Neidio i'r cynnwys

Rhigymau'r Ffordd Fawr/Di, Ddeddf!

Oddi ar Wicidestun
Yr Oedfa Rhigymau'r Ffordd Fawr

gan Dewi Emrys

Y Lloer ar y Môr

DI DDEDDF!

Taeraist y dryllit TI fy nerth gwrthnysig,
A gyrru trwy fy ngwythi fraw;
Tyngaist y'm plygit megis brwynen ysig,
A'm troi fel pabwyr yn dy law.

Mi wn it daflu cadwyn drom am danaf,
A'm llusgo'n friw dros lwch y llawr;
Mi wn it lawenychu yn fy anaf,
A'i alw'n fuddugoliaeth fawr.

Eithr cyn it ddwyn fy rhyddid a'm carcharu
A dannod imi faint fy mhall,
Dynesodd ataf rywun fentrodd garu
Y truan gwael heb gyfri'r gwall.

Ni fedrodd eirio geiryn; eto gliried
Oedd cenadwri'r edrych mawr!
Cans yn ei threm llefarodd rhyw ymddiried
Na fu ar wefus ennyd awr.

Hir, hir y syllodd, a chan fawr dynerwch,
Hi roddes lili wen i mi.
Ond odid gwelodd ynof drwy'r aflerwch
Ryw fymryn gwyn nas gwelaist di.


Ar ôl it droi fy wyneb at y pared
A'm cloi o olwg popeth gwell,
Disgwylit imi weled dydd ymwared
Lle nad oedd im ond nos fy nghell.

Disgwylit imi ganfod llun fy ffaeledd
Lle nad oedd im ond gwaetha'r byd.
Disgwylit i droseddwr weld ei waeledd.
A'i lygaid ar y gwael o hyd.

Noethaist fy nghefn i dderbyn grym dy fflangell,
A dieflig oedd dy ddial di.
Ni wyddit pan ddadebrais yn dy gangell
Nad oedd ffyrnicach diawl na mi.

Mae'n wir na fentrais godi fy lleferydd,—
Gwyddwn it roddi clust i'r mur;
Ond cronnodd ynof wenwyn berw dy gerydd;—
A dyna ffrwyth dy ddwrn o ddur!

Disgwylit imi doddi'n edifeiriol
A gwasgu'r ffrewyll at fy min.
A welaist di'r clogwyni rhew yn meiriol
Pan wawdio Ionor noethni'r pîn?


Torrodd dy forthwyl haearn cyn fy malu,
Eithr sernaist lawer dernyn da.
Ni ddysgaist mai tynerwch haf sy'n chwalu
Cadernid y mynyddoedd ia.

Eithr lle caledais dan y llaw a'm clymodd,
Hynny, O Ddeddf, a ddysgais i.
Mi gwrddais ag addfwynder a ddirymodd
Y nerth oedd drech na'th waethaf di.

Ymffrostia di it dorri grym fy mrwydro,
Adnabu f'enaid goncwest well;
A gŵyr o hyd i'm bysedd nerfus grwydro
At lili wen ar lawr fy nghell.

Addefaf imi waedu dan dy ddwylo,
Eithr gwaedais heb na chŵyn na chri.
Diau y synnit i'th garcharor wylo
O fethu dal ei mwynder hi.

Ba les im edliw bellach im d'orchfygu?
Onid yw'r brwydro hir ar ben?
Lle methaist di â'th ddwrn o ddur fy mhlygu,
Toddais dan gerydd lili wen.

Nodiadau[golygu]