Rhamant Bywyd Lloyd George/Y Cenedlaetholwr

Oddi ar Wicidestun
Dylanwadau Boreu Oes Rhamant Bywyd Lloyd George

gan Beriah Gwynfe Evans

Dyddiau'r Ymdrech

PENOD III.

Y CENEDLAETHOLWR.

RHAID oedd i ddysgybl Michael Jones o'r Bala ddadblygu yn Genedlaetholwr aiddgar —neu fel y galwai Michael ei hun y gair yn "Genhelwr."

Trwy gymorth ei ewythr, astudiaeth galed, a gallu meddyliol, aeth y llanc David Lloyd George yn llwyddianus drwy y gyfres arholiadau a safent fel rhes o byrth cauedig ar y ffordd sydd yn arwain i alwedigaeth cyfreithiwr yn Nghymru. Yn feddianol ar ddawn siarad naturiol, arferai er yn fachgenyn bach ddifyru, os nad adeiladu, ei gyfoedion drwy ddynwared rhai o'r pregethwyr a welodd ac a glywodd, gan adrodd yn rhigl ddarnau helaeth o'u pregethau—ac nid yn anaml yn asio darnau o'i eiddo ei hun wrthynt. Maethwyd, cryfhawyd, a blaenllymwyd y dawn hwn drwy ddefnyddio y cyfryngau a nodwyd eisoes.

Wedi ymsefydlu fel cyfreithiwr, nid hir y bu cyn enill enw fel dadleuwr medrus yn y llysoedd. Ychwanegid at ei glod gan y ffaith na chymerai ei ddychrynu na'i osod i lawr gan neb yn y llys. Dywedir am dano ei fod yn nyddiau cyntaf ei ymddangosiad yn y llysoedd, yn arddangos cyfuniad o ysbryd ymladdgar ceiliog 'bantam,' a gafael ddi-ollwng y targi (bulldog). Deuai felly yn fynych i wrthdarawiad a'r Fainc Ynadol, am y rhai nid oedd yn malio dim—er fod cyfreithwyr eraill, hyn nag ef, yn swatio bob amser iddynt. Rhaid cofio hefyd fod y Fainc Ynadol y pryd hwnw, o ran eu plaid wleidyddol a'u daliadau crefyddol, yn byw yn y pegwn pellaf oddiwrth y Radical Ymneillduol Lloyd George. Yr oedd eu cysylltiadau cymdeithasol hefyd, a'u cydymdeimlad, yn naturiol gyda'r tir feistri a'r urddasolion y rhai a edrychent ar Radical fel gelyn. Naturiol hefyd oedd i'r werin a ddelid yn rhwyd y gyfraith, redeg at y cyfreithiwr Radicalaidd i'w cael yn rhydd. Felly, nid hir y bu ei swyddfa yn Mhorthmadog cyn dod fel Ogof Adulam gynt i Ddafydd arall, yn fan lle yr "ymgynullodd ato bob gwr helbulus, a phob gwr a oedd mewn dyled, a phob gwr cystuddiedig o feddwl, ac efe a fu yn dywysog arnynt hwy."

Ac, o dan ddeddfau gorthrymus y Tir a'r Helwriaeth, ceid llawer iawn o'r cyfryw. Eto dosbarth oeddent a ddygent iddo fwy o enw fel cyfreithiwr nag o elw mewn arian. Cydnebydd ef ei hun fod un gwall mawr yn perthyn iddo fel cyfreithiwr. Dywed: "Nid oeddwn byth yn gyru allan filiau cyfreithiwr. Y canlyniad oedd fy mod heb arian." Dywed hefyd mai pan yr ymunodd ei frawd, Mr. William George, ag ef fel cyfreithiwr, o dan yr enw "Lloyd George & George," y dechreuodd pethau wella. "Ac ni ddyoddefodd y ffirm byth wedyn oddiwrth y gwendid hwn," ebe Lloyd George gyda llygad chwareus.

Yn mhlith ei gwsmeriaid cyntaf ceid aml i droseddWr o Ddeddfau Helwriaeth—nid herw-helwyr (poachers), yn gymaint a dynion a dybient y caent hwy wneyd fel y gwnaeth eu tadau o'u blaen am genedlaethau, sef dal ambell i bysgodyn yn yr afon, neu wningen ar y graig neu'r maes, fel help i lenwi'r cwpbwrdd bwyd. Ato ef hefyd y deuai ffermwyr ag oedd ganddynt gwyn yn erbyn y meistr tir neu ei oruchwyliwr; ac eraill a ormesid gan y gwyr mawr. Llwyddodd yn well na neb o'i flaen i fynu chwareu teg i'r bobl hyn, ac enillodd aml i achos a ystyrid yn hollol anobeithiol. Drwy hyn, nid yn unig enillodd y gair o fod yn gyfreithiwr smart, ond daeth ei enw ar flaen tafod pawb fel "un sydd yn siwr o ddod yn mlaen." Ystyrid ef yn arwr y werin—ac nid peth dibwys oedd hyn i ddyn a'i lygad ar y Senedd.

Yr enwocaf o'r achosion a roddwyd i'w ofal yn nechreu ei yrfa fel cyfreithiwr oedd yr un a adwaenir hyd y dydd heddyw fel "Achos Claddu Llanfrothen." Gall amgylchiadau'r hanes ymddangos yn annghredadwy i drigolion yr Unol Dalaethau, lle y ceir perffaith gyfraith rhyddid yn gweithredu. Ond er mor anhygoel y stori, mae yn hollol wir. Dyma'r ffeithiau yn fyr, a chynorthwyant Gymry'r America i gael rhyw syniad am yr ormes a ddyoddefid yn dawel gynt yn yr Hen Wlad, yn ogystal ag am feiddgarwch y cyfreithiwr ieuanc Lloyd George.

Bu farw hen chwarelwr, yr hwn ar ei wely angeu a ddeisyfodd gael gorwedd yn medd ei ferch yr hon a gladdesid yn mynwent y plwyf. Yr oedd Deddf Claddu Osborne Morgan newydd ddod i rym. Cyn cael y Ddeddf hono nid oedd hawl gan neb ond offeiriad y plwyf, neu ei giwrad, i wasanaethu wrth y bedd. O dan Ddeddf Osborne Morgan rhoddid hawl i weinidog Ymneillduol gynal gwasanaeth ar lan y bedd os rhoddid rhybudd ysgrifenedig, a hyny yn mlaen llaw i'r offeiriad. Pan aeth y perthynasau i chwilio am ganiatad i'r hen wr gael ei gladdu yn medd ei ferch, ni soniasant air mai gwasanaeth Ymneillduol a fwriedid ei gynal. Rhoddodd yr offeiriad ganiatad i agor bedd y ferch i dderbyn corff ei thad. Ond pan gafodd y rhybudd swyddogol mai gwasanaeth Ymneillduol a fyddai wrth y bedd, rhoddodd yr offeiriad orchymyni'r torwr beddau i lanw drachefn fedd y ferch, a thori bedd newydd i'r tad mewn congl neillduedig, lle yr arferid claddu'r cyrff a geid ar y traeth wedi eu boddi yn y mor. Pan glywsant hyn, aeth y perthynasau at Lloyd George, yr hwn a'u hysbysodd fod ganddynt hawl yn ol y gyfraith i gladdu'r tad yn meddrod ei ferch. Ar gyfarwyddyd Lloyd George aeth y perthynasau i'r fynwent, ac ail agorasant y bedd cyntaf, yr hwn a gauasai'r offeiriad. Ond pan gyraeddodd yr angladd at y fynwent, cafwyd fod y pyrth wedi cael eu cau a'u cloi, fel nad allai neb fyned i mewn. Yr oedd Ll. G. yn yr angladd, ac archodd ddwyn barau heiyrn a thori'r ffordd i'r angladd fyned i'r fynwent. Gwnaed felly. Aeth yr angladd i'r fynwent, cynaliwyd gwasanaeth Ymneillduol ar lan y bedd, a rhoddwyd yr hen chwarelwr druan i orphwys gyda'i ferch. Dygodd yr offeiriad gyngaws yn erbyn y perthynasau. Amddiffynwyd hwynt gan Lloyd George. Collodd yr achos yn y Llys cyntaf, ond apeliodd at yr Uchel Lys lle y llwyddodd. Drwy hyn cyfreithlonodd ei wrthryfel yn erbyn awdurdodau nef a daear. Enillodd iddo ei hun enw drwy'r holl wlad fel cyfreithiwr oedd yn gwybod ei fusnes.

Cymellwyd ef gan ei gydymdeimlad a'r ffermwyr gorthrymedig i gymeryd rhan flaenllaw mewn sefydlu "Undeb Ffermwyr"—y cyntaf o'r fath yn y sir, yn 1886, pan nad oedd ond 23 mlwydd oed. O hyn y daeth Dirprwyaeth Tir i Gymru drwy law Mr. Gladstone yn mhen chwe mlynedd. Yn nglyn ag Undeb y Ffermwyr ffurfiwyd hefyd gangen o Gyngrair y Gwrth-Ddegymwyr. Amcan y Cyngrair hwn oedd dileu y Degwm a delid at gynal yr Eglwys Sefydledig. Ffurfiwyd cangen yn sir Gaernarfon, gyda Mr. Lloyd George yn ysgrifenydd. Yno y cyneuwyd tan a ledodd yn ffagl drwy Gymru benbaladr cyn pen blwyddyn. Prif arweinwyr y mudiad hwn oedd Thomas Gee, perchen a golygydd "Y Faner," a John Parry, amaethwr cyfrifol yn Llanarmon. Teg yw dweyd er holl areithyddiaeth danllyd Lloyd George pan yn anerch cyfarfodydd y ffermwyr, achubwyd sir Gaernarfon rhag y tywallt gwaed a nodweddodd y mudiad mewn siroedd eraill, yn enwedig siroedd Dinbych, Caerfyrddin, a Phenfro. Yr oeddwn ar y pryd yn Ohebydd Arbenig i bapyr dyddiol Seisnig dylanwadol, a dylynais Ryfel y Degwm a'i frwydrau drwy Gymru oll. Gwelais y brwydro a'r tywallt gwaed, ac nid yw ond teg i mi sicrhau y darllenydd na chymerasai y golygfeydd ofnadwy hyny le oni bae am ynfydrwydd yr awdurdodau yn dwyn lleng o heddgeidwaid dyeithr, a llu o filwyr cotiau cochion, i'r ardaloedd gwledig er ceisio dychrynu'r gwladwyr, y rhai oni bae am bresenoldeb y rhai hyn ni fuasent yn debyg o godi cweryl.

Wedi ymgymeryd felly a Rhyfelgyrch Diwygio Deddfau'r Tir, gweithiodd Lloyd George yn galed drosto mewn gwahanol gyfeiriadau. Gall y darllenydd farnu oddiwrth y dyfyniadau isod beth oedd natur golygiadau Lloyd George yn y cyfnod hwnw, 30 mlynedd yn ol. Wrth siarad mewn cyfarfod mawr yn Ffestiniog, pan yr oedd Michael Jones o'r Bala yn gadeirydd, a Mr. Michael Davitt, y Gwyddel enwog, yn brif siaradwr, dywedodd Lloyd George:—

"Yr ydych yn cofio dameg y gwr a syrthiodd yn mhlith lladron. Wel, mae ffermwyr Cymru wedi syrthio yn mhlith lladron yn awr. Ond y mae offeiriaid Cymru yn llawer gwaeth na'r offeiriad yn y ddameg. Myned heibio yr ochr arall heb gymeryd sylw o'r truan a ysbeiliwyd ac a orweddai yn ei waed, a wnaeth yr offeiriad yn y ddameg, ond mae'r offeiriaid yn Nghymru wedi ymuno a'r lladron!"

"Tra bo gweithwyr Cymru yn newynu o eisieu bwyd, ceir ein gwyr mawr yn gwario yr arian a enillir iddynt drwy chwys wyneb y gweithiwr, i brynu i'w helwriaeth y bwyd sydd ar y werin ei angen, gan gyflawnu felly yn llythyrenol y gair fod 'bara y plant yn cael ei daflu i'r cwn.' Ymunwch a'ch gilydd, ac ni eill dim eich gwrthsefyll. Hyderaf yr ymunwch un ac oll yn aelodau o Gyngrair y Tir yn Nghymru."

Mae y dyfyniadau hyn yn nodweddiadol o'i areithiau boreuol, ac, fel y gwelir, adlewyrchir y syniadau hanfodol a geir ynddynt, yn ei Ymgyrch i Ddiwygio Deddfau'r Tir ddwy flynedd yn ol. Ceir yn araeth Ffestiniog un frawddeg arall sydd yn meddu dyddordeb neillduol heddyw, pan fo'r holl Ymerodraeth Brydeinig yn dwyn arfau yn erbyn Germani. Dywedodd:—

"Ceir rhai pobl yn beio Mr. Gee am ddwyn Michael Davitt i Gymru. Ac eto ceir y bobl hyn yn myned ar eu gliniau o flaen tywysogion nad ydynt amgen na Germaniaid cymysgryw i grefu arnynt ddod yn llywyddion Eisteddfodau Cymru."

Dair blynedd yn ddiweddarach, pan oedd etholiadau cyntaf Cyngorau Sir wedi gosod yr awdurdod lleol drwy Gymru oll yn nwylaw'r Cenedlaetholwyr Cymreig, dywedodd mewn araeth yn Lerpwl:—

"Ymddibyna Cymru am ei chynaliaeth ar adnoddau'r ddaear, ei hadnoddau mwnawl ac amaethyddol. Perchenogir y ddaear hono gan fonedd Toriaidd. Plaid y torthau a'r pysgod a'r cerdod Nadolig, yw y Blaid Doriaidd yn Nghymru. Canolbwyntiwyd ac angerddolwyd y dylanwadau llygredig hyn oll yn etholiad y Cyngorau Sir. Ymladdai pob sgweier nid yn unig dros Doriaeth, ond dros ei ddyrchafiad personol; a thrwy hyd a lled y Dywysogaeth defnyddiodd Sgweieryddiaeth ei ddylanwad yn ffyrnicach nag erioed o'r blaen. Ond, ar waethaf pob ymgais i'w dychrynu a'i brawychu, glynodd Cymru yn dyn wrth egwyddorion rhyddid gydag ymgyflwyniad godidog. Gymru Fechan Ddewr!"

Dyna gyweirnodau ei areithiau boreuol oll, ac maent wedi aros yn nodau llywodraethol yn ei areithiau politicaidd byth oddiar hyny—Cenedlaetholdeb yn cael ei lywodraethu gan ysbryd gwrthryfel yn erbyn Sgweierlywiaeth ac Eglwyslywiaeth gyda phrofiad helaethach. Daeth yn gliriach ei amgyffrediad am Genedlaetholdeb. Yr oedd yr amser yn aeddfed i wneyd mynegiad croew a phendant ar hawliau cenedlaethol y Cymry. Yr oedd pob peth yn ffafrio hyny. Yr oedd erthyglau Mr. T. E. Ellis (Cynlas) yn y "South Wales Daily News" cyn iddo fyned i'r Senedd, a'i areithiau ar ol myned yno, wedi cyffroi y genedl i'w gwaelodion. Gwisgai delfrydau cenedlaethol ffurf ymarferol ar bob llaw. Am y tro cyntaf erioed yr oedd polisi cenedlaethol clir yn cael ei osod o flaen y wlad. Sefydlwyd tri Choleg Cenedlaethol. Cydweithiodd addysgwyr blaenaf y Dywysogaeth i sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, i'r hon y'm galwyd inau i fod yn Ysgrifenydd a Threfnydd. Hawliai hon ar i'r Iaith Gymraeg gael ei chydnabod, ei defnyddio, a'i dysgu, yn yr Ysgolion. Sicrhawyd hyny yn gyffredinol. Ffurfiwyd hefyd Undebau Ysgolion Sul Cymreig yn yr ardaloedd gweithfaol Seisnig. Cododd Cymdeithasau Cenedlaethol i fyny ar bob llaw. Lledodd y mudiad i feithrin yr iaith, dros y terfyn i Loegr, gan feddianu y trefi mawr yn Lloegr, megys Llundain, Manchester, Birmingham, Liverpool, ac eraill lle y ceid poblogaeth Gymreig gref.

I'r ddaear hon oedd eisoes wedi cael ei gwrteithio mor dda, y bwriodd Mr. Lloyd George had ei bolisi Cenedlaethol. Ei gynllun oedd meddianu y Cymdeithasau Rhyddfrydol Swyddogol, gan eu trawsffurfio i fod yn Gymdeithasau Cenedlaethol. Lle methai eu henill, yr oedd yn barod i'w malurio, ac i godi ar eu hadfeilion gyfundrefn o Gymdeithasau Cenedlaethol i lywodraethu pob etholiad Lleol a Seneddol drwy Gymru oll. Dyna oedd cyffrawd creadigol mudiad mawr Cymru Fydd. Cafwyd yr amlygiad cyhoeddus cyntaf o'r polisi Cenedlaethol hwn mewn anerchiad gan Lloyd George yn Nghaerdydd yn 1890. Dengys y dyfyniadau a ganlyn rediad ei ddadl:—

"Os dadleuir dros ddeddfwriaeth arbenig i gyfarfod ag angenion neillduol Cymru, rhaid i ni hawlio Deddfwrfa arbenig i'r pwrpas hwnw. Fel y mae pethau yn y Senedd ar hyn o bryd cymer o leiaf ddwy genedlaeth cyn y medr Senedd Prydain Fawr symud achos cwynion Cymru. "Drwy gael Ymreolaeth i Gymru, yn unig y geill y genedlaeth hon fedi o ffrwyth ei hymdrechion politicaidd. Mae pob rhesymeg a ddefnyddir heddyw dros Ymreolaeth i'r Werddon yn llawn mor gymwysiadwy at achos Cymru. Nid oes un o'r prif wrthwynebiadau a godir yn erbyn rhoi Ymreolaeth i'r Werddon, yn gyfryw ag y gellid ei godi yn erbyn rhoi Ymreolaeth i Gymru.

"Cymerer y ddadl fawr fod y Gwyddelod yn genedl wahanfodol. Golyga cenedl wahanfodol fod i'r genedl hono dueddiadau, amcanion, galluoedd, ac amgylchiadau nodweddiadol, ac y dylai felly gael Deddfwrfa iddi ei hun. Ond os yw hyn yn wir am y Werddon, mae yn llawer mwy gwir am Gymru. Collodd y Werddou un o'i hawl-weithredoedd i genedlaetholdeb pan gollodd ei hiaith frodorol. Ond cadwodd Cymru yr hawl hwn yn gyflawn.

"Rhoddwyd eisoes i'r Werddon ffafrau deddfwriaethol a fuasent wedi gwneyd ffortiwn Cymru. Nid oes cymaint ag un mesur mawr wedi cael ei basio gan y Senedd Ymerodrol i gyfarfod ag angenion arbenig Cymru. Mae pob dadl y gellir ei dwyn yn mlaen dros Ymreolaeth i'r Werddon yn gryfach lawer dros Ymreolaeth i Gymru. Nid oes un o'r rhwystrau mawr a geir ar ffordd rhoi Ymreolaeth i'r Werddon yn rhwystr o gwbl i roi Ymreolaeth i Gymru. Ofna rhai y byddai rhoi Ymreolaeth i'r Werddon yn ail-sefydlu Pabyddiaeth fel crefydd genedlaethol y Werddon. Nid felly yn Nghymru. Dyna wedyn fwgan ac anhawsder Ulster. Ni cheir yr un Ulster yn Nghymru.

"Yr ydych wedi ymrwymo i brogram mawr, Dadgysylltiad, Diwygo Deddfau'r Tir, Dewisiad Lleol, a gwelliantau mawr eraill. Ond er eu maint nid ydynt yn cyffwrdd ond megys ymylon y cwestiwn mawr cymdeithasol y rhaid ei wynebu yn fuan. Mae amser pwysfawr gerllaw. Yr ydys yn craff chwilio cyfandir mawr camwri, a cheir ysbryd cenadol yn ei deithio er ei enill yn ol i deyrnas iawnder. Cyhoeddwyd 'rhyfel santaidd' yn erbyn y cam a wna dyn a'i gyd-ddyn, a gwelir pobloedd Ewrop yn cyrchu i'r groesgad. Y cwestiwn mawr y rhaid i ni ei benderfynu yw: Pa beth a wna Cymru yn yr Armagedon hon? A foddlonwn ni ar gario lluman cenedl arall? Neu ynte a fynwn ni gael yr hen Ddraig Goch i arwain ein cenedl unwaith eto i ryfel ac i ymladd dros iawnderau?"

Mae chwarter canrif wedi pasio er pan glywais Lloyd George yn traddodi yr araeth yna; am naw mlynedd mae ef ei hun wedi bod yn aelod o Gabinet Prydain. Ond, cyn belled ag y mae rhoi deddfwriaeth arbenig i Gymru yn y cwestiwn, gallasai'r araeth, fel y'i thraddodwyd chwarter canrif yn ol, fod wedi ei thraddodi ddoe! Dengys y dyfyniadau uchod:—

1. Fod Lloyd George, hyd yn nod y pryd hwnw, cyn myned o hono erioed i'r Senedd, a'i olwg ar ddeddfwriaeth diwygiad cymdeithasol.

2. Nad yw'r mesurau mawr y cymerodd efe fel Gweinidog y Goron ran flaenllaw i'w pasio drwy'r Senedd—megys Dadgysylltiad, Diwygio Deddfau'r Tir, Dirwest—yn ei farn ef ond megys yn cyffwrdd ag ymylon y cynllun mawr o ddiwygio cymdeithas a dybiai ef y pryd hwnw y rhaid ei ddwyn oddi amgylch. 3. Ond, hyd yn nod felly gosodai Ymreolaeth i Gymru o flaen pob peth, am y tybiai mai trwy sicrhau Ymreolaeth i Gymru yn gyntaf y gellid yn oreu gael y diwygiadau cymdeithasol.

Eto, mor bell ag y mae a fyno cydnabod gwahanfodaeth cenedlaethol Cymru, yr unig ran o'r weledigaeth a gafodd bum mlynedd ar hugain yn ol a sylweddolwyd hyd yn hyn, ac y gellir dweyd y rhaid ei briodoli i'w symbyliad personol ef yw, y ceir yn yr Armagedon fawr i'r hon y cyrcha pobloedd Ewrop heddyw—er mai Armagedon wahanol iawn yw i'r un oedd ganddo yn ei feddwl y pryd hwnw—milwyr Cymru yn ymladd o dan luman y Ddraig Goch. Crewyd Bataliwn o Life Guards Cymreig, a gosodwyd hi ar yr un tir a'r Batal— iynau Cenedlaethol o eiddo cenedloedd eraill Prydain; a bod Byddin Gymreig o dan lywyddiaeth swyddogion yn medru siarad Cymraeg, wedi cael ei chodi, ac iddi ran mor bendant yn yr Armagedon fawr ag a roddwyd i fwawyr Cymru yn mrwydrau mawr Cresi a Poitiers. Yn ol rhif ei phoblogaeth, cynygiodd mwy o drigolion Cymru eu gwasanaeth yn wirfoddol i'r fyddin nag a wnaeth un rhan arall o'r deyrnas. Er y gall hyn oll borthi balchder y genedl, eto i gyd o safbwynt Cenedlaethol, nid yw ond cynauaf teneu iawn i'w fedi ar ol chwarter canrif o waith yn y Senedd, a naw mlynedd yn y Cabinet, i wr fel Lloyd George, uchelgais yr hwn oedd bod yn arweinydd cenedl y Cymry, ac Apostol Heddwch Prydain.

Cyfranogodd ei ganlynwyr o'i ysbryd milwriaethus a'i ddyhead am ryddhau Cymru o hualau llywodraeth y Sais. Grisialwyd yr ysbryd hwn yn ffurf "Rhyfelgan Lloyd George" a ganwyd yn mhob etholiad gyda brwdfrydedd mawr:—

"Hurrah! Hurrah! We're ready for the fray!
Hurrah! Hurrah! We'll drive Sir John away!
The 'Grand Young Man' will triumph,
Lloyd George will win the day—
Fight for the Freedom of Cambria!"

Cenid y geiriau hyn ar yr Alaw Americanaidd adnabyddus "Marching through Georgia" a rhyfedd yr effaith a gaffai bob amser ar y dorf.

Er mor aiddgar dros Ymreolaeth i Gymru, ni bu Lloyd George yn selog dros Ymreolaeth i'r Werddon. Gellir canfod hyny yn y dyfyniadau a roddwyd eisoes o'i araeth yn Nghaerdydd. Yr oedd yn barod, mae'n wir, i ganiatau Ymreolaeth i'r Werddon, ond nid ar ei phen ei hun, eithr fel rhan o gynllun cyfunol a roddai Ymreolaeth ar yr un pryd i Loegr, yr Alban, a Chymru. Heddyw (Rhagfyr, 1915) ymddengys yn dra thebyg na cha'r Werddon Ymreolaeth ond fel rhan o'r cynllun mwy oedd yn mryd Lloyd George chwarter canrif yn ol.

Mae yn deilwng o sylw fod mantell Lloyd George fel Proffwyd Ymreolaeth i Gymru ar linellau Cyngreiriol, wedi syrthio ar ysgwyddau Aelod Cymreig arall, Mr. E. T. John, yr hwn sydd yn cynrychioli Dwyreinbarth Sir Ddinbych yn y Senedd, syniadau yr hwn ar y cwestiwn ydynt gyffelyb i eiddo Lloyd George bum mlynedd ar hugain yn ol. Disgynodd deuparth o ysbryd Lloyd George ar E. T. John, ac nid anmhosibl yw mai yr olaf a sicrha eto i Gymru yr hyn a obeithiai Lloyd George gynt ei enill iddi. Dyddorol i Gymry America fydd gwybod fod gan Mr. E. T. John fuddianau masnachol pwysig yn yr Unol Dalaethau, a'i fod mor hysbys yn symudiadau y fasnach haiarn a dur yn yr Unol Dalaethau a neb o fasnachwyr America.

Nodiadau[golygu]