Rhamant Bywyd Lloyd George/Rhyddid Cydwybod

Oddi ar Wicidestun
Apostol Heddwch Rhamant Bywyd Lloyd George

gan Beriah Gwynfe Evans

Gweinidog y Goron

PENOD VII.

RHYDDID CYDWYBOD.

ANMHOSIBL yw i'r Cymro Americanaidd na phrofodd, ac na welodd erioed, beth a olyga gormes crefyddol, sylweddoli angerddolrwydd dyhead Ymneillduwyr Cymru am weled rhyddhau yr Eglwys oddiwrth y Wladwriaeth. Yn nyddiau mebyd Lloyd George yr oedd y caethiwed yn galed a blin i'w gyd-grefyddwyr; Eglwys Loegr lywodraethai yn mhob cylch, er mai Ymneillduwyr oedd corff mawr y werin. Eglwyswyr oedd y perchenogion tir, y meistri gwaith, yr ynadon ar y fainc, swyddogion y llywodraeth, yn ymarferol pawb oedd mewn awdurdod. Yr oedd y ffaith fod dyn yn Ymneillduwr yn ddigon i'w gau allan o bob swydd o anrhydedd, o elw, ac o awdurdod. Plygai aml un ei ben yn nhy Rimmon, er mwyn ei le neu ei swydd, pan oedd ei galon gyda'i deulu yn addoli Duw yn y capel bach diaddurn.

Aeth Lloyd George i Senedd Prydain a'i galon yn llawn gobaith a gwroldeb, ac o dan yr ymdeimlad fod buddianau ei wlad yn gorphwys ar ei ysgwyddau. Ymddiriedwyd iddo genadwri mor bendant a digamsyniol ag a roddwyd erioed i unrhyw un o broffwydi yr Hen Destament; ac mor ddiameuol a hyny magwyd ac addysgwyd a dysgyblwyd ef o'r cryd i gyflawnu y genadaeth bwysig hono. Ni chafodd uchelgais personol le o gwbl yn ei feddyliau—gweled cyflawni gobaith Cymru oedd y cwbl ganddo. "Eglwys Rydd, i Bobl Rydd, mewn Gwlad Rydd"—arwyddair mawr Owen Glyndwr, a lenwai ei galon a'i enaid. Rhyddhau ei gyd-grefyddwyr oddiwrth eu caethiwed o dan Eglwyslywiaeth estronol o ran ei tharddiad, ei gydwerinwyr oddiwrth ormes Sgweierlywiaeth estronol o ran ei syniadau, a'i gydwladwyr oddiwrth rwymau plaid wleidyddol estronol o ran ei chydymdeimlad— dyna'r amcanion mawr a lenwai ei fryd pan aeth gyntaf i'r Senedd.

O'r tri hyn ystyriai yr olaf fel moddion effeithiol er sicrhau y ddau flaenaf. Cysylltai bob amser y landlord a'r offeiriad fel cyngreiriaid, yn cyduno a chydweithredu i orthrymu gwerin Cymru. Rhaid deall hyn er mwyn deall agwedd meddwl, a natur geiriau, a dyhead politicaidd Lloyd George yn y cyfnod hwnw Am y Werddon dywedai: "Mae yn gorwedd o dan glwyfau a achoswyd gan landlordiaid Satanaidd." Gwaeth hyd yn nod na hyny, meddai, oedd cyflwr Cymru. "Yma yn Nghymru," meddai, "cawn yr offeiriad, yr hwn a ddylasai gynorthwyo ac ymgeleddu yr archolledig, yn ymuno a'r landlord i'w ysbeilio." Ac nid fel rhyw gorn-y-gynen i'r werin oddi ar y llwyfan adeg etholiad, y defnyddiai y geiriau celyd a'r brawddegau chwerw hyn. Llefarai eiriau cyffelyb yn Nhy'r Cyffredin. Yno yn y flwyddyn 1899, wedi bod am naw mlynedd yn Aelod Seneddol, dywedai:

THE ARCH-DRUID OF DOWNING STREET

A Musical Correspondent at the Eisteddfod writes: "Mr. Lloyd George then obliged with Land of My Fathers.' The Chancellor of the Exchequer, in his rendition of the famous Land song, gave its full site value to every note."

Trwy Ganiatad Perchenogion y "Punch."

"Mae'r Sgweier a'r Offeiriad wedi tori clawr Blwch y Tlodion, wedi lladrata'r cynwys, a rhanu'r arian rhyng- ddynt. Mae 'Tammany Ring' y Landlordiaid a'r Offeiriaid yn rhanu gweddillion olaf yr arian cydrhyngddynt."

Yr oedd ei holl gysylltiadau, ac am hyny ei holl gydymdeimlad ef, a'r bobl y credai ef oedd yn cael eu gormesu; y gormesedig oedd ei gydwladwyr a'i gydgrefyddwyr; y gormeswyr oeddent ei elynion ef fel yr eiddynt hwythau. O'i gryd i fyny dysgwyd ef i weled perygl i'r werin yn nghysylltiad anachaidd yr Eglwys a'r Wladwriaeth. I'w ddychymyg byw ef pan yn blentyn, y gweinidog Ymneillduol oedd "Mawrgalon" Bunyan; pregethai'r dewrddyn hwn o'r pwlpud hawliau dyn a rhyddid cydwybod, ac ar y llwyfan ac ar ddydd y polio, ymladdai'r pregethwr gyda'i bobl i enill y pethau hyn iddynt.

Anhawdd yn wir yw i'r neb na aned o honynt, neu na fu byw yn eu plith ac na bu drws cysegr eu meddyliau mwyaf dirgel yn agored iddynt, sylweddoli yr hyn a olyga Dadgysylltiad i'r cenedlaetholwr Cymreig, ac nid Ymneillduwyr hwynt oll. Ceir cenedlaetholwyr Eglwysig, deiliaid ffyddlon Eglwys Loegr yn Nghymru, filoedd o honynt yn dyheu am Ddadgysylltiad er mwyn rhyddhau "Hen Eglwys y Cymry" o'r rhwymau a'r rhai y delir hi yn gaeth gan olynydd Awstin Fynach. Cred yr eglwyswr Cymreig a fo hefyd yn Genedlaetholwr, y dadblygai'r Eglwys i fod eto fel cynt, yn "Eglwys y Genedl" pe y rhyddheid hi o hualau y Llywodraeth, pe y caffai ddewis ei hoffeiriaid a'i hesgobion ei hun, a dadblygu mewn cydymdeimlad a gwerin Cymru. Credant yn wir pe ceid hyny, y "deuai y gwenyn yn ol i'r hen gwch," y peidiai enwadaeth a bod yn Nghymru, ond y byddai yno yn llythyrenol "un gorlan ac un bugail."

Eithr golyga Dadgysylltiad fwy o lawer na hyn i'r Ymneillduwr. Iddo ef golyga dori iau caethiwed y canrifoedd; dileu anfanteision dinasyddol; sylweddoli gobeithion cenedlaethau; tori i lawr pob clawdd terfyn cymdeithasol yn nglyn a chrefydd; cydnabod hawl cyfartal pob dinesydd i fwynhau breintiau cyfartal mewn byd ac eglwys.

Yntau, Lloyd George, a aned o'r bobl hyn; bu byw fel hwythau; cafodd ei demtio yr un ffunud a hwythau; cydgyfranogodd o'u treialon; dyoddefodd eu holl anfanteision mewn addysg, mewn bywyd cymdeithasol, mewn gobaith enill swydd, mewn sarhad a dirmyg crefyddol, mewn pob peth. Pa ryfedd felly iddo ddadblygu mor foreu yn Ddadgysylltwr mor aiddgar, a bod gwleidyddiaeth a chrefydd wedi eu cydblethu yn anatodadwy yn ei feddwl a'i galon?

Pe y gelwid arno ef, neu unrhyw Ymneillduwyr egwyddorol arall, i ddeffinio ei safle ar y cwestiwn mawr o ryddid cydwybod, hyn a fyddai mewn byr eiriau:

"Nid oes gan y Wladwriaeth, fel y cyfryw, hawl of gwbl i ymyryd mewn modd yn y byd a golygiadau crefyddol neb pwy bynag, lle na bo'r golygiadau hyny yn golygu hefyd berygl i'r Wladwriaeth ei hun. Nid yw felly yn ddyledswydd ar y Wladwriaeth, ac nid oes ganddi hawl i ddysgu crefydd, nac i ddangos ffafr i unrhyw enwad fwy na'i gilydd, nac i waddoli un enwad na'r holl enwadau, llawer llai ynte i osod neb o dan unrhyw anfantais fel dinesydd am broffesu, neu am wrthod proffesu, o hono unrhyw gredo grefyddol pa fodd bynag."

Yn nglyn a'r uchod dylid yma egluro fod cyfundrefn ddysg Prydain, ac yn enwedig yn Nghymru, yn dwyshau teimlad Ymneillduwyr yn erbyn yr Eglwys. Ceir dau fath o ysgolion dyddiol, sef yr ysgol enwadol, ac ysgol y trethdalwr. Cyn y flwyddyn 1902 at yr olaf yn unig y telid treth leol, ond rhoddid grants y Llywodraeth at gynal y ddwy. Y trethdalwyr, drwy eu cynrychiolwyr etholedig a reolent un (Ysgol y Bwrdd y gelwid hi y pryd hwnw, am mai Bwrdd Ysgol a'i rheolai); yr enwad a berchenogai'r adeilad, yn unig a reolai y llall. Gwrthwynebai Ymneillduwyr egwyddorol fod arian y Llywodraeth, hyny yw, arian y cyhoedd drwy'r trethi Ymerodrol, yn myned i gynal ysgol unrhyw enwad. Yn 1902, gwnaed pethau yn waeth fyth, yn gymaint ag i'r Llywodraeth Doriaidd fanteisio ar "Etholiad Khaki" 1900 (yn yr hwn y'i cynorthwywyd gan yr Ymneillduwyr a gymeradwyent y Rhyfel yn Affrica) i basio Mesur Addysg a osodai ar y trethdalwyr yn mhob sir y cyfrifoldeb a'r ddyledswydd o gynal yr ysgolion enwadol, er mai yr enwad a gaffai eto yr hawl i benodi yr athrawon, ac i reoli yr ysgol. Gan mai Ysgolion yr Eglwys oedd mwyafrif ysgolion enwadol Cymru, golygai hyny fod Ymneillduwyr, o bob enwad, heblaw talu treth at gynal ysgol y trethdalwr (a elwid yn awr yn Ysgol y Cyngor, am mai y Cyngor Sir a'i rheolai), yn gorfod hefyd dalu treth at gynal ysgol yr Eglwys er na chaffai'r trethdalwyr reoli yr ysgol hono, ac er na chaffai neb ond Eglwyswyr ddal swydd fel athraw ynddi.

Gwelir felly fod cwestiwn yr Eglwys a chwestiwn yr Ysgol yn Nghymru yn anwahanadwy gysylltiedig a'u gilydd. Yr hwn a wrthwynebai dalu'r dreth eglwys gynt at adgyweirio muriau Eglwys y Plwyf, a wrthwynebai yn awr, ac am yr un rheswm, dalu treth at brynu dodrefn i Ysgol yr Eglwys. Y rhai a wrthodent gynt dalu degwm at gyflog offeiriad Eglwys Loegr am bregethu egwyddorion yr eglwys hono o'r pwlpud ar y Sul, a wrthodent yn awr dalu treth at gyflog athraw Eglwys Loegr, yr hwn a ddysgai egwyddorion yr eglwys hono i'r plant yn yr Ysgol ar hyd yr wythnos. Os gwrthdystiai dyn o argyhoeddiad yn erbyn gwaith y Wladwriaeth yn penodi gwr i fywoliaeth Eglwysig am ei fod yn pregethu credo yr Eglwys hono, gwrthdystiai yr un mor gadarn yn erbyn cau Ymneillduwr allan o'r swydd o athraw mewn ysgol a gynelid yn gyfangwbl gan arian y Wladwriaeth.

Mewn gair edrychid ar waith y Wladwriaeth yn sefydlu a gwaddoli crefydd, pa un bynag ai yn yr eglwys ai yn yr ysgol, neu hyd yn nod waith y Wladwriaeth yn cydnabod unrhyw enwad crefyddol mewn modd neillduol, yn drosedd a gormes ar gydwybod y sawl na pherthynent i'r enwad hwnw. Sylwer mai nid gwrthwynebu rhoi addysg grefyddol a wnai Ymneillduwyr Cymru, ond gwrthwynebu fod y Wladwriaeth yn ymgymeryd a chyfranu yr addysg grefyddol ei hun neu drwy weision a delid ganddi am wneyd hyny. Nid yw Ymneillduwyr Cymru yn gwrthwynebu gwaddoli crefydd; gellir, meddant, waddoli crefydd—ond nid gan y Wladwriaeth, mewn cyffelyb fodd ag y mae yn iawn i roi addysg grefyddol i'r plant ond nid ar draul y trethi. Mor bell ag y mae gwaddoliadau cenedlaethol, hyny yw, arian a roddwyd gynt at wasanaeth y genedl, yn y cwestiwn, daliant mai at amcanion cenedlaethol, ac nid at amcanion enwadol, y dylai'r arian hyny fyned. Mor bell ag y mae a fyno'r trethi, lleol neu ymerodrol, a'r cwestiwn, hawliant y rhaid eu defnyddio at amcanion y cyhoedd yn gyffredinol, ac o dan reolaeth gyflawn a dilyffethair y cyhoedd drwy eu cynrychiolwyr etholedig. Mor bell ag y mae a fyno penodi i swydd gan, neu o dan, y Wladwriaeth yn myned, daliant na ddylai'r ffaith fod dyn yn proffesu neu yn gwrthod proffesu, unrhyw gredo crefyddol o gwbl fod yn rheswm dros benodi, na gwrthod penodi, neb i'r cyfryw swydd.

Dyna yn syml grynodeb o ddaliadau Ymneillduwyr Cymru ar y cwestiwn o ryddid cydwybod. Gwelir eu bod yn seiliedig ar yr egwyddorion mawr hanfodol dros, ac o herwydd, y rhai y gadawodd y Tadau Pereriniol wlad eu genedigaeth yn agos i dri chan mlynedd yn ol, ac yr hwyliasant yn y Mayflower i draethau Lloegr Newydd. O'r planigyn egwan hwnw y tyfodd derwen fawr, gadarn, Unol Dalaethau yr America, o dan gangenau preiffion, llydan, yr hon y blagura ac y blodeua rhyddid cydwybod yn ddirwystr. I fynu Siarter cydwybod i Ymneillduwyr Cymru yr etholwyd Lloyd George i Senedd Prydain. Dros y siarter hwnw yr ymladdodd mor egniol yn Nhy'r Cyffredin ar hyd y blynyddoedd. Ni flinai byth ddwyn ar gof i'r Senedd mai lleiafrif bychan iawn o drigolion Cymru oedd deiliaid Eglwys Loegr yno, a bod urddasolion yr Eglwys hono nid yn unig heb feddu cydymdeimlad a dyheadau y genedl, ond yn gwneyd pob peth a fedrent i lethu y dyheadau hyny.

Pan ddadleuid y collai'r genedl ei chrefydd pe dadsefydlid yr Eglwys, atebai:

"Ni chyll y genedl byth mo'i chrefydd tra y ceidw ei pharch at bethau ysbrydol; ac os cyll cenedl ei dyddordeb mewn crefydd, ni bydd cadw cysylltiad swyddogol a chrefydd yn y ffurf o Eglwys Sefydledig trwy rym cyfraith, yn ddim amgen na rhagrith ffiaidd na thwyllir na Duw na dyn ganddo."

Siaradai yr un mor ddifloesgni ar gwestiwn y Gwaddoliadau. Pan gyhuddid ef, a Dadwaddolwyr eraill, eu bod yn "ysbeilio Duw" drwy gymeryd y gwaddoliadau oddi ar yr Eglwys, atebai, gan gyfeirio at y Diwygiad Protestanaidd yn Lloegr yn nyddiau Harri VIII., pan sefydlwyd Eglwys Loegr gyntaf ar seiliau hen Eglwys Rufain:

"Ysbeiliasant hwy (Eglwys Loegr) yr Eglwys Babaidd; ysbeiliasant y mynachlogydd; ysbeiliasant yr allorau; ysbeiliasant yr elusendai; ysbeiliasant y tlodion; ysbeiliasant y meirw. Yna deuant yma, pan fo'm ni yn ceisio cael rhan o'r ysbail hwn yn ol i'r tlodion at wasanaeth y rhai y'i rhoddwyd ar y cychwyn, a beiddiant ein cyhuddo ni o ysbeilio Duw, tra mae eu dwylaw hwynt eu hunain yn dyferu gan frasder cysegr—ysbeiliad!"

Er mwyn sicrhau Dadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru y gwrthryfelodd yn erbyn gweinyddiaeth Gladstone a Rosebery, ac y cododd ei sawdl yn erbyn ei hen gyfaill Tom Ellis. Er mwyn rhyddhau yr Ysgol o awdurdod yr offeiriad y trefnodd wrthryfel yn erbyn y Llywodraeth, y cydfradwrodd a holl awdurdodau lleol Cymru i wneyd y gwrthryfel yn un cenedlaethol Cymreig, ac y casglodd drysorfa rhyfel i gario'r gwrthryfel yn mlaen.

Ni ellir yn deg gyhuddo dyn a wnaeth hyn, o fod yn ddifater ar gwestiwn rhyddid cydwybod. Ac eto mor gyflym y rhed ffrydiau bywyd, mor gyfnewidiol yw ei ragolygon, fel y darfu i fethiant Lloyd George, wedi myned o hono ef ei hun yn Aelod o'r Cabinet, i gyflawnu yr addewidion a wnaeth ef ei hun cyn ei fyned yno, ac ymrwymiadau mynych y Blaid Ryddfrydol, a'r Llywodraeth o'r hon y mae yn aelod, yn mron colli iddo ymddiriedaeth y bobl a aberthasant gymaint drosto ac er ei fwyn, a'u gyru hyd at fin bygwth peidio ei gefnogi o hyny allan. Adgofient y ffaith y gallent fod wedi cael Dadgysylltiad 30 mlynedd yn ol pe bae Ymneillduwyr Cymru yn barod i werthu eu hegwyddorion, canys pan yr aeth yn rhwyg rhwng Gladstone a Chamberlain ar gwestiwn Ymreolaeth i'r Werddon yn 1885, daeth Chamberlain ei hun i Gymru gan addaw dadgysylltu a dadwaddoli yr Eglwys yn Nghymru os cefnogai aelodau Cymru ef mewn gwrthwynebu Gladstone ar gwestiwn y Werddon. Yr oedd Chamberlain, y pryd hwnw, yn ddiameu yn ddigon gonest yn cynyg, ac yn ddigon galluog i gyflawnu yr addewid pan ddaeth y Toriaid i awdurdod. Ond gwrthod y fargen a wnaeth Cymru, gan barhau i roi llaw o help i'r Werddon ar draul colli y cyfle i gael y mesur a chwenychai hi ei hun gael.

Dangoswyd eisoes (Penod V.) fod Lloyd George wedi gwrthryfela yn erbyn Rosebery am oedi o hwnw basio Mesur Dadgysylltiad. O'r dydd hwnw hyd y dydd yr aeth ef ei hun yn Aelod o'r Cabinet, ni pheidiodd Lloyd George nos na dydd i wthio Dadgysylltiad i'r ffrynt. "Oh!" llefai Hugh Price Hughes unwaith, "Paham na byddai Duw mewn mwy o frys!" Tueddai Lloyd George i waeddi yr un peth am Fesur Dadgysylltiad a gwnaeth bob peth ar a fedrai dyn byth ei wneyd i brysuro gwaith Duw gyda'r Mesur. Ond o fewn y naw mlynedd er pan aeth efe i'r Cabinet, mae ei hen gyfeillion wedi danod iddo dro ar ol tro ei hen olygiadau ar ddyledswydd Llywodraeth Ryddfrydol, ei hen fygythion aneirif am fod Gladstone a Rosebery yn anwybyddu Cymru, ei hen ymosodiadau llym ar Chamberlain a'r Llywodraeth Doriaidd am dori o honynt hwy eu haddewidion i'r wlad. Dygwyd yr holl bethau hyn yn ol yn awr i'w erbyn. "Mae'r Cymry yn drwgdybio'r Llywodraeth," ebe Lloyd George pan oedd y Cymro pur Tom Ellis yn Brif Chwip i'r Llywodraeth; ond pan ddrwgdybiodd yr un bobl, gyda mwy o achos, y Weinyddiaeth o'r hon yr oedd efe yn aelod, ffromodd yn aruthr. Gwrthryfelodd ef yn erbyn Cabinet Rosebery am dori o hwnw addewid a roddwyd i Gymru gan Gyngrair Cenedlaethol Rhyddfrydol Lloegr; ond nid oedd enw digon brwnt na gair digon cas ganddo i'w defnyddio at y sawl a anogent Ymneillduwyr Cymru i wrthryfela yn erbyn Cabinet Campbell Bannerman, er tori o hwnw eilwaith a thrachefn ei addewid ef am leoliad yr un Mesur.

Pan feiddiodd Mr. Ellis Jones Griffith, yr aelod dros Sir Fon, ameu gwaith Cabinet Campbell Bannerman yn gwthio cwestiynau eraill o flaen Dadgysylltiad bygythiodd Lloyd George osod ei gydaelod yn y "guard-room" i'w gosbi am anufudd-dod; pan wrthdystiodd cyfundebau crefyddol Cymru yn erbyn y bygythiad hwn o'i eiddo, cyhuddodd hwynt o "gamddarlunio yn faleisus," gan eu ceryddu yn llym "am feiddio cyfarwyddo'r Cabinet am yr amser a'r modd "iddo ymosod ar y gelyn." Rhoddodd gerydd hyd yn nod i Gadeirydd yr Aelodau Cymreig am feiddio o hwnw ddweyd "na all yr Aelodau Cymreig barhau i gefnogi'r Llywodraeth os na roddir lle amlwg i Fesur Dadgysylltiad, a'i ddwyn i mewn yn fuan." A rhoddodd yr holl sen hyn ar y bobl a ddysgwyd ganddo ef ei hun i wrthryfela, a'r holl gerydd hyn am droseddau llawer llai yn erbyn y Cabinet na'r rhai y bu ef ei hun yn euog o'u cyflawnu.

Ond rhaid priodoli hyn oll i'r ffaith fod ei safbwynt o edrych ar bethau wedi newid. Yr hyn y methodd ei gefnogwyr yn y wlad, ei gyd-aelodau yn y Ty, ac o bosibl yntau ei hun hefyd, o leiaf am dymor ei sylweddoli, oedd y ffaith fod ei fynediad ef i'r Cabinet o angenrheidrwydd yn newid natur ei hen gysylltiad a'r Dywysogaeth, ac o angenrheidrwydd yn newid hefyd y safbwynt oddiar yr hwn yr edrychai efe ar bethau. Ni allai unrhyw gwestiwn Cymreig, ddim hyd yn nod Dadgysylltiad, ymddangos yn hollol yn yr un goleu i aelod o'r Cabinet ag ydoedd i aelod Cymreig o'r tu allan i'r Cabinet. Canys nid fel yr edrych dyn o Gymro yr edrych Aelod o'r Cabinet ar bethau. Dyrchafodd Lloyd George i enwogrwydd fel arweinydd Cymreig. Gwir na bu erioed yn gadeirydd yr Aelodau Cymreig, eto i gyd yn y blynyddoedd cyn myned o hono i'r Cabinet, cariai fwy o ddylanwad ar aelodau Cymru nag a wnai neb arall. Dros bolisi milwriaethus yr oedd ei holl ddadl pan oedd y Toriaid yn dal awenau'r Llywodraeth; ond pan syrthiodd yr awenau i ddwylaw'r Rhyddfrydwyr, ac yntau yn y Cabinet yn eu dal, defnyddiodd ei holl ddylanwad i gadw'r aelodau Cymreig yn dawel. Dangosodd ei hen gyfaill D. A. Thomas gnewyllyn y peth pan ddywedodd y byddai mor anmhosibl i Lloyd George barhau yn arweinydd Cymreig wedi myned o hono i'r Cabinet, ag a fuasai i Parnell fod yn Gadeirydd y Blaid Wyddelig ac ar yr un pryd yn Ysgrifenydd y Werddon yn y Cabinet. Gwrthodai Lloyd George gydnabod hyn; ac i hyn, a hyn yn unig, y rhaid priodoli y pellhad graddol a gymerodd le rhyngddo a rhai o'i hen gyfeillion goreu pan, wedi myned o hono i'r Cabinet, y mynent hwy barhau i wthio Dadgysylltiad i'r ffrynt, ac y mynai yntau, er yn Aelod o'r Cabinet, fynychu cyfarfodydd preifat yr Aelodau Cymreig a cheisio dylanwadu yno arnynt i beidio blino'r Cabinet.

Er o bosibl yn anymwybodol iddo ef ei hun, dechreuodd Dadgysylltiad gilio yn ol yn ei feddwl ef o'r safle blaenllaw a arferai ei ddal. Dechreuodd y cyfnewidiad hwn, yn wir, cyn myned o hono i'r Cabinet. Yn 1904, dysgai drwy'r wasg fod Ymreolaeth i Gymru yn bwysicach ar hyny o bryd na hyd yn nod Dadgysylltiad. Yn 1905, digiodd wrth Gadeirydd yr Aelodau Cymreig, Syr Alfred Thomas (Arglwydd Pontypridd yn awr) am i hwnw ddweyd y dylai Dadgysylltiad gael y flaenoriaeth hyd yn nod ar y Mesur Gwella Deddf Addysg 1902, a dileu Deddf Gorfodaeth Cymru a basiwyd yn 1904. Ond er hyny wele Fesur Dadgysylltiad wedi cael ei basio, tra'r ddau Fesur arall, y mynai ef eu gwella neu eu dileu cyn pasio Dadgysylltiad, yn aros o hyd mewn grym heb eu newid, ac yn arfau peryglus yn llaw Cabinet Toriaidd pan ddaw hwnw eto i awdurdod. Yn 1906 rhybuddiai ei gyfeillion yn Nghymru i beidio gwthio Dadgysylltiad o flaen mesurau cymdeithasol. Yn 1907 daliodd y rhaid yn gyntaf benrwymo Ty'r Arglwyddi, a'i osod mewn cadwyni haiarn cyn ceisio o ddifrif basio Dadgysylltiad na dim arall. Ac eto, rai blynyddoedd cyn hyny (1896) gwrthodai gydsynio ag Arglwydd Rosebery pan ddywedodd hwnw mai Ty'r Arglwyddi oedd "y llew a safai ar lwybr Deddfwriaeth Ryddfrydol."

Ond er fod ei hen gyfeillion yn y wlad yn tueddu. yn gryf i'w feirniadu yn llym, ac yn parhau i rodio llwybr gwrthryfel fel y dysgodd ef hwynt gynt i wneyd, nid felly corff ei gydaelodau Cymreig yn y Senedd. Deuai y rhai hyn i gyffyrddiad beunyddiol ag ef, o dan swyn ei gwmni a dylanwad ei eiriau a'i safle. Rhwyddach oedd iddo ef berswadio yr aelodau Cymreig yn y Senedd i beidio blino'r Cabinet nag ydoedd. iddo osod mwgwd ar eneuau ei hen ddysgyblion o'r tu allan i'r Senedd. Pan ganfu y rhai hyn mai cilio pellach yn ol, a myned is-is ar raglen deddfwriaeth y Cabinet yr oedd Mesur Cymru, dechreuasant aflonyddu. Danfonwyd dirprwyaeth ar ol dirprwyaeth at yr Aelodau Cymreig. Yn cael eu symbylu felly i wneuthur rhywbeth, aethant hwythau at y Cabinet a'u cwynion, ond llonyddwyd a thawelwyd hwynt fel pe baent blant crintachlyd. Gan fod yn ufudd i ddysgyblaeth Lloyd George, annghofiodd yr aelodau Cymreig y gwersi a ddysgodd efe gynt iddynt hwy ac i'w hetholwyr, sef fod deddfwriaeth yn gyffelyb i deyrnas nefoedd yn gymaint ag mai treiswyr sydd yn ei chipio hi. Gwyddai ef, er na sylweddolasant hwy, fod dylanwad Aelodau Seneddol ar y Weinyddiaeth i'w fesur yn ol mesur yr hyn y mae yr aelodau hyny yn barod i wneyd er mwyn mynu cael yr hyn a ofynai yr etholwyr. Gwnaeth iddynt hwy, ac o bosibl iddo ef ei hun, gredu mai yr un oedd Lloyd George mewn swydd uchel yn y Cabinet yn 1907, a Lloyd George y gwrthryfelwr yn 1894, a Lloyd George y penaeth ymbleidwyr a ymladdai yn erbyn y Llywodraeth yn 1900. Heb farnu dim am y dylanwadau o dan y rhai y gweithredai yr Aelodau Cymreig, digon yw dweyd eu bod yn ymddiried mwy i bresenoldeb Lloyd George a Mr. McKenna yn y Cabinet, a Mr. Herbert Lewis a Mr. Wm. Jones yn y Weinyddiaeth, er y tu allan i'r Cabinet, nag a wnaent ynddynt hwy eu hunain a'u gallu i orfodi'r Cabinet i gadw eu gair ac i gyflawnu eu haddewid i Gymru.

Gellir cymeryd golwg arall ar y safle heb wneyd cam a'r Aelodau Cymreig nac a Mr. Lloyd George. Fel aelod o'r Cabinet nid gweddus nac anrhydeddus iddo ef a fuasai myned i gyfarfod o'r Aelodau Cymreig i'w cymell i wrthryfela yn erbyn y Cabinet, o'r hwn yr oedd ef yn aelod. O deyrngarwch camsyniol tuag ato ef bu yr Aelodau Cymreig yn dawel a thawedog, pan ddylasent fod yn effro ac yn cynyrfu. Y camwri mwyaf a fedrent wneyd a Lloyd George oedd bod yn ddystaw yn nghylch hawliau Cymru. Athrod ar Lloyd George yw tybied na ddarfu iddo ef son am achos Cymru yn y Cabinet. Ond pe y gwasgai ef yn y Cabinet am i Fesur Dadgysylltiad ddod yn mlaen yn ddioed, buasai gan y Prif Weinidog ac Aelodau eraill y Cabinet ateb parod a digonol. Gallasent ddweyd: "Gyda phob parch i'ch barn bersonol chwi, Mr. Lloyd George, nid oes yr un prawf o'n blaen ni fod Cymru yn gwasgu llawer am hyn yn awr. Pe amgen buasai yr Aelodau Cymreig yn aflonyddu, ac yn ein blino, fel yr arferech chwi wneyd; ond nid ydynt. Felly, gadawn y mater am ychydig yn rhagor."

Yn hyn y gwahaniaethai'r Aelodau Cymreig oddiwrth Lloyd George; pobl "swil" iawn oeddent, heb lawer iawn o hunanymddiried. Ni chafodd neb le i gyhuddo Lloyd George erioed o un o'r ddau bechod hyn. Ni phallodd ffydd Lloyd George ynddo ei hun erioed. Petae ef yn eistedd yn nghadair y Pab o Rufain buasai wedi gorfodi pob Pabydd drwy'r byd i broffesu ffydd yn anffaeledigrwydd y Pab, neu i chwilio am le mewn rhyw eglwys arall!

Hoff ydoedd Lloyd George o adgofio dywediad Napoleon Bonaparte gynt. Wedi goresgyn o hono yr Eidal, dywedodd Napoleon:

"Er fod ugain miliwn o bobl yn yr Eidal, ni chyfarfyddais ond a dau ddyn yno erioed."

Awgrymai felly mai eiddilod, ac nid dynion teilwng o'r enw, oedd y gweddill oll. Ni chyfarfyddodd Lloyd George yn holl gwrs ei fywyd gwleidyddol ond ag ychydig o "ddynion" yn ystyr Napoleon o'r gair. Yn mhlith ei gydaelodau Seneddol cyfarfyddodd ag o leiaf ddau "ddyn" a safent i fyny i baffio ag ef bryd y mynai—Mr. Bryn Roberts yn y Gogledd, a Mr. D. A. Thomas yn y De. Ond nid oedd un o'r ddau yn aelod. o'r Senedd pan oedd Lloyd George yn y Cabinet. Ond pan gyfarfyddai Lloyd George a "dyn" yn yr ystyr Napoleonaidd, byddai ffrwgwd yn debyg o ganlyn. Ar un achlysur dywedodd:

"Yr wyf yn cyfarfod a dynion Hugh Price Hughes yn mhob man."

Golygai wrth hyny fod y Wesley enwog wedi gadael ei argraff yn ddofn ar ambell un yn y wlad. Yn awr, er nad oedd yr un "Lloyd George" yn mhlith yr Aelodau Cymreig wedi iddo ef fyned i'r Cabinet, cafodd fod aml un o "ddynion Lloyd George" yn aros yn y wlad, er na wyddai ddim mwy am danynt nag a wyddai Elias gynt am y saith mil na phlygasant eu gliniau i Baal. A rhoddodd y rhai hyn drafferth; ni fedrent hwy annghofio y gwersi a ddysgodd efe iddynt gynt. Yr oedd yn eu plith rai na fynent weled gwahaniaeth rhwng Gweinyddiaeth Ryddfrydol o dan Rosebery ag un o dan Campbell Bannerman, na llawer iawn o wahaniaeth rhwng Tom Ellis fel Prif Chwip un Cabinet a Lloyd George fel Aelod o'r llall. Ac os oedd yn iawn i Lloyd George wrthryfela yn erbyn y cyntaf, nis gallai fod yn bechod iddynt hwythau wrthryfela yn erbyn yr ail.

Ac o hyn y cododd helynt. Bygythiai yr enwadau mawr yn Nghymru ymwrthod a'i arweinyddiaeth ef os na cheid Mesur Dadgysylltiad yn ddioed. Undeb Annibynwyr Cymru oedd y cyntaf i seinio yr udgorn, ac ni roddodd sain anhynod. Gan wybod beth oedd yn eu bwriad i wneyd, danfonodd Mr. Lloyd George ddau lysgenad dylanwadol i ymbil arnynt ymbwyllo. Daeth y Parch. Elfed Lewis, a'r (diweddar) Barch. Machreth Rees i'r Undeb, a llythyr personol oddiwrth Lloyd George yn rhoi addewid newydd ar ran y Llywodraeth, ac yn eu hanog i weithredu ffydd yn y Cabinet yr oedd ef yn aelod o hono. Er hyn i gyd, amlygodd y Gynadledd fawr hono benderfyniad di-ildio; gwrthododd gymeryd ei throi oddiar ei llwybr gan genadwri Lloyd George. Ffurfiwyd yno y dwthwn hwnw "Gyngrair Ymneillduwyr Cymru," unig amcan bodolaeth yr hwn oedd mynu gweled pasio Mesur Dadgysylltiad i Gymru.

Amlygodd yr enwadau eraill, Cymdeithasfa'r Methodistiaid Calfinaidd, Undeb Bedyddwyr Cymru, a Synod y Wesleyaid Cymreig, un ac oll eu parodrwydd i ymuno a'r Cyngrair newydd. Trefnodd y Cyngrair i gynal yn Nghaerdydd y gynadledd Genedlaethol fwyaf, a mwyaf cynrychioliadol, a welwyd erioed yn Nghymru. Cafodd y mudiad yn ddioed effaith mawr ar arweinwyr Rhyddfrydiaeth Lloegr. Ysgrifenodd Dr. Roberston Nicoll fel a ganlyn yn y "British Weekly":

"Mae Cymru wedi dadweinio'r cledd er enill rhyddid crefyddol. Gwnaeth Cymru ei meddwl i fyny nad yw achos Dadgysylltiad yn ddyogel yn nwylaw'r Weinyddiaeth hon. A oes gymaint ag un Cymro yn credu y bydd i'r Llywodraeth bresenol basio Mesur dadgysylltiad?"

Ceisiodd Mr. Lloyd George ar y cyntaf anwybyddu, yna dirmygu, y Gynadledd. Cyhoeddodd yn mhapyrau. Llundain mai myfi oedd gwreiddyn yr holl ddrwg, ac mai myfi yn unig oedd yn cyffroi y wlad ac yn trefnu'r gynadledd. Nis gallai dalu teyrnged uwch o barch i ddylanwad personol neb na hyn, canys daeth dros ddwy fil (2,000) o ddynion blaenaf pob enwad yn Nghymru i'r Gynadledd, a hwynt hwy oll wedi cael eu hethol gan yr eglwysi a'r cyfundebau. 'Rwy'n ofni, er hyny, y rhaid i mi ymwadu a'r clod uchel y mynai Lloyd George dalu i mi. Nid wyf yn credu y medrai efe ei hun, chwaethach gwr gwylaidd fel myfi, wneyd i ddwy fil o oreugwyr Cymru adael pob un ei faes a phob un ei fasnach am dridiau i deithio o Gaergybi i Gaerdydd, oni bae fod y wlad yn berwi gan deimlad chwerw. Cyn i ddydd y Gynadledd wawrio, newidiodd Mr. Lloyd George ei farn am dani. Mynodd gael ei ethol yn gynrychiolydd i'r Gynadledd modd y byddai ganddo hawl i siarad ynddi. Y noson o flaen y Gynadledd, ac ar ei gais ef ei hun, cynaliwyd cyfarfod o Bwyllgor y Cyngrair Annghydffurfiol, i'r hwn y daeth ef a'i gyfaill, Mr. Herbert Lewis. Ar ol ymdrin a'r mater, a siarad yn blaen ond yn gyfeillgar a'n gilydd, tynais allan mewn ysgrifen ar gais Mr. Lloyd George, yr ymrwymiad pendant a ganlyn, yr hwn a roddai ef fel Aelod o'r Cabinet, ar ran y Llywodraeth:

SYR HENRY DALZIEL MR HERBERT LEWIS A MR LLOYD GEORGE
YN BUENOS AIRES

"Dygir Mesur Dadgysylltiad i mewn i Dy'r Cyffredin gan y Llywodraeth, a sicrheir ei basio drwy'r Ty hwnw yn y pedwerydd Senedd-dymor (h. y. 1909) o'r Senedd bresenol, os na bydd y Senedd-dymor hwnw yn cael ei gymeryd i fyny yn llwyr gan y frwydr rhwng Ty'r Arglwyddi a'r Bobl, neu gan Ddeddfwriaeth yn ymwneyd a Chyfraith yr Etholiadau."

Dranoeth, yn y Gynadledd Fawr, siaradodd Mr. Lloyd George, a chadarnhaodd y Gynadledd y cytundeb uchod a wnaed rhwng Mr. Lloyd George ar ran y Cabinet, a'r Pwyllgor ar ran y Gynadledd. Atebodd y Gynadledd felly yr amcan oedd iddi, er na chyflawnwyd yr ymrwymiad pendant hwn hyd gyfnod diweddarach ac mewn Senedd newydd.

Bydd Mr. Lloyd George ar adegau yn fyrbwyll. Bu felly pan fynodd gael dirprwyaeth eglwysig i holi i mewn i faterion yn nglyn a Dadgysylltiad, a thrachefn pan benododd y Barnwr Vaughan Williams yn Gadeirydd i'r Ddirprwyaeth. Oedodd hyny Fesur Dadgysylltiad am rai blynyddoedd.

Gwnaeth gamgymeriad mwy fyth pan, ar ol i Fesur Dadgysylltiad gael ei basio gan y Senedd, y cefnogodd efe ymgais i basio y "Mesur Oedi" a achosodd gymaint cynwrf. Mesur oedd hwn i oedi dwyn Dadgysylltiad i weithrediad, a'r drwg oedd i'r Llywodraeth ei ddwyn. i mewn heb ymgyngori o gwbl a'r Aelodau Cymreig. Cododd y wlad megys un gwr i wrthdystio. Cymerodd yr Aelodau Cymreig galon, a rhoddasant ar ddeall i'r Cabinet y gwrthryfelent yn gyhoeddus yn Nhy'r Cyffredin. Ymwelodd Mr. Lloyd George, a dau aelod arall o'r Cabinet, yn nghyd a Mr. Herbert Lewis a Mr. William Jones, oeddent yn y Weinyddiaeth ond heb fod yn y Cabinet, a'r Aelodau Cymreig i geisio eu darbwyllo i ganiatau i'r Mesur Oedi gael ei basio. Ond safodd yr Aelodau Cymreig yn gadarn, gan ddal y byddai pasio'r Mesur Oedi yn fracychiad digywilydd o achos Cymru gan y Llywodraeth o'r hon yr oedd Mr. Lloyd George yn aelod. Chwerwodd yntau, gan lefaru geiriau celyd yn erbyn gweinidogion mwyaf poblogaidd a dylanwadol Cymru, a'u galw yn "ddynion bach mewn lleoedd mawr." Cyhuddodd hefyd ei gydaelodau Cymreig ar lawr y Ty eu bod yn ymddwyn yn "fychan a gwael" yn y mater. Cynaliwyd cynadleddau mawr yn Rhyl i Ogledd Cymru, ac yn Nghaerdydd i'r De, i gynal breichiau yr Aelodau Cymreig yn y frwydr yn erbyn Lloyd George a'r Llywodraeth. Dywedwyd geiriau celyd am dano ef a'r Cabinet gan y dynion i'r rhai yr oedd ef yn ddyledus am ei sedd a'r Cabinet am eu swydd.

Profwyd unwaith yn rhagor mai "trech gwlad nag Arglwydd," hyd yn nod nag Arglwydd fel Lloyd George o ddewisiad y wlad ei hun. Yn ngwyneb yr ystorm yn y wlad a gwrthwynebiad annghymodlawn yr Aelodau Cymreig, dropiodd y Llywodraeth y Mesur Oedi, a sicrhawyd Mesur Dadgysylltiad ar ddeddflyfrau Prydain. Dyma yn ddiameu y fuddugoliaeth. fwyaf nodedig a enillwyd erioed gan yr Aelodau Cymreig yn y Senedd. Tra ragorai mewn maint a phwysigrwydd ar fuddugoliaeth Lloyd George ei hun ar Weinyddiaeth Rosebery yn 1894.

Erys y ffaith fawr hanfodol, fod Cymru ar ol haner canrif o frwydro, o'r diwedd wedi mynu sefydlu cydraddoldeb crefyddol o fewn ei therfynau. Er i genedlaethau a aberthasant yn mron pob peth a feddent er mwyn enill rhyddid cydwybod, fyned i'w beddau heb weled cyflawnu eu gobaith, ac er "wedi cael tystiolaeth trwy ffydd ni dderbyniasant yr addewid;" eto nid aeth eu llafur a'u haberth yn ofer, na'u gweddiau yn ddieffaith. Mae Cymru heddyw yn parotoi balm i wella'r archollion a'r clwyfau a gafwyd gan y ddwy blaid yn y frwydr hirfaith hon, gan obeithio gweled yn fuan Gymru gyfan mewn ystyr llawnach o'r gair nag a welwyd er dyddiau Llewelyn Fawr.

Brwydr yr Ysgol oedd y rhan arall o'r ymdrech fawr dros ryddid cydwybod. Edrychai Mr. Lloyd George ar Frwydr yr Ysgol fel rhan hanfodol o Frwydr Dadgysylltiad, a phob un o'r ddwy yn ddyledswydd genedlaethol ac yn hanfodol tuag at orfodi y cenedloedd Prydeinig eraill i gydnabod gwahanfodaeth, ac i barchu urddas cenedlaethol y Cymry. Mewn cynad- ledd fawr yn Nghaerdydd yn 1904, ar ganol brwydr fawr yr Ysgol yn Nghymru, ebe fe:

"Yr ydym ni yn Nghymru yn ymladd am gydraddoldeb crefyddol. Ymgymerodd cenedl y Cymry a'r frwydr hon, nid fel unigolion, nac fel aelodau o unrhyw blaid, nac hyd yn nod fel aelodau o'r Eglwysi Rhydd, eithr fel cenedl. Daeth Cymru allan i'r frwydr hon ar ran yr achos mwyaf cysegredig a ymddiriedwyd erioed i unrhyw genedl-Achos Mawr Rhyddid Cydwybod."

Yn 1902 y pasiwyd Deddf Addysg Balfour-rhan o'r pris uchel y gorfu i Ymneillduwyr dalu am gefnogi o honynt y Llywodraeth Doriaidd yn "Etholiad Khaki" 1900. Y Ddeddf hono achubodd Ysgolion Eglwys Loegr yn Nghymru rhag cael eu llwyr ddifodi. Yr oedd Ysgolion y Bwrdd yn lledu yn gyflym drwy yr holl Dywysogaeth, ac Ysgolion yr Eglwys yn marw o un i un o ddiffyg arian i'w galluogi i gystadlu ag Ysgolion y Trethdalwyr. Cyfryngodd y Llywodraeth Doriaidd i'w cadw yn fyw, ac i'w gosod ar sylfaen gadarnach nag erioed, drwy y Mesur Addysg hwn. Gosodwyd ar y trethdalwyr yn mhob sir, drwy y Cyngor Sir, y rheidrwydd o gadw a chynal pob ysgol enwadol yn ogystal ag ysgolion y trethdalwyr. Parhaodd ysgol y trethdalwyr dan reolaeth y trethdalwyr, parhaodd yr ysgolion enwadol fel gynt dan lywodraeth yr enwadau, er y caniatawyd i'r trethdalwyr benodi lleiafrif o reolwyr y cyfryw; arosai yr awdurdod felly, a'r hawl i benodi athrawon, ac i gyfranu addysg enwadol, yn ymarferol fel o'r blaen, yn nwylaw yr offeiriad. Yr unig wahaniaeth a wnaed oedd gorfodi'r trethdalwyr i gynal yr ysgolion enwadol. Fel y dywedodd Lloyd George wrth symio'r Mesur i fyny:

"Yr offeiriad sydd i benodi yr athrawon. Y trethdalwyr sydd yn gorfod eu talu."

A'r athraw, a benodid gan yr offeiriad, ond a delid gan y trethdalwyr, a roddai addysg grefyddol yn Nghredo ei Eglwys ei hun i blant y trethdalwyr bob dydd o'r wythnos. Dysgai'r athraw yn ysgol yr Eglwys egwyddorion Eglwys Loegr; dysgai'r athraw yn ysgol y Pabyddion egwyddorion Eglwys Rufain; gwnai y cyntaf hyn o dan gyfarwyddyd offeiriad y plwyf, a'r ail o dan gyfarwyddyd yr offeiriad Pabaidd; talai'r trethdalwyr y ddau. Gwelir felly fod yma dreth gyhoeddus at gynal Eglwys Loegr ac Eglwys Rufain RHYDDID CYDWYBOD yn cael ei gosod ar y wlad, ac Ymneillduwyr Protestan- aidd Cymru yn gorfod ei thalu. Ar yr un adeg gosod- odd y Llywodraeth dreth newydd ar yr yd. Cysylltodd Mr. Lloyd George y ddwy dreth mewn un frawddeg ddesgrifiadol:

"Bara drud-Catecism rhad!"

Cyffrowyd holl Ymneillduaeth y deyrnas. Yn Lloegr gwrthododd llu o Ymneillduwyr dalu'r dreth. Arweiniwyd hwynt gan yr henafgwr Dr. Clifford, a gweinidogion bydenwog eraill. Atafaelwyd eu dodrefn o'u tai; cynaliwyd arwerthiantau ar eu heiddo; taflwyd canoedd i garchar, a'r oll am wrthod o honynt fel Ymneillduwyr cydwybodol, dalu treth at ddysgu egwyddorion crefyddol nas gallent hwy eu derbyn.

O dan arweiniad ac ysbrydoliad Lloyd George, gwnaeth Cymru yn wahanol, gan osod y Cyngorau Sir i ymladd y frwydr dros egwyddor, yn lle gyru personau unigol i wrthdarawiad a'r awdurdodau gwladol. Gwnaeth ei "Apel at Gymru" gyntaf ar y ffurf o Ragymadrodd i'm Llawlyfr i ar Ddeddf Addysg 1902. Yn y Rhagymadrodd hwnw, rhoddodd fanylion pa fodd y gallai Cyngorau Sir Cymru gadw llythyren y gyfraith tra yn ymwrthod yn llwyr a'i hysbryd, ac y gallent wrthod codi dimai o dreth ar neb at gynal yr Ysgolion Enwadol. Tuag at sicrhau hyn rhaid oedd yn gyntaf sicrhau mwyafrif effeithiol o Genedlaetholwyr Cymreig ar bob Cyngor Sir drwy'r Dywysogaeth. Trefnwyd holl alluoedd cenedlaethol ac Ymneillduol Cymru o Gaergybi i Gaerdydd erbyn dydd yr etholiad. Yn mhob plwyf drwy'r wlad, gofynid i bob ymgeisydd am sedd ar y Cyngor Sir, rwymo ei hun i'r tri pheth a ganlyn:

I. I fynu cael yr holl hawl i'r cyhoedd i lywodraethu pob Ysgol a gynelid ag arian y cyhoedd

2. I ddileu pob prawflwon crefyddol yn nglyn a phenodiad athrawon.

3. I wrthod pleidleisio ceiniog o arian y trethdalwyr i gynal unrhyw ysgol enwadol.

Pan ddaeth dydd yr etholiad cariodd polisi newydd Lloyd George y dydd. Cafwyd mwyafrif mawr o Genedlaetholwyr, digon o fwyafrif yn mhob sir ond un, a mwyafrif gorlethol mewn llawer o honynt. Fel y dywedodd Lloyd George pan ddaeth y ffigyrau allan:

"A'r Philistiaid, yr offeiriaid, a darawyd glin a borddwyd, o Dan hyd Beerseba!"

Naturiol oedd iddo ymffrostio, canys ni bu buddugoliaeth genedlaethol tebyg i hon erioed o'r blaen. Gwnaeth yr etholiad hwn Gymru oedd gynt yn wahanedig, yn Gymru gyfan mewn gwirionedd.

Gan weled o hono ddydd tranc ysgolion yr Eglwys yn agoshau, ceisiodd Dr. Edwards, Esgob Llanelwy, gytuno a'i wrthwynebwr ar frys. Bu ymdrafodaeth faith rhwng yr Esgob (yr hwn sydd un o'r dynion. mwyaf hirben a galluog a fagodd Eglwys Loegr erioed yn Nghymru), a Mr. Lloyd George, gyda'r amcan o geisio dod i gyd-ddealldwriaeth. Adwaenir y cytundeb y boddlonodd Lloyd George iddo fel "Concordat Llanelwy." Hanfod y cytundeb oedd.

1. Fod y cyhoedd i gael hawl i lywodraethu ysgolion yr Eglwys, ac i benodi yr athrawon.

2. Fod yr Eglwys ei hun i drefnu am roi'r addysg grefyddol, ac i ddwyn y draul o hyny.

3. Fod y trethdalwyr i ddwyn traul yr addysg fydol yn unig—ond fod yr ysgoldai yn parhau yn eiddo yr Eglwys.

Dyna'r adeg y dechreuodd dylynwyr ffyddlonaf Lloyd George ei ddrwgdybio. Cyfrifa llawer fod ei ddirywiad wedi dechreu gyda'r gyfathrach rhyngddo ag Esgob cyfrwys Llanelwy. Mewn cyffelyb fodd drwgdybiai'r offeiriaid fod yr Esgob mewn perygl o gael ei ddal yn rhwyd Lloyd George. Llwyddodd Lloyd George i gael gan ei ganlynwyr ef dderbyn y telerau. Gwrthododd yr offeiriaid roi i fyny yr hawl i benodi'r athrawon; a mynent wneyd aelodaeth yn Eglwys Loegr yn amod pendant penodiad pob athraw. Felly syrthiodd yr ymgais at heddwch i'r llawr; ond erys yr Esgob a Mr. Lloyd George, yn gyfeillion mynwesol hyd y dydd hwn. Gwregysodd Lloyd George ei lwynau bellach i'r frwydr. Mewn Cynadledd fawr yn Nghaerdydd dywedodd:

"Gweinyddwn bob peth da sydd yn y Ddeddf, yn ol llythyren y Ddeddf, ac heb drugaredd. Gallwn ei gweinyddu yn y fath fodd ag i sicrhau gradd o lywodraeth dros yr ysgolion enwadol. Cymeradwyir i'r Cyngorau Sir wneyd felly—gweinyddu y gyfraith, cadw o fewn llythyren y gyfraith, ond heb roi ceiniog o arian y trethdalwyr at gynal ysgol sy'n gwrthod roi hawl i'r cyhoedd i'w llywodraeth, ac sydd yn mynu arosod prawflwon enwadol ar yr athrawon. Rhoddwn i'r offeiriaid yr hyn a hawlia'r ddeddf; cant eu 'pound of flesh'—ond dim ond hyny. Dyna'r modd yr ymddygwn at y Shylocks Eglwysig hyn. Ond ca oesoedd a ddel farnu yr hyn a wnaeth Cymru. A phan bo'r frwydr drosodd, a buddugoliaeth wedi ei henill, bydd gan Gymru y boddhad o wybod ei bod hi wedi sefyll ar flaen y fyddin a enillodd i barhau oesau'r ddaear yn y cyfansoddiad Prydeinig, yr egwyddor fawr na cha neb ddyoddef unrhyw anfantais am ddal o hono unrhyw gredo o gydwybod mewn materion a berthynant i'w enaid ef ei hun.'

Dyna eiriau dewr, aruchel, gynesent a gwrolent bob calon onest drwy Gymru benbaladr. Ond ni sylweddolwyd erioed mo'r gobaith. Mae dros ddeng mlynedd er pan y'u llefarwyd; am naw mlynedd mae Lloyd George ei hun wedi bod yn y Cabinet; ond erys Deddf Addysg 1902 eto mewn grym. A gwaeth na hyny, pasiwyd deddf orthrymus arall, caletach na hi, ac erys hono hefyd heb ei dileu er fod Llywodraeth Ryddfrydol a rwymodd ei hun trwy lw i'w dileu, wedi bod mewn awdurdod bellach am naw mlynedd.

Os cyfrwys a fu Lloyd George i weled pa fodd y gallai Cyngorau Sir Cymru weinyddu Deddf Addysg 1902 heb godi treth at gynal Ysgolion Enwadol, bu'r Toriaid hefyd yn ddigon cyfrwys i ddarganfod ffordd i wneyd ei ymgais ef yn ofer. Gwnaethant hyn drwy ddeddf gorfodaeth Cymru 1904. Er mwyn deall pa fodd y gwnaethant hyn, rhaid cofio fod yr Ysgolion yn derbyn eu cyllid o ddwy ffynonell fawr, sef (1) Oddiwrth y Llywodraeth drwy grants, a (2) Oddiwrth y Cyngorau Sir drwy'r trethi lleol. Telir y grants gan y Llywodraeth ar gyfer pob ysgol ar ei phen ei hun, yn un swm i'r Cyngor Sir; a gwneir y diffyg yn y draul o gadw'r ysgol hono i fyny gan y Cyngor o dreth y Sir. Cyfrifai Lloyd George, a'r Cyngorau Sir, yn naturiol ddigon, y byddai'r Llywodraeth yn talu'r grants fel o'r blaen; rhoddai'r Cyngor y grants a enillid gan ysgolion yr Eglwys i lywodraethwyr yr ysgolion hyny, ond heb ychwanegu atynt o'r trethi, gan ddefnyddio arian y dreth at amcanion ysgolion y trethdalwyr yn unig. Ond, o dan Ddeddf Gorfodaeth Cymru, 1904, trefnodd y Llywodraeth fod yr holl grants a enillid gan holl ysgolion y sir, ysgolion y trethdalwyr yn ogystal ag ysgolion yr Eglwys, yn cael eu talu gan y Llywodraeth i lywodraethwyr ysgolion yr Eglwys yn unig hyd nes y cyflawnid eu hangen hwy. Hyny yw, os byddai eisieu mwy o arian at gynal ysgol yr Eglwys nag a ddeuai fel grants i'r ysgol hono, gwnelid y diffyg i fyny o'r grants a enillid gan ysgolion y trethdalwyr. Felly cymerid arian a enillid gan blant Ymneillduwyr yn ysgolion y trethdalwyr i gynal ysgolion yr Eglwys.

Pasiwyd y Ddeddf hon ar waethaf pob gwrthwynebiad cyndyn o eiddo Lloyd George a'r Aelodau Cymreig. Dyfeisiodd Lloyd George gynllun newydd i wrthweithio'r Ddeddf orthrymus hon. Wedi cytuno ar ein cynllun ceisiodd genyf hysbysu'r trefniadau newydd drwy holl wasg y deyrnas. Gwnaethym inau hyny. Hanfod y cynllun hwn oedd:

1. Sefydlu ysgol y trethdalwyr i gystadlu ag ysgol yr Eglwys yn mhob ardal yn Nghymru. (Yr oedd rai canoedd o ardaloedd lle na cheid ond yn unig ysgol yr Eglwys).

2. Tynu plant yr Ymneillduwyr o ysgol yr Eglwys drwy'r holl wlad. (Plant Ymneillduwyr oeddent mwyafrif mawr y plant mewn canoedd o ysgolion yr Eglwys).

Cyn y gellid, o dan y gyfraith, sefydlu ysgol y trethdalwyr lle y bodolai ysgol arall eisoes, rhaid oedd bod ysgoldy ac ysgol mewn bod y gellid eu trosglwyddo i'r Cyngor Sir. Golygai hyn godi adeilad, a chyflogi athrawon, i'r ysgol newydd, a'i chadw mewn bod am flwyddyn, cyn y gellid ei chydnabod o dan y ddeddf. Golygai hyn filoedd o bunau o draul. Gwnaed apel at Ymneillduwyr Cymru yn mhob capel o bob enwad—a chodwyd trysorfa fawr at ymgyrch newydd Lloyd George. Gwrthwynebid ef gan rai Ymneillduwyr blaenllaw, megys Mr. (yn awr y Barnwr) Bryn Roberts, yr hwn, fel cyfreithiwr, a ddadleuai fod Mr. Lloyd George yn ymddwyn yn annghyfansoddiadol, ac yn arwain y Cyngorau Sir i gors anobaith.

Er i nifer o'r ysgolion newydd gael eu sefydlu, ac er i drysorfa fawr gael ei chasglu, methiant a fu yr ymgyrch newydd. Gwir fod nifer o ysgolion Eglwysig wedi cael eu cau mewn gwahanol ardaloedd, eto erys y mwyafrif mawr o honynt. Gwaeth na hyny, nid yn unig erys Deddf Addysg Balfour, 1902, a Deddf Gorfodaeth Cymru, 1904, o hyd mewn grym, ond erbyn hyn mae yn ymarferol yr holl Gyngorau Sir trwy Gymru yn codi treth at gynal yr ysgolion enwadol. Parha Ymneillduwyr mewn gwahanol fanau yn Nghymru a Lloegr i weled eu heiddo yn cael ei werthu i gyfarfod a'r dreth hono, a llawer o honynt yn myned i garchar blwyddyn ar ol blwyddyn er mwyn cydwybod.

Nodiadau[golygu]