Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

DOCTOR: Nage'n wir. Dysgu bod yn nyrs roedd hi yn Llunden, ac fe yrrais am dani i ddod i nyrsio Jared, ac mi wyddwn mai'r unig beth fasa'n dod a hi yma fasa clywed fod yr hen Jared mor wael. Mae hi'n leicio Jared erioed.

IFAN: Wel diain i, mi fydd gen i ofn mynd i weld Jared os ydi hi'n tendio arno.

HOPCYN: Wel, a deyd y gwir, mi fydda inna'ns wil hefyd i gyfarfod â hi. Ond diolch i'r trugaredd mi gaiff Jared well siawns i wella os gwellith o.

DOCTOR: Dyda chi ddim yn dal dig at Nel Davis, gobeithio?

HOPCYN: Na, ryda ni i gyd yn fwy cymedrol erbyn hyn yn ein syniad am dani, ond y pwnc ydi, beth ydi'i syniad hi am Ifan a finna, achos mi ŵyr mae ni'n dau oedd y ring-ledars yn i herbyn hi dros flwyddyn yn ol.

DOCTOR: Peidiwch a chyboli'n wirion, mi fydd yr eneth yn "all-right " â chi ar ol rhyw funud, a gobeithio y rhoith hi grafiad ne ddau i chi'ch dau. Ond rwan, does neb ond fi a'r sgweiar yn gwybod i bod hi wedi dod i nyrsio Jared, a pheidiwch ar un cyfri a deyd wrth Mr. Harris nes y daw o i wybod i hun. Harri, meindia di ar dy fywyd na ddeydi di ddim wrtho pan ddaw'n ol o'i dê.

HARRI: Dim perig i mi ddeyd, syr.

DOCTOR: Rwan mi awn i'r tŷ ein tri.