Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Lloyd, Parch. William, D.D

Oddi ar Wicidestun
Lloyd, Edward, A.C. Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Lloyd, Parch. Simon, B.A

LLOYD, Parch. WILLIAM, D.D., ydoedd fab i'r Parch. Edward Llwyd. Yr oedd yn beriglor Llangower, rhwng 1645 a 1685. Addysgwyd ef yn Ngholeg St. Ioan, Caergrawnt, ac ar ol ei urddo cafodd amryw ddyrchafiadau eglwysig, a'i benodi yn gaplan i Siarl II. Yn Ebrill, 1676, cysegrwyd ef yn esgob Llandaf; a dyrchafwyd ef oddiyno i Peterborough yn Mawrth, 1679; ac oddiyno i Norwich yn Mehefin, 1685. Bwriwyd ef allan o'r esgobaeth hon yn 1691, am wrthod cymeryd llw o ffyddlondeb i William a Mary, ac ymneillduodd i Hammersmith, ger Llundain, lle y bu yn trigianu am ugain mlynedd. Bu farw yn 1710, ac yn ol ei ddymuniad claddwyd ef yn nghlochdy eglwys y lle hwnw.


Nodiadau

[golygu]