyn yr enw Philip. Treuliodd y bachgen ei faboed yn ngerddi y Whitehall, yn cydchwareu â bachgen arall oedd i gael ei adwaen mewn hanes fel Siarl yr Ail. Gwelodd lawer o bethau yn ystod ei arhosiad yn amgylchoedd y palas. Bu yn gwneyd negesau i'r Archesgob Laud. Cafodd ei addysgu gan Dr. Owen a Goodwin. Bu yn llygad-dyst o'r olygfa brudd yn Whitehall pan ddienyddiwyd Siarl y Cyntaf. Bwriodd ei goelbren gyda'r Piwritaniaid, a chafodd ei ordeinio yn weinidog gyda'r Presbyteriaid. Ymsefydlodd yn Worthenbury, plwyf bychan yn y rhan honno o Swydd Fflint sydd yn llechu yn mynwes Sir Gaer, yn nghwmwd Is y Coed. Praidd bychan oedd o dan ei ofal, mân-dyddynwyr, gan mwyaf; a'r mwyafrif ohonynt yn ddigon dwl ac anwybodus. Yr oedd yn gryn gyfnewidiad i ŵr fel Philip Henry i gyfnewid bywyd y palas am fywyd gwledig, gwerinaidd; a chael ei ysgar oddiwrth gylchoedd cydnaws a'i wrteithiad meddyliol. Ond yr oedd y gweinidog ieuanc yn meddu argyhoeddiadau cryfion. Rhoddes ei oreu i bobl ei ofal. Ymhyfrydai mewn pregethu ac addysgu ei wrandawyr. Ac yr oedd yn y fro honno balasdy o'r enw Broad Oak, ac yno yr oedd boneddiges ieuanc, weddeiddlwys,—aeres yr etifeddiaeth. Taflodd serch ei hudlath dros y ddau. Yr oedd ei thad yn anfoddlawn ar y dechreu. "Priodi dyn diarth," meddai; "'does neb fedr ddweud o ble y daeth o." "Y mae hyny yn wir," ebai y ferch ieuanc, "ond er nas gwn o ble y mae yn dyfod, mi a wn i ble y mae yn myned, ac mi hoffwn fynd i'w ganlyn." Ac felly y bu. Ymsefydlodd Philip Henry yn y Broad Oak; yno yr oedd ei gartref am ran fawr o'i oes. Ac yno, ar Hydref 18, yn y flwyddyn 1662, y ganwyd Mathew Henry. Blwyddyn dywell oedd honno; blwyddyn troi allan y Ddwy Fil, am na phlygent i ewyllys y Brenin. Ac un o'r ddwy fil oedd Philip Henry. Da iddo erbyn hyny fod y Broad Oak yn gysgod iddo. Gwaherddid iddo bregethu; cafodd ei amddifadu o'i fywoliaeth, ond cysegrodd ei neillduaeth i ddibenion ardderchog. Cafodd Mathew ieuanc yr addysg oreu, a'r meithriniad mwyaf gofalus, ar aelwyd ei rieni. Ac yr oedd gogwydd ei feddwl yntau yn bob mantais i'r addysg. Cafodd ei wreiddio mewn gwybodaeth a deall, a derbyniodd ddeuparth o ysbryd ei dad yn ei hoffder at yr Ysgrythyrau.

Gyda threigliad y blynyddau, ciliodd cysgodion gormes, ac estynwyd terfynau rhyddid. Dechreuodd Mathew Henry bregethu yn 1685, ac ymsefydlodd fel gweinidog yr Efengyl yn Nghaerlleon. Parhaodd y cysylltiad am chwarter canrif. Yr oedd cylch ei ofal yn fawr, yn cynnwys tua deg ar hugain o eglwysi. Yr oedd yn bregethwr teithiol yn ystyr oreu y gair. Ond yn ystod ei oes weinidogaethol, pregethodd unwaith bob mis, yn ddifwlch, yn ei eglwys ei hun yn Nghaerlleon. Ei arfer yno oedd pregethu y Bibl o'i gwr, rhan o'r Hen Destament yn y boreu a chyfran o'r Testament Newydd yn yr hwyr. Ac yr oedd ei holl bregethau yn cyfranogi o'r elfen esboniadol,—nid esboniad sych, cywrain, ond yr esboniad hwnnw sydd yn cynhesu y galon tra yn goleuo y deall, "gan gydfarnu pethau ysbrydol â phethau ysbrydol." Heblaw hyny, yr oedd ganddo ei weekly lecture,—darlith ar noson waith ar fater Biblaidd. Testyn y gyfres hon ydoedd, "Cwestiynau y Bibl," a pharhaodd am ugain mlynedd! Dechreuodd yn Hydref, 1692, gyda'r cwestiwn—"Adda, pa le yr wyt ti?" ac aeth rhagddo yn gyson a diorffwys hyd y cwestiwn olaf yn llyfr y Datguddiad. Pa lwydd fuasai ar gynllun fel yna yn y dyddiau hyn? Ond dyna ddull Mathew Henry o wneyd ei waith,—pregethu, darlithio, cateceisio yn ddibaid; a'r cyfan yn canolbwyntio yn y Bibl. Nid oes angen dweud ei fod yn efrydydd caled a dyfal. Codai am bump yn y boreu, a daliai ati hyd y prydnawn, ac eto nid. meudwy mohono. Yr oedd yn oludog mewn cyfeillion, ac yn un o'r dynion mwyaf cymdeithasgar yn ei oes.

Ond ei waith mawr,—y gwaith sydd yn cadw ei enw yn wyrdd yn mysg ei gydwladwyr,—oedd ei Esboniad adnabyddus ar y Bibl. Pa ddarllenydd Biblaidd na ŵyr am Esboniad Mathew Henry? Yr oedd y gwaith wedi tyfu o'i feddwl, o'i lafur gweinidogaethol, ond yr oedd y dasg yn un anhawdd a maith; yn enwedig pan gofir gynifer o ddyledswyddau ereill oedd yn galw am ei amser a'i nerth. Dechreuodd ar y gorchwyl yn mis Tachwedd, 1704, a daliodd ati yn ddifefl. Yr oedd y gwaith wedi ei lwyr feddianu, ac yr oedd pob munud o hamdden yn cael ei droi drosodd i wasanaeth yr Esboniad. Dywedir y byddai Pantycelyn yn codi gefn nos, lawer pryd, i ysgrifennu pennill newydd—greedig rhag ofn iddo ddiflanu cyn y boreu. Yr oedd Mathew Henry yn gweithredu yr un fath. Pan ar ei deithiau pregethwrol, cludai y celfi ysgrifennu gydag ef, a phan giliai cwsg oddiwrth ei amrantau, codai i'w ystafell, a threuliai yr amser yn felus gyda gwaith dewisol ei fywyd. Onid ar un o'r ysbeidiau nosawl hyn y dywed traddodiad i "ysbryd " ymrithio iddo yn un o hen balasau sir Gaer? Cododd yr esboniwr ei olygon yn dawel, a gofynodd i'r ymwelydd beth oedd ei neges. Hysbysodd yntau yr achos ei fod yn "trwblo" y palas, a diflanodd. Aeth yr esboniwr rhagddo mor hamddenol a chynt, heb ofn nac arswyd, fel gŵr yn meddu y ddawn i "brofi yr ysbrydion."

Parhaodd y gwaith i ddod allan yn gyfrolau trwchus hyd y flwyddyn 1714. Ond wedi i'r awdwr dyfal a duwiolfrydig gyrraedd llyfr yr Actau, daeth y wŷs i orffwys. Yr oedd actau ei fywyd yntau fel eiddo yr apostolion ar ben. Dibenodd ei yrfa yn sydyn, pan ar daith bregethwrol. Yr oedd wedi bod yn pregethu i gynulleidfa fechan yn Nantwich ar noson hafaidd ym Mehefin, a sylwid fod ei ynni arferol wedi ymado. Yn ystod y nos, cafodd ergyd o'r parlys, ac ehedodd ei ysbryd pur i'r orffwysfa lonydd. Nid ydoedd ond deuddeg a deugain oed; ond y fath waith oedd wedi ei grynhoi i flynyddau ei einioes. Gwasanaethodd ei genhedlaeth ei hun gydag ymroad difefl fel gweinidog ac athraw; ond yn ei Esboniad, cyflawnodd wasanaeth i lawer cenhedlaeth ac oes. Y mae ei waith yn arcs; nid ydyw dwy ganrif o'r bron wedi ei ddiorseddu. Cyfododd ereill ar ei ol i ysgrifennu yn fwy beirniadol, ac yn fwy ysgolheigaidd, ar ranau arbenig o'r Gair Dwyfol. Ond fel esboniad sydd yn treiddio i galon yr Ysgrythyrau, yn tynu allan wersi ac addysgiadau o holl gynnwys y Bibl, nid oes hafal i'r eiddo Mathew Henry. Gwerthfawrogid ef gan y dysgedig a'r darllenydd cyffredin, ac nid yw ei boblogrwydd yn lleihau dim fel y mae amser yn dirwyn ymlaen. Y mae yn hen, heb heneiddio; ni chiliodd ei ireidd-dra, ni phallodd ei olygon. A thra yr erys blas ar ddarllen ac efrydu y Bibl, fe erys Esboniad Mathew Henry yn gydymaith, yn arweinydd, ac yn drysor gwerthfawr yn llenyddiaeth ei genedl a'i wlad. Efe ydyw, ac a fydd, Esboniad y Bobl.

Nodiadau[golygu]