Neidio i'r cynnwys

Teulu Bach Nantoer/Pennod XI

Oddi ar Wicidestun
Pennod X Teulu Bach Nantoer

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod XII

PENNOD XI

BELLACH, nid oedd ar ôl yn y bwthyn bach ar fin y rhos ond Mair a'i mam. Felly y digwydd yn hanes pob teulu ar y ddaear. Megir twr o blant ar yr un aelwyd; chwarae— ant gyda'i gilydd; cânt yr un pethau i'w diddori, yr un rhieni i wylio'n dyner drostynt; ac ymhen amser ânt—y naill yma, a'r llall draw, fel adar dros y nyth—bob un i chwilio am ei le ei hun yn y byd. Mynych, wedi'r gwahaniad cyntaf, nid oes obaith gweld y teulu'n gyfan ar yr hen aelwyd drachefn.

O ddydd i ddydd, o wythnos i wythnos, o fis i fis, aeth deng mlynedd heibio. Yn ystod yr amser hwnnw, daeth aml gyfnewidiad dros y byd a thros deulu bychan Nantoer. Nid plant ar y plwyf mohonynt bellach. Enillent i gyd eu bywoliaeth mewn ffordd anrhydeddus. Erbyn hyn yr oedd yr addysg dda a gawsent gan eu mam yn dwyn ffrwyth. Esgyn yn uwch bob dydd a wnai'r tri ar risiau llwyddiant.

Trwy gymorth ei feistr caredig, a'i ymdrechion diflin ei hun, yr oedd Ieuan yn prysur ddod i'r amlwg. Deuai sôn am dano'n fynych gyda'r awel i fro dawel ei febyd. Nid yn unig ar gyfrif ei waith fel cyfreithiwr, ond cymerai ddiddordeb mawr mewn pob pwnc o bwys, yn enwedig pob pwnc ynglŷn â'i wlad. Clywid ef yn fynych yn siarad yn gyhoeddus, a phroffwydai pobl ddyfodol gwych iddo.

Er hoffed oedd Ieuan yng ngolwg ei fam, nid llai hoff ganddi Alun. Yn ei le ei hun, dringo o hyd wnai yntau hefyd. Aethai trwy un arholiad ar ôl y llall yn llwyddiannus, ac yr oedd ei nod, bellach, yn y golwg, sef bod yn gapten. Hyfryd iawn oedd yr olwg arno yn ei ddillad morwrol, a lliw'r haul ar ei wyneb, a glesni'r môr yn ei lygaid.

Nid yn aml y cai Alun ddod adref; ai deunaw mis heibio, weithiau heb ei weld. Bob tro y deuai, gwnai Ieuan ei ffordd yn rhydd i ddod hefyd.

Yr oedd Mair yn awr yn ferch ieuanc brydferth ugain oed. Wedi gorffen ei hysgol yn Rhydifor, cawsai aros yno fel athrawes. Yr oedd felly yn abl i gael addysg ei hun, ennill ei bywoliaeth, a hefyd fod gartref yn gwmni i'w mam. O dan ei gofal hi, daeth Nantoer yn lle mwy swynol a thlws nag erioed. Yr oedd pob man o'i fewn ac o'i gylch mor lân, a'r ardd fel yn gartref rhosynnau. Pan ddeuai'r bechgyn adref ar eu tro—Alun o'r môr ac Ieuan o'r ddinas fawr—nid rhan fechan o'u mwynhad oedd cael cwmni eu chwaer, a'u gwylio mor hardd a lluniaidd yn symud o gylch y tŷ, ac yn gweini mor siriol arnynt hwy ac ar eu mam. Ac i Mair, nefoedd ei bywyd oedd yr ymweliadau hyn, oherwydd ni flinai ei brodyr ddod â phob math o bethau hardd iddi i'w gwisgo, a pha ferch nad yw'n hoff o bethau felly? Ai'r tri'n fynych gyda'i gilydd fraich ym mraich dros y rhos, hyd yr hen lwybrau, a mawr oedd eu hyfrydwch.

Ond pan ddeuent at y fan y bwrlymai'r afon fach dros y llethr i lawr i'r cae, distawent yn sydyn, a chofient am y llif flynyddoedd maith yn ôl, ac am Eiry, eu chwaer fechan, hoff, a'r llygaid glas, byw, a'r gwallt modrwyog, melyn, a gollasid mewn ffordd mor ryfedd, ac na welwyd mwy.

Un nos Wener, tua diwedd mis Hydref, cerddai Mair yn hamddenol trwy'r lôn fach ar ei ffordd adref o'r ysgol, pan welai ei mam yn dod i'w chyfarfod gan ddal llythyr yn ei llaw. Rhedodd Mair ati.

"Yr oeddwn yn dy ddisgwyl, Mair," ebe'r fam. "Dyma lythyr oddi wrth Alun o Sunderland. Bydd yma ddydd Mawrth nesaf."

Cymerth Mair y llythyr a darllenodd ef yn awchus, ac nid oedd geiriau a fedrai ddisgrifio ei llawenydd. Neidiai a rhedai o gwmpas ei mam fel y gwnai pan oedd yn blentyn.

"Hwre! Alun yn dod eto o'r môr! Beth fydd ganddo i mi, ys gwn i? Rhaid anfon at Ieuan yfory. O, mam, mor hapus wyf!" meddai, gan gydio yn dynn ym mraich ei mam a phwyso ei hwyneb arni. Yr oedd ei mam mor hapus â hithau, er na ddangosai hynny mewn dull mor gyffrous.

Drannoeth, pan oedd Mair yn brysur yn gwyngalchu muriau'r bwthyn bach, daeth y postmon drachefn i Nantoer.

"Mrs. Owen" yr oedd y llythyr o rywle yn Lerpwl, ac oddi wrth rywun nas adwaenai hi. Yn Saesneg yr ysgrifenasid ef, a byr oedd ei gynnwys. Darllenodd a chyfieithodd Mair ef i'w mam.

'If this letter reaches the hand of Mrs. Owen, who, with her four children, once lived at Nantoer, Rhydifor, would she kindly communicate with me? I have something of importance to disclose to her.

LLEWELYN MORGAN."

7,—— St.,
Liverpool.

"O, mam," ebe Mair, "'rwy'n siwr fod rhywun wedi marw a gadael arian i chwi. A oes rhywun cyfoethog yn perthyn i chwi yn rhywle?"

Nac oes, yn wir, Mair fach," ebe'r fam. "Nid rhywbeth felly sydd yn y llythyr, mi wn. Gad iddo nes daw Ieuan, i gael gweld beth a ddywed ef."

Methu â dyfalu wnai'r ddwy pwy a'i danfonasai, ac i ba beth, a beth allai y "something of importance" fod, ac ebe Mair—

"Gadewch i mi ei ateb heddiw, mam. Daw'r llythyr a'r peth pwysig wedyn tra fo'r bechgyn yma.'

Cytunodd y fam, ac atebwyd y llythyr y diwrnod hwnnw.

Nodiadau

[golygu]