Prun? (Yr Hwiangerddi, O M Edwards)
Mae Prun? yn hwiangerdd a gasglwyd gan O M Edwards ac a gyhoeddwyd ym 1911 yn ei lyfr Yr Hwiangerddi
- Dic Golt a gysgodd yn y cart,
- Fe'i speiliwyd o'i geffyle;
- A phan ddihunodd, holi wnai,–
- "Ai Dic wyf fi, ai nage?
- Os Dic wyf fi, ces golled flin,–
- Mi gollais fy ngheffyle;
- Ac os nad Dic, 'rwy'n fachgen smart,
- Enillais gart yn rhywle."