Sen I'r Gwas (Yr Hwiangerddi, O M Edwards)

Oddi ar Wicidestun
Yr Hwiangerddi (O M Edwards). Rhagymadrodd a Chynhwysiad
Cynt – Fy Eiddo
Nesaf – Prun?

Mae Sen I'r Gwas yn hwiangerdd a gasglwyd gan O M Edwards ac a gyhoeddwyd ym 1911 yn ei lyfr Yr Hwiangerddi


Y llepyn llo a'r gwyneb llwyd,
Ti fyti fwyd o'r gore;
Pe torrit gwys fel torri gaws,
Fe fyddai'n haws dy ddiodde.