Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau

gan Owen Morgan Edwards


golygwyd gan John Tudor Jones (John Eilian)
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Owen Morgan Edwards
ar Wicipedia





LLYFRAU SYR OWEN EDWARDS.


CLYCH ATGOF
Cartref yr Ysgol Sul-Ysgol y Llan-Hen Fethodist-Llyfr y Seiat-Fy Nhad-y Bala-Aberystwyth-Culni Cred-Rhydychen-Dyrnaid o Beiswyn.

YN Y WLAD
A welaist ti brydferthwch Cymru, dy fam-wlad dy hun? Os do, cei weled Cymru yn brydferthach
nag erioed o ddarllen y llyfr hwn.

TRO YN LLYDAW
Un o'r llyfrau mwyaf hudolus a gyhoeddwyd yn Gymraeg.

ER MWYN CYMRU
Un ar hugain o ysgrifau am fywyd Cymru, ei hiaith a'i haddysg a'i llên. Ynddynt cyfuna'r proffwyd a'r bardd.

TRO YN YR EIDAL
Y mae ei gyffyrddiadau'n hudolus, a'i bortreadau yn dwyn y pell yn agos.

LLYNNOEDD LLONYDD
Barna rhai mai dyma lyfr pwysicaf Syr Owen Edwards. Cynnwys ysgrifau meistrolgar ar Owain.
Glyn Dŵr, Thomas Cromwell, John Miltŵn, John Calfin, Addoli Mair, Llenyddiaeth y Saeson, a
Macbeth.

O'R BALA I GENEVA
Nid anghofir byth y golygfeydd a ddisgrifir yma,
na'r teimladau, llawen a dwys, a fynegir.

CARTREFI CYMRU
Hanes pererindodau Syr Owen; hanesion bythgofiadwy.

Lliain, 2s. 6d. yr un.

HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR, WRECSAM

Syr Owen M. Edwards

DETHOLIAD O'I YSGRIFAU





LLYFRAU'R FORD GRON

RHIF 19




WRECSAM

HUGHES A'I FAB

LLYFRAU'R FORD GRON

GOLYGYDD: J. T. JONES



GWNAED AC ARGRAFFWYD YN WRECSAM

RHAGAIR.

DEWIN oedd Syr Owen Edwards i gannoedd o blant Cymru—ei phlant o bob oed. Efe, i ddwy genhedlaeth neu dair, ydoedd creawdr Cymru.

Yr oedd yn ei law hudlath. Taenodd we ei gyfaredd dros Gymru i gyd, ac yr oedd hi'n disgleirio'n amryliw fel y disgleiria gemau'r gwlith ar wawn y meysydd dan haul y bore.

Angen esiamplau sydd ar Gymru," meddai Syr Owen yn rhywle. Diolch am y fath esiampl o wlatgarwr ag oedd Syr Owen ei hun. "Nid peth i golli gwaed er ei fwyn, nid testun araith ac arwrgerdd oedd gwlatgarwch iddo ef, meddai'r Athro W. J. Gruffydd ym mhennod gyntaf ei gofiant iddo (gweler Y Llenor, Cyf. VIII, Rhif 1). Gweledigaeth gyfrin ydoedd; rhywbeth yn perthyn yn agosach i fyd myfyrdod ac addoliad nag i fyd dadlau ac ymresymu."

Fe wnaeth ei ddiwylliant ef yn fab i'r eang fyd; fe wnaeth ei brofiad o'r byd ef yn fwy fyth o fab i Gymru. Ail—ddarganfu Gymru fel gŵr yn darganfod, yn ddisymwth, drysor cudd, a rhoes ei fywyd i wneuthur ei gyd—wladwyr yn etifeddion y trysor hwnnw. Gweithiodd i wneud y genedl yn un.

Yr oedd ei eiriau'n ysbrydoli. Yr oedd ei Gymraeg mor naturiol a swynol â thincial afonig dros ei cherrig gwynion mân. Ni bu ei hafal fel ysgrifennwr rhyddiaith ers Elis Wynne.

Ar ddydd Nadolig, 1858, y ganwyd ef, yng Nghoed y Pry, Llanuwchllyn, Meirionydd, "hen dŷ tô gwellt a'i dalcen mewn llechwedd." Bu'n dysgu yn ysgol bob dydd Llanuwchllyn, yn ysgol. ramadeg y Bala (lle y cyfarfu â "Tom" Ellis), yn athrofa'r Methodistiaid Calfinaidd yn y Bala (bu bron iddo fynd i'r weinidogaeth); yng Ngholeg Aberystwyth, ym mhrifysgol Glasgow, ac ym. mhrifysgol Rhydychen (Coleg Balliol). Fe'i gwnaethpwyd yn Gymrawd ac athro yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen, ac yr oedd yn un o ysgolheigion a darlithwyr gorau ei ddydd yno. Yno yr ysgrifennodd amryw o'i lyfrau ac y cychwynnodd y cylchgronau Cymru, Cymru'r Plant, Y Llenor, a Heddyw. Gwnaeth waith enfawr dros Gymru drwy'r wasg mewn 30 mlynedd. Fe'i penodwyd yn Brif Arolygydd Ysgolion yng Nghymru, ac yn y byd hwnnw, fel y dywed Mr. R. T. Jenkins (yn. Y Llenor, Cyf. IX, Rhif 1) fe barodd bod rhyw " ysbryd yn ymsymud, rhyw nodd yn cerdded yn y canghennau diffrwyth." Bu farw yn 1920, a'i gladdu yn Llanuwchllyn.

Y DEWIN.

(Er cof am Syr Owen Edwards.)

Ei fore'n fwyn ar Ferwyn fawr a fu,
E wybu rin y bryniau lle mae'r hud,
A gair nid oedd o drysor hen ei dud
Na chlywai yn y gwynt, na charai'n gu;
O bryd ac ystum, gwrda ynghanol llu,
O ddawn a dysg, ym mysg goreugwyr byd;
Yn graff, yn ffraeth ei air, yn hael ei fryd,
A'i galon yn agored ar bob tu;
A dewin oedd, a wyddai am guddfâu
Clogwyni'r oesoedd yn y pellter glas,
A llwybrau'r maith ganrifoedd, a'u trofâu;
Na werthai goel yn enw rhyw fympwy fas;
A groesai'r gors a'r rhos i'r ogofau
Gan agor dôr ar drysor hen ei dras.
T. GWYNN JONES.

Diflannodd llawer nef a ddaeth i ni
Dros ymyl bryniau'r tir o dro i dro;
Troes côf yn angof; lleisiwyd llawer cri
I hudo'r ifanc i hawddgarach bro.
A safwn heddiw, blant ei Gymru ef,
Yn araf beidio â bod yn ifanc mwy,
Gan syllu'n syn a gweld pob newydd nef
A grewyd inni, 'n cilio megis nwy.
Wrth dybied weithion fynd o'r olaf un
Ar lwyr ddifancoll byth i'r diddim maith,
A'r nos a'r niwl ac uffern fawr ei hun
Yn llyncu'r einioes hyd at ben y daith,
Wynebwn ninnau'n ôl, ac ar y gwynt
Daw'r nef a roes y dewin inni gynt.
T. H. PARRY-WILLIAMS.


CYNNWYS

ABERYSTWYTH
PLU'R GWEUNYDD
TAITH AR DRAED YN LLYDAW
GENOA
HEN GAPEL LLWYD
OWAIN GLYN DWR
ENAID CENEDL

ABERYSTWYTH.

OS oedd ambell efrydydd yn Aberystwyth a'i syniadau mor gul a mi, nid oedd yno yr un a'i anwybodaeth mor eang a dwfn. Tybiwn fod Tori yn agwedd anhygar ar yr un drwg, ac mai rhinwedd wedi cymeryd gwisg o gnawd oedd Rhyddfrydwr. Os credwn rywbeth yn fwy na hynny, dyma oedd, — mai y Methodistiaid Calfinaidd yw balen y ddaear, ac mai hwy oedd yr unig bobl y gellid dweyd am danynt i sicrwydd eu bod ar y llwybr cul i'r nef. Gwrandewch pa fodd yr ymdarewais ymysg pob math o fechgyn y taflwyd fi i'w canol.

Wedi'r arholiad, cefais fy hun yn crwydro'n rhydd ar Rodfa'r Môr, ar ddydd hyfryd ym Medi. Anghofiais am ennyd mai nid yng Ngogledd Cymru yr oeddwn, a theimlais mai dyma'r lle mwyaf gogoneddus a welais erioed. Cyfaddefais hyn, mewn hanner angof, wrth efrydydd o Randir Mwyn yr oeddwn newydd gael dadl dynn ag ef am ragoriaethau cymharol De a Gogledd. "Odi," meddai, " nid yn unig y mae Rhagluniaeth wedi bendithio'r Deheudir â golygfeydd harddach, ond hefyd â iaith fwy perffaith ac â merched mwy hardd." Er pryder yr arholiad, yr oeddwn yn barod wedi syrthio mewn cariad ag un o ferched llygatddu'r De, ac ni fedrwn ond ymboeni'n ddistaw wrth i'm cydymaith ymosod ar y Gogledd. Ond yr oedd yn Fethodist, a'i wyneb ar y wir weinidogaeth, ac yr oedd yn haws maddeu iddo.

Ond bu'n galetach arnaf na hyn. Rhaid i mi ddweyd wrthych imi syrthio, nid o'm bodd, ymysg Sosiniaid.[1] Yr oeddwn yn byw yn y coleg, ac yr oedd gennyf ystafell braf, yn edrych ar y castell ac ar y brif fynedfa i'r Coleg. Pan dalodd fy nghyfaill o'r De ei ymweliad cyntaf â mi, dechreuais ddangos iddo mor hyfryd oedd fy lle. Torrodd ar f'ysgwrs yn sydyn fel hyn, — " Gyfaill, 'rych chwi newydd ddod o'r Gogledd, ac yr ydych yn ffwl.'R ych chwi'n meddwl eich bod mewn lle hyfryd 'nawr; ond fase waeth i chwi fod wedi nythu ar ben llosgfynydd. Oni wyddoch chwi fod Sosin yn yr ystafell oddi tanoch? Daliwch chwi ar hyn, fydd eich mam ddim yn eich nabod pan ewch adre. Gan edrych arnaf yn dosturiol, fel pe buaswn yn hanner coll yn barod, gadawodd fi; ac yr oeddwn yn anedwydd iawn. Ond cyn hir, tra'n synfyfyrio ar gyflwr dybryd yr anuniongred, clywn seiniau nefolaidd yn esgyn o'r ystafell odditanaf. Yr oedd y Sosin yn canu " Toriad y Dydd " ar ei grwth. Dyma fy hoff alaw; a chyn hir gwelai'r Undodwr wyneb gwelw ymofyngar yn ei ddrws hanner agored. Yr oedd yn wr mwyn ryfeddol, a chanodd lawer alaw i mi. Dywedai ei fod yn dod o ardd Cymru; a phan fynwn i mai Dyffryn Clwyd oedd honno, atebodd gyda gwên benderfynol,— "Na, sir Benfro yw gardd Cymru. Cewch weld pan ddeuwch gyda mi yno."

Ni fuasai gennyf erioed fawr o amheuaeth am ben draw ffordd yr Undodwr, ond nid oeddwn wedi talu fawr o sylw i natur y lle. Ni ddywedasai fy nhad fawr am dano; ond llawer gwaith y arluniodd y Lle yr oeddym ni Fethodistiaid yn cyrchu ato, — gwlad y delyn a'r palmydd, gwlad tragwyddol Doriad Dydd.

Ond yr oedd arnaf awydd yn awr am wybod am y lle arall hwnnw. Drannoeth eis i'r llyfrgell, i chwilio am lyfr ar y pwnc. Gwelais The Epic of Hades, gan Lewis Morris, llyfr newydd ei gyhoeddi. Clywswn lawer gwaith i Lewis Morris Mon i Feirion ganu'n fore; ond ni wyddwn o'r blaen ei fod yn awdurdod ar dduwinyddiaeth hefyd. Eis a'r llyfr i'm hystafell, ac ymgollais ynddo yn llwyr. Gallwn ddweyd am dano fel y dywedodd y chwarelwr am Shakespeare, — "Wyddwn i erioed fod dim cystal wedi ei ysgrifennu yn Saesneg." Ond nid oedd yn hollol,ar y pwnc.

Tra'r oeddwn yn darllen yr Epic, ac yn graddol anghofio tynged fy nghyfaill newydd a'i grwth, dyma gnoc ar y drws. Daeth Prifathraw'r coleg i mewn. "Yr wyf wedi dod a Mr. Lewis Morris i weled eich ystafell," meddai. Yr oedd arnaf awydd angerddol am ofyn i awdwr y llyfr, — gwyddwn y rhaid ei fod wedi astudio daearyddiaeth y fro honno'n drylwyr, — beth oedd ei feddwl am y nos yr oedd yr Undodwr yn rhuthro iddi, er cystal y medrai chwareu "Toriad y Dydd." Ond tybiwn na buasai bardd mor fawr yn hoffi son am ei waith ei hun; a danghosais iddo y darluniau oedd gennyf ar fy muriau, — pob un wedi ei sicrhau wrth y mur a phedwar pin. Y diwedd fu cael ysgwrs ddifrifol â'r Undodwr am ei gredo. Trwy nerth ei resymau, ond yn bennaf oherwydd melusder seiniau ei grwth, profodd i mi ei fod yn fath o Gristion.

Treuliais lawer o'm hamser ar Rodfa'r Môr. Ar ol te gwelid yno hen berson tal yn cerdded yn ol a blaen; a medrais dynnu sgwrs â hwn hefyd. Nid heb beth ofn, oherwydd tybiwn mai gwaith person ar y Sul oedd melldithio dadgysylltwyr a bendithio'r stiward; ac mai ei waith yn yr wythnos oedd darganfod melldithion a bendithion newydd at ei ddau bwrpas. Ond ni soniai yr hen fab hwn am ddim felly. Yn hytrach soniai am bobl ereill, o brif baffiwr y dydd hyd i brif orthrymwr y byd. Yr oedd ei feddwl yn llawn o'r hyn sy'n darawiadol yn hanes y byd, a chanddo ef y clywais i am Hanes a Rhydychen.

Yr oeddwn yn awyddus iawn am wybod i ble'r elai'r athrawon ar y Sul, a holais lawer. Ceisiais wybod hefyd faint o honynt oedd yn ddirwestwyr, gan feddwl troi y rhai nad oeddynt i'm meddwl fy hun am ddiodydd meddwol,—sef mai y diafol a'u dyfeisiodd oll, yn fore yn hanes y byd, fel y byddai dyn syrthiedig yn ysglyfaeth sicr iddo. A mwyaf oedd amynedd a dioddefgarwch yr athrawon boneddigaidd hyn, cryfaf yn y byd oedd fy awydd innau am eu gwneyd mor rinweddol ag oeddynt ddysgedig.

Ryw dro, hwyrach, caf ysgrifennu hanes athrawon cyntaf Coleg Prifysgol Cymru.

Yr un fu a mwyaf o ddylanwad arnaf fi oedd Daniel Silvan Evans, yr athraw Cymraeg. Ychydig ddisgyblion oedd ganddo, gan nad oedd Cymraeg yn talu yn yr un arholiad yr adeg honno. Cyfarfyddem ef yn ei ystafell ei hun, a darlleneni ryw awdwr fel y Bardd Cwsg neu Theophilus Evans gyda'n gilydd o gylch ei fwrdd. Gwnaeth i ni gymeryd dyddordeb yng ngeiriau yr iaith Gymraeg, ac yn enwedig yn ei geiriau llafar a'i geiriau gwerin. Dangosodd i ni fod gogoniant lle y tybiasom nad oedd ond gerwindeb gwerinol o'r blaen. O dipyn i beth dechreuasom hoffi llenyddiaeth Gymreig; cawsom gipolwg yn awr ac yn y man ar ysplander ei chyfoeth. Yr hen athraw tal, llygadlon, difyr, — tawel fo ei hun yntau, wedi ei oes hir gyda geiriadur a gramadeg, yn hoffus dyffryn Dyfi.

Yr oedd Albanwr bychan, bywiog, ac athiylithgar yn darlithio i ni ar lenyddiaeth Seisnig; ac yr oedd yn un o'r athrawon mwyaf hoffus a gyfarfyddais erioed. Wrth gydmaru llenyddiaeth Gymreig a Llenyddiaeth Saesnig â'u gilydd yr oedd y ddwy yn dod yn fwy dyddorol, ac yn hawdd eu deall.

Yr oedd athraw arall, Almaenwr o genedl, yn darlithio ar lenyddiaeth Ffrengig, a gwnaeth oes a meddyliau cyfnod aur Ffrainc yn fyw iawn i ni. Ond rhaid i mi beidio dechreu enwi. Yn unig dywedaf fod coleg cenhedlaethol cyntaf Cymru wedi bod yn ffodus iawn yn ei athrawon. Yr oedd ganddynt gyfandiroedd newydd i'w dangos i ni; ac yr oedd arnom syched am wybodaeth.

Mae gennyf adgofion melus am Aberystwyth, — am lan y môr, am Goed y Cwm, am sŵn rhegen yr ŷd ddeuai gydag arogl bêr y gwair dros y dref i fy ffenestr yn nyfnder nos, pan oedd y Coleg yn cysgu a minnau'n ceisio ennill gwybodaeth. Ni chollais ddim o gred fy mebyd, ni chollais ddim ohoni eto; y mae digon o newydd-deb bythol ynddi i mi dreulio fy mywyd i weled agweddau newyddion arni. Ond deallais y gall gwyr o gredo arall feddu bywyd pur, a gwneyd gwaith arwrol, a gweled Duw. Y mae hyn wedi llenwi'm bywyd a dedwyddwch, a'r byd yr wyf ynddo â daioni. (—Clych Atgof)

PLU'R GWEUNYDD

Ychydig sy'n cofio haf mor ogoneddus a'r haf sy'n awr yn cilio i fysg hen hafau ein bywyd. Haf goludog heulog ar y mynyddoedd,—beth sy'n well darlun o'r nefoedd na hynny?

Yn ystod ei ddyddiau euraidd hyfryd, gwnaeth haf eleni un gymwynas neilltuol â mi. Gwnaeth Gymru oll yn brydferth i'm golwg. Cyn hynny, yr oedd un llecyn nad oeddwn wedi gweled ei brydferthwch. Yr oedd yn rhaid i mi fyned heibio iddo droeon bob blwyddyn, bodd neu anfodd. Deuai iasau oerion drwof wrth feddwl am dano. Eto nid oeddwn wedi cwyno wrth neb fod un llecyn, yng nghanol Cymru, mor hagr i'm llygaid fel yr ofnwn edrych ymlaen at yr adeg y byddai raid i mi fynd heibio. Yr oedd cyfeillion i mi'n mynd heibio'n amlach na mi; ond ni chlywais hwy'n cwyno erioed. Y mae un o hen ysgolion enwocaf Cymru'n edrych i lawr ar y llecyn gashawn, ond ni lethwyd athrylith ei hysgolheigion gan ddwyster trymaidd yr olygfa. Bu rhai o feirdd mwyaf melodaidd Cymru yn byw ar ei ymylon, ond ni ddistawyd eu hawen hwy ac ni oerwyd eu gwladgarwch gan drem oerllyd y lle. A dyma finnau'n teimlo'm gwaed yn fferru, a'm meddwl yn crebachu, a phob teimlad gwladgarol yn oeri, wrth fynd heibio. Cors goch glan Teifi oedd y fan.

O orsaf Ystrad Fflur i orsaf Tregaron rhed y ffordd haearn dros gyrrau neu hyd finion cors am dros bum milltir o ffordd. Ar y chwith, wrth deithio tua'r de. ceir y mynyddoedd eang.—Berwyn canolbarth Cymru,—sy'n gwahanu dyffryn Teifi oddiwrth gymoedd uchaf Claerwen a Thowi, a'u hafnau mynyddig mwynion. Ar y dde gwelir llethrau'r Mynydd Bach, a'i ffermdai clyd ar y godrau a'r llechweddau, a'i hanes yn ddiddorol o'r amser y cerddai llengoedd Rhufain ei Sarn Helen hyd ddyddiau yr athrawon a'r beirdd a'r efengylwyr roddodd fri ar ei bentrefydd,—Lledrod, Bronnant, Blaen Pennal, Penuwch, a Llangeitho.

Ond rhwng y mynyddoedd hyn gorwedd y gors farw, oer. Ar ei gwastadedd hi ni thyf blodau gweirglodd a gwndwn Cymru. Yn ei mynwes leidiog ddu cyll aberoedd Cymru, eu dwndwr mwyn a'u purdeb grisialaidd; yn lle ymuno âg afon fordwyol neu gyrraedd môr heulog, collir golwg arnynt yn y gors hagr,—Marchnant a Glasffrwd a Fflur a Chamddwr a'u chwiorydd llawen. Nid oes ffordd yn ei thramwy; craffwch o'r tren, ac ni welwch lwybr ar ei thraws o Ystrad Meurig i Dregaron. Nid yw'n llyn ac nid yw'n ddôl; ond y mae'n llenwi lle fuasai'n llyn tlws neu'n ddôl brydferth, ac y mae wedi cyfuno ynddi ei hun bopeth sy'n anhardd mewn dŵr a thir, a dim sydd hardd. Y mae hen ffyrdd dynion fel pe'n gochel, ac y mae'r ffordd haearn yn myned heibio iddi gan ei hosgoi.

I'm meddwl i, cyfunai bopeth wna aeaf a mynydd-dir yn anghysurus,—tir gwlyb didramwy, pyllau oerion lleidiog, ambell goeden ddi-ffurf yn dihoeni, diffyg blodau a diffyg bywyd. Ai cryndod drwy'm enawd wrth ei gweled, fel pe bawn yn edrych ar Lyn Cysgod Angeu. Ond ni fedrwn beidio edrych arni wrth fynd heibio. Er fy ngwaethaf ni allwn dynnu fy llygaid oddi arni, yr oeddwn fel pe tan ei swyn oer. Wedi cyrraedd Tregaron, teimlwn fel pe bawn wedi cael fy nhraed ar dir sych, yn oer a gwlyb, wedi bod yn ymrwyfo am oriau drwy laid. Ac ym mreu- ddwydion y nos cawn fy hun yn graddol suddo i'w mwd lleidiog du.

Ceisiais lawer gwaith ymryddhau oddi wrth yr atgasedd ati. Sefydlwn fy ngolwg ar ei theisi mawn. Ceisiwn ddychmygu am aelwydydd y ffermdai oddi amgylch yn y gaeaf, a'u tân mawn glân, siriol, a'u dedwyddwch yn dod o garedigrwydd y gors. Ond ofer oedd fy ymdrech. Llithrai fy meddwl yn ôl er fy ngwaethaf at laid sugndyn- nol ac ymlusgiaid ffiaidd ac anobaith bywyd.

Pan ddangosodd haf eleni ogoniant newydd i mi mewn golygfeydd ystyriwn yn berffaith o'r blaen, a phan ddangosodd berffeithrwydd lle y tybiwn i fod amherffeithderau gynt, trodd fy meddwl at Gors goch glan Teifi. Tybed ai yr un oedd hi o hyd wedi wythnosau o sychter haf? A orweddai'n drom, wleb, farw, gan wrthod adlewyrchu dim o olud lliwiau a bywyd yr haul? Penderfynais fynd heibio iddi, rhag fod iddi hithau ei blodau. Unwaith newidiodd blodeuyn wedd gwlad i mi. Hwnnw oedd blodyn melyn dant y llew; gwnaeth amgylchoedd Glasgow, lle lleddir blodau eraill gan fwg y gweithfeydd, yn hyfryd â'i wên siriol.

Fel arfer, daethum hyd ddyffryn gwyrdd hyfryd Ystwyth. Yr oedd y gwres yn llethol, oherwydd mis Gorffennaf oedd hi. Yr oedd gwair ysgafn yn sychu'n grin bron newydd ddisgyn oddi wrth y bladur, yr oedd pawb yn dianc i'r cysgod rhag y gwres. Oddi ar ael y bryn, lle dringai'r trên dan goed hyfryd eu cysgod, gwelem danbeidrwydd yr haul ar y dolydd oddi tanom ac ar y bryniau a'r dyffrynnoedd draw. Toc daethom i ben y tir, lle y bu Ieuan Brydydd Hir yn hiraethu am dano,—

O, Gymru lân ei gwaneg,
Hyfryd yw oll, hoyw—fro deg!
Hyfryd, gwyn ei fyd a'i gwěl,
Ac iachus yw, ac uchel;
Afonydd yr haf yno,
Yn burlan ar raean ro,
A redant mewn ffloyw rydau,
Mal pelydr mewn gwydr yn gwau.

Dacw ysgol Ystrad Meurig ar ael y bryn. Mor hoffus oedd bywyd yr Athro Edward Richard, ac mor felys yw ei fugeilgerddi ar y mesur tri tharawiad. Bob tro y dof i'r llecyn hyfryd hwn, daw ei linellau melodaidd i'm meddwl, a hefyd y cof iddo unwaith adael ei ysgol am flwyddyn oherwydd fod ei gydwybod yn dweud y dylai ddysgu ychwaneg. Ac yn awr wele'r gors o'n blaen, ac yr ydym ninnau ar ei minion.

A rhyfedd iawn, wele hi, nid yn ddu a thrist fel arfer, ond yn wen fel pe bai dan gaenen o eira. Nid eira mohono, gwyddwn hynny'n dda, ar haf fel hwn. Yr oedd y gwynder yn fwy cain na gwynder eira, yr oedd yn wyn cynnes disglair hefyd, gwyn fel gwyn edyn angylion oedd. Nid oedd y gors yn wen i gyd, ond yr oedd y llanerchau gwynion oedd hyd-ddi fel pe'n taenu eu purdeb gwyn a chynnes hyd y banciau a'r mawnogydd i gyd. Yr oedd y ffosydd wedi eu gweddnewid dan wên heulog yr haf, nid oedd eu duwch yn edrych yn hagr na 'u dŵr yn oer. Yr oedd golwg gartrefol groesawgar ar y teisi mawn, dygent i gof y mwg glas fydd yn esgyn o simneiau bythod Cymru ar nawn haf. Yr oedd y gors wedi ei gweddnewid.

Plu'r gweunydd, hen gyfeillion mebyd i mi, oedd wedi gwneud y gwaith. Yr oeddynt yno wrth eu miloedd, yn llanerchi o wynder ysgafn, tonnog, byw, heulog. Hwy roddodd i'r hen gors ddu hagr ei gogoniant gwyn. Yr oedd eu plu tuswog yn llawnion, ac eto'n ysgeifn. Gwyddwn mor esmwyth yw eu cyffyrddiad, un o bleserau mebyd oedd eu tynnu ar draws ein bochau. Ond ni welais hwy erioed yn edrych mor ieuanc, a'u gwyn mor gannaid, a'u hysgogiadau mor fywiog. Yr oedd yr awel ysgafnaf yn gwneud iddynt wyro, fel pe baent filoedd o angylion yn addoli. Yna'n sydyn taflent eu pennau'n ol, ac ysgydwent, fel pe baent dyrfaoedd rianedd mewn gwisgoedd gwynion yn dawnsio. A thoc ymdawelent, a gorffwysent yn eu gogoniant, dan adlewyrchu goleu'r haul, yn esmwythach ac yn burach goleu na phan y disgynnai arnynt. Tybiwn fod y bryniau a'r mynyddoedd o amgylch yn codi y tu ol i'w gilydd i edmygu plant angylaidd y gors, a bod llwybrau dynion yn cadw oddiwrthynt rhag torri ar heddwch mor dyner a difwyno tlysni mor bur. Yr oedd cyfuniad o wynder, disgleirdeb, a chynhesrwydd yn y fan olaf yng Nghymru y buaswn yn mynd i chwilio am dano.

Daeth llond fy nghalon o ddedwyddwch. Yr oeddwn mewn heddwch â'r lle na hoffwn gynt; yr oedd pob llecyn yng Nghymru yn awr yn brydferth i mi. A'r dydd hwnnw sylweddolais lawenydd y ddynol ryw pan welodd gyntaf dlysni hedd y mynydd, y rhostir, a'r môr. Yn llenyddiaeth Lloegr, beth bynnag, diweddar yw'r gwelediad hwn. Nid oes yn Shakespeare a Milton gydymdeimlad a mawredd y mynydd, ag eangder y rhostir maith, â bywyd diflino'r môr; edrychid arnynt fel pethau aruthr ac ofnadwy. Ond danghosodd Gray fawredd y mynyddoedd, a Cowper brydferthwch pruddglwyfus y tiroedd gwastad, a Collins swyn yr anialwch, a Byron ardderchowgrwydd y môr. phan ddanghosodd Wordsworth i'w genedl holl dlysni natur wyllt, daeth dyn i heddwch â'r hyn a ofnai gynt; a daeth i'w galon lawenydd fel y llawenydd hwnnw deimlais i pan ddanghosodd plu'r gweunydd imi brydferthwch y gors.

Cododd awydd arnaf am aros yn nyffrynnoedd Ceredigion, i lenwi f'enaid â thlysni. Crwydrais i lawr dyffryn Teifi, i weled ei bethau prydferthaf. Yr oedd y dŵr ddaethai heibio i blu'r gweunydd o'r gors yn glir fel y grisial, ac yr oedd dwndwr Teifi mor felys a chywyddau Dafydd ab Gwilym,—

"Teifi lân, man y ganwyd
Dafydd y prydydd, pur wyd;
Dy lif, y loywaf afon
Fal Dafydd y sydd yn son."

Nid oes gennyf eiriau i ddarlunio golud tlysni dyffryn Teifi. Ond er teced yw bronnydd Llandyssul, er maint swyn Castell Newydd Emlyn, er fod y wlad ar ei thlysaf yng Nghenarth a'r môr ar ei hawddgaraf yn Aberteifi, ehed fy meddwl yn ol at blu'r gweunydd yn y gors a ofnwn gynt. Hwy yw plant pur y mynyddoedd, lle mae'r awel iach yn deffro'r meddwl, ac yn rhoi hoen yn lle suo i gwsg.

Yr wyf yn cofio imi, pan yn fachgen, orfod mynd heibio mynwent yn y wlad tua hanner nos ar ddiwedd taith hir. Yr oedd bachgen hŷn na mi gyda mi, a gofynnais iddo a oedd arno ofn. "Nac oes," oedd yr ateb syml, "y mae mam yn gorwedd yna." Pan af finnau heibio i Gors goch glan Teifi eto, ni theimlaf fy ngwaed yn oeri. Gwn fod yno'n huno filoedd ar filoedd o blu'r gweunydd, ac y deffroant pan ddaw pob haf, ac y bydd y gors yn llety mwyn a chynnes i angylion. (—Yn y Wlad)

Taith ar draed yn Llydaw

DYWEDIR fod dwy ffordd o deithio yn Llydaw—ar draed, i weled llawer; neu gyda'r tren, i weled dim. Yn lle teithio gyda'r tren araf dros wastadedd Plouagat a Guengamp a Threglamus, lle na welsem ond meysydd o wenith a meillion a llin, penderfynasom gerdded tua'r gorllewin gyda glan y môr.

Ni chymerasom ond cipolwg ar heolydd budron St. Brieuc esgobol cyn cychwyn tua'r wlad. Cawsom well syniad am y bobl mewn hanner awr nag a gawsem yn y tren mewn wythnos. Gwelem y bobl gyda'u gorchwylion,—cylch o ferched yn golchi dillad o amgylch pwll; geneth ieuanc yn gyrru trol hir i'r farchnad, a wyneb tlws iach, a chap gwyn Llydewig; gŵr a gwraig yn golchi llin eu tyddyn bychan yn yr afon, llin wneid yn lliain cartref pan ddoi nosweithiau hirion y gaeaf; hen offeiriad tew, darlun o erlidiwr, yn gwgu arnom ac yn chwipio'i geffyl i lawr y goriwaered wrth ein pasio.

Sylwem fod tai da ymhobman, wedi eu hadeiladu'n gryfion a chysurus. Gallesid meddwl fod Llydaw ymhell ar y blaen i Gymru wrth edrych ar dai ffermydd y ddwy. Yn Llydaw Babyddol, pobl dlodion a diog, — rhai heb law na phen na chalon, — a hwy'n unig, sy'n gorfod byw mewn tai fel tai amaethwyr cynnil deallgar Cymru. Estronodd y Diwygiad werin Cymru oddiwrth ei harglwyddi, — oddiar hynny, nid edrych y landlordiaid ar y bobl fel rhai i'w deall ac i gydymdeimlo â hwynt, ond yn unig fel rhai i'w gorfodi i roddi gwasanaeth trwy rym cyfraith. Ac eto, y Diwygiad wnaeth y Cymry'n foddlon i ufuddhau i bob iod a phob tipyn o'r gyfraith sydd wedi gwasgu mor drom arnynt, y Diwygiad ddysgodd y Cymro nwydwyllt gynnig y gern arall i'r hwn a'i tarawo, ac i beidio gwahardd ei bais i'r hwn a ddygo ymaith ei gochl. Diwygiad crefyddol yng Nghymru, Chwyldroad yn Ffrainc, — y mae'r Cymro eto'n talu rhent uchel am ffermdy adfeiliedig, ac y mae'r Llydawr yn ei dŷ eang dan ardreth deg.

Llawer hanesydd sydd wedi cyferbynnu cyfraith Lloegr âg anghyfraith Ffrainc, sefydlogrwydd y naill ag anwadalwch y llall. Yr oedd yn Llydaw werin wedi ei gwneud yn fwystfilaidd gan orthrwm, yn ddigon bwystfilaidd i droi at yr arglwyddi oedd yn gwasgu eu cyfraith ddidrugaredd arni, ac i ddarostwng y rhai hynny i'w dialedd erchyll a'i chyfraith ei hun. Y mae yng Nghymru werin wedi ei gwneud yn ddeallgar a hir ei hamynedd gan ddysgawdwyr gododd Duw o fysg y bobl, ac y mae'n dioddef ac yn dioddef tra mae'r gyfraith yn araf gydnabod ei cham. Ni welir capel yn unman yn nyffrynnoedd ac ar fryniau Llydaw, ac ni welir yno hen amaethwr penwyn yn byw mewn beudy, oherwydd gwrthod ymddangos yng ngwasanaeth dienaid y Llan, neu wrthod dweyd fod rhyw filwriad o Sais yn deilwng gynrychiolydd ei sir Gymreig yn y Senedd.

Cyn hir, wedi cerdded ar i fyny am awr a hanner, daethom i ben y tir, a dechreuasom gerdded ffordd wastad drwy gaeau gwenith eang. Yr oedd blodau adnabyddus hyd glawdd pridd y ffordd, — y ben galed a chwilys yr eithin, caem ambell i air â phobl yn gweithio,— "bon jour," neu "amser braw," — a mynych y deuem at groes a rhai'n penlinio o'i blaen. Cyn dod i Bordic, gwelem groes garreg o gerfiad tlws ryfeddol, a darllennem ar ei gwaelod mai iddi hi y rhoddwyd y wobr yn St. Brieuc. Nid ydyw'r Llydawiaid, mwy na'r Cymry, yn gystal cerfwyr ar bren na charreg a'u tadau, ond gwneir pob ymdrech yn Llydaw i ail ddysgu cerfio pren marw'n flodau, a gwneud i garreg ddelwi cynhesrwydd bywyd. Cwynir yng Nghymru nad oes gennym gelfau cain, ond anaml yr ymgyfyd cyfarfod llenyddol yn uwch na rhoi gwobr am ffon neu olwyn berfa; cwynir fod gennym ormodedd o feirdd, ac eto rhoddir y gwynt a'r cread a'r haul a'r nos yn destynau gwobrwyedig i'r bodau hyn draethu eu bychanedd arnynt.

Gwlad anodd cerdded ynddi ydyw Llydaw, y mae'r awyr yn drom ac yn llethol, y mae'r golygfeydd yn undonog, ac nid ydyw'r ffyrdd yn cuddio'u hyd trwy droelli rhwng bryniau. Ond cyn i ni ddechre cwyno, gwelsom y môr. Rhyfedd y gorffwys rydd golwg ar ei bellter glâs. Ystwythodd ein coesau wrth ei weled, a chyflymasom i lawr tua Binic, ymdrochle bychan, cyrchle llawer o Ffrancod. Aethom i'r Hotel de Bretagne, a dywedodd hen ŵr llawen fod y cinio ar y bwrdd. Yr oedd yno gwmni mawr, a chedwid hwy'n ddifyr gan Ffrancwr anferth o gorff, a adroddai droeon trwstan Llydawiaid syml. Yr oeddym ni'n dau yn newynog ac yn sychedig, ac yfasom ddiod felen oedd ar y bwrdd, gan ddrwgdybio mai osai oedd. Nid oedd y dwfr yn yfadwy, ac yr oedd yn rhaid i ni yfed rhywbeth, neu dagu.

Wedi cinio, dringasom y bryn yr ymnytha Binic dano. Yr oedd yr haul yn boeth orlethol, ond ar ben y bryn yr oedd awel oer hyfryd, a golwg ar y môr a'r traeth. Eisteddasom yno ar fin y ffordd mewn glaswellt peraroglus, i wylio edyn melin wynt safai gerllaw. Gwelem weddoedd hirion y Llydawiaid yn dod i'r felin, — pedwar pen o geffylau, gyda choleri gwellt a mynciod pren am danynt, a chrwyn defaid wedi eu lliwio'n lâs ar gyrn y mynciod. Treiwn gofio cerdd Lydewig glywais unwaith, — melinydd yn gofyn lle'r oedd ei gariad, a melinydd arall yn ateb i sŵn ei felin fod y Barwn Hefin, gŵr mawr y felin ddŵr, wedi mynd a hi,

"Melfed du sy am dani'n dyn,
A bordor braf o arian gwyn ;
Cap fel eira sydd gan hon,
A rhosyn coch sydd ar ei bron.
Ha ha, fy melin dry,
Diga-diga-di,
Fy melin dry, ha ha,
Diga-diga-da."
" Yn y llyn fe wel ei llun,
Yno saif i addoli ei hun.
Cân yn llon 'Myfi bia'r felin,
A myfi bia'r Barwn Hefin.'
Ha ha, fy melin dry,
Diga-diga-di,
Fy melin dry, ha ha,
Diga-diga-da."

"

Gadawsom y felin, ni chlywsom ei "diga-diga-di" mwy, ond gwelem hi o bob pen bryn gyrhaeddem. Yr oedd pawb gyfarfyddem yn awyddus am ysgwrs, gofynnent gwestiynau fel y gofynna torrwr cerrig ar y ffordd yng Nghymru,—"O ba wlad y deuwch? " Ai prynnu tatws yr ydych?" Cwynent mai ychydig iawn o longau ddaeth i chwilio am datws eleni, ac yr oeddynt yn siomedig pan ddeallasent nad oedd arnom ni eisiau taro bargen. Ond pan ddeallent mai Cymry oeddym, ail enynnai eu diddordeb, a dywedent yn llawen ein bod ni yr un bobl. Gofynnent i ni gyfrif neu ddweyd dyddiau'r wythnos yn Gymraeg, ac yna edrychent ar ei gilydd mewn syndod a dywedent,—Llydaweg bur ydyw hynyna."

Dros fryniau ffrwythlawn a thrwy ddyffrynnoedd coediog, gydag ambell gipolwg ar y môr, daethom i St. Quay a Phortrieux, dau ymdrochle bychan tlws, llawn o dai newydd, a chabanod ymdrochi, a Ffrancod. Dringasom riw hir a blinedig, ac arhosem yn aml i siarad â'r Llydawiaid caredig siaradus. Oni bai am drymder yr awyr, gallem feddwl mai yng Nghymru yr oeddym. Na, y mae un gwahaniaeth mawr arall, nid oes yma ddwfr rhedegog. Ceir ambell i bwll golchi ar ochr y ffordd, dwfr glaw wedi sefyll, a throchion sebon fel ewyn arno. Gwyddem am ŵr yfodd drochion sebon unwaith mewn camgymeriad am laeth enwyn. Troisom i mewn at hen wraig i ofyn a roi hi gwpanaid o ddwfr oer i ddisgybl, a chawsom ddwfr peraidd o waelod pydew oer. Yr oedd yr hen wraig yn dlawd iawn, stoc ei siop oedd corn o freth yn ac ychydig lysiau ; ond ni fynnai ddim gan bobl ddieithr am lymaid o ddwfr oer.

Erbyn cyrraedd Tref Eneuc, yr oedd yn dechre oeri at y nos, a ninnau wedi blino. Ond hen le tlawd, pentre o dai to gwellt yng nghanol coed duon, heb westy o lun yn y byd, ydyw Tref Eneuc. Hysbyswyd ni y caem lety ym Mhlw' Ha, pum milltir ymlaen. Dilynwyd ni o'r pentre gan dyrfa o blant. Os oeddym ni mor ddigrifol iddynt hwy ag oeddynt hwy i ni, cafodd y plant bach hynny wledd. Yr oedd gan y bechgyn rwymyn — lledr am eu canol, a het wellt fawr ei chantal, a ruban melfed du am dani, am eu pen. Yr oedd gwallt y merched mewn rhwyd, fel y gwelwn wallt ein neiniau mewn darluniau, a chap gwyn ar eu coryn. Yr oedd pawb yn ei esgidiau pren; a chan eu bod yn gorfod rhedeg i'n canlyn, yr oedd sŵn eu traed fel cawod o wlaw taranau ar ddail crin. Yr oeddynt yn ofnus iawn, a chilient yn ol pan ddechreuem siarad â hwy. Ai Llydawiaid ydych?" Nage." Ai Ffrancod?" "Ie." "Sodlwch hi ynte," ebai Ifor Bowen, gyda threm hyllig, ac yr oedd yno dwrw llu o esgidiau pren yn clecian ar y ffordd galed.

Yr oedd yn noson hafaidd, gwelem y merched a'u crymanau'n dod o'r caeau gwenith, a chaem aml olwg bell brydferth ar y môr. Gwelem y dynion yn bwyta eu swper, — llaeth a bara du, — o gwpanau pren, ar drothwy eu tai, a chlywem sŵn y droell y tu mewn. Yr oedd yr haul wedi colli ers meityn y tu hwnt i Ynys Brehat pan gyrhaeddasom Blw' Ha, ar ben bryn. Cylch o dai o amgylch eglwys fawr ydyw, trigle rhyw bum mil o bobl. Cerddasom o amgylch yr eglwys, i weled holl gylch y pentre. Yr oedd yr holl drigolion yn y drysau'n edrych arnom, a thybiem nad oedd ond nyni'n dau a'n wynebau'n lîn ym Mhlw' Ha y prynhawn hwnnw. Pan fyddai tor yn y cylch tai, gwelem wlad eang o fryniau'n dwyshau at y nos.

Aethom at ddrws y gwesty glanaf welem, yr Hotel dela Poste, a dechreuasom siarad geiriau Cymraeg, er syndod a difyrrwch nid ychydig i'r yfwyr oedd yn llercian o gwmpas y drws. {{center block| <poem> "Nos fad." "Nos fad." "Bara, 'menyn, cig dafad?" "Ia, ia." "Dau wely dros y nos? " "Ia, ia."

Chwarddasant yn galonnog, a gwahoddasant ni i mewn i gegin fawr dywell. (—Tro yn Llydaw.)

Genoa

I MI, diwrnod o sylweddoli tlysni Itali oedd y diwrnod a dreuliais i gerdded yn ôl ac ymlaen hyd Fur yr Ogof. Wedi hir alaru ar eangderau gwynion o eira, mwyn oedd gweled lliwiau tyner Môr y Canoldir,-y creigiau llwydion, yr olewydd gwyrdd, yr eurafalau, a glas y môr, gyda'i ymyl o ewyn gwyn.

Eistedd y ddinas ar odrau'r mynydd, ar fin ei phorthladd digymar, fel gwraig deg, meddai ei beirdd, yn edrych ar ei llun ym mhrydferthweh. tawel ei hafan dymunol. Ymdroella ei mur am naw milltir hyd ochr y bryn o'i hamgylch, of amgylch ei phinaclau a'i heglwysi a'i phalasau, fel llinyn am bwysi o flodau. Y tu ôl, ymgyfyd. copâu afrifed yr Apeninau, pob bryn mewn mantell laes o eira, ac amddiffynfa fel coron ddu ar bob pen. Ond, fel geneth gariadlawn, troi a wna Genoa oddi wrth harddwch urddasol y mynyddoedd, ac ymhyfrydu yn nhlysni'r môr.


Tlws ydyw'r bore, pan fo'r haul yn goreuro'r ewyn ac yn ariannu dail yr olewydd, pan fo'r awelon yn chwyddo hwyliau llongau dirif sy'n cyrchu o'r dé i osod eu marsiandiaeth i lawr wrth draed y ddinas dlos. Hwyliau duon, melynion, gwynion, yn nhlysni blodau, gydag esmwyth symudiad eleirch, ymdonnant tua thraeth bren- hines y gorllewin for. A thlws odiaeth ydyw'r hwyr, pan fo machlud haul yn gwisgo mynyddoedd afrifed y traeth mewn lliwiau dirifedi, lliwiau tyner, gwawr a gwrid a goleuni.

Rhwng y mynyddoedd acw, sy'n ymestyn hyd ymyl y môr tua'r gorllewin, y mae aml i hafan swynol, lle'r ymsaetha'r balmwydden i fyny dan goron o flodau o'r gwynnaf, fel pe bai newydd godi trwy'r ewyn sy'n trochioni oddi tani, lle mae'r lemonau mor euraid oherwydd fod y môr mor las oddi tanodd, a'r olewydd mor wyrddion fry. Ac mewn aml i gilfach, lle mae haul y bore yn gystal â haul yr hwyr yn gwneud cysgodion, mae adfeilion distaw rhyw bentref fu gynt yn llawn o forwyr; neu eglwys wedi ei gadael ar hanner ei hadeiladu, oherwydd i'r adeiladwyr fynd ar hynt o'r hon ni ddychwelasant, gan gredu y buasai Mair yn gofalu am eu dwyn yn ôl i orffen ei heglwys, ond ofer fu eu ffydd, a goddiweddwyd hwy gan donnau'r môr; neu gastell wedi ei dorri oesoedd yn ôl gan fôr-ladron, y pelican a'r ddylluan a letyant ar gap y drws, eu llais a gân yn y ffenestri, anghyfanedd-dra sydd ar y gorsingau.

Ond, pa nefoedd fechan bynnag, pa hagr adfail bynnag, sydd rhwng y bryniau a ymestynant yn llinell hir ar hyd y traeth y mae'r haul yn eu gwisgo i gyd yn yr un gogoniant, fel y mae gobaith yn goreuro llwybr y dyfodol, llwybr ar hyd traeth tragwyddoldeb, trwy aml i lecyn swynol,— lle llenwir yr enaid â sŵn y môr tragwyddol, ac â breuddwydion am ddringo bryniau uchaf uchel— gais byd,—a thrwy aml i gilfach dywyll,—lle'r eisteddir, nid i orffwys, ond i chwarae â cholyn ingol amheuon ac anobaith, i wylo uwch dinistr yr hyn fu ac ansicrwydd yr hyn a ddaw. (—Tro yn yr Eidal.)

Hen Gapel Llwyd

DARARLLENAIS erthygl awgrymiadol ar y "Celfyddydau Breiniol," fel y gwelodd rhywun yn dda alw'r Celfau Cain; ac y mae wedi llenwi cymaint o'm meddwl, fel y mae arnaf ofn y rhydd wawr breuddwyd ar fy llythyr y tro hwn. Dengys yr erthygl nad ydym ni Gymry wedi rhagori mewn unrhyw gelf gain oddieithr barddoniaeth a cherddoriaeth, ac nid rhyw lawer yn y rhain, ychwaith; mai y rheswm am hyn ydyw y wedd Biwritanaidd roddodd y Diwygiad ar ein dull o feddwl a sylwi; ac y dylem o hyn allan weled ym mhrydferthwch natur gysgod y brydferthwch santeiddrwydd. "Pell iawn ar ôl," fel y dywedwn yn y Seiat, yr oeddwn i'n teimlo fy hun yn wyneb yr erthygl.

Fel yr wyf yn sylwi mwy ar ddylanwad crefydd. a'r celfau cain ar ei gilydd wrth ddarllen Hanes, ac wrth wylio buchedd pobl yr ardaloedd. Pabyddol sydd o amgylch Geneva, yr wyf yn gorfod credu'n wannach, wannach mai'r addoliad tlysaf ydyw'r addoliad cryfaf a gorau: Bûm mewn llawer eglwys lle'r ymgyfyd colofnau dirif mewn gweddus drefn, lle tynerir y goleuni gan wydrau lliwiedig y ffenestri prydferth, lle'r ymchwydda'r miwsig tawel, tonnog, crynedig, nes gwneud i mi anghofio am fy ngharchar pridd, a meddwl mai rhyw ddarn o gwmwl haf oeddwn, neu ochenaid awel, neu rywbeth arall ysgafn, ysgafn. Ond nid oeddwn yn teimlo fod hyn yn addoli; ni allwn feddwl fy mod yn edrych ar brydferthwch yr Arglwydd, ac yn ymofyn, yn ei deml. Hiraethwn am ryw hen gapel llwydaidd ar ochr bryn neu waelod dyffryn yng Nghymru; meddyliwn am y tawelwch hyfryd hwnnw sy'n llenwi'r muriau diaddurn ar brynhawn yn yr haf, cyn i'r pregethwr ddod; distawrwydd dorrir yn awr ac eilwaith gan ochenaid rhyw hen flaenor, hanner of dduwioldeb a hanner o gysgadrwydd. Hwyrach nad ydyw'r canu yn gelfyddydol iawn; hwyrach fod bâs rhyw hanner dwsin o weision ffermydd. neu alto caled nifer o blant yn rhy gryf i wneud y cytgord yn berffaith; hwyrach fod y gynulleidfa. mor gysglyd fel y gellid meddwl mai anadliad araf ei chwsg ydywDiniweidrwydd," neu mai ei sŵn yn hepian ac yn deffro bob yn ail ydyw'r "Hen Ddarbi." Ond, er hynny, y mae'r bobl yn gwybod beth maent yn ei wneud, deallant yr emynau, ac y mae eu canu yn rhywbeth gwell nag ymgais i ddynwared trefn seiniau rhyw gyfansoddwr athrylithgar y mae'n fynegiad o ym- drech meddwl. Gwell gen i gydrodio adref â thyrfa o Gymry o ryw hen ysgubor o gapel, a'u clywed yn trin, pynciau'r bregeth, na dod o Eglwys Babyddol brydferth Strasburg, neu Eglwys Brotestanaidd Salisbury, gan wrando'r bobl yn canmol y côr neu yn synnu at gryfder sŵn yr organ.

Addefaf nad wyf fi'n feirniad diduedd. Y mae'r argraffiadau roddir ar enaid plentyn yn annileadwy; yr wyf fi'n gorfod teimlo hynny'n fwy o hyd. Er na fedraf ganu y mae sŵn y tonau a'r alawon Cymreig yn rhan o'm henaid; er fy ngwaethaf yr wyf yn cael fy hun yn beirniadu pob canu arall yn ol fel y bo'n debyg neu'n anhebyg iddynt. Ni welaist ti hen gapel Llanuwchllyn, ar lan dwfr tawel, a'i do heb fod yn uwch na thai y pentrefwyr o'i amgylch. Moelion oedd ei furiau, ond fod ambell ysmotyn llaith yn rhoi tipyn o amrywiaeth i'w lliw; yr oedd ei feineiau weithiau'n esmwyth, weithiau'n galed, yn ol fel y byddai y bregeth; hirgul oedd ei ffenestri ac heb addurn, ond pan ddoi'r barrug i dynnu darluniau arnynt. Ac eto, dyna'r lle prydferthaf bûm i ynddo erioed. Ynddo y dechreuais feddwl, ynddo y syrthiais mewn cariad am y tro cyntaf, ynddo y teimlais ofn colledigaeth a swyn maddeuant, ynddo y cynhyrfwyd fi gyntaf gan uchelgais ac yr iselwyd fy malchter wrth glywed nad oedd ynof haeddiant, mae pob teimlad a meddwl dyfnach na'i gilydd, dynol ac ysbrydol, yn cyfeirio'n ôl at yr hen gapel llwyd. Nid oedd yno dlysni adeiladaeth na darluniau, ond drwy ffenestr oedd ar gyfer ein sêt gallwn weled y gwynt yn gyrru'r glaw ar hyd ochrau'r mynyddoedd, ac yr oedd yno goeden griafol yn ymwyro gyda'r awel mewn dull na all yr un o'r "celfyddydau breiniol," hyd yn oed pe bai gennym ryw Fac Whirter o Gymro, ddarlunio prydferthwch ei changhennau. Y mae'r hen gapel a'r bobl oedd ynddo wedi newid llawer erbyn heddiw, ond pan ddaw meddyliau am y nefoedd i'm meddwl crwydrol i, hwyrach y gweni wrth i mi ddweud mai fel hen gapel Llanuwchllyn yn union yr ym-

ddengys i mi—y teuluoedd yn eu seti, pawb yn yr oed yr oeddynt, a'r pregethu, a'r canu gorfoleddus, a sŵn lleddf y gwynt, a'r hen goeden. griafol.

Yr wyf yn ynfydu fel hyn er mwyn dangos nad wyf yn ffit o feirniad ar ddim; y mae fy rhagfarnau mor gryf, a'r hen ddelwau mor gysegredig. 'Wn i ddim p'run ai crino ai aeddfedu yr ydwyf; p'run ai gwendid meddwl dyfodiad henaint, ynte doethineb profiad sydd yn fy meddiannu. Tybiwn unwaith mai trwy gyfrwng y celfau cain yr oedd hawsaf addoli. Ond mi wn fwy o hanes yrwan. Gwelaf mai nid yn yr un oes â chrefydd bur y mae'r celfau cain yn blodeuo. 'Does gan ddynion mo'r amynedd i ddarlunio eu teimladau mewn cerrig neu baent pan fo en heneidiau ar dân. Pan fo diwygiad wedi llosgi allan, pan fo'r ystorm wedi llonyddu, y daw'r adeiladydd a'r arlunydd at eu gwaith. Pan fo cenedl yng nghryfder ei meddwl, yng ngrym ei datblygiad, yn ymysgwyd o'i chadwynau, ni fedr ond dweud a chanu. Y prawf cryfaf i mi o nerth iach Cymru ydyw y ffaith mai mewn llenyddiaeth a cherddoriaeth yn unig y mae ei bywyd wedi ymddarlunio hyd yn hyn; ac yn y celfau hynny y mae Cymru wedi gwneud mwy na'i rhan i gyfoethogi'r byd yn yr hanner can mlynedd diwethaf, pe na bai ond am y tri wŷr hyn—Hiraethog, Ceiriog, ac Islwyn.

Fe ddaw tro Cymru i roddi arlunwyr a cherfwyr i'r byd, pan fo'r bywyd cryf sydd ynddi'n awr wedi dechrau aeddfedu a gwanhau. Nid pan fo'r haul yn nisgleirdeb canol dydd y gwelir ei brydferthwch, ond gyda'r nos, pan fo'n goreuro'r bryniau, ac yn lliwio'r cymylau yna'n unig yr edrychir arno. Daw bywyd y MethYSGRIFAU SYR OWEN M. EDWARDS odistiaid yn destun nofelau; gwelir John Elias a'i gynulleidfa ar ryw ganfas anfarwol; bydd ein tonau yn ysbrydoli rhyw Handel newydd; ond y mae yn rhy fuan eto, a diolch am hynny, nid yw ein haul wedi dechrau machlud. Mor gyfangwbl y mae tynged a dull datblygiad cenhedloedd yn llaw Duw! Ni allwn ond sylwi a rhyfeddu. Gwelwn fod cenedl yn newid ac yn ymburo dan ei law, ac eto fod y dynion sydd yn foddion pob newid yn ymgorfforiad uchaf o ysbryd y genedl ei hun,—diwygwyr ac emynwyr pan fo'n ennill ei nerth gwladweinyddion a haneswyr pan fo'n hawlio ei chydnabod, gwŷr y celfau cain pan fo'n heneiddio tua'i hydref. (—O'r Bala i Geneva.)

Owain Glyn Dŵr

NI fedr anghyfiawnder yn unig, ni fedr newyn yn unig, nerthu i ryfel neu godi chwyldroad. Ni fedr y naill ond griddfan, y mae'r llall yn ddall gan wendid. Rhaid cael breuddwyd, gobaith, drychfeddwl,—beth y galwaf y swyn hwnnw sy'n troi griddfan y gorthrymedig yn iaith huawdl ddealladwy, sy'n rhoi tân bywyd yn llygad pwl y newynog, sy'n gwneud i'r meddwl cysglyd a'r bywyd isel wneud gwrhydri, sy'n gwneud gwerin yn un?

Yr oedd y peth byw hwnnw'n barod i groesawu Owain Glyn Dŵr. Dywedai'r bardd y genid pobl eraill dan dylanwad rhyw seren gyffredin,— Mercher goch, Gwener deg, Sadwrn drwm neu Iau ysblennydd; ond yr oedd seren neilltuol wedi tywynnu ar gynlluniau Owen Glyn Dŵr. Beth bynnag am seren naturiol, yr oedd seren aml ddrychfeddwl byw yn ei arwain yn ei flaen. Un oedd gwlatgarwch, hwn, mae'n ddiamau, dynnai dorf o efrydwyr Rhydychen i ymladd drosto. Un arall oedd cred yn urddas llafur. Tra'r oedd rhai beirdd yn dal i ganu am ogoniant rhyfel ac ysblander llysoedd, canai eraill gân newydd,—cân o glód i'r amaethwr, cân oedd megis emyn i'r aradr. Breuddwydiasai Langlande, ar y bryniau. rhwng Cymru a Lloegr, mai ar ffurf llafurwr, ac yn y cae llafur, y gwelid Crist,—nid mewn eglwys lle gorweddai cerf-ddelwau'r arglwyddi gorthrymus. Ac yng Nghymru cyweiriodd Iolo ei delyn i ganu mawl y llafurwr a'r aradr,—

Nid addas mynnu dioddef,
Nid bywyd, nid bwyd, heb ef;
Ni cheir eithr ond ei weithred,
Aberth Crist, i borthi cred;
Na bywyd,—pam ei beiwn ?—
Pab nac ymherawdr heb hwn,
Na brenin haelwen hoyw—liw,
Na da 'n y byd, na dim byw."

Ac wrth groesawu seren Owain Glyn Dŵr, dymuniad gweddi y bardd uchel—fonedd hwn oedd,—

"Llaw Dduw Ne, gore un gŵr,
Llaw Fair dros bob llafurwr."

Pan gyfarfu Senedd Lloegr yn Chwefror, 1401, yr oedd trefn ryfedd ar y byd. Aflwyddiant ddilynasai'r llywodraeth yn y rhyfeloedd yn yr Alban ac yng Nghymru, a chyda" murmur mawr a thufewnol felldithio y rhoddwyd hawl i'r brenin godi treth newydd. Yr oedd Sawtre,— y gŵr cyntaf losgwyd yn fyw am heresi yn Lloegr, —newydd ddweud wrth fy arglwydd archesgob, gyda llygaid tanbaid, y byddai iaith cenedl ddieithr yn dal ei theyrnwialen cyn hir dros wlad Lloegr, a bod y drwg wrth y drws. Ac yn yr adeg honno daeth yswain Cymreig, o'r enw Owain, i erfyn ar y brenin roddi'n ôl iddo diroedd a drawsfeddianesid gan Lord de Grey o Ruthyn, tiroedd oedd yn eiddo i deulu Owain er oesoedd cyn cof. Dadleuodd John Trevor, esgob Llanelwy, drosto, gan ddweud y byddai'n well rhoddi iddo rywbeth tebyg i gyfiawnder, gan y gallai godi cynnwrf mawr yng Nghymru os âi adre'n ddig. Ond ni thyciodd dim yn erbyn Iarll Grey; a dywedodd yr Arglwyddi nad oeddynt hwy'n malio dim yn y Cymry coesnoeth lladronllyd. Dyna eiriau un hanesydd.

Pan welodd Owain na chai gyfiawnder yn erbyn Iarll Grey, penderfynodd apelio at y cleddyf. O'r dechrau y mae'n amlwg ei fod yn wladweinydd medrus. Yr oedd ei gynlluniau'n feiddgar ac yn fawrion, a medrai daflu trem eryraidd ar yr ymrafaelion a'r cynghreiriau oedd yn y gwledydd o'i gwmpas. Y mae ganddo gynllun amlwg yn 1400, cymryd y cestyll yn y Gogledd, yn enwedig Conwy a Chaernarfon, cael byddin o Albanwyr a Gwyddelod i lanio yn yr Abermaw neu Aberdyfi; ymdaith gyda llu anorchfygol drwy'r gororau, ac ymuno â phlaid Rhisiart ddiorseddedig yn Lloegr. Yr oedd pob peth fel pe'n gweithio gydag ef. Dylifai'r Cymry dan ei faner, prysurai'r llafurwyr Cymreig o Loegr yn ôl ato, ymdyrrai myfyrwyr Cymreig Rhydychen, arweinwyr y mynych gwerylon yn y brifysgol honno, i ymladd dan arweinydd mor boblogaidd. Ysgrifennai ceidwad castell Caernarfon at y brenin fod y Cymry'n ymarfogi,"gwerthant eu gwartheg i brynu ceffylau a harnais; a lladrata rhai ohonynt geffylau, a phrynant gyfrwyau a bwâu a saethau."

Ond, oherwydd yr egni digymar oedd mor nodweddiadol ohono yn nechrau ei deyrnasiad, medrodd Harri'r Pedwerydd ddod i Gymru cyn bod cynlluniau Owen yn barod,—cyn i'r Albanwyr na'r Gwyddelod ddod, cyn cymryd y cestyll, a chyn disgyblu'r Cymry i sefyll brwydr. Daeth y brenin ym mis Medi, ac aeth drwodd i ynys Môn. Trôdd y brodyr llwydion o Lan Faes,—lle gorweddai Elin, gwraig Llywelyn, ond gorfod iddo fynd adre cyn ystormydd y gaeaf heb weled cipolwg ar Owain Glyn Dŵr. Hwyrach mai'r adeg hon y collodd ei ganlynwyr eu golwg ar Owain hefyd, pan ar ffo rhag Harri, ac y gofynnodd Iolo Goch,—

Y gŵr hir, ni'th gâr Harri,
Adfyd aeth, a wyd fyw di?

Yr oedd yn amlwg fod gwrthryfel Owain wedi disgyn yng Nghymru fel gwreichionen ar ddail crin. Yr oedd y llafurwyr yn enwedig yn barod i'w ddilyn, canys trwm iawn fuasai iau arglwyddi'r gororau, a thrahaus iawn oedd bywyd castellwyr yn hen Gymru Llywelyn. Llais Cymru i gyd oedd gwahoddiad Iolo Goch,—

A gwayw o dân,
Dyred, dangos dy hunan;
Dyga ran dy garennydd,
Dwg ni o'n rhwym dygn yn rhydd.

Erbyn Gwanwyn 1401 y mae Owain Glyn Dŵr wedi dod yn ôl. Tra'r oedd Percy'n ceisio cadw ofn y cestyll ar Ogledd Cymru, trôdd Owain i'r Dê. Ym Mai clywai'r brenin fod holl Ddeheubarth yn dylifo ato, a'i fod yn ymgynghreirio â thywysogion y wlad honno i ymosod ar Loegr, ac i ddifa'r iaith Saesneg oddi ar wyneb y ddaear. Oddi yno trôdd yn ôl i Bowys, lle y ceisiodd feddiant o'r Trallwm, a Dyffryn Hafren. Cyn diwedd yr haf yr oedd yn teyrnasu fel tywysog ar Wynedd, Powys, Ceredigion, a Deheubarth; ac yr oedd Cymry'r gororau, yn enwedig Gwent a Morgannwg, yn hiraethu am ei ddyfodiad.

Yn yr Hydref daeth y brenin a byddin fawr i ganolbarth Cymru; a difrododd bopeth ar ei ffordd gan adael gweddill y cleddyf a'r tân i newyn, ac heb arbed gwraig na phlentyn. Gwnaeth fynachlog Ystrad Ffur yn ystabl i'w geffylau; ac oddi yno casglodd fil o blant y wlad, ebe'r hanes, i'w dwyn yn gaeth i Loegr. Ni feiddiai Owain sefyll brwydr, ond gwibiai o gwmpas byddin y brenin, ac ymgynddeiriogodd hwnnw nes gwneud i uchelwyr a gwerinwyr Ceredigion ddioddef creulonderau erchyll. Ond ni fedrodd y brenin wneud dim i Owain ei hun; a chydag iddo droi ei gefn, yr oedd Owain a'i fyddin yn gwarchae Castell Caernarfon. Y mae'n wir na chafodd feddiant o'r castell yn y mis Tachwedd hwnnw, ond yr oedd, erbyn hyn, yn arwr cenedlaethol, a'i faner,—draig euraid ar liw gwyn, yn faner yr edrychai pob Cymro gyda llygaid deisyfgar am dani, o Lanandras i Dyddewi, ac o Gaergybi i Gaerdydd. Yr oedd gallu brenin Lloegr yn gwanhau hefyd, yr oedd murmur yn erbyn y trethi, yr oedd anffyddlondeb yng nghalonnau'r barwniaid.

Yr oedd Dafydd ap Iefan Goch ac eraill yn gwibio rhwng Owain a thywysogion yr Iwerddon a'r Alban, ac yr oedd sôn bod Owain a rhai o'r barwniaid Seisnig mwyaf nerthol yn deall ei gilydd. Yn nechrau 1402, ymosododd Owain ar Ruthyn, a llosgodd hi. Yna dechreuodd ddarostwng gororau Powys, a phan gyfarfu fyddin yr Iarll Grey yn nyffryn y Fyrnwy, gorchfygodd ef ac aeth ag ef i garchar. . . .

Gyda 1406 darfu chwerwder y brwydro. Yr oedd pob arwyddion, pe cawsai ond llonydd yn unig, buasai Cymru'n Gymru lwyddiannus a dedwydd dan deyrnwialen Owain Glyn Dŵr, "trwy ras Duw'n Dywysog Cymru."

Ond nid oedd hynny i fod. Erbyn 1407 gwêl Owain Glyn Dŵr fod raid iddo ymladd ei hunan, ac â gelyn cryf. Gwelodd ei gynghreirwyr yn diflannu, y naill ar ôl y llall. Ychydig longau ddeuai o Ffrainc, yr oedd nerth Gogledd Lloegr yn gwanhau. Yn yr haf medrodd y tywysog Harri gyrraedd Aberystwyth, er mai buan yr ail—gymerodd Owain y castell. Ond, gyda llofruddiad Orleans, darfu pob gobaith am gymorth o Ffrainc. Yn 1408, gwnaeth Northumberland ei ymdrech anobeithiol olaf ar faes Bramham Moor. Cymerwyd esgob Bangor yn garcharor. yno, a gwelwyd pen yr hen iarll, yn brydferth oherwydd gwynder ariannaidd y gwallt, yn pydru ar ganllaw Pont Llundain. A chollodd Owain Glyn Dŵr ei gestyll olaf, Llanbedr Pont Stephan, Aberystwyth, a Harlech.

Yr oedd y werin bobl wedi blino ar ryfel. Os oedd eu cyflogau'n uchel a'u bwyd yn rhad,—a deddfau cyflog a phris yn ddi-rym,—ni ellid disgwyl i'r werin aberthu ei chysur a'i llwyddiant er mwyn adran o gredo neu brydyddiaeth gwlatgarwch. Darfu'r gwrthryfel Darfu'r gwrthryfel llafur yng Nghymru fel y darfu yn Lloegr, oherwydd fod y llafurwyr wedi ennill yr hyn oedd arnynt. eisiau. Darfu'r gwrthryfel, a chydag ef diflannodd dau freuddwyd yn eu prydferthwch,— breuddwyd y Lolardiaid am eglwys newydd, a breuddwyd Owain Glyn Dwr am Gymru newydd.

Ond ni chollodd gwerin Cymru ei pharch a'i chariad at ei harweinydd yn nydd ei chyni. Am flynyddoedd bu'n crwydro ymysg ei bobl; ac ni fradychodd ef erioed. Gellir dweud hanes Owain Glyn Dŵr ar bedwar gair, amddiffynnydd. gwerin, ymgorfforiad cenedlgarwch. Ei genedlgarwch a'i paratodd at ei waith; cariad y werin ato, a'i ffydd ynddo, a roddodd nerth iddo yn ôl pob dydd. Tynnodd ysbrydiaeth iddo ei hun o hanes Cymru, gwelodd ogoniant hanner dychmygol ei hen frenhinoedd; y mae ei lythyrau at frenin yr Alban a thywysogion Iwerddon yn llawn adlais breuddwydion efrydydd hanes. Gwelodd werin ei wlad yn ymwingo yn ei chyni, yn dioddef gorthrwm swyddog ac arglwydd; ac wedi cael cipolwg ar fywyd gwell. Rhoddodd uwch gwaith iddi na chrogi stiwardiaid a llosgi rholiau'r faenor, llyfr achau ei chaethiwed. Rhoddodd nôd i'w digofaint dall,—undeb cenedlaethol, a phrifysgol. Ac ni charwyd neb erioed fel y carwyd Owain Glyn Dŵr gan werin Cymru. Mewn hanes y mae. Llywelyn, ond y mae Owain Glyn Dŵr fel pe'n byw gyda'r genedl; ac nid rhyfedd ei fod,—fel Moses ac Arthur a Chalfin,—heb fedd a adwaenir. Canodd y beirdd hiraeth am dano, disgwyliai'r werin ef yn ôl. Tybiai y cyfarfyddai ef eto ar ei llwybr, i'w harwain i ryddid uwch, ac ni fynnai ei fod wedi marw. O Forgannwg ac o Ddyffryn Clwyd codai'r cri,—

Dyro fflam, benadur fflwch,
Draw'n Nulyn drwy anialwch.


ENAID CENEDL Uwchben Glyndyfrdwy, ar y dde wrth fynd i fyny'r afon, y mae llannerch wastad ar gornel greigiog sy'n codi fel grisiau o'r afon i'r mynydd. Yr wyf yn credu y caf fyw i weled cofgolofn i Owain Glyn Dŵr yno, yn sefyll a'i wyneb at fro ddiwyd Maelor obry, a'i gefn at adfeilion Castell Dinas Bran fry. Ei ddydd ef yw heddiw. (—Llynnoedd Llonydd.)

Enaid Cenedl

LLAWER blwyddyn sydd er pan darewais nodyn dieithr, yn lleddf ac ofnus, gan alw ar Gymru ystyried rhag iddi, wrth ennill y byd, golli ei henaid ei hun. Deffrôdd y nodyn gydymdeimlad mewn miloedd o galonnau, a chryfhawyd y rhybudd gan lawer utgorn. Daeth chwarelwyr Gogledd Cymru i'w gefnogi gydag un floedd. Yn arafach daeth amaethwyr y bryniau a'r dyffrynnoedd i'w groesawu, ac i ddeffro i'w gredu. Dechreuodd cymoedd gweithfaol Morgannwg a Mynwy ateb eu cydymdeimlad gwresog. Ac nid oedd y Cymry ar wasgar, yn enwedig Cymry dinasoedd mawrion Lloegr, ar ôl.

Y mae llawer symudiad newydd er hynny. Bron na allwn ddweud fod cenhedlaeth arall yn syllu ar dlysni rhyfedd y criafol eleni (1918). "A bugeiliaid newydd sydd ar yr hen fynyddoedd hyn. Y mae chwildroad wedi bod ym myd addysg. Y mae galluoedd cudd wedi eu deffro gan y cynnwrf sy'n gwneud i sylfeini cymdeithas siglo, gwane rheolwyr am wledydd newydd a llwybrau masnach, a dyhead gwerin am ryddid a chydraddoldeb a chyfoeth. Pwy fuasai'n meddwl ugain mlynedd yn ôl, y buasai cyfoethogion Cymru yn rhoi symiau o arian at addysg y werin, wrth y deng mil, yr ugain mil, a'r can mil o bunnau? Pob llwyddiant i'r genedl ymgyfoethogi mewn golud byd a meddwl, ac arweinied Duw ei hymdrechion arwrol a hunan-aberthol i fuddugoliaeth. Ie, enilled yr holl fyd.

Ond y mae i Gymru enaid, ei henaid ei hun. A gall golli hwnnw. Gall addysg flodeuo, gall crefydd gryfhau, gall rhyddid ennill y dydd, gall y tlawd godi o'r llwch ac ymgryfhau, gall goludog fod yn gadarn ac yn frigog fel y lawryf gwyrdd, tra enaid y genedl yn llesgáu a gwywo. Gall y genedl ymgolli yn yr ymerodraeth, a bod yn rhan farw yn lle bod yn rhan fyw, fel na chlywir ei llais mwy. A phe digwyddai'r trychineb hwnnw, byddai Cymru heb enaid a'r byd yn dlotach. Pan ddaw ymdrech newydd dros ryddid a chrefydd, nid Cymru godai'r faner; byddai ei llais hi yn fud.

Y mae i Gymru ei hiaith ei hun, ac ni fedr gadw ei henaid hebddi. Nid hyn a hyn o eiriau, mwy neu lai nag mewn ieithoedd eraill, ydyw. Y mae ynddi brydyddiaeth bywyd a gobaith mil o flynyddoedd wedi ei drysori. Pan ddaw'r geiriadurwr anwyd i sefyll uwch ei phen, bydd, nid yn ieithegwr yn unig, ond yn hanesydd a bardd hefyd. Y mae yn enaid hanner effro Cymru ddefnydd llenyddiaeth odidog; nid yw Ceiriog a Daniel Owen ond megis wedi codi cwr y llen, ac ni rydd Islwyn ond rhyw gipolwg niwlog ar y bywyd heulog llawn sy'n disgwyl ffurf a llais. Ar lenyddiaeth ddieithr,-a honno'n iaith ddieithr a masw a gwan, y gwrendy toreth ein pobl ieuanc y dydd hwn. Os nad yw llenyddiaeth enaid Cymru i gydio yn ein plant, gwell iddynt fod yn anllythrennog, fel na chollant y chwaeth a'r dyhead a gadwodd y Mabinogion trwy genedlaethau di-ddysg a di-lyfr. Fy nghenedi, beth yw sefyllfa'r Gymraeg yn dy ysgolion?

Y mae i enaid Cymru ysbryd cerddoriaeth gyfrin, sydd eto heb gael llais, er y clywir sibrwd ei edyn mewn ambell hen alaw neu yn hwyl ambell gymanfa. Cofiaf am adeg na ddysgid alaw Gymreig yn yr un ysgol yng Nghymru. Pryd hynny, gwynfyd y cerddor fuasai newid enaid Cymro am enaid Sais, a iaith y Cymro am iaith yr Eidalwr, ac yntau heb adnabod y naill na medru'r llall. Sais ddaeth ag alawon Cymreig i ysgolion Gogledd Cymru; Saeson sy'n galw heddiw am i'n cerddorion dynnu eu hysbrydol iaeth o'r bywyd cyfoethog Cymreig, yn 1 edmygu'r dieithr na fedrant ond ei ddynwared Ni anwyd cenedl ag enaid mor llawn o gerddo. iaeth ag enaid cenedl y Cymry. Ewch i ysgolior. y genedl, i wrando lleisiau'r plant ar fore. Pa mor aml y clywch emyn neu alaw Gymreig yno?

Y mae enaid Cymru'n ddwys grefyddol, a'i lygaid ar y tragwyddol. Oherwydd hynny, oni ddylai y weledigaeth fod yn glir? Oni ddylai'r gwyddonwr Cymreig fod yn ddarganfyddwr? Ond wedi colli ei enaid, cyll meddwl y Cymro ei nerth. Boed i Gymru bob llwyddiant. Daw cydraddoldeb a rhyddid, Prifysgol ac Ysbyty, a sylweddolir llawer breuddwyd. Ond na chollwn ein golwg ar enaid y genedl rhag iddo, ynghanol adeiladau gwych a phwyllgorau brwdfrydig, ddiflannu o'r golwg. Mager ef yn yr ysgolion, a cholegau amrywiol y Brifysgol. Ond ei grud yw'r aelwyd. Yn yr amaethdy mynyddig, yn y bwthyn ar fin y nant, yng nghartref y glowr,—yno y caiff ysbryd Cymru ei eni. Ac oni fegir hwn, cenedl ail raddol yn dynwared peth islaw ei bywyd, fydd cenedl y Cymry. Os ceidw ei henaid, daw yn un o arweinyddion y byd. Mewn gwladgarwch llednais a ffydd ddiysgog na fydded ein nod ddim

yn is. (—Er Mwyn Cymru.)

LLYFRAU SYR OWEN EDWARDS
I BLANT.

YSTRAEON O HANES CYMRU: Lliain, 1s. 4d.

"Better versions of some old tales and legends it would be hard to find. It is tale—telling in its simplest form; clear and light of touch."—Manchester Guardian.

LLYFR OWEN Un ar hugain o straeon Rwmania, yr Indiaid Coch, môr—forynion, etc. Gyda darluniau. Lliain, 1s. 9d.

"Yn Llyfr Owen ceir straeon swynol wedi eu cywain o feysydd llenyddiaeth y gwledydd, ac yn eu mysg rai o'n llenyddiaeth ninnau." —Y Dinesydd Cymreig.

LLYFR HAF Hanes anifeiliaid, adar, etc., yn null swynol yr awdur. Gyda darluniau. Lliain, 1s. 9d.

"Cymeradwywn Llyfr Owen a Llyfr Haf i rieni ac athrawon sydd am ddiddori plant a'u gwneud yn hoff o'u mamiaith a'u gwlad eu hun." —Y Cyfarwyddwr.

LLYFR DEL Casgliad o 38 o storiau wrth fodd calon plant. Gyda 32 o ddarluniau. Lliain, 1s. 9d.

" Llyfr wedi ei ysgrifennu gan lenor sy'n medru gwisgo pob ystori â symledd ac â swyn. —Y Traethodydd.

LLYFR NEST Chwech a deugain o straeon byrion a blasus. Gyda darluniau. Lliain, 1s. 9d.

"Cymar i Llyfr Del yw Llyfr Nest, wedi ei gyfaddasu i enethod, ac od yw'n bosibl, mae'n rhagori ar hyd yn oed lyfr y bechgyn. Gwyn fyd na fuasai ein Hysgolion Sul yn gofalu am lyfrau tebyg i hwn yn wobrwyon."'—Weekly Mail.

"CARTREFI CYMRU" YN SAESNEG.

HOMES OF WALES: Wedi ei gyfieithu gán y Parch. T. Eurfyl Jones. Lliain, 28. 6d.

HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR, WRECSAM.


LLYFRAU'R FORD GRON



Trysorau'r iaith Gymraeg am Chwe Cheiniog,

1. PENILLION TELYN. Curiadau calon y werin.
2. WILLIAMS PANTYCELYN. Temtiad Theomemphus.
3. GORONWY OWEN. Detholiad o'i Farddoniaeth.
4. EMRYS AP IWAN. Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys, I.
5. EMRYS AP IWAN. Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys, II.
6. DAFYDD AP GWILYM. Detholiad o'i Gywyddau.
7. SAMUEL ROBERTS. Heddwch a Rhyfel (ysgrifau).
8. THOMAS EDWARDS (Twm o'r Nant). Tri Chryfion Byd.
9. Y FICER PRICHARD. Cannwyll y Cymry.
10. Y MABINOGION. Stori Branwen ferch Llyr, a Lludd a Llefelys.
11. MORGAN LLWYD. Llythyr i'r Cymry Cariadus, etc.
12. Y CYWYDDWYR. Detholiad o farddoniaeth Iolo Goch, Lewis Glyn Cothi, Tudur Aled, Siôn Cent, Dafydd Nanmor, a Dafydd ab Edmwnd, etc.
13. ELIS WYNNE. Gweledigaeth Cwrs y Byd (Y Bardd Cwsg).
14. EBEN FARDD. Detholiad o'i Farddoniaeth.
15. THEOPHILUS EVANS. Drych y Prif Oesoedd (Detholiad).
16. JOHN JONES, GLAN Y GORS. Seren tan Gwmwl.
17.SYR JOHN MORRIS-JONES. Salm i Famon a Marwnad mewn Mynwent (Gray).
18. GWILYM HIRAETHOG. Troedigaeth Hen Wr yr Hafod.
19. SYR OWEN EDWARDS. Ysgrifau.
20. ISLWYN. Detholiad o'i Farddoniaeth.

Yr holl gyfres yn awr ar werth.

HUGHES A'T FAB, CYHOEDDWYR, WRECSAM

Nodiadau[golygu]

  1. Undodiaid

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.